Y llawysgrifau
Diogelwyd 19 copi o’r englyn hwn yn y llawysgrifau. Fe’i priodolir i Guto mewn chwe llawysgrif, i Dudur Aled mewn pum llawysgrif ac ni cheir enw’r bardd mewn wyth llawysgrif. A hepgor copïau, ceir enw Guto wrth y gerdd yn LlGC 3039B a Pen 77, enw Tudur yn Llst 52 [i] a [ii] a dim enw o gwbl mewn saith llawysgrif sy’n deillio o un ffynhonnell lle na cheid enw’r bardd (sef X; gw. y stema). Ni ellir cysylltu’r saith llawysgrif hyn ar sail darlleniadau unigol gan mor fyr yw’r testun, eithr amheuir yn gryf eu bod yn deillio o’r un gynsail ar sail eu blerwch cyffredinol ac absenoldeb enw’r bardd. Ni cheir testun da o’r gerdd yn yr un ohonynt. At hynny, nid yw testunau Llst 52 [i] a [ii] yn llaw William Salusbury (c.1580–1659/60) fawr gwell (gw. 1n chwardd, 2n a 3n), ac amheuir ei fod wedi eu codi o’r un gynsail goll lle roedd y gerdd yn ddienw. Cynigir mai Salusbury ei hun a roes enw Tudur wrth ei ddau gopi ef o’r gerdd yn sgil enwogrwydd y bardd hwnnw (cf. cerdd 123 (nodiadau testunol)). Ceir y copïau glanaf o’r gerdd yn llaw John Jones Gellilyfdy yn LlGC 3039B ac yn llaw ddiweddarach Thomas Wiliems yn Pen 77, lle priodolir y gerdd i Guto. Yn y ddwy lawysgrif hyn hefyd y ceir gwybodaeth ategol am amgylchiadau cyfansoddi’r gerdd a drafodir yn fanwl yn nodiadau esboniadol y gerdd hon. Eiddo Pen 77, i bob diben, a geir yn y testun golygedig.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3039B, Llst 52 [i] a Pen 77.
Teitl
Dilynir yr hyn a geir wrth droed y gerdd yn Pen 77 Gutto’r Glynn ei englyn diwedhaf yd y dwedir (ymhellach, gw. nodiadau esboniadol y gerdd hon).
1 dau Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Cafwyd anhawster â’r darlleniad mewn nifer o lawysgrifau sy’n deillio o X. Ni cheir darlleniad GGl dan yn y llawysgrifau, a’r tebyg yw mai camgopïad ydyw.
1 nid edrych Gthg. ni mewn rhai llawysgrifau sy’n deillio o X. Dilynir darlleniad y mwyafrif.
1 chwardd Gthg. Llst 52 [i] a [ii] a Llst 53 [i] chardd. Gall mai’r ferf carddaf ‘gwarthruddo’ neu ‘caethiwo’ a olgyir yno, ond nid yw’n synhwyrol yma (gw. GPC 425).
2 cherdda Gthg. Llst 52 [i] a [ii] a rhai llawysgrifau eraill sy’n deillio o X cherdd, lle ceir llinell bum sillaf.
3 gynilwych Gthg. Llst 52 [i] a rhai llawysgrifau eraill sy’n deillio o X gynhilwych, ffurf ddiangen yma gan fod cryfach cynghanedd yn narlleniad y golygiad.
4 a Dilynir mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 3039B a rhai llawysgrifau sy’n deillio o X na. Gall mai ffrwyth camrannu organa ydyw, ond gall hefyd mai ar lafar y daeth i fod.
Englyn hunan-dosturiol yw hwn a ganwyd, fe ymddengys, pan oedd y bardd yn agosáu at ddiwedd ei oes. Pwysleisir prudd-der y bardd drwy ailadrodd gwae ar ddechrau’r englyn ac yn yr esgyll a thrwy restru’r pethau na all eu gwneud bellach, sef edrych, chwerthin, cerdded, gweld yn glir a chlywed. Er ei byrred, mae’r gerdd fach hon yn dyst cofiadwy i boenau a thristwch henaint ac yn ddrych i’r hyn y byddai beirdd iau (a’r bardd ei hun yn eu plith) wedi ei gymryd yn gwbl ganiataol. Yn hynny o beth mae iddi arwyddocâd oesol a hawdd gweld pam fod cynifer â phedwar copi ar bymtheg ohoni wedi eu diogelu yn y llawysgrifau.
At hynny, hawdd gweld apêl gwybodaeth ategol a ddiogelwyd wrth y gerdd mewn dwy lawysgrif. Ceir yr wybodaeth gynharaf yn llaw ddiweddarach Thomas Wiliems ar ddalen olaf Pen 77 (1590au):
Gutto’r Glyn ei englyn diwedhaf
yd y dwedir. pann gysgai’n rhyhir
eb glywed na’r clych na’r organ ony dharvu’r
opher. yn y vanachloc lynn egwystl
Ceir mwy o wybodaeth, yn ôl y disgwyl efallai, mewn nodyn gan John Jones Gellilyfdy a ychwanegodd wrth ei gopi ef o’r englyn yn LlGC 3039B (1613–18):
Gvttor Glyn pan aeth yn hen aeth yn ddall ac yna y kymerth
abad llynegwestl ef ir vynachloc i dario yno tra vai vyw: ac
ychydic o vlaen i varw ef a gysgod[d] hyd yn ol hanner dydd, ac
yno y deffroes ac y govynnodd ir llank oedd yn i wasnevthv
beth oedd hi or dydd ac a ddyfod yntev i bod hi gwedi hanner
dydd a bod yr abad ar ddiwedd kinio: ac yno y dywad Gvtto pam
na chlowswn i y klych yn kanv: pam na chlowswn i ganv yr organ:
sef a attebodd i was: ef a ganwyd y klych yn ddigon vchel
ac a ganwyd yr organ hevyd: chwi a allessech i klowed: ac
yna y kanodd Gvtto yr Englyn hwn.
Dadleuir yn achos cerdd 93 fod rhaglith yn llaw John Jones i englyn a ganodd Guto i Ieuan ap Gruffudd Leiaf yn un ffug, ar y cyfan, a ddyfeisiwyd ganddo ar sail rhyw fymryn o wybodaeth a geid wrth y gerdd mewn ffynhonnell goll. Perthyn i’r rhaglith honno rai nodweddion sy’n sail i amau ei dilysrwydd, ond ni pherthyn rhyw lawer o nodweddion tebyg i’r wybodaeth uchod. Fodd bynnag, o ystyried yr wybodaeth honno mewn cymhariaeth â’r hyn a geir yn llaw Thomas Wiliems, bernir ei bod yn bosibl dadlau bod yr wybodaeth a geir gan Wiliems yn adlewyrchu’n agos yr hyn a geid yn y gynsail goll, a bod John Jones wedi mynd ati i ymhelaethu ar yr wybodaeth honno o’i ben a’i bastwn ei hun. Rhaid cydnabod y posibilrwydd mai gwaith y ddau ddyneiddiwr yw’r wybodaeth yn y ddwy lawysgrif ac mai’r testun yn unig a geid yn y gynsail, ond rhaid cydnabod ar yr un pryd fod cryn debygrwydd rhwng y ddwy dystiolaeth ac nad ystyrir Wiliems, yn wahanol i Jones, yn un am addurno testunau eithr am gopïo’n ffyddlon o’i ffynhonnell. Sylwer bod Jones yn nodi mai codi’n rhy hwyr i’w ginio a wnaeth y bardd, ond go brin y cenid organ a chlych er mwyn galw pobl ar gyfer pryd o fwyd. Mae’r wybodaeth a rydd Wiliems yn taro deuddeg, sef mai gwasanaeth yr offeren a gollodd y bardd. At hynny, cyfeirir wrth fynd heibio gan Wiliems at ei ffynhonnell (yd y dwedir), a allai fod naill ai’n llawysgrif goll neu’n ffynhonnell lafar. Ni waeth pa fath o ffynhonnell ydoedd mewn gwirionedd, mae’n bur debygol nad Wiliems ei hun a ddyfeisiodd yr hanes, a gellir rhoi rhywfaint o bwys, o ganlyniad, ar ei briodoliad ac ar y lleoliad a rydd i’r gerdd yn abaty Glyn-y-groes.
Awduraeth
Dadleuir yn nodiadau testunol y gerdd hon fod testun y gerdd ar ei orau yn llawysgrifau LlGC 3039B a Pen 77, lle priodolir y gerdd i Guto. Cynigir mai William Salusbury (c.1580–1659/60) a dadogodd y gerdd ar Dudur Aled yn Llst 52 [i] a [ii] gan na cheid enw’r bardd yn ei ffynhonnell goll. Gall fod Salusbury’n gwybod bod Tudur wedi diweddu ei oes ym mhriordy Ffransisgaidd Caerfyrddin (bu farw rhwng 1525 a 1527 yn ôl pob tebyg) ac wedi cysylltu’r cyfeiriad at organ a chlych â’r fan honno. Mae’r ffaith y perthyn mwyafrif y llawysgrifau i’r gogledd yn sail i ddadlau bod y gerdd hithau’n perthyn i’r rhan honno o’r wlad, ond dylid cadw mewn cof mai yno hefyd y ceid y gweithgarwch llawysgrifol mwyaf yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae tystiolaeth y llawysgrifau yn eu crynswth yn erbyn priodoli’r gerdd i Dudur (at hynny, copïau digon gwael ohoni a geir yn llaw Salusbury), ond mae absenoldeb enw’r bardd mewn nifer o lawysgrifau’n bwrw rhywfaint o amheuaeth ar ei hawduraeth. Mae’n eglur fod o leiaf un ffynhonnell goll yn cynnwys copi dienw o’r gerdd, ond amheuir yn gryf ai honno oedd y brif gynsail gan mor ddi-raen, ar y cyfan, yw cyflwr y testunau a ddeilliodd ohoni. Cynigir bod poblogrwydd y gerdd ar lafar wedi achosi iddi gylchredeg heb enw’r bardd, fel y digwyddai’n aml yn achos englynion unigol. O blaid priodoli’r gerdd i Guto mae’r ffaith ei fod yn nodi mewn tri chywydd sy’n ymwneud â’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ei fod yn colli ei olwg (gw. 114.62, 116.45, 117.50). Mae’r gerdd yn sicr yn cydweddu â naws cerddi eraill a ganodd Guto yng Nglyn-y-groes yn ei henaint.
Dyddiad
A chymryd bod Guto wedi treulio ei ddyddiau olaf yn abaty Glyn-y-groes yn ail hanner wythdegau’r bymthegfed ganrif, y tebyg yw ei fod wedi canu’r englyn hwn c.1490.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd CXXI; CTC 146.
Mesur a chynghanedd
Englyn unodl union, 4 llinell.
Cynghanedd: croes 67% (2 linell); dim traws; sain 33% (1 llinell); dim llusg. Ceir cynghanedd sain yn y llinell gyntaf yn ôl y disgwyl (gw. CD 276) a chyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell. Ceir cymeriad geiriol gwae yn y llinell gyntaf a’r esgyll, ac fe’i hestynnir yn yr esgyll (gwae ni).
1 gwan dau oedran Nid yw [t]au oedran ‘dy oedran’ yn synhwyrol, yn arbennig gan mai yn y trydydd person unigol y cyfeirir at [y] gwan yn yr englyn hwn. Yn hytrach cynigir mai ‘dwy oes’ a olygir, sef bod y bardd oedrannus yn cwyno ei fod wedi byw cyhyd â dwy oes dyn cyffredin.
2 lled y rhych Sef lled cwys a erddir, fe dybir (cf. y cyfuniad lled y pen, GPC 2127). Yr ergyd yw y byddai lled rhych yn drawiadol o fyr mewn cymhariaeth â’i hyd. Ond tybed a yw Guto’n cyfeirio at rych benodol, megis gwagle ei fedd yn naear Glyn-y-groes?
This self-pitying englyn was probably composed when Guto was nearing the end of his life. His melancholy is underlined by the repetition of the word gwae ‘woe’ at the beginning of the poem and in the last two lines, and also by listing the things that he cannot do now that he is an old man, namely edrych ‘to look’, to laugh, to walk, to see distinctly and to hear. Although only four lines long, this miniature poem memorably captures the pain and sorrow of old age and counterpoints what many young poets (including Guto himself) would have taken entirely for granted. In this respect its significance is timeless, and it is not surprising that as many as nineteen copies of the poem have survived in the manuscripts.
Furthermore, it is not difficult to appreciate the appeal of subsidiary information which has been preserved with the poem in two manuscripts. The earliest appears in the hand of Thomas Wiliems on the last page of Pen 77 (1590s):
Gutto’r Glyn ei englyn diwedhaf
yd y dwedir. pann gysgai’n rhyhir
eb glywed na’r clych na’r organ ony dharvu’r
opher. yn y vanachloc lynn egwystl
‘Guto’r Glyn; his last englyn, it is said, when he overslept without hearing the bells or the organ until he disturbed the mass in the monastery, Llanegwystl.’
More information, perhaps as is to be expected, is found in a note by John Jones Gellilyfdy, which he appended to his copy of the englyn in LlGC 3039B (1613–18):
Gvttor Glyn pan aeth yn hen aeth yn ddall ac yna y kymerth
abad llynegwestl ef ir vynachloc i dario yno tra vai vyw: ac
ychydic o vlaen i varw ef a gysgod[d] hyd yn ol hanner dydd, ac
yno y deffroes ac y govynnodd ir llank oedd yn i wasnevthv
beth oedd hi or dydd ac a ddyfod yntev i bod hi gwedi hanner
dydd a bod yr abad ar ddiwedd kinio: ac yno y dywad Gvtto pam
na chlowswn i y klych yn kanv: pam na chlowswn i ganv yr organ:
sef a attebodd i was: ef a ganwyd y klych yn ddigon vchel
ac a ganwyd yr organ hevyd: chwi a allessech i klowed: ac
yna y kanodd Gvtto yr Englyn hwn.
‘When he was an old man, Guto’r Glyn went blind and then the abbot of Llanegwystl took him to the monastery to live there until he died. And a short time before he died he slept until after midday, and then he awoke and asked what time it was to the boy who served him, who said that it had passed noon and that the abbot was finishing dinner. And then Guto asked, “why didn’t I hear the bells ringing, why didn’t I hear the organ playing?” His servant replied, “the bells were rung loud enough and the organ was played also, you could have heard them.” And then Guto sang this englyn.’
It is argued in the case of poem 93 that John Jones’s preface to an englyn composed by Guto for Ieuan ap Gruffudd Leiaf was faked almost completely by Jones himself on the basis of a few scraps of information which he found with the englyn in his lost source. The preface is suspect in many respects, but the same cannot be said to the same extent of the information shown above. Nevertheless, by comparing this information with the note written by Thomas Wiliems it is Wiliems’s information that arguably resembles most closely what was written in the ultimate lost source, and it is likely that Jones simply expanded upon the original information as he deemed appropriate. It is possible that both sets of information may simply be the work of the two humanists and that the source contained nothing more than the text of the poem, yet, significantly, there is much similarity between both sets of evidence and Wiliems, unlike Jones, was known less for embellishing his texts than for faithfully reproducing his sources. Note that Jones states that Guto awoke late for his dinner, but it is highly unlikely that organ a chlych ‘organ and bells’ would have been sounded to call monks to the table. The information supplied by Wiliems, that the poet was late for mass, is more convincing. Furthermore, Wiliems refers obliquely to his source (yd y dwedir ‘it is said’), which could be either a lost manuscript or an oral tradition. Whichever it was it seems unlikely that the story was invented by Wiliems, and it can, therefore, be relied upon to some extent in terms of both the attribution and the location of the poem at the abbey of Valle Crucis.
Authorship
It seems that the best preserved copies of this poem are found in manuscripts LlGC 3039B and Pen 77, where it is attributed to Guto. It is likely that it was William Salusbury (c.1580–1659/60) who attributed the poem to Tudur Aled in Llst 52 [i] and [ii], following the absence of the poet’s name in his lost source. Salusbury may have known that Tudur spent his last days in the Franciscan priory at Carmarthen (he probably died between 1525 and 1527) and, therefore, linked the reference to organ a chlych ‘organ and bells’ with that place. The fact that most of the manuscripts were written in north Wales suggests that the poem also belongs to the same region, yet it may be significant that the manuscript tradition was strongest in this region during the sixteenth century. The collective evidence of the manuscripts is against attributing the poem to Tudur (furthermore, the copies written by Salusbury are generally quite poor), although the absence of the poet’s name in a number of manuscripts puts a certain amount of doubt upon its authorship. It is evident that at least one lost source contained an unnamed copy of the poem, but it is unlikely that this source was the ultimate source due to the generally shoddy nature of the texts which were copied from it. The poem may have been popular in oral tradition and, as so often happened with individual englynion, circulated without the poet’s name. The attribution to Guto is supported by the fact that in three poems which are associated with Abbot Dafydd ab Ieuan of Valle Crucis, he states that he is losing his sight (see 114.62, 116.45, 117.50). The poem certainly accords with a sense of sadness in old age which is found in other poems composed by Guto in Valle Crucis.
Date
Assuming that Guto spent his last days in the abbey of Valle Crucis c.1485–90, it is likely that this poem was composed c.1490.
The manuscripts
There are 19 copies of this poem preserved in the manuscripts. It has been best preserved in the hand of John Jones Gellilyfdy in LlGC 3039B and in the hand of Thomas Wiliems in Pen 77, and this edition is based mainly upon the text of the latter. On the manuscripts, see further the note above on the poem’s authorship.
Previous editions
GGl poem CXXI; CTC 146.
Metre and cynghanedd
Englyn unodl union, 4 lines.
Cynghanedd: croes 67% (2 lines); no traws; sain 33% (1 line); no llusg. The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but consonantal cynghanedd is used.
1 gwan dau oedran Literally ‘two age old weak man’. The reading [t]au oedran ‘your age’ makes no sense, especially as the ‘weak man’ is referred throughout in the third singular person. It is more likely that the poet is referring to ‘two lifetimes’, for he believes that he has lived as long as two average lifetimes.
2 lled y rhych ‘The furrow’s width’, namely the width of a ploughed furrow, it seems (cf. the combination lled y pen ‘wide (open)’, ‘(open) to the fullest extent’, GPC 2127). The point is that the width of a furrow is significantly less than its length. Yet, could Guto be referring to a specific furrow, such as his own grave pit on the abbey’s land?