Chwilio uwch
 

Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth, fl. c.1472–80

Un gerdd fawl yn unig (cerdd 62) a gadwyd gan Guto i Ddafydd ap Gwilym, ond cadwyd cerddi iddo gan rai beirdd eraill. Canodd Tudur Penllyn gywydd mawl i Ddafydd lle gofynnir cymod gan ei fam, Elen (GTP cerdd 23), a chanodd Lewys Glyn Cothi awdl farwnad iddo (GLGC cerdd 228). Canodd Lewys gywydd i ofyn huling gwely i Elen (ibid. cerdd 227) a cheir cywydd mawl gan Ddafydd ab Edmwnd i Elen a’i hail ŵr, Cynwrig ap Dafydd (DE cerdd XLV; ar Gynwrig, gw. Huw Lewys). At hynny, ceir cywyddau marwnad i daid Dafydd, Dafydd ab Ieuan, gan Ddafydd ab Edmwnd a Hywel Cilan (DE cerdd XLI; GHC cerdd XX).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Carwed’ 2, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, ‘Hwfa’ 8, ‘Iarddur’ 5; WG2 ‘Carwed’ 2B, ‘Hwfa’ 8C1. Dangosir mewn print trwm wŷr a enwir gan Guto yn ei gywydd i Ddafydd, a thanlinellir enwau noddwyr Guto.

stema
Achres Dafydd ap Gwilym o Lwydiarth

Gwelir bod Dafydd yn nai i Huw Lewys o Brysaeddfed ac yn perthyn o bell i Meurig Fychan ap Hywel Selau o Nannau, dau o noddwyr Guto.

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn byw ym mhlasty Llwydiarth yng nghwmwd Twrcelyn yng ngogledd-ddwyrain Môn. Perthynai Llwydiarth i blastai Bodsilin, Bodedern, Prysaeddfed a’r Chwaen yng nghwmwd Llifon yng ngorllewin Môn, gan fod mam Dafydd, Elen, yn ferch i Lywelyn ap Hwlcyn (GGl 323). Buasai hynafiaid Dafydd, o amser ei gyndaid Iorwerth Fychan ab Iorwerth yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn rhaglawiaid a rhingylliaid yn Llwydiarth. Bu Dafydd yn rhingyll yn 1472–3 yn ogystal â ffermio Penrhosllugwy a Nantmawr a thiroedd siêd yn Amlwch y buasai ei daid yn eu ffermio gynt (Carr 1982: 216–17). Bu hefyd yn cyflawni gwasanaeth milwrol (cerdd 62 (esboniadol) a 19n). Ei wraig oedd Efa ferch Rhys o Blasiolyn yn Ysbyty Ifan a Lowri ferch Hywel, a bu iddynt amryw o feibion a merched (GTP 121; Wiliam 1991: 7). Gall mai tua 1480 y bu farw (ibid. 7).

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1982), Medieval Anglesey (Llangefni)
Wiliam, D.W. (1991), Y Canu Mawl i Deulu Llwydiarth (Llangefni)