Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn, yn gyflawn neu’n anghyflawn, mewn 43 llawysgrif sy’n dyddio o ail chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir llawer o amrywio yn y testunau, o ran hyd, geiriau a threfn y llinellau, a thebyg mai trosglwyddiad llafar yn bennaf a fu’n gyfrifol am hyn. Mae rhai arwyddion, er hynny, y gall mai o fersiwn ysgrifenedig o’r gerdd y tarddodd y testunau yn y lle cyntaf (gw. 1n, 19n). Gellir gweld saith math o destun (gw. stema), sef BL 14967, X1, X2, Llst 44, Pen 93, X3, BL 14876. O’r rhain mae’n drawiadol cynifer ohonynt sy’n tarddu o X3. Yn X2 mae BL 14886 yn tarddu o un o lawysgrifau Llywelyn Siôn ond yn cynnwys darlleniadau o ffynhonnell arall hefyd. Cwpled yn unig sydd yn Pen 221 ac nid oes modd gwybod i ba deulu y perthyn. Mae testun BL 14876 yn anarferol, oherwydd, er ei fod yn cynrychioli ffurf annibynnol ddilys ar y gerdd, eto ni wyddys am gynsail gynharach na’r ddeunawfed ganrif y gellir ei darddu ohoni.
Ceir y testunau hwyaf yn BL 14967, X1, X2, Llst 44, Pen 93, BL 14876, gydag amred o 70 llinell (Pen 93) i 86 llinell (BL 14967), a’r gwahaniaeth amlycaf rhyngddynt yw trefn eu llinellau. Ar y llaw arall, ni chynnwys testunau X3 ond 60 llinell, a’r un yw trefn y llinellau ym mhob achos (ac eithrio yn LlGC 8330B lle ceir y dilyniant 4–7 yn lle 47–8). Pur debyg i’w gilydd ydynt yn eiriol hefyd fel nad hawdd yw pennu union berthynas pob un ohonynt â’i gilydd. BL 14967 yn unig sy’n cynnig testun cyflawn a cheir ynddo amryw o ddarlleniadau da. Ceir mwy o lygredd yn X1 a X2 (yn enwedig) a rhai darlleniadau gwerthfawr yn Llst 44, Pen 93, BL 14876.
Trawysgrifiadau: BL 14967, Llst 44, Pen 93, BL 14876.
1 a Dyma ddarlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio X2, BL 14876 lle darllenir y (cf. CMOC2). Mewn cymal perthynol genidol, gellid defnyddio’r geiryn a neu y, gw. GMW 65. Ar un olwg, felly, mae’n syndod na cheir rhagor o enghreifftiau o y yn y testunau. A oes awgrym eu bod yn tarddu o gynsail ysgrifenedig â’r darlleniad a cyn dechrau cael eu trosglwyddo ar lafar (gw. uchod), a darfod cadw a?
14 chair Gthg. X3 chaid.
16 y groth Felly Pen 93 a cf. Llst 44 y gror, BL 14876 dy grôth. Gthg. BL 14967, LlGC 3050D, X3, CM 27 groth.
18 ym mowntens Seiliwyd hwn ar BL 14967, Pen 93 ym howntens, X3 y mowntens (ond Pen 239 Y Mowntains). Ceir yr amrywiadau LlGC 3050D ym hwyntenes, Llst 44 ym mwntens, CM 27 y mowntaens, BL 14966 ym mwyntes, BL 14876 [ ]r mwntens. Ni cheir y ffurf mowntens yn GPC 2498, ond cynigir mai benthyciad yw o’r Saesneg mountens, amrywiad ar mountaunce ‘amount, quantity’, gw. MED. Yn CMOC2, darllenir ym mhowntens a chyfieithu’r enw yn betrus yn ‘potence’, fel pe bai wedi ei fenthyca o’r Saesneg potence ‘power, ability’, gw. MED d.g. Ond, er y byddai’r ystyr yn gweddu i’r cyd-destun, rhaid rhoi cyfrif am yr n yn y Gymraeg sy’n rhagflaenu t ac nas ceir yn y Saesneg.
18 amhwyntiodd Ceir yr h yn yr holl lawysgrifau (ac ni nodir unrhyw enghreifftiau o amhwyntio hebddi yn GPC2 224), felly atebir yr m yn mowntens gan mh. Nid effeithir ar y gynghanedd er hynny. Tebyg mai dylanwad yr h hon a barodd yr h yn mowntens (hynny yw mhowntens) a geir yn rhai o’r llawysgrifau (gw. y nodyn blaenorol).
19 tri tir a geir yn yr holl lawysgrifau, ac eithrio BL 14967 lle ceir tair, ond mae ei agosrwydd at y geiriau tew anesgor yn y llinell nesaf yn dwyn i gof yr hyn a elwir mewn traethawd meddygol y tri thew anesgor (‘the three incurable thick [organs]’), a ddiffinnir fel auu, ac aren a challonn, gw. Jones 1958–9: 382, 383. Gall, yn wir, mai ffrwyth meddwl ar hyd yr un llinellau a esgorodd ar tair yn BL 14967, serch i’r sawl a oedd yn gyfrifol ddefnyddio ffurf fenywaidd, nid gwrywaidd, y rhifolyn gan dybio y byddai hynny’n cyfreithloni’r diffyg treiglad i tew. O dderbyn y diwygiad, yr ergyd yw bod tor llengig Guto yn debyg i un o’r tri thew anesgor o ran y ffaith na ellir ei wella. Gellir priodoli’r diffyg treiglad llaes i Tew gan fod draw yn dod rhyngddo a tri neu am fod Tew ar ddechrau’r llinell. Yn sicr, mae’r diwygiad yn gwella synnwyr y cwpled, a gellid yn hawdd fod wedi camysgrifennu tir am tri yng nghynsail y gerdd. Gthg. CMOC2 lle darllenir tir.
20 anesgor Felly BL 14967, X3, Llst 44 (anosgar), Pen 93, BL 14966, BL 14876. Gallai LlGC 3050D, CM 27 anosgedd roi synnwyr da hefyd ond nid yw’r dystiolaeth o’i blaid mor gryf.
21 Yw bwrn, yn arffed o bydd Dyma ddarlleniad BL 14967. Gellid hefyd ystyried X1 bwrn yn i arffed i bydd (cf. BL 14876 [ ] bwrn yn d’arffed y bŷdd), er nad yw’r testunau hyn ymysg y goreuon. Yn Pen 93, X3 A bwrn yn arffed o bydd, a Llst 44 baich yni arffed o bydd, nid oes prif ferf.
27 heb luniaw Darlleniad BL 14967 yw huniaw, a heb wedi ei hepgor; dengys y gynghanedd mai luniaw yw’r ferf gywir, cf. LlGC 834B heb lunio. Ymysg darlleniadau’r llawysgrifau eraill, er hynny, sylwer yn enwedig ar heb liw na LlGC 3050D, CM 27 a Pen 93.
29 hoel Felly BL 14967, Llst 44, Pen 93, BL 14876, a cf. hael X2 (ond BL 14886 ail). Gthg. fal a geir yn y llawysgrifau eraill (a cf. CMOC2). Haws fuasai i hoel droi’n fal nag fel arall.
30 pŵl Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Diddorol, er hynny, yw X1 poeth.
31–6 Yn BL 14967, mae’r llinellau hyn yn dilyn 46 ond ni cheir y drefn hon yn y llawysgrifau eraill.
31 pil Felly BL 14967. Ceir piw yn y llawysgrifau eraill ond mae’r gynghanedd o blaid pil. Gwell hefyd yw’r ystyr.
32 parsel o bwndrel Darlleniad LlGC 834B, BL 14876; gthg. BL 14967 parfil o bwndril, X1 potel nev b(o)wndrel, X2 parfel o bwndrel (Llst 134 bondrel), Llst 44 parfel o bwdrel a Pen 93 parfil o bawndril. Nid yw’r ffurfiau parfil, parfel yn hysbys. Ceir pwrffil, benthyciad o Ffrangeg Lloegr purfil, o bosibl trwy Saesneg Canol, â’r ystyr ‘ymyl (addurnedig) gwisg’, GPC 2944, ond ceir w ac ff yn lle a ac f. Cynigir, felly, fod -f- wedi ei chamddarllen am -s-. Yn CMOC2, darllenir parfil a rhoi iddo’r ystyr ‘apron’. Ar ystyr pwndrel, gw. 32n (esboniadol).
37 peisiau eirin Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Rhoddai pais i eirin X1 hefyd ystyr burion.
40 gafl Felly BL 14967. Gthg. X1 gafr, X2 gost / gast, LlGC 834B gast, darlleniadau na roddant gystal synnwyr.
44 a’i Felly Llst 44, LlGC 834B. Ceir oi yn y llawysgrifau eraill ond ni rydd gystal synnwyr.
47 fôn rhyw hudlath BL 14967 von hudlath, X1, Llst 44 wreiddin hvdlath, X2, X3 von ehydlath, Pen 93 fol rvw hvdlath a BL 14876 fôn i hŷdlath. Ymddengys fod sillaf ar goll o flaen hudlath yng nghynseiliau rhai o’r testunau ac y bu ymgais i’w hadfer trwy ddarllen wreiddin neu ehudlath (ffurf anhysbys). Yn BL 14967, ni lanwyd y bwlch, a rvw Pen 93 yn hytrach nag i BL 14876 sy’n cwblhau’r ystyr orau.
51–2 Yn CMOC2, dodir llinellau’r cwpled yn y drefn wrthwyneb ond yn Pen 93 yn unig y’i ceir felly.
51 celai’r rhawg BL 14967 gelai r rawc ond dengys y gynghanedd a’r gystrawen mai celai a ddylai fod (ar yr amser amherffaith, cf. BL 14966 coelie /r/ rhawg). Gellid ystyried hefyd Pen 93, BL 14876 kel y Rawc.
52 eirin Dyma ddarlleniad X1, Pen 93. Amhriodol yw evrraid BL 14967. Diddorol hefyd yw BL 14876 dirŷm, darlleniad a geir yn BL 14886 hefyd ar gyfer arythr (sy’n cyfateb yno i eirin y testun).
54 y Felly BL 14967, X2. Gellid ystyried hefyd Pen 93, BL 14876 i (hynny yw ‘ei’).
55 gwrach Felly Pen 93. Gwell yw na BL 14967, BL 14876 gwrraic.
56 aruthr BL 14967 ir, Pen 93 arvth, BL 14876 aruth; cf. hefyd y darlleniad amrywiol aruthr mewn llaw arall a geir yn BL 14886 ar gyfer hir.
56 Dilynir y llinell hon gan gwpled, kwd gregin yn kadw gwraedd / kwlm yw nid kael ai medd, yn BL 14967 ac yn BL 14876, yn y ffurf Côd gregin yn Cadw gwragedd / Cylain yw nid Câl ai mêdd. Ceir yr un cwpled, drachefn, yn Llst 44 ond yn dilyn llinell 60 ac yn y ffurf kod gregin yn kadw gwragedd / kwlwm oer nid kael ai medd. Mae’n anodd gwybod a oedd hwn yn rhan wreiddiol o’r gerdd ynteu ai enghraifft sydd yma o gwpled crwydr diweddarach.
59 llesg Dyma ddarlleniad y rhan fwyaf o’r llawysgrifau. Mae BL 14967, BL 14876 lesc, fel pe bai’n mynd gydag ysgrapan.
66 â’r bêl dan yr iau bôn Felly X1 (ond BL 14966 ar bell dan /r/ av bon), X2, X3; cf. hefyd Pen 93 (dyn)a r bel dan yr iaû bôn ond wedi eu hychwanegu gan law arall. Gwahanol yw darlleniadau’r llawysgrifau eraill: BL 14967 ai val dan iav von, Llst 44 vw ai faich dan i fon, BL 14876 iw ai bêl dan i bôn ond llai effeithiol ydynt ac mae darlleniad BL 14967 yn brin o sillaf.
68 Mail sebon moel ei siobo Seiliwyd y darlleniad hwn ar BL 14967 Mail sebon moel y siobo a Llst 44 Mal sebon Moel i siobo. Llwgr yw darlleniadau’r llawysgrifau eraill.
68 siobo Gthg. CMOC2 siabo a gw. GPC 3285 d.g. siobo. Ceir siabo yn rhai o lawysgrifau X3.
77 achwyn Fe’u hysgrifennir yn ddau air yn rhai o’r llawysgrifau, felly gellid darllen a chwyn hefyd (ond heb nemor wahaniaeth i’r ystyr).
79 waelod Gellid ystyried aelod hefyd a geir yn X1 a Llst 44.
80 a’th Dyma ddarlleniad BL 14967. Ceir ith yn y llawysgrifau eraill ond gan fod llinellau 81–4 bob un yn dechrau ag a, gwell, efallai, yw’r cysylltair.
Llyfryddiaeth
Jones, I.B. (1958–9), ‘Hafod 16 (A Mediaeval Welsh Medical Treatise)’, Études viii: 346–93
Dyma’r cyntaf o ddau gywydd dychan a fu mewn ymryson rhwng Dafydd ab Edmwnd a Guto’r Glyn (gw. hefyd cerdd 68). Sail ymosodiad Dafydd yw bod Guto wedi torri ei lengig wrth godi pwysau, gan achosi i’w geilliau chwyddo, ond ni raid credu bod hyn wedi digwydd mewn gwirionedd. Fel y sylwa Dafydd Johnston yn CMOC2 130 gyda golwg ar ateb Guto, 68.39–40 Doe y haeraist, dihiryn, / Dyrfu ’nghwd dan dor fy nghŷn, ‘ymddengys … fod Guto wedi ateb dychan Dafydd y diwrnod canlynol, fel rhan o ddiddanwch rhyw ŵyl, mae’n debyg’, a diau, fel y dadleua Jerry Hunter (1997: 50), mai gwneud Guto yn gyff gwawd yn nhraddodiad y cyff clêr oedd yr achlysur hwnnw; cymharer cefndir cerddi 46, 46a, 46b, 66. Hawdd fuasai gwawdio Guto am ei gampau corfforol gan ei fod yn hynod yn hyn o beth (gw. cerdd 68b).
Syml iawn yw cynnwys ac adeiladwaith y gerdd. Ar ôl cyflwyniad byr (llinellau 1–4), eir ati i ddyfalu anhwylder Guto yn orchestol a diymatal (5–74) nes cloi gan ddarogan gwaeth iddo heb ofal meddygon (75–84). Tebyg mai rhan o’r orchest hefyd yw’r nifer trawiadol isel o gynganeddion sain.
Dyddiad
Ni ellir dyddio’r gerdd yn fanwl. Sonnir am gampau Guto yng ngherdd 68b hefyd, cerdd a gyfansoddwyd efallai yn 1461–9, a gall, felly, mai i’r un cyfnod y perthyn y gerdd hon, hithau. Fodd bynnag, gallai fod yn llawer cynharach ac yn perthyn i’r cyfnod pan oedd Guto yn ei ugeiniau ac ar ei anterth yn gorfforol, sef yn y 1440au. Rhaid cynnig, felly, ddyddiad eang iawn ei rychwant, sef c.1440–69.
Golygiad blaenorol
CMOC2 130–3.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 84 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (46 llinell), traws 40% (34 llinell), sain 4% (3 llinell), llusg 1% (1 llinell).
6 bwmpa Yr unfed ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghraifft gynharaf yn GPC 354.
16 onid yw’n granc Cymerir mai Guto a olygir, nid y groth megis yn CMOC2.
19–20 tri … / Tew anesgor Gw. 19n (testunol).
20 tan ysgaw Anodd yw gwybod wrth beth i’w cydio na beth yw eu harwyddocâd tu hwnt i ystyron y geiriau unigol. A dorrodd Guto ei lengig dan goed ysgawen? Ynteu a ddylid eu cymryd gydag anesgor gan olygu na all y tri organ tew gael eu gwella gan sudd ysgaw (a ddefnyddid i wella anhwylderau)?
22 gwichiedydd Nis rhestrir yn GPC 1657.
23–5 Er ennill … yr einion, / … / Gellaist ddwyn camp a’i golli Cyfeirir at Guto fel mabolgampwr o fri; cf. cerdd 68b.
25 a’i golli Trinnir camp fel enw gwrywaidd, a hynny, fe ymddengys, er mwyn y gynghanedd. Yn ôl GPC 404, enw benywaidd yn unig ydyw; cf. 45n.
29 torcyn Nis rhestrir yn GPC 3525. Yn CMOC2 cynigir yn betrus yr ystyr ‘drag-net’, ar sail y cyd-destun yn unig, fe ymddengys. Cynigir mai cyfansoddair afrywiog ydyw yn cynnwys yr elfennau tor a cŷn. Ar cŷn (hynny yw ‘cal’), cf. 49, 61.
29 hoel Fe’i deellir yn ffigurol yma.
29 Ierwerth Teircaill Ni welwyd cyfeiriadau eraill at y cymeriad (?chwedlonol) hwn.
32 pwndrel Nis rhestrir yn GPC 2942. Cynigir mai benthyciad ydyw o’r Saesneg poundrelle a ddiffinnir yn MED fel ‘a kind of scale or balance for weighing’ (o’r Lladin Canol ponderale, pondrellum).
39 poten 1566 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf yn GPC 2863.
41 posiar 1547 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf yn GPC 2859.
45 ei hargoel Cyfeirir at hergod yn yr un llinell. Yn ôl GPC 1856, enw gwrywaidd yn unig yw hergod ond fe’i trinnir yma fel enw benywaidd; cf. 25n.
47 hudlath Sef y gal.
53 codaid 1588 yw dyddiad yr enghraifft gyntaf ohono a restrir yn GPC 527.
59 hepil Amrywiad ar epil, gw. GPC 1226.
64–5 dywyddu; / Dywydd Yr unfed ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghreifftiau cyntaf ohonynt a restrir yn GPC 1154.
64 Deio Sef, fe ymddengys, Dafydd ab Edmwnd. Annisgwyl yw cyfeiriad y bardd ato’i hun yma ond efallai na olyga fawr mwy na ‘fy ngŵydd’.
72 hŵen 1775 yw dyddiad yr enghraifft gynharaf yn GPC 1928 d.g. hŵan.
76 hon Sylwer mai goddrych, nid gwrthrych, y frawddeg ydyw. Mae rhyw enw benywaidd fel bors yn ddealledig.
80 gwayw Sef y gal.
82 adar Ymddengys mai’r ceilliau a olygir, er nad yw’r tebygrwydd rhynddynt ac adar yn amlwg. Efallai mai’r hyn y mae’r bardd yn meddwl amdano yn bennaf yw adenydd aderyn gan fod y rhain ar bob ochr i’w gorff megis y mae’r ceilliau ar bob ochr i’r gal.
Llyfryddiaeth
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned, 3: 33–52
This is the first of two satirical cywyddau exchanged in a contention between Dafydd ab Edmwnd and Guto’r Glyn (see also poem 68). The basis of Dafydd’s attack is that Guto has ruptured himself in lifting a weight, causing his testicles to swell; but it is not necessary to believe that this actually happened. As Dafydd Johnston notes in CMOC2 131 with reference to Guto’s reply, 68.39–40 Doe y haeraist, dihiryn, / Dyrfu ’nghwd dan dor fy nghŷn ‘Yesterday you asserted, you scoundrel, / that my scrotum had been wrenched beneath the belly of my chisel’, ‘It seems … that Guto answered Dafydd’s satire the following day, probably as part of the entertainment during some holiday festivities’, and the occasion was no doubt, as Jerry Hunter (1997: 50) argues, Guto being made a butt of ridicule in the tradition of the cyff clêr (‘butt of minstrels’); compare the background of poems 46, 46a, 46b, 66. It would be easy to mock Guto for his physical feats as he excelled in this respect (see poem 68b).
The poem is very straightforward in content and structure. After a short introduction (lines 1–4), Guto’s plight is made the subject of brilliant and unremitting comparisons (5–74) up to the conclusion where worse is predicted for him without the care of physicians (75–84). The strikingly low incidence of the cynghanedd sain is probably also a facet of the poem’s brilliance.
Date
It isn’t possible to date this poem accurately. Guto’s feats are also mentioned in poem 68b, composed perhaps in 1461–9, and this poem may also belong to the same period. However, it could be much earlier and belong to the time when Guto was in his twenties and physically in his prime, in the 1440s. It is necessary, therefore, to pose a very wide date such as c.1440–69.
The manuscripts
The poem has been preserved, complete or incomplete, in 43 manuscripts dating from the second quarter of the sixteenth century to the nineteenth century. The texts vary a lot in length, words and line sequence, and this is probably due mainly to oral transmission. There are some signs, however, that the texts may have derived from a written version of the poem in the first instance. The texts divide into seven kinds and of these it is striking how many belong to the type represented by such manuscripts as LlGC 834B. The edited text is based on BL 14967, Llst 44, Pen 93 and BL 14876.
Previous edition
CMOC2 130–3.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 84 lines.
Cynghanedd: croes 55% (46 lines), traws 40% (34 lines), sain 4% (3 lines), llusg 1% (1 line).
6 bwmpa The sixteenth century is the date of the earliest example listed in GPC 354.
16 onid yw’n granc It is assumed that Guto is meant, not the croth as in CMOC2.
19–20 tri … / Tew anesgor In a medical treatise these are defined as auu, ac aren a challonn ‘liver, kidney and heart’, see Jones 1958–9: 382, 383.
20 tan ysgaw It is difficult to know in what way these words should be linked or what they signify beyond the meaning of the individual words. Did Guto rupture himself beneath an elder tree? Or should they be taken with anesgor in the sense that the three fat organs cannot be cured by the juice of the elder (used to treat ailments)?
22 gwichiedydd It is not listed in GPC 1657.
23–5 Er ennill … yr einion, / … / Gellaist ddwyn camp a’i golli Guto’r Glyn is referred to as an athlete of renown; cf. poem 68b.
25 a’i golli camp is treated as a masculine noun, apparently to facilitate the cynghanedd. According to GPC 404, it is a feminine noun only; cf. 45n.
29 torcyn It is not listed in GPC 3525. In CMOC2 the meaning ‘drag-net’ is tentatively suggested, solely, it appears, on the basis of the context. It could be an improper compound containing the elements tor and cŷn. On cŷn (i.e., ‘penis’), cf. 49, 61.
29 hoel Understood figuratively here.
29 Ierwerth Teircaill This (?legendary) personage is otherwise unknown.
32 pwndrel It is not listed in GPC 2942. It may be suggested that it is a borrowing from English poundrelle defined in MED as ‘a kind of scale or balance for weighing’ (from Middle Latin ponderale, pondrellum).
39 poten 1566 is the date of the earliest example cited in GPC 2863.
41 posiar 1547 is the date of the earliest example cited in GPC 2859.
45 ei hargoel Reference is made to hergod in the same line. According to GPC 1856, hergod is a masculine noun only but it is treated here as feminine; cf. 25n.
47 hudlath Namely the penis.
53 codaid 1588 is the date of the earliest example listed in GPC 527.
59 hepil A variant of epil, see GPC 1226.
64–5 dywyddu; / Dywydd The sixteenth century is the date of the first examples of them given in GPC 1154.
64 Deio Namely, it appears, Dafydd ab Edmwnd. This reference by the poet to himself is unexpected but perhaps means no more than ‘my goose’.
72 hŵen 1775 is the date of the earliest example in GPC 1928 s.v. hŵan.
76 hon Note that it is the subject, not the object, of the sentence. Some feminine noun such as bors is understood.
80 gwayw Namely the penis.
82 adar It appears that the testicles are meant, although the resemblance between them and birds is not obvious. The poet may be thinking mainly of the wings of a bird as these are on both sides of its body in the same way as the testicles are on each side of the penis.
Bibliography
Hunter, J. (1997), ‘Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar “Yr Ysbaddiad Barddol” ’, Dwned 3: 33–52
Jones, I.B. (1958–9), ‘Hafod 16 (A Mediaeval Welsh Medical Treatise)’, Études viii: 346–93
Dychenir y bardd Dafydd ab Edmwnd mewn tri chywydd a briodolir i Guto (cerddi 66, 67 a 68). Yn y cyntaf dychmygir ei fod yn llwynog a helir gan fintai o feirdd ac yn yr ail fe’i dychenir fel llipryn llwfr. Yn y trydydd cywydd fe ddychenir cal Dafydd am iddo ganu cywydd i Guto (cerdd 68a) lle dychenir maint ei geilliau. At hynny, canodd Dafydd englyn dychan i Guto (cerdd 68b). Cyfeirir at yr anghydfod rhyngddynt gan Lywelyn ap Gutun mewn cywydd dychan i Guto (65.47n). Priodolir 77 o gerddi i Ddafydd yn DE. Cywyddau yw’r rhan fwyaf ohonynt ond ceir awdlau ac englynion hefyd. Cerddi serch yw bron deuparth o’i gywyddau, llawer ohonynt yn brydferth eu disgrifiadau a gorchestol eu crefft, ond ceir hefyd rai cerddi mawl, marwnad, gofyn, crefydd a dychan.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Edwin’ 11, ‘Hanmer’ 1, 2, ‘Trahaearn Goch of Llŷn’ 2, DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd, GMRh 3 ac ar wybodaeth a geir yn llaw John Davies o Riwlas (1652–c.1718) yn LlGC 8497B 66r–7r. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Gan Enid Roberts yn unig (GMRh 3) y ceir yr wybodaeth am fam Dafydd a’r ffaith ei fod yn gyfyrder i’w athro barddol, Maredudd ap Rhys (nid oedd gan Fadog Llwyd fab o’r enw Dafydd yn ôl achresi Bartrum). Gwelir bod Edmwnd, tad Dafydd, yn gyfyrder i Siôn Hanmer o Halchdyn a’r Llai. Os cywir yr wybodaeth a geir yn LlGC 8497B, roedd Dafydd yn frawd yng nghyfraith i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt.
Ei yrfa
Roedd Dafydd yn fardd disglair a phwysig iawn ac yn dirfeddiannwr cefnog. Hanai o blwyf Hanmer ym Maelor Saesneg, ac mae’n debyg hefyd iddo fyw ym Mhwllgwepra yn Llaneurgain, sir y Fflint, sef bro ei fam. Roedd yn berchen ar Yr Owredd, prif aelwyd teulu’r Hanmeriaid, a llawer o diroedd eraill yn Hanmer. Maredudd ap Rhys (gw. GMRh) oedd ei athro barddol a bu Dafydd, yn ei dro, yn athro i ddau fardd disglair arall, sef Gutun Owain a Thudur Aled, a ganodd ill dau farwnadau iddo hefyd. Roedd Dafydd hefyd yn ffigwr tra phwysig yn y traddodiad barddol oherwydd ei ad-drefniant, a arhosodd yn safonol wedyn (er gwaethaf peth gwrthwynebiad), o gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain mewn eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1451 gerbron Gruffudd ap Nicolas, taid Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais. Ymhellach arno, gw. DE; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Edmwnd; DNB Online s.n. Dafydd ab Edmwnd.