Chwilio uwch
 

Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd, fl. c.1450au–m. 1465–9

Noddwr cerdd 37 oedd Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd. Canwyd iddo gan amryw o feirdd, gan gynnwys Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 201, 202) a Gwilym ab Ieuan Hen (GDID cerddi IX, X, XVIII; gw. hefyd Daniel 1997).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45, ‘Meilir Gryg’ 6. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ddafydd mewn print trwm.

stema
Achres Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd

Ei yrfa
Roedd Dafydd yn ŵr o fri yng nghantref Cedewain yng nghanol y bymthegfed ganrif ac yn noddwr pwysig a hael i’r beirdd. Gwyddys iddo fod ar un adeg yn gasglwr trethi yn y Drenewydd i Richard, dug Iorc, ac roedd ei deulu yn gefnogwyr selog i blaid Iorc. Bu farw rhwng 1465 a 1469. Arno, gw. Williams 1894; ByCy 93–4; Jones 1955–6; Rowlands 1958–9.

Bu ei fab, Rhys, yn llywodraethwr castell Trefaldwyn ac yn ysgwïer a stiward i Edward IV yng Nghedewain, Ceri, Cyfeiliog ac Arwystli (ByCy 93). Bu farw Rhys ym mrwydr Banbri yn 1469, a chyfeirir at ei farwolaeth annhymig mewn nifer o gerddi (cf. GLGC cerdd 203; GDLl cerdd 55).

Llyfryddiaeth
Daniel, R.I. (1997), ‘Cywydd Moliant a Brud i Ddafydd Llwyd ap Dafydd ab Einion o’r Drenewydd’, Dwned, 3: 53–61
Jones, E.D. (1955–6), ‘Some Fifteenth Century Welsh Poetry relating to Montgomeryshire’, Mont Coll 54: 48–64
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Moliant Dafydd Llwyd o’r Drefnewydd a’i Ddisgynyddion’, LlCy 5: 174–84
Williams, R. (1894), Montgomeryshire Worthies (second ed., Newtown)