Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd mewn pedair ar bymtheg o lawysgrifau a gopïwyd rhwng canol yr unfed ganrif ar bymtheg a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ond y cwpled cyntaf yn unig a geir yn Pen 221). Gellir dosbarthu’r testunau’n bedwar fersiwn sy’n debyg iawn i’w gilydd o ran darlleniadau, ond bod dechrau’r gerdd ar goll mewn dau fersiwn. Mae fersiwn Bod 1 (cynsail testunau Pen 100, Llst 133, Pen 152 [i] a LlGC 428C) yn dechrau â llinell 19. Yn fersiwn Pen 99 (cynsail testunau Pen 152 [ii] a CM 12) cyfunwyd y gerdd hon o linell 7 ymlaen â rhan gyntaf cerdd 27 (efallai yn sgil troi dwy ddalen yn y gynsail). Tardda’r ddau fersiwn cyflawn o gynseiliau coll a gynrychiolir gan dri thestun yr un. X1 yw’r casgliad coll a gopïwyd mewn tair llawysgrif o Ddyffryn Conwy, LlGC 3049B, LlGC 8497B a Gwyn 4. X2 yw’r ffynhonnell gyffredin y tu ôl i LlGC 17114B (y testun cynharaf, tua 1560, a ffynhonnell testun C 5.167), LlGC 6681B a C 1.550 (cf. cerdd 87). Mae lle i gredu bod C 1.550 yn gopi o LlGC 6681B, gan fod tair cerdd i’w cael yn yr un drefn yn y ddwy lawysgrif (cerddi 24, 42 a hon), ond mae’r ffaith na chodwyd y cywiriadau yn nhestun LlGC 6681B yn llinellau 37 a 43 yn awgrymu fel arall. Heblaw’r llinellau coll ar ddechrau’r gerdd nid oes gwahaniaeth o ran nifer na threfn llinellau rhwng y pedwar fersiwn, a diau eu bod i gyd yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig yn y pen draw.
Seiliwyd y testun golygedig ar LlGC 17114B, LlGC 8497B a Bod 1.
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B a Bod 1.
2 dyddiau daed Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl, dydd däed. Rhaid felly fod daed (o da yt) yn ffurf unsill (cf. GLGC 147.6), er na nodir enghraifft o ffurf luosog yr ymadrodd dydd da yn GPC 1119.
4 troi … trwy LlGC 17114B yw’r unig lawysgrif sy’n treiglo’r ddau air, a gellir cymryd bod dechrau’r llinell newydd yn atal y treiglad a ddisgwylid.
14 baud … Domas Nid yw’n glir beth yn union oedd darlleniad X1, ond mae’n bosibl ei fod yn wallus o ran cynghanedd fel y gwelir yn Gwyn 4, baud … Thomas. Os felly, cafwyd cynigion gwahanol i’w gywiro yn LlGC 3049B, baud … Domas, a LlGC 8497B, baut … Tomas. Amwys hefyd yw tystiolaeth llawysgrifau X2: LlGC 17114B baut … tomas, LlGC 6681B a C 1.550 baud … Domas. Mae Pen 99 hefyd o blaid baut … Tomas, ond mae’n fwy tebygol y byddai Guto’n defnyddio’r ffurf ferfol gyda -d ac yn treiglo’r enw priod ar ôl mab (gw. TC 108–9 a cf. cerdd 70.16, ond gthg. 19.7 a 71.24).
18 wtres gwin Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl, wres y gwin.
25 Mae’r llinell hon yn wahanol ym mhob fersiwn, a’r tebyg yw ei bod yn wallus yn y gynsail. Dilynir Bod 1, ond dichon mai ymgais oedd hwnnw i gywiro un o’r fersiynau chwesill, X1, af ni byddaf …, neu X2, ac ni byddaf … Ceir cynnig arall i gywiro hyd y llinell yn Pen 99 Mi af ni byddaf …
27–30 Mae’r ddau gwpled hyn o chwith yn Bod 1, a’r drefn honno a ddilynwyd yn GGl. Nid yw’r naill fersiwn na’r llall yn cyfiawnhau’r treiglad annisgwyl ar ddechrau ll. 28.
37 a branar Dilynwyd Bod 1 yn GGl, A’r branar, ond mae’r dystiolaeth yn gryfach dros ddarlleniad y testun.
43 Mae’n debyg fod y llinell hon yn fyr yn y gynsail, fel y gwelir yn LlGC 3049B a Gwyn 4, I ti doeth kynal ty, ac mai ymgais i gywiro’r hyd oedd y ty LlGC 8497B a Pen 99, a dy dy Bod 1. Mae darlleniad y testun, I ti y doeth, yn seiliedig ar fersiwn X2, a hawdd yw gweld sut y diflannodd y geiryn y yng nghesail llafariad arall.
44 chanu Mae channwr GGl yn seiliedig ar gywiriad yn Pen 100 a dderbyniwyd i destun Pen 152. Mae’n debyg mai’r cymhelliad dros y cywiriad oedd osgoi’r odl dybiedig â gair olaf y llinell.
Dyma gywydd i Ddafydd ap Tomas, noddwr y canodd Guto awdl foliant iddo hefyd (gw. y gerdd flaenorol). Yr un rhinweddau a folir yma, sef ei letygarwch a’i allu fel bardd. Fe ymddengys fod Dafydd ap Tomas oddi cartref pan luniwyd y gerdd, ac mae Guto’n datgan ei fwriad i ymweld â Blaen-tren ar ôl absenoldeb hir. Ymddiheura am beidio â chanu i Ddafydd ers amser maith, a defnyddir tir braenar fel cyffelybiaeth i gyfleu’r syniad o ddwyn ffrwyth ar ôl cyfnod o segurdod ymddangosiadol. Pwysleisir etifeddiaeth Dafydd o ran ei natur foesol a’i dreftadaeth faterol, a chloir trwy honni ei fod yn cyfuno holl gynhysgaeth ei dad a’i daid yn yr un modd ag y cyfunwyd tair gwialen Moses i wneud pren y Groes.
Dyddiad
1436–61.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (28 llinell), traws 32% (21 llinell), sain 18% (12 llinell), llusg 8% (5 llinell).
1 brydydd a brawdwr Cf. 12.38.
4 Byddai teithiwr o’r gogledd yn croesi afon Teifi ger Llanybydder er mwyn cyrraedd Blaen-tren.
16 cwrw’r Mars Roedd ardaloedd yn y Gororau megis Gweble (Weobley) ac Amwythig yn enwog am eu cwrw. Cf. cwrw Amwythig, GIG X.73, a cwrw Gweble GLGC 190.33.
22 Cf 38.1–2.
26 Mabeilfyw Gw. 12.14. Mae tystiolaeth y llawysgrifau’n gyson o blaid y ffurf hon.
28 dewi Nid yw’n amlwg pam y treiglir yma.
41–2 Pwysleisir yn 12.37–8 fod Dafydd wedi etifeddu ei ddawn fel bardd oddi wrth ei daid.
49 sir Is Aeron Is Aeron oedd yr ardal i’r de o afon Aeron, felly defnyddir sir yma mewn ystyr lac.
54 gweddu Nodir yr enghraifft hon yn GPC 1610 dan yr ystyr ‘ffitio, cael lle, derbyn, dal, cynnwys, genni’, ac mae hynny’n bosibl os cymerir mai ‘er na ellir eu cynnwys’ yw ystyr heb weddu, ond gwell fyddai deall gweddu yn yr ystyr ‘cyfyngu’, a allai fod yn ddatblygiad o ystyr sylfaenol y gair, ‘mynd neu roi dan yr iau’.
54 Llanybyddair Llanybydder yng nghwmwd Mabelfyw, y plwyf lle safai Blaen-tren.
59–60 Cyfeirir at hanes y tair gwialen a dyfodd o enau Adda yn y bedd yn ôl y testun apocryffaidd ‘Ystoria Adda’ neu ‘Efangel Nicodemus’; Williams and Jones 1876–92: ii, 245–50. Daeth y tair yn eiddo i Foses, ac yn amser y Brenin Dafydd fe’u cyfunwyd yn un pren, ac o’r pren hwnnw y gwnaethpwyd y groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni. Cf. 82.56.
61 Ar yr odl lusg, cf. 22.15n
63 Llywelyn Hen-daid Dafydd.
65 Y Trihael Tri Hael Ynys Prydain, sef Nudd, Mordaf a Rhydderch, gw. TYP3 5–7.
Llyfryddiaeth
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)
This is a cywydd in praise of Dafydd ap Tomas, a patron to whom Guto also sang an awdl (see poem 12). The same virtues are praised here, that is his hospitality and his capability as a poet. Both poems belong to the same period, 1436–61. It appears that Dafydd ap Tomas was away from home when this poem was composed, and Guto states his intention to visit Blaen-tren after a long absence. He apologizes for not addressing any poems to Dafydd for a long time, and fallow land is used as a trope to represent the idea of productivity after a period of apparent idleness. Dafydd’s inheritance is emphasized both in terms of his moral character and his material patrimony, and the poem concludes by claiming that he combines all that he has inherited from his father and grandfather in the same way as the three rods of Moses were combined to form the wood of the Cross.
Date
1436–61.
The manuscripts
Nineteen manuscript copies of the poem have survived, all apparently deriving directly or indirectly from a common exemplar, although some lack the first six lines and others the first eighteen. The edited text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B and Bod 1.
Previous edition
GGl poem XII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 42% (28 lines), traws 32% (21 lines), sain 18% (12 lines), llusg 8% (5 lines).
1 brydydd a brawdwr Cf. 12.38.
4 A traveller from the north would need to cross the river Teifi near Llanybydder in order to reach Blaen-tren.
16 cwrw’r Mars Marcher towns such as Weobley and Shrewsbury were famous for their beer. Cf. cwrw Amwythig (‘Shrewsbury beer’), GIG X.73, and cwrw Gweble (‘Weobley beer’) GLGC 190.33.
22 Cf 38.1–2.
26 Mabeilfyw See 12.14. The manuscripts agree on this form here.
28 dewi There is no apparent reason for the mutation.
41–2 It is noted in 12.37–8 that Dafydd inherited his poetic gift from his grandfather.
49 sir Is Aeron Is Aeron was the region to the south of the river Aeron, so sir (literally ‘shire’) is being used loosely here.
54 gweddu This example is noted in GPC 1610 under the sense ‘to fit (into) . . . be contained in’, and that is possible if heb weddu is understood to mean ‘although they cannot be contained’, but it gives better sense to take gweddu as ‘to confine’, a development of the primary meaning, ‘to yoke’, cf. DG.net 10.31.
54 Llanybyddair Llanybydder in the commote of Mabelfyw, the parish in which Blaen-tren was located.
59–60 The story of the three rods which grew from Adam’s mouth in the grave is related in the apocryphal text ‘Ystoria Adda’ or ‘Efangel Nicodemus’, Williams and Jones 1876–92: ii, 245–50. The three came into the possession of Moses, and in the time of King David they were combined into one piece of wood, from which was made the cross on which Christ was crucified. Cf. 82.56.
63 Llywelyn Dafydd’s great-grandfather.
65 Y Trihael The ‘Three Generous Ones of the Island of Britain’, Nudd, Mordaf and Rhydderch, see TYP3 5–7.
Bibliography
Williams, R. and Jones, G.H. (1876–92) (eds.), Selections from the Hengwrt MSS (2 vols., London)
Noddwr cerddi 12 a 13 oedd Dafydd ap Tomas. Canodd Lewys Glyn Cothi gerddi i’w wraig, Gwenllïan, ac i’w fab, Rhys (GLGC cerddi 41–4). At hynny, canodd Syr Phylib Emlyn gywydd i ofyn march gwyn gan Rys ap Dafydd (GSPhE cerdd 2).
Achres
Roedd Dafydd yn un o ddisgynyddion Rhydderch ap Tewdwr Mawr o deulu brenhinol Deheubarth. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3; WG2 ‘Rhydderch ap Tewdwr’ 3 A1. Dangosir y rheini a enwir yng ngherddi Guto i Ddafydd mewn print trwm.
Achres Dafydd ap Tomas o Flaen-tren
Ei yrfa
Daliodd Dafydd swydd bedel cwmwd Mabelfyw am bum mlynedd ar hugain rhwng 1436 a 1461, fel ei dad a’i daid o’i flaen, a bu’n ddirprwy fforestwr Glyncothi a Phennant yn 1456–8 (Griffiths 1972: 360–1, 399). Ei gartref oedd Blaen-tren ym mhlwyf Llanybydder. Dyna’r enw a roddir yng nghywydd Guto iddo (cerdd 13) a hefyd yn y cerddi a ganodd Lewys Glyn Cothi i’w wraig Gwenllïan a’u mab Rhys (gw. uchod). Yn awdl Guto sonnir am Rhiw Tren (12.25) mewn cyd-destun sy’n awgrymu mai enw arall ydyw ar gartref Dafydd. Nodir yr enw Coed-tren hefyd yn achresi Bartrum (WG1). Mae’n debygol fod y llys ar yr un safle â Glantren-fawr heddiw (Jones 1987: 11–12). Afon fechan yw Tren sy’n llifo i afon Dyar ger Llanybydder, ac mae honno yn ei thro’n llifo i afon Teifi.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Jones, F. (1987), Historic Carmarthenshire Homes and their Families (Carmarthen)