Chwilio uwch
 

Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, c.1413–m. 1460

Canwyd cerdd 78 i Siôn Talbod, ail iarll Amwythig, yr unig gerdd iddo a oroesodd.

Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Gruffudd ap Cynan’ 4, ‘Rhys ap Tewdwr’ 8; Cokayne 1887–98: 608–20; DNB Online s.n. John Talbot (‘first earl of Shrewsbury’), John Talbot (‘second earl of Shrewsbury’), William de Briouze. Dangosir mewn print trwm y rheini a enwir yng nghywydd Guto, a thanlinellir enw ei noddwr.

stema
Achres Siôn Talbod, ail iarll Amwythig

Nodir yn achresi Bartrum fod Matilda’n ferch i ŵr o’r enw Reginald Brewys. Nid yw’n eglur ai’r un gŵr ydoedd â gŵr cyntaf Gwladus Ddu ferch Llywelyn Fawr, nac ychwaith a oedd Matilda’n ffrwyth yr uniad hwnnw, ond hynny sydd debycaf. Roedd gan Talbod hanner brodyr a hanner chwiorydd o ail briodas ei dad â Margaret Beauchamp, sef John, Humphrey, Lewis, Eleanor ac Elizabeth.

Ei yrfa
Crynhoir isod yr wybodaeth a geir yn DNB Online s.n. John Talbot (‘second earl of Shrewsbury’). Roedd noddwr Guto’n fab i’r enwog Siôn Talbod, iarll cyntaf Amwythig (c.1387–1453), a enillodd fri fel rhyfelwr ffyrnig ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd (arno, gw. ibid. s.n. John Talbot ‘first earl of Shrewsbury’; Pollard 1983). Ni ellir cymharu gyrfa’r mab ag eiddo ei dad o ran milwriaeth, ond chwaraeodd yr ail iarll ran flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Prydain yn ystod blynyddoedd cyntaf cythryblus Rhyfeloedd y Rhosynau. Cafodd ei urddo’n farchog yn 1426 a phriododd ag Elizabeth ferch James Butler, pedwerydd dug Ormond, yn 1445. Fe’i penodwyd yn ganghellor y Goron yn Iwerddon o 1445 i 1448 ac o c.1450 ymlaen. Ac yntau’n Lancastriad fel ei dad a’i daid, bu’n gymharol weithgar yn ei wrthwynebiad i’r Iorciaid o 1453 ymlaen ac yn ŵr amlwg yng nghwrt Harri VI. Ef oedd trysorydd Lloegr o 1456 i 1458 ac roedd yn gynghorydd i dywysog Cymru yn 1457. Yn yr un flwyddyn fe’i gwnaethpwyd yn aelod o Urdd y Gardas, ac roedd yn brif ynad swydd Gaer yn 1459. Bu farw’n ymladd ym mhlaid y Goron yn erbyn yr Iorciaid ym mrwydr Northampton ar 10 Gorffennaf 1460, ac fe’i claddwyd ym mhriordy Worksop yn swydd Nottingham.

Nid oedd perthynas Talbod a’i dad yn arbennig o agos. O 1434 ymlaen aeth Siôn Talbod, iarll cyntaf Amwythig, ati i drefnu ei ewyllys er mwyn rhoi ffafriaeth i’w ail wraig, Margaret ferch Richard Beauchamp, dug Warwick, ac i’w plant. O ganlyniad, roedd perygl y byddai Siôn Talbod, ei fab hynaf o’i briodas gyntaf, yn colli rhannau helaeth o’i etifeddiaeth. Ond pan fu farw’r iarll cyntaf yn 1453, llwyddodd Talbod i gadw ei afael ar ei etifeddiaeth lawn. Diddorol yw ystyried cywydd Guto yng ngoleuni’r anghydfod rhwng y tad a’r mab, oherwydd y tebyg yw ei fod yn perthyn i’r cyfnod c.1437–45, pan oedd ymdrechion y tad i rannu ei waddol rhwng ei feibion ar eu hanterth. Neilltuir chwe llinell o fawl i’r tad yn y gerdd, a chyngor Guto i’r mab mewn perthynas â’i dad yw Dysg wrthaw (78.9–14). Tybed pa mor barod oedd Talbod i dderbyn y cyngor hwnnw?

Llyfryddiaeth
Cokayne, G.E. (1887–98), The Complete Peerage, vol. XII (London)
Pollard, A.J. (1983), John Talbot and the War in France, 1427–1453 (London)