Chwilio uwch
 

Maredudd ab Ifan Fychan o Gedewain, fl. c.1450

Maredudd ab Ifan Fychan yw gwrthrych cerdd 39, lle gofyn Guto iddo am farch ar ran Rheinallt ap Rhys Gruffudd, a oedd yn perthyn iddo. Ni wyddys fawr mwy amdano nag a ddywedir yn y cywydd ac ni ddaethpwyd o hyd i’w ach. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.

Gwybodaeth amdano
Roedd Maredudd yn byw ym mro Hafren (2) ac yng Nghedewain dir (15), yn ddyn duwiolfrydig, hael, dysgedig, cyfeillgar ac yn amaethwr cydwybodol (11–20). Roedd ganddo gyndad – taid, efallai – o’r enw Owain Rwth (4). Cysyllta Guto ef hefyd â Hwfa ap Cynddelw, (Bleddyn ap) [C]ynfyn, Elise ap Gwylog, Alo ap Rhiwallon Fychan ac Elystan Glodrydd (6–8 a gw. y nodiadau), ond nid yw tystiolaeth yr achau yn ddigonol i ddiffinio’i berthynas â’r un o’r rhain yn fanwl.

Yn ôl WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 45, priododd gŵr o’r enw Maredudd ab Ieuan Fychan o Faelienydd ag Elen ferch Dafydd ab Einion ap Hywel o’r Drenewydd a anwyd tua 1400. Ni ddywedir mwy na hyn amdano ond, fel y dywedwyd, lleola Guto ei noddwr yn nhueddau afon Hafren yng Nghedewain, a diddorol yw nodi bod lle o’r enw Plas Meredydd yno rhwng pentref Garthmyl a’r Drenewydd nid nepell o lannau gogleddol afon Hafren (SO 185 977; cf. hefyd 57n). Felly roedd y Maredudd a roes ei nawdd i Guto’n byw yn yr un ardal â thad yng nghyfraith Maredudd ab Ieuan Fychan o Faelienydd, a phe bai gŵr Elen wedi symud o Faelienydd i Gedewain i fyw gyda hi (yn hytrach na’i bod hi wedi symud o Gedewain i Faelienydd i fyw gydag ef), nid yw’n annichon mai hwn oedd noddwr Guto.

Cyflwynodd Lewys Glyn Cothi gerdd i Lewis, mab Maredudd ab Ieuan Fychan o Lanwrin (GLGC cerdd 197; WG1 ‘Seisyll’ 1), ond mae’n bur annhebygol mai’r un gŵr ydoedd â noddwr Guto.