Y llawysgrifau
Ceir pedwar copi llawn o’r cywydd hwn, i gyd yn debyg iawn i’w gilydd. Codwyd y copi diweddar yn BL 31092 o LlGC 13062B. Daw hwnnw yn ei dro o C 5.44 neu destun hynod debyg. Ceir dau gasgliad o bytiau o’r cywydd gan Siôn Dafydd Rhys yn Llst 55. Ychydig iawn o’r testun a gynhwysir ynddynt, ac nid oes dim i ddweud bod Siôn Dafydd Rhys wedi eu codi o fwy nag un gynsail. Ymddengys fod y gynsail yn perthyn yn agos iawn i C 5.44. Mae Stowe 959 eto’n debyg i C 5.44 ond ychydig yn llai cywir. Lluniwyd y golygiad ar sail C 5.44 a Stowe 959, gan ystyried hefyd y nodiadau yn Llst 55.
Trawsysgrifiadau: C 5.44, Stowe 959.
1 Siancyn Felly Stowe 959 a Llst 55 [i], a cheir Jancyn yn Llst 55 [ii]; gthg. C 5.44 Sienkin. Dyna’r ffurf a geir yno yn llinell 39 hefyd, er gwaethaf y gynghanedd lusg, sy’n gofyn am Siancyn.
3 ynial Gthg. Stowe 959 anyann. Mae’r gynghanedd sain yn mynnu derbyn darlleniad C 5.44.
6 sŷl Gthg. Stowe 959 ssyn, sy’n tarfu ar y gynghanedd draws. Diau fod y gair sŷl yn ddieithr i’r copïydd.
7 awdur C 5.44 a Llst 55 [ii] awdyr, Stowe 959 awdr; nis ceir yn Llst 55 [i]. Pe derbynnid awdr byddai’n rhaid atal y cywasgiad yn ail hanner y llinell, a dyna a wneir yn Stowe 959 dyw yn. Nid yw’n debygol fod yn yn cynrychioli i’n yma: prin y ceid enghreifftiau o’r rhagenwau mewnol â grym y cyflwr derbyniol yng nghyfnod Guto’r Glyn, cf. GMW 57.
9 grair Cyfarchol yw grair ac mae angen coma o’i flaen. Gthg. GGl lle y’i deellir yn wrthrych uniongyrchol: golygai hynny dderbyn bod ystyr dderbyniol i ’th, cf. llinell 7n.
13 rhoud Darlleniad C 5.44; gthg. Stowe 959 roed. Os ffurf amhersonol yw roed, yn hytrach na ffurf orgraffyddol ar rhoud, ni ddisgwylid treiglad ar ei hôl.
15 cyoedd Ni cheir h yn yr un o’r copïau, cf. 78.17.
16 Rhoist yr aur i’r rhestr arall Felly Llst 55 [i]. Yr un yw darlleniad C 5.44 ac eithrio’r ffaith y ceir rosd yn lle rhoist yno drwy amryfusedd (cf. 14). Tebyg iawn hefyd yw Stowe 959 roest ayr yr Rester arall, ond yno mae’n rhaid cyfrif rhestr yn ddeusill. Ni cheir y llinell yn Llst 55 [ii].
21 ponid Gthg. Stowe 959 pand, sy’n gwneud y llinell yn fyr o sillaf.
24 un ŷnt hwy Dilynir y llawysgrifau; gthg. GGl ynn, wyntwy. Deellir un fel ansoddair ‘unffurf, tebyg’, ac felly ni raid diwygio.
25 awdl Llinell chwesill oni chyfrifir awdl yn ddeusill, cf. orgraff Stowe 959 awdwl. Yn C 5.44 crëwyd sillaf ychwanegol yn kyredant.
26–7 rhag … rhag Ceir yr amrywiadau roc … rog yn C 5.44, a rhag … roc yn Llst 55 [i], sy’n cryfhau’r achos dros weld cysylltiad agos rhwng y copïau hyn. Ffurf ddeheuol yw rhog, o bosibl, cf. GPC 2999 d.g. rhag.
27 anach Felly Llst 55 [i] a C 5.44, ond yn GGl 221 dilynir Stowe 959 anair. Gwedda anach (GPC2 251–2) yn well gyda’r arddodiad rhag, a hefyd noder bod Guto yn defnyddio’r gair deirgwaith mewn cerddi eraill (18.29, 61.14, 91.58).
34 ys Felly Llst 55 [ii] a C 5.44; gthg. Stowe 959 os. Mae’r gystrawen yn haws ei dilyn o dderbyn ys.
34 fydd Felly’r llawysgrifau, ond ni chyfrifir dd yn y gynghanedd. Efallai y dylid darllen fu, ond mae fydd yn gweddu’n well i’r cyd-destun. Neu gellid derbyn cynghanedd draws yma, a’r f yn Fair heb ei chyfrif.
35 beiir Gw. y nodyn nesaf.
36 afrywiog C 5.44 afrywog, Stowe 959 afrwyog. Adferwyd -i- yn y testun golygedig gan dybied mai orgraff ddeheuol a geir yn y copïau hyn. Gwnaed yr un peth yn achos 47 (byriaist) a 59 (Brycheiniog). Yn Llst 55 [i] ceir afrywogi, heb weddill y llinell. Ymddengys fod Siôn Dafydd Rhys wedi deall afrywog ir yn ei gynsail fel afrywogir, ac yna roi’r berfenw tybiedig yn ei nodiadau. Mae’n awgrymog, felly, fod C 5.44 yn rhoi bei ir yn y llinell flaenorol (am beiir), fel petai’n deall bai ir ‘byddai’n ir’. Tybed ai bei ir a geid yng nghynsail y ddwy lawysgrif hyn, gan gamarwain Siôn Dafydd Rhys i ddisgwyl gair lluosill ar ddiwedd llinell 36? Cyd-ddigwyddiad, efallai, yw mai o law Siôn Dafydd Rhys y daw’r enghraifft hysbys gyntaf o’r ferf afrywiogi (GPC2 108).
39 yt Stowe 959 a C 5.44 yd. Mae’n anodd canfod tystiolaeth dros y ffurf yd yn unman arall. Efallai fod y gair bywyd ar ddechrau’r llinell wedi dylanwadu ar yr orgraff, a bid a fo am hynny, anodd yw gwahaniaethu rhwng -d a t- o flaen s-.
41 anelodd C 5.44 aneloedd, Stowe 959 aleloedd. Camgymeriad syml yw’r l gyntaf yn yr ail ddarlleniad. Ymddengys mai ffurf ddeheuol yw’r terfyniad trydydd unigol gorffennol -oedd, ac mae’n annebygol iawn y byddai Guto’r Glyn yn arfer y ffurf.
43 Dyn a wnêl dan annel da Cynghanedd sain gadwynog, cynghanedd anghyffredin ond dilys. Ond gellid dehongli’r llinell yn enghraifft o’r groes o gyswllt hefyd, a derbyn bod d ac n yn dan yn cael eu cyfrif yn ail hanner y llinell. Ceisiodd copïydd Stowe 959 greu cynghanedd groes rywiog drwy roi dyw ar ôl wnel, ond mae ei linell yn rhy hir o’r herwydd.
45 ydd wyd C 5.44 a Stowe 959 ddwyd. Adferwyd y sillaf golledig er mwyn hyd y llinell, ond gan fod blaenddwyd bron yn sicr yn ddarlleniad llwgr, ni ellir bod yn sicr am hyn (gw. y nodyn nesaf).
45 blymlwyd C 5.44 a Stowe 959 blaenddwyd; ni cheir y llinell yn Llst 55. Ffurf anhysbys yw blaenddwyd, a’r tebyg yw ei bod yn llwgr. Gallai’r -dd- yn hawdd fod wedi codi dan ddylanwad (y)dd wyd yn hanner cyntaf y llinell. Digwydd y gair plym(l)wyd mor ddiweddar â gwaith Rhys Goch Eryri (GRhGE 12.19 a 12.59) a byddai dieithrwch y gair yn debygol o arwain copïwyr diweddarach ar gyfeiliorn. Hefyd fe geir yr ymadrodd planc plymlwyd yn GIG XX.3 (i Rosier Mortimer). Ar y sail hon diwygiwyd y testun yma.
47 byriaist Gw. 36n.
49 y Stowe 959 u; gthg. C 5.44 a. Defnyddia ysgrifydd Stowe 959 u ar gyfer y fannod a’r rhagenw perthynol a, ond a yn gyson ar gyfer y cysylltair. Mae angen y fannod yma er mwyn y gystrawen.
53 hir Felly C 5.44 a Llst 55 (ddwywaith); gthg. Stowe 959 hyr. Ni ddefnyddir y am i fel arfer yn y llawysgrif honno, ond fe’i ceir yn aml am u, felly rhaid deall hyr fel hur ‘cyflog, tâl, rhodd’. Gweddai’r ystyr, efallai, ond derbynnir hir o C 5.44 a Llst 55 ar y sail fod Stowe 959 ar y cyfan yn llai dibynadwy.
55 Mae cryn ddryswch yma yn y llawysgrifau. Derbyniwyd darlleniad C 5.44 daly ergid dÿ law aurgoeth, llinell ddealladwy ac ynddi gynghanedd gywir. Gthg. Stowe 959 dala ergid y dy ayrgoeth. Mae’r gynghanedd yn wallus yma a dichon fod y dy wedi codi dan ddylanwad y llinell nesaf. Eto, y darlleniad hwn a dderbyniwyd yn GGl, ond gan greu’r rhithffurf dyl er mwyn achub y gynghanedd. Cefnogir C 5.44 i raddau gan Llst 55 [ii], lle nodir llaw avrgoeth heb weddill y llinell. O gofio bod Siôn Dafydd Rhys yn codi nodiadau, nid oes arwyddocâd i’r diffyg treiglad yn llaw. Serch hynny mae darlleniad Llst 55 [i] yn eithaf gwahanol: dala d’ergyd lew dewrgoeth. Rhydd hyn synnwyr dilychwin a chynghanedd groes o gyswllt gywrain. Eto nid yw’r llinell hon yn profi bod cynseiliau gwahanol y tu ôl i ddau gopi Siôn Dafydd Rhys wedi’r cwbl. Mae yn sicr gysylltiad agos rhwng Llst 55 [i] a C 5.44, yn wir ymddengys fod cynsail gyffredin iddynt. Os felly, mae’n rhaid fod naill ai Siôn Dafydd Rhys neu Lywelyn Siôn wedi diwygio’r llinell hon, ac o ystyried bod ail gopi Siôn Dafydd Rhys yn cefnogi fersiwn C 5.44, rhaid amau mai ef a newidiodd y llinell yn Llst 55 [i] am resymau aneglur. Tybed ai’r ffaith fod y gair llaw yn digwydd yn y llinell flaenorol a barodd iddo feddwl bod angen diwygio yma? Posibilrwydd arall yw ei fod yn ceisio cael gwared o sillaf (a chymryd mai dala, nid daly a geid ar ddechrau’r llinell yn ei gynsail, fel sy’n debygol o gofio mai dala a geir yn Stowe 959 hefyd). Ond os felly, pam y newidiodd y llinell mor arw?
57 dyelly Gthg. Stowe 959 ti aell y. Mae’r gynghanedd groes yn mynnu d-. Llygriad llafar yw hwn, gellir tybio, a ddeilliodd yn wreiddiol o galedu cytsain gyntaf dyelly ar ôl wyd.
59 Brycheiniog Gw. 36n.
60 bwaau’r Stowe 959 bwayr, C 5.44 bwaer, nis ceir yn Llst 55. Deusill yw ffurf luosog bwa erbyn y bymthegfed ganrif, fel arfer, ond yma mae’n gadael y llinell yn fyr o sillaf. Ceir a ar ddechrau’r llinell yn Stowe 959, gan ddatrys y broblem, ond diwygiad yw hynny, yn ôl pob tebyg. Gwell derbyn bwaau’r yma: mae Lewys Morgannwg yn defnyddio’r ffurf yn y ganrif ddilynol, gw. GLMorg 43.85 ac 82.72.
61 Cytuna pob copi â’i gilydd ond Llst 55 [i] bid d’enw fal bywyd hoywner. Gan fod yr ail gopi yn y llawysgrif honno’n unfryd â Stowe 959 a C 5.44, dichon mai diwygio ar ran Siôn Dafydd Rhys fu ychwanegu fal i’r llinell, a hynny am resymau aneglur, efallai oherwydd iddo gywasgu dy.
Cywydd mawl i ŵr o’r enw Siancyn Hafart yw hwn, un sy’n rhoi cip ar rwystredigaethau bywyd y bardd crwydrol a chyfle hefyd i Guto ddangos ei wybodaeth o saethyddiaeth. Ar berchentyaeth Siancyn y mae’r pwyslais drwy gydol y gerdd. Cymherir ei ddarpariaeth ef ag eiddo Custennin, a sonnir am ei roddion i’r beirdd (llinellau 1–20). Yna mae Guto’n cwyno am ddiffyg brwdfrydedd noddwyr eraill o’u cymharu â Siancyn. Ef yw’r unig ych dan yr iau sy’n tynnu ei bwysau (21–4). Mae’r lleill yn hel esgusodion ac yn ymseisnigo (25–32). Am weddill y gerdd mae Guto yn troi at saethyddiaeth i egluro ei neges. Mae’r noddwyr anfoddog fel bwa a wnaed o bren anaddas: torri a wnânt os rhoddir pwysau arnynt. Gwahanol iawn yw Siancyn, sy’n fwa o bren da a wnaed gan Dduw ei hun (39–44). Mae’n saethu anrhegion yn ddi-ffael at ei dargedau, sef y beirdd, ac ar ben hynny, aur yw defnydd ei saethau (45–56). Gorffen y gerdd yn y dull cyffredin gan ddymuno hir oes i’r noddwr.
Dyddiad
Nid oes modd dyddio’r cywydd hwn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXIV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 62 llinell.
Cynghanedd: croes 58% (36 llinell), traws 19% (12 llinell), sain 19% (12 llinell), llusg 3% (2 linell).
1 ennyn Mewn ystyr ffigurol yma: greddf Siancyn yw rhoi gwaywffon ar waith.
3 Cystennin Yr ymerawdwr Rhufeinig Custennin Fawr (teyrnasodd 306–37 O.C.).
4 Selyf Y Brenin Solomon, a oedd yn enwog am ei ddoethineb a chyfiawnder ei ddedfrydau cyfreithiol.
4 sylfaen trin Mae’r beirdd yn aml yn cymharu eu noddwyr â sylfeini. Yr ergyd yw bod Siancyn yn garn sicr i’w wŷr mewn brwydr.
6 sŷl GPC 3381 ‘daear, llawr, pridd; sylfaen’. Un enghraifft arall a gynigir yno, o waith y bardd Hywel Rheinallt, mewn cyd-destun ffigurol tebyg. Mae’r ystyr yn ansicr, ond gellir cysylltu’r gair â sylfaen a sylwedd. Ceir berf selu ‘gwylio’ neu ‘anelu at’ (GPC 3218 d.g. selaf1) ond nid yw ffurf y trydydd unigol presennol yn sicr.
6 prifai-sêl Nod cwyr a roddir ar ddogfen i warantu ei dilysrwydd yw sêl. Byddai gan bob person o bwys yn yr Oesoedd Canol ei sêl unigryw ei hun. Ystyr prifai-sêl (Saesneg privy seal) yw sêl breifat, bersonol, yn enwedig sêl bersonol brenin Lloegr. ‘Arwydd o ddilysrwydd’, felly, yw Siancyn Hafart. Am enghreifftiau eraill o’r ddelwedd hon, gw. GPC 2887.
7 gadael Defnyddir y ferf hon yn aml yn y canu mawl wrth sôn am Dduw’n estyn einioes y noddwr, cf. GGMD i, 2.24 Duw o’i adu.
8 Aberhodni Ffurf hŷn ar Aberhonddu.
9 eithr Ni thycia’r ystyr seml ‘ond’ yma am nad yw’r syniad fod Iesu wedi cynysgaeddu Siancyn â’i ddoniau yn mynd yn groes i’r sicrwydd y bydd Duw yn ei gadw’n fyw a fynegir yn 8. Pwysleisio y mae, yn ôl pob tebyg, nid yn unig fod Duw yn cadw Siancyn yn fyw, ond mai Duw a’i creodd yn y lle cyntaf. Aralleirier ‘eto’n wir’ neu ‘i’r gwrthwyneb’, etc.
21 min Mai Yn y gwanwyn y byddid yn aredig y tir, cf. y gerdd enwog ‘Cyntefin Ceinaf Amser’ sy’n sôn am ereidir in rich yn y tymor hwn (Bl BGCC 16.3). Ergyd 21–4 yw mai Siancyn yw’r unig ych sy’n tynnu ei bwysau.
22 pen iau flaen Delwedd gyffredin yn y cywyddau yw sôn am y noddwr yn ysgwyddo baich ei gyfrifoldebau dros ei gymdeithas drwy ei ddangos yn dwyn iau. Datblygiad digon cyffredin arni oedd sôn am yr ychen pen blaen a phen bôn – hynny yw, yr ychen ar flaen y tîm aredig, sy’n arwain y ffordd, a’r ychen tu cefn sy’n dal y pwysau mwyaf. Am enghreifftiau o’r delweddau hyn yn y canu mawl, gw. GPC 2002 d.g. iau1 (y cyfuniadau iau flaen ac iau fôn) ac 3749 d.g. ych1 (y cyfuniad ych bôn).
32 swydd a breiniau Sais Yn sgil gwrthryfel Owain Glyndŵr cymeradwyodd Senedd Lloegr fesurau llym yn erbyn y Cymry, yr enwog ‘ddeddfau penyd’. Ni châi Cymro ddal swydd yng Nghymru ac nid oedd ei air yn cyfrif cymaint â gair Sais mewn achos llys. Roedd y Cymry hefyd i fod i rannu eu tiroedd etifeddol rhwng eu meibion ac nid eu cadw’n un uned a’u trosglwyddo i gyd i’r mab hynaf yn ôl y dull Seisnig. Byddai Cymry blaenllaw yn aml yn ceisio osgoi’r anfanteision hyn drwy brynu statws Sais (Saesneg denizenship).
36 O frig yw afrywog ir Pren yw oedd y defnydd arferol ar gyfer gwneud bwâu yn yr Oesoedd Canol. Mae pren a dorrir o foncyff coeden yn gryfach na phren y canghennau, sy’n esbonio’r cyfeiriad dilornus at frig yw yma. Rhaid hefyd osgoi pren ac arno golfenni (dyna yw ystyr afrywog yma, yn ôl pob tebyg). Yn olaf, rhaid gadael y pren i aeddfedu am ryw dair blynedd neu fwy: ni thycia pren ir, yn ffres o’r goeden. Ymhellach, gw. Hardy 2006: 55.
41 anelodd Gall anelu olygu ‘plygu’ neu ‘dynnu (bwa)’ yn ogystal â ‘chyfeirio (saeth)’, gw. GPC2 269.
45 planc GPC 2816 d.g. planc1 a planc2. Gellid ‘darn o bren’, yn ffigurol am y noddwr fel cynheiliad, neu ‘march’, eto’n ffigurol am Siancyn.
47 purawr GPC 2934 d.g. puror2. Gall gyfeirio at delynor neu fardd yn benodol.
50 gweision gwych Sef y gweision sy’n gweini ar y beirdd, efallai; ond gallai gyfeirio at y beirdd eu hunain.
Llyfryddiaeth
Hardy, R. (2006), The Longbow: A Social and Military History (Stroud)
This is a praise poem for a man called Siancyn Havard, one which reveals some of the frustrations in the life of a wandering poet and which also allows Guto to show off his knowledge of archery. The hospitality which Siancyn offers is the main theme throughout the poem. He is compared with Constantine, and Guto lists the various gifts which he hands out to poets (lines 1–20). Next Guto complains about the lack of enthusiasm which he find in other patrons. Siancyn is the only ox in the team which pulls its weight (21–4). The others merely parrot excuses while adopting English airs (25–32). In the rest of the poem Guto turns to archery to illustrate his theme. The reluctant patrons are like a bow made of inferior wood: it breaks if pressure is applied to it. How different from Siancyn, who is a good bow made by God’s own hand (39–44). He shoots presents unfailingly at his targets, the poets, and, what is more, they are golden arrows (45–56). The poem concludes with the familiar wish for long life for the patron.
Date
The poem is undated.
The manuscripts
There are four full copies of this poem, all very similar. The late copy in BL 31092 comes from LlGC 13062B. That in turn comes from C 5.44 or a very similar copy. There are two collections of extracts from the poem made by Siôn Dafydd Rhys in Llst 55. They contain very little of the text, and there is no indication that Siôn Dafydd Rhys was using more than one exemplar. It appears that his exemplar was closely related to C 5.44. Stowe 959 is again quite similar to C 5.44 but not as accurate. The edition is based on C 5.44 and Stowe 959, taking into account also the notes in Llst 55.
Previous edition
GGl poem LXXXIV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 62 lines.
Cynghanedd: croes 58% (36 lines), traws 19% (12 lines), sain 19% (12 lines), llusg 3% (2 lines).
1 ennyn Literally ‘kindle’, here figurative: Siancyn’s instinct is to set a spear in motion.
3 Cystennin The Roman emperor Constantine the Great (ruled 306–37 A.D.).
4 Selyf King Solomon, famous for his wisdom and for the justness of his legal decisions.
4 sylfaen trin The poets often compare their patrons to foundation stones. The force is that Siancyn is a sure support to his men in battle.
6 sŷl GPC 3381 ‘earth, ground, soil; base’. Only one other example is cited, from the works of the poet Hywel Rheinallt, and in a similar figurative context. The meaning is uncertain, but the word may be connected with sylfaen ‘foundation’ and sylwedd ‘substance’. There is a verb selu ‘look at’ or ‘aim at’ (GPC 3218 s.v. selaf1) but the third person singular present form is uncertain.
6 prifai-sêl A seal is a wax mark placed on a document to certify its authenticity. Every important person in the Middle Ages had his own personal seal. A privy seal (borrowed into Welsh as prifai-sêl) is a private, personal seal, especially that of the king of England. So Siancyn Havard is a ‘mark of authenticity’. For other examples of this image, see GPC 2887.
7 gadael This verb is often used in the praise poetry for God extending the patron’s life, cf. GGMD i, 2.24 Duw o’i adu.
8 Aberhodni Older form of Aberhonddu, Brecon.
9 eithr The simple meaning ‘but’ is insufficient here since the idea that Jesus has blessed Siancyn with his gifts does not contrast with the certainty expressed in the previous line that God will keep Siancyn alive. The poet emphasises not only that God maintains Siancyn but that he also created him in the first place. Translate ‘but indeed’ or ‘rather for sure’, etc.
21 min Mai Ploughing was done in the spring, cf. the famous poem ‘Cyntefin Ceinaf Amser’ which describes ereidir in rich ‘ploughs in furrow’ in this season (Bl BGCC 16.3). The thrust of 21–4 is that Siancyn is the only ox pulling his weight.
22 pen iau flaen The image of the yoke is often used in the cywydd poetry for the patron shouldering his responsibilities towards his community. This image was commonly developed by referring to the oxen as pen blaen and pen bôn – that is, the oxen at the front of the plough-team, which lead the way, and the oxen at the back, who bear the brunt of the work. For examples where these images are used to praise people, see GPC 2002 s.v. iau1 (in the combinations iau flaen and iau fôn) and 3749 s.v. ych1 (in the combination ych bôn).
32 swydd a breiniau Sais Following the revolt of Owain Glyndŵr the English Parliament approved strict measures against the Welsh, the famous ‘penal laws’. No Welshman was allowed to hold office in Wales and his word was not worth as much as that of an Englishman in court. The Welsh were also required to divide their lands between their heirs rather than passing them on entire to the eldest son, as was the English custom. Prominent Welshmen often tried to escape these fetters by purchasing the status of an Englishman (denizenship).
36 O frig yw afrywog ir Yew was the usual wood for making bows in the Middle Ages. Wood from the trunk is stronger than wood from the branches, which explains the dismissive reference to brig yw ‘top/branches of yew’ here. Knotted wood must also be avoided (afrywog here probably means irregular, knotty wood). Lastly, the wood needs to be seasoned for three or more years: wood which in Welsh would be called ir ‘fresh, green, straight from the tree’, is of no use. For all this see Hardy 2006: 55.
41 anelodd anelu can mean ‘bend’ or ‘draw’, in the case of a bow, as well as ‘aim’, see GPC2 269.
45 planc GPC 2816 s.v. planc1 and planc2. Could be ‘piece of wood’, figuratively for the patron as one who upholds, or ‘steed’, also figuratively for Siancyn.
47 purawr GPC 2934 s.v. puror2. Can refer to a harpist or a poet in particular.
50 gweision gwych The servants who wait on the poets, perhaps, but they could also be the poets themselves. gwas can mean ‘servant’ or ‘boy, lad, man’.
Bibliography
Hardy, R. (2006), The Longbow: A Social and Military History (Stroud)
Gwrthrych cerdd 31 yw gŵr o’r enw Siancyn Hafart. Ychydig iawn o wybodaeth a geir amdano yn y gerdd ac eithrio ei enw a’r ffaith fod ganddo gysylltiad â thref Aberhonddu. Nid yw Guto’n sôn dim am ei ach nac yn rhoi unrhyw awgrym o ddyddiad y canu, ond a barnu yn ôl llinell 46 nid oedd Siancyn yn ŵr ifanc iawn ar y pryd, ac mae’n amlwg ei fod wedi bod yn noddwr i feirdd ers rhai blynyddoedd.
Yr Hafartiaid
Daethai teulu Hafart i Frycheiniog gyda’r goncwest Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg, ond erbyn cyfnod Guto’r Glyn roeddent wedi ymgymreigio i’r fath raddau fel y gallai ef alw Siancyn Hafart yn hoyw Frytwn (2). Ni ellir lleoli gwrthrych y gerdd hon yn achau teulu Hafart fel y’u cyflwynir gan Bartrum (WG2 ‘Havard’ 1–9), a hynny am y rhesymau syml nad yw Guto yn enwi ei dad a bod nifer fawr o wŷr â’r enw Siôn neu Siancyn Hafart yn yr achau. Mewn gwirionedd ymddengys fod yr enwau Siôn a Siancyn yn ymgyfnewid â’i gilydd.
Noddwyr o’r enw Siancyn (Hafart)
Mae rhyw Siancyn Hafart o Frycheiniog yn wrthrych cywydd yn Pen 57, 63–5, llawysgrif sydd yn cynnwys copïau cynnar o waith Guto’r Glyn. Mae’r testun yn anghyflawn, ond ceir priodoliad posibl yno i fardd o’r enw Ieuan ap Gruffudd Goch. Ychwanegwyd y gerdd at y llawysgrif gan law C rywbryd ar ôl cyfnod gwaith y prif gopïwyr, A a B, a oedd yn gweithio c.1440. Nid enwir tad y Siancyn Hafart hwn. Mae’r cywydd nesaf yn Pen 57 hefyd yn canmol rhyw Siancyn ap Tomas ap Dafydd a gysylltir ag Aberhonddu, ac unwaith eto llaw C a’i copïodd yno. Mae’n anghyflawn, a’r tro hwn ni cheir priodoliad. Credir yn gyffredinol mai’r un gŵr yw gwrthrych y ddau gywydd hyn, tybiaeth ddigon rhesymol, ond ni ellir ei phrofi.
Os yr un gŵr yw gwrthrych y ddau gywydd, yna mae angen i ni ddod o hyd i ryw Siancyn Hafart a oedd yn fab i ŵr o’r enw Tomas. Ymgeisydd da yw Siancyn Hafart ap Tomas Hafart, bwrdais yn Aberhonddu, y disgrifir ei yrfa gan Ralph Griffiths (1972: 248–9). Byddai dyddiadau’r gŵr hwn (fl. 1399–1426) yn sicr yn cyd-fynd â dyddiadau cyffredinol y canu yn Pen 57, sy’n perthyn i ddegawdau cynnar y bymthegfed ganrif. Canwyd yr ail gywydd i ŵr a oedd newydd etifeddu statws ei dad, felly y tebyg yw, os cywir yw ei uniaethu â’r Siancyn Hafart y mae Griffiths yn sôn amdano, nad yw’r cywydd yn perthyn i gyfnod llawer yn ddiweddarach na diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Fodd bynnag, ni cheir unrhyw Siancyn ap Tomas ap Dafydd yn achau’r teulu, nac o ran hynny unrhyw Ddafydd o gyfnod addas. Mae’r cyfnod hefyd braidd yn gynnar ar gyfer Guto’r Glyn, nad oes cerddi hysbys ganddo cyn c.1436. Mae Griffiths yn uniaethu’r gŵr a flodeuai 1399–1426 â’r John ap Tomas Hafart ap Wiliam Hafart a geir yn fersiwn Lewis Dwnn o achau’r teulu (L. Dwnn: HV i: 102). Ond yn ôl amcangyfrif Bartrum byddai hwnnw wedi perthyn i’r drydedd genhedlaeth ar ddeg (WG2 ‘Havard’ 1, 8, 9), ac felly byddai’n gyfoeswr i Wiliam Herbert II, er enghraifft, nad oedd eto’n oedolyn pan laddwyd ei dad yn 1469 ac a fu farw yn y 1490au. Nid y John ap Tomas Hafart hwn oedd y gŵr a oedd yn ei flodau 1399–1426, er y gallai’n ddamcaniaethol fod wedi noddi cerdd Guto’r Glyn. Eto i gyd, gan fod achau Dwnn yn ei gysylltu ag Emlyn yn sir Gaerfyrddin, mae hyn yn annhebygol iawn. Yn GGl2 353 uniaethir gwrthrych y cywyddau yn Pen 57 â rhyw Siancyn ap Tomas ap Gwilym, ond fel y gwelwyd, Siancyn ap Tomas ap Dafydd oedd gwrthrych yr ail un o leiaf.
Erys hefyd y posibilrwydd nad yr un gŵr a ganmolir yn y ddau gywydd a geir yn Pen 57. Roedd bwrdais amlwg iawn o’r enw Tomas ap Dafydd yn Aberhonddu adeg gwrthryfel Owain Glyndŵr (Davies 1995: 18, 224). Ai ei fab ef yw gwrthrych yr ail gerdd yn Pen 57? Nid aelod o deulu Hafart mohono hyd y gwyddys. At ei gilydd nid yw’r cerddi yn Pen 57 yn torri’r ddadl ynglŷn â chywydd Guto’r Glyn.
Ceir cerddi gan Huw Cae Llwyd a Lewys Glyn Cothi i aelodau o deulu Hafart. Ni wyddys pwy yw’r Siancyn Hafart sy’n wrthrych HCLl cerdd XVIII, ond efallai fod y bardd yn ei alw’n ŵyr Ddafydd (33); os felly, dichon mai’r un ydyw â gwrthrych y cywydd(au) yn Pen 57. Siôn Hafart ap Wiliam ap Siôn a’i wraig Annes a gyferchir yn HCLl cerdd XX: perthynai ef i genhedlaeth 13 yn ôl WG2 ‘Havard’ 2 (‘John Dew’). Ef hefyd yw gwrthrych GLGC cerdd 138. Yn HCLl cerdd XVII comisiynwyd Huw i siarad yn llais un o’r Hafartiaid, yn cyfarch Wiliam Hafart (ap Tomas) o Aberbrân (Wiliam yw gwrthrych GDEp cerdd 7 hefyd). Enwir Siancyn yng nghywydd Huw (13), ond enw tad y noddwr dienw ydyw, nid enw’r noddwr ei hun (gthg. HCLl 17). Geilw Huw ei noddwr yn ewythr i Wiliam ac yn frawd tad Tomas Hafart, hynny yw, hen ewythr i Wiliam ydoedd, sef un o’r brodyr a nodir yn WG2 ‘Havard’ 1 dan genhedlaeth 11, meibion Siancyn Hafart ap Maredudd.
Yn sicr, cyfyd achau cynnar teulu Hafart nifer o gwestiynau nad oes modd eu hateb ar hyn o bryd. Y cwbl y gellir ei ddweud yw bod gwrthrych cywydd Guto’n perthyn i deulu amlwg iawn yn y dref, teulu a noddai’r beirdd yn helaeth, a’i fod yn dwyn enw a oedd yn nodweddiadol o’r teulu. Ni ellir ei ddyddio, ond awgrymir ei fod yn fyw c.1430–50.
Llyfryddiaeth
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Oxford)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)