Y llawysgrifau
Ceir copi o’r gerdd hon mewn 51 llawysgrif, yn ymestyn o hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ar bymtheg. Fel y gellid disgwyl, testunau o’r gogledd-ddwyrain yw mwyafrif y rhai hynaf, ac ar y cyfan mae testunau BL 14967 a LlGC 17114B yn rhagori a dibynnwyd yn helaeth arnynt wrth lunio’r testun golygedig.
Cyn diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ceid copïau yn Nyffryn Clwyd ac yn Nyffryn Conwy (e.e. C 2.114, BL 14866, LlGC 8497B, ond nid yng ‘nghynsail goll Dyffryn Conwy’), ym Môn (e.e. BL 14906, BL 14885), yn nyffryn afon Hafren (Brog I.1) ac erbyn dechrau’r ganrif ddilynol yn nwylo Llywelyn Siôn yn ne-ddwyrain Cymru. Yn wahanol i’r cerddi eraill a gadwyd i’r Abad Dafydd gan Guto, mae cryn amrywio rhwng y testunau cynharaf, o ran darlleniadau (mân wahaniaethau gan amlaf, ond ambell i un mwy sylweddol), ac o ran trefn llinellau (gw. isod am drefn llinellau testunau’r unfed ganrif ar bymtheg).
Mewn dyrnaid o lawysgrifau (yn cynnwys Llst 117, a gopïwyd gan Ieuan ap Wiliam ap Dafydd o Riwabon yn 1542–54, hefyd C 2.114 [ii], J 139, LlGC 6735B, 184, C 4.10) mae’r testun yn cychwyn yn llinell 27, sef yn fras lle mae rhan grefyddol y gerdd yn dechrau. Tybed a ystyriwyd y rhan hon yn annibynnol ers yn gynnar iawn yn hanes y gerdd?
Bu’n amhosibl olrhain y llawysgrifau i un gynsail, ac mae’r amrywio a geir yn nhystiolaeth y llawysgrifau hynaf sydd wedi goroesi yn awgrymu bod sawl fersiwn o’r gerdd wedi datblygu cyn eu cofnodi. Ni fu modd cyflwyno stema arferol, a hyd yn oed wrth geisio rhannu’r llawysgrifau’n grwpiau bras cafwyd trafferth gan fod gwahanol ddarlleniadau yn awgrymu patrymau grwpio amrywiol, o bosibl gan fod croes ddylanwadu rhwng y testunau a’r un cyfnewidiadau wedi digwydd yn annibynnol. Ymddengys iddo fod yn gywydd poblogaidd iawn, ac er bod nifer cymharol fawr o gopïau wedi eu diogelu, mae’n amlwg fod llawer hefyd wedi eu colli.
Fel y gwelir o’r nodiadau isod mae nifer o ddarlleniadau unigryw yn rhai o’r llawysgrifau hynaf sy’n awgrymu na ddefnyddiwyd hwy gan gopïwyr diweddarach (e.e. Brog I.1, LlGC 17114B (→ C 5.167), LlGC 8497B, BL 14967, Ba (M) 6, &c.). LlGC 17114B (→ C 5.167) a BL 14866 yw’r unig ddwy sydd wedi diogelu’r ddau gwpled 43–6. Mae’n bosibl fod rhai o’r amrywiadau wedi codi yn annibynnol ar ei gilydd yn hanes y trosglwyddo, ond mae ambell i amrywiad mwy sylfaenol yn awgrymu mai copïydd neu ddatgeiniad oedd yn gyfrifol. Er enghraifft, mae mwyafrif y llawysgrifau yn darllen A thrwy’r gerdd athro yw’r gŵr yn llinell 4, ond gan BL 14967, C 2.114 [i], BL 14979, BL 14906, BL 14855, Pen 84 a C 2.627 ceir A naddu’r gerdd a wna’r gŵr. Yn yr un modd i’m arfeddyd yw darlleniad y mwyafrif o’r llawysgrifau yn llinell 47, ond yn yr ennyd a ddarllenir yn C 2.114 [i], BL 14979, BL 14906, BL 14885. Mae’r ffaith fod y pedair hyn yn rhannu’r un darlleniad yn llinell 4 yn awgrymu perthynas rhyngddynt, ond hefyd mae’r ffaith fod BL 14967, Pen 84 a C 2.627 yn darllen im arfeddyd (y darlleniad cywir) yn awgrymu eu bod yn nes at eu cynsail yn achos y llinellau hyn. Ar y llaw arall ceir yn Pen 84 a C 2.627 o Dduw gwyn (49), mae’r llinell ar goll o BL 14967, ac mae gweddill y grŵp hwn yn darllen mhau Dduw gwyn (y darlleniad cywir) gyda mwyafrif y llawysgrifau eraill. Ceir y math hwn o gymhlethdod yn aml yn y darlleniadau, sy’n awgrymu’n gryf fod llawer o’r dystiolaeth wedi ei cholli.
Yn gyffredinol mae testun llwgr Brog I.1 yn perthyn yn fras i’r un grŵp â LlGC 17114B, ac felly hefyd BL 14866 a C 2.4. Hefyd mae C 2.114 [i] a BL 14979 yn perthyn yn agos i’w gilydd, yn tarddu o’r un gynsail, ac yn fras i’r un grŵp â BL 14967 a Llst 117. Ansicr yw tystiolaeth LlGC 8497B: fel y gwelir isod, ceir ambell ddarlleniad cwbl unigryw, ond digon synhwyrol ynddi. O ran trefn ei llinellau, a rhai darlleniadau allweddol, ymddengys ei bod yn perthyn i’r un teip â Pen 84, C 2.627 a Ba (M) 6, llawysgrifau Llywelyn Siôn, a CM 244 (→ C 5.10). Mae Llywelyn Siôn yntau’n tueddu i gynnig darlleniadau unigryw, a gallwn dybio mai ymgais ganddo ef i wella ar ei gynsail fu’r rheswm; bu rhaid eu gwrthod yn aml oherwydd diffyg cefnogaeth gan lawysgrifau hŷn.
Mae llawer mwy o gysondeb yn nhystiolaeth llawysgrifau’r ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed. Erbyn hynny roedd natur trosglwyddo cerddi wedi sefydlogi a’r testunau’n cael eu copïo o destunau ysgrifenedig.
Yn y nodiadau isod cyfyngwyd y sylwadau gan fwyaf i lawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg.
Trawsysgrifiadau: Llst 117, BL 14967, LlGC 17114B, C 2.114 [i], BL 14866.
Trefn llinellau llawysgrifau’r 16g.
Llst 117, C 2.114 [ii]: | [1–26], 27–44, [45–6], 47–50, [51–4], 55–74. |
BL 14967: | 1–42, [43–4], 45–50, [51–2], 53–74. |
Brog I.1: | 1–12, [13–14], 15–26, 29–31, 27–8, 32–42, [43–4], 45–7, [48], 49–52, [53–72], 73–4. |
LlGC 17114B: | 1–12, [13–14], 15–74. |
C 2.114 [i], BL 14979: | 1–38, 43–4, [45–6], 47–52, 39–42, 53–74. |
LlGC 8497B: | 1–42, [43–4], 45–62, [63–4], 65–74. |
Pen 84, C 2.627, Ba (M) 6: | 1–42, [43–4], 45–72. |
BL 14866: | 1–18, 21–2, 19–20, 23–42, 45–6, 43–4, 47–74. |
C 2.4: | 1–18, 21–2, 19–20, 23–6, [27–8], 29–44, [45–6], 47–74. |
BL 14906: | 1–43, [45–6], 47–58, [59–60], 61–74. |
BL 14885: | 1–38, 43–4, [45–6], 47–52, 39–42, 53–8, [59–60], 61–74. |
Teitl
Lle ceir teitl, ‘I Dduw’ neu ‘Cywydd crefyddol’ a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, ond yn BL 14866 ceir yr esboniad canlynol: Pan oedd Gytto r glyn gidac abad llanegwystl ac ar odde gwneythur cowydd ir abad yn yr ardd e ddoeth ato ac a ofynnodd beth ir oedd yn i wneythur, mesurio pennill o gowydd i chwi farglwydd heb ef. paid tro ef i duw heb yr abad a mi a dala yt am dano ac yno kenis ef fal hyn.
1 yma i’n cynnal Gellid dehongli BL 14967 yma yn kynal (cf. LlGC 17114B, C 2.114 [i], BL 14979) fel ‘yma’n cynnal’, a’r geiryn berfenwol yn yn cywasgu ar gyfer hyd y llinell. Ond o ran y gystrawen, efallai bod hi’n haws derbyn dehongliad LlGC 8497B a chymryd mai’r arddodiad i a geir yma. Mae’n ddigon posibl mai ‘i’n’ a olygir gan yn yn rhai o’r llawysgrifau eraill hefyd.
3 i Ferned Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, ond dichon fod yr enw priod Berned (gw. 3n (esboniadol)) yn anghyfarwydd i rai copïwyr, ac yn Brog I.1 a BL 14885 darllenwyd a farned (cf. Ba (M) 6 hwn afarned), a BL 14906 y werned.
4 A thrwy’r gerdd athro yw’r gŵr Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau; llygriad o hynny a geir yn Brog I.1 A rwyr gerdd aethro ywr gwr. Ceir darlleniad gwahanol iawn ym mhump o lawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, BL 14967, C 2.114 [i], BL 14979, Pen 84 a C 2.627, A naddu’r gerdd a wnâi’r gŵr. Mae’r gynghanedd yn feius yma (croes o gyswllt gyda chamosodiad), ac er y gellid dadlau bod y cyfeiriad at y proses o lunio cerdd yn nhermau gwaith saer yn naddu yn rhoi darlleniad anos (cf. 37.37–8 Naddu mae’r awenyddion / Eu gwawd fry o goed y fron), mae’r mawl yn gryfach yn narlleniad y gweddill, y gynghanedd yn gywirach, a haws ei gyfiawnhau o ran tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau. Ond anodd esbonio’r newid oni bai y bu i ryw gopïydd anghofio ac ailgyfansoddi.
5 o gwna Y ferf bresennol a geir ym mwyafrif y llawysgrifau a dyna sydd orau yn y cwpled, cf. llinell 4 yw a llinell 6 rhydd. Y ferf amherffaith, gwnâi a geir yn Ba (M) 6, BL 14885, BL 14906, C 2.4 a’r cyntaf unigol presennol gwnaf yn Brog I.1.
8 ni wnaeth Dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau, ond ceir ni nel yn LlGC 17114B, ni wnai yn BL 14906, BL 14885 (ac o bosibl Brog I.1) ac a wnaeth yn LlGC 8497B, nad yw’n rhoi cystal synnwyr.
10 malu sôn Mae mwyafrif y llawysgrifau yn gytûn ac eithrio dwy o lawysgrifau Llywelyn Siôn, LlGC 970E a Llst 134, moli sain, a CM 244 Mal o son.
12 erchis Ffurf trydydd unigol orffennol y ferf erchi; darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, ac eithrio Brog I.1 a C 2.114[i] erchais a C 2.4 eris.
12 y swydd Yn Brog I.1, BL 14979 a C 2.4 ceir fy swydd ond gwrthodir hynny yn wyneb y swydd mwyafrif y llawysgrifau.
13–14 ‘Taw’, heb hwn, ‘… / … trwy foli saint!’ Ceir y cwpled hwn ym mhob llawysgrif ac eithrio LlGC 17114B a Brog I.1, dwy sydd ymhlith y cynharaf ac sy’n aml yn perthyn yn weddol agos ond bod testun Brog I.1 fel arfer yn llwgr. Efallai i’r copïydd gymryd bod cymeriad tarddiadol rhwng llinell 12 a 15 (Erchis … / Erchi …), a bod ei lygaid wedi llithro dros 13–14. Nid effeithir llawer ar y synnwyr o hepgor y cwpled, ond mae’n sicr yn cyfoethogi dadl yr abad.
19 rhannaf Gthg. Brog I.1 a ranv, LlGC 17114B Ranv (felly hefyd C 2.114 [i], BL 14979). Gallwn fod yn sicr mai rhannaf yw’r darlleniad cywir, a’r tebyg yw i lygaid rhyw gopïwr lithro i Rhannu ar ddechrau 21. Cynhelir cymeriad tarddiadol yn 19, 21, 22, 23 (Rhannaf … Rhannu … Rhan … Rhannodd …).
19 f’einioes Yn betrus iawn dilynir tystiolaeth mwyafrif y llawysgrifau (er nad oes cysondeb o ran y cywasgiad) sy’n rhoi f berfeddgoll o flaen y brif acen yn ail hanner y llinell. Fodd bynnag yn BL 14967 ceir llinell ddileu o dan yr f’ (veinioes, cf. Ba (M) 6 fenioes), ac ni cheir y rhagenw yn C 2.114 [i], BL 14979; y fannod a geir yn BL 14906 r einioys (felly BL 14885) a diddorol yw ailwampiad BL 14866 er parhau einioes.
19–22 Yn BL 14866, C 2.4 y drefn yw 20–1, 19–20.
20 Rhy fyr i’r hwyaf ei oes Gthg. Brog I.1 Rhy fyr fv ir hwyaf ioys, Ba (M) 6 rryfyr i hwn yr hwya ai rroes.
23 Rhannodd nef o’i rodd ynn fry Llinell broblematig gan fod nifer o fân amrywiadau arni. Yn GGl darllenwyd Rhannodd o’i rhodd ynn fry sydd sillaf yn fyr ac yn wallus o ran y gynghanedd, a dichon mai gwall syml oedd hepgor nef yno. Mae cysondeb cyffredinol ynglŷn â dau air cyntaf y llinell: yn yr ail hanner y mae’r amrywio. o’i rhodd/o’i rodd a geir yn BL 14967, BL 14979, Pen 84, C 2.627, BL 14906, Ba (M) 6, BL 14885; gthg. Brog I.1 oi fodd, LlGC 17114B a rodd, C 2.114 [i] ai rodd, cf. C 2.4, LlGC 8497B voi rhydd. Gallwn dybio mai ansicrwydd ynglŷn â’r union ystyr sydd wedi peri’r amrywio. Mae mwyafrif y llawysgrifau yn awgrymu’r gysefin rhodd (oherwydd tybio mai cynghanedd groes ddylai fod yma?), ond os felly rhaid cymryd mai at nef neu rhan (22) y cyfeirir, sy’n annhebygol. Tybir, felly, fod y gynsail yn wallus, ac mai’r ffurf dreigledig o’i rodd (hynny yw, o rodd Duw) sy’n gywir. Dehonglir yn y llawysgrifau cynnar yma fel ynn ‘i ni’, yn cyd-fynd â’r ferf gyntaf lluosog yn llinell 24, ond byddai’r geiryn adferfol yn hefyd yn bosibl.
25 Tad a Mab ac Ysbryd hir Llinell ac ynddi nifer o fân amrywiadau nad ydynt yn effeithio fawr ddim ar yr ystyr. Diau mai cynghanedd draws fantach sydd yma, a bod hynny wedi caniatáu hyblygrwydd o ran yr union eiriad (ac mae’n ddigon posibl fod yr hyblygrwydd hwn wedi bodoli ers oes Guto ei hun). Dilynir BL 14967, BL 14866, Pen 84, Ba (M) 6, C 2.627, a deall y llinell mewn cyfosodiad i hwn y llinell flaenorol; cf. BL 14906 a BL 14885 y tad mab ag ysbryd hir. Yn LlGC 17114B a C 2.114 [i] ceir ir tad mab ac ysbryd hir ac yn BL 14979 Ir tad mab ysbryd hir (sy’n rhy fyr o sillaf), a’r arddodiad i yn cysylltu’r llinell a’r un flaenorol (Rhown dâl i’r hwn ... / I’r Tad ...). Ceisiodd Thomas Wiliems gyfoethogi’r gynghanedd yn LlGC 8497B gan ddarllen tad mab ysbryd gwiwbryd gwir (ni cheir y darlleniad hwnnw yn yr un llawysgrif arall). Dilynodd golygyddion GGl ddarlleniad LlGC 17114B, gan ddechrau paragraff newydd â’r llinell hon, a chan iddynt roi atalnod llawn ar ddiwedd llinell 26, ymddengys iddynt gystrawennu’r arddodiad i gyda’r ferf deall (cf. o bosibl credu i Dduw).
27 Duw nef, a Dau yn Ei ôl Llinell arall ac iddi nifer o fân amrywiadau, yn sgil y ffaith fod geiriau a all gywasgu yn yr ail hanner. Mae’r llawysgrifau cynharaf yn darllen Duw nef (yn hytrach na Duw o nef) a dyna sydd fwyaf cyffredin ym marddoniaeth y bymthegfed ganrif (er bod Duw o nef hefyd yn digwydd yn achlysurol): cf. Llst 117 duw nef a dav ynni ôl, felly hefyd Brog I.1, LlGC 17114B, C 2.114 [i], BL 14979, BL 14866, er bod anghysondeb orgraffyddol wrth ddangos y cywasgiad; lle na cheir cywasgiad yn ail hanner y llinell, darllenir Duw o nef yn yr hanner cyntaf er mwyn hyd y llinell. Cyfeirio a wneir at y Drindod yn y cwpled – y ffaith fod Duw yn cael ei ddeall yn Un ond bod dwy ran arall iddo’r un pryd. Gwrthodir felly C 2.114 [ii] duw nef o dawn yw ôl, Ba (M) 6 dvw o nef adafyniol.
29 o’r Chwegair Dilynir Brog I.1, Pen 84 a LlGC 8497B, a mwyafrif y llawysgrifau diweddarach, yma; gthg. ar chwegair yn BL 14967, C 2.114 [i], C 2.4; ac o chwegair (darlleniad GGl) yn Llst 117, LlGC 17114B, C 2.114 [ii]. Cyfeirir at chwegair penodol, sef cyfarchiad Gabriel i Fair, felly mae angen y fannod (ar chwegair, gw. 29n (esboniadol)). Trwy gyfrwng (o) gair Gabriel y ganwyd Crist, felly gwrthodir ar/a’r, a dichon mai cymysgu rhwng siâp y llythrennau tebyg a ac o sy’n gyfrifol am y darlleniad hwnnw.
30 dyfu Mab Duw Dilynir yma Llst 117, LlGC 17114B (ond lle’r ychwanegwyd ’r yn ddiweddarach, cyn ei gopïo i C 5.167), LlGC 8497B, BL 14866, C 2.4. Rhydd y darlleniad hwn r heb ei hateb yn ail hanner y llinell, a dichon mai dyna pam y darllenwyd Dyvyr mab duw yn BL 14967, ac felly yn C 2.114 [i], BL 14979, C 2.627. Gan fod Mab Duw yn enw pendant, mae’r fannod yn chwithig. Fodd bynnag, o beidio â deall Mab Duw yn gyfuniad, gellid darllen Dyfu’r Mab, Duw o fru Mair, ond nid yw hynny’n taro cystal er y byddai’r ystyr a’r gynghanedd yn cyd-fynd yn well â’i gilydd. (Ond ceir digon o enghreifftiau gan Guto o groestynnu rhwng y gynghanedd a’r ystyr.) Dichon mai ymgais i osgoi hynny a arweiniodd at ddarllen da fu neu da fu’r yn Ba (M) 6, a rhai o’r llawysgrifau diweddarach.
32 uddynt Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio Brog I.1 erddynt. Sylwer mai u- yw’r llythyren flaen yn y cyfan o lawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg.
34 dŵr Darlleniad Llst 117, BL 14967, Pen 84, Brog I.1, C 2.114 [i]; gthg. LlGC 17114B, LlGC 8497B, C 2.627 dwfr. Anodd dewis rhyngddynt: ond mae’r llawysgrifau cynharaf yn pleidio dŵr, yn ogystal â’r gynghanedd a’r cymeriad. Mae’n bosibl fod llygaid y copïydd wedi llithro i ddechrau’r gair nesaf, dwfn.
34 o’r Yn groes i fwyafrif y llawysgrifau sy’n darllen a’r yma (BL 14967, Pen 84, Brog I.1, LlGC 17114B, &c.), dilynir Llst 117, C 2.114 [i], LlGC 8497B, BL 14979. Gan fod dŵr yn un o’r pedair elfen (ynghyd â daear, pridd a thân), ni fyddai’r cysylltair a’r yn synhwyrol yn y llinell hon (hynny yw, fod Duw wedi creu dŵr dwfn a hefyd y pedair elfen). Cf. hefyd GLGC 1.81–4 Defnyddiaist, lluniaist, Dduw, yn llonydd – deg / do o’r pedwar defnydd: / daear, tân, pob rhyw dywydd, / dŵr a gwellt, awyr a gwŷdd. Tebyg iawn yn llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg yw ffurfiant a ac o a hawdd fyddai cymysgu rhyngddynt.
37 rhown ninnau Mae nifer o’r llawysgrifau, gan gynnwys y rhai cynharaf BL 14967, Pen 84 a Brog I.1, yn darllen rhown innau, sef y ferf gyntaf unigol amherffaith a’r rhagenw cyntaf unigol. Ond gan mai mynegi bwriad o hyn allan a wneir yma, cymerir mai camraniad sydd yn y llawysgrifau ac mai berf gyntaf luosog sy’n gywir (cf. erom, 36).
39–42 Yn C 2.114 [i], BL 14979, BL 14885 daw’r llinellau hyn ar ôl llinell 50. Ond mae’n sicr mai yma maent yn perthyn, yn dilyn y myfyrdod yn llinell 35 ymlaen ar ddioddefaint Crist ar y Groes. Sylwer hefyd mai’r rhagenw cyntaf lluosog a geir yma (42), sy’n dilyn Rhown ninnau yn llinell 36. Mae’r myfyrdod yn llawer mwy personol erbyn llinell 50, a’r bardd yn defnyddio berfau a rhagenwau cyntaf unigol.
39 yn llyn o grau Mae cryn amrywio yma: dilynir Llst 117, darlleniad gwreiddiol LlGC 17114B (newidiwyd yn yn ar wrth gopïo), C 2.114 [ii], Pen 84, C 2.627, Ba (M) 6; y cysylltair a’r fannod a geir yn BL 14967 ar llyn o grav, LlGC 17114B yn ar llyn o grav, a’r cysylltair heb y fannod (o bosibl er mwyn osgoi r ganolgoll) yn BL 14866 a llynn o grav, felly BL 14885; yn llawn o grav a geir yn Brog I.1, C 2.114 [i], LlGC 8497B, C 2.4, &c. Gallwn wrthod llawn a llun gan eu bod yn digwydd yn y llinell ganlynol. Ond anos dewis rhwng a’r llyn o grau ac yn llyn o grau (y naill yn rhoi r ganolgoll a’r llall yn rhoi n ganolgoll), a dilynir GGl drwy ddewis yr ail.
43–6 Yn LlGC 17114B a BL 14866 yn unig y ceir y ddau gwpled hyn ynghyd, ac o ran eu trefn dilynir LlGC 17114B, a’r bardd ar ôl cyfeirio at gosbi Crist ar y Groes yn y llinellau blaenorol, yn troi i sôn am dri chledd sy’n ei daro ef a’i glwyfo, gan fanylu yn 45–6 ar y tri hynny, sef y Tri meddwl, yn 47–50. Gthg. BL 14866 lle ceir y drefn 45–6, 43–4 (felly GGl). Mae’n bosibl y collwyd y naill neu’r llall gwpled o’r llawysgrifau eraill gan nad yw’r ddau yn gwbl angenrheidiol i’r ystyr. Mae’n bosibl hefyd fod llygad ambell gopïydd wedi llithro oherwydd y cymeriad llythrennol Tr-. Ceir 43–4 yn unig yn Llst 117, C 2.114 [i], C 2.114 [ii], BL 14979, BL 14906, C 2.4, BL 14885; a cheir 45–6 yn unig yn BL 14867, Brog I.1, LlGC 8497B, Pen 84, C 2.627, Ba (M) 6.
45 Troes Duw Dad (tristyd a wn) Mae’r llawysgrifau’n gytûn ac eithrio LlGC 17114B tores duw dad tri trist awn a Brog I.1 Troys duw dda trist oedd a wnn.
47 Marw fyddaf i’m arfeddyd Dilynir BL 14967, Pen 84, BL 14866, &c., a’r darlleniad a ychwanegwyd (gan y brif law) yn LlGC 17114B; darlleniad cyntaf LlGC 17114B oedd marw awn y myreddvyd sy’n amlwg yn llwgr; llwgr hefyd yw Brog I.1 marw fyddamor wydd fyd. Mae’r gynghanedd yn profi bod darlleniad Llst 117 yn anghywir, marw awna i marveddvyd, ac ymddengys mai ffurf ar hyn a geir yn C 2.114 [i] marw a wna ir mafoeddfyd, a dichon mai ymgais i gywiro’r gynghanedd a geir yn C 2.114 [i] mar a wnaf y nnyr o ennyd, BL 14979 Marw awnaf yn yrr o ennyd, BL 14906 marw a wnaf yn yr ennyd (cf. BL 14885). Mae’r ffaith mai marw a wn a geid yn narlleniad cyntaf LlGC 17114B hefyd (er bod y brif law wedi cywiro hynny) yn awgrymu bod rhyw ansicrwydd ynglŷn â’r ferf gynorthwyol ers yn gynnar.
49 a gynanaf Dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau cynnar, cf. Llst 117, BL 14967, LlGC 17114B, C 2.114 [ii], Pen 84, &c. Ond mae’n amlwg fod y ferf (cynanaf: cynanu, GPC 778) yn dywyll i nifer o’r copïwyr, a cheisiwyd cael synnwyr drwy rannu’r geiriau yn wahanol yn Brog I.1 ac yn yna, BL 14979, BL 14906, BL 14885, C 2.4 ac yn anaf, neu drwy addasu’r darlleniad yn C 2.114 [i] yn y man ynaf, LlGC 8497B a gaf ynaf, y cyfan yn ddigon synhwyrol, ond nid yn y cyd-destun hwn.
50 eb oludd Fe’i hysgrifennir yn un gair, ebolydd/ybolydd, yn Llst 117, BL 14967, Pen 84, ac eboludd yn LlGC 17114B a LlGC 8497B. Yn GPC 1156 rhestrir eboludd fel adferf ‘yn ddi-rwystr; yn ddiymdroi, yn ddi-oed’, &c. (o (h)eb + goludd), ond ni cheir enghreifftiau tan ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, felly fe’i dehonglir yn ddau air yma. Cyffredin ym marddoniaeth Guto (yn ôl tystiolaeth y llawysgrifau a’r gynghanedd), yw’r ffurf eb yn lle heb, ond mae’n amlwg i’r ffurf achosi problemau i’r copïwyr yn gyffredinol, cf. Brog I.1 y bo lydd, C 2.627, BL 14886, &c. y bolydd.
50 yw Dilynir BL 14967, LlGC 17114B, BL 14866, Pen 84, C 2.627, Ba (M) 6 yma. Gthg. C 2.114 [i] a BL 14979 (felly GGl) a iawn Llst 117, C 2.114 [ii]. Dryswyd y copïwyr o bosibl gan y ffaith fod y cyplad yn rhan o sangiad sy’n ymestyn ar draws dwy linell y cwpled.
51 mau Dduw … meddig Dyma, gyda mân wahaniaethau orgraffyddol, yw darlleniad Brog I.1, LlGC 17114B, C 2.114 [i], BL 14866, BL 14906, BL 14885, cf. GGl; gthg. o dduw … veddic yn LlGC 8497B, Pen 84, C 2.627, Ba (M) 6; unigryw yw BL 14979 Maddevaf … meddic. Mae’r cymeriad llythrennol (a gynhelir ymron pob cwpled yn y gerdd hon) yn bleidiol dros ddarlleniad y testun golygyddol, ond rhaid cyfaddef mai anarferol braidd yw’r cyfuniad Mau Dduw.
51–4 Ni cheir 51–2 yn BL 14967, ac ni cheir 51–4 yn Llst 117, C 2.114 [ii].
52 mawr wyrthfawr Dilynir C 2.114 [i] (cf. BL 14979, Ba (M) 6 a Brog I.1. fawr wrth fawr) a deall y cyfuniad yn ddisgrifiad o Dduw gwyn (49), yr un sy’n fawr ei wyrthiau i’r bardd yn ôl ei angen (ym wrth fy rhaid). Gwrthodir, felly, mair wyrthfawr LlGC 17114B, Pen 84, BL 14906, C 2.4. Er bod cyfeiriadau at Fair yn ddigon arferol yn enwedig mewn cerddi i’r abadau Sistersaidd, sôn am Dduw yn benodol a wna’r bardd yma. Mae darlleniad BL 14866 mor wrthfawr, sef darlleniad GGl, yn gwbl dderbyniol, ond hon yw’r unig lawysgrif gynnar sy’n ei gynnig, ac mae’n bosibl i’r copïydd newid mawr → mor er mwyn osgoi’r odl ddiangen.
52 ym Dilynir mwyafrif y llawysgrifau, ond gthg. Brog I.1 rwym (felly Pen 84, Ba (M) 6, BL 14885, BL 14906, C 2.4 (cywiriad)), LlGC 8497B rydd, a darlleniad Llywelyn Siôn yn Llst 134, LlGC 21290E, LlGC 970E (ond nid Llst 47) air er mwyn cryfhau’r gynghanedd (gan iddo ddarllen mair yn hanner cyntaf y llinell).
53–73 Ni cheir y llinellau hyn yn Brog I.1.
59–60 Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14906 a BL 14885.
60 iawnfarn Dyma ddarlleniad mwyafrif mawr y llawysgrifau, a diau mai dyma sy’n gywir (gw. 60n (esboniadol)). Gwrthodir Llst 117 iown vardd, felly C 2.114 [ii].
63–4 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 8497B.
64 a’m geilw Mae’r llawysgrifau’n ymrannu’n ddau grŵp, y rhai sy’n darllen a’m geilw (sef BL 14967, BL 14866, C 2.627, cf. GGl), a’r rhai sy’n darllen i’m galw (LlGC 17114B, C 2.114 [i], C 2.114 [ii], BL 14979, Pen 84, Ba (M) 6, BL 14906, BL 14885). Gellid deall im geilw Llst 117 (y llawysgrif hynaf) yn amrywiad orgraffyddol ar a’m geilw, gyda’r rhagenw perthynol rhywiog y a welir yn achlysurol yn y farddoniaeth lle disgwylid a, gw. GMW 63. Gellid dadlau dros y naill ddarlleniad neu’r llall: os a’m geilw, yna cyfeiria’r rhagenw yn ôl at y corn yn y llinell flaenorol; fel arall dehonglir yr arddodiad i yn yr ystyr ‘er mwyn’, &c. Rhydd y ferf amser ddyfodol well ystyr yma.
64 yma o’m gwely Diau mai dyma’r darlleniad cywir, a’r corn yn galw’r bardd allan o’i wely (sef y bedd) yng Nglyn-y-groes, pan fydd atgyfodiad y cnawd ar Ddydd y Farn, gw. 42n (esboniadol). Fodd bynnag yma im gwely a geir yn Pen 84, BL 14906, BL 14885, gan dybio efallai mai cyfeirio at alw’r bardd i’w wely terfynol, ei fedd, a wna’r corn.
66 â’r ysgrifen hir Anodd iawn penderfynu pa air ddylai ragflaenu ysgrifen yma, gan fod cryn amrywio o’r llawysgrifau cynharaf ymlaen. ag a geir yn Llst 117, C 2.114 [ii], Ba (M) 6; ar yn BL 14967, Brog I.1, LlGC 8497B, Pen 84, C 2.627; or yn C 2.114 [i] a BL 14979 (felly GGl). Yn BL 14866, C 2.4, ceir arddodiad ar ddechrau’r llinell, ar fynhâl ysgriven. Derbynnir yma’r darlleniad sydd fwyaf cyffredin yn nhestunau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond mae’n bosibl fod ansicrwydd ynglŷn â’r union arddodiad yma i’w olrhain yn gynnar yn hanes y gerdd.
68 mae’r Mae pob llawysgrif, ac eithrio Llst 117, yn cynnwys y fannod yma, o’i hepgor ceir r berfeddgoll yn ail hanner y llinell.
69 Y Drindod a warendy Fel ffurf ddeusill, wrendy, y cofnodir y gair olaf yn llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, ac felly ymddengys y llinell yn fyr o sillaf yn Llst 117, BL 14967, LlGC 17114B, BL 14979, Pen 84, Ba (M) 6, BL 14906. Er mwyn ceisio cyflenwi’r sillaf y tybid ei fod ar goll ceir ambell gopïydd (yn annibynnol ar ei gilydd) yn darllen Y Drindod draw a wrendy (C 2.114 [i], C 2.114 [ii], BL 14885, felly GGl), neu Y Drindod Duw a wrendy (C 2.627, C 2.4), neu Y Drindod oll a wrendy (BL 14866). Ailwampiodd Thomas Wiliems y llinell, duw ar drindod a wrendy. Yn GPC 1699 d.g. gwrandawaf: gwrando gwelir mai cymharol ddiweddar yw’r ffurfiau sy’n dangos y cywasgiad (gwarand- → gwrand-), ac yn betrus felly cymerir mai ffurf deirsill yw (g)warendy yma, er mai deusill yw’r holl enghreifftiau eraill a ganfuwyd gan feirdd y bymthegfed ganrif. Ond cf. GIG XXX.32 Ein gwiriawndad a’n gwarendau; cf. hefyd DG.net 39.3 Yn gwarando ddechrau dydd, er mai fel ffurf ddeusill, gwrando, y ceir y ferf honno yn y llawysgrifau gan adael y llinell yn fyr o sillaf.
70 ar arch Dilynir Llst 117, C 2.114 [i], C 2.114 [ii], BL 14866, Pen 84, C 2.627, BL 14906 a’i ddeall yn ymadrodd adferfol (cf. ar gais). Ni cheir cystal synnwyr o ddarllen yr arch yma, a geir yn LlGC 17114B a BL 14979 yn unig, nac o’r arch gyda BL 14967, LlGC 8497B (er mai i’r nef yn hytrach nag o’r nef a geir yn y ddwy hynny).
71 F’un Ceidwad, fy Nuw cadarn Dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau a gallwn fod yn hyderus mai dyma’r darlleniad cywir. Fodd bynnag mae Llst 117, C 2.114 [ii], LlGC 17114B yn darllen von ar ddechrau’r llinell, a gellid dehongli hynny fel fo’n Ceidwad. Ond annisgwyl fyddai’r rhagenw mewnol cyntaf lluosog yma, yn hytrach na’r cyntaf unigol. Yn Llst 117 a C 2.114 [ii] darllenir von keidwad duw kadarn, a’r llinell felly’n fyr o sillaf. Mae darlleniad Ba (M) 6 a BL 14906 fy ngheidwad, yn difetha’r gynghanedd groes ond yn cadw’r gynghanedd lusg.
72 Fy nawdd fo yn Nydd y Farn Llinell arall ac iddi nifer o fân amrywiadau, nad ydynt yn effeithio fawr ar yr ystyr. Gan fod llinell 73 yn dechrau â Fy noddfa …, gwrthodir tystiolaeth y llawysgrifau hynny sy’n cynnig Fy noddfa ar ddechrau’r llinell hon hefyd, e.e. Llst 117, C 2.114 [ii], Ba (M) 6. Dichon mai camddarllen neu gam-gofio nawdd fo a wnaethpwyd yma, neu ddarllen dechrau’r llinell nesaf mewn camgymeriad. Gallwn gymryd felly mai fo oedd yng nghynsail y llawysgrifau hyn, fel yn LlGC 17114B vynawdd vo, a LlGC 8497B, BL 14906, BL 14885. Prinnach yw’r dystiolaeth dros fy nawdd fydd, ond dyna a geir yn Pen 84, C 2.627, a llawysgrifau Llywelyn Siôn. Mae nifer o lawysgrifau’n awgrymu darllen fo ef yn Nydd Farn ac eraill fo ef yn Nydd y Farn. Yr ail sydd esmwythach o ran y gynghanedd, ond byddai’r llall yn dderbyniol hefyd (ceir y ffurf gywasgedig Dydd Farn gan Guto yn 24.16, 88.18).
74 fo nef Cynhwysir y fannod yn nifer o’r llawysgrifau (e.e. Llst 117, Brog I.1, LlGC 8497B, &c.), ond mae’r cymeriad yn gryfach o’i hepgor.
Ysbrydolwyd y cywydd hwn gan gerydd a dderbyniodd Guto gan yr Abad Dafydd yng Nglyn-y-groes am dreulio’i fywyd, ers yn blentyn, yn cablu ac yn defnyddio’i ddoniau barddol i foli dyn yn hytrach nag i foli’r Duwdod (gw. llinell 11n). Mae Dafydd, sy’n cyflwyno’i ganu ei hun yn ddyddiol i Fair (4–6), yn annog Guto i drwsio’i ffyrdd ac yntau bellach yn hen ŵr (13 ‘ateb henaint’), ac i efelychu Saul o Darsus a gefnodd ar ei hen ffordd bechadurus o fyw ar ei daith i Ddamascus (13–14). Am weddill y gerdd ceir gan Guto fyfyrdod dwys ar y Duwdod a’i farwoldeb ef ei hun gan ystyried yr hyn sy’n ei ddisgwyl ar ddiwedd ei oes. Yn wir dyma’r unig ganu crefyddol estynedig a gadwyd gan Guto.
Sylweddola Guto bellach fod dyletswydd arno i rannu ei gelfyddyd â Duw, yn dâl am y breiniau a dderbyniodd o’r nefoedd yn ystod ei oes (23) ac am y gwaed a gollodd Crist ar y Groes dros y ddynoliaeth (35–8). O gynnal y berthynas gilyddol hon o ‘rodd am rodd’ â Duw, ei obaith yw na fydd yn cael ei gipio’n gynamserol o’r ddaear (a rhag ofn i ni feddwl mai peth naturiol fyddai i ŵr o’i oedran mawr ef farw, cyfeiria at y wireb fod hyd yn oed y person hynaf yn ein plith yn ystyried ei oes yn rhy fyr). O hyn ymlaen bydd yn rhoi cyfran o’i ddysg farddol (22 yr hen ddeall) i Dduw yn yr un modd ag y mae pobl yn talu degwm (21–2). Ystyria ryfeddod y Drindod, sy’n Un ac yn Dri yr un pryd (25–8); y modd y cenhedlwyd Crist drwy Chwegair yr angel Gabriel wrth Fair (29–30); a rhyfeddod creu’r deuddyn cyntaf o’r pridd a’r byd cyfan o’r pedair elfen (31–4). Ceir myfyrdod estynedig ar farwolaeth Crist ar y Groes, o bosibl wedi ei ysbrydoli gan grog yng Nglyn-y-groes. Ymddengys fod y grog honno’n portreadu’r Crist atgyfodedig yn arddangos ei glwyfau i’r ddynoliaeth, a’i bod wedi ei gorchuddio gan len litwrgïol (35–6, ac yn arbennig 56–60). Cyfyd y myfyrdod hwn ar ddioddefaint Crist ofn yn y bardd wrth iddo ystyried ei ddiwedd ef ei hun, a chyfeiria at thema’r ‘Tri pheth trist’, sef y tair ffaith sy’n peri ofn a thristwch ynom yn ein bywydau: bod rhaid i ni farw, y ffaith na wyddom pryd, ac na wyddom i ble byddwn yn mynd (46–50). Fel y gwelir isod (46n) mae’n ymddangos bod y thema hon yn tarddu o farddoniaeth Saesneg Canol, ond wrth gwrs ni allwn wybod ai drwy’r Saesneg neu drwy’r Gymraeg y daeth yn hysbys i Guto. Cymodi â Duw, y meddig enaid (51), yw unig obaith y bardd i wella o’i bechodau a’i afiechyd (eneidiol) ac i farw ag edifeiriaint (49–52). Ac yntau’n gorwedd yn ofnus yn ei wely yn y nos, yn wylo dagrau o edifeirwch ac o draserch Duw a’r Iesu (57), mae’n clywed utgorn Dydd y Farn yn atseinio yn ei ben, fel petai’n ei alw o’i wely yn y fynachlog i’r farn (63–4); a dychmyga ar ei dalcen ysgrifen faith yn nodi ei weithredoedd, yn barod i’w darllen gan weinyddwyr y farn (65–6 a gw. y nodyn isod). Terfyna’r gerdd â’r bardd unwaith eto yn cadarnhau mai’r Duwdod bellach yw ei obaith, a hydera mai yn Ei gwmni Ef yng nghartref y nef y caiff fod yn niwedd ei fyd (67–74).
Dyddiad
Dyddir y cywydd c.1490, a hynny ar sail y myfyrdod dwys yma ar ddiwedd oes, ond mae’n ddigon posibl iddi gael ei chanu yn gynt yn y 1480au. Mae’r ganran uchel o gynganeddion croes a thraws yn ategu dyddiad diweddar.
Golygiadau a chyfieithiad blaenorol
Ceir golygiad yn GGl cerdd CXIX; CTC cerdd 69; Bowen 1957: 20. Ceir cyfieithiad yn Clancy 2003: 327–9.
Mesur a chynghanedd
Cywydd 74 llinell.
Cynghanedd: croes 77% (57 llinell), traws 11% (8 llinell), sain 11% (8 llinell), llusg 1% (1 llinell).
2 plas Iâl Abaty Glyn-y-groes.
3 oen i Ferned Yr Abad Dafydd, un o ddilynwyr Sant Bernard (1090–1153), abad Clairvaux a sylfaenydd Urdd y Sistersiaid.
5 O gwna Dafydd gywydd gwiw Ymddengys fod yr Abad Dafydd yntau’n fardd (cf. 113.57n), ond i Fair, nid i noddwyr bydol, y cyflwynai ef ffrwyth ei awen. Ond gall mai cyfeirio’n ffigurol a wna Guto at y gwasanaethau a arweinid gan yr abad yn y fynachlog fel barddoniaeth o’i eiddo.
6 Mair Cyfeiria Guto at ddefosiwn arbennig y Sistersiaid i Fair.
10 malu sôn Am ystyr malu yma, ‘cynhyrchu (sain), ynganu, llefaru, datgan (barddoniaeth)’, gw. GPC 2326 d.g. malaf1, a cf. 99.37 Melys yw yn malu sain; GO XXIV.47–8 Lleng o englyion y llys, / Llu i valu llef velys (am fynaich Glyn-y-groes). Diau mai’r un yw ystyr sôn â sain (gw. GPC 3319 d.g. sôn1), yn cyfeirio’n benodol yma at y sain a ddaw o enau prydydd.
11 cablu er yn chweblwydd Am cablu yn yr ystyr ‘difenwi, … enllibio, yn enw. enw Duw, melltithio’, GPC 372. Mae’n bosibl fod Guto’n cyfeirio at y ffaith iddo gymryd enw Duw yn ofer yn ei iaith bob dydd, ond efallai fod y cyd-destun yn awgrymu cyfeiriad mwy penodol at gablu yn ei farddoniaeth, ac os felly awgrymir iddo fod yn dysgu’r grefft honno er pan oedd yn chwe blwydd oed. Tybed ai gan ei dad y dysgodd farddoni?
12 swydd Fe’i deellir yn gyfeiriad at waith Guto’n canu mawl i uchelwyr.
13 ateb henaint Yn wahanol i GGl, fe’i deellir yn rhan o eiriau’r abad. Mae angen i Guto ‘ateb’ neu ‘ymateb’ i’w henaint, a rhoi heibio’i hen ffyrdd a throi i foli Duw a’r saint.
14 tro fal Sawl Cyfeirir at dröedigaeth Saul o Darsus. Pan oedd ef ar daith i Ddamascus i erlid Cristnogion yn y synagogau, cafodd ei ddallu gan olau dwyfol a chlywodd lais Iesu yn gofyn iddo Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?, gw. Actau 9.1–8. Yn dilyn ei dröedigaeth cyfeirir ato yn y Beibl fel Paul (gw. Actau 13) er na ddywedir yn benodol iddo newid ei enw, dim ond ei fod yn cael ei adnabod wrth y ddau enw ar ôl hynny: e.e. Actau 13.9 Saul (a elwir hefyd yn Paul). Ni chyfeirir yn benodol at Saul yn newid ei enw yn y cwpled hwn, ond yn hytrach yn newid ei ffordd o fyw, ac yn dyfod yn Gristion. Yn yr un modd mae’r Abad Dafydd am i Guto droi ei gefn ar ei ganu cableddus a gwneud Duw a’r saint yn brif destun ei awen (gw. 11n ac ymhellach y nodyn cefndir uchod).
20 Rhy fyr i’r hwyaf ei oes Mae naws dihareb i’r llinell hon, cf. GGrG 2.3 Rhy fyr i’r byd hyd ei hoes. Roedd Guto mewn gwth o oedran erbyn canu’r cywydd hwn ac felly gallai ei gyfrif ei hun ymhlith yr hwyaf ei oes.
22 hen ddeall Sef y gelfyddyd farddol.
26 A Duw oll y’u deellir Ffordd arall o ddweud bod y Drindod (Tad, Mab ac Ysbryd, 23) hefyd yn un Duw.
27 Duw nef a Dau yn Ei ôl Trafodir yn 25–8 y syniad fod Duw, y Tad, ynghyd â’r Mab a’r Ysbryd (y Dau) yn llunio undod dan enw Duw (24).
29 Chwegair Cyfuniad un ai o chweg ‘melys’ neu’r rhifol chwe + gair, yn gyfeiriad at air neu gyfarchiad yr angel Gabriel wrth Fair, y ganwyd Crist trwyddo: cf. GGMD ii, 7.29–30 Credaf eni Rhi Rhoddiad / O’th fru, Fair, o’r Gair heb gyd. Ni restrir chwegair yn GPC, ond cf. yn arbennig GIG XXXI.27–9 … o’r angel a’i hanfones / Yr ysbryd atad, gennad gynnes, / Efo â chwegair a’th feichioges ac ibid.n lle cymerir mai’r ansoddair chweg yw’r elfen gyntaf, gan ddilyn Lloyd-Jones yn G 279 a chan dderbyn dadl Ashton 1896: 557 fod y rhifol yn annhebygol gan fod mwy na chwe gair yng nghyfarchiad Gabriel i Fair: Ave Maria, gratia plena, Dominus tecum, benedicta tu in mulieribus, benedictus fructus ventris tui, Iesus. Fodd bynnag, gw. sylwadau gwerthfawr P. Bryant-Quinn wrth drafod y llw ar Chwegair yn GPhE 3.13n. Awgryma fod amlygrwydd arbennig i chwe gair cyntaf y cyfarchiad (Ave Maria, gratia plena, Dominus tecum) ac y peintid hwy’n aml mewn lluniau a murluniau yn yr Oesoedd Canol. Meddai, ‘Y rhain oedd geiriau agoriadol y weddi boblogaidd y tynnwyd y rhan gyntaf ohoni o Luc i.26–56 (gan ychwanegu enw’r Forwyn): “Henffych well, [Fair,] gyflawn o ras, y mae’r Arglwydd gyda thi” … dichon yr ystyrid y “chwegair” hyn yn gyd-gymeriad am weddill y weddi.’ O blaid ei ddadl y mae’r dyfyniad canlynol o gywydd gan Lawdden i Fair (tanlinellwyd y geiriau perthnasol): GLl 2.15–22 Annerch hon a wnair â chwech / O’r dabl o eiriau dibech: / Ave Maria ofeg, / Ac o rad Duw geiriau teg; / Gratia plena bob planed, / Hyn yw gras i hon o gred. / Pwy a’n try rhag y poen trwm? / Os tycia Dom’nus tecum. Cymerir felly mai’r rhifol yw’r elfen gyntaf yn y llinell dan sylw, ond fel y noda Bryant-Quinn ymhellach, mae’n ddigon posibl fod yma amwysedd bwriadol.
30 dyfu Hen ffurf drydydd unigol gorffennol mynegol y ferf dyfod. Er nad oedd y ffurf honno’n gyffredin erbyn oes Guto, credir iddi gael ei diogelu mewn ieithwedd grefyddol fel a geir yma. Cf. 39n ar crau, a gw. hefyd 30n (testunol). Mae ffurf dreigledig tyfu hefyd yn bosibl.
30 Ceir r berfeddgoll yn ail hanner y llinell, gw. 30n (testunol).
31 gwyndraeth ‘Pridd bendigaid’ gan ddilyn GPC 1772; hyd y gwelir cynigir yr ystyr honno ar sail yr enghraifft hon, gan mai ‘traeth gwyn neu ddedwydd’ yw ystyr arferol y gair.
33 gwyllt, gwâr, gwellt a gwŷdd Dau hen gyfuniad traddodiadol yn cynrychioli byd yr anifeiliaid a phlanhigion yn gyffredinol, cf. Haycock 2007: 195.
33–4 Daear, gwyllt, … / … o’r pedwar defnydd Cyfeirir at y creu, cf. GLGC 1.81–4 Defnyddiaist, lluniaist, Dduw, yn llonydd – deg / do o’r pedwar defnydd: / daear, tân, pob rhyw dywydd, / dŵr a gwellt, awyr a gwŷdd. Cf. hefyd yr englyn canlynol ar y creu gan Ruffudd ap Maredudd, GGMD ii, 6.1–4 Gwynt, tân, awyr llwyr, llawr daearfa – mwyn, / Gwnaeth un Mab Marïa: / Lleuad, dwfr, haul ni threula, / Gwyllt, gwâr, gwellt, gwŷdd, nos, dydd, da.
35–6 Duw a roes … / Ar wayw dur Ei waed erom Cyfeirir yma at yr achlysur pan fu i filwr Rhufeinig wanu Crist yn ei ystlys ar y Groes, gw. Ioan 19.34. Gwnaeth yr hanes gryn argraff ar y beirdd Cymraeg, a gwelir yn eu cyfeiriadau ddylanwad fersiwn yr Apocryffa ‘Efengyl Nicodemus’ o’r hanes lle gelwir y milwr yn Longinus, ac o bosibl ddylanwad y ‘Legenda Aurea’ a thestunau canoloesol cynnar lle’i disgrifir ef yn ŵr dall: gw. GDG3 488; GPhE 5.36n a cf. GIBH 12.23–4 Drwy’i ais a thrwy’i bais y bu / Un dall â gwayw’n Ei dyllu (i grog Aberhonddu).
39 crau ‘Gwaed’, ond gair prin iawn erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif, ac un a geir bron yn unig yng nghyswllt gwaed Crist ar y Groes (yn aml iawn yn cyflythrennu â croes, sydd o bosibl yn esbonio ei oroesiad): cf. GIBH 10.23–4 Maddau, er Dy grau a’r groes, / Ym …
40 Llun Duw yn llawn adwyau Ystyr lythrennol adwy yw ‘toriad’ neu ‘fwlch’ (GPC2 66), a chyfeiria’n ffigurol yma at glwyfau Crist, lle cafodd ei drywanu gan hoelion neu waywffon (35–6n). Disgrifir y ddelw o Grist ar y Groes a oedd yng Nglyn-y-groes (a Duw yn golygu Crist yn benodol, cf. 25–6). Roedd delwau’n dangos dioddefaint Crist ar y Groes yn gyffredin iawn yn y cyfnod er mwyn cymell edifeirwch yn y sawl a edrychai arnynt: cf. y disgrifiadau canlynol o grog yn Nhrefeglwys, GSC 10.3–4 Llun Duw gwyn, llawn wyd o gur, / Llyna ddelw’n llawn o ddolur; crog mewn capel ger ffynnon Gwenffrewi, GSH 16.72 Llun Duw a’i erchyll yn dost; a chrog yn Llan-faes, GLMorg 104.14 Llun Duw yn llawn o waed oll.
40–2 Duw yn llawn adwyau / A ddaw … / I’n cywain … Credid y byddai Crist yn arddangos ei glwyfau i’r ddynoliaeth ar Ddydd y Farn.
41 ddiweddbraw Ddyddbrawd Er mwyn esbonio’r treiglad i’r ddau air, fe’u deellir yn adferfol, sy’n haws na chymryd bod ddiweddbraw yn goleddfu Ddyddbrawd ar lun cystrawen hydref ddail. Digwydd y ddeuair yn gyffredin gyda’i gilydd: cf. GIG 15.140 Dyddbrawd yn y diweddbraw; GMBr 15.24 Oed diweddbraw’, hyd Dyddbrawd; GLMorg 80.104 Diweddbraw’, dowch, wŷr, Dyddbrawd, Och! Och!
42 yn ein cnawd Sef atgyfodiad y cnawd ar Ddydd y Farn y cyfeirir ato yng nghred yr Apostolion: Credo in … carnis resurrectionem, ac am destunau Cymraeg o’r Credo, gw. Jones 1945–6: 75–82, a cf. yn arbennig yr esboniad canlynol o Pen 16 a ddyfynnir ibid. 78, ‘Carnis resurrectionem. Sef yw pwyll hynny: MI A GREDAF KYUODI Y MEIRW POP VN YN Y BRIAWT GNAWT KYNO DYDBRAWT Y GYMRYT O BOB VN O NADUNT Y GAN DUW MEGYS Y GOBRYNWYS’.
45 troes Cf. GPC 3605 d.g. troaf (4) ‘rhoddi (i), trosglwyddo, cyflwyno’.
46 tri meddwl trwm Disgrifir y tri meddwl neu ystyriaeth sy’n achosi tristwch i ddynoliaeth yn y llinellau canlynol: ein bod yn gorfod marw (Marw fyddaf, 47), y ffaith na wyddom pryd y bydd hynny’n digwydd (Ni wn ba awr yn y byd, 48) ac na wyddom i ble y byddwn yn mynd (Ac ni wn … / … i ble ’dd af, 49–50). Tyn D.J. Bowen (1968–9: 121) sylw at gyfatebiaeth drawiadol rhwng llinellau Guto a thelyneg Saesneg o’r drydedd ganrif ar ddeg, ‘Three Sorrowful Things’ (dyfynnir o’r diweddariad gan Mabel Van Duzee a geir yn Bowen, ibid.):
When I think upon things three,
Never may I happy be.
The one is that I must away;
Another, I know not the day;
The third one is my greatest care,
I know not whither I must fare.
Gw. hefyd Breeze 1989: 141–50 lle trafodir naw enghraifft hysbys o’r thema mewn barddoniaeth Saesneg Canol, a thynnir sylw at enghraifft hefyd mewn llenyddiaeth Wyddeleg, gan awgrymu bod yr enghraifft Wyddeleg ac enghraifft Guto yn dangos ‘influence, not of the native learning of Wales or Ireland, but of English literary culture, either in Latin or the vernacular’, ibid. 142. Mae’n ddigon posibl, wrth gwrs, fod Guto wedi dod yn gyfarwydd â’r thema drwy ffynonellau Cymraeg os benthyciwyd hi mewn cyfnod cynharach ac nid oes rhaid credu iddo fenthyg y thema yn uniongyrchol o’r Saesneg.
47 i’m arfeddyd Dehonglir i’m i olygu ‘yn fy’ yma; ystyr arferol arfeddyd yw ‘arfaeth, amcan, diben, pwrpas’, &c., GPC 193. Aralleiriwyd yn llac: dweud y mae Guto mai marw sydd wedi ei gynllunio iddo, dyna yw ei ddiben neu dynged mewn bywyd.
53 gorfod Enw ‘buddugoliaeth, llwyddiant, goruchafiaeth’, &c. yma, GPC 1479, yn enwol am Dduw fel un sy’n gorchfygu pechodau’r bardd.
59 ofn y Grog Mae’n debygol fod crog go arbennig yng Nglyn-y-groes i ddenu pererinion, ‘a speaking statue of the risen Crist’, Williams 1976: 355, a Mathew 1928: 76–7 lle’r esbonnir bod darnau o fecanwaith crog o’r fynachlog wedi eu darganfod ym Mhlas-yn-pentre, ger Trefor, un o ffermydd Glyn-y-groes (gw. http://www.coflein.gov.uk s.n. Plas-yn-y-Pentre). Mae’n debygol mai dwys ystyried marwolaeth erchyll Crist fel y’i delweddid ar grog Glyn-y-groes a achosodd ofn yn Guto, ac os gallai’r grog honno symud a hyd yn oed siarad, gallwn dybio iddo gael ei ddychryn yn fawr ganddo! Ni allwn wybod ai’r grog y darganfuwyd darnau ohoni ym Mhlas-yn-pentre oedd yr un a oedd yn sail i’w fyfyrdod yn y gerdd hon, ond mae hynny’n sicr yn bosibilrwydd.
59 crys Cf. y disgrifiad canlynol gan Lawdden o Grog Caer, GLl 1.19–20 Croes a gair dan y crys gwyn, / Croes Duw ddelw Crist o Ddulyn, a gw. ibid.n lle awgrymir mai cyfeirio a wneir at fantell litwrgïol a wisgid am y grog, a lliw’r fantell yn newid yn ôl y tymor eglwysig, ‘defnyddid gwyn ar ddyddiau gŵyl pwysig megis eiddo Crist, Mair a’r saint’. Cyfeiriai’r beirdd hefyd at y fantell hon fel pais, gw. nodyn cynhwysfawr P. Bryant-Quinn yn GIBH 12.23n. Hefyd mewn lluniau o Ddydd y Farn, byddai Crist yn aml yn cael ei bortreadu yn eistedd ar orsedd (gw. 58n) a mantell o’i gwmpas ond heb orchuddio’i ganol fel y gallai arddangos y clwyfau a achoswyd gan waywffon y milwr Rhufeinig (gw. 35–6n). Cf. Lord 2003: 4 a’r ddelwedd ganlynol o Eglwys Wrecsam a fyddai wedi bod yn hysbys i Guto, o bosibl.
http://www.pictures.walesdirectory.co.uk/Ancient_Churches/Ancient_Churches-9-13-B.jpg
60 ar yr enfys Mewn delweddau o’r Oesoedd Canol portreedid Crist yn aml yn eistedd ar enfys ar Ddydd y Farn, cf. llun o Lyfr Oriau Penfro (cyn 1469) a geir yn Lord 2003: 4. Cf. Datguddiad 4.1–3 Ar ôl hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma’r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel sŵn utgorn, yn dweud, ‘Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti’r pethau y mae’n rhaid iddynt ddigwydd ar ôl hyn’. Ar unwaith, yr oeddwn yn yr Ysbryd; ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd. Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt.
61 nawradd Y naw gradd angylion yn y nefoedd yr oedd Duw yn frenin arnynt: GLGC 1.31 Brenin mawr ar y nawradd. Ymhellach ar y graddau hyn, gw. Bl BGCC 100.
63 corn y Frawd Y corn a fyddai’n datgan dyfodiad Dydd y Farn: gw. Datguddiad 8.6. Codai fraw hefyd ar Ddafydd Epynt, GDEp 2.39–42 Ofn y corn, wyf yn crynu, / Â drwy ddŵr a daear ddu. / Yr holl fyd, ennyd unawr, / O farw â’n fyw ’n y Farn fawr.
64 gwely Gair amwys yma. Gan fod y bardd eisoes wedi cyfeirio at ei ofn yn y nos (56), gellid ei ddeall yn llythrennol; ond os cyfeiria ymlaen at atgyfodiad ei gnawd ar Ddydd y Farn, dichon mai ‘bedd’ yw ei ystyr yma: cf. 105.45–6 Gŵr yw gyda Sain Greal / A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl (marwnad Robert Trefor a gladdwyd yng Nglyn-y-groes).
65–6 Am a wneuthum y noethir / Fy nhâl â’r ysgrifen hir Dangosodd E. Rowlands (1956–7: 89) mai ‘talcen’ yw ystyr tâl yn y cwpled hwn, a bod Guto’n cyfeirio at y gred fod ysgrifen ar dalcen pawb ar Ddydd y Farn yn ‘arddangos’ neu ‘amlygu’ cyflwr ei enaid: gw. ibid. 80–9 lle dyfynnir enghreiffitiau pellach o’r farddoniaeth. Ar ystyron noethi, gw. GPC 2593 ‘dinoethi, … amlygu’, &c. Cymerir mai ‘maith’ yw ystyr hir, yn yr ystyr fod llawer i’w adrodd am gyflwr yr enaid ar ei dalcen! Dehonglir y cwpled ychydig yn wahanol yn Clancy 2003: 327, ‘For what I’ve done, the payment [tâl] / Will be bared in the long scroll [ysgrifen hir].’
68 ym mrig aberth Cf. Rowlands 1956–7: 88, ‘Mae’n debyg fod “brig aberth” yn golygu rhywbeth fel “uchafbwynt aberth”, “yr aberth mwyaf”, gan fod Guto’r Glyn yn cyfeirio at Grist fel ei Waredwr, fel y byddai’r cywyddwyr yn gyson yn cyfeirio ato dan yr un amgylchiadau. Heblaw hyn, y mae’n ymddangos i mi fod Guto’r Glyn yn datgan ei ffydd yn effeithiolrwydd yr offeren, a bod “ym mrig aberth” yn cyfeirio at ddyrchafael yr aberth yng ngwasanaeth yr offeren.’. Posibilrwydd arall yw mai cyfeirio a wna Guto at bren (brig) y Groes (aberth).
Llyfryddiaeth
Ashton, C. (1896), Gweithiau Iolo Goch (Croesoswallt)
Bowen, D.J. (1957), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1968–9), ‘Nodiadau ar waith y Cywyddwyr’, LlCy 10: 113–121
Breeze, A. (1989), ‘The Three Sorrowful Things’, ZCP 43: 141–50
Clancy, J.P. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Haycock, M. (2007), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth)
Jones, T. (1945–6), ‘Credo’r Apostolion yn Gymraeg’, Cylchg LlGC iv: 75–82
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Mathew, D. and Mathew, A. (1929), ‘The Survival of the Dissolved Monasteries in Wales’, Dublin Review, CLXXXIV: 70–81
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Rowlands, E.I. (1956–7), ‘Dydd Brawd a Thâl’, LlCy 4: 80–9
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
This poem was inspired by a rebuke Guto received from Abbot Dafydd of Valle Crucis, because he had spent his years, since childhood, ‘blaspheming’ (cablu), using his talents to praise man instead of praising God (see line 11n). Dafydd, who offers his singing daily to Mary (4–6), urges Guto, now that he’s an old man (13 ‘ateb henaint’), to mend his ways and to imitate Saul of Tarsus who turned his back on his old sinful way of life on his journey to Damascus (13–14). For the rest of the poem Guto reflects earnestly on the Divinity and on his own mortality, considering how his end will be. This is the only truly religious reflection that has survived in Guto’s name.
Guto now realises that it is his duty to share his poetic craft with God, as payment for the privileges which he has received from heaven during his lifetime (23) and for the blood Christ shed on the Cross on behalf of humanity (35–8). By sustaining a reciprocal relationship of ‘gift for a gift’ with God, he hopes that he will not be taken before his time from the world (and lest we think that death would be a natural expectation for someone of Guto’s advanced age, he refers to the truism that even the most long-lived person would consider his own death to be too early). From now on he will be giving God a share of his poetic learning (22 yr hen ddeall) in the same way as others pay the tithe (21–2). He reflects on the mysteriousness of the Divinity, who is both One and Three at the same time (25–8); on how Christ was conceived through the Chwegair ‘Six Words’ that Gabriel said to Mary (29–30); and on how the first two people were created from earth, and the whole world was created from the four elements (31–4). There is an extended meditation on Christ’s death on the Cross, possibly inspired by a rood at Valle Crucis which seems to have portrayed the resurrected Christ, showing his injuries to humanity, and which was covered by a liturgical veil (35–6, and especially 56–60). The meditation on Christ’s passion causes fear in the poet as he considers his own end, and he refers to the theme of ‘The three sorrowful things’, the three facts which cause us fear and sadness in our lives: that we must die, that we don’t know when, and that we don’t know where we will go after death (46–50). As noted below (46n), this theme seems ultimately to come from Middle English poetry, but it is not possible for us to know whether it became known to Guto directly from the English or through a lost Welsh source. Guto realises that it is by making peace with God, meddig enaid ‘the physician of the soul’ (51), that he will gain salvation from his sins and the sickness of his soul, and that he will be able to die ag edifeiriaint ‘in repentance’ (49–52). Lying frightened in bed, weeping tears of remorse and of great love for God and Jesus, he hears the Doomsday trumpet ringing in his head, as if it were calling him from his bed to judgement (63–4). On his forehead he imagines an inscription listing his previous deeds, ready to be read by the officers of judgement (65–6, and see the note). The poem ends with Guto once again affirming that God is his only salvation, and hoping that it will be in His company in heaven that he will be at the end of his life (67–74).
Date
The date c.1490 is offered purely on the grounds that the poem seems to belong to his extreme old age. It could quite possibly have been sung earlier in the 1480s. The high percentage of cynghanedd groes and traws supports a late date.
The manuscripts
There are 51 manuscript copies of this poem, dating from the first half of the sixteenth century to the nineteenth century. Most of the copies derive from north-east Wales, and in general BL 14967 and LlGC 17114B excel.
Before the end of the sixteenth century there were copies in the Vale of Clwyd, in the Conwy Valley, in Anglesey, in the Severn Valley, and by the beginning of the following century in the hands of Llywelyn Siôn in south-east Wales. Unlike Guto’s other poems to Abbot Dafydd, there seems to be much variation between the earliest texts as regards the individual readings (minor differences usually, but some of greater significance) and line order.
In a few manuscripts (including Llst 117, copied by Ieuan ap Wiliam ap Dafydd of Ruabon in 1542–54) the text begins in line 27, with the religious part of the poem. Was this part transmitted independently early in the poem’s history?
It has been impossible to trace all the manuscripts to a single source, and the variations between the earliest copies suggest that several versions of the poem had developed before these earliest copies were recorded in writing. Although an attempt has been made to divide the manuscripts into groups, this has not been completely successful, because of the complexity of the evidence. It seems to have been a very popular poem, and although a relatively large number of copies have survived, many must have been lost.
The copies from the seventeenth century are much more stable. By then the poem was invariably copied from a written exemplar.
The edited text is based on the following manuscript copies: Llst 117, BL 14967, LlGC 17114B, C 2.114 [i], BL 14866.
Previous editions and translation
The poem is edited in GGl poem CXIX; CTC poem 69; Bowen 1957: 20. There is a translation in Clancy 2003: 327–9.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 74 lines.
Cynghanedd: croes 77% (57 lines), traws 11% (8 lines), sain 11% (8 lines), llusg 1% (1 line).
2 plas Iâl Valle Crucis abbey.
3 oen i Ferned Namely Abbot Dafydd, a follower of St Bernard (1090–1153), abbot of Clairvaux and a founder of the Cistercian Order.
5 O gwna Dafydd gywydd gwiw It seems possible that Abbot Dafydd was himself a poet (cf. 113.57n), dedicating his muse not to mortal patrons but to Mary. It is also possible that Guto is referring figuratively to the services led by the abbot at the abbey as his poetry.
6 Mair A reference to the Cistercians’ special devotion to Mary.
10 malu sôn For the meaning of malu here, ‘to produce (sound), utter, speak, recite (poetry)’, see GPC 2326 s.v. malaf1, and cf. 99.37 Melys yw yn malu sain ‘it is a sweet thing producing sound’; GO XXIV.47–8 Lleng o englyion y llys, / Llu i valu llef velys ‘A host of the court’s angels, / a crowd producing a sweet sound’ (of the monks of Valle Crucis). Sôn is probably synonymous with sain (see GPC 3319 s.v. sôn1), and refers here specifically to the sound produced by a poet’s mouth.
11 cablu er yn chweblwydd For cablu ‘to revile, calumniate, blaspheme’, &c., especially of God, see GPC 372. Guto could be referring to his everyday speech, but the context suggests that he is referring more specifically to blaspheming in his poetry, and if so, it seems that he had started learning that craft when he was six years old. Was Guto taught by his father?
12 swydd This is taken to refer to Guto’s work as a praise poet for the gentry.
13 ateb henaint I take this to be part of the abbot’s speech (contrast GGl). Dafydd tells him that he must ‘respond’ to his old age and give up his old ways and turn to praise God and the saints.
14 tro fal Sawl This is a reference to the conversion of Saul of Tarsus. When Saul was travelling to Damascus to persecute Christians in the synagogues, he was blinded by a divine light and heard Jesus’s voice asking him Saul, Saul, why do you persecute me?, see Acts 9.1–8. Following his conversion he is referred to as Paul in the Bible (see Acts 13) although it is not specifically stated that he changed his name, just that he was known by both names after that event: e.g. Acts 13.9 Saul, who is also called Paul. Guto doesn’t refer to Saul changing his name in this couplet, only to his changing of his ways and becoming a Christian. In the same manner, Abbot Dafydd wants Guto to turn his back on his blasphemous singing and make God the main focus of his muse (see 11n and further the background note above).
20 Rhy fyr i’r hwyaf ei oes This line sounds like a proverb, cf. GGrG 2.3 Rhy fyr i’r byd hyd ei hoes ‘too short for the world is its lifetime’. We can assume that Guto was in extreme old age when he sang this poem, and could count himself amongst the hwyaf ei oes ‘the most long-lived’.
22 hen ddeall The bardic craft.
26 A Duw oll y’u deellir Another way of saying that the Trinity (Tad, Mab ac Ysbryd, 23) are also one God.
27 Duw nef a Dau yn Ei ôl In lines 25–8 Guto discusses the idea that God the Father, along with the Son and the Holy Spirit (the Dau ‘Two’) are one under the name of God (24).
29 Chwegair A combination of either chweg ‘sweet’ or the numeral chwe ‘six’ + gair ‘word’, a reference to the ‘word’ or greeting of the archangel Gabriel to Mary, through which Christ was born: cf. GGMD ii, 7.29–30 Credaf eni Rhi Rhoddiad / O’th fru, Fair, o’r Gair heb gyd ‘I believe that the King of Blessings was born / of your womb, Mary, through the Word without intercourse’. Chwegair is not listed in GPC, but cf. in particular IGP XXXI.27–9 … o’r angel a’i hanfones / Yr ysbryd atad, gennad gynnes, / Efo â chwegair a’th feichioges ‘through the angel who sent / the spirit to you, a genial messenger, / He made you pregnant with six/sweet words’, and see ibid.n where chwegair is explained as the adjective chweg and gair, following Lloyd-Jones in G 279 and Ashton 1896: 557 who suggests that the numeral is unlikely because there are more than six words in Gabriel’s greeting to Mary: Ave Maria, gratia plena, Dominus tecum, benedicta tu in mulieribus, benedictus fructus ventris tui, Iesus. However, see P. Bryant-Quinn’s useful discussion in GPhE 3.13n, where he suggests that the first six words of the greeting (Ave Maria, gratia plena, Dominus tecum) were given particular attention in the Middle Ages, often being painted on images and murals. He further suggests that the words would be taken pars pro toto for the whole prayer. Supporting this suggestion are the following lines from Llawdden’s poem to Mary (the relevant words are underlined): GLl 2.15–22 Annerch hon a wnair â chwech / O’r dabl o eiriau dibech: / Ave Maria ofeg, / Ac o rad Duw geiriau teg; / Gratia plena bob planed, / … / Pwy a’n try rhag y poen trwm? / Os tycia Dom’nus tecum ‘She is greeted with six / pure words from tablet: / the greeting Ave Maria, / and sweet words through God’s blessing; / Gratia plena of every planet, / … / And who will turn us from the heavy pain? / If Dominus tecum is adequate for that.’ I therefore take Chwegair to mean ‘Six Words’, but as Bryant-Quinn notes, there may be deliberate ambiguity here.
30 dyfu The old third person perfect form of dyfod ‘to come’. The form is unexpected in fifteenth-century poetry, but may have survived in use in a religious context, as here, as is the case with crau ‘blood’, 39n.
31 gwyndraeth ‘Blessed earth’ following GPC 1772; the other examples there have the meaning ‘white or blessed strand or shore’ also given.
33 gwyllt, gwâr, gwellt a gwŷdd Two traditional combinations signifying the animal kingdom and plants in general, cf. Haycock 2007: 195.
33–4 Daear, gwyllt, … / … o’r pedwar defnydd A reference to the creation, cf. GLGC 1.81–4 Defnyddiaist, lluniaist, Dduw, yn llonydd – deg / do o’r pedwar defnydd: / daear, tân, pob rhyw dywydd, / dŵr a gwellt, awyr a gwŷdd ‘Oh God, you used, and created, quietly and beautifully / a roof out of the four elements: / earth, fire, every kind of weather, / water and herbage, air and shrubs.’ Cf. also the following stanza on the creation by Gruffudd ap Maredudd, GGMD ii, 6.1–4 Gwynt, tân, awyr llwyr, llawr daearfa – mwyn, / Gwnaeth un Mab Marïa: / Lleuad, dwfr, haul ni threula, / Gwyllt, gwâr, gwellt, gwŷdd, nos, dydd, da ‘Wind, fire, complete air, the pleasant surface of the earth, / were created by the one son of Mary: / the moon, water, the sun which does not fail, / wild and tame animals, herbage and shrubs, night, goodness.’
35–6 Duw a roes … / Ar wayw dur Ei waed erom A reference to the Roman soldier who pierced Christ in his side when he was on the Cross, see John 19.34. The story made an impression on the Welsh poets, and they were clearly influenced by the version in the Apocryphal ‘Gospel of Nicodemus’ where the soldier is named Longinus, and possibly by the ‘Legenda Aurea’ and other medieval texts where he was described as a blind man: see GDG3 488; GPhE 5.36n and cf. GIBH 12.23–4 Drwy’i ais a thrwy’i bais y bu / Un dall â gwayw’n Ei dyllu ‘Through his ribs and through his tunic / A blind man pierced him with a spear’ (to the rood at Brecon).
39 crau ‘Blood’, but an uncommon word by the fourteenth and fifteenth centuries, and one found almost exclusively by then in reference to the blood of the crucified Christ (often alliterating with croes ‘cross’, which may well explain its survival): cf. GIBH 10.23–4 Maddau, er Dy grau a’r groes, / Ym … ‘For your blood and the cross, forgive / me …’
40 Llun Duw yn llawn adwyau The literal meaning of adwy is ‘gap, breach, fissure’ (GPC2 66) and it refers figuratively here to Christ’s wounds, where he was pierced by nails or the spear (35–6n). Guto seems to be describing an image of Christ on the Cross at Valle Crucis (Duw ‘God’ specifically refers to Christ here, cf. 25–6). Images of Christ on the Cross were very common in the Middle Ages, inducing contrition in worshippers: cf. the following descriptions of the rood in Trefeglwys, GSC 10.3–4 Llun Duw gwyn, llawn wyd o gur, / Llyna ddelw’n llawn o ddolur ‘An image of blessed God, you are full of pain, / there’s an image full of wounds’; a rood in a chapel near the well of St Winifrede, GSH 16.72 Llun Duw a’i erchyll yn dost ‘An image of God with his wounds hurting’; and a rood in Llan-faes, GLMorg 104.14 Llun Duw yn llawn o waed oll ‘An image of God all full of blood’.
40–2 Duw yn llawn adwyau / A ddaw … / I’n cywain … There was a belief that Christ would appear on Judgement Day to exhibit his wounds to those awaiting judgement.
41 ddiweddbraw Ddyddbrawd These are taken adverbially, to explain their lenition; that is simpler than taking ddiweddbraw ‘final judgement’ to be adjectival, modifying Ddyddbrawd ‘Judgement Day’, as in the combination hydref ddail ‘autumn leaves’. Both words often occur together: cf. GIG 15.140 Dyddbrawd yn y diweddbraw ‘On Judgement Day in the final trial’; GMBr 15.24 Oed diweddbraw’, hyd Dyddbrawd ‘The time of the final trial, until Judgement Day’; GLMorg 80.104 Diweddbraw’, dowch, wŷr, Dyddbrawd, Och! Och! ‘Come, men, alas!, alas!, to the final trial of Judgement Day.’
42 yn ein cnawd A reference to the resurrection of the flesh, which is described in the Apostles’ Creed: Credo in … carnis resurrectionem, and for Welsh texts of the Creed, see Jones 1945–6: 75–82, and cf. especially the following explanation from Pen 16 which is quoted, ibid. 78, ‘Carnis resurrectionem. Sef yw pwyll hynny: MI A GREDAF KYUODI Y MEIRW POP VN YN Y BRIAWT GNAWT KYNO DYDBRAWT Y GYMRYT O BOB VN O NADUNT Y GAN DUW MEGYS Y GOBRYNWYS’ ‘Carnis resurrectionem. The meaning of which is: I believe that each of the dead will arise in his own flesh before Judgement Day, and that each one will receive from God that to which he is entitled.’
45 troes Cf. GPC 3605 s.v. troaf (4) ‘to give (to), transfer, present’.
46 tri meddwl trwm In the following lines Guto describes the three things that cause sadness to the human race: that we must die (47 Marw fyddaf ‘I will die’), the fact that we do not know when that will be (48 Ni wn ba awr yn y byd ‘I know not at all at what hour’) and that we don’t know where we will go (49–50 Ac ni wn … / … i ble ’dd af ‘And I know not … / … where I will go’). D.J. Bowen (1968–9: 121) draws attention to a remarkable similarity between Guto’s lines here and a thirteenth-century English lyric poem known as ‘Three Sorrowful Things’ (and he quotes from a paraphrase by Mabel Van Duzee, ibid.):
When I think upon things three,
Never may I happy be.
The one is that I must away;
Another, I know not the day;
The third one is my greatest care,
I know not whither I must fare.
See also Breeze 1989: 141–50 who discusses nine extant examples of the theme in Middle English poetry, drawing attention to an example in Irish literature also, and suggesting that this and Guto’s example show ‘influence, not of the native learning of Wales or Ireland, but of English literary culture, either in Latin or the vernacular’, ibid. 142. Of course, if the theme had already penetrated Welsh literature before Guto’s time, he might not have borrowed it directly from English sources.
47 i’m arfeddyd The contraction i’m is taken to mean ‘in my’ here; the usual meaning of arfeddyd is ‘purpose, intent, intention, mind’, &c., GPC 193. The transaltion is loose: Guto seems to be saying that he is destined to die.
53 gorfod A noun here, ‘victory, success, triumph’, &c., GPC 1479, nominally for God who will conquer the poet’s sins.
59 ofn y Grog There seems to have been a special rood at Valle Crucis to attract pilgrims, ‘a speaking statue of the risen Crist’, Williams 1976: 355, and see also Mathew 1928: 76–7 who mentions that remnants of the rood’s machinery were discovered in Plas-yn-pentre, near Trefor, one of Valle Crucis’s granges (see http://www.coflein.gov.uk s.n. Plas-yn-y-Pentre). Guto’s fear was probably caused by a deep meditation on Christ’s passion as depicted on this rood, and if indeed the rood could move and even speak, then we may suppose it frightened him greatly! We cannot be certain that the remnants found at Plas-yn-pentre belonged to the rood Guto saw, but it is a possibility.
59 crys Cf. the following description by Llawdden of the Rood at Chester, GLl 1.19–20 Croes a gair dan y crys gwyn, / Croes Duw ddelw Crist o Ddulyn ‘Under the white veil there is a cross, / the cross of Christ from Dublin with an image of God’, and see ibid.n where it is suggested that crys refers to a liturgical veil worn over the rood, its colour changing according to the church calendar, with white being used on important feast days such as those of Christ, Mary or the saints. The poets often refer to this veil as pais, see P. Bryant-Quinn’s comprehensive note in GIBH 12.23n. However, in images of Judgement Day, Christ would often be depicted sitting on a throne (see 58n) with a mantle around him but with the middle part of his body exposed to exhibit the wounds inflicted by the Roman soldier’s spear (see 35–6n). Cf. Lord 2003: 4 and the following image in Wrexham church which would possibly have been known to Guto.
http://www.pictures.walesdirectory.co.uk/Ancient_Churches/Ancient_Churches-9-13-B.jpg
60 ar yr enfys Christ was often shown sitting on a rainbow on Judgement Day, cf. the image from the Pembroke Hours (before 1469) in Lord 2003: 4. Cf. Revelation 4.1–3 After this I looked, and lo, in heaven an open door! And the first voice, which I had heard speaking to me like a trumpet, said, ‘Come up hither, and I will show you what must take place after this.’ At once I was in the Spirit, and lo, a throne stood in heaven, with one seated on the throne! And he who sat there appeared like jasper and carnelian, and around the throne was a rainbow that looked like an emerald.
61 nawradd The nine grades of angels in heaven under God’s kingship: GLGC 1.31 Brenin mawr ar y nawradd ‘The great king of the nine grades’. See further, Bl BGCC 100.
63 corn y Frawd The trumpet that would proclaim the coming of Judgement Day: see Revelation 8.6. It also frightened Ddafydd Epynt, GDEp 2.39–42 Ofn y corn, wyf yn crynu, / Â drwy ddŵr a daear ddu. / Yr holl fyd, ennyd unawr, / O farw â’n fyw ’n y Farn fawr ‘Fear of the trumpet, I’m shaking, / goes through the water of the black earth. / All the world, in the space of an hour, / will become alive from dead in the great Judgement.’
64 gwely As Guto has already mentioned being afraid in the night (56), we could take it to mean ‘bed’ literally; but if he’s referring to the resurrection of the flesh on Judgement Day, then it probably signifies ‘grave’ here: cf. 105.45–6 Gŵr yw gyda Sain Greal / A’i le ’n nef a’i wely ’n Iâl ‘He is a man in the company of the Holy Grail / with his place in heaven and his resting place in Yale’ (elegy for Robert Trefor who was buried at Valle Crucis).
65–6 Am a wneuthum y noethir / Fy nhâl â’r ysgrifen hir E. Rowlands (1956–7: 89) notes that tâl in this couplet means ‘forehead’, and that Guto is referring to a belief that on Judgement Day there would be a list on everyone’s forehead noting their deeds and showing the state of their soul: see ibid. 80–9 where further examples are quoted from the poetry. On the meanings of noethi, see GPC 2593 ‘to bear, … expose’, &c. The adjective hir is understood to refer to the length of the list on the forehead, as there was much to report about the state of the soul! The couplet is interpreted slightly differently by Clancy 2003: 327 who translates, ‘For what I’ve done, the payment [tâl] / Will be bared in the long scroll [ysgrifen hir].’
68 ym mrig aberth Cf. Rowlands 1956–7: 88 who suggests that brig aberth, literally ‘the climax’ or ‘highpoint of the sacrifice’ , refers to the part of the Mass when the host is raised. Another possibility is that Guto is referring to the actual wood (brig) of the Cross (aberth).
Bibliography
Ashton, C. (1896), Gweithiau Iolo Goch (Croesoswallt)
Bowen, D.J. (1957), Barddoniaeth yr Uchelwyr (Caerdydd)
Bowen, D.J. (1968–9), ‘Nodiadau ar waith y Cywyddwyr’, LlCy 10: 113–121
Breeze, A. (1989), ‘The Three Sorrowful Things’, ZCP 43: 141–50
Clancy, J.P. (2003), Medieval Welsh Poems (Dublin)
Haycock, M. (2007), Legendary Poems from the Book of Taliesin (Aberystwyth)
Jones, T. (1945–6), ‘Credo’r Apostolion yn Gymraeg’, Cylchg LlGC iv: 75–82
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Mathew, D. and Mathew, A. (1929), ‘The Survival of the Dissolved Monasteries in Wales’, Dublin Review, CLXXXIV: 70–81
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Rowlands, E.I. (1956–7), ‘Dydd Brawd a Thâl’, LlCy 4: 80–9
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes
Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).
Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.
Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.
Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).
Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.
Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)