Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn dwy lawysgrif a ddyddir c.1573–c.1580, sef Pen 81 (William Lloyd), sy’n anghyflawn, a Pen 78. Ni cheir gwahaniaethau mawr rhwng darlleniadau’r ddau destun, er bod darlleniadau Pen 81 yn rhagori rhyw gymaint ar ran gyfatebol Pen 78, ac mae’n amlwg eu bod ill dau yn tarddu o ffynhonnell gyffredin, a oedd, yn ôl pob tebyg, yn un ysgrifenedig. Er mai dau destun yn unig a geir, a bod un ohonynt yn anghyflawn, mae safon gyffredinol eu darlleniadau yn ddigon da i gynnig testun credadwy ar ei hyd, a seilir y golygiad ar y ddwy. Mae cysylltiad rhwng y ddwy â Rhiwedog ym Meirionnydd.
Trawsysgrifiadau: Pen 81, Pen 78.
4 o Fair Wyry Fe’i deellir yn ebychiad parenthetig yn GGl, ond mwy naturiol yw cydio’r geiriau wrth a roed yn y llinell flaenorol a deall yr o yn arddodiad yn cyfeirio at eni Crist o Fair.
9 Erod erodr a geir yn y llawysgrifau, ond dengys y cyd-destun mai Erod sy’n gywir ac ni cheir r berfeddgoll o ganlyniad; cf. GGl.
10 athrylid Dyma ddarlleniad Pen 81. Ni nodir y ffurf hon yn GPC 236 ond cf. ethrylid, amrywiad ar ethrylith (sy’n amrywiad ar athrylith), ibid. 1255. Gellid darllen ythrylith Pen 78 hefyd ond gan fod darlleniadau Pen 81 yn tueddu i fod yn well nag eiddo Pen 78, mae’n debycach mai athrylid oedd y darlleniad gwreiddiol.
10 dy ferthrolaeth Pen 81 dyfathrolaeth, Pen 78 yfath Rolaeth. Diau mai dy ferthrolaeth sy’n gywir, cf. GGl.
11 ein Llawysgrifau yn, a ddehonglir yn eiryn traethiadol yn GGl. Diangen ydyw yn gystrawennol, er hynny, o’i ddeall felly, a’i safle yn y cymal yn chwithig, a mwy naturiol ym mhob ffordd yw’r rhagenw meddiannol.
14 wedi’r bwa Ni cheir ’r yn y llawysgrifau ond mae ei angen ar y gynghanedd a gwell yw’r ystyr; cf. GGl.
15 Ieuan Pen 81 Ifan, Pen 78 Iefan ac yn GGl. Fodd bynnag, fel hyn ceir f wreiddgoll ac f berfeddgoll, a gellir osgoi hynny’n hawdd trwy ddefnyddio’r ffurf heb -f-.
16 Pen 81 fo leilai fab lywelvn; Pen 78 bo lleilai fal lln. O’r ddau, darlleniad Pen 81 sydd gywiraf, ond er y treiglir enw weithiau ar ôl mab (gw. TC 108–9), nid yw’n arferol treiglo’r traethiad ar ôl bo (TC 320). Ymddengys, felly, fod angen diwygio darlleniad Pen 78 yn Fo lleilai, fab Llywelyn, megis y gwneir yn GGl.
20 wnâi ’m na Cf. Pen 78 nai ym na; gthg. darlleniad GGl sy’n dilyn Pen 81 wnae na. Fodd bynnag, gan y gellir gwneud neu beri rhywbeth i rywun, gellir ystyried y cymal na chysgwn y nos yr hyn a wneir i’r bardd.
23 ’n yr aith Pen 81 /n/ iraith, Pen 78 /n/ waith. Dilynir yr ail, gydag addasu, yn GGl Ni bu’n waeth y boen ar ŵr, ond nid atebir yr r felly, a rhydd darlleniad Pen 81 synnwyr purion fel y saif. Ar aith, gw. GPC2 172.
24 fwy Llawysgrifau mwy. Darllenir fwy er mwyn y gynghanedd.
26 fûm Disgwylid y bûm ar ôl cymal adferfol pwysleisiedig, ond cymharer, er enghraifft, GLl 16.17–18 Ar wyneb pob gŵr anael / A ddêl rhan o ddolur hael. Gw. hefyd TC 305.
26 â’r Pen 78 ar, a ddehonglir yn GGl yn a’r ond ni cheir cystal synnwyr.
29 intrêd Pen 78 In tred. Y tebyg yw mai amrywiad sydd yma ar antred neu entrêd ‘plastr, powltis’, benthyciad o’r Saesneg entrete, sydd yn ei dro yn dod o’r Hen Ffrangeg entrait, gw. GPC 159, 1220, 2023. In tred a brintir yn GGl, fel pe na bai’r golygydd yn gwbl sicr ynghylch tarddiad y gair (a gofynnir, 361, ‘prin introit?’), ond mae’r ystyr ‘plastr, powltis’ yn gweddu’n burion i ddyn clwyfedig; cf. moliant Guto’r Glyn i Siân Bwrch, gwraig Syr Siôn Bwrch, lle y cwyna am boenau yn ei gefn a’i glun. Wedi i groeso’r aelwyd liniaru’r poenau, dywed, 81.71–2 Nid rhaid ym waith antred mwy / Meddig ond ladi Mawddwy.
32 gwrando Pen 78 gwranda, megis a geir ar lafar heddiw. Tybed a ddylid darllen ffurf gynharach gwrando, sef gwrandaw?
33 ymwaredwr Pen 78 ym waredwr ac fe’i gadewir fel y mae yn GGl. Fodd bynnag, chwithig yw safle’r arddodiad felly ac anodd esbonio pam y treiglir gwaredwr. Ceir digon o enghreifftiau o’r ffurf ymwaredwr, gw. GPC 3807.
37 dyro Pen 78 doro, ffurf amrywiol, gw. GPC 1147 d.g. dyroddaf.
37 gomffordd Pen 78 gomffwrdd. Ar ffurfiau niferus comffordd, gw. GPC 548.
39 eli Yn GGl dodir coma ar ei ôl gan wneud nid rhaid eli yn sangiad, ond mae nid ac ond yn y llinell ddilynol yn rhan o’r un gystrawen.
41 wiredd wiroydd a geir yn Pen 78, cymharer GGl wiroedd. Fodd bynnag, ni restrir y ffurf gwiroedd yn GPC 1670 ac ymddengys mai gwall sydd yma am gwiredd.
43 San Dyma ddarlleniad Pen 78; gthg. GGl Sain ond yr un yw’r ystyr.
54 y pen Pen 78; gthg. GGl a’m pen, ond er yr atebir yr m yn y gynghanedd fel hyn, nid oes mo’i hangen ac ni cheir synnwyr boddhaol (ymhellach ar yr ystyr, gw. 54n (esboniadol)).
55 cawn Pen 78 chawn, ond ni threiglir ar ôl y cysylltair pe (gw. TC 375–6).
58 â’r hugan Pen 78 a rhvgain: gellir ei ddehongli yn ar hugain, fel y gwneir yn GGl, neu yn â’r hugain, ond yn y ddau achos nid yw’r ystyr yn eglur. Posibilrwydd arall yw cydio ar hugain wrth [p]edwargwyr grym ‘pedwar gŵr grymus ar ugain’ ond anodd fel hyn yw cystrawennu’r cwpled a chael synnwyr boddhaol. Ymddengys y byddai’n rhaid deall ai y llinell flaenorol i ddynodi â’i, a rhoddai hynny Y Grog, â’i phedwargwyr grym / Ar hugain y’th anrhegym, darlleniad y gellid ei ddehongli mewn dwy ffordd. i. ‘Y Grog / O Grog’ (cyfarchiad), â’i phedwar gŵr grymus ar hugain y byddem yn dy anrhegu’; ii. ‘Â phedwar gŵr grymus ar hugain y Grog y byddem yn dy anrhegu.’ Yn y cyntaf, fodd bynnag, chwithig yw’r newid o gyfarchiad, sydd o ran synnwyr yn yr ail berson, i’r trydydd person (y rhagenw genidol ’i) yn union ar ei ôl, ac yn y ddau nid yw’n eglur pwy yw’r [p]edwargwyr grym / Ar hugain y cyfeirir atynt na pham y byddid yn anrhegu’r Grog / Duw â hwy. Diwygir a rhvgain, felly, yn â’r hugan, darlleniad sy’n rhoi ystyr foddhaol (ymhellach ar hugan, gw. 58. (esboniadol)), a gellir priodoli hugain i waith rhyw gopïwr na wyddai arwyddocâd hugan ac a oedd dan ddylanwad y rhifolyn pedwar yn [p]edwargwyr yn y llinell flaenorol. Posibilrwydd arall fyddai darllen a yn lle ith (y’th). Fel hyn ceid cystrawen foddhaol ond golyga fwy o ddiwygio ac unwaith eto ni fyddai’n eglur pwy oedd y [p]edwargwyr grym.
Ymbil yw’r cywydd hwn ar y Grog O dre Gaer (2) i iacháu clwyf mewn morddwyd a achoswyd gan saeth, ac fe’i cyflwynir gan Guto’r Glyn ar ran Dafydd ab Ieuan. Ni ddywedir pa dref yn union a olygir wrth dre Gaer, a gallai olygu Caerfyrddin – y canodd Dafydd ap Gwilym englynion i’w chrog, gw. GLlBH cerdd 4 – neu Gaerlleon (Chester). Ond gan fod amryw o feirdd eraill y cyfnod wedi canu i’r Grog yng Nghaerlleon, ymddengys yn fwy tebygol mai’r grog honno a feddylir, a dichon fod ateg i hyn yn y ffaith fod y saint Cymreig y geilw Guto’r Glyn arnynt, sef Melangell, Dwynwen a Chynhafal (llinellau 45, 46, 51), yn gysylltiedig â chanolbarth a gogledd Cymru ac yn nes, felly, i Gaer nag i Gaerfyrddin. Ar y grog hon yng Nghaer, gweler GIBH 148–50; Lewis 2005; GLl 133–4, ac am drafodaeth lawn o grogau canoloesol, gw. Vallance 1936. Roedd y Grog yng Nghaer yn enwog iawn yn ei dydd fel gwrthrych defosiwn, ac ymddengys mai yng nghlas-eglwys Ioan Fedyddiwr y safai, Lewis 2005: 22–8. Canodd amryw o feirdd eraill gerddi iddi ac ymysg y rhain gellir cyfeirio yn neilltuol at gerddi gan Ruffudd ap Maredudd (GGMD i, cerdd 1), Ieuan Brydydd Hir (GIBH cerdd 10, a cf. ibid. cerdd 11) a Llawdden (GLl cerdd 1), sy’n cynnig y disgrifiad llawnaf ohoni. Ychydig a ddywed Guto’r Glyn am ei golwg, ond ymddengys fod lluniau o’r pedwar efengylydd ar ddiwedd pob un o’i thrawstiau (gw. 57n). Mae holl bwyslais y gerdd ar y clwyf a gafodd Dafydd ab Ieuan gan y saeth, ei gyflwr poenus a’i obaith taer am iachâd.
Ymranna’r cywydd yn naturiol yn bedair adran. Yn gyntaf (1–12), cyferchir y Grog gan gydnabod ei rhin a gofyn am ei thosturi. Yna (13–30), cyflwyna’r dioddefwr ei hun gan ddatgan achos ei boen – sef pen saeth yn ei forddwyd – a disgrifio’r ing a bair. Ceir wedyn (31–54) ymbil daer ar Dduw a’r saint i ddileu’r boen a thynnu pen y saeth allan. Yn olaf (55–8), datgenir addewid o rodd i’r Grog os ceir iachad.
Dyddiad
Nid oes modd dyddio’r gerdd, ac yn betrus cynigir c.1450.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd CX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 58 llinell.
Cynghanedd: croes 54% (31 llinell), traws 33% (19 llinell), sain 10% (6 llinell), llusg 3% (2 llinell).
1–2 Y Grog … / O dre Gaer a dry gwared Cf. GLl 1.1–3 Y Grog … / … / I dre Gaer i droi gwared. Cofier bod y Grog yn aml yn gyfystyr â Christ i’r beirdd gan fod arni lun o’r Crist croeshoeliedig (ac o’r herwydd byddant weithiau yn trin y gair fel enw gwrywaidd, gw. GILlF 57).
4 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf oni chywesgir Wyry i.
6 coron Sef y goron ddrain a ddodwyd ar Grist adeg ei ddioddefaint.
7–8 Cyfeiriad at ‘y chwedl fod gŵr dall o’r enw Longinus wedi gwanu ystlys Crist ar y groes a rhoi’r gwaed ar ei lygad, ac iddo wedyn ddod i allu gweld’, gw. GDG3 488 lle y rhoddir cyfeiriadau pellach at y chwedl gan y beirdd. Gw. hefyd G 292; ODCC3 1000; GIBH 135; DG.net 97.35–6n. Sylwer ar ystyron gwahanol gwayw yma.
8 Mae’r llinell yn rhy fyr o sillaf oni chyfrifir gwayw yn ddeusill.
9 Erod Mae’r gair cur yn y llinell a [m]erthrolaeth yn y llinell nesaf yn awgrymu nad brenin Jwdea a orchmynnodd ladd yr holl feibion bychain yno a olygir, ond yn hytrach ei fab, Herod Antipas, a ganiataodd i Iesu fynd ar brawf gerbron Pontius Peilat cyn cael ei gondemnio i’w groeshoelio, gw. Luc 23.6–11, 15. Cyfeirir at y cyntaf fel arfer fel Erod greulon; gw. G 482; GDB 36.18n; ODCC3 766.
11 oll Ar yr ansoddair hwn yn goleddfu berf, gw. GMW 98; GPC 2646, 2 (a) a cf. 52.
13–14 Duw … / bwa Diolcha Dafydd i Dduw am gadw ei einioes wedi i saeth o fwa ei glwyfo.
13–16 Dafydd … / … / Fab Ieuan … / … fab Llywelyn Gw. Dafydd ab Ieuan.
15–16 Ceir f wreiddgoll yn y ddwy linell.
18 pen y saeth Efallai mai mewn brwydr y trawyd Dafydd ab Ieuan gan hwn, er bod sefyllfaoedd eraill, megis hela, lle y gallai hyn fod wedi digwydd.
22 yn ei geisio Sef yr haeernyn (19). Ymddengys fod Dafydd yn ceisio ei dynnu allan o gnawd ei forddwyd.
23 aith Cf. GLGC 90.31–2 pennau nodwyddau i’m diddwyn, / penfar o aith, pwn o frwyn.
23 Ceir n wreiddgoll yn y llinell.
25 sant a flingwyd Nis enwir ond Bartholomews, un o’r deuddeg apostol a olygir. Y traddodiad yw iddo gael ei flingo’n fyw yn Albanopolis yn Armenia; gw. ODCC3 165.
27 Lowres Sef Lawrens (bu farw yn 258), diacon a merthyr y credid ddarfod ei ferthyru trwy ei rostio’n araf ar radell; gw. ODCC3 963.
30 [y] sant a rostied Fe’i henwir yn 27.
32 Duw fyw Ar dreiglo ansoddair ar ôl Duw, gw. TC 119.
32 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf a cheir twyll gynghanedd g (a cf. 42). Gellid unioni hyd y llinell trwy hepgor un, er yr ychwanegai hynny n berfeddgoll at y dwyll gynghanedd.
33 ymwaredwr Gellid esbonio’r treiglad trwy ddeall yn traethiadol o’r flaen, ond amlwg mae gofynion y gynghanedd yw’r prif reswm.
34 gorau meddig Daethpwyd i synio am Grist fel y meddyg pennaf am fod llawer o’i weinidogaeth gyhoeddus yn ymwneud â gwella afiechydon corfforol.
34 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf.
42 Ceir twyll gynghanedd g, cf. 32.
43–6 Diddorol yw’r ffordd y gofynnir i Dduw alw ar y saint a enwir yma gan mai’r drefn arferol yw i’r anghenus alw ar y saint, sydd yn eu tro yn galw ar Dduw. Ond y naill ffordd neu’r llall, Duw yw ffynhonnell wreiddiol y grasusau sy’n iacháu.
43–7 San Lednart … / … Fair … / … Felangell … / … / Oswallt Enwir y rhain hefyd yng ngherdd 92.49, 51, 59, 61 i iacháu glin Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch.
43 San Lednart Sef Leonard, meudwy Ffrengig o’r chweched ganrif a nawddsant carcharorion, gwladwyr a chleifion; gw. ODCC3 975–6. Diddorol yw nodi bod yn y cyfnod gapel o’r enw St. Leonard’s de Glyn a safai rhywle ym mhlwyf Gresford; ymhellach gw. ‘Caer Alyn Archaeological and Heritage Project’.
44 elïa Cf. 109.9–10 Gwnïed eilwaith, gwnaed eli, / Glwyd f’ais, ac elïed fi.
45 Melangell Santes o’r chweched ganrif a gysylltir â Phennant Melangell, Maldwyn; gw. CLC2 498; LBS iii: 463–6; Pryce 1994.
45 gwell yw’r gwaith Yr awgrym yw bod eiriolaeth Melangell yn neilltuol o effeithiol; cf. yr hyn a ddywedir am santes arall, Dwynwen, yn y llinell nesaf, Galw … unwaith.
46 Dwynwen Santes o’r bumed ganrif a gysylltir â Môn yn bennaf a nawddsant cariadon yng Nghymru; gw. CLC2 204; LBS ii: 387–92.
47 Saint Oswallt Brenin o Sais a merthyr o hanner cyntaf y seithfed ganrif; gw. ODCC3 1208.
47 santesau Gwnaeth Oswallt lawer i ledaenu Cristnogaeth ac efallai mai cyfeiriad cyffredinol sydd yma at fenywod a ddaeth yn Gristnogion yn sgil hynny.
48 Sain Padrig Nawddsant Iwerddon, gw. LBS iv: 54–71.
49 Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf oni chywesgir Dewi y.
51 Cynhafal Nawddsant Llangynhafal yn Nyffryn Clwyd, gw. LBS ii: 254–6.
51 dwg hwn hefyd Cf. 43–8 lle geilw Duw rai saint a’r Forwyn Fair ato.
52 oll Gw. 11n.
55–8 Hanfod yr hyn a ddywedir yw y byddai Dafydd ab Ieuan, pe iacheid ef, yn ymweld â’r Grog ac yn dangos ei ddiolchgarwch trwy gyflwyno iddi fantell (hugan, gw. 58n hugan).
57 Cyfeiriad darluniadol at y Grog sydd yma a saif mewn cyfosodiad â y Tad teg yn 55.
57 pedwargwyr grym Tebyg mai’r pedwar efengylydd (sef awduron efengylau Mathew, Mark, Luc a Ioan) a olygir. Dywedir yn Lewis 2005: 4, ‘On either side of the suffering Christ might be images of Mary mourning her son and St John holding his gospel, and sometimes the ends of the rood-beams would be decorated with the symbols of the four evangelists.’
58 hugan Cynigir mai’r hyn a olygir yw’r colobium, sef gwisg litwrgïol a geid i addurno delwau o Grist, cf. 72.5n a gw. GIBH 12.23n; GLl 1.19n.
58 anrhegym Nid yw’n eglur pam y mae goddrych y ferf yn lluosog gan mai Dafydd ab Ieuan sy’n cynnig yr anrheg.
Sylwer hefyd ar y terfyniad -ym: awgryma’r cyd-destun mai anrhegem, sef person cyntaf lluosog amherffaith dibynnol y ferf anrhegu, a olygir. Anarferol yw’r ffurf -ym yn yr ystyr hon ond cf. trydydd person lluosog amherffaith mynegol / dibynnol y ferf reolaidd caru, sef cer(h)ynt, gw. GMW 114–15.
Llyfryddiaeth
Lewis, B.J. (2005), Welsh Poetry and English Pilgrimage: Gruffudd ap Maredudd and the Rood of Chester (Aberystwyth)
Pryce, H. (1994), ‘A New Edition of the Historia Divae Monacellae’, Mont Coll 82: 23–40
Vallance, A. (1936), English Church Screens: Being Great Roods Screenwork and Rood-lofts of Parish Churches in England and Wales (London)
This cywydd is a supplication to the Rood O dre Gaer (2) to heal a wound in the thigh inflicted by an arrow, and is presented by Guto’r Glyn on behalf of Dafydd ab Ieuan. It is not stated which town exactly is meant by tre Gaer, and it could signify Carmarthen – to whose rood Dafydd ap Gwilym sang a series of englynion, see GLlBH poem 4 – or Chester. However, in view of the fact that many other poets of the day sang to the Rood in Chester, it appears more likely that it is that Rood which is meant, and there may be support for this in the fact that the Welsh saints whom Guto invokes, namely Melangell, Dwynwen and Cynhafal (lines 45, 46, 51), are associated with mid and north Wales and are therefore nearer to Chester than to Carmarthen. On the Rood in Chester, see GIBH 148–50; Lewis 2005; GLl 133–4, and for a full discussion of medieval roods, see Vallance 1936. The Rood in Chester was very famous in its day as an object of devotion and it appears that it stood in the clas church of St John the Baptist, Lewis 2005: 22–8. A number of other poets sang poems to it and among these particular reference may be made to those of Gruffudd ap Maredudd (GGMD i, poem 1), Ieuan Brydydd Hir (GIBH poem 10, and cf. ibid. poem 11) and Llawdden (GLl poem 1), who provides the fullest description. Guto’r Glyn says little about its appearance, but it seems that there were illustrations of the four evangelists at the end of each one of its beams (see 57n). The whole emphasis of the poem is on the wound that Dafydd ab Ieuan received from the arrow, his painful condition and his fervent hope of a cure.
The cywydd falls naturally into four sections. First (1–12), the Rood is addressed, with acknowledgement made of its power and a petition for its mercy. Then (13–30), the afflicted introduces himself while revealing the cause of his pain – the tip of an arrow in his thigh – and describing the agony that it causes. There then occurs (31–54) a fervent plea to God and the saints to put an end to the pain and pull out the arrow-head. Finally (55–8), a promise is made to the Rood of a gift if a cure is granted.
Date
There is no way of dating the poem with any confidence, and c.1450 is a tentative suggestion.
The manuscripts
The poem has been preserved in two manuscripts from the period c.1573–c.1580, namely Pen 81, which is incomplete, and Pen 78. There are no great differences between the readings of the two, which are fairly good, and they clearly derive from a common written exemplar. Both have links with Rhiwedog in Meirionnydd, and the edited text is based on both.
Previous edition
GGl poem CX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 58 lines.
Cynghanedd: croes 54% (31 lines), traws 33% (19 lines), sain 10% (6 lines), llusg 3% (2 lines).
1–2 Y Grog … / O dre Gaer a dry gwared Cf. GLl 1.1–3 Y Grog … / … / I dre Gaer i droi gwared. It should be remembered that for the poets the Rood is frequently synonymous with Christ as it had on it an illustration of the crucified Christ (and for this reason they sometimes treat the word as a masculine noun, see GILlF 57).
4 The line is too long by a syllable unless Wyry i are elided.
6 coron The crown of thorns placed on Crist’s head during his passion.
7–8 A reference to the apocryphal tale that a man called Longinus pierced Christ’s side on the cross, placing the blood on his eyes and regaining his sight as a result, see GDG3 488 where further references by the poets to the tale are cited. See also G 292; ODCC3 1000; GIBH 135; DG.net 97.35–6n. Note the different meanings of gwayw here.
8 The line is a syllabe too short unless gwayw is considered a disyllable.
9 Erod The words cur in this line and merthrolaeth in the next suggest that Guto is referring not to the king of Judea who ordered the killing of all the male infants there, but to his son Herod Antipas, who permitted Jesus to stand trial before Pontius Pilate before being condemned and crucified, see Luke 23.6–11, 15. The former is usually referred to as Erod greulon ‘cruel Herod’; see G 482; GDB 36.18n; ODCC3 766.
11 oll On this adjective qualifying a verb, see GMW 98; GPC 2646, 2 (a) and cf. 52.
13–14 Duw … / bwa Dafydd thanks God for preserving his life after being wounded by an arrow released from a bow.
13–16 Dafydd … / … / Fab Ieuan … / … fab Llywelyn See Dafydd ab Ieuan.
15–16 Both lines contain an f wreiddgoll.
18 pen y saeth Perhaps Dafydd ab Ieuan was struck by this in battle, although there are other situations, e.g. hunting, where it could have happened.
22 yn ei geisio The object is the haeernyn (19). Dafydd, apparently, is attempting to pull it out of the flesh of his thigh.
23 aith Cf. GLGC 90.31–2 pennau nodwyddau i’m diddwyn, / penfar o aith, pwn o frwyn ‘needle heads weaning me, / a muzzle of gorse, a load of reeds’.
23 The line contains an n wreiddgoll.
25 sant a flingwyd He is not named but St Bartholomeus is meant, one of the twelve apostles. According to tradition, he was flayed alive at Albanopolis in Armenia; see ODCC3 165.
27 Lowres Namely St Laurence (he died in 258), deacon and martyr who was believed to have been martyred by being roasted slowly on a grill; see ODCC3 963.
30 sant a rostied He is named in 27.
32 Duw fyw On mutating an adjective after Duw, see TC 119.
32 The line is a syllable too long and contains a twyll gynghanedd with g (and cf. 42). The length of the line could be rectified by omitting un, although that would add an n berfeddgoll to the twyll gynghanedd.
33 ymwaredwr The mutation could be explained by understanding a predicative yn before it, but it is clearly the requirements of cynghanedd that are responsible.
34 gorau meddig Christ came to be thought of as the chief physician since much of his public ministry was concerned with physcial ailments.
34 The line is a syllable too long.
42 There is twyll gynghanedd with g (and cf. 32).
43 San Lednart St Leonard, a French hermit of the sixth century and patron saint of prisoners, peasants and the sick; see ODCC3 975–6. Interestingly, there was at the time a chapel called St. Leonard’s de Glyn which stood somewhere in the parish of Gresford; further, see ‘Caer Alyn Archaeological and Heritage Project’.
43–6 It is interesting to note the way in which God is asked to invoke the saints mentioned here since the usual procedure is for the needy to invoke the saints who, in their turn, invoke God. But either way God is the original source of the healing graces.
43–7 San Lednart … / … Fair … / … Felangell … / … / Oswallt These are named too in poem 92.49, 51, 59, 61 to heal Hywel ab Ieuan Fychan of Moeliwrch’s knee.
44 elïa Cf. 109.9–10 Gwnïed eilwaith, gwnaed eli, / Glwyd f’ais, ac elïed fi (‘let him bind again my breastbone, let him make an ointment, / and let him anoint me’).
45 Melangell A sixth-century saint associated with Pennant Melangell, Maldwyn; see NCLW 490; LBS iii: 463–6; Pryce 1994.
45 gwell yw’r gwaith The implication is that Melangell’s intercession is particularly effective; cf. what is said of another female saint, Dwynwen, in the next line, Galw … unwaith.
46 Dwynwen A female saint of the fifth century associated mainly with Anglesey and who is the Welsh patron saint of lovers; see NCLW 192; LBS ii: 387–92.
47 Saint Oswallt An English king and martyr of the first half of the seventh century; see ODCC3 1208.
47 santesau Oswald did much to spread Christianity and there may be a general reference here to women who became Christians as a result.
48 Sain Padrig Patron saint of Ireland, see LBS iv: 54–71.
49 The line is a syllable too long unless Dewi y is elided.
51 Cynhafal The patron saint of Llangynhafal in the Vale of Clwyd, see LBS ii: 254–6.
51 dwg hwn hefyd Cf. 43–8 where God calls certain saints and the Virgin Mary to him.
52 oll See 11n.
55–8 Essentially what is said is that Dafydd ab Ieuan, if he were cured, would visit the Rood and express thanks by presenting to it a mantle (hugan, see 58n hugan).
57 A pictorial reference to the Rood which is antithetical to y Tad teg in 55.
57 pedwargwyr grym Probably the four evangelists, i.e., the authors of the gospels of Matthew, Mark, Luke and John. Lewis (2005: 4) states, ‘On either side of the suffering Christ might be images of Mary mourning her son and St John holding his gospel, and sometimes the ends of the rood-beams would be decorated with the symbols of the four evangelists.’
58 hugan A possible reference to the colobium, a liturgical vestment which was used to adorn images of Christ, cf. 72.5n and see GIBH 12.23n; GLl 1.19n.
58 anrhegym It is not clear why the subject of the verb is plural as it is Dafydd ab Ieuan who is offering the gift.
Note also the termination -ym: the context suggests that it is anrhegem, the first person plural imperfect subjunctive of the verb anrhegu, that is meant. The form -ym is unusual in this sense but cf. the third person plural imperfect indicative / subjunctive of the regular verb caru (‘love’), namely cer(h)ynt, see GMW 114–15.
Bibliography
Lewis, B.J. (2005), Welsh Poetry and English Pilgrimage: Gruffudd ap Maredudd and the Rood of Chester (Aberystwyth)
Pryce, H. (1994), ‘A New Edition of the Historia Divae Monacellae’, Mont Coll 82: 23–40
Vallance, A. (1936), English Church Screens: Being Great Roods Screenwork and Rood-lofts of Parish Churches in England and Wales (London)
Dafydd ab Ieuan oedd noddwr cerdd 69, lle ymbil Guto ar y Grog yng Nghaer am iachâd ar ran ei noddwr. Nid yw’n eglur pwy yw’r Dafydd hwn. Fe’i enwir gan Guto fel Dafydd … Fab Ieuan … fab Llywelyn (69.13–16), ond nid enwir ei fro. Rhestrir tri gŵr o’r enw hwnnw yn WG1: Dafydd ab Ieuan ap Llywelyn o linach Aleth ym Maldwyn, gŵr a anwyd c.1400 yn ôl dull Bartrum o rifo’r cenedlaethau (WG1 ‘Aleth’ 8); Dafydd ab Ieuan Goch ap Llywelyn o linach Elystan Glodrydd ym Maesyfed, gŵr arall a anwyd c.1400 (WG1 ‘Elystan Glodrydd’ 22); Dafydd ab Ieuan Gwyn ap Llywelyn Welw o linach Einion ap Llywarch yn Sir Gâr, gŵr a anwyd c.1370 (WG1 ‘Einion ap Llywarch’ 13). Mae enw’r Dafydd cyntaf yn cyd-daro’n agosach na’r lleill â’r hyn a geir yng nghywydd Guto. At hynny, fe’i lleolir ym Maldwyn ac felly’n nes at Gaer na Maesyfed neu sir Gaerfyrddin. Gall fod yn arwyddocaol fod y saint a enwir yn y gerdd, sef Melangell, Dwynwen a Chynhafal, yn gysylltiedig â’r Gogledd a’r Canolbarth (69.45n, 46n, 51n). Mae’n bosibl, felly, mai’r Dafydd hwnnw oedd noddwr Guto ond, yn anffodus, ni cheir sicrwydd. Nodir mwy nac un Dafydd arall posibl yn WG2. O ran ei ddyddiadau, ni ellir ond awgrymu ei fod yn fyw c.1450.