Chwilio uwch
 

Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch, 1414–71, a Siân Bwrch ferch William Clopton, fl. c.1419–44/5, o’r Drefrudd

Canodd Guto gywydd mawl (cerdd 80) i Syr Siôn Bwrch o’r Drefrudd a chywydd mawl arall (cerdd 81) i’w wraig, Siân. Un gerdd arall i Siôn a ddiogelwyd, sef cywydd gofyn am farch a ganwyd iddo gan Lawdden ar ran gŵr o’r enw Dafydd Llwyd ap Gruffudd (GLl cerdd 9).

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar y ffynonellau a nodir isod ac ar WG1 ‘3’, ‘12’, ‘41’, ‘42’, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 29, 31, ‘Elystan Glodrydd’ 31, ‘Gruffudd ap Cynan’ 1, 3, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, ‘Tewdwr Mawr’ 1. Nodir mewn print trwm y rheini a enwir yn y ddwy gerdd a ganodd Guto i’r Siôn ac i Siân, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch o’r Drefrudd a Siân Bwrch ferch William Clopton

Fel y gwelir, cafodd Siôn a Siân bedair merch (neu dair, o bosibl, os cyplysir y ddwy Elisabeth), sef Elisabeth (a briododd William Newport), Angharad (a briododd John Leighton), Isbel (a briododd Syr John Lingen, Burgess 1877: 374–85), ac Elisabeth (neu Eleanor, a briododd Thomas Mytton, Baugh 1989: 71–118). Roedd yr olaf yn fam yng nghyfraith i’r bardd Lewys Aled (gw. GILlF 173–5, lle ceir rhywfaint o ansicrwydd ynghylch ach mam Siôn, Elisabeth ferch Siôn Mawddwy).

Syr Siôn Bwrch ap Huw Bwrch
Ganwyd Syr Siôn Bwrch yn y Drefrudd, sef Wattlesborough, swydd Amwythig, ar 12 Mehefin 1414. Drwy ei fam, Elisabeth ferch Siôn Mawddwy (neu John de la Pole), daeth arglwyddiaeth Mawddwy i’w feddiant yn 1430 (Smith and Smith 2001: 611–12), ond rhan fechan a chymharol dlawd o’i ystad oedd yr arglwyddiaeth honno ac ni wyddys ble yn union yr oedd llys y teulu yn y cyffiniau. Roedd Siôn yn llawer prysurach yn swydd Amwythig, lle roedd y rhan fwyaf o’i gyfoeth a’i swyddi pwysicaf, a chadwai ei brif ganolfan yn y Drefrudd. Bu’n siryf swydd Amwythig bedair gwaith, sef yn 1442, 1449, 1453 a 1463–4 (am ddwy flynedd), ac yn ynad heddwch. Ymddengys i Siôn a Siân (gw. isod) briodi yn ystod tridegau’r ganrif. Roedd Siôn wedi ei urddo’n farchog erbyn 1444–5. Bu farw yn 1471. Fe’i disgrifir gan Bridgeman (1868: 96) fel ‘person of great magnificence’, ac ategir hyn gan Guto. Ymhellach arno, gw. Smith 2001: 163–7; Bridgeman 1868: 96–100.

Siân Bwrch ferch William Clopton
Hanai teulu Siân Bwrch o Clopton ger Quinton yn swydd Gaerloyw. Roedd ei thad, William Clopton, yn fab i John Clopton, gŵr cyntaf Juliana de Morehall (o Moor Hall, Wixford, swydd Warwick). Er i fam Wiliam ailbriodi, ef oedd yr unig etifedd pan fu farw ei lystad, Thomas Crewe, yn 1418 (coffeir Crewe a mam Wiliam ar gorffddelw bres yn eglwys Wixford). Yn 1407/8 penodwyd Wiliam yn ddirprwy siryf swydd Caerwrangon, ac yn rhinwedd ei swydd fe wasanaethodd Richard Beauchamp, iarll Warwick (ceir ei enw ar ei restr fwstro yn 1417).

Tua 1403 fe briododd Wiliam â Joan Besford ferch Syr Alexander Besford, o Besford yn swydd Caerwrangon (Willis-Bund 1924: 20–1). Roedd Besford yn aelod seneddol ac yn gyfreithiwr a gwasanaethodd Thomas Beauchamp, deuddegfed iarll Warwick (Roskell 1992: 194). Yn ogystal â Joan, ymddengys fod gan Besford ferch arall, Agnes, a thrwy ei phriodas hi â Thomas Throgmorton y perthynai’r Besfordiaid i’r teulu enwog hwnnw. Yn ôl Roskell (1992: 722–3), roedd Thomas Throgmorton yn un o uchelwyr mwyaf dylanwadol y sir, a gwasanaethodd ei fab, John, yntau Richard Beauchamp (ar y teulu, gw. DNB Online s.n. Throgmorton family). Cysylltu dau deulu uchelwrol oedd y bwriad wrth briodi ei ferch arall, Joan, â William Clopton. Dengys Carpenter (1992: 319) sut yr oedd gan yr uchelwyr a wasanaethai ieirll Warwick bron i gyd ryw fath o gyswllt â’i gilydd drwy briodas, cyswllt a elwir yn ‘Beauchamp affinity’. Ceir y cyfeiriad olaf at Wiliam yn 1419, pan fu farw, yn ôl pob tebyg (ibid. 652). Bu farw ei wraig, mam Siân, yn 1430 (Willis-Bund 1913: 313–16). Darlunnir hwy ar gorffddelwau yng nghapel Quinton, swydd Gaerloyw, lle gwelir hefyd arfbeisiau’r ddau deulu (Davis 1899: 30–3).

Cysylltir teulu Siân Bwrch â Llawysgrif Clopton, llawysgrif bwysig o orllewin canolbarth Lloegr ac ynddi chwe thestun Saesneg Canol, yn cynnwys copi o’r gerdd ‘Piers Plowman’ (a gyfansoddwyd c.1360–87). Credir yn gyffredinol mai William Clopton a gomisiynodd y llyfr rywbryd rhwng 1403 a 1419 gan gopïydd proffesiynol o Loegr (Turville-Petre 1990: 36), ond deil Perry (2007: 154–5) mai ei wraig Joan a oedd yn gyfrifol, neu o bosibl un o deulu’r Throgmorton. Ar ffolio cyntaf y llawysgrif ceir tair arfbais herodrol: i. lle cyfunir herodraeth Clopton a Besford; ii. lle darlunnir herodraeth ei lystad, Crewe; iii. lle darlunnir herodraeth teulu Throgmorton (ibid. 137). Dyma dri theulu uchelwrol a oedd, fel y nododd Cross (1998: 48), yn perthyn i’w gilydd drwy’r gwragedd. Yng ngoleuni neges Guto ar ddechrau ail ran ei gerdd i Siân Bwrch, lle molir ei thras, gellir dyfynnu Turville-Petre (1990: 38) ar gysylltiadau’r tri theulu: ‘three wealthy and pious gentry families, closely bound together by loyalties and marriage, all much involved in local administration and with strong local associations, and all long standing retainers of the Earl of Warwick’. Ymhellach arni, gw. Salzman 1945: 54–5, 190–1.

Llyfryddiaeth
Baugh, G.C. (1989), A History of the County of Shropshire, Volume 4 (Woodbridge)
Bridgeman, G.T.O. (1868), ‘The Princes of Upper Powys, Chapter IV’, Mont Coll 1: 5–194
Burgess, J.T. (1877), ‘The Family of Lingen’, The Archaelogical Journal, 34: 374–85
Carpenter, C. (1992), Locality and Polity: A Study of Warwickshire Landed Society, 1401–1499 (Cambridge)
Davis, C.T. (1899), The Monumental Brasses of Gloucestershire (London)
Perry, R. (2007), ‘The Clopton Manuscript and the Beauchamp Affinity: Patronage and Reception Issues in a West Midlands Reading Community’, W. Scase (ed.), Essays in Manuscript Geography: Vernacular Manuscripts of the English West Midlands from the Conquest to the Sixteenth Century (Hull), 131–59
Roskell, J.S. (1992), The History of Parliament: The House of Commons 1386–1421 (Stroud)
Salzman, L.F. (1945) (ed.), A History of the County of Warwick: Volume 3 (Woodbridge)
Smith, J.B. (2001), ‘Mawddwy’, Smith and Smith 2001, 151–67
Smith, J.B., and Smith, Ll.B. (2001) (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff)
Turville-Petre, T. (1990), ‘The Relationship of the Vernon and Clopton Manuscripts’, Derek Pearsall (ed.), Studies in the Vernon Manuscript (Woodbridge), 29–44
Willis-Bund, J.W. (1913) (ed.), A History of the County of Worcester: Volume 3 (Woodbridge)
Willis-Bund, J.W. (1924) (ed.), A History of the County of Worcester: Volume 4 (Woodbridge)