Y llawysgrifau
Ceir 19 copi o’r gerdd hon mewn llawysgrifau. Mân amrywiadau yn unig sy’n gwahaniaethu’r copïau ac awgrymir eu bod yn tarddu o ddwy brif ffynhonnell, sef X1 ac X2.
Perthyn y grŵp o lawysgrifau a adweinir fel llawysgrifau Dyffryn Conwy (sef LlGC 3049D, LlGC 8497B a Gwyn 4) i X1 ac maent bron yn unffurf a’i gilydd. Mae Gwyn 4 a LlGC 8497B yn rhagori o ran eu darlleniadau weithiau (ymddengys i gopïydd anhysbys LlGC 3049D fod yn llai gofalus wrth gopïo ar adegau, gw. 4, 13 a 21). Awgrymir fod C 2.617 hefyd yn tarddu o X1, gw. 2, 17, 22, 35, 39 a 58, er bod gwahaniaethau amlwg hefyd (gw. 17 a 49 yn arbennig).
Cadwyd y copi hynaf o’r gerdd gan gopïydd anhysbys LlGC 17114B copi sy’n tarddu o X2 yn y stema. Ar sail eu darlleniadau o linellau 2, 22, 24, 28, 29, 35, 37 a 39 mae testunau LlGC 6681B a Pen 121 hefyd yn perthyn yn agos i LlGC 17114B ac felly’n perthyn i fersiwn X2. Weithiau, fodd bynnag, mae LlGC 6681B a Pen 121 yn cynnig darlleniadau unigryw. John Jones Gellilyfdy a fu’n gyfrifol am LlGC 6681B ac awgryma’r ‘amrywiadau’ a nodir ganddo ei fod o bosibl yn ymwybodol o’r ddwy ffynhonnell wrth gopio’r gerdd.
Mae’n anodd gweld i ba grŵp uchod y mae copi John Davies o Fallwyd o’r gerdd yn Pen 99 yn perthyn iddo. Cytunir weithiau ag X1 (gw. 24, 28, 29, 37 a 49), ond weithiau mae’n amlwg ei fod yn dilyn X2 hefyd (gw. 7, 17, 22, 35 a 58).
Trawsysgrifiadau: LlGC 17114B, LlGC 8497B a C 2.617.
1 Alwen Gthg. darlleniad diffygiol X2 Olwen (fe’i cywirwyd yn LlGC 6681B: aOlwen).
2 y Fe’i hepgorwyd gan lawysgrifau X2.
2 a roes glaw Mae X2 yn darllen dros gler duw a roes y glaw. Gall mai’r ffurf gysefin glaw a arweiniodd y copïwyr at ei newid yn y glaw (er bod cadw’r gysefin ar ôl y ffurf trydydd unigol gorffennol mynegol yn ddigon cyffredin yn y cyfnod hwn, gw. Treigladau 189).
4 wedi’i Dilynir X2; gthg. y ffurfiau yn gw- yn X1 ac eithrio LlGC 3049D: ymddengys i’r copïydd hwnnw ychwanegu’r llinell yn ddiweddarach ac i’w lygad lithro yn sgil ailadrodd dwfr ar ddechrau llinellau 3 a 4. X2 yn unig sy’n dangos y rhagenw ac mae pob llawysgrif yn darllen yn un yn hytrach na’i gywasgu fel yn GGl (nid oes angen arbed sillaf gan mai unsill yw bwrw).
7 llofrudd y llif Dyma ddarlleniad Pen 121 a grŵp X1; llowydd a geir yn LlGC 17114B a Pen 99. Mae LlGC 6681B yn dilyn llofrudd ond nodir llowydd fel ‘amrywiad’ gan y copïydd. Mae Gwyn 4 yn nodi’r rhagenw ei a gall mai hynny a gynrychiolir gan i yn LlGC 3049D a LlGC 8497B hefyd; y sydd ym mhob copi arall gan gynnwys X3 felly mai’n debygol i’r copïwyr gamgopïo. Mae’r ystyr yn esmwythach o lawer o dderbyn y llif yma ond nid yw’n eglur ai llofrudd neu llofrydd yw’r ffurf, ymhellach gw. 7n (esboniadol).
8 peris deigr Felly pob llawysgrif; gthg. Pen 99 dagrau (a chan gopïydd LlGC 6681B fel un o’r ‘amrywiadau’). Mae’r llinell yn rhy hir o ddarllen dagrau.
10 nid a’ i’r Bala Darlleniad anodd gan nad yw’n eglur beth a gynrychiolir gan a yn y llawysgrifau. Cymerir mai’r ferf mynd sydd fwyaf ystyrlon i’r cyd-destun ac mae LlGC 17114B a LlGC 6681B yn darllen af, sef ffurf gyntaf unigol y ferf; gthg. a yn X1. Ond yr hyn sydd fwyaf ystyrlon yw bod y bardd yn cyfeirio ato ef ei hun ac nid yw’n gwbl amhosibl mai a’ (sef af) a gynrychiolir yno gan a. Awgrymir, yn betrus, mai a’ i’r sydd orau yma: cytunir mai i’r yw’r darlleniad ym mhob copi a rhaid cynnwys y fannod o flaen yr enw lle. Rhaid gadael y llinell hon yn wythsill felly neu ei chywasgu.
11 i Laniwllyn Cefnogir y ffurf hon ar yr enw lle ym mhob llawysgrif.
13 Einion Ceir Einiawn yn LlGC 17114B a LlGC 3049D ond rhaid cael -on er mwyn yr odl yn y gynghanedd sain hon.
14 annerch Nodir yr amrywiad enaid yn LlGC 6681B yn unig.
16 mordwy Gthg. mowrdwy yn LlGC 6681B a Pen 121 ond tanlinellir -w- yn LlGC 6681B sydd o bosibl yn dangos cywiriad y tro hwn.
17 Mair fo ei nerth Dilynir X2 yma. Darlleniad X1 yw mair vo nerth ac eithrio LlGC 8497B a C 2.617 sy’n darllen mair a fo nerth. Gall mai a fo oedd darlleniad gwreiddiol X1 ond i gopïwyr LlGC 3049D a Gwyn 4 ei hepgor i gywasgu’r llinell gan gamddeall marw yn air deusill.
21 uchelwr Gthg. darlleniad unigryw LlGC 3049D uwchelwr (a dilynir hynny yn LlGC 21248D sy’n awgrymu ei fod yn gopi ohono).
22 ac o ryw O ran synnwyr y llinell dilynir X2 yma; gthg. X1 ac orwyr.
24 Nudd Llwyn y Neuadd a’i llys Felly X1; chwesill yw’r llinell yn LlGC 17114B sydd â darlleniad ychydig yn wahanol: nvdd llwyn nevadd y llys. Mae gweddill llawysgrifau X2 yn darllen nvdd y llwyn nevadd y llys ond nid yw’r ystyr yn hollol eglur, ymhellach gw. 24n (esboniadol).
27 âi i’r Cywesgir âi i’r yn naturiol ar lafar.
28 fal Ceir modd yn X2 (gyda LlGC 6681B yn nodi fal fel amrywiad).
29 oedd lechwedd Ni threiglir llechwedd yn X2.
31 fry ’n y fron Gthg. darlleniad unigryw LlGC 17114B fry ar y fron.
35 difileindra’r gwyrda Dilynir X2 yma; gthg. X1 difileindra’r gwrda. Y lluosog gwyrda sy’n rhoi’r ystyr orau yma. Diddorol yw darlleniad Llst 30 sydd wedi ei gywiro: gwrda gwyrda ond erys y darlleniad gwrda yn C 2.617.
37 gwnaethpwyd Gthg. darlleniad X1 barnwyd ond mae’r ystyr yn fwy cadarnhaol yn dilyn gwnaethpwyd a bod y bardd yn dweud fod Einion wedi ei greu gan ei hynafiaid.
39 oedd ar farn gwlad Dilynir darlleniad X2 yma, gthg. i farn yn X1. Unigryw yw darlleniad Pen 99, ef a farn gwlad.
49 dawddgrych Cytuna X1 â grŵp X2 mai’r ffurf dawddgrych sydd yma, gthg. y ffurf dawddgyrch yn C 2.617 sydd hefyd yn ffurf ar y gair, cf. GO 321 Toddi chwyrn tawddgrych oedd, ymhellach gw. GPC 3457.
50 gadwynawg Dilynir mwyafrif y llawysgrifau gyda’r terfyniad -awg yma, y ffurf -nog sydd yn C 2.617 a Gwyn 4.
51 a’i Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau ac eithrio LlGC 17114B a LlGC 8497B sy’n darllen ar.
58 pen Ceir y ffurf dreigledig ben yn X2 a Pen 99.
Prif gŵyn y bardd yn y farwnad hon i Einion ap Gruffudd ap Rhys yw’r golled am noddwr a oedd hefyd yn fardd crefftus. Ni ellir peidio â theimlo bod naws bersonol iawn i’r gerdd o ran galar y bardd ac iddo golli cyfaill agos yn ogystal â noddwr.
Yn rhan gyntaf y gerdd canolbwyntia’r bardd ar ddisgrifio galar beirdd y glêr a thrigolion Penllyn a hynny drwy gyfrwng y motîff cyfarwydd o ddagrau fel dŵr llif (llinellau 1–8). Darlunnir afonydd yr ardal yn datblygu’n ddilyw mawr a chyda gormodiaith eithafol trosir y llif yn fôr i Benllyn ac i Wynedd (5–6) gan atal y bardd rhag mynd i dref y Bala ac i Lanwuchllyn (10–12). Mae noddwr, uchelwr ac athro barddol wedi marw sy’n golled eithriadol yn ôl Guto, colled a gafodd effaith corfforol arno hefyd drwy yrru’r lliw o’i wyneb (19–20).
Canolbwyntir ar dras Einion ar ddechrau’r rhan nesaf (21–2). Nodir iddo gael ei gladdu yn eglwys Pennant Melangell ym Mhowys, sef yr un man, fe ymddengys, ag y claddwyd aelodau eraill o’i deulu (gw. 25–8 a 28n). Canmolir y croeso yn ei gartref yn Llechwedd Ystrad ar lan Llyn Tegid. Ei bersonoliaeth hawddgar a gaiff y sylw nesaf ac awgrymir iddo ymwneud ag achosion cyfreithiol neu weinyddiaeth leol yng Ngwynedd (39–40). Mae’r sir bellach, medd y bardd, mewn anrhefn ac yn gweld eisiau Einion a’i ddoethineb.
Agorir y rhan olaf â gwaedd alarus gan wrthgyferbynnu dinistr y presennol a llawenydd y gorffennol. Yn hiraethus ddigon, dywedir na chlywir cân y gog na’r eos, na’r sôn am fis Mai nac am anrhegion serch a’r cariadon Morfudd a Gwerfyl bellach yn Llangywer. Mae hyn oll yn awgrymu fod Einion ei hun yn fardd amatur; yn feistr ar y mesur tawddgyrch cadwynog ac yn fardd cystal â Myrddin Fardd ac Adda Fras a oedd hefyd yn ddau fardd brud (51–2). Llunia Guto fersiwn newydd ar hen driawd y Tri Oferfardd i gloi, gan ei enwi’n bedwerydd bardd cyn dymuno i’w enaid fynd i’r nefoedd (56–60).
Hyd y gwyddys, nid oes unrhyw gerdd wedi goroesi dan enw Einion ap Gruffudd. Fe’i gelwir gan Guto’r Glyn a Lewys Glyn Cothi yn athro: tybed a fu’r uchelwr diwylliedig yn dysgu’r grefft i glwstwr o feirdd a alwai heibio ei gartref yn Llechwedd Ystrad? Yn wir, roedd rhai o’i deulu’n feirdd enwog os cywir yr achau: perthynas iddo ef oedd y bardd serch Bedo Aeddren ac roedd ei drydedd wraig yn chwaer i Werful ferch Ieuan Fychan, prydyddes a gwraig Tudur Penllyn (gw. GGM 3–4).
Dyddiad
Nid yw dyddiad marwolaeth Einion ap Gruffudd yn hysbys. Rhydd Bartrum c.1400 fel awgrym o’i ddyddiad geni ac ym marwnad Lewys Glyn Cothi i’r un gŵr awgrymir fod ei fab, Ieuan, mewn oed i etifeddu tiroedd ei dad gw. GLGC 232.49–50 Yn llys Einion o onwydd / Ieuan fab Einion a fydd, ond ni chawn fwy o wybodaeth am y noddwr.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXIV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd 60 llinell.
Cynghanedd: croes 52% (31 llinell), traws 23% (14 llinell), sain 23% (14 llinell), llusg 2% (1 llinell).
1 Alwen Afon Alwen yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy’n tarddu yn Llyn Alwen ar fynydd Hiraethog uwchben Cerrigydrudion ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy ger Cynwyd. Dichon fod doe yma yn dynodi’r gorffennol cymharol agos, fel y dywed Edwards 2000: 25, ‘yn enwedig lle byddai perthynas glos rhwng bardd a noddwr, cymerai amser i’r ymateb i’r golled ymffurfio’n farddoniaeth gain’. Mae’n bosibl hefyd fod Einion eisoes wedi ei gladdu, gw. 25n.
3 Dulas Ceir sawl afon o’r enw hwn yng Nghymru, un ohonynt yn y gogledd-ddwyrain, yn llifo i’r môr ger Llanddulas, sir Ddinbych.
3 Dyfrdwy Afon sy’n tarddu uwchben Llanuwchllyn ac yn llifo i Lyn Tegid cyn llifo allan ohoni i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain cyn ymuno â’r môr yng Nglannau Dyfrdwy.
3 Alun Afon Alun yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Tarddai uwchben Llandegla gan lifo drwy’r Wyddgrug cyn ymuno ag afon Dyfrdwy, gw. Owen 1991: 6.
4 Noe Am hanes Noa a’r dilyw, gw. Genesis 7.1–8.19.
5 Penllyn Cwmwd Penllyn ym Meirionnydd. Lleolir cartref Einion ap Gruffudd ym mhlwyf Llangywer, un o bum plwyf Penllyn (gw. 43n). Er mai cynrychioli dagrau galar a wna’r holl ddelweddau am ddŵr dichon fod llyn llawn yma yn gyfeiriad penodol at Lyn Tegid, gw. hefyd 21n.
6 Einiawn Sef y sawl a farwnedir, gw. Einion ap Gruffudd ap Rhys.
9 tref Mae’n bosibl mai’r ystyr yma yw ‘cartref’ neu ‘llys’, sef Llechwedd Ystrad, cf. 29–30 isod Ostri oedd Lechwedd Ystrad / A thref perchentyaeth rad.
11 Llaniwllyn Sef Llanuwchllyn yng nghwmwd Penllyn a’r plwyf nesaf i Langywer. Lleolir Llechwedd Ystrad ar lan Llyn Tegid a dichon mai’r ergyd yma yw bod y llyn wedi chwyddo cymaint fel na ellid mynd i Lanuwchllyn, gw. 21n. Y ffurf Llanuwllyn a ddefnyddir gan amlaf gan y beirdd, gw. GTP 6.29; GLlGt At.v.16. Ceir llinell debyg yn GDID 19.18 Ni allwyd yn Llanuwllyn.
13 afon Cyfeiriad at afon Dyfrdwy o bosibl a lifai i Lyn Tegid rhwng plwyfi Llanuwchllyn a Llangywer a heibio i Lechwedd Ystrad.
15 athro Cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi hefyd at y ffaith fod Einion yn athro, gw. GLGC 232.13–14 Athro mal cyfreithwyr Môn / i ddwy Wynedd oedd Einion, / a’n athro ban aeth i’r bedd / yr aeth hanner iaith Wynedd.
16 mordwy GPC 2487 ‘symudiad y môr, ymchwydd’ neu ‘lifeiriant’. Mae’r bardd yn parhau â’r ddelwedd o ddagrau’n llifo fel llifeiriant y môr.
17 Nudd Sef Nudd ap Senyllt, un o’r Tri Hael, gw. TYP3 5–6, 476–7, 504–5, cf. 24.
21 uwchlaw’r llyn Lleolir cartref Einion ar lethrau glan Llyn Tegid, gw. 29n.
22 o’r Blaidd Roedd Einion ap Gruffudd ap Rhys yn disgyn yn uniongyrchol o Ririd Flaidd, arglwydd Penllyn (gw. 27n).
22 Bleddyn Roedd Einion ap Gruffudd ap Rhys yn disgyn o Fleddyn ap Cynfyn (tywysog Gwynedd a Phowys yn yr unfed ganrif ar ddeg) trwy briodas Madog ap Rhirid Flaidd ac Efa ferch Philip Ddu ab Hywel ab Maredudd ab Bleddyn ab Cynfyn, WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’, 43. Roedd hefyd yn ddisgynnydd i Fleddyn Llwyd ap Bleddyn Fychan gan fod Alys, ail wraig ei hendaid, Gruffudd ap Madog ab Iorwerth yn ferch i Fleddyn Llwyd, WG1 ‘Hedd ap Alunog’, 3 (brawd i Alys oedd Cynfrig ap Bleddyn Llwyd, gorhendaid Tudur Aled, gw. GHD 14.20).
23 Llwyn y Neuadd Dilynir GGl sy’n ei ddehongli yn enw lle. Mae’n debygol y dylid ei gysylltu â Llwyn Bryn y Neuadd ym mhlwyf Llangar, Meirionnydd.
26 gwyddfa Sef ‘lle anrhydeddus’ neu o bosibl yn fwy penodol yma ‘mynwent, bedd, beddrod, claddfa’, gw. GPC 1755. Darganfuwyd nifer o feddi canoloesol yn eglwys Pennant Melangell yn ystod gwaith archeolegol yn 1958 ac yn 1987 (gw. Britnell 1994: 66). Tybed ai bedd Einion ap Gruffudd oedd un ohonynt?
25–7 Pennant … /… Melangell Trychiad yr enw lle Pennant Melangell, plwyf yng nghwmwd Mochnant Uwch Rhaeadr (gw. WATU 175, 296). Mae’n debygol mai at yr eglwys blwyf a gysegrwyd i Felangell y cyfeirir yma. Adeiladwyd eglwys garreg ar y safle ar ddechrau’r ddeuddegfed ganrif, a hynny o bosibl dan nawdd un o gyndeidiau Einion, Rhirid Flaidd (Lord 2003: 76). Cyfeiriodd Cynddelw Brydydd Mawr at Bennant Melangell wrth farwnadu Rhirid Flaidd ac ymddengys iddo etifeddu tiroedd ym Mochnant (Pennant Melangell a’r Bryn yn ardal Croesoswallt) gan ei dad, Gwrgenau, gw. GCBM i, 291, 23.9, 24.36, 24.36.
27 cafell ‘Cysegr’ neu ‘gôr eglwys’ ac mae’n bosibl fod hwn yn gyfeiriad at leoliad cysegrfa enwog y santes a ddyddir i’r ddeuddgfed ganrif ac sydd i’w gweld o hyd yn yr eglwys: ‘cysegrfa siâp tŷ’ yw disgrifiad Lord ohoni (2003: 77). Dywed ei bod yn bosibl i’r gysegrfa gael ei chodi yn wreiddiol ar ben bedd y santes yn yr adain ddwyreiniol a mwyaf hynafol yr eglwys (sef yr apse) a ddyddir i’r un cyfnod â’r gysegrfa. Pan atgyweiriwyd y gysegrfa fe’i gosodwyd yng nghanol prif gorff yr eglwys, lle y gwelir hi heddiw. Mae goroesiad y gysegrfa yn unigryw yng Nghymru, ymhellach gw. Radford 1959: 105 a Britnell and Watson 1994: 147–66.
28 tylwyth Awgryma’r ferf delynt mai’r hyn a ddywed y bardd yw bod Einion yn arfer mynd i Bennant Melangell gyda’i dylwyth i gladdu aelodau eraill o’r teulu. Yn ôl Gresham (1968: 176–8) corffddelw un o hynafiaid Einion , sef Madog ab Iorwerth, gorwyr i Rhirid Flaidd, a welir yn yr eglwys ac a ddyddir i ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
29 Llechwedd Ystrad Enw cartref Einion ap Gruffudd ger Llyn Tegid ym mhlwyf Llangywer, gw. Davies 1974: 138. Enwir Llechwedd Ystrad yn un o dair llys Gruffudd ap Madog ab Iorwerth gan Fadog Dwygraig yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, gw. GMD 1.19n. Awgryma’r disgrifiadau o leoliad Llechwedd Ystrad e.e. uwchlaw’r llyn (uchod, 21), fry ’n y fron (isod, 31) a GLGC 232.1 dan Ferwyn ei bod hi’n bosibl iawn fod lleoliad ffermdy presennol Llechwedd Ystrad yn Llangywer yn eithaf agos i’r tŷ canoloesol. Mae disgrifiad pellach Lewys Glyn Cothi, GLGC 232.49, llys Einion o onwydd, yn awgrymu mai pren oedd prif wneuthuriad y tŷ yng nghyfnod Einion.
33 gŵr du Sef cyfeiriad at ei wallt tywyll o bosibl.
37 dinag Gw. GPC 1019 ar yr ystyr ‘heb nacáu neu wrthod’; disgrifiad o Einion fel gŵr hael.
39 y Fernagl Sef lliain ac arno lun o wyneb Crist. Yn ôl y traddodiad, rhoddodd merch o’r enw Veronica ddernyn o liain i Grist er mwyn iddo sychu’r chwys oddi ar ei wyneb tra oedd yn cario’r groes i Golgotha. Arhosodd llun o’i wyneb ar y lliain a’i wneud yn amhrisiadwy, gw. GPC 1269. Yma fe’i defnyddir yn ffigurol am Einion i bwysleisio bod ei allu fel ynad yn amhrisiadwy i’w wlad.
40 ynad Gall olygu’n syml rhywun doeth neu wybodus, ond gall hefyd fod yn gyfeiriad mwy penodol, o bosibl at swydd weinyddol a ddaliai Einion ap Gruffudd yng Ngwynedd. Yn ôl Cyfraith Hywel Dda, swydd ynad oedd datgan y gyfraith a dyfarnu ar achosion cyfreithiol, gw. GMWL 299 a Jenkins 1976: 96–9, cf. GLGC 232.11–12 y gerdd a wybu i gyd / eithafoedd cyfraith hefyd. Mae Lewys Glyn Cothi hefyd yn ei gymharu i gyfreithwyr Môn (GLGC 232.13).
45–6 cog … / … eos Dau aderyn sy’n enwog am eu cân, sef y gog (neu’r gwcw) a’r eos. Cyffredin gan y Cywyddwyr yw defnyddio eos yn drosiadol am fardd neu delynor (ymhellach gw. Harper ‘Bardd a Cherddor’, DG.net), ac fe’i defnyddir gan Guto amdano ef ei hun, e.e. 11.39 a 77.9. Fe’i defnyddia hefyd yn ei farwnad i Lywelyn ab y Moel sy’n cynnwys cwpled hynod o debyg i hwn, gw. 82.27–8 Ni chyrch nac eos na chog / O Lwyn-onn i Lanwnnog. Ergyd y bardd yw na chanai beirdd bellach yn Llechwedd Ystrad wedi marwolaeth Einion.
47 cae o’r gwŷdd Sef garlant neu goronbleth wedi ei phlethu o frigau’r coed. Arfer gyffredin oedd rhoi cae fel arwydd o serch, gan amlaf yn rhodd i’r bardd gan ei gariadferch yn gyfnewid am gerdd. Disgrifir y cae a luniodd Gwen o’r Ddôl ar gyfer y bardd Dafydd Nanmor fel cae o fanwaith gwŷdd (gw. DN 80). Ceir cerdd serch gan Ddafydd ap Gwilym sy’n disgrifio het fedw, gw. DG.net cerdd 113. Awgrymir yma, felly, mai caneuon serch a ganwyd yn Llechwedd Ystrad gan amlaf, boed hynny gan Einion ei hun neu gan feirdd eraill a oedd yn clera yno.
48 Gwerful Cariad y bardd Gruffudd Gryg (c.1340–80), gw. GGGr cerdd 5. Cyfeirir ati fel Gweirful o Wynedd mewn cerdd gan Ddafydd ap Gwilym, gw. DG.net 144.33. Yn un o gywyddau ymryson Gruffudd Gryg fe’i cyplysir â Dyddgu ac nid Morfudd, gw. DG.net 27.51–2 Gwae Ddyddgu, ddyn gweddeiddgall, / Gwyn fyd Gweirful, ni wŷl wall.
48 Morfydd Un o gariadon Dafydd ap Gwilym (fl.1340–70). Perthnasol, efallai, yw bod gan Forfudd gysylltiadau posibl â Phenllyn, gw. DG.net 78.47n, 155.45n a nodyn cefndir DG.net cerdd 157.
49–50 tawddgyrch … [c]adwynawg Un o fesurau’r awdl ac un o’r pedwar mesur ar hugain, gw. CD 344–48. Am ddefnydd Guto o’r mesur hwn, gw. cerddi 8 a 111.
51 Merddin Cymeriad o’r chweched ganrif oedd Myrddin Fardd ac fe ddihangodd i Goed Celyddon wedi i Rydderch Hael orchfygu teyrnas Gwenddolau, noddwr Myrddin, ym mrwydr Arfderydd. Wedi iddo ddianc, fe ddatblygodd Myrddin ddoniau proffwydo a chyfansoddi sawl cerdd yn darogan dydd nerth y Cymry, gw. TYP3 458–62 a Jarman 1975–6: 182–97. Dichon mai fel patrwm o fardd yr edrychid arno yma.
52 Adda Fras Ni cheir llawer o wybodaeth am Adda Fras ond ymddengys ei fod yn fardd enwog a oedd o bosibl yn ei flodau yn y drydedd ganrif ar ddeg. Fe’i henwir yn fynych yn y marwnadau a ganodd y beirdd i’w gilydd, cf. 82.60 Urddas Adda Fras a’i fraint (i Lywelyn ab y Moel). Mae’n bosibl bod arwyddocâd i’r ffaith fod Adda Fras a Myrddin uchod yn feirdd brud, sy’n awgrymu i Einion hefyd ganu cerddi brudiol. Fel bardd-uchelwr gallai Einion ganu ar bynciau fel serch a brud gan nad oedd yn fardd proffesiynol (gw. 56n).
54 y llwyn dail Mae’r disgrifiad o Einion fel paun y llwyn dail yn awgrymog iawn o gofio mai’r llwyn oedd man cyfarfod cariadon yn y canu serch.
56 y tri oferfardd Arthur, Cadwallon fab Cadfan a Rahawd fab Morgant yw’r tri bardd a enwir yn y triawd ‘Tri Oferfeirdd Ynys Prydain’ a ddyfynnir yn TYP3 22. Enwir Arthur yn nhriawd Guto yma, ond y ddau arall yw Trystan a Llywarch Hen, gw. isod. Mae englynion wedi eu priodoli i Drystan ac i Lywarch ac awgryma Bromwich mai dyna’r rheswm tros eu dewis hwy fel y ddau oferfardd arall yn y gerdd hon. Cofier hefyd i’r ddau gael eu hadanabod fel tywysogion ac wrth uniaethu Einion â hwy, darlunnir y pedwar ohonynt yn feirdd amatur o dras uchel nad oedd yn ymofyn tâl am eu gwasanaeth, TYP3 22–24.
57 Arthur Yr arwr traddodiadol a ddaeth yn enwog yn sgil y chwedlau amdano, TYP3 280–3.
57 Trystan Sef Trystan fab Tallwch, arwr y chwedl Trystan ac Esyllt a oedd yn gyfarwydd i Gymry’r Oesoedd Canol, gw. TYP3 331–4; WCD 619–21; Bromwich 1991: 209–28 a’r cyfeiriadau pellach yno.
58 Llywarch Llywarch Hen, un o arweinwyr yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif, gw. 56n ac ymhyellach WCD 423–5; TYP3 422–4; CLC2 86–7. Perthnasol, o bosibl, yw bod gan Lywarch Hen yntau gysylltiadau â Phenllyn, gw. GLlH 157–9.
Llyfryddiaeth
Britnell, W.J. and Watson, K. (1994) ‘Saint
Melangell’s Shrine, Pennant Melangell’, Mont Coll 82:
147–66
Bromwich, R. (1991), ‘The Tristan of the Welsh’, R.
Bromwich, A.O.H. Jarman and B.F. Roberts (eds.), The
Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh
Literature (Cardiff), 209–28
Cartwright, J. (1999),
Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar
Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru’r Oesoedd Canol
(Caerdydd)
Davies G. (1974), Noddwyr y Beirdd ym
Meirion (Dolgellau)
Edwards, H.M. (2000), ‘Dwyn Marwnadau
Adref’, LlCy 23: 21–38
Gray, M. (2000), Images of Piety: the Iconography of Traditional Religion in Late
Medieval Wales (Oxford)
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales
(Cardiff)
Harper, S., ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’,
DG.net
Heaton, R.B and Britnell, W.J. (1994), ‘A Structural History
of Pennant Melangell Church’, Mont Coll 82: 103–126
Jarman,
A.O.H. (1975–6), ‘A oedd Myrddin yn Fardd Hanesyddol?’, SC x/xi:
182–97
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel:
Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid Cymru’r Oesau Canol
(Llandysul)
Johnston, D. (1997), ‘Gwenllïan ferch Rhirid
Flaidd’, Dwned, 3: 27–32
Lord, P.
(2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr
Oesoedd Canol (Caerdydd)
Owen, H.W. (1991), Enwau Lleoedd Bro Dyfrdwy ac Alun, Cyfres Llyfrau
Llafar Gwlad, 21 (Llanrwst)
Parkinson, A.J. (1994),
‘Paintings and Inscriptions in Pennant Melangell Church’, Mont Coll 82:
139–46
Radford, C.A.R. (1959), ‘Pennant Melangell: the Church
and Shrine’, Archaeologia Cambrensis, 108:
81–113
Ridgway, M.H. (1994), ‘Furnishings and Fittings in
Pennant Melangell Church’, Mont Coll 82: 127–38
Williams, I.
(1929–31), ‘Ystorya Drystan’, B v: 115–29
The poet’s main complaint in this elegy for Einion ap Gruffudd ap Rhys is the loss of a patron who was also a gifted poet. There is a personal edge to the poet’s grief: he has lost a close friend as well as a generous patron.
The poet concentrates on describing the sadness of the clêr and the people of Penllyn in the first section, using the familiar theme of tears like water flooding the land (lines 1–8). The region’s rivers have overflown into a great flood – a sea for Penllyn and Gwynedd (5–6), preventing him from going to Bala and Llanuwchllyn (10–12). He has lost a patron, a nobleman and a teacher, a loss that has also affected him physically, draining the colour from his face (19–20).
Einion’s lineage is the main focus of the next section (21–2). Guto notes that he was buried at the church of Pennant Melangell in Powys, where it seems other members of his family were also buried (see 25–8 and 28n). He praises the welcome at home in Llechwedd Ystrad by Llyn Tegid. Next, he mentions Einion’s amiable personality, suggesting that he had a role within the local administration of Gwynedd (39–40). Having lost Einion, the shire is in disorder and in need of him and his wisdom.
The last section opens with a mournful cry, contrasting the devastating present with the happy and joyful past when Einion was alive. Evidently, the song of the cuckoo or nightingale or the mention of May and of the two ladies Morfudd and Gwerfyl will not be heard any more in Llangywer. This suggests that Einion was also an amateur poet; a master on the metre tawddgyrch cadwynog and a poet equal to Myrddin Fardd and Adda Fras, two famous prophecy poets (51–2). Lastly, the poet creates a new version of the old Triad, y Tri Oferfardd naming Einion as the fourth poet (56–60).
So far as we know, there are no poems attributed to Einion ap Gruffudd in the manuscripts. However, both Guto’r Glyn and Lewys Glyn Cothi call him an athro ‘teacher’: is it likely that the cultured gentleman was teaching poetry to a cluster of poets that called by his home at Llechwedd Ystrad? Indeed, some members of his family were famous poets if the lineage is correct: his third wife was a sister of Gwerful ferch Ieuan Fychan, a poetess and wife of Tudur Penllyn (see GGM 3–4) and he was also related to the love poet Bedo Aeddren.
Date
It is not known when Einion ap Gruffudd died. Bartrum gives c.1400 as a suggestion of his birth year (WG 1 ‘Rhirid Flaidd’ 3) and in the elegy for him by Lewys Glyn Cothi it is claimed that Einion’s son, Ieuan, was old enough to inherit his father’s land when he died (see GLGC 232.49–50). However, we have no further information about the patron.
The manuscripts
This poem occurs in 19 manuscripts. The copies are fairly similar and based on minor variations they can be divided into two groups that derive from one exemplar. In the first group (which derives from X1 in the stemma) are LlGC 3049D, LlGC 8497B and Gwyn 4 from the Conwy Valley, and C 2.617 generally belongs with them. The oldest copy of the poem occurs in LlGC 17114B which belongs to the second group (X2 in the stemma). LlGC 6681B and Pen 121 are also closely related and belong to this group. However, the copyist responsible for LlGC 6681B, John Jones Gellilyfdy, has noted some ‘variations’ on his copy which could suggest that he was familiar with the two ‘versions’ of the poem.
Previous edition
GGl poem LXIV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 52% (31 lines), traws 23% (14 lines), sain 23% (14 lines), llusg 2% (1 lines).
1 Alwen A river in north-east Wales that springs from Llyn Alwen on Hiraethog mountain above Cerrigydrudion and joins the Dee near Cynwyd. It is likely that doe ‘yesterday’ here actually means the fairly recent past, as Edwards (2000: 25) put it ‘especially where there is a close relationship between the poet and the patron, it would take some time for the reaction to take shape as fine poetry’. It is also possible that Einion was already buried, see 25n.
3 Dulas There are many rivers of this name in Wales, one of them in the North-east and which flows into the sea near Llanddulas, Denbighshire.
3 Dyfrdwy The river Dee has its source above Llanuwchllyn and flows into Llyn Tegid. The river continues north-eastwards before joining the sea at Deeside.
3 Alun The river Alun in the north east of Wales. It has its source above Llandegla and flows by Mold before joining the Dee, see Owen 1991: 6.
4 Noe For the story of Noah and the Great Flood see Genesis 7.1–8.19.
5 Penllyn The commote of Penllyn in Merionethshire. Einion’s home was located in the parish of Llangywer, one of the five parishes of Penllyn (see 43n). It is likely that llyn llawn ‘full lake’ is a specific reference to Llyn Tegid here (although images of water in this poem represent tears of grief). See also 21n.
6 Einiawn See Einion ap Gruffudd ap Rhys.
9 tref It is possible that the meaning of tref is ‘home’ or ‘court’, that is Llechwedd Ystrad, cf. 29–30 below Ostri oedd Lechwedd Ystrad / A thref perchentyaeth rad ‘Llechwedd Ystrad was a place to stay / and a town of generous hospitality’.
11 Llaniwllyn Llanuwchllyn in the commote of Penllyn, the parish next to Llangywer. Llechwedd Ystrad is located on the edge of Llyn Tegid (Bala Lake). Because the lake is filled with tears of grief, reaching Llanuwchllyn is impossible, see 21n. The form Llanuwllyn is usually used by the poets, cf. GTP 6.29; GLlGt At.v.16. A similar line occurs in GDID 19.18.
13 afon Possibly a reference to the river Dee (which flows between the parishes Llanuwchllyn and Llangywer into Llyn Tegid). The river also runs by Llechwedd Ystrad.
15 athro Lewys Glyn Cothi also refers to the fact that Einion was a teacher, see GLGC 232.13–14 Athro mal cyfreithwyr Môn / i ddwy Wynedd oedd Einion, / a’n athro ban aeth i’r bedd / yr aeth hanner iaith Wynedd ‘a teacher like the lawyers of Anglesey / was Einion for the two Gwynedds / and when our teacher went to his grave / so did half of Gwynedd’s language’.
16 mordwy GPC 2487 ‘movement of the sea, swell or surge (of the sea)’ or ‘flood’. The poet continues with the theme of tears flowing like the torrent of the sea.
17 Nudd Nudd Hael ap Senyllt, one of ‘Three Generous Men’ recorded in the Triads, see TYP3 5–6, 464–6 and WCD 509, cf. 24.
21 uwchlaw’r llyn Einion’s home was on the edge of Llyn Tegid, see 29n.
22 o’r Blaidd Einion ap Gruffudd ap Rhys was a direct descendant of Rhirid Flaidd, lord of Penllyn (see 27n).
22 Bleddyn Einion ap Gruffudd ap Rhys was a descendant of Bleddyn ap Cynfyn (prince of Gwynedd and Powys in the eleventh century) through the marriage of Madog ap Rhirid Flaidd and Efa daughter of Philip Ddu ab Hywel ab Maredudd ab Bleddyn ab Cynfyn, WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’, 43. He was also a descendant of Bleddyn Llwyd ap Bleddyn Fychan because Alys, the second wife of his great grandfather, Gruffudd ap Madog ab Iorwerth, was a daughter of Bleddyn Llwyd, WG1 ‘Hedd ap Alunog’, 3 (the brother of Alys was Cynfrig ap Bleddyn Llwyd, an ancestor of Tudur Aled, see GHD 14.20).
23 Llwyn y Neuadd GGl is probably right in interpreting this as a place name. There is a place called Llwyn Bryn y Neuadd in the parish of Llangar, Merionethshire.
26 gwyddfa That is ‘place of honour’ or possibly, more specific here ‘burial-ground, grave, sepulchre, burial-mound’, see GPC 1755. Many medieval graves were uncovered in the church of Pennant Melangell during excavation work in 1958 and in 1987 (see Britnell 1994: 66). Is it likely that one of them was the grave of Einion ap Gruffudd?
25–7 Pennant … / … Melangell Pennant Melangell, a parish in the commote of Mochnant Uwch Rhaeadr (see WATU 175, 296). The poet is probably referring to the parish church which is dedicated to St Melangell. A stone church was built on the site at the beginning of the twelfth century, possibly under the patronage of one of Einion’s ancestors, Rhirid Flaidd (Lord 2003: 76). Cynddelw Brydydd Mawr refers to Pennant Melangell in his elegy for Rhirid Flaidd. Rhirid inherited lands in Mochnant (Pennant Melangell and Bryn in the region of Oswestry) from his father, Gwrgenau, see GCBM i, 291, 23.9, 24.36, 24.36.
27 cafell ‘Chancel’ or ‘church choir’ and this could be a reference to the famous chancel or shrine of St Melangell in the church: ‘chancel shaped like a house’ is the description given by Lord (2003: 77). It seems that the chancel was originally built on top of the burial place of St Melangell in the east wing and the oldest part of the church (the apse), which is dated to the same period as the chancel. When the chancel was restored, it was placed in the centre of the church where it is found today. The fact that the chancel has survived is unique in Wales, for further information see Radford 1959: 105 and Britnell and Watson 1994: 147–66.
28 tylwyth The poet implies that Einion used to go to Pennant Melangell to lay to rest other members of his family. According to Gresham (1968: 176–8) one of Einion’s ancestors, Madog ab Iorwerth, great-grandson of Rhirid Flaidd, is represented by the military effigy in the church dated to the early fourteenth century.
29 Llechwedd Ystrad Einion ap Gruffudd's home near Llyn Tegid in the parish of Llangywer, see Davies 1974: 138. Llechwedd Ystrad is named as one of the three courts of Gruffudd ap Madog ab Iorwerth by Madog Dwygraig in the second half of the fourteenth century, see GMD 1.19n. Indeed, the descriptions of the location of Llechwedd Ystrad (e.g. uwchlaw’r llyn ‘above the lake’ (21), fry ’n y fron ‘up on the hillside’ (31) and GLGC 232.1 dan Ferwyn ‘under the Berwyn’) suggest that the site of the modern farm named Llechwedd Ystrad in Llangywer is very close to the medieval house. Furthermore, the description of the house by Lewys Glyn Cothi, GLGC 232.49, llys Einion o onwydd ‘Einion’s court of ash timber’ suggests that the main material of the building when Einion lived there was timber.
33 gŵr du Possibly a reference to his black hair.
37 dinag See GPC 1019 where it gives the meaning ‘without refusal, willing or ready to give’ for dinag; a description of Einion as a generous man.
39 y Fernagl The Vernicle or Veronica, a cloth bearing an image of Christ’s face. According to the tale, a woman called Veronica offered a cloth to Christ to dry the sweat from his face while he was carrying his cross to Golgotha. An image of Christ’s face remained on the cloth and it became a priceless relic. Here it is used figuratively for Einion because his role as a judge was priceless to his country.
40 ynad It could simply mean someone intelligent or knowledgeable, but it could be a more specific reference, possibly to an administrative post that Einion ap Gruffudd held in Gwynedd. According to the Law of Hywel Dda, the court judge was responsible for the law and for judging legal cases, see GMWL 299 and Jenkins 1976: 96–9; cf. Lewys Glyn Cothi’s description of Einion, GLGC 232.11–12 y gerdd a wybu i gyd / eithafoedd cyfraith hefyd ‘He knew everything about poetry / and unlimited knowledge of the law also’. Lewys Glyn Cothi also compares him to the lawyers of Anglesey (GLGC 232.13).
45–6 cog … / … eos Two birds famous for their songs, the cuckoo and the nightingale. The metaphor of the nightingale is very common for a poet or a harpist by the poets (for further information see ‘Bardd a Cherddor’, DG.net), and Guto also uses it for himself see 77.9 and 11.39. It is also used by him in the elegy for Llywelyn ab y Moel which contains a couplet very similar to this one, see 82.27–8 Ni chyrch nac eos na chog / O Lwyn-onn i Lanwnnog ‘Neither nightingale nor cuckoo / courses from Llwyn-onn to Llanwnnog’. The poet’s aim here is to highlight the fact that nobody will sing in Llechwedd Ystrad now that Einion has gone.
47 cae o’r gwŷdd A garland shaped like a headdress made of branches or twigs. A common custom was to give a cae as a love token, usually a gift for a poet from his loved one in exchange for a poem. The cae created by Gwen o’r Ddôl for the poet Dafydd Nanmor is described as a cae o fanwaith gwŷdd ‘a garland of fine branches’ (see DN 80). A whole poem by Dafydd ap Gwilym describes a het fedw, ‘birch hat’ see DG.net poem 113. The suggestion here, therefore, is that love poetry especially was popular in Llechwedd Ystrad, either composed by Einion himself or by other fellow poets or the clêr who occasionally stayed there.
48 Gwerful The lover of Gruffudd Grug (c.1340–80), see GGGr poem 5. Dafydd ap Gwilym refers to her as Gweirful o Wynedd ‘Gweirful from Gwynedd’ see DG.net 144.33. In one of the poems in the bardic dispute between Dafydd ap Gwilym and Gruffudd Grug, she is linked with Dyddgu and not Morfudd, see DG.net 27.51–2 Gwae Ddyddgu, ddyn gweddeiddgall, / Gwyn fyd Gweirful, ni wŷl wall ‘Woe to Dyddgu, the intelligent and worthy girl, / but Gweirful is blessed: she knows nothing of failings’.
48 Morfydd One of the lovers of Dafydd ap Gwilym (fl.1340–70). It could be relevant that Morfudd had possible connections with Penllyn, see DG.net 78.47n, 155.45n and the background note on DG.net poem 157.
49–50 tawddgyrch … [c]adwynawg One of the metres of an ode; one of the twenty-four metres, see CD 344–48. For Guto’s use of this metre, see poems 8 and 111.
51 Merddin A legendary figure from the sixth century. He escaped to a place called Coed Celyddon after Rhydderch Hael conquered the kingdom of Gwenddolau, Myrddin’s patron, in the battle of Arfderydd. After he escaped, Myrddin developed the ability to prophesy and composed many poems predicting the day the Welsh will conquer, see TYP3 458–62 and Jarman 1975–6: 182–97. Here he stands for an excellent poet.
52 Adda Fras Not much is known about Adda Fras but presumably he was a famous poet who flourished possibly during the thirteenth century. He is always mentioned in the elegies the poets composed to their fellow poets; cf. 82.60 Urddas Adda Fras a’i fraint ‘the distinction of Adda Fras and his pre-eminence’ (for Llywelyn ab y Moel). It could be significant that Adda Fras and Myrddin were prophecy poets, suggesting that Einion also composed in this genre. Being a gentleman who composed poetry, rather than a professional poet, Einion was not restricted to praise poetry; he was able to choose his subjects, like love or prophecy (see 56n).
54 y llwyn dail The description of Einion as paun y llwyn dail ‘the peacock of the leafy grove’ is suggestive considering that the grove was the traditional meeting place for lovers in love poetry.
56 y tri oferfardd One of the Welsh triads was ‘the three amateur bards of Ynys Prydein’, that is Arthur, Cadwallon son of Cadfan and Rahawd son of Morgant. Arthur is named here in Guto’s triad, but the other two are Trystan and Llywarch Hen. Englynion are attributed to Trystan and to Llywarch, and Bromwich suggests that this could be the reason behind choosing them as the other two poets in this poem, as well as the fact that they were of noble birth and amateur poets, see TYP3 22–24.
57 Arthur King Arthur.
57 Trystan Trystan son of Tallwch, hero of the legend ‘Trystan ac Esyllt’ which was familiar to the Welsh of the Middle Ages, see TYP3 331–4; WCD 619–21; Bromwich 1991: 209–28.
58 Llywarch Llywarch Hen, one of the leaders of the Old North in the sixth century, see 56n and further WCD 423–5; TYP3 422–24; CLC2 86–7. It could also be relevant that Llywarch Hen had connections with Penllyn, see GLlH 157–9.
Bibliography
Britnell, W.J. and Watson, K. (1994) ‘Saint Melangell’s
Shrine, Pennant Melangell’, Mont Coll 82: 147–66
Bromwich, R.
(1991), ‘The Tristan of the Welsh’, R. Bromwich, A.O.H. Jarman and B.F.
Roberts (eds.), The Arthur of the Welsh: The
Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Cardiff),
209–28
Cartwright, J. (1999), Y Forwyn
Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng
Nghymru’r Oesoedd Canol (Caerdydd)
Davies G. (1974), Noddwyr y Beirdd ym Meirion
(Dolgellau)
Edwards, H.M.E. (2000), ‘Dwyn Marwnadau Adref’, LlCy 23:
21–38
Gray, M. (2000), Images of Piety: the
Iconography of Traditional Religion in Late Medieval Wales
(Oxford)
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone
Carving in North Wales (Cardiff)
Harper, S., ‘Dafydd ap
Gwilym, Poet and Musician’, DG.net
Heaton, R.B and Britnell, W.J.
(1994), ‘A Structural History of Pennant Melangell Church’, Mont Coll
82: 103–126
Jarman, A.O.H. (1975–6), ‘A oedd Myrddin yn
Fardd Hanesyddol?’, SC x/xi: 182–97
Jenkins, D. (1970), Cyfraith Hywel: Rhagarweiniad i Gyfraith Gynhenid
Cymru’r Oesau Canol (Llandysul)
Johnston, D. (1997),
‘Gwenllïan ferch Rhirid Flaidd’, Dwned, 3:
27–32
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol
Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Owen, H.W.
(1991), Enwau Lleoedd Bro Dyfrdwy ac Alun, Cyfres
Llyfrau Llafar Gwlad, 21 (Llanrwst)
Parkinson, A.J. (1994),
‘Paintings and Inscriptions in Pennant Melangell Church’, Mont Coll 82:
139–46
Radford, C.A.R. (1959), ‘Pennant Melangell: the Church
and Shrine’, Archaeologia Cambrensis, 108:
81–113
Ridgway, M.H. (1994), ‘Furnishings and Fittings in
Pennant Melangell Church’, Mont Coll 82: 127–38
Williams, I.
(1929–31), ‘Ystorya Drystan’, B v: 115–29
Canwyd dau gywydd marwnad i Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad yn Llangywer, y naill (cerdd 42) gan Guto a’r llall gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 232). Canodd Madog Dwygraig ddwy awdl farwnad i’w orhendaid, Gruffudd ap Madog (GMD cerddi 1 a 2), a chanodd Tudur Penllyn gywydd i ofyn march gan fab Einion, Ieuan (GTP cerdd 34).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 1, 43, ‘Meirion Goch’ 3, ‘Rhirid Flaidd’ 1, 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A, ‘Rhirid Flaidd’ 3A. Dangosir yr unigolion a enwir yn y farwnad a ganodd Guto i Einion mewn print trwm, a thanlinellir enw’r noddwr.
Achres Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad
Fel nifer helaeth o uchelwyr Meirionnydd yn y bymthegfed ganrif, disgynnai Einion ap Gruffudd o linach Rhirid Flaidd, arglwydd Penllyn. Yn ôl achresi Bartrum, roedd gan Einion ddwy chwaer hŷn, sef Morfudd a Gwerful, ac un brawd iau, sef Ithel. Bu’n briod deirgwaith, yn gyntaf gyda Gwenhwyfar ferch Ieuan, yn ail gyda Siân ferch Gronw o Elfael ac yn drydydd gyda Thanw ferch Ieuan Fychan. Ni nodir plant i Einion a Siân. Diddorol yw nodi bod Tanw ferch Ieuan Fychan yn chwaer i Werful, gwraig Tudur Penllyn.
Ceir ansicrwydd ynghylch perthynas rhai o gyndeidiau Einion. Yn yr achres uchod rhoir Rhys, taid Einion, yn fab i Ruffudd ap Madog, ond gall mai mab ydoedd i’r gŵr a nodir fel ei frawd uchod, sef Ieuan ap Gruffudd (GTP 129). Roedd Ieuan yn filwr enwog a fu farw c.1385, a gwelir ei gorffddelw yn eglwys Llanuwchllyn.
Nid yw dyddiad marwolaeth Einion yn hysbys. Yn ôl Guto, fe’i claddwyd yn eglwys Pennant Melangell. Ymddengys fod gan gyndeidiau Einion gysylltiadau ag ardal Pennant Melangell (42.25–7n), ac awgryma Gresham (1968: 176–8) mai ei orhendaid, Madog ab Iorwerth, a goffeir gan gorffddelw yn yr eglwys.
Llyfryddiaeth
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales (Cardiff)