Y llawysgrifau
Cadwyd testun o’r gerdd hon yn Pen 57 (c.1440), a chopi uniongyrchol o’r llawysgrif honno gan John Jones, Gellilyfdy, yw’r un yn Pen 312. Ar Pen 57 yn unig, felly, y seiliwyd y testun golygedig. Mae ansawdd y testun yn dda iawn ar y cyfan, ond ychwanegodd llaw arall linellau 5–6 ar ymyl tudalen 37 heb arwydd i ddangos lle maent yn perthyn. Fe’u rhoddwyd ar ddiwedd y gerdd yn Pen 312, ond ar sail yr enw Llywelyn … Fychan gellir eu lleoli yn bur hyderus cyn llinell 7. Newidiwyd llinell 2 hefyd (gw. y nodyn isod), ac felly mae’n ymddangos bod rhywun wedi mynd ati i adolygu’r testun. Ceir y teitl kywyd y bel wrth ymyl llinell 58 gan law arall o’r bymthegfed ganrif.
Trawsysgrifiad: Pen 57.
2 Dilewyd y llinell hon yn Pen 57, gan roi llinell wahanol uwch ei phen ac eto ar ymyl y ddalen, sef, oes panadoes y pavn du. Gan fod yr ysgrifen yn fân mae’n anodd barnu’n bendant ai’r un llaw yw hon â’r un a ysgrifennodd y prif destun, ond nid oes gwahaniaeth amlwg (fel sydd yn achos y cwpled a ychwanegwyd ar ymyl y ddalen). Ni ellir ond dyfalu pam yr ailwampiwyd y llinell, ond mae’n hawdd deall y gallai rhywun (y bardd ei hun o bosibl) deimlo bod y cellwair yn y llinell wreiddiol braidd yn rhy fentrus a rhoi rhywbeth diddrwg didda yn ei lle gan gadw’r un brifodl. Penderfynwyd cadw’r llinell wreiddiol yn y testun golygedig am ei bod yn weddol sicr yn waith Guto, tra bo’r ail fersiwn, o bosibl, yn waith rhywun arall ac yn llawer llai diddorol na’r fersiwn cyntaf.
5–6 Ychwanegwyd y cwpled hwn ar ymyl y ddalen, gw. uchod.
6 Nudd Collwyd yr ail d yn Pen 57, ond fe’i ceir yn y copi yn Pen 312.
Noddwr y cywydd hwn yw Hywel ap Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan. Haelioni Hywel yw prif thema’r cywydd, ac yn yr ail hanner datblygir trosiad estynedig sy’n delweddu clod y beirdd fel pêl a ddelid gan wŷr hael y traddodiad barddol yn eu tro o amser y Tri Hael hyd Hywel ei hun.
Dyddiad
1430au.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd LXXXIX.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 50% (30 llinell), traws 22% (13 llinell), sain 23% (14 llinell), llusg 5% (3 llinell).
2 Mae hon yn llinell gellweirus iawn sy’n cyferbynnu rhwng tegwch (hynny yw glendid) cydwybod y bardd ynghylch y cariad honedig a lliw du gwallt Hywel (cf. 50 a 52 isod, a cherdd 33 lle molir gwallt du Harri Gruffudd). Mae’n bosibl mai anesmwythyd ynghylch y cellwair hwn a barodd i rywun ddileu’r llinell hon yn Pen 57 a rhoi un gwbl wahanol yn ei lle (gw. nodiadau testunol).
6 Nudd Un o Dri Hael Ynys Prydain, gyda Mordaf a Rhydderch, cf. 22, 32–4, 55 a 58 isod, a gw. TYP3 5–7.
13 Ffawg Fulk Fitzwarine, gw. 39.49n.
14 Anhuniawg Cwmwd ar lan ogleddol afon Aeron.
16 Uwch Aeron Yr ardal i’r gogledd o afon Aeron a gynhwysai gymydau Pennardd, Anhuniog, Mefenydd a chantref Penweddig, gw. WATU 218.
22 Gwynlle Nant Plwyf Nantgwynlle (Nancwnlle heddiw), yng nghwmwd Pennardd, Uwch Aeron.
33 Mordaf Mordaf ap Serfan, un o’r Tri Hael, gw. 9.26n.
40 Cymru Pen 57 gymry, ond mae’n eglur mai’r wlad a olygir, a gall -u mewn sillaf ddiacen odli ag -y.
43 nyw Ar y ffurf hon ar y geiryn negyddol + rhagenw gw. GPC 2600 d.g. nwy4, nyw1.
46 tenis Y cyfeiriad cynharaf at y gêm hon a nodir yn OED Online s.v. tennis, n. yw un gan John Gower tua 1400. Chwaraeid yn yr awyr agored yn ogystal ag mewn cwrt caeedig, a’r dull gwreiddiol oedd taro’r bêl â chledr y llaw. Mae’n debyg mai’r syniad y tu ôl i’r ddelwedd yma yw bod y bêl yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y beirdd a’r noddwr.
46 dwy Wynedd Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy.
49 Hu Sef Hu Gadarn, ymherodr Caergustennin yn y chwedl ‘Pererindod Siarlymaen’, gw. 96.56n.
51 Glasgrug O blith y lleoedd o’r enw hwn a nodir yn ArchifMR yr un mwyaf tebygol yw’r llys ym mhlwyf Llanbadarn-y-Creuddyn yng ngogledd Ceredigion. Ni wyddys sut y daeth y lle hwn i’w feddiant, ond sylwer bod Hywel wedi prynu tiroedd yn sir Aberteifi a oedd yn perthyn i ryw Petronilla ferch Llywelyn Fychan (ei chwaer?) yn 1416 (Griffiths 1972: 305), a hefyd fod gan Lywelyn Fychan yntau dŷ yng nghwmwd Perfedd (ibid.: 125).
57 prifai-sêl Benthyciad o’r Saesneg Canol privei sel, sêl swyddogol a ddefnyddid ar ddogfennau drwy awdurdod brenhinol, ac yn ffigurol yma awdurdod neu hanfod. Cf. GHC 22.38 Angel a phrifisêl serch.
60 Efrawg lwyth Mae’n debyg mai Efrog Gadarn ap Membyr yw hwn, un o frenhinoedd cynnar Prydain o linach Brutus yn ôl Sieffre o Fynwy (gw. WCD 226), yn hytrach na thad Peredur (cf. GHS 2.61n). Ond ni wyddys am gyswllt achyddol â hil y Caplan.
60 Ifor Sef Ifor Hael, noddwr Dafydd ap Gwilym a phatrwm o noddwr hael gan feirdd y bymthegfed ganrif, gw. DG.net cerddi 11–17. Cofier bod Dafydd ap Gwilym wedi canu am dad Hywel.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
The subject of this poem is Hywel ap Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ap Llywelyn Gaplan. Hywel’s generosity is the main theme of this poem, and the second half develops an extended metaphor of the poets’ praise held by the patrons of the bardic tradition in turn from the time of the ‘Three Generous Ones’ up to Hywel himself.
Date
1430s.
The manuscript
The edited text is based on that in Pen 57 (c.1440) which seems entirely satisfactory, but see note 2 below on a change made to the text. Lines 5–6 were added by a different hand in the margin. The text was copied by John Jones, Gellilyfdy, in Pen 312.
Previous edition
GGl poem LXXXIX.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 50% (30 lines), traws 22% (13 lines), sain 23% (14 lines), llusg 5% (3 lines).
2 This line makes a playful contrast between the poet’s ‘fair’ (i.e. clean) conscience about the love between him and his patron on the one hand, and the black colour of Hywel’s hair on the other (cf. 50 and 52 below, and poem 33 where Henry Griffith’s black hair is praised). Uneasiness about this rather bold humour might be the reason why a contemporary hand (possibly that of the original scribe) deleted the line in Pen 57 and put a blandly uncontentious one in its place: oes panadoes y pavn du (‘yes, there is indeed, the black[-haired] peacock’).
6 Nudd One of the ‘Three Generous Ones of the Island of Britain’, together with Mordaf and Rhydderch, cf. 22, 32–4, 55 and 58 below, and see TYP3 5–7.
13 Ffawg Fulk Fitzwarine, see 39.49n.
14 Anhuniawg A commote on the northern bank of the river Aeron.
16 Uwch Aeron The region to the north of the river Aeron which comprised the commotes of Pennardd, Anhuniog, Mefenydd and the hundred of Penweddig, see WATU 218.
22 Gwynlle Nant The parish of Nantgwynlle (modern Nancwnlle), in the commote of Pennardd, Uwch Aeron.
33 Mordaf Mordaf ap Serfan, one of the Three Generous Men, see 9.26n.
40 Cymru Pen 57 gymry, but it is clear that the country is meant, and -u in an unaccented syllable could rhyme with -y.
43 nyw On this form of the negative particle + pronoun see GPC 2600 s.v. nwy4, nyw1.
46 tenis The earliest reference to this game noted in the OED Online s.v. tennis, n. is one by John Gower about 1400. Tennis was played in the open air as well as in an enclosed court, and originally involved striking the ball with the palm of the hand. The point of the image here seems to be that the ball would go to and fro between the poets and the patron.
46 dwy Wynedd Gwynedd Uwch Conwy to the west of the river and Gwynedd Is Conwy to the east.
49 Hu Hu Gadarn, the emperor of Constantinople in ‘Pererindod Siarlymaen’, see 96.56n.
51 Glasgrug Of the places with this name noted in ArchifMR the most likely one is the court in the parish of Llanbadarn-y-Creuddyn in north Ceredigion. It is not known how this place came into his possession, but it is worth noting that Hywel bought lands in Cardiganshire which belonged to one Petronilla ferch Llywelyn Fychan (his sister?) in 1416 (Griffiths 1972: 305), and also that Llywelyn Fychan had a house in the commote of Perfedd (ibid.: 125).
57 prifai-sêl From Middle English privei sel, an official seal of royal authority on documents, and figuratively here authority or essence. Cf. GHC 22.38 Angel a phrifisêl serch (‘Angel and privy seal of love’).
60 Efrawg lwyth This is probably Efrog Gadarn ap Membyr, one of the early kings of Britain descended from Brutus according to Geoffrey of Monmouth (see WCD 226), rather than Peredur’s father (cf. GHS 2.61n). But how he was linked to the Caplan lineage is not known.
60 Ifor Ifor Hael, the patron of Dafydd ap Gwilym who represented a model of generosity for fifteenth-century poets, see DG.net poems 11–17. The reference would have been especially meaningful because Dafydd ap Gwilym composed a poem about Hywel’s father (see above).
Bibliography
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales 1277–1536 (Cardiff)
Hywel ap Llywelyn Fychan oedd noddwr cerdd 10. Sonnir am Lywelyn Fychan mewn dwy gerdd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n ei gysylltu â’i gyfyrder (gw. isod), Rhydderch ab Ieuan Llwyd, sef ffug-farwnad gan Ddafydd ap Gwilym i Rydderch (DG.net cerdd 10) ac awdl gan Lywelyn Goch ap Meurig Hen i’r ddau ŵr ynghyd (GLlG cerdd 4). Ceir cywydd gan Ieuan Deulwyn yn gofyn i Hywel am fytheiaid (ID cerdd 43), a sonia Deio ab Ieuan Du yn ‘Cywydd Clera Sir Aberteifi’ am hil y Caplan yn Anhuniog (GDID 11.41–4).
Achres
Perthynai Hywel i deulu a oedd yn adnabyddus fel noddwyr beirdd. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Llywelyn Gaplan’ 1, 2, ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 1, 3.
Achres Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron
Enw un mab yn unig i Hywel a nodir yn achresi Bartrum, sef Harri, ond fel y gwelir isod mae’n debygol fod ganddo fab arall o’r enw Ieuan a fu farw yn 1439.
Ei yrfa
Safai cartref y teulu ar dir uchel i’r gogledd o afon Aeron ym mhlwyf Nancwnlle, cwmwd Anhuniog, ond nid yw union leoliad y tŷ yn hysbys. Awgrymir yn GLlG 85 ei fod rywle ar y bryn serth uwchlaw Trefilan. Fel ei dad o’i flaen, daliodd Hywel nifer o swyddi yn llywodraeth leol sir Aberteifi rhwng 1399 a 1434, gan gynnwys plediwr ar gyfraith Cymru yn Emlyn Uwch Cuch yn 1409–11 (Griffiths 1972: 305). Roedd yn dal yn fyw pan fu farw ei fab Ieuan tua 1439, a’r tebyg yw ei fod yn hen ŵr pan ganodd Guto iddo yn y 1430au.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)