Chwilio uwch
 

Syr Gruffudd ab Einion o Henllan, fl. c.1478–92

Canodd Guto gywydd (cerdd 61) ar ran Syr Gruffudd i ofyn i Risiart Cyffin, deon Bangor, am deils i doi ei dŷ newydd yng nghyffiniau Henllan ar fryn nid nepell i’r gogledd-orllewin o Ddinbych (nid yw’n eglur ymhle’r oedd ei lys). Ni ddiogelwyd unrhyw gerddi eraill i Syr Gruffudd.

Achres
Mae Guto’n trafod ei ach fel a ganlyn, ym mhersona Rhisiart (61.11–16):

Mastr Risiart mis a drwsiai
Main ym, a mi yw ei nai.
Syr Gruffudd, ym Nudd, mewn iach,
Fab Einion wyf heb anach,
O Ronwy Fychan, ran rym,
A Deuddwr, unwaed oeddym.

Mae’n eglur, felly, fod Syr Gruffudd a Rhisiart yn perthyn i’w gilydd. Nid oedd Syr Gruffudd o reidrwydd yn nai yn yr ystyr lythrennol i Risiart, eithr yn syml yn berthynas iau iddo. Dim ond un Syr Gruffudd ab Einion a ganfuwyd yn achresi Bartrum (sef y gŵr a enwir yn GGl 357), gŵr a fu’n berson Llanefydd ychydig filltiroedd i’r gogledd-orllewin o Henllan (Pen 128, 260 a 276 S’ Gr’ persson llann vfudd; Pen 134, 245 s’ gruff’ ap Engio’ pso’ llan vfvdd). Am y cyswllt posibl rhyngddo a deon Bangor, gw. Rhisiart Cyffin. Seiliwyd y goeden achau isod ar WG1 ‘Hedd’ 1, ‘Marchudd’ 4, 11, 12, ‘Marchweithian’ 1, 4, 5; WG2 ‘Marchweithian’ 4E, 5A. Dangosir y rheini a enwir yn y cywydd mewn print trwm a nodir ansicrwydd gyda phrint italig. Ar ochr chwith yr achres dangosir cyswllt teuluol Syr Gruffudd â Thudur ap Rhobert, gŵr y canodd Siôn Tudur gywydd ar ei ran i ofyn teils gan ddeon Bangor yn yr unfed ganrif ar bymtheg (GST 81.71–2).

stema
Achres Syr Gruffudd ab Einion o Henllan

Ceir rhai anawsterau. Yn gyntaf, nid yw’n eglur pwy yw’r Gronwy Fychan a enwir yn y cywydd. Bu Llywarch ap Heilyn Gloff yn briod ddwywaith ac nid oes sicrwydd mai mab i Forfudd ap Tudur oedd Cynwrig ap Llywarch. Ond a chymryd mai Morfudd oedd ei fam, gwelir bod Syr Gruffudd yn perthyn i deulu enwog Penmynydd ym Môn, a gall mai Goronwy ab Ednyfed Fychan a olygir yn y cywydd. Ni cheir lle i gredu y gelwid y gŵr hwnnw’n Oronwy Fychan (GBF cerddi 21 a 45; GGMD, i 11), ond ceid mwy nac un Goronwy arall yn y llinach honno, yn cynnwys gŵr enwog o’r enw Goronwy Fychan ap Tudur Fychan a oedd yn noddwr pwysig (ibid. 11–12, 15–16 a cherddi 4–7; GLlG cerdd 5). Gall, felly, fod Guto wedi cawlio rhywfaint o ran ei wybodaeth o’r ach yn sgil enwogrwydd Goronwy Fychan neu bod Syr Gruffudd yn perthyn i’r Goronwy Fychan hwnnw drwy ryw gyswllt teuluol arall nas cofnodwyd.

Yn ail, yn ôl yr wybodaeth sydd wedi goroesi, nid ymddengys fod gan Syr Gruffudd gyswllt teuluol â chwmwd Deuddwr ym Mhowys. Fodd bynnag, ni cheir yn achresi Bartrum enw ei fam, ei nain, ei hennain na’i orhennain ar ochr ei dad nac fel arall. At hynny, yn ôl yr ach uchod roedd Syr Gruffudd, ei dad, ei daid a’i orhendaid oll yn unig blant, sy’n hynod o annhebygol ac yn awgrym cryf fod cryn dipyn o’r ach wedi ei golli. Mae’n debygol iawn y gellid cysylltu Syr Gruffudd â Deuddwr (ac â rhyw Oronwy Fychan, o bosibl) pe bai’r wybodaeth achyddol honno wedi goroesi.

Dyddiadau
Ni cheir unrhyw wybodaeth ynghylch Syr Gruffudd a allai fod o fudd i bennu ei ddyddiadau, ond dengys y ffaith i Guto ganu cywydd gofyn ar ei ran i Risiart Cyffin ei fod yn fyw pan oedd hwnnw’n ddeon Bangor, sef rhwng c.1478 ac 1492.