Gwrthrych cerdd 31 yw gŵr o’r enw Siancyn Hafart. Ychydig iawn o wybodaeth a geir amdano yn y gerdd ac eithrio ei enw a’r ffaith fod ganddo gysylltiad â thref Aberhonddu. Nid yw Guto’n sôn dim am ei ach nac yn rhoi unrhyw awgrym o ddyddiad y canu, ond a barnu yn ôl llinell 46 nid oedd Siancyn yn ŵr ifanc iawn ar y pryd, ac mae’n amlwg ei fod wedi bod yn noddwr i feirdd ers rhai blynyddoedd.
Yr Hafartiaid
Daethai teulu Hafart i Frycheiniog gyda’r goncwest Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg, ond erbyn cyfnod Guto’r Glyn roeddent wedi ymgymreigio i’r fath raddau fel y gallai ef alw Siancyn Hafart yn hoyw Frytwn (2). Ni ellir lleoli gwrthrych y gerdd hon yn achau teulu Hafart fel y’u cyflwynir gan Bartrum (WG2 ‘Havard’ 1–9), a hynny am y rhesymau syml nad yw Guto yn enwi ei dad a bod nifer fawr o wŷr â’r enw Siôn neu Siancyn Hafart yn yr achau. Mewn gwirionedd ymddengys fod yr enwau Siôn a Siancyn yn ymgyfnewid â’i gilydd.
Noddwyr o’r enw Siancyn (Hafart)
Mae rhyw Siancyn Hafart o Frycheiniog yn wrthrych cywydd yn Pen 57, 63–5, llawysgrif sydd yn cynnwys copïau cynnar o waith Guto’r Glyn. Mae’r testun yn anghyflawn, ond ceir priodoliad posibl yno i fardd o’r enw Ieuan ap Gruffudd Goch. Ychwanegwyd y gerdd at y llawysgrif gan law C rywbryd ar ôl cyfnod gwaith y prif gopïwyr, A a B, a oedd yn gweithio c.1440. Nid enwir tad y Siancyn Hafart hwn. Mae’r cywydd nesaf yn Pen 57 hefyd yn canmol rhyw Siancyn ap Tomas ap Dafydd a gysylltir ag Aberhonddu, ac unwaith eto llaw C a’i copïodd yno. Mae’n anghyflawn, a’r tro hwn ni cheir priodoliad. Credir yn gyffredinol mai’r un gŵr yw gwrthrych y ddau gywydd hyn, tybiaeth ddigon rhesymol, ond ni ellir ei phrofi.
Os yr un gŵr yw gwrthrych y ddau gywydd, yna mae angen i ni ddod o hyd i ryw Siancyn Hafart a oedd yn fab i ŵr o’r enw Tomas. Ymgeisydd da yw Siancyn Hafart ap Tomas Hafart, bwrdais yn Aberhonddu, y disgrifir ei yrfa gan Ralph Griffiths (1972: 248–9). Byddai dyddiadau’r gŵr hwn (fl. 1399–1426) yn sicr yn cyd-fynd â dyddiadau cyffredinol y canu yn Pen 57, sy’n perthyn i ddegawdau cynnar y bymthegfed ganrif. Canwyd yr ail gywydd i ŵr a oedd newydd etifeddu statws ei dad, felly y tebyg yw, os cywir yw ei uniaethu â’r Siancyn Hafart y mae Griffiths yn sôn amdano, nad yw’r cywydd yn perthyn i gyfnod llawer yn ddiweddarach na diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Fodd bynnag, ni cheir unrhyw Siancyn ap Tomas ap Dafydd yn achau’r teulu, nac o ran hynny unrhyw Ddafydd o gyfnod addas. Mae’r cyfnod hefyd braidd yn gynnar ar gyfer Guto’r Glyn, nad oes cerddi hysbys ganddo cyn c.1436. Mae Griffiths yn uniaethu’r gŵr a flodeuai 1399–1426 â’r John ap Tomas Hafart ap Wiliam Hafart a geir yn fersiwn Lewis Dwnn o achau’r teulu (L. Dwnn: HV i: 102). Ond yn ôl amcangyfrif Bartrum byddai hwnnw wedi perthyn i’r drydedd genhedlaeth ar ddeg (WG2 ‘Havard’ 1, 8, 9), ac felly byddai’n gyfoeswr i Wiliam Herbert II, er enghraifft, nad oedd eto’n oedolyn pan laddwyd ei dad yn 1469 ac a fu farw yn y 1490au. Nid y John ap Tomas Hafart hwn oedd y gŵr a oedd yn ei flodau 1399–1426, er y gallai’n ddamcaniaethol fod wedi noddi cerdd Guto’r Glyn. Eto i gyd, gan fod achau Dwnn yn ei gysylltu ag Emlyn yn sir Gaerfyrddin, mae hyn yn annhebygol iawn. Yn GGl2 353 uniaethir gwrthrych y cywyddau yn Pen 57 â rhyw Siancyn ap Tomas ap Gwilym, ond fel y gwelwyd, Siancyn ap Tomas ap Dafydd oedd gwrthrych yr ail un o leiaf.
Erys hefyd y posibilrwydd nad yr un gŵr a ganmolir yn y ddau gywydd a geir yn Pen 57. Roedd bwrdais amlwg iawn o’r enw Tomas ap Dafydd yn Aberhonddu adeg gwrthryfel Owain Glyndŵr (Davies 1995: 18, 224). Ai ei fab ef yw gwrthrych yr ail gerdd yn Pen 57? Nid aelod o deulu Hafart mohono hyd y gwyddys. At ei gilydd nid yw’r cerddi yn Pen 57 yn torri’r ddadl ynglŷn â chywydd Guto’r Glyn.
Ceir cerddi gan Huw Cae Llwyd a Lewys Glyn Cothi i aelodau o deulu Hafart. Ni wyddys pwy yw’r Siancyn Hafart sy’n wrthrych HCLl cerdd XVIII, ond efallai fod y bardd yn ei alw’n ŵyr Ddafydd (33); os felly, dichon mai’r un ydyw â gwrthrych y cywydd(au) yn Pen 57. Siôn Hafart ap Wiliam ap Siôn a’i wraig Annes a gyferchir yn HCLl cerdd XX: perthynai ef i genhedlaeth 13 yn ôl WG2 ‘Havard’ 2 (‘John Dew’). Ef hefyd yw gwrthrych GLGC cerdd 138. Yn HCLl cerdd XVII comisiynwyd Huw i siarad yn llais un o’r Hafartiaid, yn cyfarch Wiliam Hafart (ap Tomas) o Aberbrân (Wiliam yw gwrthrych GDEp cerdd 7 hefyd). Enwir Siancyn yng nghywydd Huw (13), ond enw tad y noddwr dienw ydyw, nid enw’r noddwr ei hun (gthg. HCLl 17). Geilw Huw ei noddwr yn ewythr i Wiliam ac yn frawd tad Tomas Hafart, hynny yw, hen ewythr i Wiliam ydoedd, sef un o’r brodyr a nodir yn WG2 ‘Havard’ 1 dan genhedlaeth 11, meibion Siancyn Hafart ap Maredudd.
Yn sicr, cyfyd achau cynnar teulu Hafart nifer o gwestiynau nad oes modd eu hateb ar hyn o bryd. Y cwbl y gellir ei ddweud yw bod gwrthrych cywydd Guto’n perthyn i deulu amlwg iawn yn y dref, teulu a noddai’r beirdd yn helaeth, a’i fod yn dwyn enw a oedd yn nodweddiadol o’r teulu. Ni ellir ei ddyddio, ond awgrymir ei fod yn fyw c.1430–50.
Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Oxford)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)