Gellir cysylltu pum cerdd â Syr Bened: awdl fawl gan Guto (cerdd 43); cywydd digrif lle edrydd Guto ei hanes yn porthmona defaid Syr Bened i farchnadoedd yn Lloegr (cerdd 44); cywydd gan Dudur Penllyn sy’n ymateb i’r cywydd porthmona uchod, lle dychenir Guto (cerdd 44a); cywydd gan Guto sy’n ymateb i’r cywydd uchod, lle dychenir Tudur Penllyn (cerdd 45); cywydd marwnad gan Guto (cerdd 47). At hynny, cyfeirir ato gan Guto mewn cywydd mawl i Syr Siôn Mechain, person Llandrunio (84.7n).
Achres
Er na cheir sicrwydd llwyr ynghylch ach Syr Bened, y tebyg yw, ar sail achresi Bartrum, ei fod yn fab i ŵr o’r enw Hywel ap Gruffudd o Lygadog yn Edeirnion. Dywed Guto fel hyn am ei hynafiaid (43.37–40):
Y gŵr o Ronwy, geirwir ynad,
Ac o ryw Cadell, gorau ceidwad,
Ac ŵyr i Lywarch, gwir oleuad,
Ac Ithel Felyn a’i hŷn a’i had.
Fel y gwelir isod, gellir olrhain y Syr Bened y ceir ei enw yn yr achresi yn ôl i’r pedwar gŵr a enwir gan Guto. Seiliwyd yr achres ar WG1 ‘12’, ‘13’, ‘14’, ‘41’, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3; WG2 ‘Einudd’ 9A, ‘Llywelyn Eurdorchog’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Syr Bened mewn print trwm.
Achres Syr Bened ap Hywel, person Corwen
Fodd bynnag, Benedict ap Grono a enwir fel person Corwen yn 1439 (gw. isod). Tybed a oedd enw tad Syr Benet yn anhysbys i’r sawl a gofnododd yr wybodaeth ond ei fod yn gyfarwydd ag awdl Guto iddo, lle’i gelwir yn Hydd o garennydd Gronwy ac yn ŵr o Ronwy (43.36–7), ac i’r cofnodwr hwnnw gymryd mai dyna oedd enw tad y person? At hynny, rhaid cydnabod ei bod braidd yn annisgwyl fod Guto’n rhoi sylw yn ei gerdd i hynafiaid Syr Bened ar ochr ei fam yn unig, ac yntau’n disgyn o linach ddigon urddasol ar ochr ei dad hefyd.
Daethpwyd o hyd i un gŵr arall o’r enw Bened yn yr achresi, sef Bened ab Ieuan ap Deio o Langar yn Edeirnion (WG1 ‘Idnerth Benfras’ 8). Fel y gŵr uchod, drwy ei fam disgynnai Bened ab Ieuan o ŵr o’r enw Gronwy a gellir olrhain ei ach i Lywarch Hen ac i Gadell Ddyrnllug. Ond mae’n bur annhebygol mai Syr Bened ydyw gan nad enwir ef felly yn yr ach a chan na ellir ei gysylltu ag Ithel Felyn.
Ei yrfa
A dilyn dull Bartrum o rifo cenedlaethau, ganed Syr Bened c.1430. Yn Thomas (1908–13, ii: 144), dan y flwyddyn 1439, ceir yr enw Benedict ap Grono fel Sinecure Rector yng Nghorwen. Yn ôl Thomas (ibid. 148) a CPR (358), bu farw rywbryd yn 1464 a phenodwyd caplan o’r enw Roger Cheshire i’w olynu fel person yr Eglwys ar 1 Ionawr 1465. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r wybodaeth honno’n cyd-fynd â’r hyn a geir yn yr achresi. Ond gan mor brin yr enw, mae’n annhebygol fod gŵr arall o’r enw Bened yn berson Corwen yn ystod y bymthegfed ganrif, ac mae’r dyddiadau c.1439–65 yn cyd-daro’n agos iawn â’r hyn a ddisgwylid yn achos Syr Bened.
Ceir rhai cyfeiriadau eraill at ŵr neu wŷr o’r enw Bened a allai gyfeirio at Syr Bened:
Diau fod Syr Bened yn ŵr da ei fyd. Fel nifer o ddeoniaid gwledig ei gyfnod, derbyniai incwm am fagu defaid a’u gwerthu yn ogystal â chyflog person. Gellir ei gymharu â Syr Siôn Mechain, person Llandrunio, a oedd hefyd yn ŵr eglwysig ac wedi ennill ei gyfoeth trwy fagu defaid. Nid bychan oedd cyflog person eglwysig yn y cyfnod hwn ychwaith, ac ymddengys fod deoniaid gwledig fel Syr Bened yn llawer hapusach eu byd yn ariannol na chlerigwyr plwyfol (Smith 2001: 289). Ceir cryn dystiolaeth i brofi mai’r eglwys yng Nghorwen oedd yr eglwys gyfoethocaf yn Edeirnion ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r gorffddelw o’r esgob Iorwerth Sulien (c.1340–50) yno i’w gweld o hyd (Smith 2001: 225; cf. eglwys Tywyn, ibid. 264–4, 289). Yng nghanol y bymthegfed ganrif byddai’r eglwys yng Nghorwen yn parhau i fod ar ben ei digon a dichon fod cryn statws i’w pherson. At hynny, deil yr achresi (gw. uchod) fod Syr Bened yn ficer Llanfair yn ogystal â pherson Corwen, er nad yw’n eglur pa Lanfair a olygir.
Llyfryddiaeth
Capes, W.W. (1914) (ed.), The Register of John Trefnant, Bishop of Hereford (A.D. 1389–1404) (Hereford)
Smith, J.B and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Thomas, D.R. (1908–13), The History of the Diocese of St Asaph (Oswestry)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)