Chwilio uwch
 
17 – Moliant i Ddafydd Mathau o Landaf
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Dafydd Mathau, bendefig,
2Dawn y dref, dy enw a drig.
3Didwyll i’r Deau ydwyd,
4A dedwydd o Ddafydd wyd.
5Duw a gyflawnodd dy iad
6Â doethder dy fendithdad.
7Difalch wyd, dwyfol, â chall;
8Balch a thaerfalch wrth arall.
9Agoriad wyd ar Gaerdyf
10A’i chlo addwyn a’i chleddyf,
11Angelystor gwlad Forgan
12Uwchlaw Morgannwg achlân,
13A llew du – gorau lliw dyn –
14Llandaf, a’r llu yn d’ofyn.
15Ni bu, lew du, ne lwyd iach
16Ar wyneb gŵr dirionach.
17Haws tynnu tân o waneg
18No thynnu dawn o’th wên deg.

19Dwyran, medd yr ystoria,
20A roes Duw yt o ras da:
21Rhan yt, Ddafydd, rhent ddifai,
22A rhan Gwenllïan, nid llai.
23Dal ydd ywch (i’ch dwylaw ’dd aeth)
24Y tai a’r berchentyaeth,
25A dwyn erioed dan yr iau
26Eich deuedd, fraich y Deau,
27Adeiliad tai a dal tir,
28A bwrw cost ar bwrcastir.
29Bywyd Mathau ab Ieuan
30A’i dir rhent aeth yn dair rhan;
31Ni rennid yn yr unawr
32Tair rhan fwy, a’r tyrau’n fawr.
33Tyfu ydd wyd, Dafydd ddoeth,
34Trachefn mwy no’r tri chyfoeth:
35Tai megis arglwydd y Tŵr,
36Tir a chynnydd trychannwr.
37Y mae rhad, y gŵr mawr hir,
38Y Drindod ar dy randir.

39Mae tyfiad mwy yt, Dafydd:
40Meibion fal cyrn hirion hydd,
41Fal na bydd na blaen na bôn,
42Addwyn ceirw, heb ddwyn coron.
43Carw i’th gwrt, cywir y’th gair,
44Hwyntau yw d’osglau disglair.
45Y llaw’n pwysaw hapuswedd,
46Ni ddial clwyf ni ddeily cledd.
47Mawr yw cael pedwar aelawd
48Megys pedwar bys a bawd.
49Nid aelaw gŵr heb dylwyth,
50Nid derwen na phren heb ffrwyth.
51Derwen fawr wyd er un fainc,
52Pedwarcarw yw’r pedeircainc,
53A’i brig oll, fal nas bwrw gwynt,
54Yw dy bleidiau, dwbl ydynt.
55Un ffunud wyd, un ffyniant,
56Ffyrf blaid, â Phriaf a’i blant.
57Pa rai yw meibion Priaf?
58Pedair llin dur Pedr Llandaf.
59Teilo a gatwo’r tylwyth,
60Teg yw’r llys, nid hagr y llwyth.
61Llawen dy wên yn Llandaf,
62Llyna’r wyneb llawenaf.
63Llawen yw’r dref wen dra fych,
64Llawer blwyddyn y’i llywiych!

1Dafydd Mathau, bennaeth,
2bendith y dref, bydd dy enw yn parhau.
3Didwyll wyt ti i dde Cymru,
4a Dafydd dedwydd wyt ti.
5Mae Duw wedi llenwi dy ben
6â doethder dy dad bendithiol.
7Diymhongar wyt ti, ŵr dwyfol, wrth ddyn doeth;
8balch a diysgog o falch wrth unrhyw un arall.
9Allwedd wyt ti i Gaerdydd
10a’i chlo ysblennydd a’i chleddyf,
11efengylydd Gwlad Morgan
12uwchben Morgannwg i gyd,
13a llew gwalltddu Llandaf,
14lliw gorau dyn, a’r dorf yn galw amdanat.
15Ni fu, lew gwalltddu, erioed olwg bendigaid iach
16a oedd yn fwy graslon ar wyneb gŵr.
17Haws yw tynnu tân o don
18na thynnu’r gras o’th wên deg.

19Rhoddodd Duw i ti, fel y dywed yr hanes,
20ddwy gyfran o ras da:
21un rhan i ti, Ddafydd, elw perffaith,
22a rhan Gwenllïan, nid yw’n llai.
23Rydych yn cynnal (fe aeth hyn i’ch dwylo)
24y neuaddau a’r perchentyaeth,
25a’r ddau ohonoch yn eich rhoi eich hunain erioed
26dan yr iau, cynhaliaeth de Cymru,
27yn adeiladu neuaddau ac yn cynnal tir,
28ac yn gwario llawer ar dir a brynir.
29Mae bywoliaeth Mathau ab Ieuan
30a’i dir rhent wedi mynd yn dair rhan;
31ni ddosrannwyd erioed dair rhan fwy
32ar yr untro, a’r tyrau’n fawr.
33Rwyt ti’n tyfu, Ddafydd doeth,
34yn ôl yn fwy na’r tair teyrnas:
35neuaddau fel sydd gan arglwydd y Tŵr,
36tir a ffyniant tri chan dyn.
37Mae gras, ŵr mawr tal,
38y Drindod ar dy gyfran o dir etifeddol.

39Mae tyfiant mwy gennyt, Ddafydd:
40meibion fel cyrn hir hydd,
41o’r fath fel na fydd yr un ohonynt
42heb ddwyn coron, ysblennydd yw’r ceirw.
43Carw yn dy lys, fe’th geir yn ffyddlon,
44hwy yw canghennau disglair dy gyrn.
45Y llaw sydd mor nerthol â thîm o ychen llon,
46ni all un nad yw’n dal cleddyf ddial cam.
47Peth mawr yw cael pedwar aelod
48fel pedwar bys a bawd.
49Nid yw gŵr heb deulu yn gyfoethog,
50nid yw derwen na choeden heb ffrwyth yn haeddu ei henw.
51Derwen fawr wyt ti i wneud un fainc gyfan,
52pedwar carw yw’r pedair cangen,
53a’i brig i gyd, o’r fath fel na fydd y gwynt yn ei dymchwel,
54yw dy garfanau, deublyg eu trwch ydynt.
55Un ffunud wyt ti, yr un mor ffyniannus
56â Phriaf a’i blant, cwmni cadarn.
57Pa rai yw meibion Priaf?
58Pedwar disgynnydd cydnerth Pedr Llandaf.
59Boed i Deilo warchod trigolion y tŷ,
60teg yw’r llys, nid hagr yw’r teulu.
61Llawen yw dy wên yn Llandaf,
62dyma’r wyneb mwyaf llawen.
63Llawen yw’r dref ddedwydd tra wyt ti’n byw,
64boed i ti ei rheoli am lawer blwyddyn eto!

17 – In praise of David Mathew of Llandaf

1David Mathew, chieftain,
2the town’s blessing, your name will endure.
3You are without guile against south Wales,
4and you are indeed a blessed David.
5God has filled your head
6with the wisdom of your blessed father.
7You are modest, O God-fearing one, towards a wise man;
8proud, and insistently proud, towards any other.
9You are the key to Cardiff
10and its splendid lock and its sword,
11the evangelist of Morgan’s land
12elevated above all Glamorgan,
13and the black-maned lion of Llandaf,
14the best colour a man can have, and with the crowd begging for you.
15Never, O black-maned lion, did man’s face bear
16a wholesome, blessed expression which was more gracious.
17It’s easier to draw fire from a wave
18than to draw the favour out of your fair smile.

19God has given you, so the story goes,
20a double share of good grace:
21one share for you, David, perfect profit,
22and Gwenllïan’s share, no less.
23You two maintain (this has passed into your hands)
24the halls and hospitality,
25and you always place yourselves, the pair of you,
26under the yoke, sustenance of south Wales,
27building halls and holding land,
28and spending lavishly on purchased land.
29Mathau ab Ieuan’s substance
30and his rental land were divided into three shares;
31never have three larger shares
32been doled out in one go, and the towers are mighty.
33You are growing back, wise David,
34greater than the three kingdoms:
35halls like those of the lord of the Tower,
36land and prosperity fit for three hundred men.
37The grace, O great tall man,
38of the Trinity lies upon your share of inherited land.

39You have a yet greater increase, David:
40sons like the tall antlers of a stag,
41of such a kind that no one of them
42will fail to bear a crown, the stags are splendid.
43O stag in your own court, you are found to be faithful,
44they are the splendid tines of your antlers.
45The hand which is as mighty as a happy team of oxen,
46one which does not hold a sword cannot avenge an injury.
47It is a great thing to have four bodily members
48like four fingers, and a thumb.
49A childless man is not wealthy,
50an oak without fruit, or any other tree, is no tree at all.
51You are a mighty oak fit to make a whole single bench,
52four stags are the four branches,
53and its topmost crown, such that the wind will not blow it down,
54are your bands of adherents, they are in ranks two-deep.
55You are exactly similar to, every bit as prosperous
56as Priam and his children, a mighty company.
57Which ones are Priam’s sons?
58The four steely descendants of the St Peter of Llandaf.
59May St Teilo guard the household,
60the court is fair, the family is no ugly one.
61Joyful is your smile in Llandaf,
62this is the most joyful face of all.
63Joyful is the fortunate town as long as you live,
64may you govern it for many a year yet!

Y llawysgrif
Mewn un llawysgrif yn unig y ceir y gerdd hon, sef Llst 6. Ysgrifennwyd hi yn ne Cymru c.1510x1530. Mae’r gwahaniaeth rhwng safon y testun hwn a’r testunau ardderchog, cyfoes â’r bardd ei hun, a geir yn Pen 57 yn drawiadol, a bu’n rhaid diwygio sawl llinell yn y gerdd hon. Hefyd mae orgraff y testun yn amwys mewn mannau, gan fod y copïydd yn arfer y am u (ond nid yn gyson ychwaith).

Trawsysgrifiad: Llst 6.

stema
Stema

2 enw a drig  Llawysgrif enw dric. Diwygiwyd er mwyn hyd y llinell, fel y gwnaed hefyd yn GGl. Dichon fod y copïydd yn ystyried enw yn air deusill.

5 gyflawnodd  Llawysgrif gyflawnoedd. Adffurfiwyd y terfyniad gorffennol odd dan ddylanwad y ferf oedd, nodwedd a welir mewn rhai llawysgrifau deheuol. Cf. 31.41 (nodyn testunol).

6 â  Llawysgrif o, er na threiglir doethder ar ei ôl. Mae’r gynghanedd yn mynnu cadw’r cysefin yn doethder, ac felly mae’n rhaid diwygio. Ceir yr un diwygiad yn GGl.

7 dwyfol, â chall  Gthg. GGl dwyfol a chall (y ddau’n ansoddeiriau ac felly’n disgrifio Dafydd Mathau). Mae hyn yn chwalu’r gwrthgyferbyniad taclus rhwng llinellau 7 ac 8 ac yn gadael arall yn llinell 8 heb gymar i gyd-fynd ag ef. Gwell darllen â yma a deall call yn enwol: am â mewn ymadroddion sy’n disgrifio ymagweddu rhywun at rywun arall, cf. GPC2 4 d.g. â1 2(a). Amrywiad yw’r ddwy linell hyn ar yr hen dopos cyfarwydd ‘gwrdd wrth wrdd, gwâr wrth wâr’.

8 balch  Llawysgrif abalch. Hepgorwyd a er mwyn hyd y llinell, cf. GGl.

8 balch a thaerfalch  Os teimlir bod yr ailadrodd yn chwithig, gellid cynnig darllen taerwalch yma, ond mae’r ystyr yn iawn fel y saif.

15 lew du, ne  Nid oes rhaid diwygio yma. Diangen yw troi hyn yn liw du neu fel yn GGl, penderfyniad a ddeilliodd, yn ôl pob tebyg, o beidio ag adnabod ne fel ffurf dreigledig gne.

32 a’r tyrau’n fawr  Llawysgrif ar tyrayn vawr, GGl na’r tyrayn fawr, a nodyn ar dudalen 346 yn awgrymu bod y darlleniad yn llwgr ac y dylid darllen a’r tyrrau’n fawr. Nid oes dim byd yn bod ar yr hyn a geir yn y llawysgrif, o’i atalnodi a diweddaru’r orgraff yn y dull arferol.

40 hydd  Nis ceir yn y llawysgrif, ond digon hawdd yw ei adfer, cf. GGl. Efallai fod y copïydd wedi drysu am mai -on yw odl y cwpled nesaf.

51 er un fainc  Llawysgrif er yn faink, orgraff amwys am fod y copïydd yn defnyddio y am u (ond nid yn gyson). Byddai er yn fainc yn golygu ‘er dy fod yn fainc’, sy’n anodd ei ddeall. Defnyddir mainc yn ddelwedd am berson yn achlysurol, cf. GLMorg 48.45 Pwy yw’r eilmainc i’r parlment; GIBH Atodiad v.61 Pe gwisgai, erfai eurfainc. Yr ystyr ‘sedd barnwr’ sydd wrth wraidd y defnydd ffigurol hwn yn ôl pob tebyg. Ond sut y rhoddai er yn fainc synnwyr yma? Gwell derbyn bod y yn sefyll am u a darllen er un fainc: mae Dafydd yn dderwen ddigon mawr i greu un fainc hir, gyfan ohoni. Gthg. GGl o’r un fainc, diwygiad diangen nad yw’n cynnig synnwyr haws.

53 a’i  Llawysgrif ay, orgraff amwys; GGl a’u. Am frig y dderwen (51) y sonnir, felly y rhagenw unigol sydd ei angen. Ond gellid a’u o dderbyn mai brigau’r pedeircainc (52) sydd dan sylw.

55 un ffyniant  Llawysgrif yn ffyniant, cf. 51n. Derbynnir yn ffyniant yn GGl, ond ceir pwyslais mwy boddhaol o ailadrodd un yn y llinell hon.

58 dur  Llawysgrif dyr; GGl dir. Am arfer y copïydd o ddefnyddio y am u, gw. 51n a 55n, ac am ystyr dur fel ansoddair, gw. GPC 1099. Ataliwyd y treiglad ar ôl yr enw benywaidd llin oherwydd fod dd- yn gallu caledu’n d- ar ôl -n: ceir enghraifft debygol o hyn yn 16.48. Ond hefyd ceir enghreifftiau o beidio â threiglo ansoddair yn y gystrawen rhifolyn + enw benywaidd + ansoddair, gw. TC 64–5. Nid oes angen diwygio fel y gwnaed yn GGl.

62 llyna  Llawysgrif llyma. Diwygiwyd er mwyn y gynghanedd.

64 Llawer blwyddyn y’i llywiych  Llawysgrif llaer blwyddyn blwyddyn yllywych. Mae angen diwygio llaer, sy’n ddiystyr, ac o adfer llawer, mae angen colli dwy sillaf, felly hepgorer yr ail blwyddyn. Dehonglir y fel y’i, orgraff ddigon cyffredin gynt. Yn GGl Llawer blwyddyn y llewych ceir diwygiad pellach nad oes ei angen: diau na ddeallodd y golygydd y ffurf llywych, sef ail unigol presennol dibynnol llywio. Adferwyd -i- yn y testun golygedig gan gymryd mai ffurf orgraffyddol ddeheuol yw llywych.

Dyma gywydd mawl i uchelwr o Forgannwg, Dafydd Mathau, a drigai yn Llandaf a’r Eglwys Newydd. Mawl cyffredinol iddo sy’n llenwi’r adran gyntaf (llinellau 1–18). Mae’r gŵr yn ddoeth ac yn driw a bydd ei enw da yn parhau. Gwelir y topos cyfarwydd ‘gwrdd wrth wrdd, gwâr wrth wâr’ (7–8). Nodir cysylltiad Dafydd Mathau â Morgannwg ac â Llandaf, a nodir mai du yw lliw ei wallt, hoff liw Guto, a barnu wrth ei gyfeiriadau eraill at y lliw hwn (13n). Yn yr adran nesaf (19–38) ceir mwy o wybodaeth ddiddorol. Mae’n amlwg fod tad y noddwr wedi marw, gan rannu ei diroedd yn dair rhan – rhannau Dafydd a’i frodyr. Datgelir cryn anesmwythyd ynglŷn â’r anawsterau a barodd hyn i Ddafydd Mathau. Yn benodol, mae’r pwyslais ar y ffaith fod Dafydd yn ‘bownsio’n ôl’ (33–4), fel petai, yn awgrymu pa mor andwyol y gallai rhaniadau o’r fath fod i gyfoeth teulu. Mae’n amlwg, hefyd, fod Dafydd wedi priodi’n ffafriol, ac efallai mai dyna sydd wedi ei achub rhag suddo i statws cymdeithasol is (19–22), yn ogystal â phrynu tir newydd i gydbwyso’r hyn a gollwyd (28). Ond, yn y dull canoloesol arferol, mae’r bardd yn gweld ffawd Dafydd a’i wraig yn arwydd o ffafr Duw (37–8). Yn yr adran olaf, canolbwyntir ar agwedd bwysig arall ar gynnal uchelwriaeth: etifeddion. Canmolir pedwar mab y pâr priod, gan eu cymharu â bysedd llaw, â cheirw ac â changhennau coeden. Mae’r llinellau hyn yn enghreifftio techneg gyffredin y Cywyddwyr o wibio o ddelwedd i ddelwedd (dyfalu): nid oedd y trosiad cymysg yn drosedd yn eu golwg hwy. Gorffennir gan weddïo ar Deilo Sant a chan rag-weld llawenydd y teulu yn parhau am flynyddoedd maith eto.

Dyddiad
Dyddiadau hysbys Dafydd Mathau yw 1424–58, sef y cyfnod pan geir ef yn arwyddo dogfennau. Roedd eisoes yn oedolyn yn 1424, felly. Bu farw cyn 1470. Priodasai â Gwenllïan, a enwir yn llinell 22, erbyn 1435, a bellach mae gan y pâr priod bedwar o feibion. Ni ellir cynnig dyddiad mwy pendant i’r gerdd.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXVII.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (27 llinell), traws 34% (22 llinell), sain 17% (11 llinell), llusg 6% (4 llinell).

3 Deau  Yn draddodiadol rhennid Cymru’n dair rhan, sef Gwynedd, Powys a Deheubarth neu’r Deau. Perthynai Morgannwg i’r olaf.

4 dedwydd o Ddafydd  Awgrymir cymhariaeth rhwng Dafydd Mathau a’r Brenin Dafydd yn yr Hen Destament yma.

9 Caerdyf  Caerdydd oedd prif dref arglwyddiaeth Morgannwg. Trigai Dafydd ar bwys y dref hon.

11  Cynghanedd lusg o gyswllt (neu ‘lusg gysylltben’), gw. CD 174, lle dyfynnir y llinell hon.

11 gwlad Forgan  Morgannwg. Buasai Morgannwg yn deyrnas cyn dyfodiad y Normaniaid. Bellach un o arglwyddiaethau mwyaf y Mers ydoedd.

13 A llew du – gorau lliw dyn  Cf. canu Guto i Harri Ddu o Euas, cerdd 33. Dehonglir llew du yn gyfeiriad herodrol posibl yn DWH i: 121 a 214 er mai llew arian a ddygai teulu Mathew fel arfer.

14 Llandaf  Tref ar lan orllewinol afon Taf lle saif eglwys gadeiriol yr esgobaeth. Erbyn hyn fe’i llyncwyd gan Gaerdydd, ond yn nyddiau Guto dau le ar wahân oeddent. Claddwyd Dafydd Mathau yn y gadeirlan a gellir gweld corffddelw yno o hyd y dywedir mai llun o Ddafydd Mathau ydyw (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).

stema
Corffddelw dybiedig Dafydd Mathau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Llun: Barry J. Lewis.

16 tirionach  Gall fod yr ansoddair hwn yn goleddfu naill ai gŵr yn 16 neu gne yn 15 (dyna a dderbynnir yn yr aralleiriad).

22 Gwenllïan  Gwraig Dafydd Mathau. Roedd hi’n ferch i Ddafydd ap Gwilym ap Siancyn, ac felly’n gyfnither i Syr Wiliam ap Tomas. Gw. WG1 ‘Godwin’ 4.

24 tai  Amwys, fel hefyd yn 27 a 35. Mae’n bosibl fod tai yn cyfeirio at fwy nag un cartref. Ond cyffredin iawn ym marddoniaeth y cyfnod hwn yw galw un cartref yn dai, diau am fod cartref uchelwrol yn cwmpasu sawl adeilad, cf. 20.18 ac yn enwedig 22.38.

25 dan yr iau  Delwedd gyffredin yn y cywyddau am y noddwr yn ysgwyddo baich ei gyfrifoldebau dros ei gymdeithas yw ei bortreadu yn dwyn iau. Dwy gerdd sy’n datblygu’r syniad yn helaeth yw GGLl cerdd 15 a GSC cerdd 1, a cf. GSC 12.

26 deuedd  Deellir hyn yn ffurf luosog dau er mai deuoedd, deuwedd a dowedd yn unig a nodir yn GPC 905; cf. hefyd GPC 1186 d.g. eich am yr ymadrodd eich deuwedd/deuoedd.

28 pwrcastir  Tir a brynwyd, mewn gwrthgyferbyniad â thir a etifeddwyd, cf. TA XI.47 Tyrau, parcau, tir pwrcas. Daeth prynu tir yn arfer cyffredin ymhlith yr uchelwyr tua diwedd yr Oesoedd Canol, gw. Davies 1978: 402–13.

29–30  Mae’n amlwg o’r cwpled hwn fod cyfoeth tad y noddwr (Mathau ab Ieuan) wedi cael ei rannu rhwng ei dri mab. Dim ond un rhan o dair o eiddo ei dad, felly, sydd yn nwylo Dafydd Mathau. Enwir brodyr Dafydd Mathau yn ei ach yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 5, sef Robert a Lewis.

34 tri chyfoeth  Gan fod cyfoeth yn aml yn golygu ‘teyrnas’, deellir mai am Loegr, Cymru a’r Alban y sonnir. Ond gall mai tair cyfran tir Mathau ab Ieuan ydyw: hynny yw, fod Dafydd wedi adfer cymaint o gyfoeth ag a oedd gan ei dad.

35 arglwydd y Tŵr  Ymddengys yn gyfeiriad penodol. Y tŵr amlycaf yw Tŵr Llundain: brenin Lloegr oedd arglwydd hwnnw, a gweddai hynny’n dda yma. Geilw Lewys Morgannwg Harri VIII yn tarw y (o’r) Tŵr, gw. GLMorg 96.28 a 97.36. Gellid hefyd ystyried Tretŵr yn sir Frycheiniog.

38 rhandir  Gw. GPC 3037 (c) ‘rhan neu gyfran (yn enw. o dir, fel etifeddiaeth)’.

41 na blaen na bôn  Soniwyd uchod am y ddelwedd gyffredin o’r noddwr yn dwyn iau (25n). Weithiau soniai’r beirdd yn fwy penodol am yr ychen pen blaen a phen bôn – hynny yw, yr ychen ar flaen y tîm aredig, sy’n arwain y ffordd, a’r ychen y tu cefn sy’n dal y pwysau mwyaf. Am enghreifftiau o’r delweddau hyn yn y canu mawl, gw. GPC 2002 d.g. iau1 (y cyfuniadau iau flaen ac iau fôn); 3749 d.g. ych1 (y cyfuniad ych bôn). Yma mae blaen [a] bôn fwy neu lai’n gyfystyr â ‘phob un’. Gw. hefyd Payne 1954: 142 ymlaen.

45 pwysaw  Am yr ystyr, gw. GPC 2955 2(b) ‘bod yn werth, bod yn gyfwerth â’.

45 hapuswedd  Yn betrus, dehonglir hyn yn gyfeiriad at dîm o ychen, cf. GPC 1609 d.g. gwedd2.

48 pedwar bys a bawd  Y meibion yw’r bysedd, a Dafydd ei hun yw’r fawd. Enwir mwy na phedwar ohonynt yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 5. O bosibl nid oedd pob un o’i feibion eto wedi eu geni.

53 brig  Gall gyfeirio at gopa coeden neu at egin neu dwf newydd ar foncyff, gw. GPC 324. Nid yw’r ddelwedd yn hollol eglur yma: dywedir naill ai fod dilynwyr Dafydd yn binacl ar ei ysblander (brig = ‘copa’) neu eu bod yn ffrwyth ei ysblander (brig = ‘egin, twf’).

56 Priaf  Brenin Caerdroea yn y chwedlau a gysylltid â gwarchae’r Groegiaid ar y ddinas. Ymhlith ei feibion roedd Hector, prif arwr gwŷr Caerdroea.

58 Pedr Llandaf  Delwedd am y noddwr. Pedr (gyda Paul) oedd un o’r seintiau y cysegrwyd cadeirlan Llandaf iddynt.

59 Teilo  Un o brif seintiau de Cymru, a’r pennaf o’r tri sant brodorol y cysegrwyd cadeirlan Llandaf iddynt (y lleill yw Dyfrig ac Euddogwy).

63 tref wen  Enw lle yn ôl GGl2 346, lle awgrymir yn betrus mai enw am Whitchurch (Yr Eglwys Newydd) ger Caerdydd ydyw. Fodd bynnag, ni cheir enghraifft hysbys arall o’r enw hwn am Whitchurch, a haws yw ei ddeall yn enw cyffredin yma. Enw ar Whittington yn swydd Amwythig yw Y Dref Wen fel arfer, sy’n amherthnasol yma, fel hefyd Y Dref Wen yn GLGC 164.28 a 170.12 sy’n cyfeirio at le ansicr ym Maelienydd.

Llyfryddiaeth
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Davies, R.R. (1978), Lordship and Society in the March of Wales (Oxford)
Payne, F.G. (1954), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)

This is a praise poem for a Glamorgan patron, David Mathew of Llandaf and Whitchurch. The first section contains quite general praise (lines 1–18). He is wise and faithful and his good name will endure. We encounter the familiar topos ‘fierce to the fierce, gentle to the gentle’ (7–8). David Mathew’s association with Glamorgan and Llandaf is noted, and his hair is said to be black, Guto’s favourite colour, to judge from his numerous references to it in other poems (13n). In the next section (19–38) we find more interesting material. It is clear that the patron’s father is dead, and has divided his lands into three shares – those of David and his brothers. The poem betrays some disquiet about the difficulties this has caused for David Mathew. In particular, the emphasis on the fact that David is ‘bouncing back’ (33–4), as it were, suggests how much damage division of property like this could do to a family fortune. It is clear, too, that David has married well, and it is maybe that which has saved him from declining into a lower social status (19–22), along with buying new land to make up his losses (28). But in the usual medieval way, the poet detects the hand of God behind the good fortune of David and his wife (37–8). In the last section, the poet concentrates on another important aspect of uchelwr status: heirs. The couple’s four sons are praised, being compared to the fingers of a hand, stags and the shoots of a tree. The images are intertwined without concern for logical consistency, in the common manner of medieval Welsh poetry in which the mixed metaphor was not a matter of concern (the technical term for the piling-up of such images is dyfalu). To conclude, the poet prays to St Teilo and foresees long years of future happiness for the family.

Date
David Mathew’s known dates are 1424–58, the period within which surviving documents note him as a witness. He must therefore already have been an adult in 1424. He died before 1470. He had married Gwenllïan, who is named in line 22, by 1435, and by the time of the poem the couple have four sons. The poem cannot be more closely dated.

The manuscript
This poem is found in only one manuscript, Llst 6. This was written in south Wales c.1510x1530. There is a striking difference in quality between this text and the excellent texts (of other poems) copied into Pen 57 during the poet’s lifetime. Several lines had to be emended in this poem. Also the manuscript orthography is ambiguous in places, since the copyist uses y for u (but not consistently).

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem LXVII.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 42% (27 lines), traws 34% (22 lines), sain 17% (11 lines), llusg 6% (4 lines).

3 Deau  Wales was traditionally divided into three parts, namely Gwynedd, Powys and Deheubarth or y Deau (‘the South’). Glamorgan was reckoned part of Deheubarth.

4 dedwydd o Ddafydd  There is an implied comparison between David Mathew and the Old Testament King David.

9 Caerdyf  Cardiff was the main town in the lordship of Glamorgan. David Mathew lived nearby.

11  An example of cynghanedd lusg o gyswllt (or ‘lusg gysylltben’), see CD 174, where this line is cited.

11 gwlad Forgan  I.e. Glamorgan, ‘Morgan’s land’. Glamorgan had been a kingdom before the Norman conquest. It was now one of the largest of the marcher lordships.

13 A llew du – gorau lliw dyn –  Cf. Guto’s praise of the black-haired Henry Griffith of Ewyas in poem 33. llew du is taken as a possible heraldic reference in DWH i: 121 and 214 although the Mathew family usually bore a lion Argent.

14 Llandaf  On the west bank of the river Taf, seat of the bishops of Llandaf. Now swallowed up by Cardiff, in Guto’s time it was quite separate. David Mathew was buried in Llandaf cathedral, where an effigy said to be of him may still be seen (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).

stema
Supposed effigy of David Mathew in Llandaf cathedral. Photo: Barry J. Lewis.

16 tirionach  This adjective may qualify either gŵr in 16 or gne in 15 (that is the option accepted in the translation).

22 Gwenllïan  David Mathew’s wife. She was a daughter of Dafydd ap Gwilym ap Siancyn, and thus a cousin of Sir William ap Thomas. See WG1 ‘Godwin’ 4.

24 tai  Ambiguous, as also in 27 and 35. It may be that tai (plural of ‘house’) refers to more than one home. But it is common in the poetry of this period to use tai to describe a single residence, presumably because a high-status home contained several buildings, cf. 20.18 and especially 22.38.

25 dan yr iau  The image of the yoke is often used in the cywydd poetry for the patron shouldering his responsibilities towards his community. Two poems which develop this theme extensively are GGLl poem 15 and GSC poem 1, and there is a note on the image in GSC 12.

26 deuedd  Seems to be a plural form of dau although deuoedd, deuwedd and dowedd are the only forms noted in GPC 905; cf. also GPC 1186 s.v. eich for the expression eich deuwedd/deuoedd.

28 pwrcastir  Purchased land, in contrast to inherited land, cf. TA XI.47 Tyrau, parcau, tir pwrcas (‘Towers, parks, purchased land’). Buying land became common among the Welsh landowning classes towards the end of the Middle Ages, see Davies 1978: 402–13.

29–30  This couplet makes it plain that the property of the patron’s father (Mathau ab Ieuan) had been divided among his three sons. David Mathew can only have held a third share of his father’s lands. David Mathew’s brothers are given in WG1 ‘Gwaithfoed’ 5 as Robert and Lewis.

34 tri chyfoeth  Since cyfoeth in earlier Welsh often means ‘kingdom’, in addition to its usual meaning nowadays (‘wealth’), this should be understood as a reference to England, Wales and Scotland. But it might refer to the three shares of Mathau ab Ieuan’s property: that is, Dafydd has restored his fortunes to the same level as his father’s.

35 arglwydd y Tŵr  This looks like a reference to a specific tower (and so a specific lord). The most obvious tower is the Tower of London, whose lord was the king of England – a very suitable image here. Lewys Morgannwg calls Henry VIII the ‘bull of the Tower’ (tarw y (o’r) Tŵr), see GLMorg 96.28 and 97.36. Alternatively, consider Tretower in Breconshire.

38 rhandir  See GPC 3037 (c) ‘share or portion (esp. of land, as inheritance)’.

41 na blaen na bôn  The common image of the patron as an ox bearing a yoke was discussed above (25n). Sometimes the poets would refer specifically to the oxen as pen blaen and pen bôn – that is, the oxen at the front of the plough-team, which lead the way, and the oxen at the back, who bear the brunt of the work. For examples where these images are used to praise people, see GPC 2002 s.v. iau1 (in the combinations iau flaen and iau fôn); 3749 s.v. ych1 (in the combination ych bôn). Here the combination blaen and bôn is more or less equivalent to ‘everyone’. See further Payne 1954: 142 onwards.

45 pwysaw  For the meaning here, see GPC 2955 2(b) ‘be worth, be equal to’.

45 hapuswedd  With some misgivings, this is interpreted as a reference to a team of oxen, cf. GPC 1609 s.v. gwedd2.

48 pedwar bys a bawd  The fingers are the sons, and the thumb is Dafydd himself. More than four sons are given in WG1 ‘Gwaithfoed’ 5. Perhaps not all of his sons had yet been born when this poem was composed.

53 brig  Can be the crown of a tree or, alternatively, shoots or regrowth on a stump, see GPC 324. The image is not entirely clear here: either David Mathew’s followers are a culmination of his splendour (brig = ‘crown’) or they arise from his splendour (brig = ‘shoots, regrowth’).

56 Priaf  The king of Troy in the stories connected with the Greek siege of the city. One of his sons was Hector, the most prominent Trojan hero.

58 Pedr Llandaf  An image for the patron. Peter (along with Paul) was among the saints to whom the cathedral of Llandaf was dedicated.

59 Teilo  One of the chief saints of south Wales, and the most important of the three native saints to whom Llandaf cathedral was dedicated (the others are Dyfrig and Euddogwy).

63 tref wen  A place name according to GGl2 346, which tentatively suggests Whitchurch (Welsh: Yr Eglwys Newydd) near Cardiff. However, there is no other known example of this name for Whitchurch, and it is easier to take it as a common noun here. Whittington in Shropshire is generally called Y Dref Wen in medieval Welsh, but that is irrelevant here, as is Y Dref Wen in GLGC 164.28 and 170.12 which refers to an uncertain location in Maelienydd (Radnorshire).

Bibliography
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Davies, R.R. (1978), Lordship and Society in the March of Wales (Oxford)
Payne, F.G. (1954), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Dafydd Mathau o Landaf, 1424–58

Dafydd Mathau o Landaf, fl. c.1424–58

Top

Dyma wrthrych cerdd 17, lle rhoddir yr wybodaeth a ganlyn: i. ei enw yw Dafydd Mathau; ii. fe’i cysylltir â Chaerdydd a Morgannwg, ac yn benodol â Llandaf; iii. mae ei wallt yn ddu; iv. mae’n briod â gwraig o’r enw Gwenllïan; v. mae’n fab, fe ymddengys, i Fathau ab Ieuan, sydd wedi marw; vi. rhannwyd eiddo ei dad rhwng tri o wŷr, sef Dafydd ei hun a’i ddau frawd, yn ôl pob tebyg; vii. mae ganddo bedwar mab.

Achres
Ceir ach Dafydd Mathau yn WG1 ‘Gwaithfoed’ 4 a 5, ac eiddo ei wraig yn ‘Godwin’ 4. Dyma fersiwn cryno (dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto mewn print trwm, a thanlinellir enw’r noddwr):

lineage
Achres Dafydd Mathau o Landaf

Roedd yn wir ddau frawd ganddo, sef Robert a Lewis, sy’n gyson â’r hyn a ddywed Guto. Marwnadwyd Lewis Mathau gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 10).

Ei ddyddiadau
Rhydd WG1 y dyddiadau 1425–94 ar gyfer Dafydd Mathau, heb nodi ffynhonnell. Yn GGl2 346 dywedir iddo farw yn 1504. Mae hyn yn anghywir: dyddiad marw ei ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas Mathau ap Dafydd Mathau, oedd 1504. Erys ewyllys y Dafydd Mathau hwnnw ar glawr, wedi ei dyddio i’r flwyddyn honno (GIF 118; Matthews 1898–1911, iii: 102); claddwyd ef yn Llundain. Dychwelwn, felly, at Ddafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan. Nodir ei farw yn 1484 yn ByCy 582, ond yn 1461 y bu farw yn ôl Butler 1971: 410. Ni nodir ffynhonnell y dyddiadau hyn.

Ceir cofnodion am Ddafydd Mathau ar gyfer y blynyddoedd 1424–48. Yn 1424 bu’n dyst i freinlen a roddwyd gan Richard Beauchamp, iarll Warwick, yng Nghaerdydd. Yn 1427 enwir ef yn ddeiliad tir yng Nghoety. Yn 1431 bu’n dyst, ynghyd â’i ddau frawd, i drosglwyddiad tir yn yr As Fach, a bu’r tri wrthi’n tystio i brydles tir i’r un dyn, Hywel Carn, yn yr un lle yn 1432. Enwir Dafydd eto yn ddeiliad tir rhydd yn 1437. Yn 1440 tystiodd i adferiad tir yn arglwyddiaeth Ogwr i Abaty Margam. Yn 1448 tystiodd, gyda’i frawd Lewis Mathau a mab ei frawd arall, Tomas ap Robert Mathau, i brydles tir yn yr As Fach. Am y cyfeiriadau hyn, gw. GHS 163; Clark 1893–1910, iv: 1513–19, 1528–30, 1545, 1551; Butler 1971: 637, nodyn 162; Clark 1893–1910, iv: 1561, 1608.

Mewn cwest ar eiddo Syr Siors Mathau, a gynhaliwyd yn 1559, rhoddir manylion am hanes cynnar y teulu a’u tiroedd. Nodir bod maenor Corntown wedi ei rhoi i Ddafydd Mathau a’i wraig Gwenllïan yn 1435, a’i bod i fynd i’w mab Tomas ar ôl iddynt farw, neu i fab arall, Siôn, pe digwyddai i Domas farw heb etifedd erbyn hynny (Matthews 1898–1911, iii: 82–6). Yn fwy diddorol, sonnir hefyd am weithred o’r flwyddyn 1458 a drosglwyddodd faenorau Llanbedr-y-fro a Glaspwll i John Neville (mab Richard Neville, iarll Warwick) ac i Ddafydd Mathau a’i fab Tomas, y ddau’n farchogion, i ddisgyn i linach Reynborn Mathau, mab arall i Ddafydd Mathau, pe diffygiai llinach Tomas. Roedd Dafydd yn fyw o hyd yn 1458, felly. Fodd bynnag, ni fu Tomas yn farchog: ysgwïer ydoedd o hyd adeg ei farwolaeth (Matthews 1898–1911, iii: 102). Ynglŷn â’r honiad fod Dafydd Mathau ei hun yn farchog, y cwbl y gellir ei ddweud yw nad oedd ef yn farchog pan ganodd Guto’r Glyn ei gywydd iddo. Cwbl anghredadwy fyddai i fardd mawl Cymraeg ganmol gŵr a urddwyd heb grybwyll y ffaith.

Bu farw Tomas a Reynborn, meibion Dafydd Mathau, yn fuan ar ôl ei gilydd yn 1470. Trigai’r ddau ym Mryste erbyn hynny, fe ymddengys, ac fe’u claddwyd yn eglwys Sant Marc, neu Ysbyty Gaunt, yn y ddinas honno. Yn ewyllys Reynborn sonnir am diroedd yng Nghoety a Glynogwr a etifeddasai oddi wrth ei dad. Sonnir hefyd am siantri a sefydlwyd yn eglwys gadeiriol Llandaf yn ôl ewyllys olaf Dafydd Mathau (Matthews 1898–1911, iii: 102). Dyna brawf sicr fod Dafydd Mathau wedi marw, felly, cyn 1470. Ceir manylion am siantri Dafydd Mathau mewn arolwg a wnaed yn 1546, pan oedd yn cael ei chynnal o hyd (Jones 1934: 148–9; diolchaf i Dr Katharine Olson am y cyfeiriad).

Ei feddrod
Ceir traddodiad fod beddrod Dafydd Mathau i’w weld o hyd yn eglwys gadeiriol Llandaf. Y cerflun yn unig a erys heddiw, wedi ei osod ar sylfaen ddiaddurn (Bardo and Gray 2007: 16, DWH i: 240).

lineage
Corffddelw dybiedig Dafydd Mathau yn eglwys gadeiriol Llandaf. Llun: Barry J. Lewis.

Collwyd gweddill y beddrod a ddisgrifir yn arolwg Browne Willis o’r eglwys yn 1719. Nid ymddengys fod arysgrif arno hyd yn oed adeg honno:This is said to be the Monument of David Matthew the Great, who was Standard-Bearer to Edward IV, and was murther’d at Neath ... by some of the Turberviles, with whom he was at Variance (Willis 1719: 25).Nododd Richard Symonds y beddrod yn 1645 a’i briodoli i ‘great David Mathew, standard bearer to K.’, ond ni roddir enw’r brenin (Lang 1859: 213). Er nad oes arysgrif i gadarnhau mai delw Dafydd Mathau yw hon, mae’n amlwg fod aelodau o’r teulu wedi cael eu claddu yn y gadeirlan. Saif beddrod Syr Wiliam Mathau, brawd Dafydd Mathau II, a beddrod Christopher Mathau (ap Reynborn ap Dafydd Mathau) gerllaw’r gorffddelw hon, ac mae arysgrifau arnynt sy’n cadarnhau pwy sydd yn y beddau. Am y manylion lliwgar a rydd Browne Willis, rhaid bod â meddwl agored, gan nad oes tystiolaeth arall amdanynt.

Ei nawdd i farddoniaeth
Nid oes cerddi eraill i Ddafydd Mathau wedi goroesi. Ceir cywydd mawl i ryw Ddafydd Mathau gan y bardd Llawdden, sy’n agor fel a ganlyn:Duw a rannodd drwy einioes
Dau Ddafydd, Mathau, i’m oes:
Un a fu’n dda ’n ei fywyd,
Arall a fag yr holl fyd (GLl 27.1–4).Mae bron yn sicr mai’r ŵyr, Dafydd Mathau ap Tomas ap Dafydd Mathau, yw gwir wrthrych y cywydd hwn, nid Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan, y gŵr yr ydym yn ymwneud ag ef yma. Dadleuodd golygydd GLl mai Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan a’i dad yng nghyfraith, Dafydd ap Gwilym, yw’r dau Ddafydd a grybwyllir yn llinell 2: ond mae’r coma a roddodd y golygydd ar ôl Dafydd yn dra chwithig, ac o gofio bodolaeth y ddau Ddafydd Mathau, y taid a’i ŵyr, nid oes ei angen. Sôn y mae’r bardd am weld dau ŵr o’r enw Dafydd Mathau yn ystod ei einioes. O’r rhain, sonnir am un yn yr amser gorffennol (llinell 3) gan ddangos ei fod wedi marw, a’r llall yw gwrthrych y gerdd. Mae hyn hefyd yn esbonio pam y geilw’r gwrthrych yn gwaladr Dafydd ap Gwilym a Llwyth Godwin. Tras gwraig Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan yw hwn, fel y sylwodd y golygydd, ac mae’r ymadroddion hyn yn awgrymu perthynas drwy waed, nid drwy briodas. Ni ddisgwylid yr ieithwedd hon mewn cywydd i’r taid, ond diflannu a wna’r anhawster o dderbyn mai Dafydd Mathau ap Tomas, ŵyr Dafydd Mathau a’i wraig, yw’r gwrthrych. Canwyd y cywydd ar ôl 1469, oherwydd mae’n enwi Watgyn ap Tomas ap Rhosier o Hergest yn noddwr arall i’r bardd, ac etifeddodd hwnnw Hergest ar ôl marwolaeth ei dad ym mrwydr Banbri yn 1469 (GLl 7). Mae hynny’n gyson â thystiolaeth ewyllys Reynborn Mathau, sy’n dangos bod Dafydd Mathau ap Mathau ab Ieuan wedi marw cyn 1470.

Cydnabyddiaeth
Hoffwn ddiolch i Rhianydd Biebrach am ei chymorth gyda rhai o’r pwyntiau uchod ac yn arbennig am ddangos i mi gopïau o ewyllysiau Tomas a Reynborn Mathau.

Llyfryddiaeth
Bardo, D. and Gray, M. (2007), ‘The Power and the Glory: The Medieval Tombs of Llandaff Cathedral’, The Welsh Journal of Religious History, 2: 6–26
Butler, L.A.S. (1971), ‘Medieval Ecclesiastical Architecture in Glamorgan and Gower’, yn T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 379–415
Clark, G.T. (1893–1910) (ed.), Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgancia pertinent (Cardiff)
Jones, E.D. (1934), ‘Survey of South Wales Chantries, 1546’, Arch Camb 89: 135–55
Lang, C.E. (1859) (ed.), Diary of the Marches of the Royal Army During the Great Civil War Kept by Richard Symonds (London)
Matthews, J.H. (1898–1911) (ed.), Cardiff Records (Cardiff)
Willis, B. (1719), A Survey of the Cathedral-church of Landaff (London)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)