Chwilio uwch
 

Llywelyn ab y Moel, fl. c.1395/1400–m. 1440

Canodd Guto gywydd marwnad i Lywelyn ab y Moel (cerdd 82), neu Lywelyn ab y Moel o’r Pantri, a rhoi iddo ei enw llawn. Mae’n bosibl mai ef oedd athro barddol Guto. Nid oes ar gadw o’i waith ond deg o gerddi y gellir yn hyderus eu cyfrif yn rhai dilys, sef naw cywydd a chyfres o dri englyn. Yr unig noddwr y gellir ei gysylltu’n agos ag ef yw Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Roedd ei fab, Owain ap Llywelyn, yntau’n fardd (gw. GOLlM).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bod Hen’ 1, 2, ‘Moel y Pantri’; GSCyf 75–6; Bartrum 1963–4: 108. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yn y farwnad a ganodd Guto i Lywelyn.

stema
Achres Llywelyn ab y Moel

Mewn un llawysgrif yn unig, sef Wy 143–4, 876–8, y ceir yr wybodaeth am daid Llywelyn ar ochr ei dad (nid enwir Moel y Pantri fel mab i Faredudd Benwyn yn achresi Bartrum). At hynny, yn y llawysgrif honno enwir mab arall i Lywelyn o’r enw Guto Moel, ond mae’n ddigon posibl mai ei frawd oedd hwnnw. Ar deulu ei fab, Owain ap Llywelyn, y diogelwyd cyfran o’i waith fel bardd, gw. WG2 ‘Moel y Pantri’ A.

Ei yrfa
Roedd Llywelyn yn fardd, herwr a charwr hynod ei yrfa. Y tebyg yw iddo gael ei fagu yn ardal Llanwnnog yn Arwystli, ac roedd ganddo gysylltiadau cryf hefyd, ar ochr ei fam, â phlwyf Meifod yng nghwmwd Mechain. Bu’n ymladd ar ochr Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel ac mae amryw o’i gerddi yn adlewyrchu mewn ffordd gyffrous a chofiadwy ei flynyddoedd fel herwr. Roedd ganddo hefyd gariad enwog o’r enw Euron. Wedi methiant y gwrthryfel, newidiodd ei liw gwleidyddol, fel llawer Cymro arall, a cheir ef yn canu i Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, gŵr na fuasai’n bleidiol i Owain. Bu farw ym mis Chwefror 1440 a’i gladdu ym mynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell. Ar ei fywyd a’i waith, gw. GSCyf.

Llyfryddiaeth
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146