Chwilio uwch
 

Rhestr Noddwyr a Beirdd

Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin o Fuellt, fl. c.1424–38

Canodd Guto’r Glyn ddau gywydd i Syr Rhisiart Gethin (cerddi 1 a 2), a chanwyd un arall gan Ieuan ap Hywel Swrdwal (GHS cerdd 24). Ar sail y rhain gwyddom fod Syr Rhisiart yn gysylltiedig â Buellt (1.8, 2.20, GHS 24.16). Gwyddom hefyd mai Rhys Gethin oedd enw ei dad (1.18 a GHS 24.10) ac mai enw ei daid, sef tad Rhys Gethin, oedd Owain (GHS 24.10). Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal yn disgrifio Rhys Gethin fel gŵr a dorrai siad Sais (GHS 24.32). Gan fod y bardd eisoes wedi awgrymu y carai Rhisiart Gethin achub ei wlad ef ei hun, sef Cymru, rhag gormes, mae hyn yn edrych fel awgrym fod Rhys Gethin wedi ymladd o blaid Owain Glyndŵr, ac yn wir fe geir tystiolaeth sy’n ategu hynny (Fychan 2007: 11–17).

Achres
Ceir ach Syr Rhisiart Gethin yn WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9. Mae’n cytuno â’r cerddi o ran enw’r tad a’r taid. Dangosir y rheini a enwir gan Guto mewn print trwm a thanlinellir enw’r noddwr.

stema
Achres Syr Rhisiart Gethin ap Rhys Gethin

Gyrfa Syr Rhisiart Gethin
Yn ôl nodyn yn Pen 121, yn Ffrainc yr urddwyd Rhisiart Gethin yn farchog (gw. WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 9). Mae’r beirdd hwythau’n cyfeirio ato fel marchog (1.11, 1.40, GHS 24.2, 24.68). Rhaid ei fod wedi ei urddo erbyn 1433/4 oherwydd mae dogfen sy’n dwyn y dyddiad hwnnw yn ei alw’n Richardus Ghethyne, chevalier, de Wallia (Stevenson 1864: 543).

Mae’r cyfan sy’n hysbys am ei yrfa yn ymwneud â’i wasanaeth yng ngogledd Ffrainc. Dyma amlinelliad o’i yrfa, gan nodi mewn cromfachau y ffynhonnell wreiddiol neu’r ffynhonnell eilaidd a ddefnyddiwyd:

1424 (17 Awst) Ymladdodd ym mrwydr Verneuil (rhestr o enwau’r sawl a ymladdodd yno, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 394).
1424 (19 Hydref) Capten Exmes (mwstwr, SoldierLME (www.medievalsoldier.org))
1429 (Mai–Mehefin) Roedd gyda Mathau Goch yn dal Beaugency yn erbyn Jeanne o Arc; fe’u gorfodwyd i ildio’r dref (cronicl Jehan de Waurin, Hardy 1879: 282).
1429 (Gorffennaf/Awst) Arweiniodd gwmni o 160 o wŷr ym myddin John, dug Bedford, i amddiffyn cyffiniau Paris rhag Jeanne o Arc (Curry 1994: 61, ar sail dogfen yn y Bibliothèque nationale).
1432 (oddeutu Mai) Yn gapten Mantes, rhoddodd 1,100 o livres tournois yn fenthyg i John, dug Bedford, ar gyfer costau gwarchae Lagny (Williams 1964: 214, ond nid yw hi’n enwi ei ffynhonnell).
1432 (21 Medi) Capten Mantes (Marshall 1975: 259).
1433–4 Nodir ei enw fel capten a beili Mantes, gan restru’r niferoedd dan ei reolaeth, a’i alw’n chevalier, sef marchog (dogfen yn rhestru’r capteiniaid yn Ffrainc rhwng Gŵyl Fihangel 1433 a Gŵyl Fihangel 1434, Stevenson 1864: 543).
1434 (29 Mawrth) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME).
1434 (16 Ebrill) Capten ar fyddin yn y maes (mwstwr, SoldierLME).
1434 (29 Mehefin) Roedd canran o arsiwn Mantes i ffwrdd yn y Gâtinais ac yng ngwarchae Montfort (mwstwr, SoldierLME). Nid yw’n eglur a oedd Rhisiart Gethin gyda hwy.
1435 Nodir ei enw fel un o gapteiniaid dug Bedford, heb nodi ei fod yn gapten ar unrhyw dref (rhestr o enwau capteiniaid John dug Bedford, mewn trawsysgrifiad o’r 16g., Stevenson 1864: 436). Mae’n bosibl ei fod yn gapten ar Conches am gyfnod: noda Marshall (1975: 240) fod dogfen yn cyfeirio ato fel capten y dref, rywdro cyn tua mis Medi 1435. Ond roedd Henry Standish yn gapten yno ar 6 Gorffennaf (Marshall 1975: 240), Richard Burghill tua mis Medi (Marshall 1975: 241) a Standish eto ar 6 Hydref (SoldierLME).
1435 (1 Tachwedd) Nodir ei fod yn farchog, yn feili ac yn gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 535).
1436 (30 Mawrth) Capten Mantes (Marshall 1975: 259).
1437 (26 Chwefror) Capten Mantes (Marshall 1975: 259).
1437 (22 Mai) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME).
1437 (12 Tachwedd) Capten Mantes (mwstwr, SoldierLME).
1438 (31 Mawrth) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME).
1438 (22 Ebrill) Nodir ei fod yn farchog, yn gyn-feili ac yn gyn-gapten Mantes (derbynneb am gyflogau’i filwyr, Siddons 1980–1: 536).
1438 (5 Mai) Nodir ei fod yn feili Evreux ac yn gapten Conches (derbynneb a gyfeiriwyd at rysyfwr cyffredinol Normandi, Siddons 1980–1: 536).
1438 (7 Tachwedd) Capten Conches (mwstwr, SoldierLME).
1438 (20 Rhagfyr) Comisiynydd dros Edmund Beaufort yn Maine ac Anjou (enwir ef mewn cytundeb rhwng Beaufort a John II, dug Alençon, a Charles o Anjou, Joubert 1889: 269–76).

Blynyddoedd olaf Syr Rhisiart Gethin a dyddiadau’r cerddi
Ymddengys fod Syr Rhisiart Gethin wedi gadael Mantes rywdro rhwng 12 Tachwedd 1437, sef dyddiad ei fwstwr olaf yno, a 28 Chwefror 1438, pan oedd Sir Thomas Hoo yn gapten (SoldierLME). Mae’r rheswm yn amlwg: fe’i gwnaed yn gapten Conches ac yn feili Evreux. Fe’i hapwyntiwyd yn gapten Conches erbyn 31 Mawrth, ond yn fuan wedyn mae’n diflannu: dyddiad ei fwstwr olaf yn Conches yw 7 Tachwedd 1438. Mwstrodd Richard Burghill y garsiwn yn Conches ar 21 Tachwedd (SoldierLME), felly nid oedd Rhisiart Gethin bellach yn gapten ar y dref honno. Erbyn hynny mae’n debygol ei fod yn gwasanaethu yn Maine ac Anjou, fel y tystia llythyr Edmund Beaufort, dyddiedig 20 Rhagfyr 1438. Nid oes sôn amdano wedi hynny.

Mae diflaniad Syr Rhisiart Gethin o’r cofnodion ar ôl diwedd 1438 yn awgrymu’n gryf iawn ei fod wedi marw tua’r adeg honno. Os felly, ni all fod cerddi Guto’r Glyn yn perthyn i gyfnod ei wasanaeth dan Richard, dug Iorc, yn 1441, gwasanaeth y ceir tystiolaeth ddogfennol drosto, nac i unrhyw gyfnod wedi hynny. Mae’n ymddangos bod rhaid derbyn, felly, fod Guto wedi gwasanaethu yn Ffrainc cyn 1441. Yr achlysur amlwg fyddai ymweliad cyntaf dug Iorc, sef yn 1436.

Mae Guto’n dweud yn eglur fod Rhisiart yn rheoli Mantes (1.6 beili Mawnt, 1.10, 21, 32, 48, 56, 2.10 nêr Mawnd, 2.54). Nid cyfeirio at y gorffennol y mae: anogir Rhisiart i gadw’r dref rhag y Ffrancwyr. Nid yw Guto’n crybwyll Conches. Mae Ieuan ap Hywel Swrdwal, ar y llaw arall, yn fwy annelwig: mae’n sôn am fynd i chwilio am Risiart yn Rouen, Mantes a Conches (GHS 24.9–14). Prifddinas Normandi oedd Rouen, ac felly byddai’n ddigon naturiol sôn amdani yn y cyd-destun, ond mae’r lleill yn lleoedd arbennig: rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng Syr Rhisiart â’r ddau le hyn.

Roedd perthynas Rhisiart Gethin â Mantes wedi dechrau yn 1432, fe ymddengys, a pharhaodd tan ddiwedd 1437 neu ddechrau 1438. Gan hynny, rhaid bod y ddau gywydd o eiddo Guto’r Glyn wedi eu canu yn ystod y blynyddoedd 1436–8. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yntau’n sôn am wasanaeth milwrol Guto yn Ffrainc, rhaid bod ei gywydd yntau’n perthyn i’r un cyfnod. Ond mae’r cyfeiriad at Conches yn awgrymu y dylid ei briodoli i’r flwyddyn 1438, oherwydd nid oes cysylltiad hysbys rhwng Syr Rhisiart a’r dref honno cyn hynny. Mae’r posibilrwydd ei fod wedi bod yn gapten ar y dref am ysbaid fer yn 1435 yn tywyllu pethau, oherwydd os gwir hynny, gallai Ieuan fod wedi crybwyll Conches fel lle ac iddo gysylltiad â Syr Rhisiart unrhyw bryd yn y cyfnod 1436–8.

Yn ymarferol, rhaid gwrthod 1436: dyna’r amser pan oedd Guto ei hun yn Ffrainc. Cyrhaeddodd lluoedd dug Iorc Normandi ym mis Mehefin. Os gwasanaethodd Guto am chwe mis, fel roedd yn gyffredin, byddai wedi gadael ddiwedd 1436 neu tua dechrau 1437. Y tebyg yw iddo ganu cerdd 1 yn ôl yng Nghymru yn y flwyddyn honno neu yn 1438. Gan fod Ieuan ap Hywel Swrdwal yn cyfeirio at gywydd Guto ar gyfer Syr Rhisiart, ac yn wir yn adleisio darnau o gerdd 1 gan Guto, rhaid bod ei gywydd yntau’n dyddio i 1437x1438, i 1438 yn ôl pob tebyg ar sail y cyfeiriad at Conches.

Mae dyddiad cerdd 2 yn ansicr. Mae’n sôn am fraw a gafodd y bardd wrth glywed yn anghywir fod Syr Rhisiart wedi ei ddal gan y gelyn. Nid oes modd dyddio’r digwyddiad hwn yn sicr, ond mae’n werth awgrymu un posibilrwydd. Fel y nodwyd, gwnaed mwstwr garsiwn Mantes ar 12 Tachwedd 1437, a Syr Rhisiart Gethin yn gapten ar y pryd. Ar 30 Tachwedd ceir cofnod o fwstwr arall (SoldierLME). Y tro hwn, milwyr a anfonwyd i Mantes dan Sir Lewis Despoy a fwstrwyd. Gelwir hwy yn ‘expeditionary army/garrison reinforcements’. Ni chlywn ddim am Syr Rhisiart mewn perthynas â Mantes ar ôl 12 Tachwedd: y cyfeiriad nesaf ato yw fel capten Conches ar 31 Mawrth 1438. Rhaid bod rhywbeth wedi digwydd yn Mantes neu gerllaw i orfodi’r Saeson i anfon byddin yno ym mis Tachwedd 1437. Awgrymaf fod rhyw wrthdaro rhwng y garsiwn a’r Ffrancwyr wedi digwydd, ac mai dyna’r achlysur pan aeth Syr Rhisiart Gethin ar goll am ysbaid, gan godi’r sïon gwag y cwyna Guto mor hallt amdanynt.

Canodd Lewys Glyn Cothi i nai Syr Rhisiart Gethin, sef Lewis ap Meredudd o Lanwrin, Cyfeiliog (GLGC cerdd 197). Yn y gerdd honno mae’n atgoffa Lewis o gampau ei ewythr ar y Cyfandir (ibid. 197.28, 35–8, 51–2).

Llyfryddiaeth
Curry, A. (1994), ‘English Armies in the Fifteenth Century’, A. Curry and M. Hughes (eds.), Arms, Armies and Fortifications in the Hundred Years War (Woodbridge), 39–68
Fychan, C. (2007), Pwy Oedd Rhys Gethin? Yr Ymchwil am Gadfridog Owain Glyndŵr (Aberystwyth)
Hardy, W. (1879) (ed.), Recueil des croniques et anciennes istoires de la Grant Bretaigne, a present nomme Engleterre par Jehan de Waurin (London)
Joubert, A. (1889), ‘Documents inédits pour servir à l’histoire de la guerre de Cent-Ans dans le Maine de 1424 à 1444, d’après les Archives du British Muséum et du Lambeth Palace de Londres’, Revue historique et archéologique de Maine, 26: 243–336
Marshall, A.E. (1975), ‘The Role of English War Captains in England and Normandy, 1436–1461’, (M.A. Wales [Swansea])
Siddons, M. (1980–2), ‘Welsh Seals in Paris’, B xxix: 531–44
Stevenson, J. (1864) (ed.), Letters and Papers Illustrative of the Wars of the English in France During the Reign of Henry the Sixth, King of England, ii.2 (London)
Williams, E.C. (1963), My Lord of Bedford, 1389–1435: being a life of John of Lancaster, first Duke of Bedford, brother of Henry V and Regent of France (London)