Y llawysgrifau
Diogelwyd y cywydd hwn, neu ddarnau ohono, mewn 29 o lawysgrifau. Y testun cynharaf yw un BL 14967 (ar ôl 1527), a dengys hwnnw olion trosglwyddiad llafar (llinellau yn eisiau, newid trefn llinellau, trawsnewid geiriau o fewn llinell, amrywio amserau berfau). Mae testun Rhisiart ap Siôn yn BL 31059 (tua 1590) yn debyg i un BL 14967 o ran trefn a rhai darlleniadau, ond mae’n rhagori arno mewn mannau hefyd (gan gynnwys un cwpled a gollwyd yn BL 14967), ac felly y tebyg yw eu bod yn tarddu o’r un gynsail a bod copi BL 14967 yn llai ffyddlon. Yn anffodus, collwyd tudalen olaf testun BL 31059 (71 ymlaen), ond gwnaed copïau ohono cyn colli’r tudalen ac mae’r rheini’n werthfawr i gywiro testun BL 14967 (e.e. 71). Mae’r fersiwn a ddiogelwyd yn Pen 110 a LlGC 17114B tua 1560 (dau gopi o’r un gynsail) hefyd yn dangos olion trosglwyddiad llafar (nifer o linellau’n eisiau, peth newid trefn llinellau, ac un cwpled ychwanegol). Mae’r ffaith fod rhai darlleniadau’n gyffredin rhwng fersiwn BL 14967 / BL 31059 a fersiwn Pen 110 / LlGC 17114B (e.e. 45 a 59) yn awgrymu bod y ddau’n tarddu o’r un gynsail yn y pen draw, a honno’n dal i gylchredeg ar lafar yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg. Y llawysgrifau cynharaf sy’n cynnwys testun cyflawn o’r cywydd (a chymryd nad yw’r cwpled ychwanegol yn Pen 110 yn ddilys) yw LlGC 3049D, LlGC 8497B (Thomas Wiliems) a Gwyn 4 (William Salesbury), ill tair o drydydd chwarter yr unfed ganrif ar bymtheg ac yn tarddu o gynsail gyffredin. Cyfeirir at hwn fel fersiwn Dyffryn Conwy o hyn ymlaen. Gellir canfod perthynas agos rhwng y fersiwn hwnnw a dau destun anghyflawn o’r un cyfnod, sef LlGC 3051D (lle mae 17–18 a 41–2 yn eisiau) a Pen 80 (testun sy’n gorffen gyda 58; cymerir bod testun C 5.167 yn gopi uniongyrchol o Pen 80), ond er bod trefn y llinellau yr un fath yn y rhain dengys rhai darlleniadau eu bod yn fersiynau annibynnol. Y tebyg yw eu bod i gyd yn tarddu o gynsail ysgrifenedig gynnar a gofnodwyd oddi ar dafod leferydd gan ddatgeiniad. Byddai’r testun hwnnw’n agos iawn at gyfansoddiad gwreiddiol y bardd (heb gyfnod sylweddol o drosglwyddiad llafar), ond eto gallai gynnwys rhai amrywiadau o bosibl. Ac er bod cynsail fersiynau BL 14967 a Pen 110 yn bellach oddi wrth y cyfansoddiad gwreiddiol, gallai fod wedi diogelu rhai darlleniadau a gollwyd yn y gynsail arall. Ac nid yw’n annichon fod y ddwy gynsail yn cynrychioli perfformiadau gwahanol gan y bardd ei hun, ac mai dyna sy’n cyfrif am yr amrywio yn 59 er enghraifft.
Seiliwyd testun GGl ar Pen 99 (un o lawysgrifau John Davies, Mallwyd) yn bennaf, testun a dynnai ar LlGC 3051D a Gwyn 4, mae’n debyg, gydag elfen gref o ailwampio (e.e. ai fy nideu → ai newidio yn 2).
Seiliwyd y testun golygedig hwn ar BL 14967, Pen 110, Pen 80 a LlGC 3049D.
Trawsysgrifiadau: BL 14967, Pen 110, Pen 80 a LlGC 3049D.
Llinellau a wrthodwyd
Yn dilyn llinell 36 yn Pen 110 a LlGC 17114B ceir y cwpled canlynol. Mae’n ystrydebol, a gallai’n hawdd fod yn perthyn i farwnad arall:
Pan dynner, penyd anian,
Maen grwndwal mae’r wal yn wan.
1 a anafwyd Ni cheseilir a, ond fe’i collwyd mewn rhai fersiynau, ac arweiniodd hynny at ychwanegu sillaf i gywiro hyd y llinell, er doe, yn Pen 110 a LlGC 17114B ac yn LlGC 3051D. Cadwyd darlleniad y testun yn Pen 80 a Gwyn 4.
2 didëu Ffurf amrywiol ar didyo ‘gwneud yn ddigartref’, gw. GPC 965, lle nodir enghreifftiau o eiriaduron Thomas Wiliems a John Davies. Mae’r llawysgrifau mwy neu lai’n unfryd o blaid y ffurf hon, heblaw am ailgyfansoddi amlwg yn Pen 80 yn dy dy ac yn Pen 99 newidio (darlleniad a dderbyniwyd yn GGl). Cf. Duw ddoe a’m dideodd i ym marwnad Gutun Owain i’r Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes, GO XXIII.6.
3 gosymddaith Gw. GPC 1516 d.g. gosymdaith ‘bwyd i daith, cynhaliaeth’. Ceir y ffurf ddiweddarach gosymaith yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau (cf. DG.net 109.68 lle cadarnheir y ffurf honno gan y gynghanedd), ond y ffurf hynafol hon a geir yn Pen 80, Pen 110 a LlGC 17114B, a BL 31059.
5 tai Dilynir fersiwn Dyffryn Conwy, LlGC 3051D a BL 31059 yma gan ei fod yn ddarlleniad anos na tŷ y llawysgrifau eraill (cf. GIG X.38 lle gwelir yr un amrywio yn y llawysgrifau). Cyfeirir at holl adeiladau’r abaty. Ailgyfansoddwyd y llinell hon yn Pen 99 dwyn y wlad an dawn o law, a’r darlleniad hwnnw a dderbyniwyd yn nhestun GGl.
11–12 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn BL 14967, ond fe’i ceir yn BL 31059.
18 dug yn Iorc Cf. y cyfeiriad ato yn y farwnad i Harri Ddu o Euas, 36.23 Dug fi at y Dug of Iorc. Gellid darllen y dug yma hefyd gan ddilyn Pen 110 a fersiwn Dyffryn Conwy a cheseilio’r a ar ôl digio. Ond mae BL 14967 a Pen 80 o blaid darlleniad y testun, ac fe’i deellir fel cyfeiriad at unrhyw un a ddaliai’r teitl aruchel hwnnw.
21 diswydd Mae peth cefnogaeth yn y llawysgrifau (Pen 80, BL 31059, LlGC 3051D) i’r ffurf acennog di-swydd a geir yn nhestun GGl, ond gw. GPC 1051 lle nodir enghreifftiau o’r ffurf ddiacen wedi eu cadarnhau gan y gynghanedd yng ngwaith Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled.
22 Duw y sydd Nid yw’n glir pa lawysgrif oedd ffynhonnell y darlleniad A’m Duw sydd yn GGl, ond fe’i ceir fel cywiriad yn BL 31059. Ceir A duw sydd yn Pen 110, LlGC 17114B a Pen 99, ond fel arall mae’r dystiolaeth yn gryf o blaid darlleniad y testun.
24 ar y gerdd fu Pen 110, LlGC 17114B, LlGC 3051D a BL 31059. Mae’n debyg fod ac ar gerdd fu Pen 80 yn ganlyniad i ddeall roddes yn llinell 23 yn brif ferf y frawddeg yn hytrach na chymal perthynol. Gellir gweld ac arwydd fu BL 14967 a fersiwn Dyffryn Conwy fel ymgais i gywiro darlleniad tebyg i un Pen 80, ond cofier bod arwyddion Dydd y Farn yn fotîff cyffredin mewn marwnadau.
26 Dewi Yn sgil cymryd marw yn ddeusill newidiwyd hwn i Duw yn y rhan fwyaf o’r llawysgrifau cynnar. Pen 110 a LlGC 17114B yn unig a gadwodd ddarlleniad y testun.
30 Mae darlleniad GGl Marw fy mhen, marw yw fy mharch yn seiliedig ar Pen 99 a Pen 152 yn unig, ac mae’r ailadrodd yn amlwg yn anghywir.
31 marw ’y nghalon Adlewyrcha hyn ddarlleniadau BL 14967, BL 31059, Pen 110 a LlGC 17114B. Mae’n debyg fod yr f yn y rhagenw fy yn ymdoddi ar ôl yr w gytseiniol, ac wedyn gellir ceseilio’r llafariaid (cf. marw’n habad yn 29 uchod). Ailgyfansoddwyd y llinell gyda phrifodl newydd yn BL 31059 marw fy nghalon ar fronn frav / … wae finnav.
37 yw dwyn Dilynwyd Pen 80 a fersiwn Dyffryn Conwy, ac mae ergyd gyffredinol i’r llinell. O ddilyn BL 14967, BL 31059, Pen 110, LlGC 17114B a LlGC 3051D oedd ddwyn byddai’r llinell yn cyfeirio at farwolaeth Rhys yn benodol. Cf. yr amrywiaeth yn amser y ferf yn llinell 45 isod.
41–2 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn Pen 110 a LlGC 17114B.
45–6 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn Pen 110 a LlGC 17114B.
45 dued yw Mae darlleniadau megis dyfed, dyfad a dufyd yn ymgais i ateb yr f yn Deifi, ond nid oedd hynny’n angenrheidiol. Ceir amrywiaeth yn amser y ferf eto, gyda dued oedd yn Pen 110 a LlGC 17114B, BL 14967 a BL 31059. Mae’r amser presennol yn addas gan fod y tywyllwch yn parhau.
46 duai Nid oes cefnogaeth yn y llawysgrifau i ddarlleniad GGl dui. Berf gyflawn yw hon, ac ynys Deifi yw’r goddrych.
47 cafod raen drwch Pen 80, Pen 110, BL 31059. Dilynwyd fersiwn Dyffryn Conwy yn GGl, traen trwch (cf. BL 14967 traen drwch), a dyfynnir y llinell yn GPC 3543 d.g. traen1, benthyciad o’r Saesneg train ‘something trailing, retinue’ (gan gydnabod bod yr enghraifft hon yn ansicr). Disgwylid treiglo’r ansoddeiriau yn dilyn yr enw benywaidd cafod (= cawod, ond ni ddigwydd y ffurf honno yn y llawysgrifau). Y ddau ansoddair, felly, yw graen ‘ofnadwy, tywyll’ (cf. 83.39) a trwch ‘anfad’. Gellir esbonio’r llygriad fel ffrwyth camrannu a chalediad (cafod draen → cafod traen), sef y math o newid a fyddai’n digwydd mewn trosglwyddiad llafar yn hytrach nag wrth gopïo testun ysgrifenedig.
51–2 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn BL 14967, BL 31059 a Pen 80.
53–4 Mae’r cwpled hwn yn eisiau yn Pen 110 a LlGC 17114B.
56 yw clipsys Hon yw’r ffurf a geir yn BL 14967, fersiwn Dyffryn Conwy a LlGC 3051D, ond ceir clipys (o’r Saesneg (e)clipse) yn Pen 110, LlGC 17114B a BL 31059, gw. GPC 500 d.g. clips. Mae amser y ferf yn amrywio eto yn fersiwn Pen 110 a LlGC 17114B lle ceir vydd yn lle yw.
59 udaw ac wylaw Pen 80, fersiwn Dyffryn Conwy a LlGC 3051D. Trawsosodir y ddwy ferf yn BL 14967, BL 31059, Pen 110 a LlGC 17114B, newid sy’n nodweddiadol o drosglwyddiad llafar, fel y gwelir eto yn y llinell nesaf.
60 Trawsosodir Yno . . . wnaf yn BL 14967 a BL 31059.
65–78 Mae’r llinellau hyn yn eisiau yn Pen 110 a LlGC 17114B.
67 traws Mae trais GGl yn seiliedig ar Pen 99 a Pen 152 yn unig, a bu’n rhaid cymryd trais difreg yn sangiad.
70 a gynnull Gan nad yw tystiolaeth Pen 110, LlGC 17114B a Pen 80 ar gael ar gyfer y llinellau hyn mae’n anodd dewis rhwng y darlleniad hwn (fersiwn Dyffryn Conwy, LlGC 3051D a Pen 99) ac yn cynnull BL 14967 a BL 31059.
71 urddedigRys Ceir geredigrys yn BL 14967, ond er bod y rhan hon o’r gerdd yn eisiau yn BL 31059 oherwydd colli tudalen, mae tystiolaeth y copïau o’r llawysgrif honno yn awgrymu mai urddedigrys oedd ei darlleniad, ac felly saif BL 14967 ar ei phen ei hun yma. Cf. cryf urddol yn yr awdl i’r Abad Rhys, 8.4.
73 Dilynir BL 14967 (gyda chefnogaeth gan BL 31059) yma gan fod y cyferbyniad rhwng cyn hyn ac yn ôl yn gryf iawn o’u cael ar ddechrau’r ddwy linell. Daw darlleniad GGl o LlGC 3051D a Pen 99 Aur cyn hyn a’i lyn o’i law sy’n gadael y cwpled heb ferf. Nid yw’n glir beth oedd gair cyntaf y llinell yn fersiwn Dyffryn Conwy, gan fod y tair llawysgrif yn amrywio rhwng dvor (LlGC 3049D), doir (Gwyn 4) a doid (LlGC 8497B).
79–80 Mae’n debyg mai fersiwn amrywiol ar y cwpled hwn a geir yn Pen 110 a LlGC 17114B, er bod y brifodl yn wahanol:
Or Roddir i bawb o’r Reiddaw
A Roes Rys oi lys ai law
81 o’i du Mae darlleniad GGl o’i dŷ yn seiliedig ar Pen 110 a Pen 99, ond mae’r synnwyr yn well fel hyn.
84 telid Hen ffurf orchmynnol a geir yn Pen 110 a LlGC 17114B, LlGC 3051D a’r copïau o BL 31059, gw. WG 329.
Danfonwyd Rhys ap Dafydd ap Llywelyn, abad Ystrad-fflur, i garchar Caerfyrddin am ddyled, a bu farw yno yn 1440/1. Diau mai cyfeiriad cynnil at ei ddyledion a welir yn llinell olaf y gerdd hon.
Dyddiad
Bu farw’r Abad Rhys yn 1440/1.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XI; CTC cerdd 100.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 84 llinell.
Cynghanedd: croes 48% (40 llinell), traws 20% (17 llinell), sain 22.5% (19 llinell), llusg 9.5% (8 llinell).
6 Caeaw Cwmwd yn sir Gaerfyrddin, sef cynefin Rhys mae’n debyg (cf. 6.12).
7 aberthant o’i barth Gallai hyn gyfeirio at offrymu er lles enaid Rhys, ond yng ngoleuni’r honiad yn rhan gyntaf y llinell fod Rhys yn cael ei ystyried yn sant, mae’n debycach fod hyn yn golygu y bydd pobl yn offrymu iddo ef, neu yn ei enw ef, er mwyn cael ei nawdd ysbrydol.
10 yr ŵyl Nid yw hyn o reidrwydd yn cyfeirio at unrhyw ŵyl arbennig, ond os bu farw Rhys yn hydref neu yng ngaeaf 1440 mae’n bosibl mai gŵyl y Nadolig a olygir.
14 ar derm oes Gw. GPC 3485–6 am yr ystyron ‘life(time), allotted span’, a cf. GLGC 95.41 ar derm bywyd a 172.2 ar derm einioes, y ddau ymadrodd yn cyfeirio at nawdd i’r bardd ar hyd ei oes.
15 Siat Chad, esgob Caerlwytgoed (Lichfield) yn y seithfed ganrif. Mae eglwys wedi ei chysegru iddo yn Hanmer (a Chadwell yn sir Faesyfed).
15 patent Benthyciad o’r Saesneg patent ‘braint-lythyr’, gw. GPC 2701. Y pwynt yw bod cerddi mawl Guto i’r abad yn gwarantu lle iddo yn yr abaty am oes. Y rhoddion yr arferai’r bardd eu derbyn gan ei noddwr yw fy rhent yn y llinell nesaf.
18 dug yn Iorc Deiliad y teitl yn y cyfnod hwn oedd Richard, trydydd dug Iorc (1411–60). Cf. y cyfeiriad ato ym ‘Marwnad Harri Gruffudd’, 36.23 Dug fi at y dug of Iorc.
25 Camber Un o dri mab Brutus a sylfaenydd cenedl y Cymry yn ôl Sieffre o Fynwy. Dyfynnir y llinell hon yn CD 219 fel enghraifft o ‘dwyll-ymresymiad’, sef ‘hollti’r fud galed yn yr orffwysfa, a chymryd yr hanner cyntaf yn unig i’w ateb mewn croes ddisgynedig’. Sylwir yno hefyd fod rhai llawysgrifau’n darllen naill ai gwymb neu gamper. Cf. 22.15 Er meddiant Alecsander.
26 Morda’ Sef Mordaf ap Serfan, un o’r Tri Hael, gw. TYP3 451–2, WCD 483.
45 ynys Deifi Defnyddir ynys yma yn yr ystyr ‘bro’, cf. 63.59 ynys Wynedd.
54 gwlad yr hud Mae’n debyg fod hyn yn cyfeirio at y niwl sy’n disgyn ar Ddyfed yn nhrydedd gainc y Mabinogi.
56 clipsys Benthyciad o’r Saesneg (e)clipsis, diffyg ar yr haul, cf. GIG VI.52 Y mae clipsis fis ar Fôn.
61–2 Cwynfan Esyllt … / Am Drystan Ar ddiwedd y fersiwn Eingl-Normanaidd o’r chwedl gan Thomas o Brydain mae Isolde yn cyrraedd Tristan yn rhy hwyr, a phan wêl ei fod wedi marw mae hi’n galaru’n angerddol cyn marw o dorcalon.
63 Gwyddno Garanir Brenin Cantre’r Gwaelod.
69 llif Noe Cf. 92.34 (lle ceir yr un trawiad cynganeddol) a 40.21–2.
84 telid Duw Hen ffurf orchmynnol, cf. 7.43n a hefyd yr ymadrodd Telid Duw iddynt a geir gan Maurice Kyffin (1595) (Hughes 1951: 91), enghraifft efallai o hen ffurf wedi ffosileiddio mewn ebychiad.
Llyfryddiaeth
Hughes, G.H. (1951) (gol.), Rhagymadroddion 1547–1649 (Caerdydd)
Rhys ap Dafydd ap Llywelyn, abbot of Strata Florida, was imprisoned in Carmarthen for debt, and died there in 1440/1. The last line of this poem probably makes indirect reference to his debts.
Date
Abbot Rhys died in 1440/1.
The manuscripts
Twenty nine manuscript copies of the poem have survived dating from the second quarter of the sixteenth century onwards, a number of them showing signs of oral transmission. The edited text is based on BL 14967, Pen 110, Pen 80 and LlGC 3049D.
Previous editions
GGl poem XI; CTC poem 100.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 84 lines.
Cynghanedd: croes 48% (40 lines), traws 20% (17 lines), sain 22.5% (19 lines), llusg 9.5% (8 lines).
6 Caeaw A commote in Carmarthenshire, probably Rhys’s native region (cf. 6.12).
7 aberthant o’i barth This could refer to offerings for the benefit of Rhys’s soul, but in light of the claim in the first part of the line that Rhys was regarded as a saint, this is more likely to mean that people were making offerings to him, or in his name, in order to gain his spiritual support.
10 yr ŵyl This does not necessarily refer to any particular festival, but if Rhys died in the autumn or winter of 1440, then it is possible that Christmas is meant.
14 ar derm oes See GPC 3485–6 for the meanings ‘life(time), allotted span’, and cf. GLGC 95.41 ar derm bywyd and 172.2 ar derm einioes, both expressions referring to patronage for the poet throughout his life.
15 Siat Chad, bishop of Lichfield in the seventh century. There is a church dedicated to him in Hanmer (and Chadwell in Radnorshire).
15 patent From the English patent in the sense of a document confirming a privilege, see GPC 2701. The point is that Guto’s praise poems to the abbot ensure him of a place in the abbey for life. In the next line fy rhent refers to the gifts the poet used to receive from his patron.
18 dug yn Iorc The holder of the title in this period was Richard, third duke of York (1411–60). Cf. the reference to him in the elegy for Henry Griffith, 36.23 Dug fi at y dug of Iorc.
25 Camber One of the three sons of Brutus and founder of the Welsh race according to Geoffrey of Monmouth.
26 Morda’ Mordaf ap Serfan, one of the ‘Tri Hael’, see TYP3 451–2, WCD 483.
45 ynys Deifi The word ynys is used here in the sense of ‘region’, cf. 63.59 ynys Wynedd.
54 gwlad yr hud This probably refers to the mist which descends on Dyfed in the third branch of the Mabinogi.
56 clipsys From the English (e)clipsis, cf. GIG VI.52 Y mae clipsis fis ar Fôn (‘There is an eclipse for a month over Anglesey’).
61–2 Cwynfan Esyllt … / Am Drystan At the end of the Anglo-Norman version of the story by Thomas of Britain Isolde reaches Tristan too late, and when she sees that he has died she delivers a passionate lament before dying of a broken heart.
63 Gwyddno Garanir The king of Cantre’r Gwaelod, the kingdom traditionally believed to lie beneath the waters of Cardigan Bay.
69 llif Noe Cf. 92.34 a 40.21.
84 telid Duw An old imperative form, cf. 7.43n and also the expression Telid Duw iddynt (‘God reward them’) used by Maurice Kyffin (1595) (Hughes 1951: 91), an instance perhaps of an old form fossilized in an exclamatory phrase.
Bibliography
Hughes, G.H. (1951) (gol.), Rhagymadroddion 1547–1649 (Caerdydd)
Yr Abad Rhys yw gwrthrych cerddi 5–9, a cheir cyfeiriadau eraill ato yn 30.37–8, 46 ac yn 115.25. Ni ddiogelwyd cerddi iddo gan feirdd eraill, ond cyfeirir ato mewn cerddi i’w olynwyr gan Ddafydd Nanmor (DN XXV.8, 64) a Ieuan Deulwyn (ID XXXI.4).
Achres
Yr unig dystiolaeth dros ei ach yw’r cyfeiriadau yng ngherddi Guto, lle nodir mai Dafydd ap Llywelyn oedd enw ei dad (6.11–14; 8.37, 73). Fe’i gelwir hefyd yn ŵyr Domas (7.39), ac mae’n debyg mai tad ei fam oedd hwnnw (ond gw. nodyn esboniadol 7.39).
Achres yr Abad Rhys ap Dafydd o Ystrad-fflur
Disgrifir Dafydd ap Llywelyn fel [C]aeo lywydd glân (6.12), ac yn y farwnad sonnir am [dd]wyn cywoeth dynion Caeaw (9.6), felly gellir casglu bod Rhys yn hanu o deulu uchelwrol blaenllaw yng nghwmwd Caeo. Ni lwyddwyd i leoli Rhys yn achau P.C. Bartrum (WG1 a WG2), ond mae’n bosibl, fel y dadleuodd Salisbury (2009: 61–2), ei fod yn ŵyr i’r Llywelyn ap Gruffydd Fychan a ddienyddiwyd yn Llanymddyfri yn 1401 am arwain byddin y brenin ar gyfeiliorn yn hytrach nag ar drywydd ei ddau fab a oedd yng nghwmni Owain Glyndŵr (gw. Griffiths: 1972, 367, lle nodir bod Dafydd ap Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn fedel Caeo yn 1389–92 ac yn ddirprwy fedel yn 1395–6 a 1400–1). Ni nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Dafydd yn WG1 ‘Selyf’ 6, ond mae’n bosibl ei fod wedi ei hepgor o’r achresi am mai Rhys oedd ei unig fab a hwnnw’n ddi-blant am ei fod yn ŵr eglwysig. Ar y llaw arall, nodir bod gan Lywelyn ap Gruffydd Fychan fab o’r enw Morgan Foethus a fu’n abad Ystrad-fflur. Ni noda Bartrum ei ffynhonnell ar gyfer hynny, ac nid oes ateg yn y rhestrau o abadau, ond mae bylchau yn y rhestrau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed. Dichon hefyd fod dryswch wedi digwydd rhwng Morgan a Rhys gan fod tad Rhys wedi ei hepgor o ach y teulu.
Ei yrfa
Y cyfeiriad cynharaf at Rys fel abad Ystrad-fflur yw un dyddiedig 13 Chwefror 1433 sy’n sôn amdano ymhlith nifer o uchelwyr a oedd i fod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch abad y Tŷ Gwyn (CPR 1429–35, 295). Ond mae tystiolaeth fod ei abadaeth wedi dechrau o leiaf dair blynedd cyn hynny. Mewn dogfen ddyddiedig 26 Mawrth 1442, yn amser olynydd Rhys, yr Abad Wiliam Morus, sonnir am gyflwr yr abaty fel hyn (CPR 1441–6, 95–6):The abbot and convent of the house of St. Mary, Stratflure, South Wales, have shown the king that the said house is situated in desolate mountains and has been spoiled by Owen Gleyndour and his company at the time of the Welsh rebellion, the walls of the church excepted, and that it is not probable that the same can be repaired without the king’s aid, and that Richard, late abbot, was deputed as collector of a whole tenth granted to the king by the clergy of the province of Canterbury in his ninth year and to be levied from the untaxed benefices within the archdeaconry of Cardican, in the diocese of St. Davids, and collector of a fourth part of a moiety of a tenth granted by the same on 7 November in the twelfth year and to be levied within the same archdeaconry, and collector of a whole tenth granted by the same on 29 April in the fifteenth year to be levied within the same archdeaconry, and collector of another tenth granted by the same in the eighteenth year, to be levied within the same archdeaconry, and collector of a subsidy granted by the same in the eighth year and to be levied from all chaplains within the same archdeaconry, and that at the time of the levying of the tenth in the eighteenth year the said late abbot was committed to the prison within the castle of Kermerdyn by the king’s officers by reason of divers debts recovered against him and there died.Gwelir bod Rhys (neu Richard fel y’i gelwir yma) yn casglu trethi ar ran y brenin yn wythfed flwyddyn teyrnasiad Henry VI, sef rhwng 1 Medi 1429 a 31 Awst 1430. Gwelir hefyd ei fod wedi ei garcharu yng nghastell Caerfyrddin am ddyledion yn neunawfed flwyddyn Henry VI, sef 1439/40, ac iddo farw yno. Mewn cofnod arall dyddiedig 18 Chwefror 1443 nodir bod ei olynydd, Wiliam Morus, wedi bod yn abad ers dwy flynedd (ibid 151–2), felly gellir casglu i Rys farw tua diwedd 1440 neu ddechrau 1441. Gellir derbyn, felly, y dyddiadau 1430–41 a roddir ar gyfer ei abadaeth gan Williams (2001: 297), a chymryd mai ffurf Saesneg ar Rhys oedd Richard, fel y gwelir yn y ddogfen uchod.
Yn y cywydd am salwch Rhys mae Guto’n annog yr abad i drechu ei salwch drwy ei atgoffa iddo lwyddo i drechu gwrthwynebiad gan abadau a lleygwyr (5.43–56). Sonnir am hawlwyr yn ei erlid, a gallai hynny fod yn gyfeiriad at achos yn 1435 (28 Mai) pan orchmynnwyd iddo ymddangos gerbron Llys y Siawnsri i ateb cyhuddiad o ysbeilio tir ac eiddo abaty Sistersaidd Vale Royal (swydd Gaer) yn Llanbadarn Fawr (CCR; gw. Williams 1962: 241; Salisbury 2009: 67). Cyfeirir hefyd yn llinellau 47–8 at ymgais gan fawrIal i’w ddiswyddo, sef, yn ôl pob tebyg, abad abaty Sistersaidd Glyn-y-groes yng nghwmwd Iâl. Nid oes cofnod o wrthdaro rhwng abadau Ystrad-fflur a Glyn-y-groes yn ystod abadaeth Rhys, ond gwyddys i Siôn ap Rhys, abad Aberconwy, ddifrodi abaty Ystrad-fflur a dwyn gwerth £1,200 o’i eiddo yn 1428 (Robinson 2006: 269). Fel yr awgrymodd Salisbury (2009: 68), mae’n debygol iawn mai Rhys ei hun a fu’n gyfrifol am ddiswyddo’r Abad Siôn a phenodi gŵr o’r enw Dafydd yn ei le yn Aberconwy, merch-abaty Ystrad-fflur, yn 1431. Diau mai gweithredoedd awdurdodol o’r fath sydd gan Guto mewn golwg yma.
Yn ôl Guto roedd Rhys yn ŵr dysgedig, da ei lên (6.20), ac yn ôl pob tebyg mae cerdd 6 yn cyfeirio at ymweliad ganddo â choleg Sistersiaidd Sant Berned a sefydlwyd yn Rhydychen yn 1437. Fel y gwelir yn y dyfyniad uchod, difrodwyd abaty Ystrad-fflur yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, a thystia Guto i Rys dalu am waith atgyweirio’r adeiladau (8.16–18, 57–8). Dichon mai hyn, yn ogystal â’i haelioni cyffredinol, a fu’n gyfrifol am ei ddyledion erbyn diwedd ei fywyd, fel yr awgryma Guto’n gynnil yn niweddglo ei farwnad (9.75–84).
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972) The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Salisbury, E. (2009), ‘ “Y traed ataw a redant”: Golwg ar Ganu Guto’r Glyn i Rys, Abad Ystrad-fflur’, LlCy 32: 58–84
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Williams, D.H. (2001), The Welsh Cistercians (Leominster)
Williams, G. (1962), The Welsh Church from Conquest to Reformation (Cardiff)