Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 14 llawysgrif sy’n dyddio o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tebyg ydynt i’w gilydd, yr un yw trefn eu llinellau a diau eu bod yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig. Cwpled yn unig sydd ar gadw o Pen 221 ac mae BL 14998, CM 27, C 3.37 a Llst 124 yn brin o rai llinellau. Mae llawysgrifau’r gerdd yn gysylltiedig â gogledd a chanolbarth Cymru.
Mae testunau BL 14967, Gwyn 4, LlGC 3049D a Wy 1 yn perthyn yn agos i’w gilydd, ond nid yw BL 14967 yn ddigon agos at y tri thestun arall i fedru ei darddu’n hyderus o’r un gynsail, sef ‘Cynsail Dyffryn Conwy’ (X yma), ac ymddengys ei fod yn tarddu’n annibynnol o’u cynsail cyffredin. Nid oes dim yn y cwpled o Pen 221 sy’n gymorth i bennu ei union berthynas â’r testunau eraill (gw. y stema). Seiliwyd y testun golygyddol ar BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D.
2 â’r Felly BL 14967, LlGC 3049D. Gthg. Gwyn 4 a.
6 yn lle dyn fydd Felly BL 14967, gydag yn wedi ei ychwanegu; ar y gystrawen, cf. 31 Llwynog Powys Fadog fydd. Gthg. Gwyn 4 lledyn üvydd a LlGC 3049D lle dyn vvyd, darlleniadau na roddant synnwyr boddhaol ac sy’n creu ail brifodl ddiacen yn y cwpled.
7 haeddai Felly BL 14967; Gwyn 4, LlGC 3049D haddai.
8 rhwygo BL 14967 rrwygo, Gwyn 4, LlGC 3049D Rwygo a Wy 1 rhwygoi. O safbwynt y gynghanedd, gwell yw’r gyfatebiaeth rh: rh na r: rh, er nad yw’r olaf yn anghywir, a gellir priodoli’r diffyg treiglad i safle’r gair ar ddechrau llinell newydd.
10 mae’r … nemawr cig Felly Gwyn 4; cf. LlGC 3049D y maer … enemor or kig ond mae’r llinell yn ddecsill ac nid oes angen or ar gyfer y synnwyr. Mae darlleniad BL 14967 y maer … nid mwyr kig yn rhoi’r nifer cywir o sillafau ond gwanach yw’r ystyr. Rhydd Wy 1 mae’r … nid mawr y cig synnwyr boddhaol ond haws fyddai cael mawr o nemawr nag fel arall. Yn GGl ceir Mae’r … mawr o’r, darlleniad na ddigwydd yn y llawysgrifau.
11 y Nis ceir yn y llawysgrifau ond gwna’r llinell yn seithsill. Yn Wy 1 darllenir [ ]ela, y ffurf ddeusill ar hely er mwyn hyd y llinell, ond hely yw’r ffurf arferol.
12 bacwn … Bica Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D. Gthg. BL 14967 vakwn … vika lle ymddengys fod y treigladau yn ffrwyth camgopïo (gall b a v edrych yn debyg iawn i’w gilydd yn y llawysgrifau).
13 ymlidiwynt, canwynt y Felly BL 14967; gthg. Gwyn 4, LlGC 3049D Ymlidiwn canwn ein (a cf. GGl). Gellir y naill ddarlleniad neu’r llall, ond mae’n fwy tebygol ddarfod newid ymlidwynt a canwynt yn ymlidiwn a canwn nag fel arall, yn enwedig os byddai’r cyntaf yn llai cyfarwydd i gopïwyr. Ar ffurf trydydd person lluosog presennol y modd dibynnol â’r terfyniad -wynt, gw. GMW 129.
16 Ddacyn Felly BL 14967, Gwyn 4 a LlGC 3049D; gthg. GGl Ddeicin (cf. Wy 1). Ar y ffurfiau hyn, gw. G 323 (dan Deykyn).
19 ai Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 A.
22 ac Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 nAc (a cf. GGl) ond ni raid wrth y negydd.
26 fwystfil BL 14967, LlGC 3049D wystvil. Diau bod William Salesbury yn iawn yn ei gywiro’n vwystvil.
29 ’sgyfarnog BL 14967, Gwyn 4 ysgyfarnoc (cf. GGl) a LlGC 3049D ascafarnoc. Talfyrir er mwyn hyd y llinell.
34 ffau Gthg. GGl ffair, darlleniad nas ceir yn y llawysgrifau. Er hynny, dywedir yno, 348, mai gwell darllen ffau megis yn DE 145 (lle defnyddir testun BL 14967).
35 wadd Gthg. y darlleniad gwallus vadd yn Gwyn 4.
36 o’r Felly BL 14967, Gwyn 4, LlGC 3049D. Gthg. GGl a’r, darlleniad a geir yn ddiweddarach yn BL 14998 a CM 27.
41–2 yna / … â BL 14967 ynaf /… af, Gwyn 4 yna / … a ond LlGC 3049D ynaf / … af, enghraifft o orgywirdeb.
41 nedwch Gwallus yw nieddwch LlGC 3049D.
48 y Felly Gwyn 4, LlGC 3049D a Wy 1. Gthg. BL 14967 vn. Rhydd y well synnwyr, er y golyga fod n berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell.
49 gafas Felly BL 14967; gthg. Gwyn 4 a LlGC 3049D gavos, oherwydd camgymryd a am o, yn ddiau.
50 yw’n … y Felly BL 14967 a LlGC 3049D; gthg. Gwyn 4 Yw’r … ei lle atebir r gan n.
56 yr Felly Gwyn 4. Gthg. BL 14967 a LlGC 3049D yn. Rhydd yr well ystyr, er cael n wreiddgoll ac r ganolgoll o ganlyniad.
59 edn Felly Gwyn 4 a LlGC 3049D, ond BL 14967 ydyw. Ar un olwg, nid yw edn yn ychwanegu dim at yr ystyr gan fod dyfriar yn edn beth bynnag, ond gallai bwysleisio’r ffaith mai aderyn sydd dan sylw. Os darllenir ydyw, mae’r llinell yn rhy hir o sillaf. Haws hefyd fyddai darllen ydyw am edn nag fel arall.
Cywydd yw hwn sy’n dychanu’r bardd Dafydd ab Edmwnd, a thebyg mai’r un cefndir sydd iddo ag i gerdd 67, er mai anodd yw gwybod pa un sydd gynharaf. O ddarllen y gerdd yn llythrennol, gellir dweud bod Dafydd wedi cythruddo llu o feirdd: chwedl Ifor Williams, GGl 348, ‘Amlwg yw fod y bardd hwnnw wedi tynnu’r glêr yn ei ben, ac nid oes ball ar eu difrïaeth ohono.’ Ac o ddilyn y trywydd hwn, gellid dadlau, ar bwys disgrifiad Guto o Ddafydd fel Llwdn y fost (llinell 6 a cf. 26 [b]ostfardd), mai rhyw ymffrost a wnaethai Dafydd oedd achos y gynnen. Yr un gynnen, fe ymddengys, a fu’n sail i gywydd dychan Gwilym ab Ieuan Hen i Ddafydd, lle cyfeirir at ryw fost ac am [dd]igio’r Guto i gyd (GDID XXIII.1–8). Fodd bynnag, digon anwastad yw safon yr unig destun o’r gerdd honno a oroesodd, ac amheus yw’r golygiad. Tywyll, ar hyn o bryd, yw’r arwyddocâd.
Dechreuir trwy ddatgan bod Dafydd (3 Deicin, 9 Deio, 11 Dai, 16 [D]acyn) yn ymddwyn fel anifail bach ffyrnig sy’n brathu pawb a hwythau yn eu tro yn ei frathu yntau gyda’r canlyniad ei fod yn hanner noeth a’i ddillad yn garpiog. Cyffelyba Guto y deucant (3) i helwyr a’u cŵn a’u hannog i ganu eu cyrn i ymlid Dafydd (1–14). Dywed Guto yn awr ei fod wedi lladd Dafydd ddoe â saith cywydd, megis lladd prae â chŵn. Er hynny, nid oes digon o gig sydd ar ei gorff bach i wneud cawl da. Er bod Guto wedi sôn iddo ‘ladd’ Dafydd, rhydd anogaeth drachefn i’w hela, fel llwynog Powys Fadog (15–32). Dywed Guto yn nesaf fod Dafydd wedi ffoi i gastell (34 ffau fawr) Dinbych am loches a gelwir yn awr ar wŷr a beirdd gwahanol barthau Cymru i’w hel o’r tir. Ymestyn yr helfa yn ddaearyddol o’r ddwy Faelor i’r Gorllewin – Iâl, Dyffryn Clwyd, Edeirnion, Penllyn a Llŷn – a cheisir atal Dafydd rhag mynd i Wynedd. Ceisir ei atal hefyd rhag mynd i’r De a Phowys trwy alw am gymorth y beirdd Dafydd Llwyd o Fathafarn, Llawdden a Hywel ap Owain. Gofynnir i Ruffudd ap Dafydd Fychan gneifio Dafydd a dywedir mai Syr Rhys o Garno fydd cynydd yr helfa (33–52). Terfynir trwy ddymuno hela Dafydd nes ei fod yn trengi yn y dyfroedd (53–60).
Dyddiad
Nid oes unrhyw seiliau ar gyfer dyddio’r gerdd, a’r mwyaf y gellir ei ddweud yw ei bod yn debycach o fod wedi ei chyfansoddi yn gynharach yn hytrach nag yn ddiweddarach yn oes Guto.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LXXI; DE Atodiad, cerdd IV.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (25 llinell), traws 38% (23 llinell), sain 18% (11 llinell), llusg 2% (1 llinell).
1 llednoeth Cf. 5 heb ddillad newydd, 54 Y Grawys cul a’i grys carth. Y rheswm y disgrifir Dafydd ab Edmwnd felly (yn ffigurol) yw gwaith y deucant yn cnoi Deicin / Fal blaidd neu anifail blin (3–4).
3 deucant Sef dau gant (hynny yw, nifer mawr) o feirdd eraill.
3 Deicin Un o’r amrywiadau ar yr enw Dafydd (43, 57) a geir yn y gerdd. Bachigol yw’r terfyniad -cin (/ -cyn), gw. GGl 348. Amrywiad ar yr un ffurf yw 16 [D]acyn. Amrywiadau eraill ar yr enw Dafydd yw 9 Deio, 11 Dai; gw. G 323; Morgan and Morgan 1985: 81–5.
4 heb ddillad newydd Gw. 1n.
6 llwdn y fost Cf. 26 [b]ostfardd.
6 bydd Mae’n bosibl hefyd mai ystyr yr amser presennol arferiadol sydd i’r ferf yma; cf. 31.
12 Hywel Bica Anhysbys.
13 ymlidiwynt, canwynt Ar y ffurfiau llai cyfarwydd hyn ar drydydd person lluosog presennol y modd dibynnol, gw. GMW 129. Mae grym gorchmynnol iddynt yma.
16 deuddeci Trosiad, fe ymddengys, am y saith gywydd a grybwyllir yn y llinell nesaf. Cerddi ymosodol yw dull y beirdd o ‘hela’, sef erlid, Dafydd ab Edmwnd.
18 gown llwyd Cyfeirir, trwy drawsenwad, at Ddafydd ab Edmwnd. Dichon mai rhyw ddilledyn urddasol yn arwyddo ei statws fel uchelwr tiriog a chyfoethog oedd y gŵn.
26 bwystfil Nodir yn y llinellau nesaf y gwahanol anifeiliaid y gallai Dafydd ab Edmwnd fod.
31 Powys Fadog Sef gogledd Powys. Fe’i henwyd ar ôl Madog ap Gruffudd (bu farw yn 1236), ŵyr Madog ap Maredudd a oedd yn frenin olaf Powys, gw. CLC2 485, 593.
33 Aeth i Ddinbech i lechu Cf. 67.3–4 Os gwir dy fod yn was gwych / I’th henbais lwyd wrth Ddinbych. Ffurf gyffredin yn y bymthegfed ganrif yw Dinbech am Ddinbych, GGl 348, a hwylusa’r gynghanedd lusg yma.
34 ffau fawr Cyfeiriad, fe ymddengys, at gastell Dinbych.
35 y ddwy Faelor Sef cymydau Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg yng ngogledd-ddwyrain Powys, gw. WATU 148, 288–9. Hanai Dafydd ab Edmwnd o Hanmer ym Maelor Saesneg, gw. CLC2 155.
36 A’i gyr i’r coed o’r graig hen Diau mai Coed y Graig Lwyd ger Llanymynech, cuddfan herwyr (gw. 84.46n), a olygir wrth y graig hen. Trwy ddweud y gyrrir Dafydd ab Edmwnd oddi yno i’r coed, yr ergyd yw na fydd hyd yn oed Coed y Graig Lwyd yn ddigon diogel iddo cyn iddo orfod ffoi i ryw goedwig arall.
39 Edeirnion Cwmwd ym Mhenllyn (sir Feirionnydd), gw. WATU 63, 266.
39 i arnadd GPC 1993 ‘above; ?from above’, ffurf adferfol yr arddodiad cyfansawdd i ar. Yn GGl 367 trinnir arnadd fel amrywiad ar arnodd ‘paladr aradr’; felly hefyd GPC d.g. arnodd1 ond nid GPC2 474. Ymddengys mai tir uchel neu’r cyffelyb a olygir yma wrth gwlad i arnadd.
43 Dafydd Diau mai’r bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd (Dafydd Llwyd o Fathafarn) a olygir. Trigai ym Mathafarn ym mhlwyf Llanwrin ger afon Dyfi.
44 Llawdden Bardd a chyfoeswr i Guto’r Glyn ac a gysylltir â Maldwyn a Maelienydd, gw. GLl.
45–6 Hywel … / Ab Owain Dichon, fel yr awgrymir yn betrus yn GGl 348, mai Hywel ab Owain ap Gruffudd, gwrthrych cerdd 40, a olygir. Hanai o ardal Llanbryn-mair yng nghwmwd Cyfeiliog (de Maldwyn).
46 Powys Efallai mai Powys Wenwynwyn (sef de Powys) a olygir gan fod y ddwy Faelor (35), a oedd ym [Mh]owys Fadog (31), eisoes wedi cymryd rhan yn yr helfa.
47–8 Gruffudd fab Dafydd … / Fychan Bardd o’r bymthegfed ganrif a hanai o Dir Iarll ym Morgannwg ac y cadwyd amryw o gywyddau o’i waith, gw. ByCy 291; CLC2 290. Mae’n bosibl mai ef a enwir yn 115.31–3.
49 Syr Rys Sef Syr Rhys o Garno, awdur cerdd 101a.
51 Guto Mae’n ansicr pwy a olygir. Rhai enwau a ddaw i gof yw Gutun Owain, y bardd a hanai o Landudlyst-yn-y-Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt (ffurf ar Guto yw Gutun, gw. Morgan and Morgan 1985: 103–5); tad Llywelyn ap Gutun a oedd yntau’n ŵr wrth gerdd, gw. GLlGt 2. Ond efallai mai’r ymgeisydd cryfaf yw’r Guto o Bowys a gyflwynodd gerdd ofyn i Siôn Abral o’r Gilwch ac a oedd, fe ymddengys, yn fardd gwahanol i Guto’r Glyn, gw. cerdd 120.
51 hai Tebyg mai bloedd yr helwyr a ddynodir yma.
54 Y Grawys cul a’i grys carth Gw. 1n. Cyfeirir at Ddafydd ab Edmwnd fel Grawys cul oherwydd, efallai, fod ympryd Grawys yn peri i bobl golli pwysau, ac wrth grys carth golygir crys o ddefnydd garw.
54 Grawys Sylwer mai sillaf leddf yw -wy- (ŵy) yma. Talgron ydyw heddiw.
58 antur Fe’i defnyddir yma’n ansoddeiriol, gw. GPC2 374.
58 tir rhydd Sef, mae’n debyg, tir lle na fydd Dafydd ab Edmwnd yn wtla.
Llyfryddiaeth
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
This cywydd lampoons the poet Dafydd ab Edmwnd, and it probably shares the same background as poem 67 – although it would be difficult to tell which is the earlier. Reading the poem literally, it can be said that Dafydd had infuriated a throng of poets in some way; as Ifor Williams says, GGl 348, it is clear that the poet had antagonized the minstrels, and that there was no end to their vituperation. And, following this path, it could be argued, on the basis of Guto’s description of Dafydd as Llwdn y fost (line 6 and cf. 26 [b]ostfardd), that the quarrel was caused by some boast which Dafydd had made. The same quarrel seems to have provided the basis for Gwilym ab Ieuan Hen’s satire on Dafydd, where he refers to a [b]ost ‘boast’ and to digio’r Guto i gyd ‘angering Guto completely’ (GDID XXIII.1–8). However, the only surviving copy of Gwilym’s poem is of poor quality, and the edition is problematic. Its significance remains unclear.
The poem begins with a statement that Dafydd (3 Deicin, 9 Deio, 11 Dai, 16 [D]acyn) is behaving like a ferocious little animal which bites everyone, with everyone in their turn biting him back, so that he is half naked and his clothes in tatters. Guto compares the deucant (3) to hunters and their dogs and urges them to sound their horns in pursuit of Dafydd (1–14). Guto now says that he slew Dafydd yesterday with seven cywyddau, like killing a prey with dogs. Even so, his small body does not have enough flesh on it to make a decent soup. Although Guto has mentioned that he has ‘killed’ Dafydd, he urges the band again to hunt him as the fox of Powys Fadog (15–32). Guto then says that Dafydd has fled to Denbigh castle (34 ffau fawr) for refuge, and the men and poets from various parts of Wales are now called upon to chase him from the land. The hunt stretches, geographically, from the two Maelors to the West – Yale, the Vale of Clwyd, Edeirnion, Penllyn and Llŷn – and an attempt is made to prevent Dafydd from going to Gwynedd. An attempt is also made to prevent him from going to the South and Powys by calling for help from the poets Dafydd Llwyd of Mathafarn, Llawdden and Hywel ap Owain. Gruffudd ap Dafydd Fychan is asked to shear Dafydd and it is stated that Syr Rhys of Carno will be the huntsman of the chase (33–52). The poem is concluded with a wish for Dafydd to be hunted until he perishes in the water (53–60).
Date
There are no indicators with which to date the poem, and the most that can be said is that it was probably composed earlier rather than later in Guto’s life.
The manuscripts
The poem has been preserved in 14 manuscripts which date from the second quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. They are similar to each other, have the same line sequence and doubtless derive from a single written exemplar. Pen 221 consists of only a couplet and BL 14998, CM 27, C 3.37 and Llst 124 lack some lines. The manuscripts containing the poem have links with north and mid Wales.
Gwyn 4, LlGC 3049D and Wy 1 are copies of the ‘Conwy Valley Exemplar’ but BL 14967 seems to derive independently from their common exemplar. Pen 221’s relationship with the other texts cannot be determined. The edited text is based on BL 14967, Gwyn 4 and LlGC 3049D.
Previous editions
GGl poem LXXI; DE Appendix, poem IV.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 42% (25 lines), traws 38% (23 lines), sain 18% (11 lines), llusg 2% (1 line).
1 llednoeth Cf. 5 heb ddillad newydd, 54 Y Grawys cul a’i grys carth. Dafydd ab Edmwnd is so described (figuratively) because of the action of the deucant yn cnoi Deicin / Fal blaidd neu anifail blin (3–4).
3 deucant Two hundred (i.e., a large number) other poets.
3 Deicin One of the variants of the name Dafydd (43, 57) featured in the poem. The ending in -cin (/ -cyn) is dimunitive, see GGl 348. [D]acyn in 16 is a variant of the same form. Other variants of the name Dafydd are 9 Deio, 11 Dai; see G 323; Morgan and Morgan 1985: 81–5.
4 heb ddillad newydd See 1n.
6 llwdn y fost Cf. 26 bostfardd.
6 bydd The meaning of the verb may also be that of the frequentative present here; cf. 31.
12 Hywel Bica An unknown character.
13 ymlidiwynt, canwynt On these less familiar forms of the third person plural present subjunctive, see GMW 129. They have the force of imperatives here.
16 deuddeci Apparently a metaphor for the saith gywydd mentioned in the next line. The poets ‘hunt’, i.e., pursue, Dafydd ab Edmwnd, by attacking with poems.
18 gown llwyd A reference, by metonymy, to Dafydd ab Edmwnd. The gown was perhaps some distinguished garb signifying his status as a landed and wealthy aristocrat.
26 bwystfil In the following lines the various animals that Dafydd ab Edmwnd could be are listed.
31 Powys Fadog Northern Powys. It was named after Madog ap Gruffudd (who died in 1236), grandson of Madog ap Maredudd, last king of Powys, see NCLW 477, 596.
33 Aeth i Ddinbech i lechu Cf. 67.3–4 Os gwir dy fod yn was gwych / I’th henbais lwyd wrth Ddinbych ‘If it’s true that you’re a splendid servant / in your old grey armour by Denbigh.’ Dinbech is a common form of Dinbych in the fifteenth century, GGl 348, and it facilitates the cynghanedd lusg here.
34 ffau fawr A reference apparently to Denbigh castle.
35 y ddwy Faelor Namely the commotes of Maelor Gymraeg and Maelor Saesneg in north-east Powys, see WATU 148, 288–9. Dafydd ab Edmwnd hailed from Hanmer in Maelor Saesneg (NCLW 143–4).
36 A’i gyr i’r coed o’r graig hen No doubt Coed y Graig Lwyd by Llanymynech, an outlaw hideout (see 84.46n), is meant by craig hen. By saying that Dafydd ab Edmwnd will be driven from there to the wood, the point is that not even Coed y Graig Lwyd will be safe enough for him before having to flee to some other wood.
39 Edeirnion A commote in Penllyn (Merionethshire), see WATU 63, 266.
39 i arnadd GPC 1993 ‘above; ?from above’, the adverbial form of the compound preposition i ar. In GGl 367 arnadd is treated as a variant of arnodd ‘plough-beam, plough’; so too in GPC s.v. arnodd1 but not in GPC2 474. It appears that gwlad i arnadd signifies high land or the like here.
43 Dafydd The poet Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd (Dafydd Llwyd of Mathafarn). He lived in Mathafarn in the parish of Llanwrin by the river Dyfi.
44 Llawdden A poet who was a contemporary of Guto’r Glyn and who is associated with Maldwyn and Maelienydd, see GLl.
45–6 Hywel … / Ab Owain It may be, as tentatively suggested in GGl 348, a reference to Hywel ab Owain ap Gruffudd, the subject of poem 40. He hailed from the vicinity of Llanbryn-mair in the commote of Cyfeiliog (southern Maldwyn).
46 Powys Perhaps Powys Wenwynwyn (southern Powys) is meant as the [d]wy Faelor (35), which were in Powys Fadog (31), had already taken part in the hunt.
47–8 Gruffudd fab Dafydd … / Fychan A fifteenth-century poet who hailed from Tir Iarll in Glamorgan and of whose work a number of cywyddau have been preserved, see DWB 311; NCLW 283. He is possibly named in 115.31–3.
49 Syr Rys Namely Syr Rhys of Carno, author of poem 101a.
51 Guto Uncertain. Some names that come to mind are Gutun Owain, the poet from Dudleston in the lordship of Oswestry (Gutun is a variant of Guto, see Morgan and Morgan 1985: 103–5); the father of Llywelyn ap Gutun, who was also a poet, see GLlGt 2. However, perhaps the most likely candidate is Guto of Powys who presented a petitionary poem to Siôn Abral of Cilwch and who was apparently a different poet from Guto’r Glyn, see poem 120.
51 hai Probably the cry of the hunters.
54 Y Grawys cul a’i grys carth See 1n. Dafydd ab Edmwnd is described as Grawys cul perhaps because the Lenten fast causes people to lose weight, grys carth means a shirt of coarse material.
54 Grawys Note that -wy- (ŵy) is a falling diphthong here. Today it is a rising one.
58 antur It is here used adjectivally, see GPC2 374.
58 tir rhydd Probably land where Dafydd ab Edmwnd will not be an outlaw.
Bibliography
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
Morgan, T.J. and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.