Y llawysgrif
Mewn un llawysgrif yn unig y ceir y gerdd hon, sef Llst 6. Ysgrifennwyd hi yn ne Cymru c.1510x1530. Mae’r gwahaniaeth rhwng safon y testun hwn a’r testunau ardderchog, cyfoes â’r bardd ei hun, a geir yn Pen 57 yn drawiadol, a bu’n rhaid diwygio sawl llinell yn y gerdd hon. Hefyd mae orgraff y testun yn amwys mewn mannau, gan fod y copïydd yn arfer y am u (ond nid yn gyson ychwaith).
Trawsysgrifiad: Llst 6.
2 enw a drig Llawysgrif enw dric. Diwygiwyd er mwyn hyd y llinell, fel y gwnaed hefyd yn GGl. Dichon fod y copïydd yn ystyried enw yn air deusill.
5 gyflawnodd Llawysgrif gyflawnoedd. Adffurfiwyd y terfyniad gorffennol odd dan ddylanwad y ferf oedd, nodwedd a welir mewn rhai llawysgrifau deheuol. Cf. 31.41 (nodyn testunol).
6 â Llawysgrif o, er na threiglir doethder ar ei ôl. Mae’r gynghanedd yn mynnu cadw’r cysefin yn doethder, ac felly mae’n rhaid diwygio. Ceir yr un diwygiad yn GGl.
7 dwyfol, â chall Gthg. GGl dwyfol a chall (y ddau’n ansoddeiriau ac felly’n disgrifio Dafydd Mathau). Mae hyn yn chwalu’r gwrthgyferbyniad taclus rhwng llinellau 7 ac 8 ac yn gadael arall yn llinell 8 heb gymar i gyd-fynd ag ef. Gwell darllen â yma a deall call yn enwol: am â mewn ymadroddion sy’n disgrifio ymagweddu rhywun at rywun arall, cf. GPC2 4 d.g. â1 2(a). Amrywiad yw’r ddwy linell hyn ar yr hen dopos cyfarwydd ‘gwrdd wrth wrdd, gwâr wrth wâr’.
8 balch Llawysgrif abalch. Hepgorwyd a er mwyn hyd y llinell, cf. GGl.
8 balch a thaerfalch Os teimlir bod yr ailadrodd yn chwithig, gellid cynnig darllen taerwalch yma, ond mae’r ystyr yn iawn fel y saif.
15 lew du, ne Nid oes rhaid diwygio yma. Diangen yw troi hyn yn liw du neu fel yn GGl, penderfyniad a ddeilliodd, yn ôl pob tebyg, o beidio ag adnabod ne fel ffurf dreigledig gne.
32 a’r tyrau’n fawr Llawysgrif ar tyrayn vawr, GGl na’r tyrayn fawr, a nodyn ar dudalen 346 yn awgrymu bod y darlleniad yn llwgr ac y dylid darllen a’r tyrrau’n fawr. Nid oes dim byd yn bod ar yr hyn a geir yn y llawysgrif, o’i atalnodi a diweddaru’r orgraff yn y dull arferol.
40 hydd Nis ceir yn y llawysgrif, ond digon hawdd yw ei adfer, cf. GGl. Efallai fod y copïydd wedi drysu am mai -on yw odl y cwpled nesaf.
51 er un fainc Llawysgrif er yn faink, orgraff amwys am fod y copïydd yn defnyddio y am u (ond nid yn gyson). Byddai er yn fainc yn golygu ‘er dy fod yn fainc’, sy’n anodd ei ddeall. Defnyddir mainc yn ddelwedd am berson yn achlysurol, cf. GLMorg 48.45 Pwy yw’r eilmainc i’r parlment; GIBH Atodiad v.61 Pe gwisgai, erfai eurfainc. Yr ystyr ‘sedd barnwr’ sydd wrth wraidd y defnydd ffigurol hwn yn ôl pob tebyg. Ond sut y rhoddai er yn fainc synnwyr yma? Gwell derbyn bod y yn sefyll am u a darllen er un fainc: mae Dafydd yn dderwen ddigon mawr i greu un fainc hir, gyfan ohoni. Gthg. GGl o’r un fainc, diwygiad diangen nad yw’n cynnig synnwyr haws.
53 a’i Llawysgrif ay, orgraff amwys; GGl a’u. Am frig y dderwen (51) y sonnir, felly y rhagenw unigol sydd ei angen. Ond gellid a’u o dderbyn mai brigau’r pedeircainc (52) sydd dan sylw.
55 un ffyniant Llawysgrif yn ffyniant, cf. 51n. Derbynnir yn ffyniant yn GGl, ond ceir pwyslais mwy boddhaol o ailadrodd un yn y llinell hon.
58 dur Llawysgrif dyr; GGl dir. Am arfer y copïydd o ddefnyddio y am u, gw. 51n a 55n, ac am ystyr dur fel ansoddair, gw. GPC 1099. Ataliwyd y treiglad ar ôl yr enw benywaidd llin oherwydd fod dd- yn gallu caledu’n d- ar ôl -n: ceir enghraifft debygol o hyn yn 16.48. Ond hefyd ceir enghreifftiau o beidio â threiglo ansoddair yn y gystrawen rhifolyn + enw benywaidd + ansoddair, gw. TC 64–5. Nid oes angen diwygio fel y gwnaed yn GGl.
62 llyna Llawysgrif llyma. Diwygiwyd er mwyn y gynghanedd.
64 Llawer blwyddyn y’i llywiych Llawysgrif llaer blwyddyn blwyddyn yllywych. Mae angen diwygio llaer, sy’n ddiystyr, ac o adfer llawer, mae angen colli dwy sillaf, felly hepgorer yr ail blwyddyn. Dehonglir y fel y’i, orgraff ddigon cyffredin gynt. Yn GGl Llawer blwyddyn y llewych ceir diwygiad pellach nad oes ei angen: diau na ddeallodd y golygydd y ffurf llywych, sef ail unigol presennol dibynnol llywio. Adferwyd -i- yn y testun golygedig gan gymryd mai ffurf orgraffyddol ddeheuol yw llywych.
Dyma gywydd mawl i uchelwr o Forgannwg, Dafydd Mathau, a drigai yn Llandaf a’r Eglwys Newydd. Mawl cyffredinol iddo sy’n llenwi’r adran gyntaf (llinellau 1–18). Mae’r gŵr yn ddoeth ac yn driw a bydd ei enw da yn parhau. Gwelir y topos cyfarwydd ‘gwrdd wrth wrdd, gwâr wrth wâr’ (7–8). Nodir cysylltiad Dafydd Mathau â Morgannwg ac â Llandaf, a nodir mai du yw lliw ei wallt, hoff liw Guto, a barnu wrth ei gyfeiriadau eraill at y lliw hwn (13n). Yn yr adran nesaf (19–38) ceir mwy o wybodaeth ddiddorol. Mae’n amlwg fod tad y noddwr wedi marw, gan rannu ei diroedd yn dair rhan – rhannau Dafydd a’i frodyr. Datgelir cryn anesmwythyd ynglŷn â’r anawsterau a barodd hyn i Ddafydd Mathau. Yn benodol, mae’r pwyslais ar y ffaith fod Dafydd yn ‘bownsio’n ôl’ (33–4), fel petai, yn awgrymu pa mor andwyol y gallai rhaniadau o’r fath fod i gyfoeth teulu. Mae’n amlwg, hefyd, fod Dafydd wedi priodi’n ffafriol, ac efallai mai dyna sydd wedi ei achub rhag suddo i statws cymdeithasol is (19–22), yn ogystal â phrynu tir newydd i gydbwyso’r hyn a gollwyd (28). Ond, yn y dull canoloesol arferol, mae’r bardd yn gweld ffawd Dafydd a’i wraig yn arwydd o ffafr Duw (37–8). Yn yr adran olaf, canolbwyntir ar agwedd bwysig arall ar gynnal uchelwriaeth: etifeddion. Canmolir pedwar mab y pâr priod, gan eu cymharu â bysedd llaw, â cheirw ac â changhennau coeden. Mae’r llinellau hyn yn enghreifftio techneg gyffredin y Cywyddwyr o wibio o ddelwedd i ddelwedd (dyfalu): nid oedd y trosiad cymysg yn drosedd yn eu golwg hwy. Gorffennir gan weddïo ar Deilo Sant a chan rag-weld llawenydd y teulu yn parhau am flynyddoedd maith eto.
Dyddiad
Dyddiadau hysbys Dafydd Mathau yw 1424–58, sef y cyfnod pan geir ef yn arwyddo dogfennau. Roedd eisoes yn oedolyn yn 1424, felly. Bu farw cyn 1470. Priodasai â Gwenllïan, a enwir yn llinell 22, erbyn 1435, a bellach mae gan y pâr priod bedwar o feibion. Ni ellir cynnig dyddiad mwy pendant i’r gerdd.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (27 llinell), traws 34% (22 llinell), sain 17% (11 llinell), llusg 6% (4 llinell).
3 Deau Yn draddodiadol rhennid Cymru’n dair rhan, sef Gwynedd, Powys a Deheubarth neu’r Deau. Perthynai Morgannwg i’r olaf.
4 dedwydd o Ddafydd Awgrymir cymhariaeth rhwng Dafydd Mathau a’r Brenin Dafydd yn yr Hen Destament yma.
9 Caerdyf Caerdydd oedd prif dref arglwyddiaeth Morgannwg. Trigai Dafydd ar bwys y dref hon.
11 Cynghanedd lusg o gyswllt (neu ‘lusg gysylltben’), gw. CD 174, lle dyfynnir y llinell hon.
11 gwlad Forgan Morgannwg. Buasai Morgannwg yn deyrnas cyn dyfodiad y Normaniaid. Bellach un o arglwyddiaethau mwyaf y Mers ydoedd.
13 A llew du – gorau lliw dyn Cf. canu Guto i Harri Ddu o Euas, cerdd 33. Dehonglir llew du yn gyfeiriad herodrol posibl yn DWH i: 121 a 214 er mai llew arian a ddygai teulu Mathew fel arfer.
14 Llandaf Tref ar lan orllewinol afon Taf lle saif eglwys gadeiriol yr esgobaeth. Erbyn hyn fe’i llyncwyd gan Gaerdydd, ond yn nyddiau Guto dau le ar wahân oeddent. Claddwyd Dafydd Mathau yn y gadeirlan a gellir gweld corffddelw yno o hyd y dywedir mai llun o Ddafydd Mathau ydyw (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).
Corffddelw dybiedig Dafydd Mathau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Llun: Barry J. Lewis.
16 tirionach Gall fod yr ansoddair hwn yn goleddfu naill ai gŵr yn 16 neu gne yn 15 (dyna a dderbynnir yn yr aralleiriad).
22 Gwenllïan Gwraig Dafydd Mathau. Roedd hi’n ferch i Ddafydd ap Gwilym ap Siancyn, ac felly’n gyfnither i Syr Wiliam ap Tomas. Gw. WG1 ‘Godwin’ 4.
24 tai Amwys, fel hefyd yn 27 a 35. Mae’n bosibl fod tai yn cyfeirio at fwy nag un cartref. Ond cyffredin iawn ym marddoniaeth y cyfnod hwn yw galw un cartref yn dai, diau am fod cartref uchelwrol yn cwmpasu sawl adeilad, cf. 20.18 ac yn enwedig 22.38.
25 dan yr iau Delwedd gyffredin yn y cywyddau am y noddwr yn ysgwyddo baich ei gyfrifoldebau dros ei gymdeithas yw ei bortreadu yn dwyn iau. Dwy gerdd sy’n datblygu’r syniad yn helaeth yw GGLl cerdd 15 a GSC cerdd 1, a cf. GSC 12.
26 deuedd Deellir hyn yn ffurf luosog dau er mai deuoedd, deuwedd a dowedd yn unig a nodir yn GPC 905; cf. hefyd GPC 1186 d.g. eich am yr ymadrodd eich deuwedd/deuoedd.
28 pwrcastir Tir a brynwyd, mewn gwrthgyferbyniad â thir a etifeddwyd, cf. TA XI.47 Tyrau, parcau, tir pwrcas. Daeth prynu tir yn arfer cyffredin ymhlith yr uchelwyr tua diwedd yr Oesoedd Canol, gw. Davies 1978: 402–13.
29–30 Mae’n amlwg o’r cwpled hwn fod cyfoeth tad y noddwr (Mathau ab Ieuan) wedi cael ei rannu rhwng ei dri mab. Dim ond un rhan o dair o eiddo ei dad, felly, sydd yn nwylo Dafydd Mathau. Enwir brodyr Dafydd Mathau yn ei ach yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 5, sef Robert a Lewis.
34 tri chyfoeth Gan fod cyfoeth yn aml yn golygu ‘teyrnas’, deellir mai am Loegr, Cymru a’r Alban y sonnir. Ond gall mai tair cyfran tir Mathau ab Ieuan ydyw: hynny yw, fod Dafydd wedi adfer cymaint o gyfoeth ag a oedd gan ei dad.
35 arglwydd y Tŵr Ymddengys yn gyfeiriad penodol. Y tŵr amlycaf yw Tŵr Llundain: brenin Lloegr oedd arglwydd hwnnw, a gweddai hynny’n dda yma. Geilw Lewys Morgannwg Harri VIII yn tarw y (o’r) Tŵr, gw. GLMorg 96.28 a 97.36. Gellid hefyd ystyried Tretŵr yn sir Frycheiniog.
38 rhandir Gw. GPC 3037 (c) ‘rhan neu gyfran (yn enw. o dir, fel etifeddiaeth)’.
41 na blaen na bôn Soniwyd uchod am y ddelwedd gyffredin o’r noddwr yn dwyn iau (25n). Weithiau soniai’r beirdd yn fwy penodol am yr ychen pen blaen a phen bôn – hynny yw, yr ychen ar flaen y tîm aredig, sy’n arwain y ffordd, a’r ychen y tu cefn sy’n dal y pwysau mwyaf. Am enghreifftiau o’r delweddau hyn yn y canu mawl, gw. GPC 2002 d.g. iau1 (y cyfuniadau iau flaen ac iau fôn); 3749 d.g. ych1 (y cyfuniad ych bôn). Yma mae blaen [a] bôn fwy neu lai’n gyfystyr â ‘phob un’. Gw. hefyd Payne 1954: 142 ymlaen.
45 pwysaw Am yr ystyr, gw. GPC 2955 2(b) ‘bod yn werth, bod yn gyfwerth â’.
45 hapuswedd Yn betrus, dehonglir hyn yn gyfeiriad at dîm o ychen, cf. GPC 1609 d.g. gwedd2.
48 pedwar bys a bawd Y meibion yw’r bysedd, a Dafydd ei hun yw’r fawd. Enwir mwy na phedwar ohonynt yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 5. O bosibl nid oedd pob un o’i feibion eto wedi eu geni.
53 brig Gall gyfeirio at gopa coeden neu at egin neu dwf newydd ar foncyff, gw. GPC 324. Nid yw’r ddelwedd yn hollol eglur yma: dywedir naill ai fod dilynwyr Dafydd yn binacl ar ei ysblander (brig = ‘copa’) neu eu bod yn ffrwyth ei ysblander (brig = ‘egin, twf’).
56 Priaf Brenin Caerdroea yn y chwedlau a gysylltid â gwarchae’r Groegiaid ar y ddinas. Ymhlith ei feibion roedd Hector, prif arwr gwŷr Caerdroea.
58 Pedr Llandaf Delwedd am y noddwr. Pedr (gyda Paul) oedd un o’r seintiau y cysegrwyd cadeirlan Llandaf iddynt.
59 Teilo Un o brif seintiau de Cymru, a’r pennaf o’r tri sant brodorol y cysegrwyd cadeirlan Llandaf iddynt (y lleill yw Dyfrig ac Euddogwy).
63 tref wen Enw lle yn ôl GGl2 346, lle awgrymir yn betrus mai enw am Whitchurch (Yr Eglwys Newydd) ger Caerdydd ydyw. Fodd bynnag, ni cheir enghraifft hysbys arall o’r enw hwn am Whitchurch, a haws yw ei ddeall yn enw cyffredin yma. Enw ar Whittington yn swydd Amwythig yw Y Dref Wen fel arfer, sy’n amherthnasol yma, fel hefyd Y Dref Wen yn GLGC 164.28 a 170.12 sy’n cyfeirio at le ansicr ym Maelienydd.
Llyfryddiaeth
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Davies, R.R. (1978), Lordship and Society in the March of Wales (Oxford)
Payne, F.G. (1954), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)
This is a praise poem for a Glamorgan patron, David Mathew of Llandaf and Whitchurch. The first section contains quite general praise (lines 1–18). He is wise and faithful and his good name will endure. We encounter the familiar topos ‘fierce to the fierce, gentle to the gentle’ (7–8). David Mathew’s association with Glamorgan and Llandaf is noted, and his hair is said to be black, Guto’s favourite colour, to judge from his numerous references to it in other poems (13n). In the next section (19–38) we find more interesting material. It is clear that the patron’s father is dead, and has divided his lands into three shares – those of David and his brothers. The poem betrays some disquiet about the difficulties this has caused for David Mathew. In particular, the emphasis on the fact that David is ‘bouncing back’ (33–4), as it were, suggests how much damage division of property like this could do to a family fortune. It is clear, too, that David has married well, and it is maybe that which has saved him from declining into a lower social status (19–22), along with buying new land to make up his losses (28). But in the usual medieval way, the poet detects the hand of God behind the good fortune of David and his wife (37–8). In the last section, the poet concentrates on another important aspect of uchelwr status: heirs. The couple’s four sons are praised, being compared to the fingers of a hand, stags and the shoots of a tree. The images are intertwined without concern for logical consistency, in the common manner of medieval Welsh poetry in which the mixed metaphor was not a matter of concern (the technical term for the piling-up of such images is dyfalu). To conclude, the poet prays to St Teilo and foresees long years of future happiness for the family.
Date
David Mathew’s known dates are 1424–58, the period within which surviving documents note him as a witness. He must therefore already have been an adult in 1424. He died before 1470. He had married Gwenllïan, who is named in line 22, by 1435, and by the time of the poem the couple have four sons. The poem cannot be more closely dated.
The manuscript
This poem is found in only one manuscript, Llst 6. This was written in south Wales c.1510x1530. There is a striking difference in quality between this text and the excellent texts (of other poems) copied into Pen 57 during the poet’s lifetime. Several lines had to be emended in this poem. Also the manuscript orthography is ambiguous in places, since the copyist uses y for u (but not consistently).
Previous edition
GGl poem LXVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 42% (27 lines), traws 34% (22 lines), sain 17% (11 lines), llusg 6% (4 lines).
3 Deau Wales was traditionally divided into three parts, namely Gwynedd, Powys and Deheubarth or y Deau (‘the South’). Glamorgan was reckoned part of Deheubarth.
4 dedwydd o Ddafydd There is an implied comparison between David Mathew and the Old Testament King David.
9 Caerdyf Cardiff was the main town in the lordship of Glamorgan. David Mathew lived nearby.
11 An example of cynghanedd lusg o gyswllt (or ‘lusg gysylltben’), see CD 174, where this line is cited.
11 gwlad Forgan I.e. Glamorgan, ‘Morgan’s land’. Glamorgan had been a kingdom before the Norman conquest. It was now one of the largest of the marcher lordships.
13 A llew du – gorau lliw dyn – Cf. Guto’s praise of the black-haired Henry Griffith of Ewyas in poem 33. llew du is taken as a possible heraldic reference in DWH i: 121 and 214 although the Mathew family usually bore a lion Argent.
14 Llandaf On the west bank of the river Taf, seat of the bishops of Llandaf. Now swallowed up by Cardiff, in Guto’s time it was quite separate. David Mathew was buried in Llandaf cathedral, where an effigy said to be of him may still be seen (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).
Supposed effigy of David Mathew in Llandaf cathedral. Photo: Barry J. Lewis.
16 tirionach This adjective may qualify either gŵr in 16 or gne in 15 (that is the option accepted in the translation).
22 Gwenllïan David Mathew’s wife. She was a daughter of Dafydd ap Gwilym ap Siancyn, and thus a cousin of Sir William ap Thomas. See WG1 ‘Godwin’ 4.
24 tai Ambiguous, as also in 27 and 35. It may be that tai (plural of tŷ ‘house’) refers to more than one home. But it is common in the poetry of this period to use tai to describe a single residence, presumably because a high-status home contained several buildings, cf. 20.18 and especially 22.38.
25 dan yr iau The image of the yoke is often used in the cywydd poetry for the patron shouldering his responsibilities towards his community. Two poems which develop this theme extensively are GGLl poem 15 and GSC poem 1, and there is a note on the image in GSC 12.
26 deuedd Seems to be a plural form of dau although deuoedd, deuwedd and dowedd are the only forms noted in GPC 905; cf. also GPC 1186 s.v. eich for the expression eich deuwedd/deuoedd.
28 pwrcastir Purchased land, in contrast to inherited land, cf. TA XI.47 Tyrau, parcau, tir pwrcas (‘Towers, parks, purchased land’). Buying land became common among the Welsh landowning classes towards the end of the Middle Ages, see Davies 1978: 402–13.
29–30 This couplet makes it plain that the property of the patron’s father (Mathau ab Ieuan) had been divided among his three sons. David Mathew can only have held a third share of his father’s lands. David Mathew’s brothers are given in WG1 ‘Gwaithfoed’ 5 as Robert and Lewis.
34 tri chyfoeth Since cyfoeth in earlier Welsh often means ‘kingdom’, in addition to its usual meaning nowadays (‘wealth’), this should be understood as a reference to England, Wales and Scotland. But it might refer to the three shares of Mathau ab Ieuan’s property: that is, Dafydd has restored his fortunes to the same level as his father’s.
35 arglwydd y Tŵr This looks like a reference to a specific tower (and so a specific lord). The most obvious tower is the Tower of London, whose lord was the king of England – a very suitable image here. Lewys Morgannwg calls Henry VIII the ‘bull of the Tower’ (tarw y (o’r) Tŵr), see GLMorg 96.28 and 97.36. Alternatively, consider Tretower in Breconshire.
38 rhandir See GPC 3037 (c) ‘share or portion (esp. of land, as inheritance)’.
41 na blaen na bôn The common image of the patron as an ox bearing a yoke was discussed above (25n). Sometimes the poets would refer specifically to the oxen as pen blaen and pen bôn – that is, the oxen at the front of the plough-team, which lead the way, and the oxen at the back, who bear the brunt of the work. For examples where these images are used to praise people, see GPC 2002 s.v. iau1 (in the combinations iau flaen and iau fôn); 3749 s.v. ych1 (in the combination ych bôn). Here the combination blaen and bôn is more or less equivalent to ‘everyone’. See further Payne 1954: 142 onwards.
45 pwysaw For the meaning here, see GPC 2955 2(b) ‘be worth, be equal to’.
45 hapuswedd With some misgivings, this is interpreted as a reference to a team of oxen, cf. GPC 1609 s.v. gwedd2.
48 pedwar bys a bawd The fingers are the sons, and the thumb is Dafydd himself. More than four sons are given in WG1 ‘Gwaithfoed’ 5. Perhaps not all of his sons had yet been born when this poem was composed.
53 brig Can be the crown of a tree or, alternatively, shoots or regrowth on a stump, see GPC 324. The image is not entirely clear here: either David Mathew’s followers are a culmination of his splendour (brig = ‘crown’) or they arise from his splendour (brig = ‘shoots, regrowth’).
56 Priaf The king of Troy in the stories connected with the Greek siege of the city. One of his sons was Hector, the most prominent Trojan hero.
58 Pedr Llandaf An image for the patron. Peter (along with Paul) was among the saints to whom the cathedral of Llandaf was dedicated.
59 Teilo One of the chief saints of south Wales, and the most important of the three native saints to whom Llandaf cathedral was dedicated (the others are Dyfrig and Euddogwy).
63 tref wen A place name according to GGl2 346, which tentatively suggests Whitchurch (Welsh: Yr Eglwys Newydd) near Cardiff. However, there is no other known example of this name for Whitchurch, and it is easier to take it as a common noun here. Whittington in Shropshire is generally called Y Dref Wen in medieval Welsh, but that is irrelevant here, as is Y Dref Wen in GLGC 164.28 and 170.12 which refers to an uncertain location in Maelienydd (Radnorshire).
Bibliography
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Davies, R.R. (1978), Lordship and Society in the March of Wales (Oxford)
Payne, F.G. (1954), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)
Dyma wrthrych cerdd 17, lle rhoddir yr wybodaeth a ganlyn: i. ei enw yw Dafydd Mathau; ii. fe’i cysylltir â Chaerdydd a Morgannwg, ac yn benodol â Llandaf; iii. mae ei wallt yn ddu; iv. mae’n briod â gwraig o’r enw Gwenllïan; v. mae’n fab, fe ymddengys, i Fathau ab Ieuan, sydd wedi marw; vi. rhannwyd eiddo ei dad rhwng tri o wŷr, sef Dafydd ei hun a’i ddau frawd, yn ôl pob tebyg; vii. mae ganddo bedwar mab.
Achres
Ceir ach Dafydd Mathau yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 4 a 5, ac eiddo ei wraig yn ‘Godwin’ 4. Dyma fersiwn cryno (dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto mewn print trwm, a thanlinellir enw’r noddwr):
Roedd yn wir ddau frawd ganddo, sef Robert a Lewis, sy’n gyson â’r hyn a ddywed Guto. Marwnadwyd Lewis Mathau gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 10).
Ei ddyddiadau
Rhydd WG1 y dyddiadau 1425–94 ar gyfer Dafydd Mathau, heb nodi ffynhonnell. Yn GGl2 346 dywedir iddo farw yn 1504. Mae hyn yn anghywir: dyddiad marw ei ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas Mathau ap Dafydd Mathau, oedd 1504. Erys ewyllys y Dafydd Mathau hwnnw ar glawr, wedi ei dyddio i’r flwyddyn honno (GIF 118; Matthews 1898–1911, iii: 102); claddwyd ef yn Llundain. Dychwelwn, felly, at Ddafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan. Nodir ei farw yn 1484 yn ByCy 582, ond yn 1461 y bu farw yn ôl Butler 1971: 410. Ni nodir ffynhonnell y dyddiadau hyn.
Ceir cofnodion am Ddafydd Mathau ar gyfer y blynyddoedd 1424–48. Yn 1424 bu’n dyst i freinlen a roddwyd gan Richard Beauchamp, iarll Warwick, yng Nghaerdydd. Yn 1427 enwir ef yn ddeiliad tir yng Nghoety. Yn 1431 bu’n dyst, ynghyd â’i ddau frawd, i drosglwyddiad tir yn yr As Fach, a bu’r tri wrthi’n tystio i brydles tir i’r un dyn, Hywel Carn, yn yr un lle yn 1432. Enwir Dafydd eto yn ddeiliad tir rhydd yn 1437. Yn 1440 tystiodd i adferiad tir yn arglwyddiaeth Ogwr i Abaty Margam. Yn 1448 tystiodd, gyda’i frawd Lewis Mathau a mab ei frawd arall, Tomas ap Robert Mathau, i brydles tir yn yr As Fach. Am y cyfeiriadau hyn, gw. GHS 163; Clark 1893–1910, iv: 1513–19, 1528–30, 1545, 1551; Butler 1971: 637, nodyn 162; Clark 1893–1910, iv: 1561, 1608.
Mewn cwest ar eiddo Syr Siors Mathau, a gynhaliwyd yn 1559, rhoddir manylion am hanes cynnar y teulu a’u tiroedd. Nodir bod maenor Corntown wedi ei rhoi i Ddafydd Mathau a’i wraig Gwenllïan yn 1435, a’i bod i fynd i’w mab Tomas ar ôl iddynt farw, neu i fab arall, Siôn, pe digwyddai i Domas farw heb etifedd erbyn hynny (Matthews 1898–1911, iii: 82–6). Yn fwy diddorol, sonnir hefyd am weithred o’r flwyddyn 1458 a drosglwyddodd faenorau Llanbedr-y-fro a Glaspwll i John Neville (mab Richard Neville, iarll Warwick) ac i Ddafydd Mathau a’i fab Tomas, y ddau’n farchogion, i ddisgyn i linach Reynborn Mathau, mab arall i Ddafydd Mathau, pe diffygiai llinach Tomas. Roedd Dafydd yn fyw o hyd yn 1458, felly. Fodd bynnag, ni fu Tomas yn farchog: ysgwïer ydoedd o hyd adeg ei farwolaeth (Matthews 1898–1911, iii: 102). Ynglŷn â’r honiad fod Dafydd Mathau ei hun yn farchog, y cwbl y gellir ei ddweud yw nad oedd ef yn farchog pan ganodd Guto’r Glyn ei gywydd iddo. Cwbl anghredadwy fyddai i fardd mawl Cymraeg ganmol gŵr a urddwyd heb grybwyll y ffaith.
Bu farw Tomas a Reynborn, meibion Dafydd Mathau, yn fuan ar ôl ei gilydd yn 1470. Trigai’r ddau ym Mryste erbyn hynny, fe ymddengys, ac fe’u claddwyd yn eglwys Sant Marc, neu Ysbyty Gaunt, yn y ddinas honno. Yn ewyllys Reynborn sonnir am diroedd yng Nghoety a Glynogwr a etifeddasai oddi wrth ei dad. Sonnir hefyd am siantri a sefydlwyd yn eglwys gadeiriol Llandaf yn ôl ewyllys olaf Dafydd Mathau (Matthews 1898–1911, iii: 102). Dyna brawf sicr fod Dafydd Mathau wedi marw, felly, cyn 1470. Ceir manylion am siantri Dafydd Mathau mewn arolwg a wnaed yn 1546, pan oedd yn cael ei chynnal o hyd (Jones 1934: 148–9; diolchaf i Dr Katharine Olson am y cyfeiriad).
Ei feddrod
Ceir traddodiad fod beddrod Dafydd Mathau i’w weld o hyd yn eglwys gadeiriol Llandaf. Y cerflun yn unig a erys heddiw, wedi ei osod ar sylfaen ddiaddurn (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).
Corffddelw dybiedig Dafydd Mathau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Llun: Barry J. Lewis.
Collwyd gweddill y beddrod a ddisgrifir yn arolwg Browne Willis o’r eglwys yn 1719. Nid ymddengys fod arysgrif arno hyd yn oed adeg honno:This is said to be the Monument of David Matthew the Great, who was Standard-Bearer to Edward IV, and was murther’d at Neath ... by some of the Turberviles, with whom he was at Variance (Willis 1719: 25).Nododd Richard Symonds y beddrod yn 1645 a’i briodoli i ‘great David Mathew, standard bearer to K.’, ond ni roddir enw’r brenin (Lang 1859: 213). Er nad oes arysgrif i gadarnhau mai delw Dafydd Mathau yw hon, mae’n amlwg fod aelodau o’r teulu wedi cael eu claddu yn y gadeirlan. Saif beddrod Syr Wiliam Mathau, brawd Dafydd Mathau II, a beddrod Christopher Mathau (ap Reynborn ap Dafydd Mathau) gerllaw’r gorffddelw hon, ac mae arysgrifau arnynt sy’n cadarnhau pwy sydd yn y beddau. Am y manylion lliwgar a rydd Browne Willis, rhaid bod â meddwl agored, gan nad oes tystiolaeth arall amdanynt.
Ei nawdd i farddoniaeth
Nid oes cerddi eraill i Ddafydd Mathau wedi goroesi. Ceir cywydd mawl i ryw Ddafydd Mathau gan y bardd Llawdden, sy’n agor fel a ganlyn:Duw a rannodd drwy einioes
Dau Ddafydd, Mathau, i’m oes:
Un a fu’n dda ’n ei fywyd,
Arall a fag yr holl fyd (GLl 27.1–4).Mae bron yn sicr mai’r ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas ap Dafydd Mathau, yw gwir wrthrych y cywydd hwn, nid Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan, y gŵr yr ydym yn ymwneud ag ef yma. Dadleuodd golygydd GLl mai Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan a’i dad yng nghyfraith, Dafydd ap Gwilym, yw’r dau Ddafydd a grybwyllir yn llinell 2: ond mae’r coma a roddodd y golygydd ar ôl Dafydd yn dra chwithig, ac o gofio bodolaeth y ddau Ddafydd Mathau, y taid a’i ŵyr, nid oes ei angen. Sôn y mae’r bardd am weld dau ŵr o’r enw Dafydd Mathau yn ystod ei einioes. O’r rhain, sonnir am un yn yr amser gorffennol (llinell 3) gan ddangos ei fod wedi marw, a’r llall yw gwrthrych y gerdd. Mae hyn hefyd yn esbonio pam y geilw’r gwrthrych yn gwaladr Dafydd ap Gwilym a Llwyth Godwin. Tras gwraig Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan yw hwn, fel y sylwodd y golygydd, ac mae’r ymadroddion hyn yn awgrymu perthynas drwy waed, nid drwy briodas. Ni ddisgwylid yr ieithwedd hon mewn cywydd i’r taid, ond diflannu a wna’r anhawster o dderbyn mai Dafydd Mathau ap Tomas, ŵyr Dafydd Mathau a’i wraig, yw’r gwrthrych. Canwyd y cywydd ar ôl 1469, oherwydd mae’n enwi Watgyn ap Tomas ap Rhosier o Hergest yn noddwr arall i’r bardd, ac etifeddodd hwnnw Hergest ar ôl marwolaeth ei dad ym mrwydr Banbri yn 1469 (GLl 7). Mae hynny’n gyson â thystiolaeth ewyllys Reynborn Mathau, sy’n dangos bod Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan wedi marw cyn 1470.
Cydnabyddiaeth
Hoffwn ddiolch i Rhianydd Biebrach am ei chymorth gyda rhai o’r pwyntiau uchod ac yn arbennig am ddangos i mi gopïau o ewyllysiau Tomas a Reynborn Mathau.
Llyfryddiaeth
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Butler, L.A.S. (1971), ‘Medieval Ecclesiastical Architecture in Glamorgan and Gower’, yn T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 379–415
Clark, G.T. (1893–1910) (ed.), Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent (Cardiff)
Jones, E.D. (1934), ‘Survey of South Wales Chantries, 1546’, Arch Camb 89: 135–55
Lang, C.E. (1859) (ed.), Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War Kept by Richard Symonds (London)
Matthews, J.H. (1898–1911) (ed.), Cardiff Records (Cardiff)
Willis, B. (1719), A Survey of the Cathedral-church of Landaff (London)