Chwilio uwch
 

Siôn Abral o’r Gilwch, fl. c.1409–m. 1443

Noddodd Siôn Abral gywydd i ofyn llurig a briodolwyd i fardd o’r enw y gutto o bywys (cerdd 120). Am drafodaeth ar y priodoliad, gw. nodiadau esboniadol y gerdd. At Siôn, fe ymddengys, y cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi fel Abrel mewn cywydd mawl i Ieuan ap Phylib o Gefn-llys ger Llandrindod (GLGC 170.25).

Achres
Er na cheir ach Siôn yn y llawysgrifau Cymraeg, ceir tri chyfeiriad ato yn yr achresi ar gyfrif aelodau eraill o’i deulu. Yn ôl WG1 ‘Godwin’ 8, priododd ferch ddienw i un o noddwyr Guto, Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, ac fe’i cysylltir â Tretire ychydig i’r de o’r Gilwch, lle ceir gerllaw fferm o’r enw Aberhall heddiw. Cysylltir ef â’r Gilwch mewn ffynhonnell arall sy’n enwi ei ferch, Marged, mewn perthynas â’i gŵr, Gwilym ap Tomas o Langatwg yn nyffryn Wysg (ibid. ‘Bleddyn ap Maenyrch’ 19; WG2 ‘Bleddyn ap Maenyrch’ 19C). Cyfeirir at ferch arall iddo yn WG1 ‘Wynston’ 1, y tro hwn yn ddienw, a briododd Gilbert ap John Wynston o Dre-wyn yn sir Fynwy. Priododd ei merch hithau, Marged arall, ŵr o’r enw Tomas Cecil o Allt-yr-ynys ger y Fenni.

Amheua Taylor (1997: 97) fod Siôn yn ŵr o dras Cymreig, tybiaeth a ategir gan gywydd Guto Powys. Nid yw’r dystiolaeth sydd gennym yn caniatáu i ni gadarnhau ei berthynas â Guto Powys fel y’i darlunnir yn y gerdd, lle dywed y bardd ei fod yn nai i’w noddwr (ymhellach, gw. 120.22n (esboniadol)).

Ei yrfa
Uchelwr oedd Siôn o swydd Henffordd. Gelwir ef yn John Abrahall neu John Aburhale yn Saesneg. Trigai yn y Gilwch (Gillow) ym mhlwyf Henllan (Hentland), swydd Henffordd (Taylor 1997: 98–9). Bu farw yn 1443. Mae’r ffaith fod Guto Powys yn cyfeirio at y Gilwch yn dangos nad ŵyr y Siôn Abral hwn, a ddygai’r un enw, yw gwrthrych ei gerdd, oherwydd aeth y tŷ i gangen arall o’r teulu ar ôl marwolaeth Siôn Abral yn 1443 (ibid. 104–5).

Ceir cyfeiriadau niferus at Siôn mewn cofnodion cyfoes. Crynhoir yr wybodaeth isod (oni nodir yn wahanol, mae pob cyfeiriad mewn cromfachau yn dynodi rhif tudalen yn Herbert 1978; ceir ymdriniaethau hefyd yn Herbert 1981 a Taylor 1997).

1409 Cyhuddwyd Siôn o ymosod ar William Ham o Holme Lacy. Ei gynghreiriaid oedd Philpot Skidmore a’i ddau fab, George a John, a hefyd rhyw Thomas Skidmore (CAP 310).
1413 (Hydref) Cynorthwyodd Siôn Talbod, Arglwydd Furnival yn ei gweryl gyda Thomas, iarll Arundel, yn swydd Amwythig (48, 54).
1413 ymlaen Roedd yn feoffee i Richard, Arglwydd Gray, o Wilton (48).
1414 (Ebrill) Honnir iddo lofruddio John Ploudon yn Lydbury, swydd Amwythig (45, 54).
1417 Fe’i penodwyd yn siedwr swydd Henffordd (45).
1418 (Chwefror) Fe’i gwaharddwyd, ynghyd â John Dewall ac eraill, rhag ymgynnull yn anghyfreithlon nac ychwaith boeni eraill gyda’i syniadau hereticaidd, a gysylltir gyda Lolardiaeth yn swydd Henffordd (Rees 1975: 476). Fe’i cysylltir yn y ffynhonnell gyda Llanddewi (Dewchurch).
1418 (?Mawrth) Achos cyfreithiol gan Syr Thomas Barre yn erbyn Siôn ac eraill (yn cynnwys Dafydd ap Rhys) ynghylch nifer o droseddau nas henwir (ibid.).
1418 (Tachwedd) Ymddengys y llofruddiwyd Wiliam ap Hywel gan Siôn, ei dad a dyn arall (54).
1419 Fe’i hetholwyd yn aelod seneddol dros ddinas Henffordd (45).
1419 (yn hwyr) Cyhuddwyd Thomas Barre o gyflawni troseddau yn erbyn Siôn, gan gynnwys dwyn gwair oddi wrth Siôn ap Huw yn Dewsall ym mis Gorffennaf 1418 a herwgipio ward i Siôn ym mis Mawrth 1418 (55).
1419 (Rhagfyr) Gorchymyn yn Chancery i adfer maenor Strangford i Ddafydd ap Rhys, a oedd ym meddiant Siôn (55).
1420 (Ionawr) Achos cyfreithiol gan Siôn yn erbyn Thomas Barre. Tua’r un adeg cwynodd Barre yn Chancery fod Siôn wedi ysbeilio ei ystad yn Dewsall ac wedi dwyn gwerth ugain punt o gnydau a mynd â’r nwyddau i Ergyng (55).
Cyhuddwyd Dafydd ap Rhys o geisio llofruddio Siôn ac o dderbyn eiddo a ddygwyd ganddo yn 1418 (55).
1421 (erbyn hynny) Roedd yn rhysyfwr cyffredinol i Beatrice, Arglwyddes Talbod, gweddw Gilbert Talbod, brawd hŷn Siôn Talbod, Arglwydd Furnival (48).
1421 (Mehefin) Ymosododd ar John Hamme (55).
1421 (Mawrth) Rhoddodd Siôn a Richard Abral fachau yn Henffordd y byddent yn cadw heddwch ag Alice, gweddw Barre, a’i brawd, William Talbod, brawd iau Siôn Talbod, Arglwydd Furnival (55: camgymeriad yw’r dyddiad 1422 yno, fel y dengys gweddill y paragraff).
1422 Diswyddwyd ef fel rhysyfwr gan Siôn Talbod, Arglwydd Furnival (48). Bu ffrae enbyd rhwng y ddau o hyn ymlaen.
1422–3 Amryw droseddau yn erbyn Talbod a’i ddilynwyr (56).
1423–4 Petisiwn yn y senedd yn cwyno am gyrchoedd Talbod yn Wormelow (Ergyng) (56).
1437 Fe’i gwnaed yn ustus heddwch swydd Henffordd. Daliodd y swydd hyd ei farwolaeth (45).
1439 Fe’i penodwyd yn stiward Brycheiniog a stiward Bronllys gan Humphrey, iarll Stafford (48).
1439–40 Roedd yn siedwr swydd Henffordd (45).
1442 Derbyniodd dâl blynyddol o ugain punt gan iarll Stafford (48).
1443 Bu farw (45).
1443 (Medi) Cynhaliwyd cwest ar diroedd Siôn yn Weble (58).

Fel y dadleua Herbert (45–58), mae’r digwyddiadau hyn yn dangos patrwm clir. Hyd c.1422 ffynnodd Siôn dan nawdd Siôn Talbod, Arglwydd Furnival, gŵr grymus yn y Gororau. Yn sgil cweryla gyda gwŷr eraill a oedd yn ffyddlon i Talbod, sef Dafydd ap Rhys a Thomas Barre (cf. digwyddiadau 1419), collodd Siôn ffafr Talbod am gyfnod maith. Fe welir na ddaliodd Siôn unrhyw swydd o 1422 hyd 1437, pan fu cymodi rhyngddo a Talbod. Tua’r un pryd fe gafodd ffafr Humphrey, iarll Stafford, hefyd. Pan fu farw, roedd yn ŵr cyfoethog iawn (Taylor 1997: 104).

Llyfryddiaeth
Herbert, A.E. (1978), ‘Public Order and Private Violence in Herefordshire, 1413–61’, (M.A. Cymru [Abertawe])
Herbert, A.E.(1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–21
Rees, W. (1975), Calendar of Ancient Petitions Relating to Wales (Cardiff)
Taylor, E. (1997), Kings Caple – Archenfield (Little Logaston)