Gwŷr antur a gâr yntau. 

Gwin
Boed goch neu wyn, sych neu felys, roedd gwin yn un o brif ddiodydd y llys. Cedwid gwinoedd yn seleri’r llysoedd ac roedd swyddog penodol yn gofalu am weini’r gwin, o bosibl gan ddefnyddio crochenwaith hardd fel y jwg hwn a ddaeth o gastell Cydweli; ymhellach, gw. Llestri. Nid yw’n bosibl gwybod faint yn union o winoedd a oedd yn cael eu hyfed, a chan fod y beirdd yn hoff o orliwio, ni ellir dibynnu’n llwyr ar eu cyfeiriadau at hynny. Nid oedd gwinoedd yn para cyhyd â gwinoedd heddiw - roedd rhaid yfed y gwin o fewn pymtheg mis ar ôl medi’r grawnwin - felly roedd canmol y galwyni o win yn seler y noddwr yn golygu ei fod yna i’w yfed ac nid i’w storio. Yn ôl ymchwil i faint o win oedd yn cael ei yfed ym Mhriordy Eglwys Gadeiriol Durham yn ail hanner y bymthegfed ganrif roedd un mynach yn yfed hyd at 3.9 peint o win y dydd yn ystod gwleddoedd mawr, sef rhywbeth tebyg i dair potel o win heddiw.
Fe ymddengys fod tyfu grawnwin yng Nghymru yn beth eithaf cyffredin. Cyfeiria Guto’r Glyn at dderbyn ffrwyth gwinwydd gan Ddafydd ap Tomas o Flaen-tren (cerdd 12.58) a winwydd a pherllannau (cerdd 113.25-6) wrth ddisgrifio abaty Glyn-y-groes. Mae’n debyg fod gwinwydd yn arbennig o boblogaidd yn y mynachlogydd.[1] Crybwyllir gwinoedd o dramor i bwysleisio cyfoeth y noddwr a’i allu i fewnforio’r cynnyrch diweddaraf i’w lys. Masnach a ddatblygwyd yn bennaf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen oedd y fasnach win yng Nghymru. Daeth y rhan fwyaf o’r gwinoedd yn gyntaf i Gymru o Ffrainc, Gwasgwyn a Llydaw yn arbennig, ac erbyn yr 1380au mewnforid gwinoedd o Sbaen hefyd. Porthladdoedd a oedd yn mewnforio gwinoedd oedd Cas-gwent, Aberdaugleddau, Caerfyrddin, Hwlffordd, Caernarfon a Biwmares, ac roedd Bryste a Chaer hefyd yn borthladdoedd prysur ac yn agos at Gymru. Gwinoedd Ffrengig yw’r rhai mwyaf poblogaidd gan y beirdd. Un o gywyddau mwyaf cofiadwy Guto’r Glyn yw’r frwydr ddychmygol rhwng y beirdd a gwinoedd Ffrengig Tomas ap Watgyn o Landdewi Rhydderch lle y cynrychiola’r gwinoedd Ffrengig arweinwyr byddin y Ffrancwyr:
Gwŷr antur a gâr yntau. 
Milwyr a fu’i wŷr efô, 
Main gwns tir Maen ac Aensio, 
gwŷr anturus sydd yn ei garu yntau.
Milwyr a fu ei wŷr ef, pelenni canon tiroedd Maine ac Anjou, Er bod nifer o winoedd y cyfnod hwn yn tarddu o wledydd y tu hwnt i Ffrainc, roedd nifer ohonynt yn cael eu mewnforio i Ffrainc yn gyntaf cyn dod i Brydain. Hynny, fe ymddengys, sy’n egluro’r cyfeiriadau cyson yn y farddoniaeth at y fasnach win rhwng Ffrainc a Chymru wrth i’r beirdd gyfeirio at Bwrdiaws, Gasgwyn (a ddaeth yn ‘Wasgwin’ oherwydd dylanwad y gair gwin) a dyffryn Rhein. Roedd castell Rhaglan yn arbennig yn adnabyddus am fanteisio ar y fasnach win boblogaidd hon, ac mae Guto’r Glyn a Hywel Dafi yn sylwi ar hynny. Fe ddisgrifir y gwinoedd yno’n fanwl gan Hywel Dafi wrth iddo grybwyll y gwahanol winoedd yn y seler yno:
Naw seler nis cymerwn 
Islaw’r haul am seler hwn, 
Bwrdiaws Nudd yr Herbardiaid, 
Baiwn chwaer heb win ni chaid, 
Gasgwin, gynefin yfed; 
Glyn Rhin, drwy Raglan y rhed! 
Ni fyddwn yn cymryd unrhyw naw seler
dan haul yn lle seler y gŵr hwn, Bordeaux Nudd yr Herbertiaid, chwaer Bayonne na ellid ei dal heb win, Gwasgwyn, cartref yfed; Dyffryn Rhein, mae’n rhedeg drwy Raglan! Y gwinoedd a enwir gan Guto’r Glyn yw Osai, Rasbi, Malsai, Rhwmnai, a Clared. Nodir hefyd iddo dderbyn gwinoedd o Paitio (Poitou), Baiwn (Bayonne), Bwlaen (Bayonne), Bwrdiaws (Bordeaux), Gasgwin (Gwasgwyn), ac o ddyffryn Rhin (Rhein). Mae’r pump cyntaf yn enwau penodol ar winoedd neu ddiodydd a oedd yn gymysgedd o win a chynhwysion eraill. Osai Math o win melys o Bortiwgal, o bosibl o ardal Lisbon yn wreiddiol, oedd osai ond fe’i cysylltid hefyd ag ardaloedd Auxois ac Alsace yn Ffrainc. Derbyniodd Guto’r Glyn ei nefawl osai gan Wiliam Herbert I yng [placelink:nghastell Rhaglan (cerdd 20.17) a chyfeirir at yr un gwin mewn cerdd i Wiliam Herbert o Benfro: Mastr Wiliam osai dreuliaw ‘Mastr Wiliam sy’n darparu gwin osai’ (cerdd 28.13). Cysylltir yr osai â Ffrainc hefyd wrth foli Sieffrai Cyffin: Sieffrai, a ŷf osai Ffrainc ‘Sieffrai, sy’n yfed gwin osai o Ffrainc’, (cerdd 99.1). Rasbi Gwin coch oedd rasbi, ac o bosibl gwin coch melys. Daw o’r Saesneg raspis ond mae ei darddiad yn ansicr. Awgryma Guto’r Glyn ei fod yn dda i’r cymalau yn ei foliant i’r Abad Tomas o Amwythig:
Aml oedd i’m cymalau i 
Win o’r Ysbaen neu rasbi. 
Yn fynych yr oedd yn fy nghymalau i
win o Sbaen neu rasbi. Malsai Roedd malsai neu malmsai yn cael ei gynhyrchu yn wreiddiol yn ardal Monemvasia (Napoli di Malvasia) yn y Peloponnese yng Ngroeg, ac yn ddiweddarach mewn rhannau eraill o’r Canoldir a thu hwnt. Daw o’r Saesneg Canol malmsey ac roedd yn fath o win melys cryf. Cafodd Guto’r Glyn y gwin arbennig hwn yn y wledd yng nghastell Croesoswallt gan Sieffrai Cyffin a’i wraig Siân, meddai:
Heb Sieffrai a’i falsai fo, 
Heb f’annedd, ni bwyf yno. 
heb Sieffrai a’i win malmsai ef,
heb fy nghartref, na foed i mi fod yno. Rwmnai Roedd rwmnai yn fath o win melys. Daw o’r Saesneg rumney ac efallai’n gysylltiedig â’r enw lle Romany gan mai o Roeg y daeth yn wreiddiol. Dyma win sydd bellach yn anhysbys ond a oedd yn boblogaidd iawn yn ystod y bymthegfed ganrif. Wrth foli gwledd Harri ap Gruffudd yng Nghwrtnewydd rhestrir y rwmnai ymysg diodydd eraill:
Eich gwledd a roddech i glêr, 
A’ch rwmnai, a chau’r amner; 
A’ch clared âi i’ch clerwyr, 
A’ch medd, a gomedd y gwŷr. 
Byddech chi’n fodlon rhoi gwledd i feirdd,
a’ch rwmnai hefyd – a chau’r pwrs yn dynn; fe âi eich clared hefyd at y beirdd, a’ch medd, ac wedyn gwrthod y gwŷr. Clared Enwir yn yr un dyfyniad win clared, sef gwin o liw melyn neu goch golau yn y cyfnod hwn (daw o’r Hen Ffrangeg claret) ac a oedd yn wahanol i winoedd gwyn neu winoedd coch. Fel yr hippocras, roedd y clared canoloesol yn cynnwys cymysgedd o sbeisys wedi eu hychwanegu at y gwin.[2] Disgrifiodd Guto lys Phylib ap Gwilym yn Nhrefgwnter fel Trwydded trefn clared trafn clêr, ‘Perchentyaeth llys clared arglwydd y beirdd’ (cerdd 30.47). Gwresogwin Rhywbeth yn debyg i’r clared oedd gwresogwin, sef cymysgedd o unrhyw win a sbeisys wedi ei gynhesu, fel ‘mulled-wine’ heddiw. Er bod nifer o’r gwinoedd hyn yn tarddu o wledydd y tu hwnt i Ffrainc, cafodd nifer ohonyt eu mewnforio i Ffrainc yn gyntaf cyn dod i Brydain. Yr arfer hwn, mae’n debyg, sy’n esbonio’r cyfeiriadau cyson yn y farddoniaeth at y fasnach win rhwng Ffrainc a Chymru: mae’r beirdd yn crybwyll Bwrdiaws, Gasgwyn (a ddaeth yn ‘Wasgwin’ oherwydd dylanwad y gair gwin) a dyffryn y Rhein. Roedd Rhaglan, yn enwedig, yn enwog am gymryd mantais o’r fasnach boblogaidd hon, fel y mae Guto’r Glyn a Hywel Dafi yn nodi. Cyfeiria Hywel Dafi yn fanwl at y gwahanol winoedd yn y seler yno:
Naw seler nis cymerwn 
Islaw’r haul am seler hwn, 
Bwrdiaws Nudd yr Herbardiaid, 
Baiwn chwaer heb win ni chaid, 
Gasgwin, gynefin yfed; 
Glyn Rhin, drwy Raglan y rhed! 
Ni fyddwn yn cymryd unrhyw naw seler
dan haul yn lle seler y gŵr hwn, Bordeaux Nudd yr Herbertiaid, chwaer Bayonne na ellid ei dal heb win, Gwasgwyn, cartref yfed; Dyffryn Rhein, mae’n rhedeg drwy Raglan! Bibliography[1]: D.H. Williams, The Welsh Cistercians (Leominster, 2001), 244.[2]: M.W. Adamson, Food In Medieval Times (Westport, 2004), 50. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru