Y llawysgrifau
Diogelwyd naw copi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau. Ceir tri fersiwn sylfaenol, sef eiddo LlGC 1553A, Pen 81 ac X (gw. y stema). Mae testunau Pen 81 ac X (cynsail goll i lawysgrifau Llywelyn Siôn) yn unffurf, i bob diben, ac eithrio yn achos dau ddarlleniad yn y pumed englyn (gw. 17n diderfyn ac 19n). Ategir y cyntaf o’r darlleniadau hynny yn X gan dystiolaeth LlGC 1553A, a bernir bod tystiolaeth X yn rhagori ar eiddo’r ddwy lawysgrif arall yn achos yr ail. At hynny daw’r seithfed englyn o flaen y chweched englyn yn Pen 81 (sef y drefn a ddilynwyd yn GGl), ond ceir y drefn a welir yn y golygiad yn LlGC 1553A ac X. Ceir olion ailgyfansoddi mynych yn LlGC 1553A (gw. yn arbennig y nodiadau isod ar yr ail englyn, 5–8), a rhoddwyd blaenoriaeth i dystiolaeth Pen 81 ac X wrth lunio testun y golygiad. Fodd bynnag, ceir englyn ar ddiwedd y gerdd yn LlGC 1553A nas ceir yn y ddwy lawysgrif arall. Nid yw’n gwbl eglur oddi wrth gynnwys yr englyn a yw’n perthyn i’r gerdd hon ai peidio, ond mae’n ddigon posibl ei fod wedi ei atodi wrth y gerdd hon gan ei fod yn rhannu’r un brifodl. Nid ymddengys ei fod yn rhagori ar yr englyn blaenorol fel diweddglo i’r gerdd, ac fe’i hepgorir o’r golygiad (gw. y nodyn isod). Dim ond llinellau 36–7 a phytiau o linellau 12 a 27, fe ymddengys, a geir yn Llst 55 (gall fod yn arwyddocaol mai esgyll englyn olaf y golygiad a geir yn Llst 55, er na ellir rhoi llawer o bwys ar ei thystiolaeth gan mor fympwyol yw ei darlleniadau’n gyffredinol).
Trawsysgrifiadau: LlGC 1553A, LlGC 6511B a Pen 81.
Teitl
Ceid teitl digon gwamal yn X (os nad gwaith Llywelyn Siôn ydyw) llyma osteg a wnath gytor glynn i erchi bidog dros hywel grythor vawr o wynedd. Nid cerdd ofyn yw hon ac nid bidog a erchir, a bod yn fanwl gywir, eithr dagr (at hynny, dygwyd hywel grythor vawr yn syth o linell 21). Ceir mwy o gywirdeb yn LlGC 1553A Gvto r glyn i ganmol tudvr aled ag i ddyfalv howel grythor ynghylch dager a roese dvdvr ir krythor (ar dyfalu ‘gwatwar’, gw. GPC 1122 d.g. dyfalaf (b); cf. 97.28). Ni cheir teitl yn Pen 81. William Middleton (fl. 1550–1600), yn ôl CD 297, oedd y cyntaf i nodi mai cyfres o englynion unodl oedd gosteg, yn hytrach na chyfres o englynion, boed yn unodl ai peidio. Efallai mai dyma a olygid wrth gosteg yn nheitl X hefyd, sef cyfres o englynion unodl.
Llinellau a wrthodwyd
Ceir englyn arall ar ddiwedd y gerdd yn LlGC 1553A yr iach wr gwinav a wyr echwyn bara / a borai fwyd deng nyn / ar llall ni fforai oll yn / eithr chwesaig athri chosyn. Gellid diwygio’r llinell gyntaf, sydd sillaf yn rhy hir: Yn iach, ŵr gwinau a echwyn – bara. Ni dderbynnir yr englyn yn y golygiad (gw. uchod).
2 Amhorfryn Gthg. X amherfryn neu amerfryn.
5 Yr haelaf, dewraf aderyn – didwyll Gthg. LlGC 1553A haelaf a dewraf yderyn dy daid. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
6 Dewdwr Gthg. LlGC 1553A dvdvr. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
7 o Gthg. LlGC 1553A wyr. Er mai ŵyr oedd Tudur i Ithel, dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
8 o Gthg. LlGC 1553A yn. Dilynir yn betrus fwyafrif y llawysgrifau.
8 o iachau’r Chwith Ni cheir darlleniad GGl o’i achau chwaith yn y llawysgrifau.
8 iachau Gthg. X achau.
8 Chwith Gthg. LlGC 1553A chwech. Nid ymddengys yn synhwyrol.
8 chair Ni cheir darlleniad GGl chai yn y llawysgrifau.
9 dysgaist Gthg. X dygaist.
10 awdl Gthg. X odl.
12 Dwyn campau, doniog himpyn Gthg. LlGC 1553A dwyn gampav doniog impin. Diwygiad ydyw yn sgil colli’r anadliad caled ar ddechrau impyn (fel y gwelir yn narlleniad GGl). Yn LlGC 6511B a LlGC 21290E yn unig y’i diogelwyd yn llawysgrifau X.
13 ymafel Dilynir LlGC 1553A a Pen 81, a’i ystyried yn ffurf amrywiol ar ymafael (gw. GPC 3756–7 d.g. ymafaelaf). Gthg. X ymafael.
13 wnaud Dilynir LlGC 1553A wnavd. Gthg. Pen 81 wnait ac X wnaid. Ni cheir darlleniad GGl wnaut yn y llawysgrifau.
13 ymofyn Gthg. X a movyn.
14 a Nis ceir yn LlGC 1553A, o bosibl yn sgil cyfrif bwrw yn ddeusill.
15 nofio Cf. y ffurf amrywiol arno yn X noevio (gw. GPC 2594–5 d.g. nofiaf). Ni cheir darlleniad GGl nofi yn y llawysgrifau.
16 neitio Cf. y ffurf amrywiol arno yn X naito (gw. GPC 2564–5 d.g. neidiaf).
16 rhedeg Gthg. X rhydeg. Gall mai ‘teg neu brydferth iawn’ a olygir (gw. GPC 3126 d.g. rhydeg1), ond y tebyg yw mai ffurf amrywiol ydyw ar rhedeg (gw. ibid. 3044 d.g. rhedaf).
17 diderfyn Dilynir yn betrus LlGC 1553A ac X. Gthg. Pen 81 di erfynn, ‘heb daer ddymuniad’. Mae ‘pobl sy’n gofyn ond sydd ddim yn gorfod erfyn’ yn bosibl, ond ni cheir enghraifft o dierfyn yn GPC. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
17 y’u Dehonglir i y llawysgrifau. Gthg. GGl y.
19 dy grair ynn Dilynir X. Gthg. LlGC 1553A o grair yn a Pen 81 dyger hynn (darlleniad GGl), nad ydynt yn arbennig o synhwyrol. Ond o’u cyfuno ceir darlleniad synhwyrol y golygiad. Tybed a oedd y darlleniad yn annelwig yn y gynsail?
21 i Ni cheir darlleniad GGl o yn y llawysgrifau ac eithrio fel ychwanegiad yn C 5.44 yo.
22 Degaingl Dilynir y ffurf a geir ym mwyafrif y llawysgrifau. Gthg. LlGC 970E degangl a LlGC 1553A degengl. Ymhellach, gw. 70.32n (testunol).
22 a Phenllyn Gthg. LlGC 1553A ag i lyn, sef Llŷn, fe ymddengys. Fel y saif yn y llawysgrif honno ceir y bai trwm ac ysgafn yn yr englyn hwn (23 a fyn). At hynny, geiriau trwm a geir yn y prifodlau acennog ym mhob achos.
24 ethrywyn Dilynir Pen 81 ythrywyn, amrywiad orgraffyddol, fe dybir, ar ethrywyn. Bernir mai ffurf amrywiol ydyw ar athrywyn (darlleniad GGl; gw. GPC2 534 d.g. athrywyn1) gan na cheir sail, bellach, i’r enghreifftiau o ethrywyn yn GPC 1255 (gw. DG.net 27.61; GIG XXI.33). Ategir y darlleniad, o bosibl, gan X y thrywyn. Gthg. LlGC 1553A i athrvwyn. Mae ’i athrywyn yn bosibl, ond bernir mai ythrywyn a geid yn y gynsail a bod darlleniad LlGC 1553A ac X yn seiliedig ar ddehongli y- fel rhagenw. Ni cheir sail, fe ymddengys, i trywyn er gwaethaf yr hyn a nodir yn GPC 3646 d.g. trywyn2.
25 asgell, i floesgyn Ni cheir darlleniad GGl astell i flastyn yn y llawysgrifau.
30 neu hen Gthg. LlGC 1553A ne rhen. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
31 glew Gthg. X gwledd.
32 chilynt Dilynir LlGC 1553A (cf. 1 elwyn’ a 18 erchyn’, a brofir gan yr odl). Gthg. Pen 81 chilent ac X chiliai (GGl chilient).
34 phwyniart Cf. ffurfiau amrywiol eraill yn LlGC 6511B a LlGC 21290E phwynard a Llst 134 phwyniard (gw. GPC 2950 d.g. pwyned).
36 onid Gthg. LlGC 1553A eithr, a rydd linell chwesill o’i ystyried yn air unsill (fel y gwneir yn llinell 24).
Cyfres o englynion yw’r gerdd hon a ganwyd pan roes y bardd Tudur Aled ddagr yn rhodd i Hywel Grythor. Mae’n annhebygol mai Guto a’i canodd a phery awduraeth y gerdd yn ddirgelwch (gw. y nodyn isod). Ym mhum englyn cyntaf y gerdd molir Tudur fel uchelwr drwy ei gymharu â beirdd enwog y gorffennol (llinellau 1–4) a chanmol ei ach anrhydeddus (5–8), ei ddoniau ym myd cerdd dafod (9–10) ac ym myd y campau (11–16; gw. 13–16n) ac, yn olaf, ei haelioni (17–18). Ond dengys y mesur wir natur y gerdd, oherwydd ar fesur yr englyn yn bennaf y canai beirdd gerddi ysgafn i’w gilydd o droad yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Hwyl ymysg beirdd a cherddorion yw pwnc y gerdd hon, fel y gwelir o’r pumed englyn hyd ddiwedd y gerdd, lle dychenir glythineb Hywel fel gwrthbwynt llwyr i wrhydri Tudur. Dywedir bod Tudur wedi rhoi dagr yn rhodd (19–20) a’i bod ym meddiant Hywel, sy’n ei chludo ar ei deithiau clera, fe ymddengys, yng ngogledd-ddwyrain y wlad (21–2). Ond nid y ddagr sydd bwysicaf ym meddwl Hywel eithr cadw heddwch cyhyd ag y gallai (23–4). Yn y seithfed englyn molir y rhodd ei hun fel gwrthrych peryglus a fyddai fel cleddyf byr yn llaw rhywun gwirion, fel arf yn llaw arglwydd Rhuthun ac fel craith hir ar y sawl a ganai grwth, sef Hywel (25–8). Hynny yw, barn y bardd yw y dylai’r rhodd rymus honno fod ym meddiant rhywun dewr a’i defnyddiai’n briodol. Nesaf enwir tri bardd a fyddai wedi gwneud defnydd da ohoni, sef Dafydd Nanmor, Tudur Penllyn a Guto (29–32). Dengys y ffaith fod Tudur Penllyn yn hen yn eglur mai cenhedlaeth hŷn o feirdd a gynrychiolir gan y tri hyn, a fyddai, fel Tudur Aled yntau, wedi gwneud defnydd pwrpasol o’r ddagr, megis y defnydd a wneir o erfyn tebyg mewn cywydd a ganodd Guto i ofyn cyllell hela (cerdd 76). Nid felly Hywel druan, a ddychenir yn yr englyn olaf am osgoi unrhyw ffrae drwy beidio aros mewn un man yn rhy hir ac am ddefnyddio’r ddagr i fwyta ac yfed cymaint ag y gallai (33–6).
Am drafodaeth ar y tebygrwydd rhwng y gerdd hon a chyfres arall o englynion ansicr eu hawduraeth lle cenir dychan i grythor arall, gw. cerdd 122 (esboniadol).
Awduraeth
Priodolir y gerdd hon i Guto ym mhob llawysgrif ac mae’n bur eglur mai ei enw ef a geid wrthi yn y gynsail. Ond mae’r ffaith fod Guto’n cael ei enwi yn llinell 31 yn ei gwneud yn anodd iawn rhoi’r gerdd iddo. Er bod Guto’n ei enwi ei hun ar ddiwedd cywydd i’r Abad Tomas o Amwythig (gw. 77.66) ac, o bosibl, mewn awdl i Ddafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes (gw. 113.31), mae’r modd y caiff ei enwi yma fel un o dri bardd a oedd o’r hyn lleiaf yn hen iawn pan ganwyd y gerdd, os nad wedi marw, yn awgrymu’n gryf mai cerdd gan fardd arall ydyw. Yr esboniad amlycaf yw bod rhywun wedi ysgrifennu enw Guto wrth ymyl yr englyn olaf ond un yn y gynsail a bod copïwyr diweddarach wedi deall ei enw fel priodoliad. Fodd bynnag, noder ei bod yn bosibl fod Guto a Thudur Aled wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (gw. Fychan 1983: 59), a’i bod yn sicr fod Guto a Hywel Grythor yn adnabod ei gilydd (gw. Hywel Grythor).
Dyddiad
Rhoir dyddiadau Tudur Aled rhwng c.1465 a c.1525, ac mae’n bur debygol fod Hywel Grythor yn ei flodau yn ystod degawdau olaf y bymthegfed ganrif. A chymryd bod y tri bardd a enwir yn yr englyn olaf ond un wedi marw erbyn c.1490, ac os yw’r bardd yn cyfeirio atynt fel beirdd a fu farw, mae’n debygol fod y gerdd wedi ei chanu yn ystod degawd olaf y ganrif.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CII.
Mesur a chynghanedd
Naw englyn unodl union, 36 llinell.
Cynghanedd: croes 52% (14 llinell); traws 18% (5 llinell); sain 26% (7 llinell); llusg 4% (1 llinell). Ni chynhwysir y cyrch yn y canrannau uchod, lle ceir cyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell ym mhob englyn ac eithrio’r pumed, lle ceir cynghanedd sain (17–18). Canwyd pob englyn ar y brifodl -yn. Ceir cynghanedd sain yn llinell gyntaf mwyafrif yr englynion a chynghanedd draws yn y gweddill (yn ôl y disgwyl, gw. CD 276), yn ogystal â chynganeddion cytsain yn eu hesgyll. At hynny ceir cymeriad llythrennol neu lafarog (yn cynnwys geiriol a chynganeddol) ymron ym mhob englyn.
1 Adda Fras Bardd. Gw. GLMorg 257, ‘Ffigur annelwig ddigon, ond synnid amdano fel bardd dysgedig ac fe’i henwir yn fynych yn y marwnadau a ganodd y beirdd i’w cyd-brydyddion. Fe’i huniaethid hefyd â’r canu darogan.’ Ymhellach, gw. ibid. 94.49n; GGl 321; ByCy 4; CLC2 8; 110.63n. O ran y gwaith ar ei enw a ddiogelwyd, cerddi darogan yw’r cwbl, er bod amheuaeth ynghylch pa rai sy’n gynnyrch dilys o’i eiddo. Mewn hysbysiad yn llawysgrif Pen 94, 26, dywedir iddo gael ei gladdu yn Aberllechog (sef Maenan, ger Conwy) yn 1038, ond yn ôl John Davies Mallwyd yn ei restr o feirdd ar ddiwedd D, roedd yn ei flodau yn 1240.
2 Merddin Amhorfryn Ffurf ar enw Myrddin ap Morfryn Frych, bardd o’r Hen Ogledd y credir iddo fyw yn y chweched ganrif. Derbyniodd nawdd gan Wenddolau a throes yn broffwyd ynfyd yng Nghoed Celyddon pan orchfygwyd ei noddwr gan Rydderch Hael ym mrwydr Arfderydd (gw. TYP3 458–62; WCD 492–500).
3–4 Tudur … / Aled Y bardd mawr Tudur Aled a roes ddagr yn rhodd i Hywel Grythor.
4 Iolo Sef Iolo Goch, un o feirdd mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg.
6 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell (neu ei fab, o bosibl, sef Tewdwr arall), un o hynafiaid Tudur Aled a hendaid i’r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth (1131/2–97).
6 Cynfyn Sef Cynfyn ap Gwerystan, tad Bleddyn ap Cynfyn (a fu’n dywysog Gwynedd a Phowys (m. 1075)), un o hynafiaid Tudur Aled.
7 Ithel ap Llywelyn Ithel ap Llywelyn Chwith (gw. 8n), taid Tudur Aled ar ochr ei dad.
8 y Chwith Sef, yn ôl pob tebyg, Llywelyn Chwith ap Cynwrig, hendaid Tudur Aled a thad i Ithel ap Llywelyn (gw. 7n).
9 arweddaist wreiddyn Trosiad amaethyddol, fe ymddengys, sef ‘dwyn cnwd’ (gw. GPC2 486 d.g. arweiniaf (b)).
13 bar traws Gw. y cyfuniad yn GPC2 577 d.g. bar1 ‘? crossbar, crowbar’. Defnydd pensaernïol a wneid o ‘cross-bar’ yn ôl OED Online s.v. 1 (a), ac nid yw hynny’n gweddu yma. Ond y tebyg yw mai bar trwm a olygir ac a godid er mwyn dangos cryfder. Gall fod y bar hwnnw’n un ‘traws’, hynny yw, ar ffurf croes, neu gall yn syml mai ‘cadarn’ yw ystyr traws yma (gw. GPC 3561 d.g. (a) a (b)).
13–16 Enwir yn yr englyn hwn o leiaf bum camp yr oedd Tudur wedi ei meistroli (gw. 12 dwyn campau). Yn ôl rhestr John Davies o’r pedair camp ar hugain yn D (gw. IGE2 387) roedd ‘barddoniaeth’ yn un ohonynt, a gwelir bod Tudur eisoes yn feistr ar y grefft honno (gw. 9–10). Campau corfforol a milwrol a restrir yn yr englyn hwn, sef ymafel, ymofyn – bar traws / A bwrw trosol celyn / Neu faen llwyth (er mwyn dangos ‘cryfder’, fe ymddengys), nofio mewn llyn, neitio a rhedeg. Yn D gelwir y campau hyn, ynghyd â ‘marchogaeth’, yn chwe gwrolgamp ‘o rym corff’. Ymhellach ar y campau, gw. GRhGE 12.15–36 a’r cyfeiriadau yn Salisbury 2007: 43n92 a n93). Fel Guto yntau ymddengys fod Tudur wedi rhagori ar y gamp o daflu maen.
14 trosol celyn Cynigir ‘trosol o bren celyn’ yn yr aralleiriad, a chymryd y teflid cangen neu foncyff o lwyn celyn fel mesur o gryfder. Nid yw celyn ‘pidyn’ yn synhwyrol (gw. GPC 459 d.g. celyn2). Ceid sant o’r enw Celyn fab Caw o Brydyn ond ni wyddys nemor ddim amdano (gw. WCD 119).
15 maen llwyth Gw. y cyfuniad yn GPC 2308 d.g. maen1 ‘heavy stone used for putting in athletic contest (lit. load stone)’. Hon yw’r unig enghraifft o’r cyfuniad a nodir yno.
19 Dager a roist, dy grair ynn Gellid Dager a roist, dy grair, ynn ‘Dagr a roist i ni, dy drysor’, ond bernir na fyddai hynny’n cyd-daro â’r ffaith mai Hywel Grythor yn unig a dderbyniodd y rhodd.
21 Hywel Grythawr Sef Hywel Grythor a dderbyniodd ddagr yn rhodd gan Dudur Aled ac a ddychenir yn y gerdd hon.
21 Berwyn Cwyd mynyddoedd y Berwyn ar gyrion Llandrillo yn Edeirnion gan ymestyn i Langollen yn y dwyrain ac i’r de hyd at ddyffryn Tanad.
22 Tegaingl Ffurf ar gantref Tegeingl yng ngogledd-ddwyrain eithaf Cymru a gynhwysai gymydau Cwnsyllt, Prestatyn a Rhuddlan (gw. WATU 212 a 324; Richards 1998: 31; CLC2 697).
22 Penllyn Cantref o gryn faint a gynhwysai gymydau Dinmael, Edeirnion, Is Tryweryn ac Uwch Tryweryn (gw. WATU 174 a 310).
25 asgell Nid ‘gwaywffon’, fel yr awgrymir yn GPC2 500 d.g. asgell1 1 (e), eithr ‘adain’ (gw. ibid. 1 (a); Day 2010: 219).
26 arglwydd Rhuthun Gan na ellir dyddio’r gerdd yn fanwl nid yw’n eglur at ba arglwydd y cyfeirir, ai Edmund Grey (a fu’n arglwydd o 1440 i 1490), George Grey (1490–1503) neu Richard Grey (1503–23) (gw. DNB Online s.n. Grey family). Am y dref (a’r cwmwd, yn achlysurol) yng nghwmwd Dogfeiling yn Nyffryn Clwyd, gw. WATU 190 a 265.
27 y graith hir Dywedir bod y ddagr segur yn debyg i graith hir ar gorff Hywel Grythor (gw. 21n Hywel Grythawr), onid oedd y ddagr ei hun wedi creithio Hywel gan na wyddai’n iawn beth i wneud â hi. Yr ergyd yw bod y ddagr yn edrych yn hyll ac anweddus ym meddiant rhywun na wyddai sut i’w defnyddio’n briodol.
27 crythoryn At Hywel Grythor y cyfeirir (gw. 21n), ond bernir nad enw priod ydyw fel y’i deellir yn GGl Grythoryn gan mor gyffredin oedd y cerddorion hynny yn ystod yr Oesoedd Canol.
29 Dafydd Nanmor Un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif (gw. Dafydd Nanmor).
30 Tudur Penllyn Un o feirdd y bymthegfed ganrif (gw. Tudur Penllyn).
31 Guto’r Glyn Mae’r ffaith fod ei enw yma’n sail gref i’w wrthod fel awdur y gerdd (ymhellach, gw. uchod).
33 Hywel Hywel Grythor.
34 â’i phwyniart Disgwylid a’i bwyniart, ond rhaid wrth y treiglad llaes er mwyn y gynghanedd. Awgrymir yn betrus bod y pwyniart, sef y ddagr, yn perthyn i’r ffon yn y llinell flaenorol.
Llyfryddiaeth
Day, J.P. (2010), ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
This series of englynion was composed after the poet Tudur Aled gave Hywel Grythor a dagger as a gift. It is unlikely that the poem was composed by Guto and its authorship remains a mystery (see the note below). In the first five englynion Tudur is praised as a nobleman as he is compared with famous poets of the past (lines 1–4) and lauded for his impressive lineage (5–8), his poetic skill (9–10), his physical abilities (11–16; see 13–16n) and, lastly, his generosity (17–18). Nonetheless, the metre betrays the true nature of the poem, for the englyn was used most often from the beginning of the sixteenth century onwards in informal poetry between the poets themselves. The main subject of this poem, namely frivolity between poets and musicians, is evident from the fifth englyn onwards, where Hywel’s gluttonous nature is satirized in complete contrast to Tudur’s valour. Tudur gave a dagger as a gift (19–20) to Hywel, who carries it with him, seemingly on bardic circuits in north-east Wales (21–2). Yet, Hywel plays down the warlike nature of the dagger and is instead more interested in keeping the peace for as long as possible (23–4). In the seventh englyn the dagger is said to be a dangerous object that would be like a small sword in the hand of a fool, a weapon in the hand of the lord of Ruthin and a long scar on one who plays the crowd, namely Hywel (25–8). In other words, the poet is of the opinion that Tudur’s powerful gift should be in the possession of a brave man who would make appropriate use of it. Three poets are named who would have made good use of the dagger, namely Dafydd Nanmor, Tudur Penllyn and Guto (29–32). The fact that Tudur Penllyn is hen ‘old’ shows clearly that the trio represent an older generation of poets who, like Tudur Aled, would have made appropriate use of the dagger, similar perhaps to the use made of another cutting tool in Guto’s poem to request a hunting knife (poem 76). Poor Hywel does not measure up, and he is lampooned in the last englyn for shying away from any quarrel by being constantly on the move and for using the dagger to both eat and drink as much as he can (33–6).
For a discussion on the similarity between this poem and another series of englynion which lampoon another crowder and whose authorship is uncertain, see poem 122.
Authorship
As Guto is named as author of this poem in every manuscript it is clear that his name appeared by the poem in the source also. However, it is almost impossible to accept his authorship due to the fact that Guto is named in line 31. Although Guto names himself in the closing lines of his poem for Abbot Thomas of Shrewsbury (see 77.66) and, possibly, in his poem for Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis (see 113.31), the way in which he is named in this poem – as one of three poets who were at the very least old men when the poem was composed, if not deceased – suggests strongly that the poem is the work of another poet. The most obvious explanation is that someone scribbled Guto’s name beside the penultimate englyn in the manuscript source and later scribes took it to be an attribution. Nevertheless, it is possible that Guto and Tudur Aled met at Valle Crucis abbey c.1490 when one was very old and the other a young man (see Fychan 1983: 59), and Guto and Hywel Grythor certainly knew each other (see Hywel Grythor).
Date
Tudur Aled’s dates are given as c.1465–c.1525, and it is likely that Hywel Grythor was active during the last decades of the fifteenth century. Assuming that the three poets who are named in the penultimate englyn had all died by c.1490, and if they are, indeed, referred to as deceased poets, it is very likely that this poem belongs to the last decade of the fifteenth century.
The manuscripts
There are nine copies of this poem in the manuscripts, and three basic versions, namely LlGC 1553A, Pen 81 and X (a lost source copied by Llywelyn Siôn). As LlGC 1553A contains traces of retouching, this edition follows the evidence of Pen 81 and X for the most part.
Previous edition
GGl poem CII.
Metre and cynghanedd
Nine englynion unodl union, 36 lines.
Cynghanedd: croes 52% (14 lines); traws 18% (5 lines); sain 26% (7 lines); llusg 4% (1 line). The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but consonantal cynghanedd is used in every englyn except the fifth, where a cynghanedd sain is used.
1 Adda Fras An obscure poet who was often referred to in terms of his learning, frequently in elegies composed for poets and prophetic poetry (see GLMorg 257 and 94.49n; GGl 321; ByCy 4; CLC2 8; 113.64n). Prophetic poems have survived in his name, although the authenticity of the authorship is unclear. In Pen 94, 26, it is noted that he was buried in Aberllechog (namely Maenan abbey, near Conwy) in 1038, yet according to John Davies Mallwyd’s list of poets in D, he lived in 1240.
2 Merddin Amhorfryn A form of the name of Myrddin ap Morfryn Frych, a poet from the Old North who lived during the sixth century, in all likelihood. He received patronage from Gwenddolau and became a mad prophet in Coed Celyddon following the defeat of his patron by Rhydderch Hael at the battle of Arfderydd (see TYP3 458–62; WCD 492–500).
3–4 Tudur … / Aled The great poet, Tudur Aled, who gave a dagger to Hywel Grythor.
4 Iolo Iolo Goch, one of the greatest poets of the fourteenth century.
6 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell (or possibly his son, another Tewdwr), one of Tudur Aled’s forebears and great-grandfather of Lord Rhys of Deheubarth (1131/2–97).
6 Cynfyn Cynfyn ap Gwerystan, father of Bleddyn ap Cynfyn (who was prince of Gwynedd and Powys (d. 1075)), one of Tudur Aled’s ancestors.
7 Ithel ap Llywelyn Ithel ap Llywelyn Chwith (see 8n), Tudur Aled’s grandfather on his father’s side.
8 y Chwith In all likelihood, Llywelyn Chwith ap Cynwrig, Tudur Aled’s great-grandfather and father of Ithel ap Llywelyn (see 7n).
9 arweddaist wreiddyn ‘You bore the root’, an agricultural metaphor, in all likelihood, namely to ‘bear crop’ (see GPC2 486 s.v. arweiniaf (b)).
13 bar traws See the combination in GPC2 577 s.v. bar1 ‘? crossbar, crowbar’. According to OED Online s.v. 1 (a), ‘cross-bar’ was used by architects, which is unsuitable here. Yet, it is likely that the poet is referring to a heavy bar that was lifted as a sign of strength. Such a bar may have been shaped like a traws ‘cross’, or traws may simply mean ‘solid’ in this context (see GPC 3561 s.v. (a) and (b)).
13–16 At least five feats which Tudur had mastered are named in this englyn (see 12 dwyn campau). ‘Poetry’ was one of the twenty-four feats according to John Davies’s list in D (see IGE2 387), and it is obvious that Tudur was already a master of this craft (see 9–10). This englyn lists physical and military feats, namely ymafel ‘wrestle’ (‘ymafael’ in D), ymofyn – bar traws / A bwrw trosol celyn / Neu faen llwyth ‘fetch a solid bar and throw a pole of holly or a heavy stone’ (to show ‘cryfder’, ‘strength’, it seems), nofio ‘swim’ in a lake, neitio ‘jump’ and rhedeg ‘run’. In D these feats, along with ‘marchogaeth’, ‘horse riding’, are called the six manly feats ‘o rym corff’, ‘of physical strength’. See further GRhGE 12.15–36 and the references in Salisbury 2007: 43n92 and n93). Like Guto himself, it seems that Tudur excelled in the feat of throwing a heavy stone.
14 trosol celyn ‘A pole of holly’ is used in the translation, assuming that a branch or trunk of a holly tree would have been thrown as a measure of strength. The word celyn ‘penis’ is not suitable (see GPC 459 s.v. celyn2). There was a saint named Celyn fab Caw of Prydyn, yet very little is known about him (see WCD 119).
15 maen llwyth See the combination in GPC 2308 s.v. maen1 ‘heavy stone used for putting in athletic contest (lit. load stone)’. This is the only example of the combination in GPC.
19 Dager a roist, dy grair ynn The meaning ‘You gave us a dagger, your treasure’ is possible, yet unlikely due to the fact that it was Hywel Grythor alone who received the gift.
21 Hywel Grythawr Hywel Grythor, who received a dagger as a gift from Tudur Aled and who is satirized in this poem.
21 Berwyn The Berwyn mountains rise from near Llandrillo in Edeirnion and stretch as far as Llangollen in the east and the Tanad valley in the south.
22 Tegaingl A form of the cantref of Tegeingl in the north-east corner of Wales, which contained the commotes of Coleshill (Cwnsyllt), Prestatyn and Rhuddlan (see WATU 212 and 324; Richards 1998: 31; CLC2 697).
22 Penllyn A sizeable cantref that contained the commotes of Dinmael, Edeirnion, Is Tryweryn and Uwch Tryweryn (see WATU 174 and 310).
25 asgell Not ‘spear’, as is suggested in GPC2 500 s.v. asgell1 1 (e), but ‘wing’ (see ibid. 1 (a); Day 2010: 219).
26 arglwydd Rhuthun As it is not possible to date the poem convincingly, it is unclear to which lord of Rhuthun the poet is referring. It may be Edmund Grey (who was lord from 1440 to 1490), George Grey (1490–1503) or Richard Grey (1503–23) (see DNB Online s.n. Grey family). On the town (and the commote, occasionally) in the commote of Dogfeiling in the Clwyd valley, see WATU 190 and 265.
27 y graith hir The poet notes that the idle dagger is like a ‘long scar’ on Hywel Grythor’s body (see 21n Hywel Grythawr), yet the dagger may also have scarred Hywel as he did not know how to use it. The desired effect is to show that the dagger looked unattractive and unseemly in the possession of someone who did not know how to make appropriate use of it.
27 crythoryn ‘A crowder’, namely Hywel Grythor (see 21n Hywel Grythawr), yet it is unlikely to be a proper name as it is in GGl Grythoryn, as crowders were quite common during the Middle Ages.
29 Dafydd Nanmor One of the greatest poets of the fifteenth century (see Dafydd Nanmor).
30 Tudur Penllyn One of the poets of the fifteenth century (see Tudur Penllyn).
31 Guto’r Glyn The fact that Guto is named here provides a strong case against his authorship (see further the background note above).
33 Hywel Hywel Grythor.
34 â’i phwyniart The expected reading is a’i bwyniart, yet the cynghanedd demands a’i phwyniart. It is tentatively suggested that the pwyniart ‘poniard’, namely the dagger, belonged to the ffon ‘staff’ in the preceding line.
Bibliography
Day, J.P. (2010), ‘Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion’ (Ph.D. Cymru [Aberystwyth])
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74
Richards, M. (1998), Enwau Tir a Gwlad (Caernarfon)
Salisbury, E. (2007), Ar Drywydd Guto’r Glyn ap Siancyn y Glyn (Aberystwyth)
Ceir yma nodyn noddwr i’r bardd Tudur Aled gan mai felly y caiff ei drin mewn gosteg o englynion a ganwyd yn sgil rhodd o ddagr a roes i Hywel Grythor (cerdd 121). Fel y gwelir yn y goeden achau isod, roedd Tudur yn perthyn i linach uchelwrol ddigon urddasol. Mae’n annhebygol mai Guto a ganodd y gerdd, ond mae’n werth nodi y gall fod y ddau fardd wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (Fychan 1983: 59). Ceir cyswllt llawysgrifol rhyngddynt yn achos cerddi 123 ac 124. Ymhellach ar Dudur, gw. DNB Online s.n. Tudur Aled; TA; CLC2 732–3; Fychan 1983.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, ‘Hedd’ 3, 5, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, 4, ‘Tudur Trefor’ 47; WG2 ‘Hedd’ 5F. Ymhellach, gw. Fychan 1983: 69–70. Nodir y rheini a enwir yng ngherdd 121 mewn print trwm.
Achres Tudur Aled ap Rhobert o Iâl
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74
Fel y dengys ei enw, enillai Hywel Grythor ei fywoliaeth drwy ganu’r crwth. Ychydig iawn sy’n hysbys amdano. Yn ddiddorol ddigon ni cheir ei enw ar restr Gutun Owain o feirdd a cherddorion, ond mae’n bosibl mai mab iddo a enwir yno yn llaw Gutun ei hun fel [Ro]bert ap Hoell’ Grythor (Huws 2004: 86). Nododd Miles (1983: 137) ei bod yn bosibl mai ef yw Hwllyn Grythor y ceir ei enw mewn rhestr yn llawysgrif Pen 54, 298v (c.1480), ‘ynghyd â Llywelyn Grythor ac eraill’. Dychenir Hywel mewn cyfres o englynion a briodolir i Guto yn y llawysgrifau ond sy’n annhebygol o fod yn eiddo iddo mewn gwirionedd (cerdd 121). Yn y gerdd honno dywedir bod Hywel wedi derbyn dagr yn rhodd gan Dudur Aled, ond fe’i gwawdir am ddefnyddio’r ddagr i fwyta yn hytrach nac ymladd. Fe’i gelwir yn Hywel Grythawr fawr (121.21), sef cyfeiriad at ei faintioli, a nodir mai yn y gogledd-ddwyrain yr oedd ei gynefin. Mae’r modd y’i cymherir yn anffafriol â Dafydd Nanmor, Tudur Penllyn a Guto yn awgrymu’n gryf ei fod yn perthyn i genhedlaeth iau o berfformwyr proffesiynol. Fodd bynnag, dengys cywydd a ganodd Syr Siôn Leiaf (mab Ieuan ap Gruffudd Leiaf) i foli Rhisiart Cyffin, deon Bangor, fod Hywel yn clera oddeutu’r un adeg ac yn yr un llysoedd â Guto ar ddiwedd y bymthegfed ganrif. Yn y cywydd hwnnw gelwir Guto, Hywel a Gwerful Mechain yn dair gormes yn llys Rhisiart, a fu’n ddeon rhwng c.1478 ac 1492, ac fe’u dychenir am or-wledda ar haelioni’r noddwr hwnnw (Salisbury 2011: 101–18). Cocyn hitio oedd Hywel yn bennaf i’r beirdd, felly, a gall fod a wnelo ei broffesiwn rywfaint â hynny. Ymddengys ei fod yn ei flodau yn negawdau olaf y bymthegfed ganrif. Yn ôl Jones (1890: 40) roedd Hywel yn ei flodau ‘tua’r flwyddyn 1568’, ond ni cheir ateg i’r wybodaeth honno.
Llyfryddiaeth
D. Huws, ‘Rhestr Gutun Owain o Wŷr wrth Gerdd’, Dwned, 10 (2004), 79–88
Jones, M.O. (1890), Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (Caerdydd)
B.E. Miles, ‘Swyddogaeth a Chelfyddyd y Crythor’ (MA Cymru [Aberystwyth], 1983)
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118