Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 16 llawysgrif sy’n dyddio o’r 1560au hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ond perthyn bron y cwbl, er hynny, i’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg ac maent i gyd yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru.
Pur debyg i’w gilydd yw’r testunau hyn a gellir eu holrhain i gyd i un gynsail ysgrifenedig. Mae pedwar ohonynt, sef LlGC 17114B, LlGC 3051D, C 3.37, Llst 53, yn tarddu’n annibynnol o’r gynsail honno. Mae LlGC 8497B, Gwyn 4 a LlGC 3049D yn gopïau o’r un gynsail, a elwir X1. Mae perthynas agos rhwng CM 22 a LlGC 21248D a gellir eu holrhain i gynsail a elwir X2. Gan nad oes ond cwpled yr un yn nhestunau Pen 221, LlGC 1579C a LlGC 1559B, ni ellir pennu eu perthynas â’r testunau eraill yn fanwl. Tebyg ddigon i’w gilydd yw safon y testunau ond ceir rhai gwallau yn LlGC 17114B nas ceir yn y testunau eraill (e.e. 13, 27, 55).
Trawysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4, LlGC 3051D.
1 punt punt a geir yn y mwyafrif mawr o’r llawysgrifau (a cf. GGl) ond fe’i hyngenir ‘pund’ er mwyn y gynghanedd lusg.
2 af Dyma ddarlleniad LlGC 17114B, LlGC 8497B, a cf. Gwyn 4 Aff. A a geir yn y llawysgrifau eraill, fel pe bai ymgais i ddileu’r f wreiddgoll. Ond af gydag f wreiddgoll a geir yn y llinell ddilynol hithau yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau.
7 Llewpart … Edwart Y ffurfiau yn -t a geir yn yr holl lawysgrifau; gthg. GGl Llewpard … Edward.
10 daw gras Gthg. GGl daw’r gras; ni cheir y fannod yn yr un o’r llawysgrifau, ac nid yw o bwys fod r berfeddgoll yn ail hanner y llinell.
10 i’r … a’r Dyma’r darlleniad a geir yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau cynnar, sef LlGC17114B, LlGC 8497B, LlGC 3049D, gyda Gwyn 4 yn darllen or … ir. Gthg. GGl o’r … i’r megis yn Gwyn 4 a rhai llawysgrifau diweddarach. Ni rydd o’r … i’r gystal synnwyr, a thrwy beidio ag ailadrodd yr arddodiad o yn llinell 10 gwneir y cysylltiad rhwng o Iorwerth yn llinell 11 ac o haelioni yn llinell 9 yn amlycach.
12 gorau hynaif O blith llawysgrifau ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg a blynyddoedd cynnar y ganrif ddilynol, LlGC 8497B a LlGC 3051D yn unig sy’n rhoi’r darlleniad hwn, a gorhynai(f) / gor hynni a geir yn y llawysgrifau cynnar eraill. Nid yw’r ffurf gorhyna(i)f yn hysbys, er hynny, ac mae angen saith sill yn y llinell, felly derbynnir gorau hynaif fel y darlleniad cywir (amrywiad ar hynaif yw hynaf GGl, gw. GPC 1974). Sylwer hefyd mai gorav hyna a geir yn C 3.37, gore hynaif yn Llst 53, y ddwy yn llawysgrifau annibynnol.
13 annerch nerth yw darlleniad LlGC 17114B ond ni rydd gynghanedd na digon o sillafau.
13 a gryna Gthg. GGl gwir yna, darlleniad nas ceir ond yn Llst 53. Ceir a gryn(n)a(f) yn y llawysgrifau eraill.
19 llaw Yn Lewis 1981: 118, darllenir Llew (cf. 17). Ceir llaw yn yr holl lawysgrifau (cf. GGl) ond deniadol yw’r diwygiad (er na raid wrtho i gael synnwyr). Hawdd fuasai i gopïwr gamddarllen llew am llaw, yn enwedig a’r ddau air mor agos at ei gilydd yn 17–20. Os llew a fwriadwyd gan Guto, gellid olrhain y gwall i’r gynsail y tardda’r holl destunau ohoni yn y pen draw.
19 a’i Gthg. LlGC 17114B ar.
21 gwaethiroedd gwae i thiroedd a geir yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau, gwaith iroedd yn LlGC 8497B, Llst 53 a gwae iw thiroedd yn Llst 124, cf. GGl gwae’i thiroedd. Ar y gair, gw. GPC 1552.
22 yn erbyn Yn Lewis 1981: 119 fe’i diwygir yn gyda eithr yn groes i dystiolaeth yr holl lawysgrifau, gan wneud y llinell yn fyr o sillaf a chan gamddeall ei chystrawen.
27 di-raid i Loegr LlGC 17114B dir oydd i loygr, LlGC 8497B direidi lloigr, Gwyn 4 Direid Loegr, LlGC 3049D direid lloegr, LlGC 3051D direid i loyger. Dengys y gynghanedd fod angen yr acen ar ail sillaf y llinell, hynny yw, di-raid, a myn y synnwyr a’r gystrawen ddilyn di-raid gan yr arddodiad i. Yr unig destun o’r uchod a rydd y darlleniad hwn yw LlGC 3051D; cf. Llst 53 di raid i logr. O ran yr arddodiad hefyd, cf. darlleniad LlGC 17114B sydd, fe ymddengys, er na rydd gynghanedd, wedi cadw peth o’r darlleniad gwreiddiol. O safbwynt y gynghanedd, byddai darlleniad LlGC 8497B hefyd yn gwneud y tro, ond o edrych ar ddarlleniadau testunau eraill cynsail X1, haws yw credu mai direid lloegr oedd darlleniad y gynsail honno, megis yn LlGC 3049D, ac mai ymgais sydd yma gan Thomas Wiliems i’w ‘gywiro’ er mwyn hyd y llinell (er na cheir cystrawen mor llyfn felly). Gellir ystyried darlleniad Gwyn 4 yn ymgais arall i ‘gywiro’ – er y byddai’n bosibl cystrawennu direid lloegr fel brawddeg enwol – ond gyda’r gwahaniaeth na cheir digon o sillafau i’r llinell.
29 thorrem Ymysg y llawysgrifau cynnar, LlGC 8497B yn unig a rydd hwn, er mai dyma’r darlleniad cywir, fel y dengys y gynghanedd. Gthg. LlGC 17114B thoren, Gwyn 4, LlGC 3049D thoryn. Ceir thorem hefyd yn y llawysgrifau diweddarach annibynnol LlGC 3051D, C 3.37.
34 llath aur llath o aur a geir yn LlGC 17114B, LlGC 3049D, ond gwna’r llinell yn rhy hir.
34 i’i Felly y dehonglir yr i a geir yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Ceir iw yn LlGC 17114B a’r testunau diweddarach annibynnol C 3.37, Llst 3 (cf. GGl i’w).
35 ar heol Ar y dehongliad, gw. 35n (esboniadol). Mae’n demtasiwn gofyn ai a rheol oedd y darlleniad gwreiddiol ond ni ranna’r un o’r llawysgrifau y geiriau felly.
36 wnaud Fe’i sillefir wnaid yn y llawysgrifau a gellid ei sillafu felly yn y testun gan fod arwyddion fod -ud ail berson unigol amherffaith mynegol / dibynnol y ferf wedi troi’n -it (dan ddylanwad y rhagenw ôl di) erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. GDG lxxxix; GMW 121, ac nid syn fyddai gweld gwamalu rhwng -id ac -it. Darllenir wnaid yn LlGC 17114B, a rhoddai hynny synnwyr purion ond nid yw’n arferol treiglo ar ôl ffurf amhersonol y ferf, gw. TC 229. wnai a ddarllenir yn X2. Gallai hwn gynrychioli ail berson unigol presennol mynegol (‘gwnei’) neu drydydd person unigol amherffaith mynegol / dibynnol y ferf (a cf. Llst 53 wnae). Os y cyntaf sydd yma, nid yw’r mynegol mor briodol â’r dibynnol yn dilyn y gorchymyn sydd yn ymhlyg yn cyfraith (35). Os yr ail sydd yma, nid yw trydydd person y ferf mor foddhaol â’r ail yn y cyd-destun (cf. 33 d’ewin di).
38 llew Cf. 43 llew. Ceir llaw yn X2, Llst 53. Hawdd fuasai i gopïwr gymysgu’r ddau gan nad oes ond un llythyren o wahaniaeth rhyngddynt a’u bod yn agos iawn at ei gilydd yn y gerdd.
39 llaw llew a geir yn LlGC 17114B, Gwyn 4, LlGC 3051D, X2, C 3.37, Llst 53, ond amlwg yma mai llaw yw’r darlleniad cywir; cf. yr hyn a ddywedwyd yn 38n.
40 Caswallon Felly LlGC 17114B, LlGC 3051D, C 3.37, Llst 53. Y ffurf lai cyfarwydd Caswallan a geir yn y llawysgrifau eraill.
44 llwfr O lawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, LlGC 8497B yn unig a rydd y darlleniad hwn, sy’n gywir fel y dengys y gynghanedd, lle ceir llwrwf / llwrf yn y lleill. Ceir llwfr / llwfwr hefyd yn LlGC 3051D, C 3.37.
49 Brenin Gthg. GGl y brenin, darlleniad a geir yn C 3.37 ac sy’n peri bod y llinell yn rhy hir.
52 â’i Gthg. GGl A’i, ond ceir gwell synnwyr o lawer o ddeall a yn arddodiad yn hytrach nag yn gysylltair.
Llyfryddiaeth
Lewis, Saunders (1981), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, yn Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u Crefft: Ysgrifau Llenyddol gan Saunders Lewis (Caerdydd, 1981)
Cywydd yw’r gerdd hon i Siôn Dafi ar achlysur torri ymaith ei law fel cosb am fwrw Sais tra oedd yn Llundain. Am fanylion yr hanes, gw. Siôn Dafi o Felwern. Chwaraea Guto lawer ar y ffaith mai un llaw oedd gan Siôn, ac mewn cywydd dychan iddo cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn, yntau, at hynny (GDLl 79.57–62). Wrth ymateb i’r ffordd y triniwyd Siôn Dafi, dywed Guto na fyddai’r brenin ei hun (sef Edward IV) byth wedi caniatáu torri ymaith ei law, eithr sicrhau trwy ddulliau cyfreithiol na fyddai’n taro’n ôl, a gresyna at y ffordd y cafodd Llaw garbron Lloegr a’i brenin (llinell 19) a milwr mor lew ei anafu yn y fath ffordd er mwyn atal eraill. Cais Guto gynnig cysur trwy ddweud, er i Siôn golli ei law, nad yw wedi colli dim o’i rinweddau. Ymddengys fod Guto yng Nghemais, Maldwyn, pan ganodd y cywydd (gw. 29n).
Dyddiad
Ym mis Awst 1461 y torrwyd llaw Siôn Dafi (gw. Siôn Dafi o Felwern), ac mae’n debygol fod Guto wedi cyfansoddi’r gerdd yn fuan wedyn.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXIX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 56 llinell.
Cynghanedd: croes 54% (30 llinell), traws 21% (12 llinell), sain 16% (9 llinell), llusg 9% (5 llinell).
1 punt Ar nt yn cyfateb i nd mewn cynghanedd, cf. 22.15 Er meddiant Alecsander.
4 Siêp Benthyciad o’r Saesneg Cheap(side), ardal yn Llundain lle ceid un o’i phrif farchnadoedd, gw. EEW 124, 225. Dyma hefyd lle trigai Siôn Dafi ac y torrwyd ymaith ei law, gw. Siôn Dafi.
7 llewpart Yn yr ystyr ‘arwr hyglod, ymladdwr ffyrnig’, GPC 2170 (b); cf. GIG I.4 lle geilw Iolo Goch Edward III yn llewpart llwyd. Yn yr un modd, cyfeiria Guto at Siôn Dafi yn 17, 38, 43 fel llew.
7 Edwart Sef Edward IV a deyrnasodd o 1461 i 1483 (ac eithrio 1470–1 pryd y bu Harri VI ar yr orsedd am ysbaid fer).
8 Nudd Sef Nudd ap Senyllt, a oedd, ynghyd â Mordaf ap Serfan a Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, yn un o ‘Dri Hael’ Ynys Prydain ac yn safon o haelioni gan y beirdd, gw. TYP3 5–76, 464–5; WCD 509.
9 Eunudd Rhestrir pedwar gŵr o’r enw yn WG1: Einudd ab Aelan ab Alser, Einudd ap Llywarch ap Brân, Einudd ap Morien ap Morgeneu, Einudd ap Pwyll ap Peredur Beiswyn. Gan fod Siôn Dafi yn dod o Felwern, efallai mai’r mwyaf tebygol yw’r un a drigai’n agosaf at Felwern, sef Einudd ap Morien (neu Einudd Gwerngwy) y cysylltir ei lwyth â sir Ddinbych ac a hanai o Ddyffryn Clwyd; fe’i ganwyd tua 1030, gw. WG1 47 ac ‘Einudd’ 1; cf. hefyd y nodyn yn GGl 333.
11–12 Iorwerth … Foel Rhestrir pum gŵr o’r enw yn WG1: Iorwerth Foel ap Ieuaf Sais ap Cyfnerth, Iorwerth Foel ap Cadwgon ap Iorwerth, Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Dafydd, Iorwerth Foel ap Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth, Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Philip. Yr agosaf o’r rhain at fro Siôn Dafi oedd Iorwerth Foel ab Ieuaf Sais ap Cyfnerth y cysylltir ei lwyth â Maldwyn; Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Dafydd, sir Ddinbych (Maelor); Iorwerth Foel ab Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth, sir Ddinbych / sir Fflint (Maelor) (dyma Iorwerth Foel o Bengwern, cyndad i deuluoedd Bryncunallt a Phengwern, gw. cerddi 103–6). Ni welwyd disgynnydd i’r un o’r ddau olaf yn y bymthegfed ganrif o’r enw Siôn Dafi sy’n debyg o fod yn cynrychioli gwrthrych y cywydd, ond sylwyd ar ddisgynnydd i Iorwerth Foel ap Ieuaf Sais ap Cyfnerth o’r enw John ap Dafydd Goch ap Maredudd a anwyd tua 1430, ac a berthynai i gangen o’r llwyth yn ardal Llansanffraid-ym-Mechain nad oedd yn bell o Felwern, gw. WG2 ‘Mael Maelienydd’ 3 (A). Ai hwn oedd Siôn Dafi? (Yn GGl 333 cysylltir Iorwerth Foel â’r Iorwerth Foel a berthynai i ‘lwyth Nanheudwy’, hynny yw Iorwerth Foel (o Bengwern) ab Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth; cf. WG1 ‘Tudur Trefor’ 12.)
13 o annerch Os Siôn Dafi yw gwrthrych y berfenw, disgwylid gweld o’i annerch, er nad yw’n anhepgor.
13 a gryna Hynny yw, gan ofn, syniad anghyffredin yn y cyd-destun ond un sydd hefyd yn gydnaws â stoc delweddau’r beirdd ar gyfer arwyr rhyfel (ac roedd Siôn Dafi yn filwr glew yn ôl Guto).
16 Gwalchmai Gwalchmai fab Gwyar, un o farchogion Arthur, gw. TYP3 367–71.
16 holl windai Llundain Yn ei gywydd dychan i Siôn Dafi, sonia Dafydd Llwyd o Fathafarn yn blaen ddigon am hoffter Siôn o’r ddiod, GDLl 79.1–8 Syrthiodd a gwyrodd ei gyrn, / Siôn Dafi, flys hen defyrn. / Syched a bair swrffed Siôn, / Swmer meddw, som yw’r moddion. / Sach lawn, – a welsoch ei led? / A fu sach fwy ei syched? / Sur yw twyll y siarad tau, / Syrr dyn gan sawyr d’ enau.
17 llaw arian Ar y llaw arian, gw. Siôn Dafi o Felwern. Diddorol yw nodi bod Syr Humphrey Stafford, taid Humphrey Stafford iarll Dyfnaint (gw. 41n), yn cael ei adnabod fel ‘Sir Humphrey of the silver hand’, gw. DNB2 52, 54.
23 dan bwynied bach Disgrifir pwynied yn GPC 2950 fel ‘dagr fechan ac iddi lafn main’ (benthyciad o’r Saesneg poniard).
25 Ar arwyddocâd posibl y llinell hon, gw. Siôn Dafi o Felwern.
29 y Cemais Ceir sawl lle o’r enw Cemais mewn gwahanol rannau o Gymru, gw. WATU 40, ond yn ôl yr enghreifftiau a ddyfynnir yn G 128 d.g., un yn unig a ragflaenir gan y fannod; cf. GMBen 18.22 Mau fynegi i chwi chwedl o’r Cemais. Yn ôl GGl 333, y Cemais yn sir Drefaldwyn a olygir, ac mae’r cyfeiriad at Bowys yn 31 yn ategu hynny. Casglodd Ifor Williams, ar sail y cyfeiriad hwn, mai gŵr o’r fan hon oedd Siôn Dafi, ond dywed Dafydd Llwyd o Fathafarn yn ei gywydd dychan iddo (gw. 16n) mai un o Felwern ger Croesoswallt yn swydd Amwythig ydoedd, gw. GDLl 79.52, 60.
32 harneisiach Ni nodir y ffurf hon yn GPC 1825 d.g. harnais. Naws ddifrïol sydd i’r olddodiad enwol -ach fel arfer, gw. GPC2 17 d.g. ach2.
34 aur iarll Yn ôl Lewis 1981: 119, cyfeirir at William Neville.
35 ar heol Yn betrus y cynigir yr ystyr ‘ar goedd’ yn yr aralleiriad. Posibilrwydd arall yw ‘ar waith’.
40 Caswallon Llawhir Fel y dywedir yn GGl 333, cymysgir ef â Chadwallon Lawhir. Ar Gaswallon fab Beli, gw. TYP3 305–6; CLC2 93. Ar Gadwallon Lawhir fab Einion Yrth, arweinydd Brythonig yn y bumed ganrif a thad Maelgwn Gwynedd, gw. TYP3 302.
41 Llaw braff Syr Wmffre Staffordd Roedd dau ŵr o’r enw Humphrey Stafford yn y cyfnod, sef Humphrey Stafford, dug cyntaf Buckingham (1402–60), a Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint (c.1439–69), gw. DNB Online. Gan na all y gerdd fod yn gynharach na 1461 (gw. uchod), rhaid mai’r ail a olygir. Ef yw’r Arglwydd difwynswydd Defnsir (24.17) y bwriodd Guto’r Glyn ei ddirmyg arno pan laddwyd ef ychydig wedi brwydr Banbury (Mehefin 1469) am iddo gilio gyda’i holl filwyr o faes y gad yn sgil anghydfod ag iarll Penfro, gw. Evans 1995: 104.
42 y Nordd Jones 1984: 16, ‘O’r Saeson oll y gwaethaf [gan y Cymry] oedd gwŷr y Nordd, trigolion y tu uchaf i afon Drent, ac yn hyn o beth fe gytunai Saeson de-ddwyrain Lloegr â’r beirdd.’
49 Brenin Edwart Sef Edwart IV.
51 tarw llwyd Sef Edwart IV; cf. 29.1 lle cyfeiria Guto ato fel y tarw mawr o’r Mortmeriaid. Yn wyneb 33–4, y tebyg yw mai am ddefnyddio awdurdod y brenin y mae Guto yn meddwl yn hytrach nag am y brenin ei hun.
52 Ymddengys mai’r hyn a olygir yw bod y brenin wedi talu am law osod i Siôn Dafi.
Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, E.D. (1984), Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’u Cefndir (Aberystwyth)
Lewis, S. (1981), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u Crefft: Ysgrifau Llenyddol gan Saunders Lewis (Caerdydd)
This cywydd is addressed to Siôn Dafi on the occasion of his having his hand severed as a punishment for striking an Englishman when in London. For the details of the incident, see Siôn Dafi of Melverley. Guto plays a lot on Siôn’s ‘one handedness’, and in a satirical cywydd to Siôn, Dafydd Llwyd of Mathafarn also refers to this (GDLl 79.57–62). In reacting to Siôn Dafi’s treatment, Guto says that the king himself would never have cut off his hand, but would have ensured by lawful means that he would not strike back, and deplores the fact that the Llaw garbron Lloegr a’i brenin ‘a hand before England and her king’ (line 19) and such a valiant soldier was maimed in such a way to deter others. Guto tries to offer comfort by saying that Siôn, despite losing his hand, has not lost any of his qualities. It appears that Guto was at Cemais, Maldwyn, when he sang the cywydd (see 29n).
Date
Siôn Dafi’s hand was severed in August 1461 (see Siôn Dafi of Melverley), and Guto probably composed his poem soon afterwards.
The manuscripts
The poem is extant in 16 manuscripts manuscripts dating from the 1560s to the nineteenth century, copied in north and mid Wales.
The texts are all quite similar and probably derive from a single written exemplar. As Pen 221, LlGC 1579C and LlGC 1559B consist only of a couplet each, their precise relationship to the other texts cannot be established. There are some errors in LlGC 17114B that are absent from the others. The edited text is based on LlGC 17114B, LlGC 8497B, Gwyn 4 and LlGC 3051D.
Previous edition
GGl poem XXXIX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 56 lines.
Cynghanedd: croes 54% (30 lines), traws 21% (12 lines), sain 16% (9 lines), llusg 9% (5 lines).
1 punt For nt matching nd in cynghanedd, cf. 22.15 Er meddiant Alecsander ‘For all the might of Alexander’.
4 Siêp A borrowing from English Cheap(side), an area of London where one of the chief markets was held, see EEW 124, 225. Here too was Siôn Dafi’s residence and where his hand was cut off (see above).
7 llewpart In the sense ‘illustrious hero, fierce warrior’, GPC 2170 (b); cf. GIG I.4 where Iolo Goch calls Edward III a llewpart llwyd ‘brown leopard’. Similarly, Guto refers to Siôn Dafi in 17, 38, 43 as llew.
7 Edwart Edward IV who reigned from 1461 to 1483 (excepting 1470–1 when Henry VI was on the throne for a short while).
8 Nudd Nudd ap Senyllt who, together with Mordaf ap Serfan and Rhydderch ap Tudwal Tutglyd, was one of the Tri Hael ‘Three Generous Men’ of the Island of Britain and regarded as a paradigm of generosity by the poets, see TYP3 5–76, 464–5; WCD 509.
9 Eunudd Four men of the name are listed in WG1: Einudd ab Aelan ab Alser, Einudd ap Llywarch ap Brân, Einudd ap Morien ap Morgeneu, Einudd ap Pwyll ap Peredur Beiswyn. As Siôn Dafi came from Melverley, perhaps the most promising is the one who dwelt geographically nearest to Melverley, namely Einudd ap Morien (or Einudd Gwerngwy) whose tribe is associated with Denbighshire and who came from the Vale of Clwyd; he was born c.1030, see WG1 47 and ‘Einudd’ 1; cf. also the note in GGl 333.
11–12 Iorwerth … Foel Five men of this name are listed in WG1: Iorwerth Foel ap Ieuaf Sais ap Cyfnerth, Iorwerth Foel ap Cadwgon ap Iorwerth, Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Dafydd, Iorwerth Foel ap Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth, Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Philip. The nearest of these to Siôn Dafi’s locality was Iorwerth Foel ab Ieuaf Sais ap Cyfnerth whose tribe is associated with Maldwyn; Iorwerth Foel ap Iorwerth ap Dafydd, Denbighshire (Maelor); Iorwerth Foel ab Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth, Denbighshire / Flintshire (Maelor) (this is the Iorwerth Foel of Pengwern, an ancestor of the families of Bryncunallt and Pengwern, see poems 103–6). I have not noticed a descendant of one of the last two in the fifteenth century called Siôn Dafi who is likely to be the subject of the poem, but there was a descendant of Iorwerth Foel ap Ieuaf Sais ap Cyfnerth called John ap Dafydd Goch ap Maredudd who was born around 1430 and who was related to a branch of the tribe in the vicinity of Llansanffraid-ym-Mechain, which was not far from Melverley, see WG2 ‘Mael Maelienydd’ 3 (A). Was this Siôn Dafi? (In GGl 333 Iorwerth Foel is associated with the Iorwerth Foel who was related to the tribe of Nanheudwy, i.e., Iorwerth Foel (of Pengwern) ab Iorwerth Fychan ab yr Hen Iorwerth; cf. WG1 ‘Tudur Trefor’ 12.)
13 o annerch If Siôn Dafi is the object of the verbal noun, one would expect to see o’i annerch, although the infixed possessive pronoun ’i is not indispensable.
13 a gryna I.e., from fear, an unusual idea in the context but one which is in keeping with the poets’ repertory of images for war heroes (and Siôn Dafi was a bold warrior according to Guto).
16 Gwalchmai Gwalchmai fab Gwyar, one of the Arthurian knights, see TYP3 367–71.
16 holl windai Llundain In his satirical cywydd to Siôn Dafi, Dafydd Llwyd of Mathafarn speaks in no uncertain terms of Siôn’s fondness of drinking, GDLl 79.1–8 Syrthiodd a gwyrodd ei gyrn, / Siôn Dafi, flys hen defyrn. / Syched a bair swrffed Siôn, / Swmer meddw, som yw’r moddion. / Sach lawn, – a welsoch ei led? / A fu sach fwy ei syched? / Sur yw twyll y siarad tau, / Syrr dyn gan sawyr d’ enau ‘He fell and knocked over his drinking-horns, / Siôn Dafi, lust for old taverns. / Thirst causes Siôn excess, / drunken heap, the medicine disappoints him. / Like a full sack, – did you notice its width? / Has there been a thirstier sack? / Sour is the deceit of your conversation, / the smell of your mouth causes a man offense’.
17 llaw arian On the silver hand, see Siôn Dafi of Melverley. Note that Sir Humphrey Stafford, grandfather of Humphrey Stafford earl of Devon (see 41n), was also known as ‘Sir Humphrey of the silver hand’, see DNB2 52, 54.
25 On the possible significance of this line, see Siôn Dafi of Melverley.
29 y Cemais There are several places called Cemais in different parts of Wales, see WATU 40, but according to the instances cited in G 128 s.v., only one is preceded by the article; cf. GMBen 18.22 Mau fynegi i chwi chwedl o’r Cemais ‘My task is to tell you a story of Cemais’. According to GGl 333, y Cemais in Montgomeryshire is meant, and the reference to Powys in line 31 probably supports this. On the basis of this reference, Ifor Williams concluded that Siôn Dafi was from this locality, but Dafydd Llwyd of Mathafarn, in his satire on him (see 16n), says that he came from Melverley (Melwern), a parish by Oswestry in Shropshire, see GDLl 79.52, 60.
32 harneisiach This form is not included in GPC 1825 s.v. harnais. The nominal suffix -ach usually has derogatory connotations, see GPC2 17 s.v. ach2.
34 aur iarll According to Lewis 1981: 119, this is William Neville.
35 ar heol With some hesitation the meaning ‘publicly’ is offered in the translation. Another possibility would be ‘in action’, in which case the line would run ‘would put law into action’.
40 Caswallon Llawhir As pointed out in GGl 333, he has been confused here with Cadwallon Lawhir. On Caswallon son of Beli, see TYP3 305–6; NCLW 93. On Cadwallon Lawhir son of Einion Yrth, a fifth-century Brythonic leader and father of Maelgwn Gwynedd, see TYP3 302.
41 Llaw braff Syr Wmffre Staffordd There were two men called Humphrey Stafford at the time, namely Humphrey Stafford, first duke of Buckingham (1402–60), and Humphrey Stafford, earl of Devon (c.1439–69), see DNB Online. As the poem cannot be earlier than 1461 (see above), the second must be meant. He is the Arglwydd difwynswydd Defnsir ‘The lord of Devon, his service was worthless’ (24.17) for whom Guto expressed his contempt when he was killed shortly after the battle of Banbury (June 1469) as he had retreated with all his soldiers from the battlefield following a disagreement with the earl of Pembroke, see Evans 1995: 104.
42 y Nordd As remarked in Jones 1984: 16, the English most disliked by the Welsh – as indeed by the English of south-east England – were those who lived to the north of the river Trent.
49 Brenin Edwart Edward IV.
51 tarw llwyd Edwart IV; cf. 29.1 where Guto refers to him as tarw mawr o’r Mortmeriaid ‘a great bull from the Mortimers’. In view of 33–4, Guto is probably thinking of the use made of the king’s power rather than of the king himself.
52 It is apparently meant that the king has paid for an artificial hand for Siôn Dafi.
Bibliography
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Jones, E.D. (1984), Beirdd y Bymthegfed Ganrif a’u Cefndir (Aberystwyth)
Lewis, S. (1981), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u Crefft: Ysgrifau Llenyddol gan Saunders Lewis (Caerdydd)
Molir Siôn Dafi yng ngherdd 41. Un gerdd arall yn unig iddo a oroesodd, sef cywydd dychan gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn (GDLl cerdd 79).
Achres
Ni ddaethpwyd o hyd i Siôn Dafi yn achresi Bartrum. Dywed Guto ei fod yn disgyn o hil Eunudd (41.9) ac o Iorwerth … / Foel (11–12). Roedd gŵr o’r enw Siôn (neu John) ap Dafydd Goch, a anwyd tua 1430, yn ddisgynnydd i Iorwerth Foel ab Ieuaf Sais ac yn perthyn i gangen o’r llwyth yn ardal Llansanffraid-ym-Mechain (WG2 ‘Mael Maelienydd’ 3A), nid nepell o Felwern (gw. isod). Ond mae’n annhebygol mai Siôn Dafi, noddwr Guto, ydoedd gan na ellir ei olrhain i ŵr o’r enw Eunudd.
Ei yrfa
Yn ôl Dafydd Llwyd o Fathafarn, hanai Siôn Dafi o Felwern (Saesneg, Melverley) ger Croesoswallt yn swydd Amwythig (GDLl 79.52, 60; 41.29n). Y digwyddiad mwyaf trawiadol yn ei yrfa yw’r un y sonnir amdano yng ngherdd Guto iddo, sef torri ymaith ei law am fwrw Sais. Yn ôl Siâms Dwnn, yn ei raglith i’w destun o’r gerdd yn llawysgrif Llst 53, mewn kwrt y dyrnodd Siôn Dafi y Sais. Ni ddywedir ble roedd y llys, ond yn wyneb cysylltiadau Siôn Dafi â Llundain (41.4, 8, 16), mae’n deg tybio mai yno ydoedd. Cadarnheir y dystiolaeth hon ac ychwanegu ati yn The Great Chronicle of London (Thomas and Thornley 1938: 198), lle dywedir, yn fuan ar ôl cyfeirio at goroni Edward IV yn frenin ar 19 Mehefin 1461:In the monyth of Julii ffolowyng oon namyd John davy a walshman strak a man wythyn the kyngys palays at westmynstyr wherffor In august ffolowyng he was browgth unto the standard In Chepe and upon a ffryday beyng markett dye, his hand was there strykyn off …Ym mhalas y brenin yn Westminster, fis Gorffennaf, 1461, felly, y bwriodd Siôn Dafi y Sais, ac adeg cynnal marchnad yn Chepe, ryw ddydd Gwener ym mis Awst o’r un flwyddyn, y torrwyd ymaith ei law. Ni wyddys pam yn union y bu i Siôn weithredu fel y gwnaeth. Cyfeirir yn rhai o’r llawysgrifau at y gerdd fel Cywydd y llaw arian, ac awgryma geiriau’r gerdd Llew aur yn dwyn llaw arian (17) fod Siôn Dafi wedi derbyn llaw osod yn hytrach na bod y gair arian yn dynodi haelioni. Cyfeiria Dafydd Llwyd, yntau, at ‘unllawrwydd’ Siôn (GDLl 79.57–62).
Gellir lloffa rhai ffeithiau eraill am Siôn Dafi. Cesglir ar sail llinellau 7, 19, 33 a 49 yng ngherdd Guto ei fod yn un o filwyr Edward IV. Dywed Dafydd Llwyd yn ei gerdd ddychan iddo ei fod wedi haeru’n gelwyddog iddo (sef Dafydd) oganu’r brenin (GDLl 79.24–8). Yn Evans (1995: 93) rhoddir rhestr o Gymry a ddiogelwyd yn Neddf Ailgychwyn (Act of Resumption) 1464–5, ac yn eu plith John Davy trwy flwydd-dal o £20 o Drefaldwyn. Diau mai’r un gŵr oedd hwn â’r John Davy a gafodd grantiau yn Nhrefaldwyn yn sgil y Senedd a gynhaliwyd yn 1467–8, pryd y diogelwyd buddiannau nifer mawr o ddilynwyr Cymreig Edward IV (ibid. 101 a 40n). Rhaid crybwyll hefyd y John Davy a gynorthwyodd Alexander Iden, siryf newydd swydd Gaint, i ddal y gwrthryfelwr o Sais John Cade ar 12 Gorffennaf 1450 ac a gafodd bardwn, er nad yw’n eglur am beth (Griffiths 2004: 616, 620, 655; sylwer bod un o noddwyr Guto, Mathau Goch, wedi ei ladd yn Llundain yn ystod gwrthryfel Cade). Ai gwaith y John Davy hwn yn dal Cade a’i debyg yw arwyddocâd yr hyn a ddywed Guto yn llinell 25 Dy law hir yn dal herwyr? Gall yn wir mai’r un gŵr â gwrthrych y cywydd yw’r sawl y cyfeirir ato yn y ffynonellau hyn. Amlwg iddo dreulio peth amser yn Lloegr ac yn Llundain, lle preswyliai yn Siêp yn noddi’n hael ac yn yfed yn helaeth (4, 8, 16 a’r nodyn, 20).
Ceir ymgais gan Saunders Lewis (1981: 118–19) i adlunio peth o hanes Siôn Dafi wrth drafod gyrfa Guto, ac wrth wynebu’r cwestiwn trwy ba gamau y cosbwyd Siôn a chan bwy, cyflwyna’r ddamcaniaeth fod William Neville, iarll Caint a Stiward Teulu’r Brenin, gan ddilyn un o hoff ddifyrion ieirll Lloegr, wedi manteisio ar absenoldeb Edward IV i gosbi Siôn Dafi am ei fod yn ffefryn gan y brenin.
Llyfryddiaeth
Evans, H.T. (1995), Wales and the Wars of the Roses (second ed., Stroud)
Griffiths, R.A. (2004), The Reign of Henry VI (Sparlford)
Lewis, S. (1981), ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, Gwynn ap Gwilym (gol.), Meistri a’u Crefft: Ysgrifau Llenyddol gan Saunders Lewis (Caerdydd)
Thomas, A.H. and Thornley, I.D. (1938) (eds.), The Great Chronicle of London (London)