Y llawysgrifau
Cadwyd deuddeg copi o’r awdl hon, ac ymddengys eu bod oll yn tarddu o’r un gynsail ysgrifenedig, a honno’n bur dda er nad yn ddi-fai (gw. y nodiadau isod ar linellau 16, 61, 63, 78 a 83). Y copïau pwysicaf yw rhai Dafydd Benwyn (dau gopi yn Llst 164, c.1586), Lewys Dwnn (Pen 96, c.1603), a Llywelyn Siôn (C 5.44, LlGC 970E, LlGC 6511B, LlGC 21290E, Llst 134 (c.1590–1613)). Mae’n debyg fod testun John Prichard yn LlGC 20574A hefyd yn tarddu o’r gynsail, ond mae’n gopi llai ffyddlon. Ar y cyfan mae modd adlunio’r gynsail wreiddiol trwy gymharu testunau’r tri chopïydd, gan dderbyn cytundeb dau yn erbyn un, ond cyfyd anhawster lle mae darlleniadau gwahanol gan y tri (4, 35, 45, 60, 61 a 62). Y testunau gorau yw’r ddau yn Llst 164, a chan na ddefnyddiwyd y llawysgrif honno ar gyfer GGl mae testun golygedig y gyfrol honno’n ddiffygiol mewn mannau.
Seiliwyd y testun golygedig hwn ar lawysgrifau Dafydd Benwyn (Llst 164), Lewys Dwnn (Pen 96) a Llywelyn Siôn (Llst 134, &c.).
Trawsysgrifiadau: Llst 164 [ii] a Pen 96.
1 cerais Ceir karaf yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
4 carw i feirddion Darlleniad Dafydd Benwyn a LlGC 20574A. Ceir kar i vairddion gan Lywelyn Siôn a karai feirddion gan Lewys Dwnn. Dilynwyd yr olaf yn GGl, ond y ddelwedd hon yw’r darlleniad anos, ac efallai mai ymgais i gywiro hyd y llinell oedd yn gyfrifol am yr amrywiadau.
5 côr Nid oes cefnogaeth yn y prif lawysgrifau i câr GGl.
5 fyrddwn Awgryma’r cytundeb rhwng testunau Dafydd Benwyn a Llywelyn Siôn mai fwrddwn oedd y ffurf yn y gynsail. Ysgrifennodd Lewys Dwnn fyrddwn yn wreiddiol, gan ychwanegu i yn ddiweddarach.
12 Addaswyd darlleniad Llywelyn Siôn yn GGl Llwyr farnau llawr Farned, ond mae testunau Lewys Dwnn a Dafydd Benwyn yn gytûn yma.
13 Sain Dichon mai’r talfyriad St a geid yn y gynsail, fel y gwelir yn Pen 96, a bod Llywelyn Siôn wedi estyn hwnnw’n sant.
16 ffreutur Ymddengys mai ffretur a geid yn y gynsail, fel y gwelir yng nghopi cyntaf Dafydd Benwyn ac yn LlGC 20574A, ac mai gwahanol gynigion i wneud synnwyr o hwnnw a geir gan Lewys Dwnn ffrenntur, a Llywelyn Siôn vn air a Phredur.
24 aberth Dilynwyd Pen 96 yn GGl o borth, ond mae testunau Dafydd Benwyn a Llywelyn Siôn yn gytûn yma.
29 o orddwr a urdda Ailwampiwyd y rhan hon o’r llinell gan Lywelyn Siôn, aberthwr a bortha (er mwyn cryfhau’r cyrch-gymeriad efallai), a dilynwyd ei ddarlleniad yn GGl. Mae cytundeb testunau Lewys Dwnn a Dafydd Benwyn yn ddigon i brofi mai hwn oedd darlleniad y gynsail.
29 menych Hon yw’r ffurf a geir gan Ddafydd Benwyn; ceir mynnych gan Lewys Dwnn a menaich gan Lywelyn Siôn. Cf. ffurfiau amrywiol fenychlys yn 38 isod.
30 Deuma Mae darlleniad rhyfedd GGl benna yn seiliedig ar Pen 96 bevna.
31 Ailwampiwyd y llinell gan Lywelyn Siôn (er mwyn cryfhau’r gynghanedd, mae’n debyg) a bair o gwin o bara (a bara yn LlGC 970E a 21290E), ac addaswyd y darlleniad hwnnw yn GGl A bair ein gwin a’n bara.
35 da fy Llst 164. Ceir da fv yn Pen 96 (GGl da fu), a difai gan Lywelyn Siôn.
38 fenychlys Llst 164. Ceir vynachlys yn Pen 96 (GGl fynachlys), a vynaichlys yn LlGC 6511B (ond vain awchlys yn llawysgrifau eraill Llywelyn Siôn). Cf. y ffurfiau yn 29 uchod.
39 Ceir darlleniad y testun gan Lewys Dwnn a Llywelyn Siôn, ond mae dau destun Llst 164 yn darllen Rhys yw r hael rhoes y aur rhudd.
43 a rydd Mae GGl A’n hydd yn seiliedig ar ddarlleniad unigryw Pen 96.
44 oes a rhad Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl oes o rad, ac mae’n debyg mai ymgais ydoedd i osgoi cyfatebiaeth r … rh.
45 rhadau’r Dilynir Llywelyn Siôn, a chymerir mai dyma a gynrychiolir gan rhader Dafydd Benwyn a rhad er Lewys Dwnn (cyferbynner rhad yr GGl).
45 rhai Llst 164. Ceir rhoi yn Pen 96 (a GGl) a rhyw yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
45 drawyswr Dilynir Dafydd Benwyn a Llywelyn Siôn wrth gymryd hwn yn air cyfansawdd, sef ffurf dreigledig trawyswr (ar ddelw tra-arglwyddiaethu &c., gw. nodiadau esboniadol). Mae darlleniad GGl rhoi draw wyswr yn seiliedig ar Pen 96.
46 rhydeg Llst 164. Efallai fod rhedeg Pen 96 (a ddilynwyd yn GGl) a Redav glaisad Llst 134 yn adlewyrchu orgraff y gynsail, ond gellir derbyn y darlleniad hwn ar sail synnwyr.
47 rhol gynhesu Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl Rhôl cun Iesu.
49 hudolion Mae henolion GGl yn seiliedig ar ddarlleniad unigryw llawysgrifau Llywelyn Siôn.
50 gynholion Ni ellir derbyn gynhilion GGl am fod angen gair sy’n odli’n ddwbl ag ysgolion &c., ac nid oes cefnogaeth iddo yn y llawysgrifau beth bynnag. Ond sylwer ar y ffurf genolion yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
51 i’r Llst 164 [i] y, Llst 164 [ii] yr. Dilynwyd Pen 96 a yn GGl. Yn llawysgrifau Llywelyn Siôn trawsosodwyd ysgolion a rhentolion, ond maent yn cefnogi i’r.
53 eli Mae êl i GGl yn torri’r mesur gan nad yw’n odli â Feli yn 55, ac nid oes cefnogaeth iddo yn y llawysgrifau.
56 Mae darlleniad GGl Gwiw lwyr Holant glaear heiliad yn seiliedig ar destun Llywelyn Siôn, ond o gymharu testunau Lewys Dwnn a Dafydd Benwyn mae’n eglur i Lywelyn Siôn ailwampio’r llinell.
57 gyfrestri Mae’n bosibl nad cyd-ddigwyddiad mo’r darlleniad gyfestri gan Lewys Dwnn a Llywelyn Siôn, ac mai dyna oedd yn y gynsail, ond serch hynny rhaid mai gwall ydoedd.
58 fflowrestri Dyma’r ffurf yn nau destun Dafydd Benwyn, ond fel dau air, fflow restri. Tebyg yw darlleniad Llywelyn Siôn fflwr Restri a ffloresti Lewys Dwnn. Ar y gair gw. y nodiadau esboniadol.
60 Mair Llst 164. Ceir mwyr yn Pen 96 a mawr gan Lywelyn Siôn (darlleniad GGl), ond hwn yw’r darlleniad anos. Cymerir mai delwedd am y mynachod yw gweilch Mair.
61 Mwstwr anant Darlleniad ansicr iawn, gan mai copi cyntaf Dafydd Benwyn yw’r unig dystiolaeth drosto (ond cf. LlGC 20574A mwstwr a wnant). Ceir mwstrai anant yn y llall, ac efallai fod darlleniad llawysgrifau Llywelyn Siôn, mwstra ianant, yn cefnogi hwnnw. Ar y llaw arall, mwstr anant a ysgrifennwyd gan Lewys Dwnn yn wreiddiol, gydag a wedi ei hychwanegu rhwng y ddau air wedyn. Awgryma hynny fod darlleniad y gynsail yn brin o sillaf yn sgil tybio mai llafariad epenthetig sydd yn ail sillaf mwstwr. Ond mewn gwirionedd roedd y ffurf ddeusill yn ddigon cyffredin fel y gwelir yn yr enghreifftiau a ddyfynnir yn GPC 2514.
62 Maelienydd Llst 164. Ceir melenydd yn Pen 96 a malienydd gan Lywelyn Siôn.
62 ymlyniad Hon yw’r ffurf yn llawysgrifau Llywelyn Siôn, ond sylwer mai emlynyad a geir yn nau destun Llst 164, sef ffurf amrywiol ar yr un gair (gw. GPC 3792 d.g. ymlyniad2).Nid yw Pen 96 yn gymorth i dorri’r ddadl gan mai am lvniad a geir yno.
63 atgenydd Dilynwyd llawysgrifau Llywelyn Siôn yma, er bod rhan gyntaf y llinell wedi ei hailwampio ganddo. Ni nodir y gair hwn yn GPC, ond mae’n ffurf ddichonadwy ar sail y ferf atganu. Ceir datkenydd yn Llst 164 a datkeinydd yn Pen 96, ond mae cynganeddiad y llinell yn broblem, fel y gwelir yn GGl Molawd ganant, mil datgenydd. Os yw’r d yn hanner cyntaf y llinell yn caledu o flaen g i ateb -tg- prin y gall ateb y d yn datgenydd hefyd. Tebyg mai ymgais i ddatrys y broblem honno yw’r ffurf moldawt a geir yn Llst 164 (ffurf nas nodir yn GPC). Mae’n debyg, felly, fod darlleniad y gynsail yn wallus, ond tybed a oedd d- wedi ei hychwanegu o flaen atgenydd yn y gynsail er mwyn esbonio’r ffurf anghyfarwydd, ac mai Llywelyn Siôn yn unig a gadwodd y darlleniad gwreiddiol?
68 Mawr a radau Dilynwyd Pen 96 a Llst 134 yn GGl Mawr yw rhadau, ac ar un olwg mae hynny’n well am fod y rh yn cael ei hateb yn ail hanner y llinell. Ond dengys Llst 164, LlGC 20574A a gweddill llawysgrifau Llywelyn Siôn mai a a geid yn y gynsail, sef yr hen gystrawen gyda’r arddodiad a lle ceir o yn ddiweddarach (gw. GMW 37 a DG.net 39.30n). Ceir enghraifft arall o r yn cyfateb i rh yn 44 uchod. O dderbyn darlleniad y testun rhaid cymryd maer cariadau gyda Mair a’r Hoywdad.
71 tŵr Mae’n bosibl mai camddarllen ffurf ar y llythyren w a achosodd y darlleniadau tyr a tu r yn Llst 164.
75 tai Gynfelyn Mae testunau Dafydd Benwyn a Llywelyn Siôn yn gytûn ar ffurf dreigledig yr enw priod. Cf. dai Feurig 49.64, a gw. TC 110.
76 teimlai Dilynodd GGl ddarlleniad unigryw Pen 96 temlau.
78 herodion Ceir arodion (‘gweddïau’) yn Llst 164 a Pen 96 (cf. LlGC 20574A yna rodion), ac mae’n debyg mai dyna oedd darlleniad y gynsail, ond ni rydd synnwyr da yma, ac efallai mai dyna pam y’i newidiwyd yn a wna Rodion gan Lywelyn Siôn. Digwydd arodion yn y llinell nesaf yn nhestun Llst 164 (cf. Llywelyn Siôn yrodion), lle mae’n hollol addas, ac ar sail darlleniad Pen 96 yno, erodion, diwygiwyd yma. Ni nodir y ffurf luosog hon yn GPC 1858 d.g. herod, herodr (benthyciad o’r Saesneg Canol heraud), ond fe nodir herodron. Delweddir y tlodion fel herodiaid yn cyhoeddi haelioni Rhys.
79 arodion Darlleniad Llst 164, gw. nodyn ar 78 uchod.
81 a’n Gellid derbyn darlleniad Llst 164 a’m, ond mae cytundeb Pen 96 a llawysgrifau Llywelyn Siôn yn awgrymu mai dyma a geid yn y gynsail.
82 Mae darlleniad GGl Anrhaid tyno yn rhiw tanad yn dilyn Pen 96, ond mae’n debyg mai ffrwyth camddarllen u fel n oedd hwnnw.
83 at Cywiriad yn ail gopi Llst 164 yw hwn, ac mae’n siŵr mai ac neu ag oedd darlleniad y gynsail, ond mae’r synnwyr yn well o lawer fel hyn, a gellir esbonio’r gwall fel ffrwyth camddarllen t fel c.
85 d’enau Mae’n amlwg mai denav a geid yn y gynsail, fel y gwelir yn Pen 96 ac yn narlleniad gwreiddiol copi cyntaf Llst 164 cyn dileu’r a i roi denv, sef yr hyn a geir yn yr ail gopi. Ailwampiwyd y testun gan Lywelyn Siôn ai dynnav. Derbyniwyd darlleniad Pen 96 yn union fel y saif yn GGl yn denau medd, ond mae’r testun yn ddiystyr, felly rhaid cymryd bod anwadalu yn y pennill rhwng ail a thrydydd person (cf. yt yn 63 a tanad yn 82 uchod).
86 Mae testun GGl ei wledd … ei wlad yn dilyn Llywelyn Siôn i wledd … i wlad, ond y a geir y ddau dro yn Pen 96 a Llst 164. Efallai y dylid cymryd y naill yn rhagenw a’r llall yn fannod.
Dyma awdl foliant i Rys ap Dafydd ap Llywelyn, abad Ystrad-fflur. Nid oes dim yn yr awdl hon sy’n gymorth i’w dyddio’n fanwl. Pwysleisir haelioni Rhys tuag at westeion yn yr abaty, a’i nawdd i feirdd yn enwedig. Rhoddir tipyn o sylw i’w ddysg, a hefyd i’w waith yn gwella cyflwr adeiladau’r abaty, a hynny fe ymddengys ar ei gost ei hun (llinellau 16–18, 57–8).
Dyddiad
c.1435–40.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd X; CTC cerdd 99.
Mesur a chynghanedd
Dau englyn proest chwe llinell, tri englyn proest pedair llinell, pum englyn unodl union, a chwe phennill o dawddgyrch cadwynog. Cysylltir yr englynion trwy gyrch-gymeriad, a hefyd yr englyn olaf a’r pennill tawddgyrch cadwynog cyntaf, ac ailadroddir y gair hwnnw, sef rhad, ar ddiwedd y gerdd. Cynhelir cymeriad dechreuol o fewn pob pennill, a hwnnw’n aml yn gymeriad cynganeddol.
Llinellau 1–44 (heb gyfrif ail linell y pum englyn unodl union): croes 38.5% (15 llinell), traws 33.3% (13 llinell), sain 23% (9 llinell), llusg 5% (2 linell). Mae ail linell yr englynion unodl union yn llunio cynghanedd groes gyda’r cyrch mewn tri englyn, a sain mewn dau englyn.
Llinellau 45–92 (heb gyfrif llinellau 5 a 7 ym mhob pennill): croes 94.5% (34 llinell), traws 5.5% (2 linell).
7 Myrddin Fardd Tybid mai enw personol oedd ail elfen yr enw lle Caerfyrddin, ac yn ôl traddodiad roedd y Myrddin hwnnw yn ddewin ac yn fardd. Cf. GIG VII.44 yng Nghaer fardd Emrys. Am awgrym arall ynghylch tarddiad yr enw gw. Isaac 2001: 13–23.
12 Berned Sant Bernard (1090–1153), abad Clairvaux a sylfaenydd Urdd y Sistersiaid.
13 Sain Bened O’r Saesneg Benet, ffurf ar enw Benedict (c.480–c.550), awdur y Rheol a fu’n sylfaen i fynachaeth y gorllewin. Cf. GLGC 118.15.
17 cofiadur Yr ystyr sylfaenol yw ‘un sy’n cofio’ neu ‘un sy’n cadw cofnodion’, ac efallai fod hyn yn gyfeiriad at ddysg Rhys neu at ei waith gweinyddol yn yr abaty. Diddorol yw nodi’r cyfeiriad at ‘books of remembrances found in the Abbey of Ystrad Fflur’ fel un o’r ffynonellau ar gyfer yr ymchwiliad i achau Wiliam Herbert yn y 1460au, gw. RWM ii, 855 (Panton 42).
29 gorddwr Cymerir mai enw cyffredin yw hwn, ‘tir uwchlaw neu’r tu draw i afon’, gan gyfeirio at Ystrad-fflur (cf. 36). Yr oedd Gorddwr yn enw ar gwmwd ym Mhowys, ger glannau Hafren, ond un o Gaeo oedd Rhys. Posibilrwydd arall yw mai at flaenau afon Tywi yng nghwmwd Caeo y cyfeirir, fel yr awgrymodd Salisbury 2009: 61.
30 Maenan Mynachlog Sistersaidd Aberconwy a sefydlwyd yn 1186 yn gangen i Ystrad-fflur.
30 Deuma Mynachlog Sistersaidd Llantarnam, cangen arall i Ystrad-fflur a sefydlwyd yn 1177 ger Cwmbrân. Y ffurf arferol ar yr enw yw Dewma (gw. awdl Lewys Glyn Cothi i abad Dewma, GLGC cerdd 118), ond hon yw’r ffurf a geir yn nhestunau Dafydd Benwyn, bevna gan Lewys Dwnn, a Deima gan Lywelyn Siôn. Mae’n bosibl fod u yn y gynsail yn cynrychioli w.
37 Dafydd Dafydd ap Llywelyn, tad yr Abad Rhys.
45 trawyswr Ni nodir y gair yn GPC, ond cynigir mai gwysio ‘dyfynnu, hawlio presenoldeb’ yw’r bôn, gyda’r rhagddodiad cryfhaol tra- yn cyfleu awdurdod (cf. tra-arglwyddiaethu). Ond efallai y dylid diwygio i trywyswr gan fod y treiglad meddal yn fwy arferol yn dilyn y rhagddodiad try- (gw. GPC 3634 d.g. try-2).
46 rhydeg leisiad Cymerir mai ffurf dreigledig gleisiad ‘eog yn ei flwyddyn gyntaf pan fo iddo gefn glas ariannaid’ yw hon, delwedd gyffredin am ŵr eglwysig fel y nodir yn GPC 1407. Cf. GLGC 118.22 yntau’n eglwyswr hwnt yw’n gleisiad (awdl Lewys Glyn Cothi i abad Dewma). Mae’n llai tebygol mai lleisiad ‘canwr’ sydd yma.
47 rhol Ystyr fwyaf cyffredin y gair benthyg hwn yw rholyn o femrwn, ond yng nghyd-destun y ferf cynhesu mae’n debyg mai rholyn o ddefnydd sydd fwyaf addas, gan gyfeirio efallai at ymgeledd i gleifion. Gw. GPC 3093 a cf. CSTB XXV.22 Arwain yr het aur yn rhol.
50 cynholion Ni nodir cynnol na cynhawl yn GPC (ond sylwer mai gynhilion oedd darlleniad GGl). Efallai mai gair gwneud yw hwn i ateb gofynion y mesur, wedi ei ffurfio o fôn y ferf holi. Yn betrus y cynigir yr aralleiriad ‘ymchwiliadau’. Ond diddorol yw nodi’r ystyr ‘canolwr, cyfryngwr’ i canol (yn y ffurf cenol mewn testunau cyfraith o’r unfed ganrif ar bymtheg, gw. GPC 414, a sylwer mai genolion yw’r ffurf a geir yma yn llawysgrifau Llywelyn Siôn).
53 Eli Enw am Dduw, gw. G 468.
54 Rolant Arwr chwedlau Siarlymaen.
55 Beli Beli Mawr mab Mynogan, brenin olaf Prydain cyn y Rhufeiniaid yn ôl traddodiad y Brutiau, gw. TYP3 288–9 a 28.17n.
56 clarai Benthyciad o’r Saesneg Canol clarey, math o ddiod felys gymysg o win a mêl têr a pherlysiau, gw. GPC 490 ac OED Online s.v. clary.
58 fflowrestri Deellir hwn fel gair cyfansawdd, fflowr (gw. GPC 1298 d.g. fflŵr2, fflowr) + rhestri ‘rhesi o flodau’. Gair diweddar yw’r Saesneg floristry am grefft y fflorist, ond efallai fod y gair flowretry ‘flowery ornament’ a geir yn yr ail ganrif ar bymtheg yn berthnasol, gw. OED Online s.v. floretry.
60 Gwalchmai Nai’r Brenin Arthur, gw. TYP3 367–71. Efallai fod yr epithet ‘dafod aur’ a roddir iddo mewn testunau diweddar yn berthnasol i’r gymhariaeth hon.
60 festri O’r Saesneg vestry, ystafell mewn eglwys lle cedwid y defodwisgoedd a llestri’r cymun. Yn eglwys Ystrad-fflur rhedai’r festri ar hyd transept y de, gw. Williams 1889: 211.
60 gweilch Mair Cymerir mai trosiad am y mynachod yw hwn. Cofier bod cwlt y Forwyn yn arbennig o bwysig i Urdd y Sistersiaid.
62 Mael Maelienydd Ar yr hynafiad llwythol hwn gw. Bartrum 1963–4: 96, 114; WCD 437.
70 tref a wneler Efallai mai ergyd y modd dibynnol yw bod yr adeiladu yn dal i fod ar waith. Cf. hefyd pond da yw’r seiliad yn 72.
73 Llywelyn Taid yr Abad Rhys ar ochr ei dad.
75 Cynfelyn Nid yw’n glir pam y cysylltir Ystrad-fflur â’r sant hwn y coffeir ei enw yn Llangynfelyn yng ngogledd Ceredigion, ond efallai fod traddodiad yn ei gysylltu â thiriogaeth Ceredigion gyfan gan fod un llawysgrif achyddol yn ei wneud yn ŵyr i Geredig ap Cunedda Wledig, gw. WCD 175.
77 tylodion Nodir y llinell hon yn GPC 3510 d.g. tlawd fel yr enghraifft gynharaf o’r ffurf gyda’r llafariad lusg (cf. dled, dyled).
78 herodion Pwynt y trosiad yw bod y tlodion a dyrrai i Ystrad-fflur yn cyhoeddi haelioni Rhys i’r byd.
Llyfryddiaeth
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–145
Isaac, G.R. (2001), ‘Myrddin, Proffwyd Diwedd y Byd: Ystyriaethau Newydd ar Ddatblygiad ei Chwedl’, LlCy 24: 13–23
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Williams, S.W. (1889), The Cistercian Abbey of Strata Florida (London)
Rhys ap Dafydd ap Llywelyn was abbot of Strata Florida from at least 1433 until his death in 1440/1. Rhys’s generosity towards guests at the abbey is emphasised, and his patronage to poets in particular. Attention is given to his learning, and also to the improvements which he made to the abbey buildings, apparently at his own cost (lines 16–18, 57–8).
Date
c.1435–40.
The manuscripts
Twelve manuscript copies of the poem have survived, all apparently deriving directly or indirectly from a common exemplar. The edited text is based on the manuscripts of Dafydd Benwyn (Llst 164), Lewys Dwnn (Pen 96) and Llywelyn Siôn (Llst 134, &c.).
Previous editions
GGl poem X; CTC poem 99.
Metre and cynghanedd
Two six-line englynion proest, three four-line englynion proest, five englynion unodl union, and six stanzas of tawddgyrch cadwynog. The englynion are linked by cyrch-gymeriad, as is the last englyn with the first stanza of tawddgyrch cadwynog, and that word, namely rhad, is repeated at the end of the poem. Within each stanza the beginnings of the lines alliterate (cymeriad dechreuol), often forming cynghanedd.
Lines 1–44 (not counting the second line of the five englynion unodl union): croes 38.5% (15 lines), traws 33.3% (13 lines), sain 23% (9 lines), llusg 5% (2 lines). The second line of the englynion unodl union forms cynghanedd groes with the cyrch in three englynion, and sain in two englynion.
Lines 45–92 (not counting lines 5 and 7 in each stanza): croes 94.5% (34 lines), traws 5.5% (2 lines).
7 Myrddin Fardd The place name Caerfyrddin (Carmarthen) was traditionally believed to contain the name of the magician and poet Myrddin. Cf. yng Nghaer fardd Emrys (‘in the Fortress of Emrys’s poet’), GIG VII.44.
12 Berned St Bernard (1090–1153), abbot of Clairvaux and founder of the Cistercian order.
13 Sain Bened From the English Benet, a form of St Benedict (c.480–c.550), author of the Rule which was the basis of western monasticism. Cf. GLGC 118.15.
17 cofiadur The basic meaning is ‘one who remembers’ or ‘one who keeps records’, and this may refer to Rhys’s learning or to his administrative work at the abbey. There is an interesting reference to ‘books of remembrances found in the Abbey of Ystrad Fflur’ as one of the sources for the genealogy of William Herbert in the 1460s, see RWM ii, 855 (Panton 42).
29 gorddwr This is taken to be a common noun, ‘land above or beyond a river’, referring to Strata Florida (cf. 36). Gorddwr was the name of a commote in Powys, on the banks of the Severn, but Rhys was from Caeo in Carmarthenshire. Another possibility suggested by Salisbury (2009: 61) is that this refers to the source of the river Tywi in Caeo.
30 Maenan The Cistercian Abbey of Aberconwy which was founded in 1186 as a daughter-house of Strata Florida.
30 Deuma The Cistercian Abbey of Llantarnam, another daughter-house of Strata Florida established in 1177 near Cwmbrân. The usual form of the name is Dewma (cf. Lewys Glyn Cothi’s ode to the abbot of Dewma, GLGC poem 118), but this is the form found in Dafydd Benwyn’s texts, bevna in that of Lewys Dwnn, and Deima in those of Llywelyn Siôn. It is possible that u in the exemplar represented w.
37 Dafydd Dafydd ap Llywelyn, Abbot Rhys’s father.
45 trawyswr This word is not noted in GPC, but it is tentatively taken to consist of the root gwysio ‘to summon, demand the presence of’, with the intensive prefix tra- conveying authority (cf. tra-arglwyddiaethu). But perhaps this should be emended to trywyswr since soft mutation is more common after the prefix try- (see GPC 3634 s.v. try-2).
46 rhydeg leisiad This is assumed to be a mutated form of gleisiad, ‘a young salmon’, which was a common metaphor for a clergyman, as noted in GPC 1407. Cf. yntau’n eglwyswr hwnt yw’n gleisiad (‘that churchman yonder is our young salmon’) in Lewys Glyn Cothi’s ode to the abbot of Dewma, GLGC 118.22. It is less likely that this is a mutated form of lleisiad, ‘singer’.
47 rhol The most common meaning of this loanword from English is a roll of parchment, but in the context of the verb cynhesu, ‘to warm’, a roll of material is probably more appropriate, referring perhaps to care for the sick or aged. See GPC 3093 and cf. CSTB XXV.22, Arwain yr het aur yn rhol (‘Wearing the golden hat as a roll’).
50 cynholion Neither cynnol nor cynhawl is given in GPC (but note that GGl reads gynhilion here). This may be a made-up word to fulfil the demands of the metre, formed from the root of the verb holi. The translation ‘inquisitions’ is tentative. But it is interesting to note the sense ‘arbiter’ for canol (in the form cenol in sixteenth-century law texts, see GPC 414, and note the reading genolion in Llywelyn Siôn’s texts).
53 Eli A name for God, see G 468.
54 Rolant The hero of the Charlemagne cycle.
55 Beli Beli Mawr son of Mynogan, the last king of Britain before the Romans according to Geoffrey of Monmouth, see TYP3 288–9 and 28.17n.
56 clarai A borrowing from Middle English clarey, a sweet liquor consisting of a mixture of wine, clarified honey, and various spices, see GPC 490 and OED Online s.v. clary.
58 fflowrestri This is taken to be a compound word, fflowr (see GPC 1298 s.v. fflŵr2, fflowr) + rhestri, ‘rows of flowers’. The English floristry for the florist’s craft is a recent coinage, but flowretry ‘flowery ornament’ which is attested in the seventeenth century may be relevant, see OED Online s.v. floretry.
60 Gwalchmai The nephew of King Arthur, see TYP3 367–71. The epithet dafod aur (‘golden-tongued’) which is given to him in some late texts may be relevant to this comparison.
60 festri From the English vestry, the room in a church where ceremonial robes and communion dishes were kept. In the church at Strata Florida the vestry ran along the length of the southern transept, see Williams 1889: 211.
60 gweilch Mair Literally ‘Mary’s hawks’, this is taken to be a metaphor for the monks. The cult of the Virgin was particularly important to the Cistercian order.
62 Mael Maelienydd On this tribal ancestor see Bartrum 1963–4: 96, 114; WCD 437.
70 tref a wneler The reason for the subjunctive may be that the building work was still going on. Cf. pond da yw’r seiliad in 72.
73 Llywelyn Abbot Rhys’s grandfather, on his mother’s side.
75 Cynfelyn A saint commemorated at Llangynfelyn in north Ceredigion. The association with Strata Florida is not clear, but he may have been traditionally linked with the whole of Ceredigion since according to one genealogical manuscript he was the grandson of Ceredig ap Cunedda Wledig, see WCD 175.
77 tylodion This line is noted in GPC 3510 s.v. tlawd as the earliest example of the form with the epenthetic vowel (cf. dled, dyled).
78 herodion The point of the metaphor is that the poor who thronged to Strata Florida would proclaim Rhys’s generosity far and wide.
Bibliography
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Williams, S.W. (1889), The Cistercian Abbey of Strata Florida (London)
Yr Abad Rhys yw gwrthrych cerddi 5–9, a cheir cyfeiriadau eraill ato yn 30.37–8, 46 ac yn 115.25. Ni ddiogelwyd cerddi iddo gan feirdd eraill, ond cyfeirir ato mewn cerddi i’w olynwyr gan Ddafydd Nanmor (DN XXV.8, 64) a Ieuan Deulwyn (ID XXXI.4).
Achres
Yr unig dystiolaeth dros ei ach yw’r cyfeiriadau yng ngherddi Guto, lle nodir mai Dafydd ap Llywelyn oedd enw ei dad (6.11–14; 8.37, 73). Fe’i gelwir hefyd yn ŵyr Domas (7.39), ac mae’n debyg mai tad ei fam oedd hwnnw (ond gw. nodyn esboniadol 7.39).
Achres yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur
Disgrifir Dafydd ap Llywelyn fel [C]aeo lywydd glân (6.12), ac yn y farwnad sonnir am [dd]wyn cywoeth dynion Caeaw (9.6), felly gellir casglu bod Rhys yn hanu o deulu uchelwrol blaenllaw yng nghwmwd Caeo. Ni lwyddwyd i leoli Rhys yn achau P.C. Bartrum (WG1 a WG2), ond mae’n bosibl, fel y dadleuodd Salisbury (2009: 61–2), ei fod yn ŵyr i’r Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri yn 1401 am arwain byddin y brenin ar gyfeiliorn yn hytrach nag ar drywydd ei ddau fab a oedd yng nghwmni Owain Glyndŵr (gw. Griffiths: 1972, 367, lle nodir bod Dafydd ap Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn fedel Caeo yn 1389–92 ac yn ddirprwy fedel yn 1395–6 a 1400–1). Ni nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Dafydd yn WG1 ‘Selyf’ 6, ond mae’n bosibl ei fod wedi ei hepgor o’r achresi am mai Rhys oedd ei unig fab a hwnnw’n ddi-blant am ei fod yn ŵr eglwysig. Ar y llaw arall, nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Morgan Foethus a fu’n abad Ystrad-fflur. Ni noda Bartrum ei ffynhonnell ar gyfer hynny, ac nid oes ateg yn y rhestrau o abadau, ond mae bylchau yn y rhestrau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Dichon hefyd fod dryswch wedi digwydd rhwng Morgan a Rhys gan fod tad Rhys wedi ei hepgor o ach y teulu.
Ei yrfa
Y cyfeiriad cynharaf at Rys fel abad Ystrad-fflur yw un dyddiedig 13 Chwefror 1433 sy’n sôn amdano ymhlith nifer o uchelwyr a oedd i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch abad y Tŷ Gwyn (CPR 1429–35, 295). Ond mae tystiolaeth fod ei abadaeth wedi dechrau o leiaf dair blynedd cyn hynny. Mewn dogfen ddyddiedig 26 Mawrth 1442, yn amser olynydd Rhys, yr Abad Wiliam Morus, sonnir am gyflwr yr abaty fel hyn (CPR 1441–6, 95–6):The abbot and convent of the house of St. Mary, Stratflure, South Wales, have shown the king that the said house is situated in desolate mountains and has been spoiled by Owen Gleyndour and his company at the time of the Welsh rebellion, the walls of the church excepted, and that it is not probable that the same can be repaired without the king’s aid, and that Richard, late abbot, was deputed as collector of a whole tenth granted to the king by the clergy of the province of Canterbury in his ninth year and to be levied from the untaxed benefices within the archdeaconry of Cardican, in the diocese of St. Davids, and collector of a fourth part of a moiety of a tenth granted by the same on 7 November in the twelfth year and to be levied within the same archdeaconry, and collector of a whole tenth granted by the same on 29 April in the fifteenth year to be levied within the same archdeaconry, and collector of another tenth granted by the same in the eighteenth year, to be levied within the same archdeaconry, and collector of a subsidy granted by the same in the eighth year and to be levied from all chaplains within the same archdeaconry, and that at the time of the levying of the tenth in the eighteenth year the said late abbot was committed to the prison within the castle of Kermerdyn by the king’s officers by reason of divers debts recovered against him and there died.Gwelir bod Rhys (neu Richard fel y’i gelwir yma) yn casglu trethi ar ran y brenin yn wythfed flwyddyn teyrnasiad Henry VI, sef rhwng 1 Medi 1429 a 31 Awst 1430. Gwelir hefyd ei fod wedi ei garcharu yng nghastell Caerfyrddin am ddyledion yn neunawfed flwyddyn Henry VI, sef 1439/40, ac iddo farw yno. Mewn cofnod arall dyddiedig 18 Chwefror 1443 nodir bod ei olynydd, Wiliam Morus, wedi bod yn abad ers dwy flynedd (ibid 151–2), felly gellir casglu i Rys farw tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441. Gellir derbyn, felly, y dyddiadau 1430–41 a roddir ar gyfer ei abadaeth gan Williams (2001: 297), a chymryd mai ffurf Saesneg ar Rhys oedd Richard, fel y gwelir yn y ddogfen uchod.
Yn y cywydd am salwch Rhys mae Guto’n annog yr abad i drechu ei salwch drwy ei atgoffa iddo lwyddo i drechu gwrthwynebiad gan abadau a lleygwyr (5.43–56). Sonnir am hawlwyr yn ei erlid, a gallai hynny fod yn gyfeiriad at achos yn 1435 (28 Mai) pan orchmynnwyd iddo ymddangos gerbron Llys y Siawnsri i ateb cyhuddiad o ysbeilio tir ac eiddo abaty Sistersaidd Vale Royal (swydd Gaer) yn Llanbadarn Fawr (CCR; gw. Williams 1962: 241; Salisbury 2009: 67). Cyfeirir hefyd yn llinellau 47–8 at ymgais gan fawrIal i’w ddiswyddo, sef, yn ôl pob tebyg, abad abaty Sistersaidd Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl. Nid oes cofnod o wrthdaro rhwng abadau Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn ystod abadaeth Rhys, ond gwyddys i Siôn ap Rhys, abad Aberconwy, ddifrodi abaty Ystrad-fflur a dwyn gwerth £1,200 o’i eiddo yn 1428 (Robinson 2006: 269). Fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 68), mae’n debygol iawn mai Rhys ei hun a fu’n gyfrifol am ddiswyddo’r Abad Siôn a phenodi gŵr o’r enw Dafydd yn ei le yn Aberconwy, merch-abaty Ystrad-fflur, yn 1431. Diau mai gweithredoedd awdurdodol o’r fath sydd gan Guto mewn golwg yma.
Yn ôl Guto roedd Rhys yn ŵr dysgedig, da ei lên (6.20), ac yn ôl pob tebyg mae cerdd 6 yn cyfeirio at ymweliad ganddo â choleg Sistersiaidd Sant Berned a sefydlwyd yn Rhydychen yn 1437. Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod, difrodwyd abaty Ystrad-fflur yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, a thystia Guto i Rys dalu am waith atgyweirio’r adeiladau (8.16–18, 57–8). Dichon mai hyn, yn ogystal â’i haelioni cyffredinol, a fu’n gyfrifol am ei ddyledion erbyn diwedd ei fywyd, fel yr awgryma Guto’n gynnil yn niweddglo ei farwnad (9.75–84).
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972) The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)