Y llawysgrifau
Ceir deg copi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau. Diogelwyd y gerdd a cherdd 123 ynghyd mewn dwy lawysgrif, ac amlinellir y dadleuon o blaid ac yn erbyn eu huniaethu yn nodiadau testunol y gerdd honno.
Trawsysgrifiadau: CM 3, LlGC 1553A a Wy 1.
Teitl
Yn Wy 1 yn unig y ceir unrhyw beth tebyg i deitl, ac fe’i dilynir yn nheitl y golygiad hwn: rhyw hen brydydd i vn a vramai (gw. GPC 308 d.g. bramaf ‘rhechain, taro rhech’).
1 forgranc Gthg. Wy 1 vyrrgranc. Dilynir mwyafrif y llawysgrifau.
1 rhefrgrin Dilynir Wy 1 ac X. Gthg. CM 3 rhyfergrin, a rydd ar y naill law gynghanedd gywir ond ar y llaw arall linell hir o sillaf. Gellid cynnig ‘byr iawn a chrinsych’ fel ystyr iddo, ac fe weddai hynny yma. Rhydd rhefrgrin ystyr tebyg, sef ‘twll tin crinsych’, ac ar yr olwg gyntaf rhydd gynghanedd amheus. Ond diau mai -f- lafarog a geir yma ac y dylid ei hanwybyddu er gwaethaf y ffaith ei bod ar yr acen (cf. 62.35 Fy nhrigfan, fy nhiriogaeth). Gw. CD 276 ‘ceir ambell linell hir o 11 neu fer o 9 [sillaf] mewn hen englynion, ond ni oddefir hyn yn y mesurau caethion’.
3 Aml y mygi mal megin Dilynir CM 3 ac X. Gthg. Wy 1 mawr vygu y mae r vegin, a rydd gynghanedd gywir ond diau mai diwygiad ydyw. Cyferchir y sawl a ddychenir yn y modd presennol ail unigol yn yr ail linell a’r olaf, ac felly hefyd yn narlleniad y golygiad.
Fel y gwelir yn nheitl y gerdd, englyn dychan yw’r gerdd hon i rywun a ddigiodd y bardd drwy dorri gwynt. Ni cheir dim yn y gerdd i awgrymu pwy oedd y person hwnnw, ond gall mai Twm ydoedd, sef gwas i fardd a ganodd englyn dychan (cerdd 123) iddo pan fu’n rhincian ei ddannedd yn ei gwsg. Diogelwyd y ddwy gerdd ynghyd mewn rhai llawysgrifau.
Awduraeth
Rhaid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i draddodiad llawysgrifol cerdd 123 wrth drafod awduraeth y gerdd hon. Yn Wy 1 priodolir y gerdd hon i rhyw hen brydydd. I Guto y’i priodolid mewn llawysgrif goll (a elwir X), ac felly hefyd yn wreiddiol yn CM 3 yn llaw William Salesbury, ond nododd hwnnw enw bardd arall wrth droed y gerdd: Guto’r Glyn : and Tuder Alet yd meddai Gruff hiraethoc yd y cefais i W.S. yn escrifenedic yn llyver mr Gryff Dwn yn Ystrat Merthyr. Ceir ychydig o ansicrwydd ynghylch y gair a saif rhwng enwau’r ddau fardd yn y dyfyniad yn sgil traul. Yn nhrawsysgrifiad Parry (1937–9: 111) ond ydyw, ond gall mai and ydyw mewn gwirionedd, sef ffurf amrywiol ar ond a ddefnyddid gan Salesbury (gw. GPC 2647 d.g. ond1). Ymddengys mai’r hyn a ddywed Salesbury yw iddo weld nodyn gan ei gyfaill, Gruffudd Hiraethog, mewn llawysgrif goll o gasgliad Gruffudd Dwn a roddai’r gerdd i Dudur Aled. Mae’n bosibl, felly, fod Salesbury wedi copïo testun y gerdd o lawysgrif arall lle roedd y gerdd yn ddienw, fel y’i ceir yn Wy 1. Ymddengys yn debygol iawn mai englyn dienw oedd hwn yn y gynsail. Mae’n wir y gallai rhyw hen brydydd fod yn gyfeiriad at Guto, ond os felly rhaid unioni hynny â’r ffaith mai ei gydymaith a ganodd cerdd 123 (gw. y nodiadau testunol), a briodolir hefyd i Guto mewn llawysgrifau eraill. Yr hyn y gellir ei gasglu’n gyffredinol yw bod y ddwy gerdd yn waith dau fardd gwahanol, ond mae’n bosibl iawn na cheid enw Guto na Thudur Aled wrthynt yn wreiddiol (noder, fodd bynnag, ei bod yn bosibl y cyfarfu’r ddau fardd yng Nglyn-y-groes c.1490, gw. Fychan 1983: 59). Fel yn achos cerdd 123, mae’n annhebygol y dylid trin y gerdd hon yn waith dilys Guto, a gall fod tystiolaeth Gruffudd Hiraethog uchod am ei hawduraeth yn sail i gredu mai Tudur Aled a’i canodd.
Dyddiad
Mae bron yn amhosibl dyddio’r gerdd, ond mae’r ffaith ei bod yn cael ei phriodoli i Dudur Aled mewn rhai ffynonellau yn awgrymu ei bod yn perthyn i ddiwedd y bymthegfed ganrif.
Golygiad blaenorol
Ni olygwyd y gerdd hon o’r blaen.
Mesur a chynghanedd
Englyn unodl union, 4 llinell.
Cynghanedd: croes 67% (2 linell), dim traws, sain 33% (1 llinell), dim llusg. Ceir cynghanedd sain yn y llinell gyntaf yn ôl y disgwyl (gw. CD 276) a chyfatebiaeth gytseiniol rhwng y gair cyrch a dechrau’r ail linell (ceir cytsain wreiddgoll ar ddechrau’r gair cyrch). Ceir cymeriad llythrennol a- a chymeriad cynganeddol am- yn yr esgyll.
1 afanc Sef yr anghenfil chwedlonol (yn hytrach na ‘beaver’) y ceid stori amdano’n cael ei lusgo o lyn gan ddau ych bannog (gw. 108.21–2n).
1 rhyw forgranc rhefrgrin Mae’r bai crych a llyfn yn bosibl, ond mae’n fwy tebygol mai dwy f lafarog sydd yma (gw. y nodyn testunol ar rhefrgrin).
1 morgranc Gw. GPC 2491 ‘enw ar gramenogion môr gweddol fawr, yn enw. y cranc, hefyd yn ddifr. am berson’.
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74
Parry, T. (1937–9), ‘Tri Chyfeiriad at William Salesbury’, B ix: 108–12
As shown in the title, this poem is a satirical englyn composed for someone who offended the poet by breaking wind. There is no evidence to suggest who that person was, but he may have been Twm, a poet’s servant to whom a satirical englyn (poem 123) was composed after he gnashed his teeth in his sleep. Both poems were preserved together in a few manuscripts.
Authorship
In discussing this poem’s authorship the manuscript evidence of poem 123 must also be scrutinized. In Wy 1 this poem is attributed to rhyw hen brydydd ‘some old poet’. It is attributed to Guto in a lost source (known here as X), and so too in the original note written in CM 3 by William Salesbury, yet he also wrote down another poet’s name below the poem: Guto’r Glyn : and Tuder Alet yd meddai Gruff hiraethoc yd y cefais i W.S. yn escrifenedic yn llyver mr Gryff Dwn yn Ystrat Merthyr ‘Guto’r Glyn, yet Tudur Aled according to Gruffudd Hiraethog, so I (W.S.) saw written in Mr Gruffudd Dwn’s manuscript in Ystrad Merthyr’. It seems that what Salesbury states is that he saw a note written by his friend, Gruffudd Hiraethog, in a lost manuscript which belonged to Gruffudd Dwn that named Tudur Aled as the poet. It is, therefore, possible that Salesbury copied the poem from another manuscript where it was unnamed, as it is in Wy 1. It seems very likely that this poem was unnamed in the ultimate source. Although rhyw hen brydydd may well be a reference to Guto, if so it is rather incompatible with the fact that his cydymaith ‘companion’ composed poem 123 (see the notes), which is also attributed to Guto in other manuscripts. What is almost certain is that both poems are the work of two separate poets, yet it is likely that Guto and Tudur Aled had nothing to do with them originally (although it is possible that both poets met each other at Valle Crucis c.1490, see Fychan 1983: 59). As in the case of poem 123, it is highly unlikely that this poem was composed by Guto, and Gruffudd Hiraethog’s evidence suggests that the poem may be the work of Tudur Aled.
Date
Dating the poem is almost impossible, but the fact that it is attributed to Tudur Aled in a few sources suggests that it belongs to the end of the fifteenth century.
The manuscripts
There are ten copies of this poem in the manuscripts. This edition is based mainly upon the evidence of CM 3, LlGC 1553A and Wy 1.
Previous edition
This poem has not been edited previously.
Metre and cynghanedd
Englyn unodl union, 4 lines.
Cynghanedd: croes 67% (2 lines), no traws, sain 33% (1 line), no llusg. The cynghanedd between the words following the rhyme-word in the first line and the beginning of the second line are not included here, but consonantal cynghanedd is used.
1 afanc ‘Aquatic monster’, a legendary beast (not ‘beaver’, in line with modern usage) that was dragged from a lake by two horned oxen (see 108.21–2n).
1 rhyw forgranc rhefrgrin The cynghanedd may be faulty (‘crych a llyfn’), yet it is more likely that the poet is using two vocal fs which are not recognized in the consonantal cynghanedd.
1 morgranc See GPC 2491 ‘name for the larger marine crustaceans, esp. the crab, also derog. of a person’.
Bibliography
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74
Parry, T. (1937–9), ‘Tri Chyfeiriad at William Salesbury’, B ix: 108–12
Ceir yma nodyn noddwr i’r bardd Tudur Aled gan mai felly y caiff ei drin mewn gosteg o englynion a ganwyd yn sgil rhodd o ddagr a roes i Hywel Grythor (cerdd 121). Fel y gwelir yn y goeden achau isod, roedd Tudur yn perthyn i linach uchelwrol ddigon urddasol. Mae’n annhebygol mai Guto a ganodd y gerdd, ond mae’n werth nodi y gall fod y ddau fardd wedi cyfarfod yn abaty Glyn-y-groes c.1490 pan oedd y naill yn hen iawn a’r llall yn ifanc (Fychan 1983: 59). Ceir cyswllt llawysgrifol rhyngddynt yn achos cerddi 123 ac 124. Ymhellach ar Dudur, gw. DNB Online s.n. Tudur Aled; TA; CLC2 732–3; Fychan 1983.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 3, ‘Hedd’ 3, 5, ‘Rhys ap Tewdwr’ 1, 4, ‘Tudur Trefor’ 47; WG2 ‘Hedd’ 5F. Ymhellach, gw. Fychan 1983: 69–70. Nodir y rheini a enwir yng ngherdd 121 mewn print trwm.
Achres Tudur Aled ap Rhobert o Iâl
Llyfryddiaeth
Fychan, C. (1983), ‘Tudur Aled: Ailystyried ei Gynefin’, Cylchg LlGC xxiii: 45–74