Chwilio uwch
 
7 – Moliant i’r Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur
Golygwyd gan Dafydd Johnston


1Af â mawl a fo melys
2O’r tud yr wyf i’r Tad Rys.
3Ei fardd wyf, yrddrwyf erddrym,
4Ei fryd ef fu roi da ym,
5A’m bryd innau’n briodawl
6Gludaw fyth ei glod a’i fawl.
7Llon y cair, llew enwawg cu,
8Lle bo’r bryd, llwybr i brydu.
9Torri ’dd wyf, terydd afael,
10Oedau â Rhys, awdur hael,
11A myned a ddamunwn
12Beunydd i oed dydd at hwn.

13‘Tydi a ddyly’r dial,
14Y tafawd teilyngwawd tal,
15Cloc tewfydr, cliced dwyfoch,
16Cleddau cerdd celwyddawg coch.
17Prydaist ar fydr priodawl,
18Paid â’r ffug er Pedr a Phawl.
19Cyffesa ’ngorseddfa saint
20Dy ferw drwy edifeiraint
21Am fod arnad bechodau,
22A mwy yw’r gosb am air gau.
23Tydi a fu, tew dy fawl,
24Drwy dy ffug dra diffygiawl.’

25‘Nac ef,’ heb ef, ‘hy o beth
26Ydiw brig y dau bregeth.
27Bryd y galon a brydawdd
28Hyn oll, erfynied hi nawdd.
29Cyd traethwyf, wiwnwyf weini,
30Fawr gelwydd wrth f’arglwydd i,
31Ni thraethais, iawngais angerdd,
32Air gau wrth euraw ei gerdd.
33Bei torrwn i, batrwn iaith,
34Â’m doethwalch amod wythwaith,
35Mae i Rys, mau oreuswydd,
36Meddiant rhoi maddeuaint rhwydd.
37Nid hawdd bod heb Wyndodydd,
38Ac nid haws ugain oed dydd
39Er dim faddau ŵyr Domas
40A chôr Fflur a’i chaer a’i phlas.
41Tithau na faddau efô,
42Tra genych, fardd, trig yno.’

43Gwnelid Duw gynnal oed dydd
44Bob gŵyl o bawb a’i gilydd.

1Af â moliant a fydd yn felys
2o’r ardal lle’r wyf i’r Tad Rhys.
3Rwy’n fardd iddo, rheolwr cadarn rhagorol,
4ei fwriad ef oedd rhoi cyfoeth i mi,
5a’m bwriad innau yn hollol addas
6oedd amlhau ei glod a’i foliant bob amser.
7Mae ffordd i farddoni i’w chael yn llawen
8lle bo bwriad y meddwl, llew enwog annwyl.
9Rwy’n torri cytundebau, gwarant taer,
10i gwrdd â Rhys, awdur hael,
11ac fe hoffwn i fynd
12i gwrdd â’r gŵr hwn bob dydd.

13‘Ti sy’n haeddu’r gosb,
14y tafod talog urddasol ei gerdd,
15cloc mydr trwchus, cliced y bochau,
16cleddyf cerdd celwyddog a choch.
17Cenaist gerdd ar fesur addas,
18paid â’r twyll er mwyn Pedr a Paul.
19Cyffesa yng nghysegrfan y seintiau
20dy faldordd mewn edifeirwch
21oherwydd dy fod yn euog o bechodau,
22ac mae’r gosb am gelwydd yn fwy.
23Buost ar fai yn fawr trwy dy dwyll,
24helaeth yw dy foliant.’

25‘Nage,’ meddai ef, ‘peth digywilydd
26yw pen dy bregeth.
27Bwriad y galon a ganodd
28hyn i gyd, boed iddi hi ymbil am faddeuant.
29Er fy mod yn dweud celwydd mawr
30wrth fy arglwydd i, gwasanaethu angerdd teilwng,
31ni ddywedais yr un gair o gelwydd
32wrth addurno ei gerdd, celfyddyd dda ei hamcan.
33Pe bawn i’n torri cytundeb wyth gwaith
34â’m hebog doeth, safon iaith,
35mae gan Rys yr awdurdod
36i roi maddeuant yn rhwydd, fy swydd orau.
37Nid peth hawdd yw bod heb bobl Gwynedd,
38ac nid haws mewn ugain cyfarfod
39yw hepgor ŵyr Tomas am unrhyw beth
40ac eglwys Fflur a’i chadarnle a’i phlasty.
41Paid ti â bod hebddo fe,
42tra byddi di’n canu cerddi, fardd, arhosa yno.’

43Boed i Dduw gynnal cyfarfod
44rhwng pawb yn ystod pob gŵyl.

7 – In praise of Abbot Rhys ap Dafydd of Strata Florida

1I will take praise which will be sweet
2from the region where I am to Father Rhys.
3I am his poet, strong distinguished ruler,
4his intent was to give me wealth,
5and my intent appropriately
6was always to increase his fame and praise.
7A path to compose poetry is to be had gladly
8where the mind’s intent is, dear famous lion.
9I am breaking appointments, fervent surety,
10to meet with Rhys, generous author,
11and I would wish to go
12to meet with him every single day.

13‘You are the one who deserves punishment,
14jaunty tongue with dignified song,
15clock of thick metre, clicket of the cheeks,
16red mendacious sword of song.
17You sang a song in fitting metre,
18stop your deceit for St Peter and St Paul’s sake.
19Confess in the shrine of saints
20your babble in contrition
21because you are guilty of sins,
22and the punishment for false witness is greater.
23You were greatly at fault through your deceit,
24your praise is widespread.’

25‘No,’ said he, ‘the head of your sermon
26is a shameless thing.
27It was the heart’s intent
28that sang all this, let it beg forgiveness.
29Although I may tell a great lie
30to my lord, service of fitting passion,
31I never spoke a false word
32in gilding his song, well-intended artistry.
33If I were to break an agreement eight times
34with my wise hawk, model of language,
35Rhys has the authority to grant forgiveness freely,
36my finest office.
37It is not easy to be without the people of Gwynedd,
38and it is no easier in twenty assignations
39to go without Thomas’s grandson for any reason
40and the church of Fflur and its stronghold and its mansion.
41Don’t you be without him,
42as long as you sing, poet, stay there.’

43May God hold an assignation
44between one and all during every festival.

Y llawysgrif
Cadwyd yr unig destun o’r gerdd hon yn Pen 57 (c.1440). Mae ansawdd y testun yn ddi-fai hyd y gellir barnu, heblaw am yr ansicrwydd yn llinell 5 ac orgraff amwys yn llinell 14. Mae llythrennau olaf llinellau 29, 30, 31, 34, 36 a 37 yn annarllenadwy, ond gellir llenwi’r bylchau yn gwbl hyderus. Er bod y cywydd yn gymharol fyr, nid oes lle i gredu ei fod yn anghyflawn.

Trawsysgrifiad: Pen 57.

stema
Stema

5 innau  Mae darlleniad Pen 57 yn aneglur, ond darllenir minev yn argraffiad Roberts (1921). Chwe minim sydd ar ddechrau’r gair, heb fodd i wahaniaethu rhyngddynt, ond rhaid wrth y ffurf hon er mwyn y synnwyr.

14 tal  Mae’r ffurf hon yn amwys yn y llawysgrif, ac fe’i dehonglwyd fel tâl yn GGl, ond ceir gwell synnwyr o gymryd bod y llafariad yn fyr, ac mai benthyciad o’r Saesneg Canol tal sydd yma yn yr ystyr ‘hy, hyderus, talog’.

29 weini  Mae’r ddwy lythyren olaf yn annarllenadwy yn Pen 57, ond gellir eu hadfer ar sail odl a chynghanedd.

30 i  Mae’r llythyren hon yn annarllenadwy yn Pen 57, ond cadarnheir y darlleniad hwn gan y synnwyr a’r odl.

31 angerdd  Mae’r llythyren olaf yn annarllenadwy yn Pen 57.

34 wythwaith  Dim ond wyth sy’n ddarllenadwy yn Pen 57, ond cadarnheir y darlleniad hwn gan yr odl a’r gynghanedd.

36 rhwydd  Mae’r tair llythyren olaf yn annarllenadwy yn Pen 57, ond cadarnheir y darlleniad hwn gan yr odl.

37 Wyndodydd  Mae’r ddwy lythyren olaf yn annarllenadwy yn Pen 57, ond cadarnheir y darlleniad hwn gan y synnwyr a’r odl.

Llyfryddiaeth
Roberts, E.S. (1921) (gol.), Peniarth MS. 57 (Cardiff)

Cywydd ar lun ymddiddan â’r tafod yw hwn. Ceir cywyddau tebyg gan ddau fardd arall o’r bymthegfed ganrif, sef Llywelyn ab y Moel (GSCyf cerdd 12) a bardd anhysbys o’r enw Syr Tomas. Copîwyd cywydd Syr Tomas yn Pen 57 gan yr un llaw â’r cywydd hwn, a cheir testun golygedig a thrafodaeth ar y genre yn Salisbury 2007. Darlun negyddol o’r tafod a geir gan y tri bardd, ac mae’r elfen o hunan-wawd yn fwyaf amlwg yng nghywydd Llywelyn ab y Moel. Cywydd serch yw eiddo Syr Tomas ar ffurf ymddiddan rhwng tafod a chalon y bardd. Guto yw’r unig un sy’n defnyddio’r ymddiddan â’r tafod fel dyfais i foli noddwr, sef yr Abad Rhys o Ystrad-fflur, ac i ymddiheuro iddo am dorri addewid.

Ar ôl datgan ei ymroddiad i foli’r Abad Rhys mae Guto’n cyfaddef ei fod wedi torri ‘oedau’ ag ef, sef methu cadw addewid i ymweld ag Ystrad-fflur dros ryw ŵyl mae’n debyg (cf. 30.33–46 lle sonnir am gael caniatâd Rhys i ymweld â Phylib Llwyd). Mae’r bardd yn ymesgusodi am ei gamwedd trwy roi’r bai ar ei dafod am ddweud celwydd. Mae ateb y tafod yn foliant cyfrwys i’r Abad Rhys, gan ddadlau mai’r galon a oedd yn gyfrifol am gynnwys y canu mawl (hynny yw ei fod yn ddiffuant, motîff sydd efallai’n dangos dylanwad cywydd Syr Tomas), nad oes gair o gelwydd yn y cerddi mawl, a bod gan yr abad yr awdurdod i roi maddeuant am bechodau beth bynnag. Gorffen y tafod ei araith trwy gynghori’r bardd i aros gyda’r abad yn Ystrad-fflur. Llais y bardd sy’n cloi’r gerdd trwy erfyn ar Dduw i sicrhau bod pawb gyda’i gilydd ym mhob gŵyl.

Nid oes dim yn y cywydd sy’n gymorth i’w ddyddio’n bendant, ond dylid ystyried awgrym Salisbury (2009: 83) bod y tri chywydd i’r abad wedi eu cofnodi yn Pen 57 mewn trefn amseryddol am yn ôl, ac mai hwn oedd y cynharaf o’r tri, i’w ddyddio efallai rhwng 1435 a 1437/8.

Dyddiad
c.1435–40.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd IX; CTC cerdd 98.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 44 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (24 llinell), traws 20% (9 llinell), sain 18% (8 llinell), llusg 7% (3 llinell).

3 yrddrwyf  Gair cyfansawdd, gwrdd ‘cadarn’ + rhwyf ‘rheolwr’.

15 cloc  Efallai mai pwynt y trosiad yw bod rhythmau rheolaidd mesurau cerdd dafod fel curiadau cyson cloc.

15 cliced  Bar neu lafn bychan i gau ac agor drws. Ceir yr un ddelwedd yng nghywydd Llywelyn ab y Moel, GSCyf 12.69 Cliciediau yn cloi ceudawd.

16  Ceir yr un llinell yng nghywydd Llywelyn ab y Moel, GSCyf 12.62.

18  Ceir yr un llinell ar ddiwedd cywydd gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn, GDLl 75.58.

37 Gwyndodydd  Gw. G 740 lle gwrthodir y dehongliad ‘un o Wynedd’ a gynigir yn GGl 372, gan ddadlau mai cyferbynnu a wneir yma rhwng yr Abad Rhys a Gwynedd neu ei phobl.

39 ŵyr Domas  Llywelyn oedd enw taid Rhys ar ochr ei dad, felly mae’n debyg mai tad ei fam oedd Tomas. Ond dylid ystyried hefyd awgrym Salisbury (2007: 156) bod ŵyr yn cael ei ddefnyddio’n drosiadol yma ac mai Syr Tomas, awdur y cywydd arall i’r tafod yn Pen 57, yw hwn.

43 gwnelid  Hen ffurf orchmynnol trydydd unigol, cf. telid Duw 9.84.

Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2007), ‘Tair Cerdd Dafod’, Dwned, 13: 139–68
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84

Two other fifteenth-century poets composed poems in the form of dialogues with the tongue, Llywelyn ab y Moel (GSCyf poem 12) and an unknown poet called Syr Tomas. Syr Tomas’s poem was copied in Pen 57 by the same hand as this one; for an edited text and discussion of the genre see Salisbury 2007. All three poets present a negative image of the tongue, but the element of self-mockery is most prominent in Llywelyn ab y Moel’s poem. The piece by Syr Tomas is a love-poem in the form of a dialogue between the poet’s heart and his tongue. Guto is the only one to have used the dialogue with the tongue as a device to praise a patron, namely Abbot Rhys of Strata Florida, and to apologise to him for breaking a promise.

After proclaiming his commitment to praise Abbot Rhys Guto confesses that he has broken appointments (oedau) with him, that is he has failed to keep a promise to visit Strata Florida, probably for some festival or other. (Cf. 30.33–46 where mention is made of obtaining Rhys’s permission to visit Phylib Llwyd.) Guto exculpates himself by putting the blame on his tongue for telling a lie. The tongue’s answer cleverly praises Abbot Rhys by arguing that the heart was responsible for the content of the eulogy (implying that it was entirely sincere, a motif which perhaps shows the influence of Syr Tomas’s poem), that there was no untruth in the praise poems, and that in any case the abbot had the authority to forgive sins. The tongue concludes its speech by advising the poet to remain with the abbot in Strata Florida. The poet’s own voice closes the poem by beseeching God to ensure that everyone is together at every festival.

There is no evidence for dating in the poem itself, but consideration should be given to Salisbury’s suggestion (2009: 83) that Guto’s three poems to the abbot were recorded in Pen 57 in reverse chronological order, and that this is the earliest of the three, to be dated perhaps between 1435 and 1437/8.

Date
c.1435–40.

The manuscript
The edited text is based on the only surviving manuscript copy, in Pen 57 (c.1440), which seems entirely satisfactory apart from a few illegible letters which can be deduced on the basis of sense and metre.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem IX; CTC poem 98.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 44 lines.
Cynghanedd: croes 55% (24 lines), traws 20% (9 lines), sain 18% (8 lines), llusg 7% (3 lines).

3 yrddrwyf  A compound word, gwrdd ‘strong’ + rhwyf ‘ruler’.

15 cloc  The point of the metaphor is perhaps that the regular rhythms of the poetic metres are like the constant ticking of a clock.

15 cliced  From Eng. clicket, a bar or thin strip to open and close a door. The same image is used by Llywelyn ab y Moel, Cliciediau yn cloi ceudawd (‘clickets locking a stomach’), GSCyf 12.69.

16  The same line occurs in the poem by Llywelyn ab y Moel, GSCyf 12.62.

18  The same line occurs at the end of a poem by Dafydd Llwyd of Mathafarn, GDLl 75.58.

37 Gwyndodydd  See G 740 where the interpretation ‘one from Gwynedd’ proposed in GGl 372 is rejected, arguing instead that a comparison is being made between Abbot Rhys and Gwynedd or its people.

39 ŵyr Domas  Llywelyn was the name of Rhys’s grandfather on his father’s side, so Tomas was probably his mother’s father. But consideration should be given to Salisbury’s suggestion (2007: 156) that ŵyr is used figuratively here and that the reference is to Syr Tomas, the author of the other poem about a tongue in Pen 57.

43 gwnelid  An old third person imperative form, cf. telid Duw 9.84.

Bibliography
Salisbury, E. (2007), ‘Tair Cerdd Dafod’, Dwned, 13: 139–68
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, 1430–m. 1440/1

Yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur, fl. c.1430–m. 1440/1

Top

Yr Abad Rhys yw gwrthrych cerddi 5–9, a cheir cyfeiriadau eraill ato yn 30.37–8, 46 ac yn 115.25. Ni ddiogelwyd cerddi iddo gan feirdd eraill, ond cyfeirir ato mewn cerddi i’w olynwyr gan Ddafydd Nanmor (DN XXV.8, 64) a Ieuan Deulwyn (ID XXXI.4).

Achres
Yr unig dystiolaeth dros ei ach yw’r cyfeiriadau yng ngherddi Guto, lle nodir mai Dafydd ap Llywelyn oedd enw ei dad (6.11–14; 8.37, 73). Fe’i gelwir hefyd yn ŵyr Domas (7.39), ac mae’n debyg mai tad ei fam oedd hwnnw (ond gw. nodyn esboniadol 7.39).

lineage
Achres yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur

Disgrifir Dafydd ap Llywelyn fel [C]aeo lywydd glân (6.12), ac yn y farwnad sonnir am [dd]wyn cywoeth dynion Caeaw (9.6), felly gellir casglu bod Rhys yn hanu o deulu uchelwrol blaenllaw yng nghwmwd Caeo. Ni lwyddwyd i leoli Rhys yn achau P.C. Bartrum (WG1 a WG2), ond mae’n bosibl, fel y dadleuodd Salisbury (2009: 61–2), ei fod yn ŵyr i’r Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri yn 1401 am arwain byddin y brenin ar gyfeiliorn yn hytrach nag ar drywydd ei ddau fab a oedd yng nghwmni Owain Glyndŵr (gw. Griffiths: 1972, 367, lle nodir bod Dafydd ap Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn fedel Caeo yn 1389–92 ac yn ddirprwy fedel yn 1395–6 a 1400–1). Ni nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Dafydd yn WG1 ‘Selyf’ 6, ond mae’n bosibl ei fod wedi ei hepgor o’r achresi am mai Rhys oedd ei unig fab a hwnnw’n ddi-blant am ei fod yn ŵr eglwysig. Ar y llaw arall, nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Morgan Foethus a fu’n abad Ystrad-fflur. Ni noda Bartrum ei ffynhonnell ar gyfer hynny, ac nid oes ateg yn y rhestrau o abadau, ond mae bylchau yn y rhestrau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Dichon hefyd fod dryswch wedi digwydd rhwng Morgan a Rhys gan fod tad Rhys wedi ei hepgor o ach y teulu.

Ei yrfa
Y cyfeiriad cynharaf at Rys fel abad Ystrad-fflur yw un dyddiedig 13 Chwefror 1433 sy’n sôn amdano ymhlith nifer o uchelwyr a oedd i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch abad y Tŷ Gwyn (CPR 1429–35, 295). Ond mae tystiolaeth fod ei abadaeth wedi dechrau o leiaf dair blynedd cyn hynny. Mewn dogfen ddyddiedig 26 Mawrth 1442, yn amser olynydd Rhys, yr Abad Wiliam Morus, sonnir am gyflwr yr abaty fel hyn (CPR 1441–6, 95–6):The abbot and convent of the house of St. Mary, Stratflure, South Wales, have shown the king that the said house is situated in desolate mountains and has been spoiled by Owen Gleyndour and his company at the time of the Welsh rebellion, the walls of the church excepted, and that it is not probable that the same can be repaired without the king’s aid, and that Richard, late abbot, was deputed as collector of a whole tenth granted to the king by the clergy of the province of Canterbury in his ninth year and to be levied from the untaxed benefices within the archdeaconry of Cardican, in the diocese of St. Davids, and collector of a fourth part of a moiety of a tenth granted by the same on 7 November in the twelfth year and to be levied within the same archdeaconry, and collector of a whole tenth granted by the same on 29 April in the fifteenth year to be levied within the same archdeaconry, and collector of another tenth granted by the same in the eighteenth year, to be levied within the same archdeaconry, and collector of a subsidy granted by the same in the eighth year and to be levied from all chaplains within the same archdeaconry, and that at the time of the levying of the tenth in the eighteenth year the said late abbot was committed to the prison within the castle of Kermerdyn by the king’s officers by reason of divers debts recovered against him and there died.Gwelir bod Rhys (neu Richard fel y’i gelwir yma) yn casglu trethi ar ran y brenin yn wythfed flwyddyn teyrnasiad Henry VI, sef rhwng 1 Medi 1429 a 31 Awst 1430. Gwelir hefyd ei fod wedi ei garcharu yng nghastell Caerfyrddin am ddyledion yn neunawfed flwyddyn Henry VI, sef 1439/40, ac iddo farw yno. Mewn cofnod arall dyddiedig 18 Chwefror 1443 nodir bod ei olynydd, Wiliam Morus, wedi bod yn abad ers dwy flynedd (ibid 151–2), felly gellir casglu i Rys farw tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441. Gellir derbyn, felly, y dyddiadau 1430–41 a roddir ar gyfer ei abadaeth gan Williams (2001: 297), a chymryd mai ffurf Saesneg ar Rhys oedd Richard, fel y gwelir yn y ddogfen uchod.

Yn y cywydd am salwch Rhys mae Guto’n annog yr abad i drechu ei salwch drwy ei atgoffa iddo lwyddo i drechu gwrthwynebiad gan abadau a lleygwyr (5.43–56). Sonnir am hawlwyr yn ei erlid, a gallai hynny fod yn gyfeiriad at achos yn 1435 (28 Mai) pan orchmynnwyd iddo ymddangos gerbron Llys y Siawnsri i ateb cyhuddiad o ysbeilio tir ac eiddo abaty Sistersaidd Vale Royal (swydd Gaer) yn Llanbadarn Fawr (CCR; gw. Williams 1962: 241; Salisbury 2009: 67). Cyfeirir hefyd yn llinellau 47–8 at ymgais gan fawrIal i’w ddiswyddo, sef, yn ôl pob tebyg, abad abaty Sistersaidd Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl. Nid oes cofnod o wrthdaro rhwng abadau Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn ystod abadaeth Rhys, ond gwyddys i Siôn ap Rhys, abad Aberconwy, ddifrodi abaty Ystrad-fflur a dwyn gwerth £1,200 o’i eiddo yn 1428 (Robinson 2006: 269). Fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 68), mae’n debygol iawn mai Rhys ei hun a fu’n gyfrifol am ddiswyddo’r Abad Siôn a phenodi gŵr o’r enw Dafydd yn ei le yn Aberconwy, merch-abaty Ystrad-fflur, yn 1431. Diau mai gweithredoedd awdurdodol o’r fath sydd gan Guto mewn golwg yma.

Yn ôl Guto roedd Rhys yn ŵr dysgedig, da ei lên (6.20), ac yn ôl pob tebyg mae cerdd 6 yn cyfeirio at ymweliad ganddo â choleg Sistersiaidd Sant Berned a sefydlwyd yn Rhydychen yn 1437. Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod, difrodwyd abaty Ystrad-fflur yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, a thystia Guto i Rys dalu am waith atgyweirio’r adeiladau (8.16–18, 57–8). Dichon mai hyn, yn ogystal â’i haelioni cyffredinol, a fu’n gyfrifol am ei ddyledion erbyn diwedd ei fywyd, fel yr awgryma Guto’n gynnil yn niweddglo ei farwnad (9.75–84).

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972) The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)