Chwilio uwch
 

Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron, fl. c.1399–c.1439

Hywel ap Llywelyn Fychan oedd noddwr cerdd 10. Sonnir am Lywelyn Fychan mewn dwy gerdd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg sy’n ei gysylltu â’i gyfyrder (gw. isod), Rhydderch ab Ieuan Llwyd, sef ffug-farwnad gan Ddafydd ap Gwilym i Rydderch (DG.net cerdd 10) ac awdl gan Lywelyn Goch ap Meurig Hen i’r ddau ŵr ynghyd (GLlG cerdd 4). Ceir cywydd gan Ieuan Deulwyn yn gofyn i Hywel am fytheiaid (ID cerdd 43), a sonia Deio ab Ieuan Du yn ‘Cywydd Clera Sir Aberteifi’ am hil y Caplan yn Anhuniog (GDID 11.41–4).

Achres
Perthynai Hywel i deulu a oedd yn adnabyddus fel noddwyr beirdd. Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Llywelyn Gaplan’ 1, 2, ‘Cydifor ap Gwaithfoed’ 1, 3.

stema
Achres Hywel ap Llywelyn Fychan o Lyn Aeron

Enw un mab yn unig i Hywel a nodir yn achresi Bartrum, sef Harri, ond fel y gwelir isod mae’n debygol fod ganddo fab arall o’r enw Ieuan a fu farw yn 1439.

Ei yrfa
Safai cartref y teulu ar dir uchel i’r gogledd o afon Aeron ym mhlwyf Nancwnlle, cwmwd Anhuniog, ond nid yw union leoliad y tŷ yn hysbys. Awgrymir yn GLlG 85 ei fod rywle ar y bryn serth uwchlaw Trefilan. Fel ei dad o’i flaen, daliodd Hywel nifer o swyddi yn llywodraeth leol sir Aberteifi rhwng 1399 a 1434, gan gynnwys plediwr ar gyfraith Cymru yn Emlyn Uwch Cuch yn 1409–11 (Griffiths 1972: 305). Roedd yn dal yn fyw pan fu farw ei fab Ieuan tua 1439, a’r tebyg yw ei fod yn hen ŵr pan ganodd Guto iddo yn y 1430au.

Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)