Credwn nad haelach creadur – no Rhys, 

Abaty Ystrad-fflur
Mae lleoliad hyfryd abaty Ystrad-fflur a’r porth gorllewinol eiconic hwnnw sy’n arwain at adfeilion yr hen adeiladau yn dyst i odidowgrwydd y fynachlog hon a pham yr adwaenir hi fel un o brif abatai Sistersaidd Cymru yn yr Oesoedd Canol. Ond ar ddechrau’r bymthegfed ganrif, roedd rhai o’r adeiladau eisoes wedi dechrau dirywio.[1] Wedi’r cwbwl, roedd rhai rhannau, megis y côr neu gangell y mynaich (cerdd 8.58) yn cynnwys gwaith a oedd yn dyddio mor bell yn ôl â’r ddeuddegfed ganrif. Erbyn cyfnod abadaeth yr Abad Rhys ap Dafydd (c.1436-41), noddwr Guto, gwelwyd mai da o beth fyddai dechrau adnewyddu’r abaty - gwaith costus a blinedig, bid siŵr. Tra oedd hynny ar waith, canodd Guto gerdd o fawl i’r Abad Rhys a chyfeirir yno at fwriad yr abad i adnewyddu’r abaty. Cawn wybod mai cerrig a ddefnyddid i adeiladu’r tai disglair yno: Tref a wneler trwy fain eiliad ‘llys a wneler trwy gydblethu meini’ (cerdd 8.70); cyflogid seiri meini a oedd yn arbenigwyr yn eu maes at y gorchwyl yn ôl Peter Lord.[2] Ceir yno seler a sylfaen da yn ôl y bardd: Tua’r seler, pond da’r seiliad ‘tua’r seler, onid da yw’r sylfaen?’ (cerdd 8.71) a nodir yn benodol i’r Abad Rhys dalu am adeiladu’r ffreutur:
Credwn nad haelach creadur – no Rhys, 
16Rhoes am waith y ffreutur. 
Cyfodes y cofiadur 
Cwfent a phlaid cefn tŷ Fflur. 
Credwn ni nad oes creadur haelach na Rhys,
talodd am waith adeiladu’r ffreutur. Cododd y cofiadur grefydd-dy a mur cynhaliol tŷ Fflur. Ychwanegir hefyd fod yr abad wedi cynnwys addurniadau ysblennydd iawn yno - ffenestri gwydr rhagorol, rhai lliw o bosibl a fyddai’n sicr yn gostus iawn i’w cynhyrchu (gw. Tai ac adeiladau: Gwydr). Cyfeirir hefyd at fflowrestri, sef addurn blodeuog o ryw fath: gallai hwn fod yn addurn yn y gwaith pren neu faen, megis y pennau colofnau blodeuog sydd wedi goroesi:
Gaer fflowrestri, gôr Fflur Ystrad, 
Gwin fenestri ag aur lestri, 
60Gwalchmai’r festri, gweilch Mair fwstrad. 
addurn blodeuog llys, cangell Ystrad-fflur,
gweinyddwyr gwin mewn llestri aur, Gwalchmai’r festri, cynulliad o hebogiaid Mair.
Am fwy o wybodaeth gw. Monastic Wales, abaty Ystrad Fflur. Bibliography[1]: D.M. Robinson, The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130‒1540 (London, 2006), 269.[2]: P. Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2005), 91. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru