Y llawysgrif
Mewn un llawysgrif yn unig, sef LlGC 13068B (c.1600), y ceir y darn hwn o gywydd marwnad, ymhlith cyfres o gerddi i deulu’r Herbertiaid. Nododd y copïydd dienw fod y gerdd yn anghyflawn.
Trawsysgrifiad: LlGC 13068B.
5 syfro Cadwyd y gair anhysbys hwn heb ei ddiwygio yn y testun golygedig, ond am awgrymiadau ar gyfer ei ddiwygio, gw. 52n (esboniadol).
16 a’i Diwygiwyd darlleniad y llawysgrif y er mwyn yr ystyr.
Dyma ddarn o farwnad ar gyfer Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, un o noddwyr cynnar Guto’r Glyn. Bu farw yn 1445 ac fe’i claddwyd ym mhriordy’r Fenni, lle gellir gweld ei feddrod mawreddog o hyd. Iddo ef y canwyd cerdd 19.
Mewn un llawysgrif yn unig y cadwyd y darn hwn, ac mae’n amlwg yn anghyflawn, fel y nododd y copïydd uwch ei ben. Mae’r testun ei hun yn cadarnhau mai rhyw Syr Wiliam, marchog ac iddo gysylltiad â Gwent ac yn fwy penodol â’r Fenni, yw gwrthrych y farwnad. Deil y teitl yn y llawysgrif ei hun mai marwnad ydyw i Syr William Tomas o Raglan, ac nid oes sail i wrthod hynny.
Llinellau cyntaf y gerdd yn unig a gofnodwyd yn y llawysgrif, ac felly nid syndod nad oes enw bardd wrth ei chwt. Pam, felly, ei golygu yma? Ceir dwy linell yn y gerdd sy’n hynod debyg i rai yng nghanu dilys Guto’r Glyn. Yn gyntaf, mae’r cyfeiriad at dri llu yn gadael Gwent (llinell 1) yn anochel yn dwyn i gof agoriad enwog cywydd Guto i Syr Wiliam Herbert ar ôl iddo gipio castell Harlech (cerdd 21). Yn ail, mae llinell 14 yn digwydd yn ddigyfnewid mewn cywydd a ganodd Guto i herio’r bardd Hywel Dafi yn llys Syr Wiliam Herbert (20.13). Go brin fod Guto wedi dyfeisio’r llinellau hyn yn annibynnol ar y farwnad hon. Gallwn fod yn sicr mai’r farwnad a ddaeth gyntaf, hefyd, oherwydd canwyd y ddwy gerdd arall ar ôl marwolaeth Syr Wiliam ap Tomas yn 1445: perthyn cerdd 21 i 1468/9 ac yn 20.33–4 awgrymir yn gryf fod Syr Wiliam ap Tomas wedi marw. Mae’n ddiddorol sylwi bod y llinell Syr Wiliam gwrser olwyn (14) yn dwyn ystyr benodol a phwysig yn y gerdd hon, tra yng ngherdd 20 mawl cyffredinol ydyw i bob golwg. Cf. GLGC 112.5 Syr Wiliam Herbart, gwrser olwyn hardd, lle mae’r cyfeiriad eto’n fwy gyffredinol na’r gymhariaeth rhwng march rhyfel ac elor a geir yn y farwnad hon. Dyma arwydd fod y llinell wedi ei chyfansoddi ar gyfer y farwnad yn y lle cyntaf ac iddi gael ei benthyca a’i haddasu ar gyfer y ddwy gerdd ddiweddarach. Os nad Guto oedd awdur y farwnad hon – ac mae’n berffaith bosibl mai ef a’i piau – eto fe ddylanwadodd hi ar ei waith ef, ac mae hynny’n ddigon o gyfiawnhad dros ei chynnwys yn adran y cerddi ansicr eu hawduraeth, yn enwedig gan nad yw’n debygol o gael ei chyhoeddi yn unman arall.
Mae’r bardd yn dechrau drwy sôn am dri ymadawiad â Gwent a brofodd yn derfynol (1–2). Yn gyntaf, sonia am farchogion y Ford Gron (a leolid yn aml yng Nghaerllion, Gwent, gan ddilyn syniad Sieffre o Fynwy) yn mynd i chwilio am y Greal Sanctaidd (3–6). Yr ail un i fynd o Went heb ddychwelyd oedd y Brenin Arthur, a aeth i Rufain (7–10). Wedi dychwelyd i Brydain ymladdodd frwydr dyngedfennol Camlan lle cafodd anaf. Aethpwyd ag ef wedyn i Ynys Afallon, ac felly ni ddychwelodd fyth i Went. Y trydydd ymadawiad oedd eiddo Syr Wiliam ap Tomas ei hun, a aeth o Went ar gefn ceffyl (11–14) ac a ddaeth yn ôl, yn eironig ddigon, ar geffyl pren – hynny yw, ar elor (15–16). Yn y nodyn uwchben y gerdd yn y llawysgrif dywedir bod Syr Wiliam wedi marw yn Llundain, sy’n hawdd ei gredu, ond nid yw sail yr honiad yn hysbys.
Dyddiad
1445.
Golygiad blaenorol
Lewis 1982: cerdd 5.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 16 llinell (anghyflawn).
Cynghanedd: croes 56% (9 llinell), traws 25% (4 llinell), sain 13% (2 linell), llusg 6% (1 llinell).
2 gan wynt Hynny yw, diflanasant yn llwyr, fel petai’r gwynt wedi eu cipio.
4 parch Gall parch fod yn ansoddair, gw. GPC 2687.
4 Caerllion Sieffre o Fynwy oedd y cyntaf i leoli llys Arthur yng Nghaerllion, fe ymddengys. Yn fersiwn Cymraeg hanes y Greal, ar y llaw arall, Camelot yw’r lleoliad, gw. Jones 1992: 1.
4 Bwrdd Y Ford Gron. Byddai’n fwy naturiol darllen Caerllion Fwrdd ‘Bwrdd Caerllion’, ond byddai’n rhaid diwygio barch yn farch, nad yw’n hawdd ei ddeall yma. Dealler, felly, Caerllion Bwrdd ‘Caerllion y Bwrdd’. Posibilrwydd arall yw bod llin barch Caerllion i’w gymryd yn annibynnol a bod Bwrdd yn enidol gyda ceirw.
5 syfro Gair anhysbys. Yn CH 24 awgrymir ei ddeall yn fenthycair o’r Saesneg sever ‘gwahanu, rhannu’, ond nid yw’n amlwg sut y gweddai’r ystyron hyn yma. Mwy tebygol o lawer yw ei fod yn dod o’r ferf Saesneg serve, a all olygu ‘haeddu’, ‘ennill’, gw. OED Online s.v. serve, v.1. Mae’r rhan fwyaf o’r enghreifftiau, fel y nodir ibid., yn dod o Saesneg gogledd Lloegr a’r Alban, ond nid pob un. Posibiliadau eraill yw darllen syffro ‘dioddef’ (ystyr annhebygol yma) neu ddiwygio er syfro yn resefio ‘derbyn’.
6 ei Cyfeiria ymlaen at y Sain Greal.
7 oddi wrthynt Nid y marchogion a grybwyllir yn 3–4, ond y bobl yng Nghaerllion yn gyffredinol.
13 pen Amrywiad ar pan, gw. GPC 2677 d.g. pan1.
13 oedd Y goddrych yw cwrser olwyn yn 14. Roedd y march yn dynn rhwng coesau Syr Wiliam.
14 cwrser March rhyfel cydnerth, gw. GPC 649.
15 march pren Elor, cf. yr enghreifftiau yn GPC 2353.
15 i dre Fenni Claddwyd Syr Wiliam ym mhriordy’r Fenni, lle mae ei feddrod hyd heddiw.
Llyfryddiaeth
Jones, T. (1992) (gol.), Ystoryaeu Seint Greal, Rhan I: Y Keis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
This is a fragment of an elegy for Sir William ap Thomas of Raglan, one of Guto’r Glyn’s early patrons. He died in 1445 and was buried in Abergavenny priory church, where his splendid tomb can still be seen. He is the recipient of poem 19.
This fragment is preserved in a single manuscript, and is obviously incomplete, as the scribe noted above it. The text itself makes clear that the recipient is a certain Sir William, a knight from Gwent and more particularly connected with Abergavenny. The title in the manuscript tells us that it is an elegy for Syr William Tomas o Raglan, and there are no grounds for disbelieving what the scribe says.
Since only the first few lines of the poem are preserved, it is not surprising that there is no author’s name at the end. Why, then, edit it here? There are two lines in the poem which are remarkably similar to lines in genuine poems by Guto’r Glyn. Firstly, there is the reference to three hosts (tri llu) leaving Gwent (line 1). Inevitably this calls to mind the famous opening of Guto’s poem for Sir William Herbert after his seizure of Harlech castle (poem 21). Secondly, line 14 recurs unaltered in a poem which Guto composed in order to challenge the poet Hywel Dafi at the court of Sir William Herbert (20.13). It is scarcely likely that Guto devised these two lines independently of this poem. We can be certain that the elegy is earlier than either of the two poems which it has influenced, for both were composed after the death of Sir William ap Thomas in 1445: poem 21 belongs to the year 1468/9, while in 20.33–4 there is a strong suggestion that Sir William ap Thomas is dead. It is interesting to note that the line Syr Wiliam gwrser olwyn (14) is quite specific in its reference here, whereas in poem 20 it appears to be no more than general praise. Cf. also GLGC 112.5 Syr Wiliam Herbart, gwrser olwyn hardd (‘Sir William Herbert, handsome white-rumped warhorse’, where the reference is again more general than the striking comparison between warhorse and bier in this elegy. This suggests that line 14 of the elegy was indeed composed first for this context and then borrowed and adapted for the two later poems. If Guto was not the author of this elegy – and it is quite possible that he was – then it at least influenced his work, and that is sufficient reason for including it among the poems of doubtful authorship, especially since it is unlikely ever to be published elsewhere.
The poet begins by talking of three departures from Gwent which turned out to be final ones (1–2). First, he mentions the knights of the Round Table (often located at Caerleon, Gwent) leaving to seek the Holy Grail (3–6). The second departure was that of King Arthur going to Rome (7–10). On his return he fought the fateful battle of Camlan where he was wounded. After that he was taken to the Isle of Avalon and so never came home to Gwent. The third departure is that of Sir William ap Thomas himself. He left Gwent on a warhorse (11–14) and returned, ironically, on a wooden horse – that is, a bier (15–16). The note above the text in the manuscript states that he died in London, which is believable, but the basis for the statement is unknown.
Date
1445.
The manuscript
The unique text is in LlGC 13068B (c.1600), among a group of poems for the Herbert family.
Previous edition
Lewis 1982: poem 5.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 16 lines (incomplete).
Cynghanedd: croes 56% (9 lines), traws 25% (4 lines), sain 13% (2 lines), llusg 6% (1 line).
2 gan wynt I.e., they disappeared utterly, as if plucked away by the wind.
4 parch The noun parch can be used as an adjective, see GPC 2687.
4 Caerllion Geoffrey of Monmouth was apparently the first author to locate Arthur’s court in Caerleon. The Welsh translation of the ‘Quest of the Holy Grail’, on the other hand, has Camelot, see Jones 1992: 1.
4 Bwrdd The Round Table. It would be more natural to read Caerllion Fwrdd ‘the Table of Caerleon’, but then we would also have to emend barch to farch, which would be difficult to understand. Accordingly, Caerllion Bwrdd is taken as ‘Caerleon of the Table’. Alternatively, we might take llin barch Caerllion on its own and Bwrdd as a genitive after ceirw. That would give ‘stags of the Table, of Caerleon’s noble lineage’.
5 syfro Unknown. CH 24 suggests that it is a borrowing of the English verb sever, but it is far from clear how that meaning would give any sense here. Much more likely is that it is a borrowing of the English verb serve, which can mean ‘deserve’, ‘earn’, see OED Online s.v. serve, v.1. Most examples, as noted ibid., are from the English of northern England and Scotland, but not every one. Other possibilities are to read syffro ‘suffer’ (not a likely meaning here) or to emend er syfro to resefio ‘receive’.
6 ei The pronoun refers forwards to Y Sain Greal.
7 oddi wrthynt Not the knights of 3–4 in particular, but the people in Caerleon in general.
13 pen Variant form of pan, see GPC 2677 s.v. pan1.
13 oedd The subject is cwrser olwyn in 14. The horse was clasped tightly between Sir William’s legs.
14 cwrser A powerful warhorse, see GPC 649.
15 march pren A bier, cf. the examples in GPC 2353.
15 i dre Fenni Sir William was buried at Abergavenny priory, where his tomb is still to be seen today.
Bibliography
Jones, T. (1992) (gol.), Ystoryaeu Seint Greal, Rhan I: Y Keis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Un o noddwyr cynnar Guto’r Glyn oedd Syr Wiliam ap Tomas o Raglan yng Ngwent, a phan groesawodd ef y bardd i’w gartref am y tro cyntaf, efallai rywbryd yn hwyr yn y 1430au, gallwn gredu’n hyderus mai Syr Wiliam oedd y gŵr uchaf ei fri yr oedd Guto wedi ei wasanaethu hyd hynny. Er gwaethaf yr awgrym clir fod Guto wedi canu i Syr Wiliam ar sawl achlysur (19.27–30), dim ond un cywydd mawl iddo sydd wedi goroesi (cerdd 19). At hwn ceir cywydd gan Rys Goch Eryri yn gofyn am wregys aur (GRhGE cerdd 9) ac ateb i hwnnw gan Lywelyn ab y Moel (GSCyf cerdd 16). Dernyn o farwnad ddienw yw’r unig gerdd arall i Syr Wiliam ap Tomas sydd ar glawr (cerdd 125; Evans 2008: 288–9). I’w fab, Syr Wiliam Herbert, ac nid i Syr Wiliam ap Tomas, y canwyd cywydd cymod gan Hywel Dafi a oedd dan gyhuddiad o fod wedi taro morwyn yng ngwasanaeth ei noddwr (Lewis 1982: cerdd 2, lle credir mai Syr Wiliam ap Tomas yw’r noddwr.)
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Godwin’ 5. Dangosir y rhai a enwir gan Guto yn ei gywydd i Syr Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Syr Wiliam ap Tomas o Raglan
Yn 1406 priododd Wiliam ag Elizabeth Berkeley, merch Syr John Bluet a gweddw Syr James Berkeley (Thomas 1994: 4). Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf yn 1420 priododd Wiliam eto, y tro hwn â Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu a fuasai farw ym mrwydr Agincourt. Roedd Gwladus hithau’n weddw ar y pryd, oherwydd buasai ei gŵr hi, Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn, swydd Henffordd, farw yn yr un frwydr â’i thad (ibid.). Roedd eisoes dri mab ganddi o’r briodas honno, sef Watgyn Fychan, Rhosier Fychan a Tomas Fychan (DNB Online s.n. Vaughan Family).
Ei gartrefi
Perth-hir, maenor ym mhlwyf Rockfield yn arglwyddiaeth Trefynwy, oedd cartref Tomas ap Gwilym ap Siancyn, tad Wiliam ap Tomas (Bradney 1991: 29; Griffiths 2008: 262). Trwy ei wraig gyntaf y cafodd Wiliam ap Tomas afael ar gastell Rhaglan, ychydig filltiroedd i’r de-orllewin. Pan fu hi farw yn 1420, parhaodd Wiliam i fyw yn y castell, yn denant i’w lysfab ei hun, James Berkeley. Cytunwyd yn 1425 y câi Wiliam ddal Rhaglan yn ystod ei fywyd, ond yn 1432, fodd bynnag, prynodd Syr Wiliam y castell oddi wrth James Berkeley am fil morc (Thomas 1994: 4–5). Cyfeiria Guto’r Glyn at gartrefi eraill a oedd ym meddiant Syr Wiliam (19.23–6). Maent yn cynnwys tŷ yn y Fenni (onid Colbrwg, y tu allan i’r dref, a olygir, gw. 19.23n), tŷ yn Llandeilo Gresynni (Bradney 1991: 93–4), Tretŵr ym mhlwyf Llanfihangel Cwm Du yn nyffryn Wysg, a Thro, nid nepell o Drefynwy (Bradney 1992b: 162–3). Mae Hywel Dafi yn enwi’r lleoedd hyn yn ei gywydd cymod i Wiliam Herbert, mab Wiliam ap Tomas (Lewis 1982: 2.5–8), ac efallai mai dyna pam y dryswyd rhwng y mab a’r tad yn y llawysgrifau (ibid. 11).
Yn ôl yr ‘Herbertorum Prosapia’, sef hanes teulu’r Herbertiaid a gyfansoddwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a gedwir yn C 5.7, Syr Wiliam ap Tomas a oedd yn gyfrifol am godi’r tŵr mawr yn Rhaglan. Ond mae Anthony Emery wedi dadlau mai ei fab, Wiliam Herbert, a’i hadeiladodd, ar y sail fod cyfoeth a bri Wiliam Herbert gymaint yn uwch nag eiddo’i dad (Emery 1975: 162–4, 167). Mae Newman (2000: 490) yn cadw meddwl agored am hyn, ond mae Kenyon (2008: 114n69) yn gogwyddo fwy tuag at y farn draddodiadol.
Ei ddyddiadau a’i yrfa
Ni wyddys pryd y ganed Wiliam ap Tomas, ond gan ei fod wedi priodi yn 1406, diau mai rhywbryd yn y 1380au y ganed ef. Ac yntau ond yn bumed mab i uchelwr Cymreig heb fod o bwys mawr y tu hwnt i’w fro yng ngogledd Gwent, bu gyrfa Wiliam ap Tomas yn hynod lewyrchus. Awgryma Thomas (1994: 4) a Griffiths (2008: 262) mai ei ddwy briodas, ill dwy’n uniadau tra ffafriol, a oedd yn bennaf cyfrifol am ei lwyddiant. Yn ogystal â chastell a maenor Rhaglan, meddai Elizabeth Berkeley ar gysylltiadau teuluol â theulu Beauchamp, arglwyddi’r Fenni (Griffiths 2008: 262). Daeth Gwladus Gam hithau â mantais fawr i’w gŵr, sef cysylltiad â’r llys brenhinol: buasai Syr Dafydd Gam yng ngwasanaeth Harri IV a Harri V (Thomas 1994: 4). Efallai mai dyna pam yr urddwyd Wiliam ap Tomas yn farchog ar y Sulgwyn 1426 yn yr un seremoni â’r brenin ifanc Harri VI (Evans 1915: 53; Thomas 1994: 4), ond mae Griffiths (2008: 262) yn amau bod dylanwad Richard Beauchamp y tu ôl i hynny (gw. isod).
Cynullodd Syr Wiliam diroedd sylweddol yn ne-ddwyrain Cymru, a restrir yn Thomas (1994: 6–7). Ymestynnent o Goety ym Morgannwg i Ynysgynwraidd ar y ffin â swydd Henffordd. Derbyniodd hefyd siâr mewn tiroedd ar draws Lloegr. Mae’r dogfennau sy’n ymwneud â’r amryfal diroedd hyn yn ne Cymru a thu hwnt yn dyddio i’r cyfnod rhwng 1422 a 1445.
Yn ogystal â rheoli’i ystadau ei hun, roedd Syr Wiliam yn weithgar fel gweinyddwr tiroedd pobl eraill yn ei fro. Gan mai’n anfynych yr ymwelai arglwyddi’r Mers â de Cymru, bu’n rhaid iddynt ymddiried y gwaith o weinyddu eu harglwyddiaethau i uchelwyr lleol dibynadwy megis Wiliam ap Tomas. Fel y nodwyd eisoes, roedd perthynas waed rhwng gwraig gyntaf Wiliam a theulu pwerus Beauchamp. Hwy oedd biau arglwyddiaeth gyfagos y Fenni, lle daliai Syr Wiliam dir, a hefyd arglwyddiaeth Morgannwg. Rhwng 1411 a 1435 bu’r Fenni ym meddiant Joan, gweddw William Beauchamp (Pugh 1971: 185–6). Mor gynnar â 1421 cawn fod Wiliam ap Tomas yn gweithio fel stiward y Fenni dros Joan. Atgynhyrchir cyfrifon Wiliam ar gyfer y flwyddyn honno yn Bradney (1992a: 4–5). Pan fu farw Joan yn 1435, aeth yr arglwyddiaeth i ddwylo Richard Beauchamp, iarll Warwick a thiwtor i’r brenin ifanc Harri VI (Pugh 1971: 187). Roedd Beauchamp eisoes wedi cael gafael ar Forgannwg yn 1423 (Pugh 1971: 187). Arwydd o’r pwysigrwydd a enillodd Wiliam ap Tomas yng ngwasanaeth Richard Beauchamp oedd iddo weithio drosto fel siryf Morgannwg rhwng 1434 a 1440 (ibid. 190; Thomas 1994: 8). Pan fu farw’r iarll yn Rouen, Normandi, yn 1439, Syr Wiliam oedd un o’r gwŷr dylanwadol a ddewiswyd i ofalu am les ei aer, Henry Beauchamp, a oedd dan oed, ac yn enwedig i warchod arglwyddiaeth y Fenni nes y deuai Henry i oed (Pugh 1971: 192; Thomas 1994: 9–10).
Gŵr grymus arall y daeth Wiliam ap Tomas i gysylltiad ag ef oedd Richard, dug Iorc. Richard oedd arglwydd Brynbuga, yr arglwyddiaeth a gynhwysai Raglan ei hun, yn ogystal â nifer fawr o arglwyddiaethau eraill a etifeddasai oddi wrth deulu Mortimer. Daeth Richard i oed a chafodd feddiannu ei diroedd yn 1432 (Johnson 1988: 10). Yn fuan wedyn, yn 1433, Wiliam ap Tomas oedd dirprwy stiward arglwyddiaeth Brynbuga. Erbyn 1442/3 ef oedd prif stiward yr arglwyddiaeth hon, a hefyd yng Nghaerllion a Maelienydd, tiroedd eraill a berthynai i’r dug (ibid. 240). Cododd Wiliam yng ngwasanaeth y dug, gan ddod yn aelod o’i gyngor. Mae’n debygol ei fod ar y cyngor eisoes yn 1441, pan aeth Richard i Ffrainc, ac roedd yn aelod o hyd yn 1444 a 1445 (ibid. 17, 240). Yn 1441 aeth gyda Richard ar yr ymgyrch i Normandi.
Erys i’w drafod wasanaeth Wiliam ap Tomas i’r Goron. Brenin Lloegr, yn rhinwedd ei deitl fel dug Lancastr, oedd biau tiroedd dugiaeth Lancastr yng Nghymru. Yn y De-ddwyrain cynhwysai’r rhain arglwyddiaethau Caldicot a Magwyr, ger Cas-gwent; Ebwy, maenor yn arglwyddiaeth Casnewydd; ac arglwyddiaethau Trefynwy a’r Tri Chastell (Grysmwnt, Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn). Apwyntiwyd Wiliam yn stiward Ebwy yn 1431, yn stiward Caldicot am oes yn 1437, yn ddirprwy-stiward Trefynwy erbyn 1441, ac efallai’n stiward llawn yr arglwyddiaeth honno erbyn 1443 (Thomas 1994: 7–8; Somerville 1953: 646–7). Daliodd nifer o swyddi eraill dros ddugiaeth Lancastr hefyd: fe’u nodir yn Thomas (1994: 8) ac yn Somerville (1953: 650, 653–4). Yn fwy trawiadol fyth, gwasanaethodd hefyd yn siroedd brenhinol y De-orllewin, ymhell o’i fro ei hun: ef oedd siryf sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi yn 1435, ac yn ystod y cyfnod 1439–44 ymddyrchafodd i fod yn ddirprwy ustus y dywysogaeth yn y De (Griffiths 1972: 147–8). Yr ustus ei hun yn ystod y blynyddoedd hyn oedd Humphrey, dug Caerloyw, ewythr Harri VI. Roedd Syr Wiliam hyd yn oed yn stiward arglwyddiaeth Penfro yn 1433 (ibid. 148), rhagarwydd o’r safle a ddeuai i ran ei fab yno’n nes ymlaen. Cymerodd ran hefyd mewn amryw gomisiynau brenhinol, megis yn 1420, 1431, 1432, 1434, 1441 a 1442 (Thomas 1994: 8–9).
Marwolaeth, claddedigaeth ac etifeddion
Bu farw Syr Wiliam ap Tomas yn 1445, rywbryd cyn 3 Mai (Thomas 1994: 11). Mae nodyn mewn llaw o’r bymthegfed ganrif yn llawysgrif Llst 4, 17v yn honni mai ar nos kalan Mei y bu hynny, ond ymddengys ei fod yn priodoli’r farwolaeth i’r flwyddyn 1440 yn hytrach na 1445, ac felly mae’n anodd pwyso ar y dystiolaeth hon (RepWM ‘Llanstephan 4’). Ymddengys fod Syr Wiliam wedi marw i ffwrdd o gartref, a bu’n rhaid dod â’i gorff yn ôl i’r Fenni, fel y disgrifir yn y farwnad ddienw (125.13–16). Mae nodyn sy’n cyd-fynd â’r testun yn yr unig lawysgrif yn dweud bod Wiliam wedi marw yn Llundain, ond nid yw ffynhonnell yr wybodaeth hon yn hysbys. Yn nhref y Fenni y claddwyd ef, yn eglwys priordy Mair, a gellir gweld ei feddrod yno o hyd (Lord 2003: 153–4, 258–9). Gadawodd nifer o blant cyfreithlon ac anghyfreithlon. Ei etifedd oedd ei fab hynaf, Wiliam Herbert, a ddaeth yn eithriadol o rymus yng Nghymru yn ystod y 1460au, ac a noddodd Guto’r Glyn yn ei dro. Mab iddo hefyd oedd Rhisiart Herbert.
Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991), A History of Monmouthshire, Vol. 1: The Hundred of Skenfrith (part 1) (reprint, London)
Bradney, J.A. (1992a), A History of Monmouthshire, Vol. 2, Part 1: The Hundred of Raglan (reprint, London)
Bradney, J.A. (1992b), A History of Monmouthshire, Vol. 2, Part 2: The Hundred of Trelech (reprint, London)
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (ed.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Johnson, P.A. (1988), Duke Richard of York 1411–1460 (Oxford)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Somerville, R. (1953), History of the Duchy of Lancaster, i: 1265–1603 (London)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (eds.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)