Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Meurig Fychan ap Hywel Selau, c.1400–60, ac Angharad ferch Dafydd, fl. c.1450au, o Nannau

Cerddi Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi i Feurig Fychan ap Hywel a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Canodd gywydd mawl (cerdd 49) a chywydd marwnad (cerdd 50) i’r pâr; bu eu mab, Dafydd ap Meurig Fychan, yntau’n noddi Guto. Ceir trafodaeth lawn am y teulu gan Jones (1953–6: 5–15) a Vaughan (1961–4: 119–21, 204–8).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres teulu Nannau

Teulu Nannau
Roedd teulu plas Nannau ym mhlwyf Llanfachreth yn ddisgynyddion i Fleddyn ap Cynfyn, brenin Powys o 1063 i 1075. Bu farw Cadwgan, mab Bleddyn, yn 1111, ac mae’n debyg mai ef oedd y cyntaf o’r teulu i ymgartrefu yng Nghefn Llanfair, sef yr enw cynharaf ar y stad (Thomas 1965–8: 98). Ef, yn ôl Robert Vaughan, a adeiladodd y tŷ cyntaf yno, a disgrifiodd yr adeilad fel ‘the stateliest structure in all North Wales’ (Vaughan 1961–4: 119). Ychydig a wyddom am y teulu hyd at amser Ynyr Hen ap Meurig, gorwyr i Gadwgan ap Bleddyn a drigai yn Nannau yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd ganddo dri mab, sef Ynyr Fychan, Anian a Meurig Hen. Yr hynaf, Ynyr Fychan, yw cyndad y llinach a drafodir yma. Ymhellach, gw. Hughes 1968–9: 157–66; Williams 2001: 611.

Hywel ap Meurig Fychan a’i frawd, Meurig Llwyd
Roedd Meurig Fychan ab Ynyr Fychan yn ŵr pwysig yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir corffddelw ohono, a ddyddir c.1345, yn eglwys y Santes Fair yn Nolgellau (Siddons 2001: 631; Gresham 1968: 190–2). Hywel ap Meurig Fychan oedd ei fab hynaf, gŵr a ddaliodd fân swyddi lleol yn 1391/2 ac eto yn 1395/6. Awgrymwyd mai cartref Hywel oedd Cae Gwrgenau ger Nannau, ond dadleuodd Richards (1961–2: 400–1) y gall mai Cefn-yr-ywen Uchaf a Chefn-yr-ywen Isaf oedd cartrefi Hywel a’i frawd, Meurig, deiliad Nannau. Fel ei gyndeidiau, bu Meurig yn rhaglaw cwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 a rhannai’r cyfrifoldeb am havotry Tal-y-bont gyda’i frawd, Hywel. Yn 1399/1400 enwir Meurig fel wdwart cwmwd Tal-y-bont, ac roedd yn rhannol gyfrifol am havotry Meirionnydd (Parry 1958: 188–9). Bu’r ddau frawd yn noddwyr hael i’r beirdd. Canodd eu hewythr, Llywelyn Goch ap Meurig Hen, gerdd o foliant iddynt (GLlG cerdd 8) a chanodd Gruffudd Llwyd gywyddau mawl a marwnad i Feurig Llwyd (GGLl cerddi 14 a 15; Johnston 1990: 60–70).

Etifeddodd Meurig Llwyd blasty Nannau, ac ef, fe ymddengys, oedd yn byw yno ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd Meurig a’i wraig, Mallt, nifer o blant, ond y ddau fab enwocaf oedd Hywel Selau a Gruffudd Derwas, noddwyr beirdd megis Lewys Glyn Cothi. Gwraig Hywel Selau oedd Mali ferch Einion, modryb i Ruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif troes Hywel Selau ei gefn ar achos ei gefnder, Owain Glyndŵr, gan ochri â Harri IV. O ganlyniad, llosgwyd plas Nannau i’r llawr ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Yn ôl traddodiad, bu Hywel Selau yntau farw ar dir Nannau yn 1402 dan law lluoedd Owain, a rhoddwyd ei gorff mewn ceubren gerllaw. Gelwid y pren o hynny ymlaen yn Geubren yr Ellyll (Parry 1965–8: 189). Er na ellir rhoi coel ar y chwedl honno, y tebyg yw bod Hywel Selau wedi marw oddeutu 1402.

Meurig Fychan ap Hywel Selau
Ymddengys fod Meurig Fychan yn ddwy oed pan fu farw ei dad, Hywel Selau, c.1402. Ac yntau’n rhy ifanc i etifeddu Nannau, fe’i magwyd gan ei ewythr, Gruffudd Derwas. Erbyn dauddegau’r bymthegfed ganrif ymddengys fod Meurig yn ddigon hen i etifeddu Nannau. Mewn stent yn 1420 rhestrir Meurig a’i ewythr, Gruffudd Derwas, fel perchnogion tiroedd yn ardal Nannau (Owen and Smith 2001: 113), a chofnodir eu henwau fel deiliaid melin Llanfachreth yn 1444/5 (Parry 1965–8: 190). Gwerthodd Gruffudd Derwas ddau dyddyn i Feurig yn 1451, ond nodir mai tenantiaid rhydd oedd y ddau o hyd. Yn 1452/3 enwir Meurig a Gruffudd Derwas fel ffermwyr melin Llanfachreth.

Ceir tystiolaeth fod Meurig yn weithgar ym maes y gyfraith. Nodir ei enw fel tyst ar sawl achlysur yn llysoedd Caernarfon a Dolgellau (Ellis 1838: 89). Yn 1452/3 fe’i henwir gyda’i gefnder, Hywel ap Gruffudd Derwas, fel tyst mewn achos yn Nolgellau, ac mewn achos llys yng Nghaernarfon yn 1453/4 enwir Meurig fel gŵr y lladratwyd ei eiddo. Cofnodir enwau nifer o ladron anifeiliaid a oedd wedi dwyn o Nannau, tystiolaeth werthfawr i’r lladrata mynych a ddigwyddai yn y bymthegfed ganrif. Nid yw fawr o syndod fod Guto’n darlunio Meurig fel gŵr a oedd â’i fryd ar gadw trefn.

Nid yw dyddiad marw Meurig yn hysbys yn sgil bwlch yng nghasgliad llawysgrifau Nannau rhwng 1460 a 1480. Ceir y cyfeiriad olaf ato yn 1460. Nodir yn RWM II: 847 iddo farw yn y flwyddyn 1482, ond deil Pryce (2001: 286) mai’n bur fuan wedi 1461 y bu farw. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto iddo, fe’i claddwyd yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau (50.44).

Angharad ferch Dafydd
Roedd Angharad, gwraig Meurig Fychan, yn ferch i Ddafydd ap Cadwgan o Linwent yn Llanbister, sir Faesyfed. Roedd yn ddisgynnydd i Elystan Glodrydd (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 30) ac mewn llinach a fu’n noddi beirdd er y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd Angharad yn chwaer i Ddafydd Fychan (un o noddwyr Huw Cae Llwyd, HCLl XXIII) ac felly’n fodryb i Faredudd ap Dafydd Fychan (un o noddwyr Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 181). Roedd hi hefyd yn fodryb i Elen Gethin, gwraig Tomas Fychan o Hergest, mab Syr Rhosier Fychan a Gwladus Gam. Ail ŵr Gwladys Gam oedd Syr Wiliam ap Thomas o Raglan. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto i Feurig ac Angharad, bu farw Angharad tua’r un pryd â’i gŵr, o bosibl yn sgil yr un afiechyd, ac fe’i claddwyd gydag ef yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau.

Llyfryddiaeth
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales (Cardiff)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Johnston, D. (1990), ‘Cywydd Marwnad Gruffudd Llwyd i Hywel ap Meurig o Nannau’, YB XVI: 60–70
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Parry, B.R. (1965–8), ‘Hugh Nanney Hên (c.1546–1623), Squire of Nannau’, Cylchg CHSFeir 5: 185–207
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1961–2), ‘Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Chae Gwrgenau’, Cylchg LlGC xii: 400–1
Siddons, M.P. (2001), ‘Heraldry’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 629–48
Thomas, C. (1965–8), ‘The Township of Nannau, 1100–1600 A.D.’, Cylchg CHSFeir 5: 97–103
Vaughan, M. (1961–4), ‘Nannau’, Cylchg CHSFeir 4: 119–21, 204–8
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628