Chwilio uwch
 
46 – Ymateb Guto’r Glyn i Ieuan ap Tudur Penllyn
Golygwyd gan R. Iestyn Daniel


1Och wŷr, a glywsoch, werin, – y damwain,
2Fod yma ledfegin
3Yn llwyd fal y dunnell win,
4Yn llawn hyd ei benllinin?

5Ni ad gwraig ar graig nac ar egin – haidd
6Y dyrnflaidd cadarnflin,
7Nac yn ŵr heb gnoi’i eirin,
8Na chal dew uwchlaw ei din.

9Ysbeiliodd Dudur (oes bilin – a’i cudd?),
10Cywyddol fal Merddin;
11Ni mynnai fwyd mewn ei fin
12Eithr cwthr yr athro cethin.

13Nid cyfan achlân uwch ei lin – a’i gorff
14Nac arffed na bontin,
15Na bol crych na balog crin,
16Na thor, ffordd y gwnaeth eirin.

17Nid oes waith, dilaith yn dilin – ei lawdr,
18I Wladus na Chatrin;
19Ni ad y blaidd o’r gwreiddin
20Yn ei ôl ef un o’i lin.

21Coginio a wnaeth mewn eithin – a grug,
22Heb na graens na chwmin,
23Bwyd o’i geilliau a’i bidin,
24Blaidd du a biliodd ei din.

25On’d truan y gwnaeth taer ewin – costog,
26Torri castr y dewin?
27Ni ddeil yrhwng ei ddeulin
28Un llost ond gwyn wy a llin.

1Och wŷr, a glywsoch, bobl, am y ddamwain,
2a bod yma greadur gwyllt
3sy’n llwyd fel tun o win,
4yn llawn hyd ei gynffon?

5Ni ad y blaidd rheibus didostur a blin
6wraig ar graig nac ar egin haidd,
7na gŵr heb gnoi ei geilliau,
8na phidyn tew uwchben ei din.

9Ysbeiliodd Dudur (a oes dilledyn i’w guddio?),
10prydydd fel Myrddin;
11nid oedd yn dymuno bwyd yn ei geg
12ond tin yr athro gerwin.

13Nid yw ei afl na’i ffolen yn gwbl gyfan
14uwchben ei ben-glin a’i gorff,
15na’i fol garw na’i falog crin,
16na’i chwydd, y modd y gwnaeth y blaidd â’i geilliau.

17Nid oes gwaith, a dinistr yn ymlid ei drowsus,
18i Wladus na Chatrin;
19ni âd y blaidd o’r gwreiddyn
20un o’i wehelyth ar ei ôl.

21Coginio a wnaeth mewn eithin a grug,
22heb rawn na chwmin,
23fwyd o’i geilliau a’i bidyn,
24digroenodd blaidd ysgeler ei din.

25Onid peth truenus a wnaeth genau ffyrnig creadur anfwyn
26yn torri cal y gŵr dysgedig?
27Nid yw’n dal rhwng ei bengliniau,
28un pidyn ond gwyn wy a gwaedlin.

46 – Guto’r Glyn’s response to Ieuan ap Tudur Penllyn

1Alas, men, have you heard, folk, of the accident,
2and that there’s a wild beast here
3which is grey like a tun of wine,
4and full up as far as its tail?

5The ravenous wolf, pitiless and mean,
6does not leave a woman on a rock or barley sprouts,
7or a man without chewing his testicles,
8or a fat penis above his arse.

9It robbed Tudur (is there a garment to conceal him?),
10a poet like Myrddin;
11he didn’t want food in his mouth
12except the fierce master’s bum.

13Neither his crotch nor his buttock is entirely whole
14above his knees and body,
15or his rough belly or his crinkled cod piece,
16or his protuberance, the way the wolf treated his balls.

17There’s no work, destruction chasing his trousers,
18for Gwladus or Catrin;
19the wolf will not leave from the root
20one member of his stock behind him.

21It cooked amid gorse and heather,
22without grain or cumin,
23food from his testicles and prick,
24a wicked wolf skinned his arse.

25Wasn’t it sad what the fierce jaws of a snarling brute did,
26severing the learned gentleman’s penis?
27He doesn’t hold between his knees
28any prick except the white of an egg and flow of blood.

Y llawysgrifau
Ceir y gyfres englynion hon mewn tair llawysgrif, sef Pen 99, LlGC 1553A a CM 12. Ceir pedwar englyn yn Pen 99, ond ceir saith yn LlGC 1553A, a chopi yw CM 12 o Pen 99. Tybed a hepgorwyd y tri englyn olaf o Pen 99 oherwydd barnu cynnwys y pumed yn anweddus? Pur debyg yw testun Pen 99 i’r rhan gyfatebol o destun LlGC 1553A a gellir eu holrhain i’r un gynsail. Mae’r tair llawysgrif yn dwyn cyswllt â gogledd a chanolbarth Cymru ac nid oes yr un o darddiad deheuol. Seiliwyd y testun golygyddol ar destunau Pen 99 a LlGC 1553A.

Trawsysgrifiadau: Pen 99, LlGC 1553A.

stema
Stema

1 y  Gellid hefyd ystyried darlleniad LlGC 1553A yn damwain lle gallai yn gynrychioli ein.

5 gwraig  LlGC 1553A wraig, ond gallai’r gwrthrych ar ôl person trydydd unigol presennol mynegol y ferf fod yn ddidreiglad neu’n dreigledig, gw. TC 190.

5 ar graig  or graig a geir yn Pen 99 ond gwell yw darlleniad LlGC 1553A.

8 dew  LlGC 1553A y dyn, darlleniad na rydd gystal synnwyr ac a wna’r llinell yn rhy hir o sillaf.

9 oes bilin  oes silin sydd yn y llawysgrifau (a cf. GGl) ond ni rydd gynghanedd ac anfoddhaol yw’r synnwyr, felly diwygir. Â bilin cf. 24 biliodd.

17–28  Yn LlGC 1553A yn unig y ceir y llinellau hyn.

17 lawdr  LlGC 1553A lowdwr. Diwygir er mwyn hyd y llinell.

24  LlGC 1553A y blaidd dv a biliodd i din. Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf, felly gellir ei diwygio yn blaidd du a biliodd neu’n y blaidd du biliodd, gan hepgor y rhagenw perthynol fel y gwneir yn aml yn y farddoniaeth.

25 taer  LlGC 1553A tai r. Diwygir er mwyn y synnwyr.

27 ni ddeil  LlGC 1553A i ddail ond anfoddhaol yw’r synnwyr a’r gystrawen felly, a diwygir.

27 yrhwng  LlGC 1553A rhwng. Diwygir er mwyn hyd y llinell.

Cyfres o englynion unodl union yw’r gerdd hon lle honna Guto fod blaidd wedi ymosod ar geilliau Tudur Penllyn. Yn GGl 93, yn dilyn y dyfyniad o’r rhaglith i Pen 99, ceir y geiriau ‘Ateb i Ieuan ap Tudur Penllyn’, ond ni cheir y geiriau hyn yn rhagflaenu nac yn dilyn y gerdd yn y llawysgrif hon nac yn y ddwy lawysgrif arall ychwaith (LlGC 1553A, CM 12) ac mae’n sicr mai at dad Ieuan, Tudur, yr anelwyd yr englynion hyn.

Diau, fel y dywed Jerry Hunter (1997: 43), mai’r cefndir i’r gerdd yw achlysur pan wnaed Tudur Penllyn yn gyff clêr ar y testun fod blaidd wedi mynd â cheilliau’r bardd, a cheir cyfres o englynion a ganodd Tudur yn neithior Dafydd Amhredudd Fychan sydd, yn ddiau, yn cynrychioli’r ateb a roddodd Tudur Penllyn i’r beirdd a’i testuniodd (cerdd 46b). Mae’r englynion a ganodd Ieuan ap Tudur Penllyn ar yr un achlysur, hwythau, wedi goroesi (cerdd 46a).

Awgrymodd ôl Hunter (1997: 42–3, 47, 48) fod y beirdd a destuniai’r pencerdd yn glêr yn yr ystyr o fod yn feirdd israddol ac mai dyna pam na chofnodid eu cerddi gan amlaf, yn wahanol i atebion y pencerdd. Prin, er hynny, y gellid galw ymosodiadau Guto’r Glyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn yn waith beirdd israddol – a chofier hefyd fod Hywel Cilan a Gutun Owain ymysg y beirdd eraill a ddychanodd Dudur Penllyn ar yr un achlysur (gw. cerdd 46b). Beth bynnag fo’r rheswm am brinder cerddi’r glêr yn y llawysgrifau, dengys y dystiolaeth hon, o leiaf, fod rhai ohonynt ymysg beirdd gorau’r oes.

Ceir rhai enghreifftiau eraill o englynion cyff clêr yn y llawysgrifau, megis y rheini rhwng Gruffudd Hiraethog a beirdd eraill (GGH cerdd 151), ond yn y tair cerdd dan sylw y ceir y cipddarlun cliriaf a chynharaf sy’n bod o’r math hwn o ganu a pherthyn iddynt gryn bwysigrwydd o’r herwydd.

Dyddiad
Cyfnod blodau Ieuan oedd c.1465–c.1500 (GTP xxxiv), a chyfnod ei dad oedd c.1415/20–c.1485 (GTP xiii), a gellir cynnig, felly, mai rywbryd rhwng c.1465 a c.1485 y canodd Guto ei englynion.

Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXXIV.

Mesur a chynghanedd
Saith englyn unodl union, ar yr un brifodl -in.
Cynghanedd (gan hepgor ail linell yr englynion o’r cyfrif): croes 27% (6 llinell), traws 54.5% (12 llinell), sain 14% (3 llinell), llusg 4.5% (1 llinell).

1wŷr … werin  Mae’r cyfarchiadau hyn yn peri meddwl am ddechrau baled.

5 Ni … haidd  Yr ystyr yw nad yw’r blaidd yn caniatáu i wraig fynd ar gyfyl y math o leoedd a enwir. Ymysg y mathau o fannau sy’n hoff gan fleiddiaid mae creigleoedd, gw. Fychan 2006: pennod un. Ni chyfyngant eu hymborth i gig yn unig ychwaith, gan fwynhau llystyfiant a phlanhigion hefyd.

10 Merddin  Cyffelyba Guto Dudur Penllyn yn chwareus i’r bardd chwedlonol a’r daroganwr Myrddin, gw. CLC2 527.

12 athro  Cyfeiriad at awdurdod Tudur Penllyn fel bardd; cf. disgrifiad Guto o Lywelyn ab y Moel yn 82.40 fel athro gwawd.

12 cethin  Gallai gyfeirio at liw Tudur Penllyn neu at ei gymeriad; dichon fod yr amwysedd yn fwriadol.

17–18 gwaith … / I Wladus … Chatrin  Dichon mai difyrrwch cnawdol yw arwyddocâd gwaith yma ac mai cariadon i Dudur Penllyn yw Gwladus a Chatrin. Yn ôl WG2 ‘Meirion Goch’ 3 (A), Gwerful ferch Ieuan Fychan oedd enw ei wraig, ac enw wyres iddo yno yw Catrin.

21 coginio a wnaeth  Deellir 19 blaidd yn oddrych y ferf.

22 graens na chwmin  Cf. 97.51–4 Sinsir a felir ar fwyd / A graens da rhag yr annwyd. / Sinamwm, clows a chwmin, / Suwgr, mas i wresogi’r min.

24 Blaidd du a biliodd ei din  Deellir y geiriau hyn yn frawddeg ychwanegol. Gellid gwneud Blaidd du yn oddrych 21 Coginio a wnaeth, hynny yw ‘coginio a wnaeth ... y blaidd du a ddigroenodd ei din fwyd o’i geilliau a’i bidin’, ond byddai hyn yn llai naturiol ac mae’r geiriau Blaidd du a biliodd ei din yn ychwanegu at y ddrama.

Llyfryddiaeth
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52

This poem is a series of englynion unodl union in which Guto maintains that a wolf had attacked Tudur Penllyn’s testicles. In GGl 93, following the citation of the preface to Pen 99, we find the words ‘Ateb i Ieuan ap Tudur Penllyn’ (‘Response to Ieuan ap Tudur Penllyn’), but these words neither precede nor follow the poem in this manuscript or in the other two (LlGC 1553A, CM 12) and these englynion were certainly directed at Ieuan’s father, Tudur.

As Jerry Hunter (1997: 43) asserts, the backdrop to the poem is probably some occasion on which Tudur Penllyn was made a cyff clêr (‘minstrels’ butt of satire’) on the theme that the wolf has taken the poet’s testicles, and there is extant a series of englynion which Tudur sang at the wedding-feast of Dafydd Amhredudd Fychan which no doubt represents Tudur Penllyn’s reply to the poets who ridiculed him (poem 46b). The englynion that Ieuan ap Tudur Penllyn sang on the same occasion have also survived (poem 46a).

Hunter (1997: 42–3, 47, 48) suggested that the poets who satirized the pencerdd (‘master-bard’) were clêr (‘minstrels’) in the sense of being inferior poets and this is why their poems were not usually recorded, unlike the responses of the pencerdd. The poems of Guto’r Glyn and Ieuan ap Tudur Penllyn, however, can scarcely be described as the work of inferior poets – and it should also be recalled that Hywel Cilan and Gutun Owain were among the other poets who lampooned Tudur Penllyn on the same occasion (see poem 46b). Whatever the explanation for the dearth of poems composed by the clêr in the manuscripts, this piece of evidence, at least, shows that some of them were among the best poets of the day.

There are other instances of englynion directed at a cyff clêr in the manuscripts, such as those exchanged between Gruffudd Hiraethog and other poets (GGH poem 151), but the three poems under notice afford us the clearest and earliest snapshot of this kind of composition and as such are of considerable importance.

Date
Ieuan flourished c.1465–c.1500 (GTP xxxiv), and his father’s years were c.1415/20–c.1485 (GTP xiii). It may therefore be proposed that Guto sang the englynion sometime between c.1465 and c.1485.

The manuscripts
The poem has been preserved in three manuscripts: Pen 99, LlGC 1553A and CM 12, which is a copy of Pen 99. Pen 99 has four englynion, but LlGC 1553A has seven. The last three englynion were possibly omitted in Pen 99 because the content was considered unseemly. The text of Pen 99 is pretty similar to the corresponding part of LlGC 1553A and they can be derived from the same exemplar. The three manuscripts have links with north and mid Wales and none with the South. The edited text is based on Pen 99 and LlGC 1553A.

stema
Stemma

Previous edition
GGl poem XXXIV.

Metre and cynghanedd
Seven englynion unodl union on the same main rhyme, -in.
Cynghanedd (discounting the second line of the englynion): croes 27% (6 lines), traws 54.5% (12 lines), sain 14% (3 lines), llusg 4.5% (1 lines).

1 wŷr … werin  These salutations are reminiscent of the opening of a ballade.

5 Ni ... haidd  The meaning is that the wolf does not permit a woman to go anywhere near the kind of places mentioned. Among the kinds of places which wolves like are rocky terrain, see Fychan 2006: chapter one. Neither do they limit their diet solely to meat but enjoy vegetation and plants too.

10 Merddin  Guto likens Tudur Penllyn playfully to the legendary poet and vaticinator Myrddin (Merlin), see NCLW 522.

12 athro  A reference to Tudur Penllyn’s authority as a poet; cf. Guto’s description of Llywelyn ab y Moel in 82.40 as Athro gwawd ‘authority on song’.

12 cethin  It could refer either to Tudur Penllyn’s colouring or character; the ambiguity is probably deliberate.

17–18 gwaith … / I Wladus … Chatrin  It may be that gwaith signifies carnal diversion here and that Gwladus and Catrin are sweethearts of Tudur Penllyn’s. According to WG2 ‘Meirion Goch’ 3 (A), his wife’s name was Gwerful daughter of Ieuan Fychan, and a grand-daughter of his mentioned there is named Catrin.

21 coginio a wnaeth  19 blaidd is taken as the subject of the verb.

22 graens na chwmin  Cf. 97.51–4 Sinsir a felir ar fwyd / A graens da rhag yr annwyd, / Sinamwm, clows a chwmin, / Suwgr, mas i wresogi’r min ‘Ginger is ground on food / and excellent grains to keep against the cold, / cinnamon, cloves and cummin, / sugar, mace to warm the lips’.

24 Blaidd du a biliodd ei din  These words are taken as an additional sentence. Blaidd du could be made the subject of 21 Coginio a wnaeth, i.e., ‘the wicked wolf that skinned his arse cooked ... food from his testicles and prick’, but this appears less natural, and the words Blaidd du a biliodd ei din add to the drama of the event.

Bibliography
Fychan, C. (2006), Galwad y Blaidd (Aberystwyth)
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–.1500

Ieuan ap Tudur Penllyn, 1433/40–c.1500

Top

Ieuan ap Tudur Penllyn yw awdur cerdd 46a, sef cyfres o englynion sy’n dychanu ei dad, Tudur Penllyn, a oedd hefyd yn fardd. Canodd Guto gyfres debyg o englynion ar yr un pwnc (cerdd 46) a chanodd Tudur yntau gyfres arall o englynion i’w amddiffyn ei hun (cerdd 46b). Testun y dychan yn y cerddi hyn yw’r honiad (dychmygus, yn ôl pob tebyg) fod ceilliau Tudur wedi eu cipio gan flaidd.

Achres
Olrheiniai Ieuan ei ach i Feirion Goch, uchelwr o Edeirnion a sylfaenydd gwehelyth y Rhiw yn Llŷn. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Meirion Goch’ 1, 3, ‘Rhirid Flaidd’ 3, 8; WG2 ‘Meirion Goch’ 3A.

lineage
Achres Ieuan ap Tudur Penllyn

Fel y gwelir, roedd Ieuan yn nai i un o noddwyr Guto, Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad.

Ei yrfa
Cafodd Ieuan ei eni tua 1433–40, yng Nghaer-gai ym mhlwyf Llanuwchllyn, mae’n debyg, a bu farw tua 1500. Credir i gyfnod ei ganu ymestyn o c.1458–65 hyd ddiwedd y ganrif. Priodolir 15 cerdd iddo ac ynddynt ceir moli a marwnadu, gofyn a dychan. Ymysg y sawl y canodd iddynt roedd aelodau o deuluoedd Abertanad, yr Wyddgrug, Ynysymaengwyn a Gwydir, ac fel llawer o feirdd eraill canodd i’r Abad Dafydd ab Owain. Yn ogystal â’i dad, roedd ei fam, Gwerful ferch Ieuan Fychan, a’i chwaer, Gwenllïan, yn feirdd. Ymhellach, gw. GTP; ByCy Ar-lein s.n. Ieuan ap Tudur Penllyn.


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)