Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 22 llawysgrif. Mae’r llawysgrifau yn dilyn yr un drefn linellau ond collwyd diwedd y cywydd yn Gwyn 4 ac un cwpled yn LlGC 16129D. Ceir perthynas agos rhwng yr holl lawysgrifau, gyda mân amrywiadau yn unig. Ar sail hynny, awgrymir eu bod oll yn tarddu o dri fersiwn gwahanol o’r gerdd, sef X1, X2 ac X3 yn y stema.
Perthyn LlGC 3049D, Gwyn 4 a LlGC 8497B i’r grŵp cyntaf a tharddant o gynsail gyffredin, sef X1 yn y stema. Mae testun Pen 82 hefyd yn perthyn yn agos iawn i’r copïau hyn ac o bosibl yn tarddu o’r un gynsail, e.e. ceir yr un darlleniadau megis lliw (llinell 2), craig (7) a clo (14), &c. Fodd bynnag ceir rhai darlleniadau sy’n ei chysylltu’n nes ag X2, e.e. dadl (32), ŵr (40) a tŷ (64) ac un darlleniad sy’n ei chysylltu ag X3 sef porth (12). Felly mae’n bosibl i gopïydd Pen 82 fod yn ymwybodol fod mwy nag un fersiwn o’r cywydd hwn wrth ei gopïo.
I’r grŵp nesaf y perthyn BL 14978 a LlGC 16129D (X2 yn y stema). Rhydd y ddau destun ddarlleniadau unigryw, e.e. yw ac amheurig (1), dadl (32), aelwyd (33) ac wr (40). BL 14978 yw’r llawysgrif gynharaf o’r ddwy (c.1600) ac ynddi hi ceir y testun gorau gan ategu rhai darlleniadau’r grŵp uchod. Mae LlGC 16129D yn llwgr ac yn cynnwys darlleniadau nas ceir yn y testunau eraill. Ar y cyfan felly nid yw X2 yn cynnig testun da iawn o’r gerdd.
Mae’r grŵp nesaf o lawysgrifau, sef Pen 97, C 2.617, LlGC 19907B, Pen 152, Llst 30, LlGC Mân Adnau 1206 a Pen 198 yn sefyll ar wahân gan eu darlleniadau o llew yn hytrach na lliw (2), gwraig yn hytrach na graig (7) ac ai yn lle oi (28). O ran eu perthynas o fewn y grŵp, mae’n anodd iawn gwybod pa rai sy’n gopïau o’i gilydd. Ond un peth sy’n eu clymu ynghyd yw’r ffaith fod gan pob un gysylltiad â theuluoedd Nannau a Chorsygedol. Y copi hynaf o’u plith yw copi Pen 97 (c.1604): llawysgrif a chysylltiad â Hywel Fychan ap Gruffudd, tad yr hynafiaethydd Robert Vaughan, disgynnydd i deulu Nannau. Yn llaw Robert Vaughan ei hun mae’r copi yn LlGC 19907B, ac ar sail y darlleniad peraig yn llinell 51 (nid penaig) ac a mi (42) dichon fod hwnnw’n gopi o Pen 97. Mae Pen 198 (‘y llyfr brith o Gorsygedol’) a LlGC Mân Adnau 1206 yn gopïau o LlGC 19907B. Perthyn LlGC 3061D i’r un grŵp, sef llawysgrif yn llaw Siôn Dafydd Laes, bardd proffesiynol Nannau yn yr ail ganrif ar bymtheg. Dyma destun sydd weithiau’n dilyn X1 (e.e. lliw) ond mae mwyafrif y darlleniadau yn nes at Pen 97 (28, 42 a 51). Ef hefyd a fu’n gyfrifol am gopïo’r gerdd yn LlGC 3021F (yn gynharach, fe ymddengys), copi o LlGC 21248D. Mae’n ymddangos, felly, fod ganddo fwy nag un copi wrth law pan aeth ati i gopïo’r cywydd. Cadwyd testun arall yn llaw Robert Vaughan sef yn Pen 152 a ddyddir c.1654. Dengys trefn y cerddi yn y llawysgrif ei fod yn gopi o Llst 30.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, BL 14978, Pen 97 a C 2.617.
1 fu Hywel a Meurig Darlleniad X1 ac X3. Ceir yr amrywiad vw howel amhevrig yn X2 ond nid yw amser y ferf a rydd yw yn ystyrlon gan fod Hywel Amheurig (neu Hywel Selau) wedi marw erbyn canu’r cywydd. Yn hytrach, dichon i’r copïydd newid fu yn yw er mwyn y gynghanedd. Mae’r dystiolaeth yn gryfach tros fu ac mai at y ddau frawd Hywel a Meurig ... / ... Llwyd y cyfeiria’r bardd (gw. hefyd y nodyn 1n (esboniadol)).
2 lliw Sef darlleniad X1 ac X2. Mae darlleniad X3 sef llew hefyd yn ystyrlon gan mai hwnnw yw’r anifail a gynrychiola teulu Nannau ar eu harfbais fel disgynyddion i Gadwgan ap Bleddyn. Cryfach, fodd bynnag, yw tystiolaeth y llawysgrifau tros lliw yma; dyma ddarlleniad LlGC 3061D hefyd.
6 trum Rhannwyd y llawysgrifau gyda X1 yn darllen trum, X2: trem ac X3: trwm. Ystyr trum yw ‘(copa) mynydd neu fryn, brig, esgair, clogwyn, llethr’ ac mae hynny’n fwy synhwyrol yn y cyfuniad trum araul fel disgrifiad o dir Meurig. Ar sail yr ystyr, felly, dilynir X1 yma.
7 y Graig Wen Sef darlleniad X1 ac X2. Mae X3 yn darllen y wraig wen, efallai oherwydd a fagai’r gwŷr. Ond mae’r Graig Wen neu’r Wengraig yn enw sy’n gysylltiedig â theulu Nannau ers yr Oesoedd Canol (gw. 7n (esboniadol)).
12 pyrth Mae X1 ac X2 yn darllen yr enw unigol porth yma ac X3 yn darllen y lluosog pyrth. Ond er bod y dystiolaeth yn gryfach tros porth mae’r darlleniad pyrth yn osgoi ailadrodd yr un gair o fewn yr un llinell. At hynny, y darlleniad pyrth sydd hefyd yn Pen 82.
13 Feurig Dilynir X1 ac X3; didreiglad yw Meurig yn X2. Digon arferol yw treiglo enw priod genidol ar ôl enw benywaidd unigol yn y cyfnod hwn.
14 heb gloi Darlleniad X2 ac X3. Yr enw clo yn hytrach na’r berfenw cloi yw darlleniad X1 (ac eithrio LlGC 8497B), felly mae’r dystiolaeth yn gryfach tros cloi yma.
24 yw Hepgorir yw yn X3.
28 O’u Darlleniad X1 ac X2. Ceir ai yn X3.
32 dal ar far Darlleniad X1 ac X3. Rhydd X2 a Pen 82 y darlleniad dadl yma: efallai i’r copïydd geisio dyblu’r gystain d yn rhan gyntaf y llinell er mwyn cryfhau’r gyfatebiaeth gytseiniol.
33 aelod fawr o Darlleniad X1 ac X3 yw aelod; ni cheir rheswm, felly, dros y darlleniad aelwyd a geir yn X2.
40 wŷr Darlleniad X1 ac X3. Y ffurf unigol wr sydd yn Pen 82 ac X2, ond nid ymddengys fod hwn yn gyfeiriad penodol at y bardd ei hun ond at hen wŷr yn gyffredinol.
42 ym Darlleniad X1, X2 ac X3; ond hepgorir ym yn Pen 97 sy’n gwneud y llinell yn fyr o sillaf.
46 o Weurful Ceir dau sillafiad ar yr enw priod hwn yn y llawysgrifau: X1 ac X2 weurful (ac eithrio Pen 82 a LlGC 16129D); X3 werfyl. Dilynir y ffurf yn y llawysgrifau hynaf. At hynny, Gweurful yw’r sillafiad yng ngherdd 88, ymhellach gw. 88.4n (testunol).
51 penaig Eto, mae Pen 97, LlGC 19907, LlGC Mân Adnau 1206, Pen 198 a LlGC 3061D yn cynnig darlleniad unigryw sef peraig. Dichon i ryw gopïydd gamddarllen r am n yn ei gynsail.
52 a’r ferch Darlleniad LlGC 3049D yn unig, ond rhaid ei ddilyn oherwydd y gynghanedd.
64 dai Darlleniad X1 ac X3. Y ffurf unigol tŷ sydd yn X2 a Pen 82.
Moliant i Feurig Fychan ap Hywel Selau ac Angharad ferch Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu yw’r gerdd hon. Molir hefyd eu mab, Dafydd ap Meurig Fychan, a’i wraig yntau, Elen ferch Hywel ap Rhys o’r Rug.
Cydnabod grym hynafiaid Meurig Fychan a wna’r bardd yn rhan agoriadol y cywydd, sef y ddau frawd Hywel a Meurig Llwyd (yr olaf yn daid iddo). Fel y noddwr presennol, bu hwythau’n noddwyr hael (llinellau 3–4). Â Guto rhagddo i ganmol y llys fel mangre hardd ar gopa’r bryn (6) lle magwyd cenedlaethau o uchelwyr o linach Ynyr, arglwydd Nannau yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg (8n Ynyr). Y wledd a gaiff y sylw nesaf (9–16). Mae Meurig yn rhagori ar wŷr cyfoethog Lloegr o ran ei hoffter o winoedd (9–10), ac mae ei barodrwydd i rannu gwledd fawr â’i bobl yn ei lys yn ganmoladwy iawn. Yr arferiad oedd cau drysau’r llys pan gâi’r bwyd ei weini, ond nid dyna’r drefn yn Nannau gan fod y drysau yno bob amser ar agor (13–16). Gyda’r sôn am wleddoedd troir at Angharad, gwraig hael a [th]eg Meurig, sy’n dwyn yr un enw ag Angharad, y wraig lwyd, sef hen nain Meurig o bosibl (24).
Dafydd, y mab a’r etifedd a gaiff y sylw nesaf: ef yw’r pennaf o blith gwŷr ifainc. Ceir awgrym iddo eistedd i wrando ar achosion cyfreithiol mewn llys barn (32–3) ac o’r herwydd iddo fod yn gynrychiolydd pwysig ym Meirionnydd (34–5). Newidir y naws yn llwyr wrth droi at ei wraig, Elen. Clywir llais y claf neu’r cardotyn gan Guto wrth iddo sôn am dderbyn gofal gan Elen yn y Bala (39–42). Nodir ei bod hithau’n hanu o linach wych, yn wyres i Weurful Hael a Rhys ap Dafydd o’r Rug. Fe’i cymherir hi’n arbennig â’i nain, Gweurful Hael, hithau’n noddwraig enwog am ei haelioni tuag at y beirdd ac yn un o noddwyr Guto (45–8).
Yn rhan olaf y cywydd mae Guto yn datgan ei fwriad i ymweld â Dafydd ac Elen yn Nannau yn ei henaint; awgrym fod Guto’n weddol ifanc pan ganodd y cywydd. Â rhagddo i ganmol y pedwar gyda’i gilydd, y ddau ŵr a’r ddwy wraig, gan ddymuno bendith Duw iddynt (55–8). I gloi, dywed y bardd ei fod am fynd i Nannau i orffwyso ei gorff a’i enaid. Ei gyngor yw: os oes unrhyw un am estyn ei oes, bydded iddo ddiweddu ei ddyddiau yn nhŷ Meurig Fychan.
Dyddiad
Ni cheir unrhyw wybodaeth yn y gerdd sy’n gymorth i’w dyddio. Ganwyd Meurig Fychan tua 1400 ac roedd yn aelod o reithgor llys Caernarfon yn 1452/3 yn ôl dogfen yng nghasgliad llawysgrifau Nannau (gw. Parry 1958: 81–2). Ond ceir bwlch yn y casgliad hwnnw o 1460 i 1480 gyda’r cyfeiriad olaf at Feurig yn 1460. Mae’n debygol iddo fyw am ychydig wedi hynny; bu farw yn 1482 yn ôl un ffynhonnell (gw. RWM ii, 847 a cherdd 50). Awgryma’r bardd fod Dafydd, ei fab, yn weddol ifanc (30–4), ac yn briod ag Elen, ond nid oes sôn am eu mab Hywel ap Dafydd ap Meurig Fychan. Nid oes cofnod am ymwneud Dafydd â’r stad cyn 1460 pan oedd Nannau yn nwylo Meurig Fychan a’i ewythr Gruffudd Derwas (digwydd y cyfeiriadau olaf at y ddau yn 1459/60). Mae’n bosibl, felly, i’r bardd ganu’r cywydd hwn ar ddyfod Dafydd ap Meurig Fychan i’r stad, rywbryd ar ôl 1460 a chyn 1482.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 64 llinell.
Cynghanedd: croes 64% (41 llinell), traws 20% (13 llinell), sain 8% (5 llinell), llusg 8% (5 llinell).
1 Hywel Roedd Hywel ap Meurig Fychan yn hen ewythr i Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd. Ef oedd yr hynaf o’r ddau frawd Hywel a Meurig Llwyd a chyda’i frawd bu’n fân swyddog yng nghwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 ac eto yn 1395/6, gw. Parry 1965–8: 188, GLlG 8.73–4n a Richards 1961–2: 400–1.
1–2 Meurig / Llwyd Roedd Meurig Llwyd ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan yn daid i Feurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd. Ef oedd brawd ieuengaf Hywel a deiliad Nannau wedi marwolaeth eu tad. Cofnodir ei fod ef a’i frawd yn ymwneud â mân swyddi yng nghwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 ac eto yn 1395/6, gw. Parry 1965–8: 188. Meibion i Feurig Llwyd oedd Hywel Selau (16n) a Gruffudd Derwas.
3 Meurig Fychan Sef Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd o Nannau. Hanai’n uniongyrchol o Fleddyn ap Cynfyn, tywysog Powys yn y ddeuddegfed ganrif.
3 Nannau Plasty yn ardal Llanfachreth a chartref Meurig Fychan ac Angharad; ar Nannheu, Nanneu, sy’n hen ffurf luosog nant, gw. ELl 26. Codwyd y plasty gan Gadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif ond fe’i llosgwyd i lawr gan Owain Glyndŵr tua 1402, yn nyddiau Hywel Selau, tad Meurig Fychan yn ôl y traddodiad (gw. 16n a Vaughan 1961–4: 120–1). Yn ôl Vaughan (ibid.: 119), roedd adfeilion hen dŷ Hywel Selau i’w gweld yn nyddiau Pennant, ym mharc y tŷ diweddarach ger y porthdy a adeiladwyd yn y ddeunawfed ganrif (â cherrig o’r hen dŷ yn ôl traddodiad lleol). Ers y drydedd ganrif ar ddeg, ochrodd teulu Nannau gyda’r Goron, ond law yn llaw â hynny buont yn driw i’r beirdd a’u traddodiadau gan eu noddi hyd at yr ail ganrif ar bymtheg. Ar y canu i deulu Nannau, gw. Hughes 1968–9: 157–66 a Williams 2001: 611.
6 trum araul Ystyr trum yn ôl GPC 3623 yw ‘(copa) mynydd neu fryn, brig, esgair’ a ‘disglair’ neu ‘heulog’ yw ystyr araul, gw. ibid. 178. Disgrifiad o [d]ir Meurig yn disgleirio ar grib y mynydd sydd yma, cf. Ellis 1954: 106, ‘ac yna, o ddringo tipyn yn ychwaneg, mae Nannau bron ar y grib yn ysblander ei urddas a’r coedydd o gwmpas y tŷ’. Ymddengys fod y tŷ wedi ei adeiladu 700 troedfedd uwchlaw’r môr, gw. ByCy 640–1.
7 y Graig Wen Cytunir â dehongliad GGl yma a deall y Graig Wen a’r Llwyn-onn (isod 8n Llwyn-onn) yn enwau lleoedd. Ceir lle o’r enw Gwengraig yn gysylltiedig â theulu Nannau (gw. WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 49) ac mae’n bosibl fod Guto’n chwarae â’r enw hwnnw yma, cf. 50.50 Dau’n ungrefft dan y Wengraig a 51.13 Af i’r Wengraig fariangrys (cf. yr enw Coed y Graig Wen o hyd yn agos i Nannau). Yn ôl Jones (1949: 21): ‘ “Gwengraig” or “Y Wengraig” is the name of a spur of the cader range as well as that of the tenement.’ Ond ceir ffermdy hefyd o’r enw Gwengraig ger Dolgellau ac mae’n debyg mai cangen arall o’r teulu a oedd yn byw yno, sef disgynyddion Hywel ab Ynyr Fychan, brawd Meurig Fychan ab Ynyr Fychan. Cryf yw’r dystiolaeth mai enw lle ydyw gan feirdd diweddarach hefyd (cf. y cywydd gan Hwmffre ap Hywel i Hywel Vaughan o’r Wengraig sy’n ei alw’n winau garw glwys Gwengraig lân, Davies 1974: 95). Ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, y Wengraig oedd cartref Hywel Vaughan, tad yr hynafiaethydd Robert Vaughan o’r Hengwrt, a chaiff ei leoli ar ‘ochr ddwyreiniol Cadair Idris yn nhrefgordd Garthgynfor’ (ibid: 95).
8 Llwyn-onn Ceir ffermydd o’r enw Llwyn-onn Isaf a Llwyn-onn Uchaf ym mhlwyf Llanaber yn Ardudwy ac o’r ardal honno yr hanai mam Meurig, Mali ferch Einion ap Gruffudd o Gorsygedol (gw. Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Einion).
8 Ynyr Roedd Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd yn ororwyr i Ynyr Fychan ac yn or-ororwyr i Ynyr Hen (fl. yn gynnar yn y 13g.), un o ddisgynyddion Bleddyn ap Cynfyn (fl. 1063–75).
15 porthoriaeth Sef ‘swydd neu waith porthor’, gw. GPC 2858. Dull o ganmol lletygarwch noddwr yw honni bod drysau ei lys heb eu cloi a phob amser ar agor, cf. GO XIX.46 A’i pyrth a ery heb porthorrion. Ymhellach, gw. Smith 2007: 181–94 (185–6 yn arbennig).
16 Hywel Selau Sef tad Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd; caiff ei alw hefyd yn Hywel Sele ac yn Hywel Amheurig, gw. 50.18n (testunol); GGLl 15.29–30 a GLlG Atodiad. Yn ôl un traddodiad, cafodd ei ladd gan Owain Glyndŵr a’i lu, tua 1402, a rhoddwyd ei gorff mewn ceubren.
16 Ceir y llinell hon yn 50.28.
17 tor y Lan Ar tor ‘bron, llethr, ystlys neu ymyl (mynydd, bryn, &c.); glan neu dorlan (afon)’, gw. GPC 3525 d.g. tor2. Ymddengys fod y Lan (ffurf dreigledig Glan) yn gyfeiriad at fan penodol cysylltiedig â Nannau, gw. 51.3n, 6n.
19 Angharad Gwraig Meurig Fychan oedd Angharad ferch Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu o Linwent.
20 Olwen Merch Ysbaddaden Bencawr yr oedd Culhwch am ei phriodi. Esbonnir ei henw mewn darn disgrifiadol adnabyddus yn chwedl ‘Culhwch ac Olwen’, gw. CO3 18.497–8 Pedeir meillonen gwynnyon a dyuei yn y hol myn yd elhei. Ac am hynny y gelwit hi Olwen.
20 Dafydd Sef Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu o Linwent, tad Angharad, gwraig Meurig Fychan.
21 Cadwgon Cadwgan ap Phylip Dorddu o Linwent, taid Angharad, gwraig Meurig Fychan.
22 gorwag Sef ‘gwaglaw’ neu ‘ffôl’, gw. GPC 1504.
23–4 Un henw … / Â’r wraig lwyd Cyfeiria’r bardd yma at rywun o’r un enw ag Angharad. Un posibilrwydd yw ei fod yn cyfeirio at Angharad ferch Gruffudd ab Owain ap Bleddyn ab Owain Brogyntyn, sef gwraig Meurig Fychan ab Ynyr Fychan, mam y brodyr Hywel a Meurig Llwyd, gw. Meurig Fychan, L. Dwnn: HV ii, 226 a GGLl 14.41.
26 Ceir y llinell hon yn GLGC 234.66.
29 Dafydd Dafydd ap Meurig Fychan, mab Meurig ac Angharad ac etifedd Nannau. Gwasanaethodd fel rhingyll yn Nhal-y-bont, Meirionnydd, o 1471/2 yn ystod terynasiad Edward IV ond ni chofnodir ei enw pan ddaeth Harri VII yn frenin, gw. Parry 1965–8: 190–1. Canodd Guto gywydd diolch am farch iddo, gw. cerdd 51.
29 perllanwydd Sef perllan ‘darn o dir amgaeedig ar gyfer tyfu coed ffrwythau’ a gwŷdd yn yr ystyr ffigurol ‘llinach, tras, cyff’, cf. y ddelweddaeth o goed yn 51.11–12.
29 Llinwent Maenor ym mhlwyf Llanbister, sir Faesyfed. Oddi yno yr hanai mam Dafydd, Angharad, gwraig Meurig Fychan, gw. 19n.
30 tir ystent Benthyciad o’r Saesneg Canol stent, gw. GPC 331, sef ‘arolwg neu brisiad tir neu eiddo’ neu ‘stad, meddiant, eiddo’. Yn ddiddorol ddigon ceir yr enw Tir y Stent ar fap degwm 1838 ar lethrau isaf Cadair Idris ym mhlwyf Garthgynfor, Tal-y-bont.
32 bar Sef y ‘llys barn’, gw. GPC d.g. bar3. Dyma awgrym cryf fod Dafydd ap Meurig Fychan yn ymwneud â’r gyfraith ac iddo o bosibl wrando ar achosion cyfreithiol mewn llysoedd yng Ngwynedd. Bu ei dad, Meurig Fychan, yn ben-rheithiwr llys Caernarfon yn 1444, gw. Ellis 1838: 89.
32 mainc Yn ogystal ag eistedd ar far mae eistedd ar fainc hefyd yn gyfeiriad ffigurol at wasanaethu’r gyfraith, gw. GPC 2323 d.g. mainc (b).
34 gwlad Fael Deellir hwn yn gyfeiriad un ai at Fael ap Cunedda Wledig, a roes ei enw i Ddinmael, neu at Fael Maelienydd ap Cadfael a gysylltir â Maelienydd ac Elfael. Y cyswllt â Dinmael yng nghwmwd Edeirnion sydd fwyaf tebygol. Roedd Elen, gwraig Dafydd, yn disgyn o linach Owain Brogyntyn, arglwydd Edeirnion a Dinmael, gw. WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 20.
34 o Glwyd i Fôn Er y gall hyn fod yn ormodiaith i bwysleisio enwogrwydd Dafydd yng ngogledd Cymru, mae’n bosibl mai hen deyrnas Gwynedd a olygir yma a oedd yn ymestyn o afon Clwyd hyd at Fôn a Phenrhyn Llŷn, gw. WATU 85.
35–8 Elen … / … / Merch Hywel Sef Elen ferch Hywel ap Rhys o’r Rug.
36 teml Gall fod yn gyfeiriad at Nannau a’r bardd yn canmol Elen a’i mam (yng nghyfraith, fe ymddengys, cf. 52) am eu darpariaeth o fedd.
39 y Bala Y Bala ym Meirionnydd a chanolbwynt cwmwd Penllyn; ar y fwrdeistref yn yr Oesoedd Canol gw. Smith 2001: 230–1. Ceir awgrym yn y llinellau hyn fod Elen wedi bod yn helpu’r gwan a’r anghenus mewn rhyw fath o elusendy neu ysbyty yn y Bala. Erbyn y bymthegfed ganrif, y math mwyaf cyffredin o ysbytai oedd elusendai, gw. Roberts 2008: 206. Mae’n ddigon posibl fod rhyw fath o adeilad a weithredai fel ysbyty neu lety i deithwyr mewn tref fel y Bala. Gwyddys bod yno gapel yng nghanol y dref ar y brif stryd yn 1350, ond mae’r union leoliad bellach yn anhysbys, gw. Jenkins 1941–4: 167. Roedd capel yn rhan hanfodol o ysbyty yn y cyfnod hwn, gw. Orme and Webster 1995: 87–8. Gw. Meddyginiaeth: Ffyrdd i Wella: Ysbytai.
40 torri haint Ystyr torri yma yw ‘lleddfu’ neu ‘iacháu’, gw. GPC 3532 d.g. torraf 3(b); cf. GIBH 9.11–12 Gorau gwin, gwir a ganwn, / I dorri haint yw’r dŵr hwn (am ddŵr rhinweddol ffynnon Gwenfrewi).
41 taflu arian Diddorol yw’r cyfeiriad hwn at daflu arian at y bardd ac yntau mewn gwely yn glaf ac yn gwella oherwydd hynny. Mae’n sôn am rodd yn 44 a 47 ac yn dweud i gyfoeth Elen ei iacháu. Molir Elen yn anuniongyrchol gan fod rhoi cardod i’r tlawd yn agwedd bwysig ar y ddelfryd o uchelwraig.
46 Gweurful Hael Gweurful ferch Madog ap Maredudd o Abertanad oedd nain Elen. Ei gŵr cyntaf oedd Rhys ap Dafydd ap Hywel o’r Rug. Canodd Guto’r Glyn a Lewys Glyn Cothi gerddi marwnad iddi, gw. cerdd 88 a GLGC cerdd 212, a bu’n noddi nifer o feirdd eraill; ymhellach gw. Gweurful ferch Madog.
47 ŵyr Rys Ystyr ŵyr yma yw wyres: roedd Elen yn wyres i Rys o’r Rug, gw. Elen ferch Hywel o Nannau.
47 Rug Plasty yn Edeirnion yn ardal Corwen a chartref Elen, gw. WATU 185. Ar yr ystyr ‘lle y tyfai grug’, gw. ELl 47. Ymhellach, gw. PACF 59; Carr 1961–4: 187–93, 289–301 ac Irvine 1949–51: 77–82.
50 galw Sef galw eu henwau, cf. 117.19–20 Galw sant ar bob gŵyl y sydd, / Galw ydd wyf Arglwydd Ddafydd.
51 Rhydderch Roedd Rhydderch Hael yn un o ‘Dri Hael Ynys Prydain’, gw. TYP3 504–5.
59 er ofn plaid Ceir sawl ystyr i er a deellir mai ‘oherwydd’ yw’r ystyr yma. Yr ystyr orau i plaid yma yw ‘llu’ a’r ergyd yw bod y bardd yn gweld Nannau fel noddfa ddelfrydol pan fyddai’n teimlo dan fygythiad llu ei elynion.
60 ffrwyno’r corff Dehonglir y cyfeiriad hwn at ffrwyno y corff a’r enaid, sef berfenw o ffrwyn: y rhan o’r harnais a roir fel arfer am ben ceffyl, fel cyfeiriad at arafu i lawr neu orffwyso’r corff a’r enaid.
64 i dai Feurig Enghraifft o dreiglo enw priod ar ôl y ffurf luosog tai, gw. TC 110.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Davies, G. (1974), Noddwyr Beirdd ym Meirion (Dolgellau)
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Ellis, T.I. (1954), Crwydro Meirionnydd (Llandybïe)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Irvine, W.F. (1949–51), ‘Notes on the History of Rûg’, Cylchg CHSFeir 1: 77–82
Jenkins, R.T. (1941–4), ‘The Borough of Bala circa 1350’, B xi: 167
Jones, E.D. (1949), ‘Robert Vaughan of Hengwrt’, Cylchg CHSFeir 1: 21–30
Orme, N. and Webster, M. (1995), The English Hospital (London)
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Parry, B.R. (1965–8), ‘Hugh Nanney Hên (c.1546–1623), Squire of Nannau’, Cylchg CHSFeir 5: 185–207
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1961–2), ‘Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Chae Gwrgenau’, Cylchg LlGC xii: 400–1
Roberts, J. (2008), ‘An Investigation of Medieval Hospitals in England, Scotland and Wales, 1066–1560’ (Ph.D. Cymru [Casnewydd])
Smith, Ll.B. (2001), ‘Towns and Trade’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 225–53
Smith, Ll.B. (2007), ‘On the Hospitality of the Welsh: A Comparative View’, H. Pryce and J. Watts (eds.), Power and Identity in the Middle Ages (Oxford), 181–94
Vaughan, M. (1961–4), ‘Nannau’, Cylchg CHSFeir 4: 119–21, 204–8
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
This is a praise poem to Meurig Fychan ap Hywel Selau and Angharad daughter of Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu. Their son, Dafydd ap Meurig Fychan, and his wife Elen daughter of Hywel ap Rhys of Rug are also praised in this poem.
In the opening section of the cywydd the poet acknowledges the authority of Meurig’s ancestors, the brothers Hywel and Meurig Llwyd (Meurig Llwyd was Meurig Fychan’s grandfather). They, like Meurig Fychan himself, were also generous patrons according to the poet (lines 3–4). The poet goes on to commend the court as a splendid place on the top of the hill (6) where generations of uchelwyr, all descendants of Ynyr, the lord of Nannau in the thirteenth century, have been raised (8n Ynyr). The feast is the next subject (9–16): Meurig outshines wealthy Englishmen with his fondness for wine (9–10), and his willingness to share his food with his people is very praiseworthy. Traditionally, the doors of a hall would be closed when serving the food, but not at Nannau according to Guto. In this house the doors are always open (13–16). On the subject of feasting, the poet turns to Angharad, the generous (hael) and fair ([t]eg) wife of Meurig who has the same name as another Angharad, a grey-haired woman (gwraig lwyd), possibly the grandmother of Meurig Fychan (23).
Guto turns next to Dafydd ap Meurig Fychan, the choicest of young men. Guto suggests that Dafydd is familiar with listening to legal cases in court (32–3) and is therefore an important representative in Meirionnydd (34–5). The discussion then turns to his wife, Elen, and her charitable nature. Guto takes on the voice of a sick person or a beggar who was cared for by Elen in Bala, possibly a reference to some manner of sanctuary for the poor and needy (39–42). He also mentions her ancestry, being a grand-daughter of Gweurful Hael and Rhys ap Dafydd of Rug, comparing her particularly with her grandmother who was renowned for her generosity towards poets and who was also one of Guto’s patrons (45–8).
In the last section of the poem, Guto affirms that he will visit Dafydd and Elen at Nannau in his old age, which implies that he might have been quite young when he composed this poem. He praises the four members of the family together, hoping that God will bless them all (55–8), before declaring his intention to go to Nannau to rest his body and soul. His advice for anyone who wants a long life is that they should go to the home of Meurig Fychan to end their days.
Date
The poem gives no facts that could help to date its composition. Meurig Fychan was born about 1400 and, according to a document in the collection of manuscripts at Nannau, he was a jury member at Caernarfon court in 1452/3 (Parry 1958: 81–2). However, there is a gap in the collection between 1460 and 1480 and the last reference to Meurig Fychan occurs in 1460. It is likely that he lived for some time after that date; according to one source, he died in 1482 (see RWM ii, 847 and poem 50). Guto suggests that Dafydd, Meurig Fychan’s son, is fairly young (30–4) and is married to Elen, but there is no mention of their son, Hywel ap Dafydd ap Meurig Fychan. There is no record of Dafydd’s involvement in the estate before 1460 when the estate was in the hands of Meurig Fychan and his uncle Gruffudd Derwas (the last references to both are in 1459/60). It is quite possible, therefore, that this cywydd was composed to celebrate Dafydd’s coming of age, after 1460 and before 1482.
The manuscripts
This poem occurs in 22 manuscripts. Despite being very similar, the few variant readings suggest that there are three different versions of the poem. The Conwy Valley manuscripts, LlGC 3049D, LlGC 8497B and Gwyn 4, are almost identical (Gwyn 4 has lost the end of the poem). Pen 82 is also very similar to this group, but some of its readings suggest that it belongs to the X2 version of the poem. BL 14978 and LlGC 16129D derive from the X2 version, but LlGC 16129D does have some errors and variant readings.
The third version of the poem (X3) is the source of Pen 97, C 2.617, LlGC 19907B, Pen 152, Llst 30, LlGC Mân Adnau 1206 and Pen 198. It is very difficult to distinguish how the manuscripts are related within this group; interestingly, some of the manuscripts have connections with the families of Nannau and Corsygedol. Pen 97 (the earliest copy in this group, c.1604) is connected with Hywel Fychan ap Gruffudd, a descendant of the Nannau family, and LlGC 19907B (which is a copy of Pen 97) is in the hand of his son Robert Vaughan. Siôn Dafydd Laes, Nannau’s professional poet in the seventeenth century, is responsible for LlGC 3061D which is related closely to Pen 97. Siôn Dafydd Laes and Robert Vaughan copied LlGC 3021F and Pen 152 which are copies of LlGC 21248D and Llst 30.
LlGC 3049D, BL 14978, Pen 97 and C 2.617 were the main manuscripts used for this edition. The remaining copies are related to one or other of these.
Previous edition
GGl poem LVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 64 lines.
Cynghanedd: croes 64% (41 lines), traws 20% (13 lines), sain 8% (5 lines), llusg 8% (5 lines).
1 Hywel Hywel ap Meurig Fychan was the great uncle of Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd. He was the older brother of Meurig Llwyd and, with his brother, Hywel served as a minor officer in the commote of Tal-y-bont in 1391/2 and again in 1395/6; see Parry 1965–8: 188, GLlG 8.73–4n and Richards 1961–2: 400–1.
1–2 Meurig / Llwyd Meurig Llwyd ap Meurig Fychan ab Ynyr Fychan was the grandfather of Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig. He was the younger brother of Hywel and the heir of Nannau after the death of their father. He held minor positions in the commote of Tal-y-bont in 1391/2 and again in 1395/6 with his brother, see Parry 1965–8: 188. The sons of Meurig Llwyd were Hywel Selau (16n) and Gruffudd Derwas.
3 Meurig Fychan Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd of Nannau. He was a direct descendant of Bleddyn ap Cynfyn, prince of Powys in the twelfth century.
3 Nannau Nannau is a manor house in Llanfachreth, Meirionnydd, and was the home of Meurig Fychan and Angharad. On Nannheu, Nanneu, which is an old plural form of nant, see ELl 26. The original dwelling was built by Cadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn in the early twelfth century but, according to local tradition, the house was burnt down by Owain Glyndŵr in about 1402 during the days of Hywel Selau, the father of Meurig Fychan (see 16n and Vaughan 1961–4:120–21). According to Vaughan (ibid.: 119), the remains of the old house of Hywel Selau was visible in the park of the later house in the days of Pennant: near the lodge which was built by Robert Vaughan (with stones from the old ruin, according to local tradition). Since the thirteenth century, the family of Nannau were faithful to the Crown, but they also stayed loyal to the Welsh poets and their traditions and patronized them until the seventeenth century. For the poems to the family see Hughes 1968–9: 157–66 and Williams 2001: 611.
6 trum araul The meaning of trum in GPC 3623 is ‘(crest of) mountain or hill, peak, ridge’, and ‘bright’ or ‘sunny’ is the meaning of araul, see GPC 178. This is a description of tir Meurig (‘Meurig’s land’) shining at the peak of the mountain, cf. Ellis 1954: 106, ‘by climbing a little higher, Nannau is almost at the peak, in its splendour of dignity and the wooded land surrounding the house’. Evidently, the house was built 700 feet above sea level, see ByCy 640–1.
7 y Graig Wen The editors of GGl correctly interpreted y Graig Wen and Llwyn-onn (below 8n Llwyn-onn) as place names. A place called Gwengraig is often associated with the Nannau family (see WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 49) and presumably Guto refers to the same place here, cf. 50.50 Dau’n ungrefft dan y Wengraig ‘the two with one skill below Y Wengraig’ and 51.13 Af i’r Wengraig fariangrys ‘I will go to Y Wengraig in its coat of lime’ (cf. the name Coed y Graig Wen which is located close to Nannau today). According to Jones (1949: 21): ‘ “Gwengraig” or “Y Wengraig” is the name of a spur of the cader range as well as that of the tenement.’ But there is also a farmhouse called Gwengraig near Dolgellau and it seems that another branch of the family lived there: the descendants of Hywel, brother of Meurig Fychan ab Ynyr Fychan. Later poets also acknowledge it as a place name (cf. the cywydd by Hwmffre ap Hywel to Hywel Vaughan of Gwengraig who is described as [g]winau garw glwys Gwengraig lân, ‘the fair and pure chestnut stag of Gwengraig’, Davies 1974: 95). At the end of the sixteenth century, Gwengraig was the home of Hywel Vaughan, the father of the famous antiquarian Robert Vaughan of Hengwrt, and was located on the ‘eastern side of Cadair Idris in the hamlet of Garthgynfor’ (ibid.: 95).
8 Llwyn-onn There are farms named Llwyn-onn Isaf and Llwyn-onn Uchaf in Llanaber parish in Ardudwy. Meurig’s mother, Mali daughter of Einion ap Gruffudd, was from Corsygedol in Ardudwy (see Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Einion).
8 Ynyr Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd was a great-great-grandson of Ynyr Fychan and a great-great-great-grandson of Ynyr Hen (fl. in the early 13c.), a descendant of Bleddyn ap Cynfyn (fl. 1063–75).
15 porthoriaeth The work of a doorkeeper, see GPC 2858. To say that the door is always open and unlocked is a way to praise a patron’s hospitality, cf. GO 19.46 A’i pyrth a ery heb porthorrion ‘and their doors remain without doorkeepers’. See also Smith 2007: 181–194 (especially 185–6).
16 Hywel Selau The father of Meurig Fychan ap Hywel ap Meurig Llwyd; he was also called Hywel Sele and Hywel Amheurig, see 50.18n (testunol); GGLl 15.29–30 and GLlG ‘Appendix’. According to one tradition he was killed by Owain Glyndŵr and his men c.1402 and his body put in an oak tree.
16 This line occurs in 50.28.
17 tor y Lan For tor ‘breast, slope, flank, or side (of mountain, hill &c.); (river) bank’, see GPC 3525 s.v. tor2. Y Lan (mutated form of Glan) is probably a specific place associated with Nannau, see 51.3n, 6n.
19 Angharad The wife of Meurig Fychan was Angharad daughter of Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu of Llinwent.
20 Olwen The daughter of Ysbaddaden Bencawr whom Culhwch wants to marry in the story ‘Culhwch ac Olwen’, see CO3 18.497–8.
20 Dafydd Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu of Llinwent was the father of Angharad, wife of Meurig Fychan.
21 Cadwgon Cadwgan ap Phylip Dorddu of Llinwent was the grandfather of Angharad, wife of Meurig Fychan.
22 gorwag ‘Empty-handed’ or ‘foolish’, see GPC 1504.
23–4 Un henw … / Â’r wraig lwyd The poet refers to another lady called Angharad here. She could be Angharad, daughter of Gruffudd ab Owain ap Bleddyn ab Owain Brogyntyn, who was the wife of Meurig Fychan ab Ynyr Fychan and the mother of Hywel and Meurig Llwyd, see Meurig Fychan, L. Dwnn: HV ii, 226 and GGLl 14.41.
26 This line occurs in GLGC 234.66.
29 Dafydd Dafydd ap Meurig Fychan, son of Meurig Fychan and Angharad and the heir of Nannau. In 1471/2 he was the sergeant of Tal-y-bont, but his name does not appear in the records when Henry VII became king, see Parry 1965–8: 190–1. Guto composed a poem to thank him for a horse, see poem 51.
29 perllanwydd From perllan ‘orchard’ and gwŷdd with the figurative meaning ‘lineage, genealogical tree, stock’, cf. the imagery of trees in 51.11–12.
29 Llinwent A manor in the parish of Llanbister, Radnorshire. It was the home of Angharad, Dafydd’s mother and wife of Meurig Fychan, see 19n Angharad.
30 tir ystent A borrowing from the Middle English stent, see OED Online s.v. stent, n.1 ‘The valuation or assessment of property formerly made for purposes of taxation; the amount or value assessed, tax, impost, duty’. Interestingly, the name ‘Tir y Stent’ appears on an 1838 tithe map, located at the foot of Cadair Idris in the parish of Garthgynfor, Tal-y-bont.
32 bar The ‘court of law’, see GPC s.v. bar3. The poet suggests that Dafydd ap Meurig Fychan was involved with the law and possibly listened to legal cases in the courts of Gwynedd. His father, Meurig Fychan, was the head juror of Caernarfon court in 1444, see Ellis 1838: 89.
32 mainc Like sitting ar far ‘on the bar’, sitting on the mainc ‘bench’ refers figuratively to serving the law, see GPC 2323 s.v. mainc (b).
34 gwlad Fael A reference to either Mael ap Cunedda Wledig, who was associated with Dinmael in Edeirnion, or Mael Maelienydd ap Cadfael, who was associated with Maelienydd and Elfael. The first is more likely here: Elen, Dafydd’s wife was a descendant of Owain Brogyntyn, lord of Edeirnion and Dinmael.
34 o Glwyd i Fôn This could simply highlight Dafydd’s fame in north Wales, but it could also be a reference to the old kingdom of Gwynedd which extended from the river Clwyd to Anglesey and the Llŷn Peninsula, see WATU 85.
35–8 Elen … / … / Merch Hywel Elen daughter of Hywel ap Rhys of Rug.
36 teml ‘Temple’ could be a reference to Nannau, as the poet commends Elen and her mother (in-law, it seems, cf. 52) for their provision of mead.
39 y Bala The town of Bala in Merioneth and the heart of the commote of Penllyn; see Smith 2001: 230–1 on the medieval borough. Is it likely that Elen was involved in comforting the poor and needy in an almshouse or a hospital of some sort in Bala? By the fifteenth century almshouses were the most widespread type of hospital, see Roberts 2008: 206. It is possible that there was a building, maybe an almshouse, for travellers in a town like Bala. There was a chapel there in 1350, located somewhere in the centre of town though its exact location is unknown; see Jenkins 1941–4: 167. A chapel was an essential part of a hospital in this period, see Orme and Webster 1995: 87–8. See Medicine: Cures: Hospitals.
40 torri haint The meaning of torri here is ‘to alleviate’ or ‘to heal, cure’, see GPC 3532 s.v. torraf 3(b); cf. GIBH 9.11–12 Gorau gwin, gwir a ganwn, / I dorri haint yw’r dŵr hwn, ‘The best wine, this is truthful, / to cure disease is this water (the beneficial water of St Winifred’s well)’.
41 taflu arian Guto implies that Elen literally threw money at him while he was ‘unwell’ and ‘in bed’. He mentions a ‘gift’ in 44 and 47 and that Elen’s wealth made him better. Elen is praised indirectly since caring for others, especially the poor, was a very important aspect of a noblewoman’s image.
46 Gweurful Hael Gweurful daughter of Madog ap Maredudd of Abertanad was Elen’s grandmother. Her first husband was Rhys ap Dafydd ap Hywel of Rug. Guto’r Glyn and Lewys Glyn Cothi composed elegies to her, see poem 88 and GLGC poem 212, and she was a patron of many other poets, see Gweurful ferch Madog o Abertanad.
47 ŵyr Rys Elen was the grand-daughter of Rhys of Rug, see Elen daughter of Hywel of Nannau.
47 Rug Rug is an estate in Edeirnion, near Corwen, and the home of Elen, Dafydd’s wife, see WATU 185; PACF 59; Carr 1961–4: 187–93, 289–301 and Irvine 1949–51: 77–82.
50 galw That is ‘calling their names’, cf. 117.19–20 Galw sant ar bob gŵyl y sydd, / Galw ydd wyf Arglwydd Ddafydd ‘a saint is called upon on every feastday, / I call for Lord Dafydd.’
51 Rhydderch Rhydderch Hael, one of the ‘Three Generous Men of Ynys Prydain’, see TYP3 504–5.
59 er ofn plaid The most likely meaning of plaid in this line is ‘crowd’, with er meaning ‘in spite of’. Guto perceives Nannau as the perfect stronghold when he feels under threat from the ‘crowd’ of his enemies.
Bibliography
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, JMHRS 4: 187–93, 289–301
Davies, G. (1974), Noddwyr Beirdd ym Meirion (Dolgellau)
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Ellis, T.I. (1954), Crwydro Meirionnydd (Llandybïe)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Irvine, W.F. (1949–51), ‘Notes on the History of Rûg’, JMHRS 1: 77–82
Jenkins, R.T. (1941–4), ‘The Borough of Bala circa 1350’, B xi: 167
Jones, E.D. (1949), ‘Robert Vaughan of Hengwrt’, JMHRS 1: 21–30
Orme, N. and Webster, M. (1995), The English Hospital (London)
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Parry, B.R. (1965–8), ‘Hugh Nanney Hên (c.1546–1623), Squire of Nannau’, JMHRS 5: 185–207
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1961–2), ‘Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Chae Gwrgenau’, Cylchg LlGC xii: 400–1
Roberts, J. (2008), ‘An Investigation of Medieval Hospitals in England, Scotland and Wales, 1066–1560’ (Ph.D. Cymru [Casnewydd])
Smith, Ll.B. (2001), ‘Towns and Trade’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 225–53
Smith, Ll.B. (2007), ‘On the Hospitality of the Welsh: A Comparative View’, H. Pryce and J. Watts (eds.), Power and Identity in the Middle Ages (Oxford), 181–94
Vaughan, M. (1961–4), ‘Nannau’, JMHRS 4: 119–21, 204–8
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
Cerddi Guto yw’r unig gerddi sydd wedi goroesi i Feurig Fychan ap Hywel a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Canodd gywydd mawl (cerdd 49) a chywydd marwnad (cerdd 50) i’r pâr; bu eu mab, Dafydd ap Meurig Fychan, yntau’n noddi Guto. Ceir trafodaeth lawn am y teulu gan Jones (1953–6: 5–15) a Vaughan (1961–4: 119–21, 204–8).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Teulu Nannau
Roedd teulu plas Nannau ym mhlwyf Llanfachreth yn ddisgynyddion i Fleddyn ap Cynfyn, brenin Powys o 1063 i 1075. Bu farw Cadwgan, mab Bleddyn, yn 1111, ac mae’n debyg mai ef oedd y cyntaf o’r teulu i ymgartrefu yng Nghefn Llanfair, sef yr enw cynharaf ar y stad (Thomas 1965–8: 98). Ef, yn ôl Robert Vaughan, a adeiladodd y tŷ cyntaf yno, a disgrifiodd yr adeilad fel ‘the stateliest structure in all North Wales’ (Vaughan 1961–4: 119). Ychydig a wyddom am y teulu hyd at amser Ynyr Hen ap Meurig, gorwyr i Gadwgan ap Bleddyn a drigai yn Nannau yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Roedd ganddo dri mab, sef Ynyr Fychan, Anian a Meurig Hen. Yr hynaf, Ynyr Fychan, yw cyndad y llinach a drafodir yma. Ymhellach, gw. Hughes 1968–9: 157–66; Williams 2001: 611.
Hywel ap Meurig Fychan a’i frawd, Meurig Llwyd
Roedd Meurig Fychan ab Ynyr Fychan yn ŵr pwysig yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir corffddelw ohono, a ddyddir c.1345, yn eglwys y Santes Fair yn Nolgellau (Siddons 2001: 631; Gresham 1968: 190–2). Hywel ap Meurig Fychan oedd ei fab hynaf, gŵr a ddaliodd fân swyddi lleol yn 1391/2 ac eto yn 1395/6. Awgrymwyd mai cartref Hywel oedd Cae Gwrgenau ger Nannau, ond dadleuodd Richards (1961–2: 400–1) y gall mai Cefn-yr-ywen Uchaf a Chefn-yr-ywen Isaf oedd cartrefi Hywel a’i frawd, Meurig, deiliad Nannau. Fel ei gyndeidiau, bu Meurig yn rhaglaw cwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 a rhannai’r cyfrifoldeb am havotry Tal-y-bont gyda’i frawd, Hywel. Yn 1399/1400 enwir Meurig fel wdwart cwmwd Tal-y-bont, ac roedd yn rhannol gyfrifol am havotry Meirionnydd (Parry 1958: 188–9). Bu’r ddau frawd yn noddwyr hael i’r beirdd. Canodd eu hewythr, Llywelyn Goch ap Meurig Hen, gerdd o foliant iddynt (GLlG cerdd 8) a chanodd Gruffudd Llwyd gywyddau mawl a marwnad i Feurig Llwyd (GGLl cerddi 14 a 15; Johnston 1990: 60–70).
Etifeddodd Meurig Llwyd blasty Nannau, ac ef, fe ymddengys, oedd yn byw yno ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd Meurig a’i wraig, Mallt, nifer o blant, ond y ddau fab enwocaf oedd Hywel Selau a Gruffudd Derwas, noddwyr beirdd megis Lewys Glyn Cothi. Gwraig Hywel Selau oedd Mali ferch Einion, modryb i Ruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol. Ar ddechrau’r bymthegfed ganrif troes Hywel Selau ei gefn ar achos ei gefnder, Owain Glyndŵr, gan ochri â Harri IV. O ganlyniad, llosgwyd plas Nannau i’r llawr ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Yn ôl traddodiad, bu Hywel Selau yntau farw ar dir Nannau yn 1402 dan law lluoedd Owain, a rhoddwyd ei gorff mewn ceubren gerllaw. Gelwid y pren o hynny ymlaen yn Geubren yr Ellyll (Parry 1965–8: 189). Er na ellir rhoi coel ar y chwedl honno, y tebyg yw bod Hywel Selau wedi marw oddeutu 1402.
Meurig Fychan ap Hywel Selau
Ymddengys fod Meurig Fychan yn ddwy oed pan fu farw ei dad, Hywel Selau, c.1402. Ac yntau’n rhy ifanc i etifeddu Nannau, fe’i magwyd gan ei ewythr, Gruffudd Derwas. Erbyn dauddegau’r bymthegfed ganrif ymddengys fod Meurig yn ddigon hen i etifeddu Nannau. Mewn stent yn 1420 rhestrir Meurig a’i ewythr, Gruffudd Derwas, fel perchnogion tiroedd yn ardal Nannau (Owen and Smith 2001: 113), a chofnodir eu henwau fel deiliaid melin Llanfachreth yn 1444/5 (Parry 1965–8: 190). Gwerthodd Gruffudd Derwas ddau dyddyn i Feurig yn 1451, ond nodir mai tenantiaid rhydd oedd y ddau o hyd. Yn 1452/3 enwir Meurig a Gruffudd Derwas fel ffermwyr melin Llanfachreth.
Ceir tystiolaeth fod Meurig yn weithgar ym maes y gyfraith. Nodir ei enw fel tyst ar sawl achlysur yn llysoedd Caernarfon a Dolgellau (Ellis 1838: 89). Yn 1452/3 fe’i henwir gyda’i gefnder, Hywel ap Gruffudd Derwas, fel tyst mewn achos yn Nolgellau, ac mewn achos llys yng Nghaernarfon yn 1453/4 enwir Meurig fel gŵr y lladratwyd ei eiddo. Cofnodir enwau nifer o ladron anifeiliaid a oedd wedi dwyn o Nannau, tystiolaeth werthfawr i’r lladrata mynych a ddigwyddai yn y bymthegfed ganrif. Nid yw fawr o syndod fod Guto’n darlunio Meurig fel gŵr a oedd â’i fryd ar gadw trefn.
Nid yw dyddiad marw Meurig yn hysbys yn sgil bwlch yng nghasgliad llawysgrifau Nannau rhwng 1460 a 1480. Ceir y cyfeiriad olaf ato yn 1460. Nodir yn RWM II: 847 iddo farw yn y flwyddyn 1482, ond deil Pryce (2001: 286) mai’n bur fuan wedi 1461 y bu farw. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto iddo, fe’i claddwyd yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau (50.44).
Angharad ferch Dafydd
Roedd Angharad, gwraig Meurig Fychan, yn ferch i Ddafydd ap Cadwgan o Linwent yn Llanbister, sir Faesyfed. Roedd yn ddisgynnydd i Elystan Glodrydd (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 30) ac mewn llinach a fu’n noddi beirdd er y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd Angharad yn chwaer i Ddafydd Fychan (un o noddwyr Huw Cae Llwyd, HCLl XXIII) ac felly’n fodryb i Faredudd ap Dafydd Fychan (un o noddwyr Lewys Glyn Cothi, GLGC cerdd 181). Roedd hi hefyd yn fodryb i Elen Gethin, gwraig Tomas Fychan o Hergest, mab Syr Rhosier Fychan a Gwladus Gam. Ail ŵr Gwladys Gam oedd Syr Wiliam ap Thomas o Raglan. Yn ôl y gerdd farwnad a ganodd Guto i Feurig ac Angharad, bu farw Angharad tua’r un pryd â’i gŵr, o bosibl yn sgil yr un afiechyd, ac fe’i claddwyd gydag ef yn abaty Cymer yn Llanelltyd gerllaw Nannau.
Llyfryddiaeth
Ellis, H. (1838) (ed.), Registrum vulgariter nuncupatum ‘The Record of Caernarvon’ (London)
Gresham, C.A. (1968), Medieval Stone Carving in North Wales (Cardiff)
Hughes, A.L. (1968–9), ‘Rhai o Noddwyr y Beirdd yn Sir Feirionnydd’, LlCy 10: 137–205
Johnston, D. (1990), ‘Cywydd Marwnad Gruffudd Llwyd i Hywel ap Meurig o Nannau’, YB XVI: 60–70
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Parry, B.R. (1965–8), ‘Hugh Nanney Hên (c.1546–1623), Squire of Nannau’, Cylchg CHSFeir 5: 185–207
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Richards, M. (1961–2), ‘Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Chae Gwrgenau’, Cylchg LlGC xii: 400–1
Siddons, M.P. (2001), ‘Heraldry’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 629–48
Thomas, C. (1965–8), ‘The Township of Nannau, 1100–1600 A.D.’, Cylchg CHSFeir 5: 97–103
Vaughan, M. (1961–4), ‘Nannau’, Cylchg CHSFeir 4: 119–21, 204–8
Williams, G.A. (2001), ‘The Literary Tradition to c.1560’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 507–628
Gw. Meurig Fychan ap Hywel Selau ac Angharad ferch Dafydd o Nannau
Roedd Dafydd ap Meurig Fychan yn fab i Feurig Fychan ap Hywel o Nannau a’i wraig, Angharad ferch Dafydd. Cerddi Guto yw’r unig gerddi a oroesodd i Ddafydd a’i wraig, Elen ferch Hywel. Canodd gerdd i’r holl deulu (cerdd 49) a cherdd i ddiolch (cerdd 51) i Ddafydd ac Elen am rodd o geffyl.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 51 A. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Dyddiadau
Etifeddodd Dafydd ap Meurig Fychan stad Nannau wedi marwolaeth ei dad, Meurig Fychan ap Hywel. Gwelir ei enw yng nghasgliad llawysgrifau Nannau yn 1480, ond gan fod bwlch yn y cofnodion rhwng 1460 a 1480, ymddengys mai rywbryd yn ystod y cyfnod hwnnw y daeth Nannau i’w ddwylo ef. Yn 1471/2, gwyddom iddo wasanaethu Edward IV gan fod cyfeiriad ato fel rhingyll Tal-y-bont, swydd y bu ynddi drwy gydol teyrnasiad Edward IV (Parry 1958: 94). Fodd bynnag, nid oes sôn amdano yng nghyfnod Harri VII, a gall hyn fod yn arwyddocaol yn ôl Parry (ibid. 99): ‘Possibly Dafydd made a slight mistake and over-trimmed his sails, with the result that he held no office in his county under Henry Tudor.’ Deillia hyn o’r farn fod teulu Nannau yn ystod y rhyfeloedd cartref wedi cefnogi’r blaid a fyddai’n rhoi’r mwyaf o elw ac awdurdod iddynt hwy, boed honno’n blaid Lancastr neu’n blaid Iorc.
Ceir ambell gyfeiriad ato yn niwedd y bymthegfed ganrif, sef cyfeiriadau yn ymwneud â thiroedd ym Meirionnydd gan fwyaf. Cofnodir iddo brynu rhandir ym Mhenllyn yn 1480, iddo ddadlau ynglŷn â’i etifeddiaeth yn 1487 ac iddo ennill tir a oedd yn perthyn i’r Goron yn Llwyngwril yn 1490 (Parry 1958: 98; Thomas 2001: 220). Mae’r achos llys ynglŷn â’r olaf wedi goroesi, lle cyflwynodd Dafydd ddeiseb yn Llys y Sesiwn Fawr yng Nghaernarfon o flaen Syr William Stanley (Parry 1958: 99 a 103). Mae Guto hefyd yn awgrymu ei fod yn weithgar ym myd y gyfraith, ond ni cheir unrhyw brawf pellach o hynny. Yr hyn sy’n unigryw am Ddafydd ap Meurig Fychan yw bod ei ewyllys wedi goroesi. Fe’i profwyd yn 1494. Gadawodd arian i sawl adeilad, megis abaty Cymer (lle dymunai gael ei gladdu), eglwys Llanfachreth ac eglwys y Santes Fair yn Nolgellau. Diddorol hefyd yw’r rhodd o wyth geiniog a roes tuag at y gwaith o wydro’r ffenestri yng nghapel Marchogion Sant Ieuan yng Ngwanas, adeilad a sefydlwyd fel ysbyty gan y marchogion yn yr Oesoedd Canol cynnar ond sydd bellach wedi diflannu. Ei ferch hynaf, Angharad, a etifeddodd y rhan fwyaf o gyfrifoldebau’r stad, sy’n awgrymu bod ei fab, Hywel, yn rhy ifanc i’w olynu pan fu farw. At hynny, cafodd ei bum merch arall gyfrannau teilwng iawn o gynnyrch y stad. Yn wir, mae’r rhoddion yn sylweddol ac yn gofnod gwerthfawr o gyfoeth stad Nannau ar ddiwedd y bymthegfed ganrif (ibid. 105–6; Pryce 2001: 286; Owen and Smith 2001: 113).
Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug
Gwraig Dafydd ap Meurig Fychan oedd Elen ferch Hywel ap Rhys o Rug yn Edeirnion. Roedd ei thaid, Rhys ap Dafydd o Rug, yn ddisgynnydd i Owain Brogyntyn, arglwydd Edeirnion yn ystod y ddeuddegfed ganrif (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 20). Ei wraig ef oedd Gweurful ferch Madog, ond ailbriododd hithau wedi marwolaeth Rhys a symud i fyw yn Abertanad. Yn Abertanad rhoes Gweurful nawdd i Guto, a ganodd farwnad iddi (cerdd 88), a bu ei mab o’i hail briodas, Dafydd Llwyd, yntau’n noddwr i’r beirdd. A dychwelyd at ei phriodas gyntaf â Rhys ap Dafydd, ei mab o’r briodas honno, Hywel ap Rhys, a etifeddodd Rug, a phriododd yntau Farged ferch Siôn Eutun o Barc Eutun (WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 21; Carr 1961–4: 298). Roedd Siôn Eutun hefyd yn un o noddwyr Guto. Nid oes unrhyw wybodaeth am ddyddiadau Elen ei hun ac ni wyddom pryd y priododd Ddafydd ap Meurig Fychan. Nid oes sôn am blant Dafydd ac Elen yng ngherddi Guto, ond mae’n debyg mai eu mab, Hywel, a etifeddodd Nannau wedi marwolaeth Dafydd yn 1494. Canodd Tudur Aled i Hywel pan ddaeth i’w etifeddiaeth (TA cerdd LVII), a chanodd Mathau Brwmffild farwnad iddo c.1540 (GMB cerdd 10).
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1961–4), ‘The Barons of Edeyrnion, 1282–1485’, Cylchg CHSFeir 4: 187–93, 289–301
Jones, E.D. (1953–6), ‘The Family of Nannau (Nanney) of Nannau’, Cylchg CHSFeir 2: 5–15
Owen, D.H. and Smith, J.B. (2001), ‘Government and Society 1283–1536’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 60–136
Parry, B.R. (1958), ‘The History of the Nannau Family (Meirionethshire) to 1623’ (M.A. Cymru [Bangor])
Pryce, H. (2001), ‘The Medieval Church’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 254–96
Smith, Ll.B. (2001), ‘Towns and Trade’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 225–53
Thomas, C. (2001), ‘Rural Society, Settlement, Economy and Landscapes’, J.B. Smith and Ll.B. Smith (eds.), History of Merioneth Volume II: The Middle Ages (Cardiff), 168–224
Gw. Dafydd ap Meurig Fychan ac Elen ferch Hywel o Nannau