Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 12 llawysgrif. Mae pob copi yn dilyn yr un drefn linellau ond collwyd y ddalen a gynhwysai bedair llinell gyntaf y cywydd yn LlGC 3061D, ac mae’n amlwg fod dau fersiwn o’r gerdd.
Ffynhonnell y fersiwn gyntaf o’r cywydd yw Pen 99. Ar yr olwg gyntaf, mae’n cynnig darlleniadau da ond wrth eu cymharu â’r darlleniadau a ddiogelwyd yn yr ail fersiwn, ni cheir cystal ystyr o ran cyd-destun a chynnwys. Copïwyd y gerdd yn union o Pen 99 gan Rowland Lewis o Fallwyd tua 1632 yn ei gasgliad ef, LlGC 566B. Mae trefn y cerddi’n awgrymu bod Pen 152 hefyd yn gopi o Pen 99 er bod rhai amrywiadau.
Mae’r ail fersiwn yn dilyn yr un drefn linellau â Pen 99 ond mae’r amrywiadau yn sylweddol. Perthyn LlGC 3061D, Pen 198 a LlGC Mân Adnau 1206B i’r grŵp hwn ac mae’n bosibl fod y ddau olaf yn gopïau o LlGC 3061D. O ran ystyr, mae’r darlleniadau yn well ond ceir hefyd reswm cryf arall dros gredu bod yr ail fersiwn hwn yn nes at y gynsail. Siôn Dafydd Laes, sef bardd proffesiynol Nannau yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a fu’n gyfrifol am LlGC 3061D tua 1690 ac mae’r llawysgrif yn gasgliad o gerddi i deulu Nannau a Chorsygedol. Mae’n bosibl, felly, fod ei ffynhonnell ef yn perthyn yn agos iawn i’r gynsail.
Trawsysgrifiadau: Pen 99 a LlGC 3061D.
3 wylo’n lli, mal yn llyn Ni chadwyd y pedair llinell gyntaf yn LlGC 3061D ond dichon mai’r un darlleniad yw’r un yn Pen 198: mae wylo lli mal y llyn. Mae darlleniad Pen 99 angen ei gywasgu: mae wylo yn lli mal yn llyn ac yn Pen 152 hepgorir yr ail yn sy’n rhoi n berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell. Dilynir Pen 99 yma.
4 yw Hepgorir yw ym mhob copi ac eithrio Pen 99. Dichon i’r copïwyr gymryd marw yn ddeusill a hepgor yw i arbed sillaf.
7 Hywel Sef darlleniad X1: pleidfab Howel oludfawr. Ceir a hap oludvawr gan Pen 99. Mae’r ystyr yn well o ddeall bod y bardd yn cyfeirio at ei noddwr fel mab i Hywel (ac mae’r darlleniad hwnnw hefyd yn rhoi cynghanedd groes o gyswllt).
8 pennaeth Nid yw’n eglur yn y copïau ai pen aeth neu pennaeth yw’r darlleniad yma ac mae’r ystyr hefyd ychydig yn niwlog. Gan na cheir copi cynnar iawn o’r cywydd mae’n bosibl i linellau gael eu colli yma a fyddai’n rhoi gwell ystyr.
12 dau wreiddyn Rhydd Pen 99 ddarlleniad unigryw yma sef da drwyddyn. Dilynir X1 felly.
13 y mae Ceir y darlleniad i mae yn LlGC 3061D ac y mae yn Pen 152 felly mae’r dystiolaeth yn gryfach tros gynnwys y yma. Hepgorir y yn Pen 99 ond caiff ei hychwanegu mewn llaw ddiweddarach.
14 mawr Dilynir darlleniad X1 yma yn hytrach na’r darlleniad marw sydd gan Pen 99. Mae’n fwy synhwyrol fod y bardd yn cyfeirio at Meurig fel un mawr ei glod.
16 a marw Mae’r llinell hon yn chwesill ym mhob llawysgrif ac eithrio LlGC 3061D sy’n cynnwys yr a ar y dechrau a dilynir hynny yma er mwyn hyd y llinell.
17 O farw ynn ddau mae’r fro’n ddig Dilynir X1 yma gan fod hynny’n fwy ystyrlon na darlleniad Pen 99 sef O farw /r/ ddav mae’r far ar ddig.
18 Hywel a Meurig Sef darlleniad X1 a Pen 152. Ceir sawl ‘Hywel’ a ‘Meurig’ ymysg teulu Nannau ond dichon mai cyfeiriad yw hwn at Hywel, hen ewythr i Meurig, a Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, tad Hywel, a hen daid Meurig (noddwr y gerdd hon). Yn Pen 99 ceir Hywel amhevrig sydd fel petai’n gyfeiriad at Hywel Selau ap Meurig Llwyd, tad Meurig Fychan y gerdd hon. O ran y cyd-destun mae’n well darllen Hywel a Meurig gan fod y bardd yn marwnadu dau ar y cyd yma (a chanodd Llywelyn Goch gerdd foliant i’r ddau frawd uchod ar y cyd, gw. GLlG cerdd 8). At hynny, dehonglir y cyfeiriad yn y llinell nesaf at ddau sant yn gyfeiriad at y ddau ŵr yma hefyd ynghyd â’r cyfeiriad ar ddau yn llinell 52, gw. nodyn esboniadol.
22 mae f’alar trwm Dyma ddarlleniad X1, sy’n cytuno â Pen 99, ond i’r f gael ei chroesi allan yno. Dichon i hynny ddigwydd gan fod ei chynnwys yn rhoi f berfeddgoll. Fodd bynnag, gellir ystyried bod alar yn ffurf gysefin (ac nid yn dreiglad meddal o galar), sef ‘blinder, diflastod, syrffed’, a deall mau alar trwm fel ‘eiddof fi yw galar dwys’.
26 ddwyn Awgryma’r angen am dreiglad meddal yma fod angen dilyn darlleniad X1. Didreiglad yw dwyn yn Pen 99.
27 ar ddwyddol Llinell astrus gan nad yw’r llawysgrifau yn cynnig darlleniadau boddhaol yma. Gan Pen 99 ceir Plwyfol ar y ddôl fv’r ddav ond mae hynny’n rhoi tair sillaf ddiacen yn hanner cyntaf y llinell (sy’n annerbyniol yn ôl CD 269). Mae X1 yn cynnig Plwyfol arwyddol fu’r ddau: cynghanedd wallus a’r ystyr eto’n niwlog (ystyr arwyddol yw ‘arwyddocaol’ ac ni cheir enghraifft cyn 1708 yn GPC 217). Awgrymir, yn betrus, ddiwygio’r darlleniad yn ar ddwyddol, er mwyn gwella’r aceniad a’r synnwyr: gw. ymhellach 27n (esboniadol).
29 a’m Dilynir LlGC 3061D yma yn hytrach na Pen 99 sy’n darllen a’n.
31 yma ein breuddwyd Darlleniad LlGC 3061D sy’n rhoi cynghanedd groes. Gan Pen 99 ceir iddyn y breuddwyd sy’n rhoi m wreiddgoll.
33 rhoed yr echwyn Darlleniad Pen 99 a X1 yw I drychant y rhoid echwyn ond mae’r gynghanedd yn wallus. Yn Pen 99 cywirwyd y llinell gan law ddiweddarach: I drychant y rhod{yr}echwyn a dilynir hynny yn GGl. Rhaid dilyn cywiriad Pen 99.
34 Heb rhoi cas, heb beri cwyn Mae’r llinell yn rhy fyr yng nghopi Pen 99 sef heb roi cas na bwrw cwyn, oni chyfrif bwrw yn ddeusill. Darlleniad X1 yw heb rhoi cas heb beri cwyn sy’n golygu i rh wrthsefyll treiglad yn dilyn heb. Wrth ddyblu b yn ail ran y llinell disgwylir calediad ac felly angen ateb p yn rhan gyntaf y llinell. Ond tybed a aeth b yn p o flaen rh? Mae’r ystyr yn llawer gwell hefyd o ddilyn darlleniad X1 gan mai ei foli am beidio achosi cwyn a wna’r bardd yn hytrach na bwrw cwyn.
35 bröydd a brig Dilynir X1 yma yn hytrach na Pen 99 bröydd na brig.
40 rhai Dilynir darlleniad X1 yma yn hytrach na Pen 99 aur, gan ddeall rhai yn oddrych y ferf. Mae’r ystyr yn well gan mai cyfeirio at gael ad-daliad mae’r bardd.
42 Dau olud teg a daly tŷ Mae’r gynghanedd yn wallus yn llawysgrifau X1 gan nad yw l yn cael ei hateb, dau o waed teg yn dal ty. Anodd yw gweld a oes bwlch yn Pen 99 gyda’r gair daly neu dal y ond mae ei ymestyn yn ddau air yn rhoi llinell wythsill. Dilynir Pen 99 yma felly.
45–6 Draw ni ddoeth drwy Wynedd iach / Deuryw enaid … Sef darlleniad X1. Mae Pen 99 yn cynnig darlleniad gwahanol eto sef Duw ni ddoeth dwy wynedd iach. Cyfeirio at Feurig ac Angharad y mae’r bardd yma ac nid yw sôn amdanynt yn dod i ddwy Wynedd yn ystyrlon (a disgwylid i dwy dreiglo). Gwell, felly, fod y bardd yn sôn iddynt ddod drwy Wynedd ac iddo honni na fu i ddau cystal â hwy droedio tir Gwynedd. Mae’n bosibl hefyd ei fod yn cyfeirio at abaty Cymer ac iddynt gael eu claddu yno yn y fynwent (deellir uwchlaw saint isod yn gyfeiriad at eu gorweddfan).
47 uwchlaw saint Mae darlleniad X1 yn rhagori yma ac yn osgoi r berfeddgoll: gthg. Pen 99 uwchlaw’r saint.
48 cyd-hun Darlleniad Pen 99 yw cytun ac yn X1 ceir cyd huno. Dilynir X1 yma ar sail ystyr ac mae’n bosibl mai hynny sydd hefyd yn Pen 99 ond gyda’r calediad d h = t.
50 dau’n ungrefft Rhaid ystyried y ddau ddarlleniad yn eu cyd-destun yma, sef darlleniad Pen 99: Dvw a roes wrda ai wraig / doe /n/ vn grefft … neu X1: Dvw a roes gwr da ai wraig / dau’n ungrefft. Gwell o ran ystyr yw bod y bardd yn cyfeirio eto at Feurig ac Angharad, sef y ddau sy’n ungrefft ‘o’r un ddawn’: pwysleisir yn y llinellau olaf hyn i Feurig ac Angharad gael eu huno’n un ac wrth ddilyn X1 mae’r ystyr yn llifo’n well tua’r diwedd.
51 Duw ddoe aeth â dau oedd un Ceir darlleniad gwahanol iawn gan Pen 99, sef I Dduw y ddaeth y ddau ddyn, ond o ran yr ystyr mae darlleniad X1 yn rhagori yma. Mae’r darlleniad â dau oedd un yn cyd-fynd â chynnwys y gerdd a bod y ddau wedi eu huno mewn angau.
Canwyd y farwnad hon i Feurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd o Nannau, Llanfachreth, a’i wraig Angharad ferch Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu o Linwent a fu farw tua’r un amser.
Hoelir y sylw ar haelioni Meurig o’r dechrau a mynega’r bardd ei fwriad i ddefnyddio ei ddysg farddol (cof, llinell 5) i ganu marwnad iddo. Cawn wybod am statws uchel Meurig fel gŵr y gyfraith (penrhaith) a phrif swyddog ardal Llanfachreth a Dolgellau (7–12). Cyfeirir at y farwolaeth fawr (8) sydd o bosibl yn gyfeiriad at haint a fu’n gyfrifol am farwolaeth ei noddwr (fel yr awgrymwyd gan Williams 2001: 611; gw. 8n isod).
Dysgwn yn y rhan nesaf fod gwraig Meurig, Angharad, hithau, wedi marw (15). Cymhara’r farwolaeth ddwbl i farwolaeth y ddau frawd Hywel a Meurig Llwyd; dywed Guto eu bod yn deilwng o’r un urddas â’r ddau frawd ac mai’r Un fodd yn y nef fyddant, sydd o bosibl yn gyfeiriad at eu claddu yn abaty Cymer fel y ddau frawd yn y gorffennol. Cwyna Guto am ei golled bersonol wrth iddo golli’r [ll]ew (Meurig) a’r [ll]oer (Angharad) o Foel Othrwm. Yna try at golled ehangach y gymuned, sy’n colli uchelwr a oedd yn fenthyciwr tiroedd hael ac yn cynnal gwleddoedd yn Nannau a oedd yn noddfa i’r tlawd (23–4). Colled i’r gwan a’r anghenus yn arbennig yw colli Angharad, y [w]raig o Wynedd (26). Dywed ymhellach fod y ddau’n ffyddlon i’w plwyf ac i’r ddwyddol, sef o bosibl dau o’u cartrefi yn yr ardal.
Try Guto nesaf at diroedd Meurig Fychan. Dywed fod Meurig yn rhentu tiroedd i drichant a mwy heb ddangos unrhyw arwydd o anghyfiawnder: ei dir ef oedd y tir mwyaf rhydd ar y ddaear (35–6). Roedd hefyd yn rhoi taliadau i’r beirdd a’r rheiny’n daliadau cyfiawn iawn (40). Yn wir, dymuna’r bardd i holl glod a bendith y beirdd fynd gyda Meurig ac Angharad i’r man lle claddwyd y ddau, yn abaty Cymer gerllaw eu cartref (43–4), lle claddwyd nifer o’r teulu o’u blaenau. Dymunir cwmnïaeth hir iddynt gyda’r saint yn yr abaty cysegredig lle bu i Dduw fynd â hwy at y ddau a oedd o’r un urddas â hwy, sef y brodyr Hywel a Meurig Llwyd.
Dyddiad
Yn ôl un ffynhonnell, bu farw Meurig Fychan yn y flwyddyn 1482, gw. RWM ii, 847 ac awgryma Jones (1953–6: 10) nad oedd llawer iawn o fwlch rhwng marwolaeth Meurig a’i fab Dafydd (bu farw Dafydd yn 1494). Byddai hynny’n ei wneud yn hen iawn o gofio iddo gael ei eni o gwmpas 1402. Yn ôl Pryce 2001: 286, bu farw Meurig yn nes at ganol y ganrif: ‘it was at some point in the middle decades of the fifteenth century that Meurig Fychan II of Nannau, member of a prominent local family of uchelwyr, and his wife Angharad were buried at Cymer’. Ceir y cyfeiriad olaf ato yn 1460, ond yna ceir bwlch yn llawysgrifau Nannau o 1460 hyd at 1480 ac awgryma Parry (1958: 89) mai rywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw (1460–1480) y bu Meurig farw. Gallwn awgrymu felly i’r cywydd hwn gael ei ganu yn y cyfnod hwn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LVIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 52 llinell.
Cynghanedd: croes 71% (37 llinell), traws 11% (6 llinell), sain 10% (5 llinell), llusg 8% (4 linell).
1 y Trihael Tri Hael Ynys Prydain, sef Nudd, Mordaf a Rhydderch, gw. TYP3 5–7.
2 Meurig Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd.
5 cof Efallai fod y bardd yn chwarae ag ystyr cof yma ac yn y llinell nesaf. Gellir ei ddeall i olygu ‘dawn farddol’; roedd y cof yn un o’r tri phwnc y disgwylid i’r beirdd eu cadw a’u diogelu. Gall ystyr modern cof, ‘dwyn i gof’, hefyd fod yn berthnasol a gall fod Guto yn dweud ei fod am ganu cân er mwyn cofio Meurig Fychan.
7 pleidfab Sef disgrifiad o Feurig Fychan. Gall plaid yn y cyfuniad hwn olygu ‘cefnogaeth’.
7 Hywel oludfawr Tad Meurig Fychan oedd Hywel Selau ap Meurig Llwyd a fu farw c.1402/4, gw. 49.16n. Ystyr goludfawr yw ‘â chyfoeth mawr’. Ymhellach am gyfoeth y teulu, gw. Parry 1958 ac Owen and Smith 2001: 113.
8 y farwolaeth fawr Ceir awgrym yma fod Meurig ac Angharad wedi marw oherwydd rhyw haint.
10 penrhaith Sef arweinydd y ‘rhaith’; corff o ddynion a gadarnhâi lw un o’r pleidiau mewn achos cyfreithiol, gw. Jenkins 1970: 104–7. Ond gall gyfeirio’n gyffredinol hefyd at ‘pennaeth, pen (y gyfraith), pendefig’. Enwir Meurig Fychan fel penrheithiwr llys Caernarfon yn 1444/5, gw. Ellis 1838: 89. Yn y blynyddoedd 1452/3 i 1453/4 bu’n dyst i wahanol achosion yn ymwneud â dwyn anifeiliaid yn yr ardal, gw. Parry 1958: 88–9.
10 Llanfachraith Sef amrywiad ar yr enw Llanfachreth, plwyf yng nghwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd, lle saif plasty Nannau hyd heddiw.
11 Dolgellau Y plwyf nesaf at Lanfachreth a thref farchnad bwysig yn yr Oesoedd Canol. Ceir corffddelw o hen daid Meurig Fychan, sef Meurig ab Ynyr Fychan, yn yr eglwys yno.
11 Nannau Gw. 49.3n Nannau. Yn Nannau, fe ymddengys, yr oedd Meurig Fychan ac Angharad yn byw: Meurig oedd unig etifedd Hywel Selau ac roedd yn ddwy oed pan fu farw ei dad. Dichon, felly, i Nannau fod yn gartref i’w warchodwr yn ogystal, sef ei ewythr Gruffudd Derwas, ond gw. 27n isod.
14 llwydwyn Ymddengys fod gan Meurig Fychan wallt wedi britho, cf. 49.13 A gwenllys Feurig wynllwyd.
15 Angharad Gwraig Meurig Fychan oedd Angharad ferch Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu o Linwent, gw. Angharad ferch Dafydd ap Cadwgan.
18 Hywel a Meurig Gw. 49.1n. a 49.1–2n.
19 dau sant Sef y brodyr Hywel a Meurig Llwyd, cf. 51–2.
21 llew Sef yr anifail a ddarlunnir ar arwyddlun herodrol teulu Nannau, cf. GLGC 234.8 llew Nannau a llin Ynyr (am Ruffudd Derwas).
21 Moel Othrwm Enw ar fynydd yn Llanfachreth; ceir y sillafiad Orthrwm hefyd yn 51.5 a cf. TA LVII.43–4 Aml denant mal ôd Ionawr, / A’th wŷr am Foel Orthrwm fawr (i Hywel ap Dafydd ap Meurig o Nannau), a gw. 51.5n (testunol). Credir yn gyffredinol fod Nannau wedi ei leoli ar odrau’r mynydd, gw. Rowlands 1976: 74: ‘it should be noted that the hill, on the slope of which Nannau is situated, is called “Moel Offrwm”, “the (bare) hill of sacrifice” ’. Yn ôl Thomas (1965–8: 98), fodd bynnag, lleolir y plasty hynafol rhwng Moel Cynwch a Moel Othrwm.
24 echwynnwr Sef ‘benthyciwr’ yma gw. GPC 1163.
27 ar ddwyddol Dehonglir dôl yn enw priod yn GGl. Yma diwygiwyd y darlleniad (gw. 27n (testunol)) a darllen ar ddwyddol gan awgrymu bod y bardd yn cyfeirio at ddau le (neu parth, gw. 29n) a oedd yn perthyn i deulu Nannau. Ystyr dôl yw ‘llecyn gwastad ar lan afon’ neu’n fwy manwl, y tir a amgylchid bron gan dro afon, gw. GPC 1073 (fel yn yr enw priod ‘Dolgellau’). Awgrymir yn betrus fod dwyddol yn golygu dwy aelwyd a oedd yn cael eu hamgylchynu gan afonydd. Dichon mai Nannau yw’r cyntaf, sef plas hael Hywel Selau, a’r ail, efallai, yn gartref i’r gŵr a’m porthai gynt, sef Gruffudd Derwas o bosibl. Nid yw lleoliad ei gartref ef yn hysbys ond awgrymir yn Richards (1964–6: 32) mai stad yn ‘ardal Islaw’r dref yw Derwas’, felly yr ochr draw i afon Wnion.
28 Hywel Selau Tad Meurig Fychan oedd Hywel ap Meurig Llwyd ap Meurig Fychan neu Hywel Selau, gw. 49.16n.
29 parth Sef ‘cartref’ neu ‘aelwyd’ yma, gw. GPC 2694.
29 y gŵr a’m porthai gynt Tybed ai cyfeiriad at Ruffudd Derwas yw hwn? Gw. Jones 1953–6: 9: ‘Gruffydd Derwas, brother of Hywel Selau, was guardian to the infant Meurig Vychan, and resided much at Nannau’. Er nad oes cerddi i Ruffudd wedi goroesi gan Guto, mae’n bosibl iawn iddo gynnig nawdd iddo yn gynharach yn ei oes. Fodd bynnag, erbyn i Lewys Glyn Cothi ganu moliant i Ruffudd a’i wraig Gwenhwyfar, dywed mai eraill sydd yn Nannau bellach, gw. GLGC 234.41–2 Yr awron mae rhai eraill / yn eu lle’n dwyn enw y llaill. Efallai, felly, mai at [b]arth gwahanol y cyfeirir yma, sef cartref Gruffudd Derwas.
30 porth Duw Ystyr porth yma yw ‘cymorth’, cf. 91.14 A’th enw, porth Duw i’th wyneb!
31 prudd Ceir dwy ystyr i prudd sef ‘doeth’ a ‘trist’; yr ail sydd orau yma.
31 breuddwyd Gall breuddwyd weithiau ddwyn ystyr negyddol mewn Cymraeg Canol, cf. GLlG 12.98; GMBr 1.1–2 a GSH 8.49–50; neu gall olygu ‘gobeithion’.
32 eog Meurig Fychan yw eog llin Meurig Llwyd. Mae trosiad yr eog yn dwyn i gof Eog Llyn Lliw, sef yr hynaf o blith y creaduriaid sy’n cynorthwyo marchogion Arthur i ganfod Mabon fab Modron yn chwedl ‘Culhwch ac Olwen’, gw. CO3 31–3; Jones 1951–2: 62–6. Mae lle i gredu bod Meurig Fychan yn ŵr oedrannus iawn pan fu farw. Rhoddir ei ddyddiad geni yn negawd cyntaf y ganrif.
32 Meurig Llwyd Sef taid Meurig Fychan, gw. 49.1–2n.
33–6 Rhydd y bardd sylwadau gwerthfawr yma am berthynas Meurig â’i denantiaid. Fe’i canmolir yn benodol am fod yn dirfeddiannwr teg a chlên, rhywbeth prin, o bosibl, ym Meirionnydd yn y cyfnod hwn. Fodd bynnag, dylid nodi’r hyn a ddywed Roberts (1963–4: 309) wrth drafod ffyniant stad Nannau a’r ymdrech i ganoli’r stad yn ystod cyfnod Meurig: ‘Prynwyd tiroedd oddi wrth berthnasau a chymdogion llai cefnog; prynwyd tiroedd eraill gan rai a syrthiodd ar ddyddiau blin a gorfod trosglwyddo eu cyfran am ryw reswm neu’i gilydd; a diau fod darnau eraill o dir wedi eu cael trwy ffyrdd llai cyfreithiol fyth. Erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd gan Nannau diroedd o Lanfachreth drwy’r Brithdir, Garthgynfawr a Dolgellau, i lawr hyd Lwyngwril ar hyd arfordir Ardudwy hyd Benrhyndeudraeth; ac i’r mynydd hyd y Migneint. Dyma’r teulu pwysicaf, a’r cyfoethocaf hefyd, efallai, yn Sir Feirionnydd.’ Am sefyllfa tiroedd rhydd yng nghwmwd Tal-y-bont yn ystod oes Meurig Fychan a’i ddisgynyddion, gw. Thomas 2001: 191–2: ‘Meurig Fychan, his son Dafydd, and his grandson Hywel extended their patrimony … mainly at the expense of their fellow free tenants.’ Daeth lladrata anifeiliaid, llosgi tai, anghydfod rhwng teuluoedd oherwydd tiroedd ac ati yn gyffredin iawn yn ardal Dolgellau (Evans 1995: 52) ac os na fu Meurig Fychan yn rhan o hynny, dichon fod ei berthnasau yn euog. Cf. y cywydd a ganodd Tudur Penllyn i gymodi rhwng Hywel ap Gruffudd ap Siancyn a Hywel ap Gruffudd Derwas, ewythr Dafydd ap Meurig Fychan, gw. GTP cerdd 22.
40 coffr Duw Defnyddir coffr ‘cist, yn enw. y math y cedwid trysorau ac eiddo ynddi’ yn ffigurol am ‘gronfa, trysorfa’ yn gyffredinol, gw. GPC 539, cf. 9.81–2 Mawr o dâl am aur o’i du / A gaiff Rhys o goffr Iesu.
44 Cymer Sef abaty Cymer yn Llanelltyd yng nghwmwd Tal-y-bont, Meirionnydd. Cymer oedd y fynachlog Sistersaidd leiaf yng Nghymru a’r unig un ym Meirionnydd, gw. ‘Monastic Wales’. Yno, fe ymddengys, y claddwyd Meurig ac Angharad ar sail tystiolaeth y cywydd hwn, ac yn ôl ewyllys eu mab, Dafydd ap Meurig Fychan, yno y byddai ef yn cael ei gladdu (bu farw yn 1494). Ceir llawer o wybodaeth am yr abaty yn llawysgrifau Nannau, ymhellach gw. Butler and Smith 2001: 297–325.
50 y Wengraig Gw. 49.7n.
52 ar ddau Deellir ar yn ffurf ar ‘at’, gw. GPC 173 d.g. ar7 ‘at, i (wrth gyflwyno’r lle neu’r person y cyrchir ato)’ ac mai neges y bardd yw bod Meurig ac Angharad yn mynd at ddau sydd urddas uddyn’, sef y ddau a ddisgrifir fel y ddau sant yn 18, Hywel a Meurig (gw. 49.1n a 1–2n).
Llyfryddiaeth
Butler, L.A.S. and Smith, J.B. (2001), ‘The Cistercian Order: Cymer Abbey’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 297–325
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel: Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid Cymru’r Oesau Canol (Llandysul)
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Jones, T. (1951–2), ‘Chwedl yr Anifeiliaid Hynaf’, Cylchg LlGC vii: 62–6
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’, (M.A. Cymru [Bangor])
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1964–6), ‘Rhai Enwau Lleoedd’, B xxi: 30–42
Roberts, E.P. (1963–4), ‘Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a’i Geraint’, Cylchg CHSFeir IV: 302–17
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Thomas, C. (1965–8), ‘The Township of Nannau, 1100–1600 A.D.’, Cylchg CHSFeir 5: 97–103
Thomas, C. (2001), ‘Rural Society, Settlement, Economy and Landscapes’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 168–224
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
‘Monastic Wales’ www.monasticwales.org
This elegy is for Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd of Nannau, Llanfachreth and his wife Angharad daughter of Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu of Llinwent who died about the same time.
Guto concentrates on Meurig’s generosity from the beginning of the poem, declaring that he will use his bardic knowledge (cof, line 5) to compose his elegy for Meurig. He mentions that Meurig was a man of great status as a penrhaith and a chieftain of Llanfachreth and Dolgellau (7–12). He also refers to the farwolaeth fawr ‘the great death’, possibly a reference to the plague that killed his patron (as suggested by Williams 2001: 611; see below 8n).
We learn in the next section that Meurig’s wife, Angharad, has also died (15). Guto compares their deaths to that of the two brothers Hywel and Meurig Llwyd and claims that they are worthy of the same honour. This may be a reference to the fact that Meurig and Angharad were buried on the land of Cymer abbey as were the brothers. Guto mourns his loss, comparing Meurig to a lion and Angharad to the moon, before turning his attention to the loss felt by the wider community. Meurig was a generous lender of land and a provider of great feasts and his home was always open to the poor (23–4). The loss of Angharad, ‘the lady from Gwynedd’, was especially worrying for the weak and needy (26). Guto implies that both she and her husband were faithful towards their parish and their dwyddol, ‘two meadows’ or homes.
Meurig’s land is the subject of the next section. According to the poet, Meurig rented lands to more than three hundred tenants without showing any sign of injustice: it was the land with the greatest freedom on earth (35–6). Meurig was also generous in his payments to the poets and therefore an excellent patron (40). Indeed, Guto hopes that the praise and the blessing of the poets will accompany Meurig and Angharad to their place of rest in Cymer abbey, near their home (43–4), where other members of the family had been laid to rest in the past. He wishes them a long residence in the company of saints at the abbey where God has taken them to rest with the brothers Hywel and Meurig Llwyd.
Date
According to one source, Meurig Fychan died in 1482, see RWM ii, 847, and Jones (1953–6: 10) suggests he died only a few years before his son, Dafydd (who died in 1494). He would have been very old considering that he was born about 1402. Pryce (2001: 286) suggests a date closer to the middle of the fifteenth century: ‘it was at some point in the middle decades of the fifteenth century that Meurig Fychan II of Nannau, member of a prominent local family of uchelwyr, and his wife Angharad were buried at Cymer’. There is a gap in the collection of the manuscripts of Nannau from 1460 to 1480 and Parry (1958: 89) suggests that Meurig may have died during this period. We can suggest, therefore, that this elegy was composed 1460–80.
The manuscripts
This poem occurs in 12 manuscripts. There are clearly two versions of the poem. The first derives from Pen 99 (c.1617), of which LlGC 566B and Pen 152 are copies. The second version derives from LlGC 3061D and although the same line order occurs, it does have some very different readings. Siôn Dafydd Laes copied LlGC 3061D about the year 1690 (Pen 198 and LlGC Mân Adnau 1206B seem to be copies). He was the professional poet at Nannau during the seventeenth century and his version, therefore, could indeed be more closely related to the original version of the poem.
Previous edition
GGl poem LVIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 52 lines.
Cynghanedd: croes 71% (37 lines), traws 11% (6 lines), sain 10% (5 lines), llusg 8% (4 lines).
1 y Trihael The ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads: Nudd, Mordaf and Rhydderch, see TYP3 5–7.
2 Meurig See Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd.
5 cof The poet is probably playing on the meanings of cof which can refer to ‘memory’ in general, or more specifically to one of the three poetic lores which the poets were expected to preserve and protect. The modern meaning ‘remembrance’ might also be valid here if the meaning is that Guto is composing his cywydd to ‘remember’ Meurig Fychan.
7 pleidfab A description of Meurig Fychan as a supportive son of Hywel.
7 Hywel oludfawr Meurig Fychan’s father was Hywel ap Meurig Llwyd or Hywel Selau who died in c.1402/4, see 49.16n. The meaning of [g]oludfawr is ‘wealthy’; for further information about the family’s wealth see Parry 1958 and Owen and Smith 2001: 113.
8 y farwolaeth fawr It is suggested here that Meurig and Angharad were victims of a deadly plague. However, the poets very rarely mention the cause of death in an elegy and this phrase is very peculiar here. Indeed, something could be missing from the text here, especially as there are no copies of the poem before the seventeenth century.
10 penrhaith The chief compurgator or the foreman of a jury, see Jenkins 1970: 104–7; or simply ‘chief, head (of the law), lord, sovereign’. Meurig Fychan is named as the penrheithiwr of Caernarfon court in 1444/5, see Ellis 1838: 89. In the years 1452/3 to 1453/4 he was a witness in various cases involving the stealing of animals in the area, see Parry 1958: 88–9.
10 Llanfachraith A variant on the place name Llanfachreth, a parish in the commote of Tal-y-bont, Merionnydd, where Nannau still stands today.
11 Dolgellau The parish next to Llanfachreth and an important market town in the Middle Ages. At Saint Mary’s Church, Dolgellau, there is an effigy of Meurig ab Ynyr Fychan, Meurig Fychan’s grandfather.
11 Nannau See 49.3n. It seems that Meurig Fychan and Angharad lived at Nannau: Meurig was the sole heir of Hywel Selau and was only two years old when his father died. Presumably Nannau became the home of his protector too, his uncle Gruffudd Derwas, but see 27n.
14 llwydwyn Meurig Fychan seems to have had grey hair, cf. 49.13 A gwenllys Feurig wynllwyd ‘and the blessed hall of white- and grey-haired Meurig’.
15 Angharad The wife of Meurig Fychan was Angharad daughter of Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu of Llinwent, see Meurig Fychan.
18 Hywel a Meurig See 49.1n and 49.2n.
19 dau sant A reference to Hywel and Meurig Llwyd as saints (cf. 51–2 ).
21 llew A lion is one of the images on the Nannau coat of arms, cf. GLGC 234.8 llew Nannau a llin Ynyr ‘lion of Nannau and Ynyr’s lineage’ (for Gruffudd Derwas).
21 Moel Othrwm A mountain in Llanfachreth; the variant Orthrwm is also used. It seems that Nannau was located at the foot of the mountain, see Rowlands 1976: 74: ‘it should be noted that the hill, on the slope of which Nannau is situated, is called “Moel Offrwm”, “the (bare) hill of sacrifice” ’. However, according to Thomas (1965–8: 98) the old house was between Moel Cynwch and Moel Othrwm.
24 echwynnwr ‘Lender’ here, see GPC 1163.
27 ar ddwyddol That is, dwy ‘two’ and dôl ‘meadow, dale, field’, or more specifically the land surrounding the turn of a river, see GPC 1073 (as in the place name ‘Dolgellau’). The poet could be referring to two places, or possibly houses (see 29n parth) which were part of the Nannau estate; houses surrounded by rivers. Presumably, the first house was Nannau itself, plas hael ‘the generous hall’ of Hywel Selau, and the second might be the home of the one a’m porthai gynt ‘who once supported me’, possibly Gruffudd Derwas. The location of his home is unknown; however, Richards (1964–6: 32) suggests that Derwas was an estate in ‘the region of Islaw’r dref’, on the other side of the river Wnion.
28 Hywel Selau Hywel ap Meurig Llwyd ap Meurig Fychan or Hywel Selau was the father of Meurig Fychan, see 49.16n.
29 parth ‘Home’ here, see GPC 2694.
29 y gŵr a’m porthai gynt Is it likely that this is a reference to Gruffudd Derwas? See Jones 1953–6: 9: ‘Gruffydd Derwas, brother of Hywel Selau, was guardian to the infant Meurig Vychan, and resided much at Nannau.’ No poems have survived to Gruffudd by Guto’r Glyn, but it is quite possible that he did patronize him when Guto was younger. However, by the time Lewys Glyn Cothi praised Gruffudd and his wife Gwenhwyfar, others were living at Nannau, see GLGC 234.41–2. Possibly, this is a reference to a different parth; the home of Gruffudd Derwas.
30 porth Duw The meaning of porth here is ‘support’, cf. 91.14 A’th enw, porth Duw i’th wyneb! ‘and your renown, may God’s gate be before you!’
31 prudd It seems that the meaning of prudd here is ‘sad’ and that breuddwyd has a negative meaning.
32 eog The poet describes Meurig Fychan as an eog ‘salmon’, a metaphor for someone very old and wise. One of the oldest creatures in the story ‘Culhwch ac Olwen’ was Eog Llyn Lliw and he assisted Arthur and his knights in finding Mabon Fab Modron, see CO3 31–3; Jones 1951–2: 62–6. Meurig Fychan might indeed have been a very old man when he died considering that he had been born sometime in the first decade of the fifteenth century, see Meurig Fychan.
32 Meurig Llwyd The grandfather of Meurig Fychan, see 49.1–2n.
33–6 Here the poet notes some valuable comments about Meurig’s relationship with his tenants. He is specifically praised for being a fair and kind landowner, a rarity in Meirionnydd in this period. However, one should note Roberts’s comments while discussing the growth of the Nannau estate during the fifteenth century (1963–4: 309); she explains that the family increased its lands often by buying from noblemen who had fallen into debt, and even sometimes by less lawful methods. For the situation regarding free lands in the commote of Tal-y-bont in this period, see Thomas 2001: 191–2: ‘Meurig Fychan, his son Dafydd, and his grandson Hywel extended their patrimony … mainly at the expense of their fellow free tenants.’ Indeed, stealing animals, burning down houses and disagreements over land within families were very common around the Dolgellau area (Evans 1995: 52) and if Meurig Fychan was not involved, some of his relatives could well have been, cf. the poem by Tudur Penllyn to bring about reconciliation between Hywel ap Gruffudd ap Siancyn and Hywel ap Gruffudd Derwas (Dafydd ap Meurig Fychan’s uncle), GTP poem 2.
40 coffr Duw ‘Coffer’, ‘a box, chest in which money or valuables are kept’, often used figuratively for ‘fund, treasury’ in general, see GPC 539, cf. 9.81–2 Mawr o dâl am aur o’i du / A gaiff Rhys o goffr Iesu ‘Rhys will have great payment / for his gold from Jesus’s coffer.’
44 Cymer Cymer abbey in Llanelltyd in the commote of Tal-y-bont. It was the smallest Cistercian abbey in Wales and the only one in Meirionnydd, see ‘Monastic Wales’. Meurig and Angharad were laid to rest in this abbey according to the poem, and according to the will of their son, Dafydd ap Meurig, he was also to be buried there (he died in 1494). The history of the abbey is well documented in the Nannau manuscripts, see Butler and Smith 2001: 297–325.
50 y Wengraig See 49.7n.
Bibliography
Butler, L.A.S. and Smith, J.B. (2001), ‘The Cistercian Order: Cymer Abbey’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 297–325
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’, (London)
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel: Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid Cymru’r Oesau Canol (Llandysul)
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, JMHRS 2: 5–15
Jones, T. (1951–2), ‘Chwedl yr Anifeiliaid Hynaf’, Cylchg LlGC vii: 62–6
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’, (M.A. Cymru [Bangor])
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1964–6), ‘Rhai Enwau Lleoedd’, B xxi: 30–42
Roberts, E.P. (1963–4), ‘Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a’i Geraint’, JMHRS IV: 302–17
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Thomas, C. (1965–8), ‘The Township of Nannau, 1100–1600 A.D.’, JMHRS 5: 97–103
Thomas, C. (2001), ‘Rural Society, Settlement, Economy and Landscape’, Smith, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 168–224
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
‘Monastic Wales’ www.monasticwales.org
Cerddi Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi i Feurig Fychan ap Hywel a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Canodd gywydd mawl (cerdd 49) a chywydd marwnad (cerdd 50) i’r pâr; bu eu mab, Dafydd ap Meurig Fychan, yntau’n noddi Guto. Ceir trafodaeth lawn am y teulu gan Jones (1953–6: 5–15) a Vaughan (1961–4: 119–21, 204–8).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Teulu Nannau
Roedd teulu plas Nannau ym mhlwyf Llanfachreth yn ddisgynyddion i Fleddyn ap Cynfyn, brenin Powys o 1063 i 1075. Bu farw Cadwgan, mab Bleddyn, yn 1111, ac mae’n debyg mai ef oedd y cyntaf o’r teulu i ymgartrefu yng Nghefn Llanfair, sef yr enw cynharaf ar y stad (Thomas 1965–8: 98). Ef, yn ôl Robert Vaughan, a adeiladodd y tŷ cyntaf yno, a disgrifiodd yr adeilad fel ‘the stateliest structure in all North Wales’ (Vaughan 1961–4: 119). Ychydig a wyddom am y teulu hyd at amser Ynyr Hen ap Meurig, gorwyr i Gadwgan ap Bleddyn a drigai yn Nannau yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd ganddo dri mab, sef Ynyr Fychan, Anian a Meurig Hen. Yr hynaf, Ynyr Fychan, yw cyndad y llinach a drafodir yma. Ymhellach, gw. Hughes 1968–9: 157–66; Williams 2001: 611.
Hywel ap Meurig Fychan a’i frawd, Meurig Llwyd
Roedd Meurig Fychan ab Ynyr Fychan yn ŵr pwysig yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir corffddelw ohono, a ddyddir c.1345, yn eglwys y Santes Fair yn Nolgellau (Siddons 2001: 631; Gresham 1968: 190–2). Hywel ap Meurig Fychan oedd ei fab hynaf, gŵr a ddaliodd fân swyddi lleol yn 1391/2 ac eto yn 1395/6. Awgrymwyd mai cartref Hywel oedd Cae Gwrgenau ger Nannau, ond dadleuodd Richards (1961–2: 400–1) y gall mai Cefn-yr-ywen Uchaf a Chefn-yr-ywen Isaf oedd cartrefi Hywel a’i frawd, Meurig, deiliad Nannau. Fel ei gyndeidiau, bu Meurig yn rhaglaw cwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 a rhannai’r cyfrifoldeb am havotry Tal-y-bont gyda’i frawd, Hywel. Yn 1399/1400 enwir Meurig fel wdwart cwmwd Tal-y-bont, ac roedd yn rhannol gyfrifol am havotry Meirionnydd (Parry 1958: 188–9). Bu’r ddau frawd yn noddwyr hael i’r beirdd. Canodd eu hewythr, Llywelyn Goch ap Meurig Hen, gerdd o foliant iddynt (GLlG cerdd 8) a chanodd Gruffudd Llwyd gywyddau mawl a marwnad i Feurig Llwyd (GGLl cerddi 14 a 15; Johnston 1990: 60–70).
Etifeddodd Meurig Llwyd blasty Nannau, ac ef, fe ymddengys, oedd yn byw yno ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd Meurig a’i wraig, Mallt, nifer o blant, ond y ddau fab enwocaf oedd Hywel Selau a Gruffudd Derwas, noddwyr beirdd megis Lewys Glyn Cothi. Gwraig Hywel Selau oedd Mali ferch Einion, modryb i Ruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif troes Hywel Selau ei gefn ar achos ei gefnder, Owain Glyndŵr, gan ochri â Harri IV. O ganlyniad, llosgwyd plas Nannau i’r llawr ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Yn ôl traddodiad, bu Hywel Selau yntau farw ar dir Nannau yn 1402 dan law lluoedd Owain, a rhoddwyd ei gorff mewn ceubren gerllaw. Gelwid y pren o hynny ymlaen yn Geubren yr Ellyll (Parry 1965–8: 189). Er na ellir rhoi coel ar y chwedl honno, y tebyg yw bod Hywel Selau wedi marw oddeutu 1402.
Meurig Fychan ap Hywel Selau
Ymddengys fod Meurig Fychan yn ddwy oed pan fu farw ei dad, Hywel Selau, c.1402. Ac yntau’n rhy ifanc i etifeddu Nannau, fe’i magwyd gan ei ewythr, Gruffudd Derwas. Erbyn dauddegau’r bymthegfed ganrif ymddengys fod Meurig yn ddigon hen i etifeddu Nannau. Mewn stent yn 1420 rhestrir Meurig a’i ewythr, Gruffudd Derwas, fel perchnogion tiroedd yn ardal Nannau (Owen and Smith 2001: 113), a chofnodir eu henwau fel deiliaid melin Llanfachreth yn 1444/5 (Parry 1965–8: 190). Gwerthodd Gruffudd Derwas ddau dyddyn i Feurig yn 1451, ond nodir mai tenantiaid rhydd oedd y ddau o hyd. Yn 1452/3 enwir Meurig a Gruffudd Derwas fel ffermwyr melin Llanfachreth.
Ceir tystiolaeth fod Meurig yn weithgar ym maes y gyfraith. Nodir ei enw fel tyst ar sawl achlysur yn llysoedd Caernarfon a Dolgellau (Ellis 1838: 89). Yn 1452/3 fe’i henwir gyda’i gefnder, Hywel ap Gruffudd Derwas, fel tyst mewn achos yn Nolgellau, ac mewn achos llys yng Nghaernarfon yn 1453/4 enwir Meurig fel gŵr y lladratwyd ei eiddo. Cofnodir enwau nifer o ladron anifeiliaid a oedd wedi dwyn o Nannau, tystiolaeth werthfawr i’r lladrata mynych a ddigwyddai yn y bymthegfed ganrif. Nid yw fawr o syndod fod Guto’n darlunio Meurig fel gŵr a oedd â’i fryd ar gadw trefn.
Nid yw dyddiad marw Meurig yn hysbys yn sgil bwlch yng nghasgliad llawysgrifau Nannau rhwng 1460 a 1480. Ceir y cyfeiriad olaf ato yn 1460. Nodir yn RWM II: 847 iddo farw yn y flwyddyn 1482, ond deil Pryce (2001: 286) mai’n bur fuan wedi 1461 y bu farw. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto iddo, fe’i claddwyd yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau (50.44).
Angharad ferch Dafydd
Roedd Angharad, gwraig Meurig Fychan, yn ferch i Ddafydd ap Cadwgan o Linwent yn Llanbister, sir Faesyfed. Roedd yn ddisgynnydd i Elystan Glodrydd (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 30) ac mewn llinach a fu’n noddi beirdd er y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd Angharad yn chwaer i Ddafydd Fychan (un o noddwyr Huw Cae Llwyd, HCLl XXIII) ac felly’n fodryb i Faredudd ap Dafydd Fychan (un o noddwyr Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 181). Roedd hi hefyd yn fodryb i Elen Gethin, gwraig Tomas Fychan o Hergest, mab Syr Rhosier Fychan a Gwladus Gam. Ail ŵr Gwladys Gam oedd Syr Wiliam ap Thomas o Raglan. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto i Feurig ac Angharad, bu farw Angharad tua’r un pryd â’i gŵr, o bosibl yn sgil yr un afiechyd, ac fe’i claddwyd gydag ef yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau.
Llyfryddiaeth
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales (Cardiff)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Johnston, D. (1990), ‘Cywydd Marwnad Gruffudd Llwyd i Hywel ap Meurig o Nannau’, YB XVI: 60–70
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Parry, B.R. (1965–8), ‘Hugh Nanney Hên (c.1546–1623), Squire of Nannau’, Cylchg CHSFeir 5: 185–207
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1961–2), ‘Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Chae Gwrgenau’, Cylchg LlGC xii: 400–1
Siddons, M.P. (2001), ‘Heraldry’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 629–48
Thomas, C. (1965–8), ‘The Township of Nannau, 1100–1600 A.D.’, Cylchg CHSFeir 5: 97–103
Vaughan, M. (1961–4), ‘Nannau’, Cylchg CHSFeir 4: 119–21, 204–8
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
Gw. Meurig Fychan ap Hywel Selau ac Angharad ferch Dafydd o Nannau