Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 19 llawysgrif. Fersiwn sy’n cynnwys 66 o linellau a geir yn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 a C 2.617, i gyd o Ddyffryn Conwy. Mae’r rhain bron yn unffurf â’i gilydd, yn union fel y maent yn achos llawer o gerddi Guto’r Glyn. Fersiwn sy’n cynnwys 62 linell a geir yn BL 14967, efallai’r copi cynharaf sydd ar glawr. Unffurf â’r copi hwn yw LlGC 17113E, ac efallai copi uniongyrchol o BL 14967 ydyw (onid y gwrthwyneb sy’n wir). Fersiwn byrrach eto, 54 llinell o hyd, a geir yn nau gopi Wmffre Dafis, sef LlGC 3056D a Brog I.2, sydd bron yn unffurf â’i gilydd. Tebyg iawn hefyd yw BL 14976, sy’n tarddu, yn ôl pob tebyg, o gynsail Wmffre Dafis neu ryw berthynas agos iddi. Mae LlGC 16B bron yn unffurf â’r rhain, ac ynddi mae’r gerdd hon yn digwydd mewn bloc o gerddi sy’n gyffredin i BL 14976, ond mae’r gwallau copïo niferus yn dangos ei bod wedi ei chopïo o gynsail mewn orgraff wahanol iddynt oll. Hefyd mae’n cynnwys dau gwpled nas ceir yn y tair llawysgrif hyn ond a geir yn llawysgrifau Dyffryn Conwy (45–6, 49–50), ac mae llinell 55 yn gyflawn ynddi yn wahanol i lawysgrifau Wmffre Dafis a BL 14976. Ceir rhywbeth tebyg yn achos cerdd 29: ni cheir llinell 3 o gerdd 29 yn y tri chopi hyn, ond mae ar gael yn LlGC 16B. Am y rhesymau hyn rhaid bod LlGC 16B yn tarddu o gynsail gyffredin LlGC 3056D, Brog I.2 a BL 14976. Gan fod 26.45–6 a 26.49–50 yn fylchog iawn yn LlGC 16B, dichon eu bod yn anodd eu darllen neu wedi eu niweidio yn y gynsail hefyd, a’u bod wedi eu hepgor gan y lleill o’r herwydd; eto, mae 29.3 yn iawn yn LlGC 16B, ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid ei cholli o’r lleill oni bai fod rhyw gynsail bellach yn gyffredin iddynt, sef X3 yn stema’r gerdd hon.
Yn y nodiadau isod cyfeiria ‘grŵp Dyffryn Conwy’ at LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 a C 2.617. Cyfeiria ‘grŵp X2’ at LlGC 3056D, Brog I.2, BL 14976 a LlGC 16B. Seiliwyd y testun golygedig ar y ddau grŵp hyn a BL 14967.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, BL 14967, LlGC 16B, LlGC 3056D.
2 ferch Treiglir y gair ac eithrio yng ngrŵp X2 a C 2.617. Mae treiglo enw priod ar ôl enw benywaidd unigol yn gyffredin yn y farddoniaeth, gw. TC 107–8, a diau fod ferch Gynan yn cyfrif fel enw priod yma.
3 fu Felly’r llawysgrifau ac eithrio grŵp X2 yw. Defnyddir yr amser gorffennol yma am fod y meddwl ar y weithred o drosglwyddo awdurdod, fel yn y cwpled cyntaf.
3 ar Cytuna BL 14967 â grŵp X2 yn erbyn grŵp Dyffryn Conwy am.
4 wedi’i C 2.617 a Gwyn 4 (cywiriad) yn unig sy’n dangos y rhagenw, ond mae’r ystyr yn esmwythach o lawer o’i dderbyn. Ffurfiau yn gw- a geir yng ngrŵp Dyffryn Conwy a LlGC 16B ac yn w- yn y lleill. Gwell derbyn w- i osgoi anhawster y diffyg caledu ar ôl gwraig.
6 Deifr Felly C 2.617 a grŵp X2; gthg. defr yn y lleill, sy’n dangos dylanwad y gair Defras yn nes ymlaen yn y llinell. Gall mai defr oedd yn y gynsail.
12 yw Dilynir grŵp Dyffryn Conwy a BL 14967. Dilewyd yw ac ychwanegu Ag ar y dechrau yn Gwyn 4 i greu cynghanedd groes, ond mae cynghanedd draws reolaidd yn y llinell felly ni raid dilyn hynny. Ceir fo yn Brog I.2, BL 14976 a LlGC 16B, ond yn LlGC 3056D ceir Iarll dy vab gwr llwyd a fo, diau drwy ddiwygio oherwydd bod y mab eisoes yn iarll (cf. 19).
13 yn Darlleniad y mwyafrif o’r llawysgrifau; gthg. un yng ngrŵp X2 a C 2.617. Gellid deall un yn yr ystyr ‘yr un, unrhyw’, a chymryd perllan yn drosiadol am lys. Ond haws derbyn yn a deall perllan yn drosiad am Ann ei hun, a’i darpariaeth i’r beirdd yn cael ei gymharu â ffrwythau.
19 ag arf wyarlled Llwgr ym mhob llawysgrif: LlGC 3049D a LlGC 8497B a garfvwy iarlled; Gwyn 4 a garfwy iarlled; C 2.617 ac arfwy iarlled; BL 14967 a garw i arlled; grŵp X2 (ac eithrio LlGC 16B) a garaf fwyarlled a gywirwyd wedyn yn LlGC 3056D yn ag ael fwyarlled ac yn BL 14976 yn a garf wyarlled, ond yn LlGC 16B ceir a goraf wyarllet. Ni nodir mwyarllyd yn GPC 2517, ond byddai’n hawdd ei fathu at yr achlysur a byddai mwyarlled yn ffurf fenywaidd dderbyniol arno. Os dyna a geir yma, dichon ei fod yn cyfeirio rywsut at liw du dillad yr iarlles, ond ni allaf ddeall y gair o’i flaen. Yn GGl 139 rhoddir a gâr fwyarlled, ond mae’n anodd deall mwyarlled fel enw ar ddillad yr iarlles fel yr awgrymir yn GGl 340. Fel arfer cyfeiria mwyar at liw aeliau merch yn y farddoniaeth, a dyna oedd ysbardun y diwygiad yn LlGC 3056D, ond nid oes angen diwygio mor chwyrn. Gellir cyfrif am bob amrywiad yn y llawysgrifau drwy dybied mai ag arf wyarlled oedd darlleniad y gynsail. Gwir fod y gair gwyar braidd yn hynafol erbyn amser Guto’r Glyn, ond ceir gwyargledd yn 78.2.
20 yr Grŵp Dyffryn Conwy ac eithrio LlGC 3049D, hefyd BL 14967; gthg. ir yn y lleill. Anodd penderfynu rhyngddynt.
24 yn lle tri Ceir y fannod o flaen tri yng ngrŵp Dyffryn Conwy, ond gan nad yw yn y lleill nis derbyniwyd yma.
25–6 Nis ceir yng ngrŵp X2.
25 hyn Grŵp Dyffryn Conwy; gthg. BL 14967 hwn. Cyfeiria hyn at eiriau’r bardd. Byddai hwn hefyd yn rhoi synnwyr: ymgorfforir y tri yn y Wiliam presennol.
26 getid Grŵp Dyffryn Conwy; gthg. BL 14967 ketwid. Nid oes gwahaniaeth o ran ystyr, ond cyffredin oedd i’r beirdd ddefnyddio gadael yn yr ystyr ‘cadw’n fyw’ wrth ddymuno hir oes i noddwr, cf. GGMD i, 2.24n.
27 yw’r … o’r Cytuna grŵp Dyffryn Conwy a BL 14967 yn erbyn grŵp X2 o’r … yw’r.
33 irder LlGC 3056D irdeg.
35 y LlGC 8497B, Gwyn 4, C 2.617, BL 14967, LlGC 16B; i yn y lleill.
39 treiaw Cytuna grŵp Dyffryn Conwy â BL 14967 yn erbyn grŵp X2 krio/crio. Mae optimistiaeth llinell 40 o blaid treiaw hefyd.
40 troi’r Ni cheir y fannod yng ngrŵp X2.
43 achos Cytuna BL 14967 â grŵp X2, felly dilynir y rhain; wedi a geir yng ngrŵp Dyffryn Conwy.
45–6 Dilynir grŵp Dyffryn Conwy a LlGC 16B yn erbyn BL 14967 a gweddill grŵp X2, na cheir y cwpled hwn ynddynt. Mae’r ddelwedd o modrwy a mantell yn datblygu’r hyn a geir yn 43–4 ac yn dyfnhau’r arwyddocâd ysbrydol (gw. y nodyn esboniadol ar y llinell hon), ac yn pontio ymlaen i 47–50 lle sonnir am fantell archesgobion Caerllion. Yn bwysicach fyth, fe sonia Wiliam Herbert yn benodol yn ei ewyllys am ei wraig yn cymryd the mantle and the ring (gw. y nodyn esboniadol eto) ac felly mae achos cryf dros dderbyn y cwpled hwn yn un dilys. Nid yw’n ormod o gyd-ddigwyddiad bod llinellau 45–6 wedi eu colli o BL 14967 ac o gynsail Wmffre Dafis a BL 14976 yn annibynnol ar ei gilydd, oherwydd yr oedd y gynsail honno’n ddiffygiol iawn ac wedi colli wyth llinell arall yn ogystal, ac mae’r llinellau’n bresennol, os yn fylchiog, yn LlGC 16B.
48 daly ’dd BL 14967, LlGC 3056D a BL 14976; C 2.617 daly idd-; yn y lleill ceir dal i/y dd- (LlGC 8497B dal dd-).
48 ’dd wyd Bl 14967 a grŵp X2; gthg. ddwy yng ngrŵp Dyffryn Conwy. Gwedda’r ail berson yn well o ran ystyr, er y gellid derbyn y person cyntaf a deall bod y bardd yn dilyn y broffwydoliaeth, hynny yw, yn ei gweld yn cael ei gwireddu yn yr iarlles.
48 wrth Grŵp Dyffryn Conwy (ac eithrio C 2.617) a BL 14967; gthg. ar yn C 2.617, yn yng ngrŵp X2. Am ystyr wrth yma gw. GPC 3737 3(b). Ni waeth pa arddodiad a ddewisir yma, yr un fyddai’r ystyr sylfaenol.
49–50 Ni cheir y cwpled hwn yn llawysgrifau Wmffre Dafis nac yn BL 14976, ond sylwer bod y llinellau’n bresennol, er yn anghyflawn ac yn wallus, yn LlGC 16B. Fe’u ceir yng ngrŵp Dyffryn Conwy a BL 14967, ac yn sicr mae eu hangen ar gyfer yr ystyr.
51 yn Pob llawysgrif ond BL 14967 syn.
52 Ddewi Felly’r llawysgrifau ond BL 14967 ddyvi a LlGC 16B deni.
54 a LlGC 3049D, Gwyn 4, grŵp X2; gthg. ai yn LlGC 8497B, C 2.617 a BL 14967. Credaf mai camgymryd gwyr fel gwŷr, lluosog gŵr, a roes fod i’r darlleniad ai (= a’u), a hynny yn ei dro’n deillio o ynganu awyr yn y dull diweddar (talgrwn), sy’n odli â gwŷr, yn hytrach nag yn ôl yr hen ddull (lleddf) sy’n odli â Gŵyr, gw. GPC 244 a CD 238. Os felly, gall mai cyd-ddigwyddiad ydyw bod ai yn digwydd mewn tair llawysgrif wahanol ac nad oes perthynas agos rhwng y tair.
55–6 Saint … Saint Ceir saint ddwywaith yn BL 14967, grŵp X2 (heb LlGC 16B) a C 2.617, ac yn 56 yn unig yn LlGC 3049D; sant a geir yn 55 yn y llawysgrif honno ac yn y ddwy linell yng ngweddill grŵp Dyffryn Conwy. Yn LlGC 16B talfyrrwyd y gair, felly ni ellir gwybod beth a olygir. Derbyniwyd sant yn GGl 140. Fe ddefnyddir y ddwy ffurf o flaen enwau seintiau mewn Cymraeg Canol (GPC 3169 d.g. saint1 a 3177), ond cyfeiria i’th iaith yn y llinell hon at yr iaith Saesneg, iaith gyntaf Ann Herbert, ac felly ymddengys mai ffurf Saesneg yw Saint Ann yma (ac felly’n fwy petrus Saint Elen yn 56 hefyd). Italeiddiwyd y ddau enw yn y testun golygedig o’r herwydd.
55 y’th alwan’ Grŵp Dyffryn Conwy, a ategir gan BL 14967 ithalwant, ond bod rhaid hepgor -t yn y ffynhonnell olaf hon er mwyn y gynghanedd sain. Ymddengys fod cynsail Wmffre Dafis yn wallus. Yn LlGC 3056D rhoes ef saint Ann ith sent ath iaith (ac yn nes ymlaen ychwanegodd rhywun aeth ar ôl saint i greu llinell gyflawn). Ond yn Brog I.2 ceir Saint ann y sy hwnt ith iaith. Gallwn weld yma ddau ymgais gwahanol i gywiro’r llinell, ac mae darlleniad BL 14976 Saint Ann ith iaith yn awgrymu’n gryf fod bwlch yn y llinell yng nghynsail y grŵp hwn. Ond mae’r llinell yn gyflawn yn LlGC 16B ac yn cytuno â grŵp Dyffryn Conwy.
58 traws … trin Felly’r llawysgrifau ond grŵp X2 drud … drin.
59–60 Yn llawysgrifau grŵp Dyffryn Conwy yn unig y ceir y cwpled hwn, cf. 45–6. Collwyd nifer o linellau eraill o lawysgrifau grŵp X2 hefyd, megis 61–2 yn syth ar ôl y rhain, ac yn sicr mae angen 61–2 ar gyfer synnwyr y gerdd, felly ni ddylid pwyso ar dystiolaeth y grŵp hwnnw wrth ystyried dilysrwydd unrhyw gwpledi. Mae absenoldeb llinellau 59–60 o BL 14967 yn peri mwy o bryder, ond eto mae cyflawnder ystyr y rhan hon o’r gerdd o blaid eu derbyn, er cydnabod y gellid deall ergyd y cyfeiriadau at Elen a Chustennin hebddynt.
59 ieirll C 2.617 iarll, dan ddylanwad hanner cyntaf y llinell, bid sicr.
60 wych Raglan Ceir o rhwng y geiriau hyn yn LlGC 3049D, Gwyn 4 a C 2.617, ond nid yn LlGC 8497B. Gallwn fod yn bur sicr fod o yng nghynsail y grŵp hwn a bod Thomas Wiliems wedi diwygio’r darlleniad yn LlGC 8497B oherwydd hyd afreolaidd y llinell. Dilynir ei arweiniad yma. Yn Gwyn 4 dilewyd wych, diwygiad na ellir ei dderbyn oherwydd bod angen gair acennog ar ôl Elen i gynnal y gynghanedd groes.
61–2 Ni cheir y cwpled hwn yng ngrŵp X2.
61 Rwmans LlGC 3049D a BL 14967; ceir romans yn y copïau eraill sy’n cynnwys y cwpled hwn, a cf. GLM LIX.7 Marw Constans, Romans a rôn. Mae’r cytundeb rhwng un o lawysgrifau Dyffryn Conwy a BL 14967 o blaid derbyn y cyntaf yma.
61 i Gthg. Gwyn 4 o.
62 i’r Gthg. LlGC 8497B ar.
63 fych Felly LlGC 3049D, LlGC 8497B, C 2.617, BL 14967; ceir wych yn Gwyn 4, ych yng nghopïau Wmffre Dafis ac ywch yn BL 14976 a LlGC 16B. Mae’r ystyr a phwys y dystiolaeth lawysgrifol o blaid fych.
65 hirwyn Felly’r llawysgrifau ond LlGC 8497B irwyn.
66 fal BL 14967 a grŵp X2; gthg. ail yng ngrŵp Dyffryn Conwy. Rhydd fal gynghanedd lawnach, ond nid yw’r gwahaniaeth o bwys o ran yr ystyr.
66 ynn Felly’r llawysgrifau ond C 2.617 a BL 14967 wynn, dan ddylanwad y llinell flaenorol yn ôl pob tebyg.
Un o’r ychydig gerddi a ganodd Guto’r Glyn i wragedd yw hon, ond rhydd gryn sylw i fab y gwrthrych hefyd. Egyr y cywydd â chymhariaeth hanesyddol sy’n cyfosod sefyllfa Ann Herbert yng Ngwent ag etifeddiaeth Esyllt ferch Cynan Dindaethwy yng Ngwynedd yn y nawfed ganrif. Canmoliaeth i Ann ydyw hyn, wrth gwrs, ond mae’r enghraifft hanesyddol hefyd i fod i dawelu unrhyw bryderon a all fod yn llechu ym meddwl y bardd neu’i gynulleidfa ynghylch dyrchafu gwraig i’r fath raddau. Mater pigog arall yw cenedligrwydd Ann Herbert. Ni all Guto sôn am ei thras, fel mae’n rhaid iddo ei wneud mewn cywydd mawl, heb gydnabod mai Saesnes yw hi. Gwna hyn yn gelfydd iawn yn llinell 6, cyn mynd ymlaen i ganmol ei theulu a’i haelioni hi. Cyn pen dim mae’n atgoffa’r gynulleidfa mai hi yw mam Iarll Wiliam (12). Trwy’r gerdd diffinnir Ann yn ôl ei pherthynas â’i mab a’i gŵr marw. Pwysleisir ei ffyddlondeb i gof yr iarll cyntaf (17–20). Yna caiff Ann ddwy linell o gysur am farwolaeth yr iarll: lladdwyd y sawl a fu’n gyfrifol (21–2). Sonnir am Wiliam Herbert II eto, a chanmolir ef am sawl llinell (23–30) fel olynydd cwbl deilwng i’w dad. Yn y rhan nesaf mae Guto yn dychwelyd at rinweddau Ann Herbert, ei galar ar ôl yr iarll cyntaf, a chymhariaeth feiblaidd sy’n ei chyfosod â Mair a Martha, chwiorydd Lasarus, yn yr Efengyl. Caiff gysur hefyd o’i hatgoffa bod neb llai na brenhines Lloegr ei hun yn gymar iddi yn ei phrofedigaeth (35–8): lladdwyd tad Elizabeth Woodville, gwraig Edward IV, yn ystod helbulon 1469. Bellach, mae llwyddiant Edward i ailgipio’r orsedd yn golygu bod cyni’r ddwy wraig yn dirwyn i ben: Treiaw ystorm a gormes (39). Dychwelir wedyn at y themâu cyfarwydd, rhagoriaeth yr iarll newydd a ffyddlondeb Ann i’w dad. Yn rhan olaf y cywydd mae Guto yn addasu rhan o ‘Proffwydoliaethau Myrddin’ gan Sieffre o Fynwy i ddelweddu awdurdod Ann yn ymestyn o Went i Benfro (a thros diroedd eraill). Gorffennir â chymhariaeth estynedig rhyngddi hi ac Elen, mam rinweddol yr ymerawdwr Custennin, ac felly rhwng ei mab a’r ymerawdwr hefyd. Yn arwyddocaol, i’r mab y cysegrir y llinellau sy’n cloi’r gerdd.
Dyddiad
Rhwng 1471, pan adferwyd Edward IV i’r orsedd (39–40n), a 1475 pan ddaeth Wiliam, ail iarll Penfro, i’w lawn oed: mae’n amlwg fod Ann Herbert yn gofalu am ystadau’r teulu adeg canu’r gerdd hon (cf. 4). Mae 39 yn awgrymu dyddiad yn fuan ar ôl brwydrau tyngedfennol 1471.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LII; Lewis 1982: cerdd 24.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 48% (32 llinell), traws 33% (22 llinell), sain 14% (9 llinell), llusg 5% (3 llinell).
2 merch Gynan Esyllt ferch Cynan Dindaethwy, brenin olaf llinach frenhinol gyntaf Gwynedd. Yn ôl yr achau priododd hi â Merfyn Frych ap Gwriad, brenin cyntaf ail linach Gwynedd (825–44). Dieithryn o Ynys Manaw oedd Merfyn, a’r briodas hon, felly, yw’r cyfiawnhad achyddol am drosglwyddo Gwynedd i’r llinach newydd. Mewn rhai ffynonellau achyddol dywedir ei bod wedi priodi tad Merfyn, Gwriad, ac felly mai mam Merfyn ydoedd. Nid oes tystiolaeth gyfoes am y briodas nac o ran hynny am fodolaeth Esyllt o gwbl, ond roedd hi’n rhan bwysig o draddodiad y beirdd fel y gwelir yn y triawd ‘Llyma y tri lle y daliwyd Arglwyddiaeth Gwynedd o gogail’, gw. TYP3 244–5.
3 ar Am ystyr yr arddodiad yma gw. GPC2 403 d.g. ar1 (d) ac (e).
6 Deifr Merch chwedlonol a gysylltir â llys Arthur. Mwy cyffredin yw’r ffurf Dyfr ac yn ôl pob tebyg mae dylanwad Deifr ‘Saeson’ neu deifr ‘dyfroedd’ i’w weld ar y ffurf a geir yma. Nodir enghreifftiau o Deifr fel enw merch yn G 414 d.g. Dyf(y)r4, a cf. DG.net 72.48n; DE XIV.36; TYP3 336. Sylwer sut y mae Guto yn cyfeirio’n gynnil at waed Seisnig Ann Herbert drwy gyfosod ei chyfenw Defras â Deifr, enw a ddefnyddir mor aml yn y farddoniaeth am y Saeson.
6 Defras Merch i Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd oedd Ann Herbert. Roedd ei brawd, a elwid hefyd Sir Walter Devereux, yn agos gysylltiedig â Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro.
7 Sibli Sibli Ddoeth, proffwydes y priodolwyd iddi gasgliad o waith eschatolegol. Rhestrir hi ymhlith y ‘Tri dyn a gauas Doethineb Adaf’ yn TYP3 135. Gw. Haycock 2005.
7 Weblai Weobley yn swydd Henffordd, cartref teuluol Ann Herbert.
8 tai Cyffredin yw defnyddio’r lluosog wrth gyfeirio at gartref uchelwr yn y cyfnod hwn, diau am fod mwy nag un adeilad ynghlwm.
10 Rhaglan Castell, bellach yn sir Fynwy, prif sedd Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro.
12 dy fab Wiliam Herbert, yr ail iarll, a etifeddodd y teitl ar ôl dienyddiad ei dad. Roedd tua 14 oed yn 1469, gw. Thomas 1994: 73.
18 o’r maendy draw Nid yw’n eglur at beth y cyfeirir. Os Rhaglan ydyw’r maendy, a dyna’r esboniad mwyaf naturiol, awgrymir bod y gerdd wedi ei datgan rywle arall (Weobley? Un arall o gartrefi’r Herbertiaid?).
22 brwydr Brwydr Edgecote (Banbury), 24 Gorffennaf 1469. Gorchfygwyd Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, gan fyddin o wrthryfelwyr a ysgogwyd gan Richard Neville, iarll Warwick, a George, dug Clarence. Fe’i dienyddiwyd ar orchymyn y ddau ychydig ddyddiau wedyn.
22 bradwr Iarll Warwick. Lladdwyd ef ym mrwydr Barnet, 14 Ebrill 1471, a dyma’r dial y cyfeirir ato. Cafodd dug Clarence faddeuant gan ei frawd, Edward IV.
24 Troelus Arwr o Gaerdroea. Daeth i amlygrwydd fel arwr yng ngwaith Dares Phrygius, sef sail y cyfieithiad Cymraeg Ystorya Dared, gw. Rhŷs and Evans 1890: 13 Troilus g6r ma6r tec oed gredua6l a chadarn. Roedd yn amlwg iawn hefyd mewn fersiynau canoloesol o hanes Caerdroea, gan gynnwys Troy Book y bardd Saesneg Canol Lydgate. Noddodd Wiliam Herbert gopi ysblennydd o’r Troy Book (BL Royal 18.D.ii), gw. Lord 2003: 260.
24 yn lle tri Wiliam Syr Wiliam ap Tomas (bu farw 1445), Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, a’i fab Wiliam Herbert II, yr iarll presennol. Gan fod y [m]ab ni ad trais i’i fam yn un o’r tri, rhaid bod yn lle tri Wiliam yn cyfeirio yn llythrennol at eu lle (sef eu cartref, Rhaglan) neu’n ffigurol at eu statws. Nid yw yn lle yn golygu ‘yn gyfnewid am’ yma fel y gwna’n aml.
27 Mesen yw’r dderwen o’r ddâr Wiliam Herbert II yw’r fesen a’r dderwen a’i dad yw’r ddâr. Nid ymddengys fod gwahaniaeth ystyr rhwng derwen a dâr, gw. GPC 932–3 d.g. derw1 ac 890. Defnyddir y ddau yn aml i gyfleu cadernid ac urddas noddwr.
28 Lasar Lasarus, gŵr a godwyd o farw yn fyw gan Grist, gw. Ioan 11.1–44. Yr un mor wyrthiol, meddai’r bardd, yw atgyfodiad Wiliam Herbert I ar ffurf ei fab.
30 fry Aneglur: a yw’r ail iarll mewn lle gwahanol, heb fod yn bresennol i glywed y gerdd? Cf. 18n lle awgrymir nad ar gyfer ei ddatgan yn Rhaglan o reidrwydd y canwyd y cywydd hwn.
30 iaith Gall olygu ‘iaith’ neu ‘cenedl’, gw. GPC 1999 a cf. isod 55n.
31 Esyllt … Trystan Mae llawer o fersiynau canoloesol o hanes y cariadon hyn. Yn aml adroddir sut y mae Esyllt yn marw o alar ar ôl marwolaeth Tristan.
33 Martha Chwaer Lasarus, gw. 28n ac Ioan 11.1–44.
33 irder merthyrdawd Nid yw’r ergyd yn sicr. Efallai y cymherir galar Martha â merthyrdod. Nid yw ystyr irder yn amlwg yma ychwaith: ai cyfeirio at y cryfder a ddaw i’w rhan drwy ei dioddefaint a wna?
34 Mair Chwaer arall i Lasarus, gw. Ioan 11.1–44.
35–6 y frenhines … ei thad Dienyddiwyd Richard Woodville, yr iarll Rivers, tad Elizabeth Woodville a oedd yn wraig i Edward IV, gan Warwick a Clarence yn fuan ar ôl brwydr Edgecote, gw. Ross 1974: 132.
36 lliw Mai a thes Disgrifiad o harddwch y frenhines (wedi ei gymharu â harddwch Ann Herbert hefyd) yn hytrach na chyfeiriad at yr amser y canwyd y gerdd, yn ôl pob tebyg.
39 treiaw Perthyn y gerdd i’r cyfnod yn fuan ar ôl brwydr Barnet, ac a barnu wrth y llinellau hyn, ar ôl brwydr Tewkesbury hefyd (4 Mai 1471), y frwydr a ailsefydlodd Edward IV yn derfynol ar yr orsedd. Fel y mae teulu Edward wedi goroesi’r storm, felly mae Ann a’i mab bellach yn wynebu dyfodol tawelach.
44 Fernagl Y Fernagl, lliain ac arno lun o wyneb Crist. Yn ôl y chwedl, cynigiodd merch o’r enw Veronica liain i Grist er mwyn iddo sychu’r chwys oddi ar ei wyneb tra oedd yn dwyn ei groes i Golgotha. Glynodd llun o wyneb Crist ar y lliain, a daeth yn grair amhrisiadwy a chanddo’r grym i iacháu clefydon. Cyfeirir ato eto yn 28.45–8.
45 modrwy a mantell Arwyddion fod gweddw wedi tyngu llw o ddiweirdeb ar ôl marw ei gŵr, gw. GHS 8.49–50n ac OED Online s.v. mantle, n. 1(b). Ceir y ddelwedd gan Hywel Swrdwal yn sôn am Annes gweddw Gruffudd ab Ieuan o Gaerllion a chan Hywel Dafi wrth farwnadu Gwladus ferch Dafydd Gam, gw. Lewis 1982a: i, 7.17–20. Yn DGA 19.21–2 sonnir am fodrwy a mantell mewn perthynas â diweirdeb lleian. Anogodd Wiliam Herbert ei wraig yn ei ewyllys i take the mantle and the ring and live a widdow, ac ailadroddodd yr anogaeth yn daer yn yr atodiad a ysgrifennodd ar fore ei ddienyddiad: that ye remembr your promise to take ye order of wydowhod, gw. y copïau o’r dogfennau hyn yn Thomas 1994: 107, 109. Mae’r llinellau hyn yn dystiolaeth werthfawr ei bod wedi ufuddhau i’w gŵr yn hyn o beth, er y dylid nodi nas ceir hwy ym mhob llawysgrif, gw. 45–6n (testunol). Mae’r ffaith eu bod hwy yn LlGC 16B (os yn fylchiog), ar y cyd â chopïau Dyffryn Conwy (LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 a C 2.617) yn gryf o blaid eu dilysrwydd.
47 proffwydoliaeth Cyfeirir at broffwydoliaeth Myrddin, rhan o lyfr enwog Sieffre o Fynwy, ‘Historia Regum Britanniae’. Dywedir yno: Meneuia pallio urbis legionum induetur ‘Gwisgir Tyddewi â mantell Caerllion’ (dyfynnir yn Brooke 1986: 23n30). Ffrwyth dychymyg Sieffre oedd fod Caerllion yn sedd archesgob a bod yr archesgob Dyfrig wedi ildio ei fantell (pallium) a ddynodai ei swydd i Ddewi (ibid. 17). Yma mae Guto’n ailddehongli’r broffwydoliaeth – yn eithaf llac – i olygu bod awdurdod Ann Herbert yn cwmpasu Gwent a daear Ddewi.
48 wrth Am ystyr wrth mewn ymadroddion yn ymwneud ag ymostwng, gw. GPC 3737 3(b).
49–50 Mynyw Yr enw Cymraeg arferol ar Dyddewi yn yr Oesoedd Canol.
49–50 lle mae Non … / Garllaw Mam Dewi oedd Non. Mae ffynnon enwog sy’n dwyn ei henw yn agos i Dyddewi. Disgrifiodd Lewys Glyn Cothi sut yr ymwelodd noddwraig iddo, Edudful ferch Gadwgon, â ffynnon Non ac yna â Thyddewi (GLGC 168.21–30). Gw. hefyd Cartwright 2007: 190–2 am ddisgrifiad o’r safle.
51 dwy wlad Went Rhennid Gwent yn ddau gantref, sef Is Coed ac Uwch Coed. Coed Gwent, yn fras, a ddynodai’r ffin rhyngddynt.
52 daear Ddewi Dyfed, ardal Penfro.
53 Powys Yn 1467 rhoddwyd arglwyddiaeth Powys yng ngofal Wiliam Herbert I gan fod yr etifedd dan oed, gw. Thomas 1994: 34. Ymddengys fod yr arglwyddiaeth yn nwylo’r teulu o hyd pan ganwyd y cywydd hwn.
53 lamp awyr Cymherir Powys â chorff nefolaidd fel yr haul neu’r lleuad neu seren, gw. GPC 2051 d.g. lamp a 244 d.g. awyr (b). Odlai awyr â Gŵyr yn ôl yr hen ynganiad, gw. GPC 244 a CD 238.
54 Penbrwg Defnyddir y ffurf Saesneg er mwyn y gynghanedd.
54 Morgannwg Buasai Wiliam Herbert I yn stiward ac yn siryf Morgannwg yn y 1450au pan oedd yr arglwyddiaeth yn nwylo Richard Neville, iarll Warwick (Pugh 1971: 196). Daliodd ei afael ar y swyddi ym mis Chwefror 1460, er bod Warwick wedi ffoi yn sgil y gwrthdrawiad wrth Ludford Bridge (ibid. 197). Pan gipiodd Edward IV yr orsedd yn 1461 trodd at Wiliam Herbert i atgyfnerthu ei rym yn ne Cymru, a thyfodd awdurdod Herbert yno ar draul awdurdod iarll Warwick (ibid. 198). Ni wyddys pa mor hir y parhaodd Herbert yng ngwasanaeth Warwick ym Morgannwg, ond mae’n anodd credu ei fod yn dal y swydd ar ôl mis Medi 1461, pan gollodd Warwick ei afael ar arglwyddiaethau cyfoethog teulu Stafford yng Nghymru ac y rhoddwyd hwy i Herbert (ibid.). Lladdwyd Warwick ym mis Ebrill 1471 a cheisiodd George, dug Clarence, brawd y Brenin Edward IV, feddiannu Morgannwg ar sail y ffaith ei fod yn briod â merch i Warwick. Priododd ei frawd Richard â merch arall i’r iarll a bu ffrae rhwng y ddau frawd ynghylch y tiroedd. Ni wyddys pryd y cafodd Richard afael ar Forgannwg, ai yn 1472, ai yn 1474, ond roedd yn ei feddiant erbyn diwedd y degawd. Os bu swyddogaeth gan yr Herbertiaid yn yr arglwyddiaeth yn y 1470au, yna yn y cyfnod byr pan oedd hi yn nwylo Clarence yr oedd hynny, yn ôl pob tebyg, oherwydd rhoddodd Richard yr arglwyddiaeth dan ofal ei gyfaill Sir James Tyrell. Am hyn oll, gw. Pugh 1971: 200–1.
54 Gŵyr Trosglwyddwyd Gŵyr i Wiliam Herbert I yn 1468 a daliodd ei fab yr arglwyddiaeth tan 1479, gw. Smith and Pugh 1971: 259, 262.
55 Saint Ann Anna, mam y Forwyn Fair. Os yw i’th iaith yn cyfeirio at yr iaith Saesneg (gw. isod), yna fe all mai ffurf Saesneg yw hon, ond fe ddefnyddir saint yn y Gymraeg hefyd, gw. GPC 3169 d.g. saint1, er bod sant/santes yn fwy cyffredin.
55 i’th iaith ‘Yn dy iaith’ neu ‘ar gyfer dy bobl’? Dewiswyd yr ail yn yr aralleiriad gan fod cyfatebiaeth dda rhyngddo a dros Went yn y llinell nesaf. Fodd bynnag, fe all fod Saint Ann yn ymadrodd Saesneg a bod Guto’n cyfeirio at famiaith Ann Herbert. A hithau’n ferch i Sir Walter Devereux o swydd Henffordd, gallwn gymryd yn ganiataol mai Saesneg oedd ei hiaith frodorol.
56 Saint Elen Efallai mai ffurf Saesneg yw hon hefyd. Mam yr ymerawdwr Custennin oedd Elen, a thyfodd chwedlau pwysig o’i chwmpas yn yr Oesoedd Canol. Credid ei bod wedi darganfod croes Crist yng Nghaersalem.
57 Cwstennin Custennin, ymerawdwr Rhufain 306–37, yn enwog am droi i Gristnogaeth ar ôl gweld arwydd y groes yn yr awyr cyn ymladd brwydr fuddugoliaethus.
61 Constans Custennin eto, cf. 27.38, nid Constantius tad Custennin fel yr honnir yn GGl 340.
61 Rwmans Y Rhufeiniaid, fe ymddengys, cf. GLM LIX.7 Marw Constans, Romans a rôn.
62 i’r ieirll unoed Yr ergyd yw bod Wiliam yn rhagori ar unrhyw iarll arall sydd yr un mor ifanc ag ef.
64 croes Gw. 56n.
65 hirwyn O bosibl dyma ddisgrifiad corfforol o’r iarll, ond gallai hirwyn hefyd olygu ‘yn ddedwydd am amser hir’.
66 ei mab Sef mab Elen, Custennin.
Llyfryddiaeth
Brooke, C.N.L. (1986), The Church and the Welsh Border in the Central Middle Ages (Woodbridge)
Cartwright, J. (2007), ‘The Cult of St Non: Rape, Sanctity and Motherhood in Welsh and Breton Hagiography’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 182–206
Haycock, M. (2005), ‘Sy abl fodd Sibli fain: Sibyl in Medieval Wales’, J.F. Nagy and L.E. Jones (eds.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dublin), 115–30
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rhŷs, J. and Evans, J.G. (1890) (eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, J.B. and Pugh, T.B. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
This is one of Guto’r Glyn’s few poems to women, but it gives a good deal of attention to the patron’s son as well. The poem opens with a historical comparison between Ann Herbert’s situation in Gwent and the inheritance of Esyllt daughter of Cynan Dindaethwy in ninth-century Gwynedd. The comparison is flattering to Ann Herbert, of course, but the precedent may also soothe any worries which the poet or his audience might have about the elevation of a woman to such a position. Ann Herbert’s nationality is another awkward issue. Guto cannot refer to her lineage, as he is required to do in a praise poem, without acknowledging that she is English. He does this with great subtlety in line 6, and then goes on to praise her family and her generosity. Before long he is also reminding the audience that she is the mother of Earl William (12). Throughout the poem Ann Herbert is defined by her son and her dead husband. Her faithfulness to the memory of the first earl is emphasized (17–20). Then she herself receives two lines of comfort concerning the earl’s death: those responsible have themselves been killed (21–2). Next, there is more praise for William Herbert II as a worthy successor to his father, praise which extends for several lines (23–30). In the next section Guto returns to Ann Herbert’s virtues, her grief for the first earl, and a biblical comparison with Mary and Martha, the sisters of Lazarus in the gospel. She is also comforted by being reminded that no less a woman than the queen of England is a partner in grief to her (35–8): the father of Elizabeth Woodville, Edward IV’s queen, was killed during the tribulations of 1469. Now, Edward’s success in retaking the throne means that both women’s trials are coming to an end: ‘storm and oppression ebbing away’ (39). Next the poet returns to familiar themes, the excellence of the new earl and Ann Herbert’s loyalty to his father. In the final part of the poem Guto adapts part of the ‘Prophecies of Merlin’ by Geoffrey of Monmouth to provide an image for Ann Herbert’s authority stretching from Gwent to Pembroke (and to other places). To conclude, there is an extended comparison between her and Helen, the virtuous mother of the emperor Constantine, and so between the latter and her son. Significantly, it is to the son that the closing lines are dedicated.
Date
Between 1471, when Edward IV returned to the throne (39–40n), and 1475 when William, second earl of Pembroke, came to full age: it is clear that Ann Herbert is looking after the family estates at the time of this poem (cf. 4). A date soon after the decisive battles of 1471 is suggested by line 39.
The manuscripts
This poem is found in 19 manuscripts. LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 and C 2.617, all from the Conwy Valley, offer a version with 66 lines. They are almost identical, as they are in the case of many of Guto’r Glyn’s poems. The version in BL 14967, perhaps the earliest extant copy, has 62 lines. LlGC 17113E is identical, and is perhaps a direct copy of BL 14967 (or vice versa). The two copies by Humphrey Davies, LlGC 3056D and Brog I.2, which are almost identical to each other, are even shorter with only 54 lines. BL 14976 derives from Davies’s exemplar or a closely related text. LlGC 16B is almost identical to these three, and the poem is one of a block found also in BL 14976, but the numerous copying errors indicate an exemplar in a quite different orthography from all three. Also, it contains two couplets which are not found in these three manuscripts but which are in the copies from the Conwy Valley (45–6, 49–50), and line 55 is complete in it, unlike in Humphrey Davies’s copies and BL 14976. Something similar occurs in poem 29: line 3 is missing from these three copies, but it is in LlGC 16B. For these reasons LlGC 16B must derive from the common ancestor of LlGC 3056D, Brog I.2 and BL 14976. Since 26.45–6 and 26.49–50 are very imperfect in LlGC 16B, they may well have been difficult to read or incomplete in the ancestor too, for which reason the other copyists omitted them; however, 29.3 is fine in LlGC 16B, and so it is difficult to see how it could have been omitted from the others without positing a further shared exemplar for them.
The edited text was based on the Conwy Valley group (LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 and C 2.617), BL 14967 and the four related copies LlGC 3056D, Brog I.2, BL 14976 and LlGC 16B.
Previous editions
GGl poem LII; Lewis 1982: poem 24.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 48% (32 lines), traws 33% (22 lines), sain 14% (9 lines), llusg 5% (3 lines).
2 merch Gynan Esyllt daughter of Cynan Dindaethwy, the last king of the first dynasty of Gwynedd. According to the genealogies she married Merfyn Frych ap Gwriad, the first king of the second dynasty of Gwynedd (825–44). Merfyn was an outsider from the Isle of Man, and this marriage provides genealogical justification for the transfer of Gwynedd to the second dynasty. In some genealogies she is said to have married Merfyn’s father, Gwriad, and so to have been Merfyn’s mother. There is no contemporary evidence for the marriage or indeed for Esyllt’s very existence, but she was important in the poets’ traditions as can be seen in the triad ‘These are the three times when the lordship of Gwynedd was held by the Distaff (side)’, see TYP3 244–5.
3 ar For the meaning of the preposition here see GPC2 403 s.v. ar1 (d) and (e).
6 Deifr A legendary girl associated with the court of Arthur. The more usual form of her name is Dyfr and the form used here probably shows influence from Deifr ‘English’ or deifr ‘waters’. Examples of Deifr as a girl’s name are noted in G 414 s.v. Dyf(y)r4, and cf. DG.net 72.48n; DE XIV.36; TYP3 336. Note how Guto refers subtly to Ann Herbert’s English blood by juxtaposing her surname Devereux (in Welsh Defras) with Deifr, a name used so often in Welsh poetry for the English.
6 Defras Ann Herbert was the daughter of Sir Walter Devereux the elder of Weobley, Herefordshire. Her brother, also called Sir Walter Devereux, was closely associated with William Herbert, first earl of Pembroke.
7 Sibli Sibli the Wise, the Sibyl, a prophetess to whom a collection of eschatological works was attributed. She is listed as one of the ‘Three People who received the Wisdom of Adam’ in TYP3 135. See Haycock 2005.
7 Weblai Weobley in Herefordshire, Ann Herbert’s family home.
8 tai Often used in the plural in this period to refer to a single dwelling, probably because a gentry house consisted of several buildings.
10 Rhaglan A castle, now in Monmouthshire, the chief residence of William Herbert, the first earl of Pembroke.
12 dy fab William Herbert, the second earl, who inherited the title after his father’s execution. He was about 14 years old in 1469, see Thomas 1994: 73.
18 o’r maendy draw This reference is unclear. If the maendy ‘stone house’ is Raglan, and that is the most natural explanation, this suggests that the poem was performed elsewhere (Weobley? Another Herbert residence?).
22 brwydr The battle of Edgecote or Banbury, 24 July 1469. William Herbert, the first earl of Pembroke, was defeated by an army of rebels incited by Richard Neville, the earl of Warwick, and George, duke of Clarence. Herbert was executed at their command a few days later.
22 bradwr The earl of Warwick. He was killed at the battle of Barnet, 14 April 1471, which is the vengeance mentioned here. The duke of Clarence was pardoned by his brother, Edward IV.
24 Troelus Troilus, a Trojan hero. He came to prominence as a hero in the work of Dares Phrygius, translated into Welsh as Ystorya Dared, see Rhŷs and Evans 1890: 13 Troilus g6r ma6r tec oed gredua6l a chadarn ‘Troilus, a great fair man who was strong and steadfast’. Troilus plays an important role in other medieval versions of the Troy story, including the Troy Book of the Middle English poet Lydgate. William Herbert commissioned a splendid copy of the Troy Book (BL Royal 18.D.ii), see Lord 2003: 260.
24 yn lle tri Wiliam Sir William ap Tomas (died 1445), William Herbert, the first earl of Pembroke, and his son William Herbert II, the present earl. Since the ‘son who will permit no injury to his mother’ is counted as one of the three, yn lle tri Wiliam must refer literally to the place of the three Williams (their home, Raglan), or figuratively to their status. Here yn lle does not have its common meaning ‘instead of’.
27 Mesen yw’r dderwen o’r ddâr William Herbert II is the acorn and the oak (derwen) and his father is the dâr, also ‘oak’. There does not appear to be any difference in meaning between derwen and dâr, see GPC 932–3 s.v. derw1 and 890. Both are often used to convey the strength and dignity of a patron.
28 Lasar Lazarus, a man raised from the dead to life by Christ, see Ioan 11.1–45. Just as miraculous, says the poet, is the resurrection of William Herbert I in the shape of his son.
30 fry Unclear: is the second earl elsewhere and not present to hear the poem? Cf. 18n where it is suggested that the poem may not have been intended for performance at Raglan.
30 iaith Can mean ‘language’ or ‘nation’, see GPC 1999 and cf. 55n below.
31 Esyllt … Trystan There are many medieval versions of the story of these lovers. Often they include the tale of Isolde’s dying of grief after Tristan’s death.
33 Martha Sister of Lazarus, see 28n and John 11.1–44.
33 irder merthyrdawd The force of this is not clear. Perhaps Martha’s grief is being compared with martyrdom. The meaning of irder is not obvious here either: does it refer to her acquiring vigour through suffering?
34 Mair Another sister of Lazarus, see John 11.1–44.
35–6 y frenhines … ei thad Richard Woodville, earl Rivers, and father of Elizabeth Woodville, Edward IV’s queen, was executed by Warwick and Clarence soon after the battle of Edgecote, see Ross 1974: 132.
36 lliw Mai a thes Probably a description of the queen’s beauty, and by comparison also Ann Herbert’s beauty, rather than a reference to the time when the poem was composed.
39 treiaw The poem belongs to the period shortly after the battle of Barnet, and to judge by these lines, also after the battle of Tewkesbury (4 May 1471), the battle which securely re-established Edward IV on the throne. Just as Edward’s family has come through the storm, so Ann and her son now face a quieter future.
43 Fernagl The Vernicle or Veronica, a cloth bearing an image of Christ’s face. According to the tale, a woman called Veronica offered a cloth to Christ to dry the sweat from his face while he was carrying his cross to Golgotha. An image of Christ’s face remained on the cloth and it became a priceless relic with curative powers. It is referred to also in 28.45–8.
45 modrwy a mantell The ring and mantle were symbols that a widow had sworn herself to chastity after her husband’s death, see GHS 8.49–50n and OED Online s.v. mantle, n. 1(b). The image is also found in Hywel Swrdwal’s poem for Annes the widow of Gruffudd ab Ieuan of Caerleon and in Hywel Dafi’s elegy for Gwladus ferch Dafydd Gam, see Lewis 1982a: i, 28 (7.17–20). In DGA 19.21–2 the ring and mantle symbolize the chastity of a nun. In his will William Herbert urges his wife to take the mantle and the ring and live a widdow, and he repeated his wishes insistently in the codicil which he wrote on the morning of his execution: that ye remembr your promise to take ye order of wydowhod, see the copies of these documents in Thomas (1994: 107, 109). These lines are an important indication that she obeyed her husband’s wishes, though it must be noted that they are not found in all manuscripts. However, their presence (albeit poorly preserved) in LlGC 16B, alongside the Conwy Valley group (LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 and C 2.617) is very strong evidence that they are genuine.
47 proffwydoliaeth The reference is to the ‘Prophecies of Merlin’, a part of Geoffrey of Monmouth’s famous book, ‘Historia Regum Britanniae’. It is said there: Meneuia pallio urbis legionum induetur ‘St David’s shall be invested in the pallium (archbishop’s mantle) of the city of the legions’ (quoted in Brooke 1986: 23n30). Geoffrey’s imagination is responsible for the story that Caerleon had been an archiepiscopal see and that archbishop Dyfrig had surrendered his pallium to David (ibid. 17). Here Guto loosely reinterprets the prophecy to mean that Ann Herbert’s authority encompasses Gwent and daear Ddewi (‘David’s land’).
48 wrth For the meaning in expressions of submission see GPC 3737 3(b).
49 Mynyw The usual Welsh name for St David’s in the Middle Ages.
49–50 lle mae Non … / Garllaw Non was the mother of St David. She has a famous holy well near St David’s. Lewys Glyn Cothi describes how a patron of his, Edudful daughter of Cadwgon, visited Non’s well and then St David’s (GLGC 168.21–30). See also Cartwright 2007: 190–2 for a description of the site.
51 dwy wlad Went Gwent could be divided into two cantrefs, Is Coed and Uwch Coed, roughly divided by Wentwood.
52 daear Ddewi Dyfed, the Pembroke region.
53 Powys In 1467 the lordship of Powys was placed in the care of William Herbert I while the heir was a minor, see Thomas 1994: 34. It seems that the Herberts still held it when this poem was composed.
53 lamp awyr Powys is compared to a heavenly body like the sun or moon or a star, see GPC 2051 s.v. lamp and 244 s.v. awyr (b). Awyr rhymed with Gŵyr in older pronunciation, see GPC 244 and CD 238.
54 Penbrwg An approximation of the English form is used for the sake of the cynghanedd.
54 Morgannwg William Herbert I had been steward and sheriff of Glamorgan in the 1450s when the lordship was in the hands of Richard Neville, earl of Warwick (Pugh 1971: 196). He retained his offices in February 1460, even though Warwick had fled following the confrontation at Ludford Bridge (ibid. 197). When Edward IV took the throne in 1461 he turned to William Herbert to strengthen his position in south Wales, and Herbert’s power there increased at the expense of Warwick (ibid. 198). It is not known how long Herbert remained in Warwick’s service in Glamorgan, but it is hard to believe that he remained in office after September 1461, when Warwick lost control of the wealthy Stafford lordships in Wales to Herbert (ibid.). Warwick was killed in April 1471 and George, duke of Clarence, King Edward IV’s brother, tried to occupy Glamorgan on the basis that he was married to Warwick’s daughter. His brother Richard married another of the earl’s daughters and the two brothers quarrelled over the lands. It is not known when Richard physically took possession of Glamorgan, either in 1472 or 1474, but he certainly held it by the end of the decade. If the Herberts had any role in the lordship during the 1470s, it is likely that they did so during the brief period while it was in the hands of Clarence, since Richard put the lordship under the control of his friend Sir James Tyrell. For all this, see Pugh 1971: 200–1.
54 Gŵyr Gower was transferred to William Herbert I in 1468 and his son held it until 1479, see Smith and Pugh 1971: 259, 262.
55 Saint Ann The mother of the Virgin Mary. If the phrase i’th iaith refers to the English language (see below), then this might be an English expression; however, saint does occur in Welsh too, see GPC 3169 s.v. saint1, though sant/santes is more common.
55 i’th iaith ‘In your language’ or ‘for your people’? The second option was chosen for the translation since it forms a neat parallel with dros Went ‘over Gwent’ in the next line. Nevertheless, Saint Ann is potentially an English expression and i’th iaith may therefore refer to Ann’s native language. Since she was the daughter of Sir Walter Devereux of Herefordshire, we can safely assume that English was her mother tongue.
56 Saint Elen This may also be intended as an English form. Helen was the mother of the emperor Constantine, and in the Middle Ages the subject of important legends. She was believed to have rediscovered the True Cross in Jerusalem.
57 Cwstennin Constantine, Roman emperor 306–37, famous for converting to Christianity after seeing the sign of the cross in the sky before a victorious battle.
61 Constans Constantine again, cf. 27.38, not his father Constantius as suggested in GGl 340.
61 Rwmans The Romans, apparently, cf. GLM LIX.7 Marw Constans, Romans a rôn.
62 i’r ieirll unoed The idea is that William is superior to any other earl who is as young as he is.
64 croes See 56n.
65 hirwyn Perhaps a physical description of the earl (‘tall and fair’, but hirwyn could also mean ‘blessed for a long time’.
66 ei mab I.e. Helen’s son, Constantine.
Bibliography
Brooke, C.N.L. (1986), The Church and the Welsh Border in the Central Middle Ages (Woodbridge)
Cartwright, J. (2007), ‘The Cult of St Non: Rape, Sanctity and Motherhood in Welsh and Breton Hagiography’, J.W. Evans and J.M. Wooding (eds.), St David of Wales: Cult, Church and Nation (Woodbridge), 182–206
Haycock, M. (2005), ‘Sy abl fodd Sibli fain: Sibyl in Medieval Wales’, J.F. Nagy and L.E. Jones (eds.), Heroic Poets and Poetic Heroes in Celtic Tradition (Dublin), 115–30
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lord, P. (2003), The Visual Culture of Wales: Medieval Vision (Cardiff)
Pugh. T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan and Morgannwg, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Rhŷs, J. and Evans, J.G. (1890) (eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith, J.B. and Pugh, T.B. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, iii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Ann Herbert oedd noddwraig cerdd 26, yr unig gerdd hysbys a ganwyd iddi, sef cywydd o gysur ar ôl marwolaeth ei gŵr.
Ei hach a’i theulu
Merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd, oedd Ann (DNB Online s.n. Devereux, Walter). Roedd ei theulu’n un dylanwadol yn yr ardal honno. Yn 1449 priododd Wiliam Herbert o Raglan (WG1 ‘Godwin’ 8), uchelwr o Gymro a drigai yng nghastell Rhaglan yn arglwyddiaeth Brynbuga (yn sir Fynwy heddiw). Roedd y briodas hon yn gam pwysig ymlaen yng ngyrfa Wiliam Herbert: sicrhaodd y byddai ganddo rwydwaith o gynghreiriaid a chefnogwyr yn swydd Henffordd. Drwy’r 1450au a’r 1460au bu cydweithio agos rhwng teulu Devereux a’r Herbertiaid, ill dau’n ddeiliaid ac yn bleidwyr i Richard, dug Iorc, ac wedyn i’w fab Edward IV. Bu farw tad Ann yn 1459, ond parhaodd y berthynas agos rhwng y ddau deulu. Roedd brawd Ann, Walter Devereux, yn agos gysylltiedig â Wiliam Herbert yn ei ymdrechion i ennill teyrngarwch de Cymru i’r brenin. Pan ddyrchafwyd Herbert yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468 (Thomas 1994: 40) daeth Ann Herbert yn iarlles Penfro (yn yr achres isod dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Ann mewn print trwm a thanlinellir enwau ei noddwyr).
Achres Ann Herbert, iarlles Penfro
Ei meibion
Ganed meibion a merched i Ann Herbert a’i gŵr. Ganed yr hynaf, Wiliam, ail iarll Penfro, tua 1455 (Thomas 1994: 73n1). Yr ail fab oedd Water Herbert. Byddai’r ddau, gydag amser, yn noddwyr i Guto’r Glyn, ond pan fu farw Wiliam Herbert yn annhymig yn 1469, roedd y ddau fab dan oed. Mab arall a fagwyd ar aelwyd Ann Herbert oedd Harri Tudur, mab Edmwnd Tudur a Margaret Beaufort. Pan gipiodd Wiliam Herbert gastell Penfro yn enw Edward IV yn 1461, meddiannodd y bachgen ifanc a mynd ag ef i Raglan. Yn 1462 grantiodd y brenin ef yn ward i Herbert am daliad o fil o bunnau (ibid. 28). Pan ddaeth Harri’n frenin yn 1485, cofiodd am ei fam faeth a’i thrin â pharch (Griffiths and Thomas 1985: 58–9).
Ceir llun cyfoes adnabyddus o Wiliam Herbert a’i wraig yn penlinio o flaen Edward IV, mewn llawysgrif a fwriadwyd ar gyfer ei chyflwyno i’r brenin. Atgynhyrchwyd y llun yn Lord (2003: 260).
Yr helyntion ar ôl marwolaeth ei gŵr
Dienyddiwyd Wiliam Herbert ar 27 Gorffennaf 1469, yn sgil brwydr aflwyddiannus Edgecote (Banbury), tra oedd ar anterth ei rym a’i ddylanwad. Mae’n rhaid fod hyn yn ergyd drom i Ann Herbert a’i theulu, a bod diogelwch ei meibion ifainc yn destun gofid mawr iddi wrth iddi weld gelynion Herbert yn ymgiprys am reolaeth y deyrnas. Ar 23 Tachwedd 1469 rhoddwyd holl eiddo ei gŵr yng ngofal Ann Herbert gan fod yr ail iarll o dan oed; cadarnhawyd y grant ym mis Mai 1470 (Thomas 1994: 97). Yn ei ewyllys olaf, a wnaed ar 16 Gorffennaf 1469, ymddiriedodd Herbert iddi ‘the chief rule in performing my will and to be one of my executors’ (ibid. 107–8). Ceir tystiolaeth ddogfennol (ibid. 97) fod Ann Herbert yn gofalu am ystadau ei mab yn 1470. Ymddengys iddi ddychwelyd i fyw i gartref ei theulu yn Weobley, o leiaf am beth amser, lle gallai’i brawd ei hamddiffyn (DNB Online s.n. Devereux, Walter). Erbyn Mai 1471, ar ôl brwydrau Barnet a Tewkesbury, gallai Ann a’i meibion deimlo’n esmwythach. Lladdwyd y pen gelyn, iarll Warwick, ym mrwydr Barnet, a bellach roedd safle Edward IV yn ddiogel. Mae’n debygol mai i’r cyfnod hwn y perthyn cerdd 26, sef i gyfnod o obaith ar ôl trychinebau 1469–71. Ni wyddom a fedrai Ann ddeall Cymraeg, ond yn sicr erbyn 1471 roedd wedi treulio dros ugain mlynedd yn Rhaglan, llys lle siaredid Cymraeg yn aml a lle roedd beirdd Cymraeg yn ymwelwyr cyson. Byddai’n ymwybodol, gan hynny, o swyddogaeth y beirdd a phwysigrwydd y weithred o roi nawdd iddynt, hyd yn oed os na ddeallai ei hun bob gair o’u cerddi.
Yn yr atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd Wiliam Herbert ar fore ei ddienyddiad, mae’n sôn am lw a dyngodd Ann wrtho i aros yn ddiwair ar ôl ei farwolaeth. Ymddengys ei bod wedi cadw ei haddewid, oherwydd sonia Guto yn 26.45 am arwyddion allanol yr addewid hwnnw, sef y fodrwy a’r fantell a wisgid gan weddwon a oedd wedi ymrwymo i ddiweirdeb.
Yn ôl ewyllys Wiliam Herbert, rhoddwyd arglwyddiaeth Cas-gwent ym meddiant Ann hyd ei marwolaeth (Thomas 1994: 107; Griffiths 2008: 248; Robinson 2008: 310). Bu farw c.18 Awst 1486 (Robinson 2008: 329n8).
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Griffiths, R.A. and Thomas, R.S. (1985), The Making of the Tudor Dynasty (Stroud)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Robinson, W.R.B. (2008), ‘The Early Tudors’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 309–36
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)