
Tŷ neuadd
Tai neuadd heb amddiffyniad oedd y mwyafrif o’r cartrefi brodorol a godwyd yng Nghymru yn ystod y bymthegfed ganrif. Roedd i’r tŷ neuadd un brif ystafell fawr a honno’n agored i’r to (gw. Pensaernïaeth: Cynllun). Rhannwyd y gwahanol fathau o dai neuadd yn dri dosbarth: • tai neuadd o statws arglwyddiaeth gyda neuaddau sylweddol ac iddynt dri bae neu fwy, weithiau gydag adenydd sy’n ffurfio cynllun ‘H’; • tai neuadd yr uchelwyr lleol, fel arfer gyda neuadd o ddau bae gydag ystafelloedd eraill ym mhob pen; • tai neuadd y werin bobl, gyda neuadd un bae rhwng parlwr a beudy; ystyrir mai o’r rhain y datblygodd y ‘tŷ hir’ diweddarach.[1] Mae’n debygol iawn fod y rhan fwyaf o’r tai yr ymwelodd Guto’r Glyn â hwy yn dai neuadd a oedd yn perthyn i’r ddau ddosbarth cyntaf. Gwyddom fod Cochwillan yn dŷ neuadd sylweddol ac mae hynny’n cyd-fynd â statws ei berchennog, Wiliam ap Gruffudd. Roedd rhai o gartrefi’r esgobion hefyd yn dai sylweddol, megis Plas yr Esgob ym Mangor, ac er bod tai fel yr Hen-blas a Lleweni bellach wedi eu dymchwel neu eu hailadeiladu, ceir digon o dystiolaeth i awgrymu bod y rhain hefyd yn dai neuadd o gryn faint yn ystod oes Guto.[2]
Bibliography[1]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 38; R. Suggett & G. Stevenson, Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru: Introducing Houses of the Welsh Countryside (Aberystwyth & Talybont, 2010), 35-7, ac E. Wiliam, The Welsh Cottage: building traditions of the rural poor 1750-1900 (CBHC, 2010), 47-8.[2]: P. Smith, Houses of the Welsh Countryside (London, 1975 & 1988), 100. [3]: A.E. Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992), cerddi 4 a 5; R. Haslam, ‘A Note on the Architecture of Vaynor Park’, Montgomery Collection 65 (1977), 43-46, a R. Silvester & J. Alfrey, ‘Vaynor: A Landscape and its Buildings in the Severn Valley’, yn J. Finch & K. Giles (gol.) Estate Landscapes: Design, Improvment and Power in the Post-Medieval Landscape, (Woodbridge, 2007), 39. [4]: C. Thomas, ‘The Township of Nannau, 1100-1600 A.D.’, Cylchgrawn Hanes Sir Feirionnydd v (1966), 97-103; M. Vaughan, ‘Nannau’, Cylchgrawn Hanes Sir Feirionnydd iv (1962), 119-21, 207-7, a T.J., ‘Notes on the House of Nannau by Robert Vaughan of Hengwrt, 1649’, Archaeologia Cambrensis ix (1863), 129-33. [5]: B.O. Huws, ‘Ailadeiladu Bywyd ar ôl Gwrthryfel Glyndŵr: Tystiolaeth y Canu i Foelyrch’, Dwned, 13 (2007) 97-137. |
Oni nodir yn wahanol, mae hawlfraint ar gynnwys y wefan hon yn perthyn i Brifysgol Cymru