Y llawysgrifau
Ceir testun o’r gerdd hon mewn 13 copi llawysgrif, ond cwpled yn unig a geir yn un ohonynt, sef Pen 221. Mae’r berthynas rhwng y llawysgrifau yn glòs iawn, ac nid oes dim i awgrymu nad ydynt i gyd yn tarddu yn y pen draw o’r un ffynhonnell, a honno’n llawysgrif yn y gogledd-ddwyrain yn ôl pob tebyg. Nid oes unrhyw amrywio yn nhrefn y llinellau, ond ni cheir y llinellau i gyd ym mhob llawysgrif.
Y tair llawysgrif hynaf yw Pen 127, LlGC 17114B a C 5.167: daw’r tair o’r gogledd-ddwyrain, ac mae cysylltiad agos rhyngddynt a theulu Trefor. Nid yw’n amhosibl fod y tair yn tarddu o gynsail ysgrifenedig o Fryncunallt. Anodd, er hynny, yw diffinio union berthynas y tair, ac yn anffodus mae nifer o linellau yn eisiau yn Pen 127 oherwydd rhwyg yn y ddalen. O’u cymharu â’i gilydd, gwelir bod cyswllt arbennig o glòs rhwng Pen 127 a C 5.167, tra bod LlGC 17114B weithiau yn cynnig darlleniadau ychydig yn wahanol (gw. 36n, 52, ac yn LlGC 17114B yn unig y ceir llinellau 7–8). Er bod testun cerddi Guto yn C 5.167 gan amlaf yn gopi uniongyrchol o LlGC 17114B, anodd credu bod hynny’n wir yn achos y gerdd hon, ac mae’n fwy tebygol ei fod yn gopi o destun Pen 127 neu’n tarddu o ffynhonnell gyffredin iddi (fel a nodir yn y stema). Yn sicr, mân wahaniaethau yw nifer ohonynt, a gellid esbonio sawl un fel ymdrech gan gopïydd C 5.167 i safoni ffurfiau (e.e. yn llinell 35 ceir C 5.167 Rinwedav, ond LlGC 17114B, Pen 127 Rinwedde) ond mae’r darlleniad gl[ ]th a geir yn llinell 51 yn Pen 127 a C 5.167 (cf. Ba (M) 5 glath) yn debygol o fod yn gywir, ond glaif a geir yn LlGC 17114B. Fel y nodwyd uchod, yn LlGC 17114B yn unig y ceir llinellau 7–8 (ac er bod rhwyg yma yn Pen 127, dyfelir nad oedd y cwpled hwn yno a barnu wrth faint y bwlch a adawyd). Os wyf yn gywir yn barnu fod y cwpled hwn yn ddilys, yna’r tebyg yw bod Pen 127 a C 5.167 yn tarddu o gynsail gyffredin, a elwir yn X1 yn y stema. Fel arall rhaid credu i’r cwpled gael ei hepgor yn annibynnol o’r ddwy lawysgrif – o bosibl gan fod 7–8 a 9–10 yn dechrau â’r un cymeriad S-.
Mae’r tair llawysgrif hyn yn aml yn cynnig darlleniadau gwahanol i’r gweddill, a thueddant i gadw ffurfiau hŷn (e.e. siomed, ll. 5, lle ceir s(i)omwyd yn y gweddill). Ceir blas llafar ar rai o’r darlleniadau (e.e. Rinwedde (35), chwedle o’r llyfre (44)), ac yn aml caiff darlleniadau eu nodi’n llawn heb gywasgiad (e.e. llinell 11 pwy sy yn ol, llinell 30 y tai yn y coed), lle mae’r copïwyr diweddarach yn fwy ymwybodol o hyd llinell wrth gopïo, ac felly’n nodi’r cywasgiadau (weithiau’n ormodol felly, cf. 30n).
Nid oes gwahaniaethau mawr rhwng darlleniadau gweddill y llawysgrifau a’r tair hyn: y prif wahaniaeth yw bod llinellau 27–8 yn eisiau ym mhob un ohonynt sy’n awgrymu eu bod yn tarddu o ryw ffynhonnell gyffredin, a elwir X2 yn y stema. Ymddengys hefyd fod X2 wedi darllen hynaf yn llinell 16 oherwydd dyna a geir yn y llawysgrifau diweddarach i gyd, lle ceir haelaf yn LlGC 17114B a C 5.167 (ceir rhwyg yma yn Pen 127). Mae’r ffaith fod y llawysgrifau diweddarach hyn hefyd yn darllen gryfdwr yn llinell 45, fel y gwna C 5.167 (gthg. gryfder yn LlGC 17114B a Pen 127), o bosibl yn awgrymu bod y ffynhonnell gyffredin honno, X2, yn perthyn yn agos i C 5.167 yn arbennig. Ba (M) 5 yw’r llawysgrif hynaf o’r grŵp hwn, ond mae ambell fân ddarlleniad yn hon (a’r copi ohoni yn J 137) nas ceir yn y gweddill (e.e. 11 aeth kyfraith), felly nid yw’n debygol mai hon oedd ffynhonnell y gweddill.
Mae gweddill y llawysgrifau yn perthyn yn agos iawn i’w gilydd. Y ddwy hynaf yn eu plith yw llawysgrifau Wmffre Dafis, LlGC 3056D a Gwyn 1, y ddwy, fe dybir, yn gopïau o lawysgrif goll a elwir yn y stema yn X3 (yn y llawysgrif hon darllenwyd dofydd a gaiff yn llinell 59, ac yr oedd canol llinell 13 yn aneglur). Mae’r grŵp hwn o lawysgrifau yn dilyn darlleniadau Ba (M) 5 (gan amlaf) a thro arall ddarlleniadau C 5.167, ac felly cynigir bod eu ffynhonnell, X3, yn tarddu o X2.
Ymddengys mai Gwyn 1, ac nid LlGC 3056D, oedd ffynhonnell Llst 30, a bod Pen 152 yn gopi o Llst 30. Mae testun y llawysgrif ddiweddar BL 31092 yn llawn gwallau, ond mae’n perthyn i’r grŵp hwn (a gallwn awgrymu ei bod yn tarddu o X3, Gwyn 1 neu Llst 30).
Testun traddodiad X3 a geir gan GGl, gan nodi rhai amrywiadau yn C 5.167 ar waelod y testun. Nid ystyriwyd yno dystiolaeth Pen 127 a LlGC 17114B.
Teitl
Nid oes teitl i’r gerdd yn Pen 127 a Ba (M) 5; yn LlGC 17114B ceir [marwna]d Ed’ ap Dd’, a C 5.167 marwnad edwart ap dd’ ap edn’ gam.
Trawsysgrifiadau: Pen 127, LlGC 17114B a C 5.167.
4 i’r ddwy Faelawr Yn LlGC 17114B yn unig ceir y fannod (collwyd y darlleniad yn Pen 127 oherwydd rhwyg). Nid oes ystyriaethau cynghanedd, ac fe’i cynhwysir gan fod y cyfeiriad yn benodol. Ceir dau gyferiad arall at ddwy Faelor gan Guto, y naill gyda’r fannod (66.35) a’r llall hebddi (72.22); cf. GO XII.3 A’i foliant trwy’r ddwy Faelawr (am Siôn Pilstwn).
5 siomed Darlleniad LlGC 17114B a C 5.167, ac o bosibl Pen 127 (er bod diwedd y gair yn eisiau yno); somwyd neu siomwyd a geir yn y gweddill, cf. GGl. Mewn Cymraeg Canol y terfyniad -ed a geid yn arferol i ffurf amhersonol orffennol a’i bôn yn cynnwys o/oe, ond gydag amser disodlwyd -ed gan -wyd. O edrych ar waith Guto gwelir mai -ed yw’r terfyniad arferol ganddo ar gyfer berfau gydag -o- yn eu bôn, a dim ond lle mae angen -wyd ar gyfer yr odl y ceir y ffurf 86.41 molwyd.
7–8 Yn LlGC 17114B yn unig ceir y cwpled hwn. Fel y nodwyd uchod, ni chredir bod y cwpled wedi bod yn bresennol yn Pen 127 cyn rhwygo’r ddalen. O’i dderbyn yn y testun, felly, mae’n rhaid tybio iddo gael ei hepgor o Pen 127 a C 5.167 neu eu cynsail. A lithrodd llygaid rhyw gopïydd ymlaen at y cwpled nesaf sydd eto’n dechrau ag S-? Gan na lwyddwyd i leoli’r cwpled hwn yng ngwaith unrhyw fardd arall, a chan na welir unrhyw reswm dros ei wrthod yma, fe’i derbynnir. Nis ceir yng ngolygiad GGl.
13 Pwy sy’n ôl o’i rhôl yrhawg Un o’r ychydig linellau ansicr yn y gerdd hon. Dilynir darlleniad LlGC 17114B pwy sy yn ol oi rrol y rrawc (gydag ol wedi ei ychwanegu uwchben gan yr un llaw, yn fwy na thebyg); cf. C 5.167 sy’n cywasgu sy’n er mwyn hyd y llinell (ceir rhwyg yn Pen 127). Yr un eto yw darlleniad Ba (M) 5, ond gan ddarllen ai Rhol. Yr oedd y darlleniad yn aneglur yn ffynhonnell dau gopi Wmffre Dafis yn LlGC 3056D a Gwyn 1 (sef X3), gan iddo ddarllen pwy nol ai y rhawg (gan adael bwlch yn y canol); dilynir hyn gan Llst 30 a Pen 152 (ond bod llaw ddiweddar yno wedi ychwanegu rhëol yn y bwlch, darlleniad a fabwysiadwyd yn GGl Pwy’n ôl o’i rheol yrhawg, gan newid ai yn o’i yno).
16 haelaf Darlleniad LlGC 17114B a C 5.167 (ceir rhwyg yn Pen 127); hynaf yw darlleniad yr holl lawysgrifau eraill (a dyna a geir yn GGl). Derbynnir haelaf ar sail y stema. I bob pwrpas mae haelaf a hynaf yr un mor briodol â’i gilydd yma, a thybed a newidiwyd haelaf → hynaf yn X2 er mwyn ateb y gytsain ar ôl yr acen yn y brifodl acennog? Cf. CD 166–7 am y sain anghytbwys ddyrchafedig, ‘… [nid] oes angen yn y ffurf hon ateb y gytsain neu’r cytseiniaid a fo ar ol yr acen; ond mae’n gyfreithlon eu ateb, ac fe wneir hynny pan fo cyfleus.’
18 tra Ymddengys fod tre, y ffurf a geir yn LlGC 17114B, yn amrywiad cynnar ar tra yn rhai o dafodieithoedd y Gogledd, gw. GPC 3538 d.g. tra3, lle y dyfynnir enghreifftiau o waith Morris Kyffin, yr awdur a’r milwr o ardal Llansilin. Cf. pen, pe am pan.
19 yw Darlleniad LlGC 17114B; gthg. Pen 127, C 5.167 sy’n darllen yw’n (felly GGl), ac felly yn cael gwared ar yr n berfeddgoll yn ail hanner y llinell. Yn betrus cymerir ei bod hi’n debygol fod rhyw gopïydd wedi ‘cywiro’ y gynghanedd drwy ychwanegu’r rhagenw mewnol ’n.
22 lef Ceir treiglad meddal yma ym mhob llawysgrif, ac eithrio Pen 127, lle mae’r ffurf gysefin llef yn difetha’r gynghanedd.
22 ar nef Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio LlGC 17114B or nef. Gan fod ffurfiad a ac o yn debyg iawn yn nifer o lawiau’r unfed ganrif ar bymtheg, gall yn hawdd fod yma enghraifft o gamgopïo, ac er mai un llawysgrif yn unig sy’n cynnig or, dengys y stema fod rhaid rhoi ystyriaeth gyfartal i’r ddau ddarlleniad. O ddarllen o’r, gellid deall bod y nefoedd wedi bod yn galw ganwaith am i Edward ymuno â’r fintai yno, syniad y dychwelir ato yn llinellau 55 ymlaen lle honnir bod Duw wedi cymryd Edward i’r nefoedd i’w gynorthwyo ar Ddydd y Farn oherwydd ei arbenigedd ar y gyfraith. Fodd bynnag, mae’r ferf bresennol mae yn llinell 21 yn ddadl dros ddarllen Mae gennym yma … / Lef ar nef, a’r bardd yn honni bod sail ganddynt ym Mryncunallt i godi bloedd ar y nefoedd am ddwyn Edward oddi wrthynt.
24 debig Mae’r llawysgrifau’n unfryd ynglŷn â’r terfyniad -ig yma, er mai -yg sy’n darddiadol gywir. Cf. CD 247, ‘Seinir -yg ddiacen yn -ig drwy Gymru oll er y ddeuddegfed ganrif … ac nid yw’r -yg diweddar ond casgliad o’r tarddiadau tebygu…’.
25 pob Y ffurf gysefin a geir yn y llawysgrifau i gyd ac eithrio llawysgrifau sy’n dilyn Gwyn 1, lle ceir bob. Y ffurf dreigledig a geir hefyd yn GGl, a disgwylid treiglo gwrthrych berf orffennol yn diweddu yn -odd. Fodd bynnag, cedwir y ffurf gysefin oherwydd fod y prif lawysgrifau o’i phlaid. Ond gellid dadlau fod llygad copïydd y gynsail wedi llithro i’r llinell nesaf lle ceir pob eto.
27–8 Ceir y cwpled hwn yn y tair llawysgrif hynaf yn unig, ac anodd felly yw ei wrthod: gw. y stema. Fe’i hepgorwyd yn GGl, oherwydd seilio’r testun yno ar y llawysgrifau diweddarach. Mae’r cwpled yn unffurf yn y tair, ac eithrio’r ffurf tadws yn LlGC 17114B lle y ceir tadwys yn y ddwy arall. Ni nodir tadws yn amrywiad ar tadwys yn GPC 3410.
30 Cadw Ddoeth y tai ’n y coed oedd ef Darlleniad y ddwy lawysgrif hynaf, Pen 127 ac LlGC 17114B yw kadw ddoeth y tai yn y koed oedd ef, sydd, heb ei chywasgu, yn llinell naw sill. Ond ar lafar mae tai yn y coed yn cywasgu’n naturiol (‘tai ’n y coed’) ac mae’n ddigon posibl mai llinell wyth sill oedd hon yn wreiddiol (ond gyda’r posibilrwydd o gywasgu ymhellach → tai ’n coed, cf. enwau megis Tyn Coed, Tyn Cwm, &c.). Mae darlleniadau amrywiol yr holl lawysgrifau eraill yn dangos ymdrech i arbed sillafau, drwy hepgor y fannod neu drwy ddarllen tai coed (cf. GGl).
33 Doethaf yn ein gwlad weithian Derbynnir darlleniad LlGC 17114B doetha yn yngwlad weithian, gthg. Pen 127 doythaf in gwlad weithan, o ganlyniad i gredu, o bosibl, fod yn yn neu in in yn anghywir yn ei gynsail, a chofnodi llinell sy’n fyr o sillaf felly. Cywirwyd hynny gan C 5.167 drwy roi’r fannod o flaen yr ansoddair gradd eithaf: y doethaf in gwlad weithiann, darlleniad digon synhwyrol. Mae’r holl lawysgrifau diweddarach yn dilyn C 5.167, ond bod Ba (M) 5 yn rhoi’r cysylltair a yn lle’r fannod, ffordd arall o gywiro hyd y llinell. O ran darlleniad LlGC 17114B, ceir digonedd o enghreifftiau o’r cyfnod hwn o ddefnyddio’r radd eithaf heb y fannod, cf. 52.33–4 Cadarnaf a gwychaf gynt, / Carueiddiaf ceirw oeddynt.
36 Ar gyrff y Nawyr a gaf Darlleniad LlGC 17114B; gthg. Pen 127 ar cyrff y nawyr a kaf, C 5.167 ar kyrff y nawyr y kaf. Mae’r gweddill diweddarach yn darllen o’r cyff yn awyr y caf (neu amrywiad orgraffyddol ar hynny), a dyna a geir yn GGl. Ond nid oes amheuaeth nad LlGC 17114B sy’n cynnig y darlleniad gorau. Tybir mai cyff oedd darlleniad X2 (dyna hefyd oedd darlleniad C 5.167 cyn ychwanegu r). O ran y diffyg treiglad yn Pen 127 ar cyrff, o gymryd mai’r arddodiad yw’r gair cyntaf, ceir enghreifftiau pellach yno o beidio â dangos treiglad yn y llawysgrif hon, e.e. llinell 38 i pedwar (lle mae’r treiglad yn ofynnol ar gyfer y gynghanedd).
40 nid oedd fychan Cf. Pen 127 a LlGC 17114B; C 5.167 nid oedd fechann. Mae’r llawsygrifau diweddarach i gyd (y cyfan, fe dybir, yn tarddu yn y pen draw o C 5.167) yn darllen nid oedd fechan. Yn ôl Richards 1938: 13: ‘Y mae’r ansoddair yn y traethiad yn cytuno fel rheol mewn cenedl a rhif â’r goddrych’ (a daw’r enghreifftiau cynharaf a geir yno o’r Beibl). Mae GMW 36 yn nodi mai cytundeb sy’n arferol pan fo’r ansoddair yn lluosog. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, ymddengys fod y cytundeb cenedl yn gyffredin, ond ceir anghysondeb yn y dystiolaeth gynharach: ni cheir cytundeb yn y llinell enwog Llym awel llum brin. anhaut caffael clid, LlDC 30.1, ond ceir cytundeb yn GIG 24.53 Gwyn ei byd, gwen yw ei boch (‘I ferch’). Gan Guto’r Glyn ceir cytundeb yn 30.1 Tlos fu anrheg Taliesin (testun Pen 57, 45), ond gallwn dybio nad oedd cytundeb yn gyson yn ei gyfnod ef.
45 gryfder efô LlGC 17114B gyryfder vo lle mae’r llafariad epenthetig yn cynnal sillaf, a thalfyrrir y gair olaf i arbed sillaf. Mae’r llinell yn anghyflawn yn Pen 127 ond mae’r hyn y gellir ei weld, …der vo, yn awgrymu’r un darlleniad â LlGC 17114B. Gwelwyd eisoes fod ffurfiau llafar yn nodweddu’r ddwy lawysgrif hyn, a dichon mai gyryfder oedd yn y gynsail hefyd. Yn C 5.167 darllenwyd gryfdwr efô gan safoni’r darlleniad, o bosibl yn sgil sylweddoli nad oedd sillaf epenthetig i fod i gynnal sillaf. Mae’r holl lawysgrifau sy’n tarddu o X2 yn rhoi gryfdwr a dyna ddarlleniad GGl. Anodd esbonio’r newid gryfder → gryfdwr yn C 5.167 oni bai fod y copïydd efallai’n fwy cyfarwydd â’r ail (mae GPC 621 yn cydnabod y ddwy ffurf, ond hon yw’r unig enghraifft a nodir o cryfdwr cyn yr ail ganrif ar bymtheg).
51 i lywio Cf. LlGC 17114B a C 5.167 i lowio; a lowia a geir yn Pen 127. Rhydd y naill isgymal adferfol a’r llall isgymal perthynol, ac mae’n ddigon posibl fod dau fersiwn ar y cwpled yn cydredeg yn gynnar. Gyda’r darlleniad a fabwysiadwyd yma, cf. 43.66 Un Duw a’th ato i lywio’r wlad.
Sylwer bod y tair llawysgrif gynnar o’r gogledd-ddwyrain, Pen 127, LlGC 17114B a C 5.167 yn darllen low-, gan ddangos tuedd llafariaid blaen i droi yn o o flaen w mewn rhai tafodieithoedd, cf. bowyd, &c., a hefyd browdwr isod ll. 65 am brawdwr y llawysgrifau eraill.
52 pedwarGlath Cf. Pen 127 lle ceir pedwar gl[ ]th (ai u neu a yw?) a C 5.167 (gall fod yn a, ond mae’n dalach na’r cyffredin); gthg. LlGC 17114B pedwar glaif. Mae’r llawysgrifau diweddar i gyd yn dilyn Pen 127 a C 5.167 ac yn darllen pedwar glath a dderbynnir yn GGl2 Pedwar-Glath; ond anodd esbonio’r darlleniad glaif (sy’n digwydd mewn cysylltiadau ffigurol am arglwydd-filwr), oni bai efallai i gopïydd LlGC 17114B addasu’r darlleniad, efallai dan ddylanwad rhyw gerdd arall, megis disgrifiad Lewys Glyn Cothi o bedwar mab Phelpod ap Rhys (ceir y testun yn Pen 109, wedi ei gofnodi gan y bardd yn y 1470au), pedwar glaif Phelpod rhwng pedair gwlad, GLGC 145.32.
57 oes hawl Dilynir Pen 127 ac C 5.167 oes sawl ond gan gymryd bod y copïydd (X1 o bosibl) wedi camgofnodi’r hyn a glywodd, gan mai anodd iawn i’r glust fyddai gwahaniaethu rhwng oes hawl ag oes sawl. Gthg. LlGC 17114B aeth sawl, ffrwyth camgopïo, o bosibl, gan fod y llinell flaenorol yn dechrau ag aeth.
59 a gâr Dilynir Pen 127, LlGC 17114B a C 5.167; yn Ba (M) 5 ceir a gair, ac yn y gweddill darllenir a geiff / a gaiff, ac felly GGl. Gallwn dybio mai a gair oedd yn X2, ond gan nad oedd yn ystyrlon fe’i newidiwyd yn gaiff yn X3, ffynhonnell yr holl lawysgrifau eraill.
61 yn ychwaneg LlGC 17114B; yn Pen 127 a Ba (M) 5 ceir yno ychwanec sy’n hir o sillaf onis cywesgir yn yno chwaneg fel yn y gweddill. Darlleniad LlGC 17114B a rydd yr ystyr orau yma: hynny yw mae dyletswyddau’r nefoedd yn ychwaneg at ei waith yn y byd hwn.
Llyfryddiaeth
Richards, M. (1938) Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (Caerdydd)
Bu farw Edward ap Dafydd ar 25 Ebrill, 1445, yn ôl cofnod cyfoes yn llawysgrif Pen 26 (Phillips 1970–2: 76), felly gallwn ddyddio’r cywydd marwnad hwn heb fod yn rhy hir ar ôl dyddiad hwnnw. Er mai cerdd farwnad i Edward yw hon yn ffurfiol, ac er y mynegir ynddi’r tristwch arferol, mae hi hefyd yn gerdd gadarnhaol ei neges, oherwydd y moliant ynddi i bedwar mab Edward fel olynwyr teilwng i’w tad.
Ymranna’r gerdd yn daclus yn dair rhan. Marwolaeth Edward ap Dafydd sy’n cael y prif sylw yn y rhan gyntaf (llinellau 1–32). Awgrymir yng nghwpled agoriadol y gerdd fod Edward wedi dioddef salwch am gyfnod cyn ei farwolaeth, a bod hynny wedi achosi nosweithiau o ofidio i’r bardd. Ond yna daeth y newyddion am ei farwolaeth (6) ac yng ngweddill yr adran hon disgrifia’r bardd effaith y farwolaeth nid yn unig arno ef ei hun, ond hefyd ar yr ardaloedd hynny a ddeuai dan ddylanwad Edward – Waun Isaf (1) a’r Waun (17), y ddwy Faelor (4), Powys Fadog (14), heb sôn am alar ei dylwyth ym Mryncunallt lle mae rhai yn wylo môr hallt (20). Cyfeirir yn benodol at golled y byd cyfraith (Sofl yw gwŷr syfyl ac art, 10) gan alw Edward yn dad y ddwy gyfraith (28), a holir yn rhethregol pwy fydd bellach ar ôl i lywio’r wlad ac yntau wedi mynd. Cyfeirir hefyd yn benodol at ddysg ysgolheigaidd Edward, ei ddiddordeb mewn cystrawen a geirdarddiad (Gwreiddiodd pob ymadrodd mad, / Gwreiddyn pob gair a wyddiad, 25–6), ei ddisgrifio fel [l]lyfr ein iaith (22), a chan uniaethu ei ddoethineb ag eiddo Cadw Ddoeth (30). Tybed a dderbyniodd Edward beth o’i addysg yn abaty Glyn-y-groes cyn iddo fynd i brifysgol (?Rhydychen) a graddio yn y ddwy gyfraith? (Gw. 25–6n.) Yn anffodus mae’r gofrestr gynharaf o fyfyrwyr Prifysgol Rhydychen sydd wedi goroesi yn rhedeg o 4 Rhagfyr 1458 tan 19 Tachwedd 1463, ac felly’n rhy hwyr i gynnwys enw Edward ap Dafydd, Emden 1957–9: xvii. (Yn yr un modd 1454–88 yw dyddiad y rhestrau cynharaf o Gaer-grawnt, gw. Emden 1963: xiii.) Trewir nodyn cadarnhaol ar ddiwedd y rhan hon drwy ddatgan na ddylai neb wylo gan fod y nefoedd bellach gymaint ar ei hennill o dderbyn Edward (31–2).
Yn yr ail ran sonnir yn benodol am etifeddion Edward, ei bedwar mab, sydd rhyngddynt nid yn unig wedi etifeddu tair dawn arbennig yr hen Addaf a geid yn y Nawyr Teilwng, sef ei brydferthwch, ei ddoethineb a’i gryfder, ond hefyd ei ddysg (gwybodau). Robert a etifeddodd ei ddoethineb a’i ras (42), Siôn ei ddysg ysgolheigaidd (y synnwyr / A’r chwedlau o’r llyfrau’n llwyr, 43–4), Edward ei faint a’i gryfder (45), a Rhisiart ei liw a’i sut a’i lys wen (48). Cyfeirir at y pedwar fel sucutorion, gair o fyd ewyllysiau, y pedwar ohonynt bellach fel pedwar angel yn gwarchod nefoedd eu cartref ym Mryncunallt.
Yn rhan olaf y gerdd (55–66), dychwelir at Edward ap Dafydd gan awgrymu fod Duw wedi ei gipio o’r byd yn benodol ar gyfer cynorthwyo gyda’i ddyletswyddau barnwriaethol yn y nefoedd (Duw o’r byd i dorri barn / Aeth ag Edwart ddoeth gadarn, 55–6). Tra bod y meibion bellach yn cynnal tiriogaeth Edward (hendref hwn, 54) yn Swydd y Waun, mae Edward yn cynnal hwndrwd Duw yn y nefoedd, y llys barn dwyfol (62), cyn ei fod yntau yn gorfod sefyll ar far i gael ei farnu, gyda Mair Forwyn wrth ei ochr i’w gefnogi (63–4). Clöir y cywydd â dymuniad y bydd Edward yn derbyn mynediad rhwydd i’r nefoedd: A brawdwr rhag bwrw Edwart / Fo Duw nef: aed yn Ei wart!
Dyddiad
Rhwng 25 Ebrill, 1445, dyddiad marwolaeth Edward ap Dafydd, a 27 Hydref, 1452, dyddiad marwolaeth Robert Trefor (Phillips 1970–2: 74, 76).
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 51% (34 llinell), traws 29% (19 llinell), sain 14% (9 llinell), llusg 6% (4 llinell).
1 llew Ceid llew rampant Or ar arfbais Tudur Trefor, cyndaid pell y teulu, yn ôl llawysgrif yn llaw Gutun Owain a gopïwyd gan Robert Vaughan, Hengwrt yn yr ail ganrif ar bymtheg, a cheir y llew hwn yn arfbais nifer o ddisgynyddion Tudur Trefor, gw. DWH i: 199 a cf. Pen 127, 274 Arvav Tudur Trevor yw llew aur Ramppont ar maes o wyn a dv wedi ranv y ysgvar … Mae’n bosibl, felly, fod arwyddocâd herodrol i’r cyfeiriad at y llew yma, yn ogystal â’i fod yn drosiad cyffredin gan Guto am arglwydd dewr. Cf. hefyd y disgrifiad gan Ieuan Teiler o dri mab Siôn Trefor (ail fab Edward ap Dafydd) fel llew[o]d Trevor, Pen 127, 258.
1 [y] Waun Isaf Trefgordd yn Isclawdd, ar ffin orllewinol trefgordd Bryncunallt. Gelwid y Waun Isaf hefyd yn Waun a’r Faerdre mewn rhai ffynonellau, gw. WATU 221 a Pratt 1997: 36–7 (map, td. 28). Yn ôl Bachellery, GO 207, yr oedd iddo ystyr llai penodol weithiau, ‘Le nom d’Waun Issaf est aussi parfois employé pour désigner la ville même d’Y Waun (Chirk), par opposition au château.’
4 [y] ddwy Faelawr Sef cymydau Maelor Saesneg a Maelor Gymraeg, cf. dwywlad (29) a gw. WATU 148, 271.
5 ynys Ystyr gyffredinol megis ‘teyrnas, gwlad, talaith, bro, ardal’ sydd iddo yma, cf. GPC 3819.
6 ysgwïer Gw. GPC 3849, lle y rhoddir ymysg ei ystyron, ‘gwas marchog, swyddog i frenin, bonheddwr’, &c. Mae Guto yn aml yn ei ddefnyddio’n benodol am ŵr o statws, un radd o dan marchog, cf. 35.7 (am Harri Gruffudd).
9 Salw yw bod Sul heb Edwart Cynhelid marchnad y Waun ar ddydd Sul (gw. Bowen 1992: 140) – a welid colli Edward yn arbennig oherwydd ei allu i gadw cyfraith a threfn ar adegau prysur o’r fath? Ond cf. hefyd GO XXXVI.29–30 Gwyl wenn Vair, – gwae’r galon vav, – / A Duw Sul, – vod i eisiav! (marwnad Siôn Trefor, brawd Robert Trefor). Nodir gan Bachellery, ibid. 207, fod gŵyl Fair ar 8 Rhagfyr, sef deuddydd ar ôl marwolaeth Siôn, 6 Rhagfyr, 1493.
10 gwŷr syfyl ac art Am syfyl, sef y gyfraith sifil, gw. GPC 3274 d.g. sifil; cyfeiria art at ddysg, sef yn benodol y saith gelfyddyd freiniol a ddysgid yn ysgolion yr Oesoedd Canol, GPC2 480 d.g. art. Cf. 94.29–31 Dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd / A dysgu art ei dasg oedd, / A chwynnu sifil a chanon … (am Ddafydd Cyffin). Ar gwricwlwm y prifysgolion yn y cyfnod, gweler y drafodaeth ar addysg debygol Ieuan ap Rhydderch, GIRh 140–2, a’r awgrym mai ar ôl graddio yn y celfyddydau (art) y byddai myfyriwr yn mynd rhagddo i astudio’r gyfraith sifil a’r gyfraith ganon, a arweiniai at gymhwyster M.A. Disgrifir Edward ap Dafydd ymhellach yn llinell 28 fel [t]ad y ddwy gyfraith, a chyfeirir at ei ddysg gelfyddydol yn benodol wrth nodi ei arbenigedd mewn cystrawen a geirdarddiad, llinellau 25–6.
13 pwy sy’n ôl o’i rhôl Deellir yn ôl yn adferf, cyfystyr ag ar ôl, ‘left, remaining’, GPC 2640 d.g. yn ôl (xii). Posibilrwydd arall fyddai’r ystyr ‘wanting, lacking, deficient’, gw. ibid d.g. yn ôl (xi), lle gwelir enghraifft arall o roi’r hyn sydd ei eisiau o dan reolaeth yr arddodiad o, cf. YCM2 96 A’r iarll a vei yn ol o hynny ny riuit byth yn iarll wedy hynny: gellid aralleirio, ‘Pwy sydd ei eisiau o’i rhôl bellach?’ a’i ddeall yn gwestiwn rhethregol.
13 rhôl Nodir yn GPC 3056 y gall fod rhai enghreifftiau o rhôl yn amrywiad ar rheol, ond yma rhôl ‘sgrôl, … rhestr, cofrestr’ sydd fwyaf tebygol (gw. GPC 3093 d.g. rhol, rhôl, &c. (b)), a’r bardd yn holi’n rhethregol pwy sydd ar ôl bellach o ‘restr’ arweinwyr yr ardal.
15 piniwn Defnydd ffigurol o derm pensaernïol, o’r Hen Ffrangeg neu o’r Saesneg Canol pinoun, pinion ‘gable, ?pinacle’, gw. GPC 2807 d.g. piniwn2 lle rhoddir iddo’r ystyron ‘talcen (adeilad); pared, gwahanfur; pinagl’, cf. 30.14n [p]iniwn clêr.
18 tref ‘Trigfan’ neu ‘gartref’ yma, a’r bardd yn y cwpled yn dweud bod tario ’n y Waun fel bod gartref tra bod Edward yn fyw. Ceir yr un ystyr i tref mewn cwpled gan Ddafydd ap Gwilym yn disgrifio’r coed fel cartref ei gariad, DG.net 133.22 Tref f’eurddyn tra fu irddail (‘cartref fy ngeneth hardd tra bu dail gwyrddion’).
20 môr hallt Cyfuniad cyffredin gan Guto i ddisgrifio dagrau llifeiriol – cf. 9.71–2 Dagrau am UrddedigRys /Yw’r môr hallt os gwir marw Rhys, 89.25–6 Trostaw wylaw a welwn, / Tywallt môr hallt yw marw hwn; cf. GLGC 217.5–6 Arfon, Hywel ap Gronwy, / a ŵyl môr heli a mwy. Ceir yr union linell gan Maredudd ap Rhys mewn cywydd o hiraeth ar ôl Syr Rhys, GMRh 3.61.
22 llyfr ein iaith Mae’r trosiad hwn am Edward ap Dafydd yn ein hatgoffa o ddisgrifiad Dafydd ap Gwilym o’i ewythr, Llywelyn ap Gwilym, fel Llyfr dwned Dyfed, DG.net 5.1. ‘Awdurdod’ yw’r ystyr arferol llyfr mewn ymadroddion o’r fath, cf. 36.21–2 Fy nghariad, fy nghynghorwr, / Fy llyfr gynt, fy llaw fu’r gŵr (am Harri Ddu). Ond mae’n ddigon posibl mai cyfeirio at ddoniau ysgolheigaidd Edward a wna Guto yma.
23–4 Gildas … / Ab Caw Yn drosiadol am Edward ap Dafydd, y gŵr dysgedig. Gildas oedd y sant a’r ysgolhaig o’r chweched ganrif a gofir yn bennaf yn y traddodiad Cymraeg am ei ymosodiad deifiol ar feirdd llys Maelgwn Gwynedd am iddynt foli llofruddwyr o bob math yn hytrach na neilltuo’u dawn i foli Duw, Williams 1899: 76–83. Dyma unig gyfeiriad Guto’r Glyn ato, ond ceir mynych gyfeiriadau ato (yn aml gydag enw ei dad) ym marddoniaeth y bymthegfed ganrif fel delfryd o ŵr dysgedig; cf. Lewis Glyn Cothi, wrth farwnadu Phelpod ap Rhys, GLGC 144.13–16 … gwybu fab Rhys / gronigl gwŷr yr ynys. / A oedd un brawd ffydd iddaw? / Oes, be caid Gildas ap Caw. Ymhellach arno, gw. WCD 277–82; TYP3 400–1 et passim; a Sims-Williams 1984: 169–90. Gan mai ap a ddisgwylid o flaen cytsain, deellir ab yma’n ffurf ar fab.
25 gwreiddiodd Dilynir GPC 1704 a dehongli’r ferf yma’n anghyflawn, yn yr ystyr ‘olrhain … yn ôl i’w wraidd neu i’w darddiad, tarddu (gair, &c)’. Mae’r cwpled hwn yn cysylltu Edward ap Dafydd yn uniongyrchol â’r math o ddysg a ffynnai yn Abaty Glyn y Groes ychydig yn ddiweddarach ac a gysylltir yn benodol â Siôn Edward o’r Waun, a oedd yn perthyn o bell i Edward. Credir mai Siôn a ysgrifennodd LlGC 423D, llawysgrif sy’n cynnwys ‘Latin verses giving lists of verbs, glossed extensively in English; verse vocabulary of words for parts of the body, again for household words, treatise on orthography and grammar’, gw. Thomson 1979: 105–13 a Repertory ‘NLW 423D’. Awgryma Thomson ymhellach fod y ddysg hon gyda’i phwyslais ar ramadeg a chystrawen yn nodweddiadol o addysg prifysgol yn y cyfnod, ac i’w chysylltu’n arbennig â gŵr o’r enw John Leylond (m. 1428) o Brifysgol Rhydychen; gw. Thomson 1982: 77 a DNB Online s.n. Leylond, John. Gw. hefyd 10n a 28n, sy’n awgrymu’n gryf i Edward hefyd astudio’r gyfraith sifil a’r gyfraith ganon mewn prifysgol.
26 Gwreiddyn pob gair a wyddiad Adleisir y llinell hon yn ddiweddarach gan Gutun Owain yn ei farwnad i Robert fab Siôn Trefor, sef ŵyr Edward ap Dafydd, GO XXXVIII.27–8 Gwreiddyn pob gair …, / A’i dyviad, a wyddiad ef.
27 tadwys ‘Tad’ yw’r ystyr yma (cf. GGl 375), gyda grym hynafgwr a thad teulu, o bosibl; ceir llinell debyg iawn gan Gutun Owain am Syr Hywel ap Dai ab Ithel, GO LIX.29 Tadoc perchen tai ydwyd.
27 perchen tai Cf. GPC d.g. perchen tŷ ‘head of family, householder’. Cysylltir nifer o gartrefi â changen Edward ap Dafydd o’r teulu hwn, ond gall tai hefyd gyfeirio at un cartref ac iddo nifer o rannau neu ystafelloedd.
28 y ddwy gyfraith Sef y gyfraith sifil a’r gyfraith ganon; gw. 10n.
29 dwywlad Sef Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg, mae’n debyg, cf. 4n.
29 cyd-ddolef Fel y dengys ffurfiau orgraffyddol megis kyd tolef yn Pen 127, ceir calediad yma i ateb y calediad -d d- → t (caid dwywlad) ar ddechrau’r llinell. Am yr ynganiad ‘cytolef’ cf. llygatu (o llygad ddu).
30 Cadw Ddoeth Sef Cado Hen, Dionysius Cato, a ystyrid gan y beirdd yn ddelfryd o ddoethineb. Cf. GMD 4.36 [C]adw o synnwyr (am y gŵr dysgedig Hopgyn ap Tomas o Ynysforgan), a medd Gutun Owain am Elisau ap Gruffudd, GO XLII.39–42, Holl wybodav llv bedydd / Yn ddwys iawn ynddo y sydd: / O’i ymddiddan di anoeth / I cavt o ddysg fal Catw Ddoeth. Gw. ymhellach TYP3 297.
30 y tai ’n y coed Mae’r llinell yn rhy hir o sillaf, ond gw. y nodiadau testunol. Cyfeirir at leoliad cartref Edward ap Dafydd yn nhrefgordd goediog Bryncunallt, gyda choedwig y Parc Du yng ngogledd y drefgordd, a chyn-barc ceirw o oes y tywysogion yn y de: gw. Pratt 1997: 35, a’r map ar dudalen 28. Gw. Smith 1968–70: 153–66 am bwysigrwydd coedwigoedd yn Swydd y Waun yn yr Oesoedd Canol.
34 nid wyf wan Awgrym, efallai, mai dan nawdd etifeddion Bryncunallt y canodd Guto farwnad eu tad. Thema gyffredin yn y canu marwnad yw bod y golled yn achosi gwendid a diffyg nawdd i’r bardd ac i’r wlad yn gyffredinol (cf. 25.12 A marw’n iarll, mae Cymru’n wan, am farwolaeth Syr Rhosier Fychan), ond mae mab Edward (45), sef Robert mae’n debyg, yn sicrhau nad yw Guto yn dioddef.
35 hen Addaf Taid Edward ap Dafydd, ar ochr ei fam, oedd Adda Goch a’i daid yntau oedd Adda ab Awr, a gall mai un o’r cyndeidiau hynny a enwir yma. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol mai at Adda, tad y ddynoliaeth, y cyfeirir, yr un a gofir yn y Trioedd am ei gadernid (TYP3 rhif 47), ei harddwch (gw. TYP3 rhif 48) a’i ddoethineb (TYP3 rhif 49). Mae Gruffudd Llwyd, yntau, yn cyfeirio at bob un o’r rhinweddau hyn wrth ganu marwnad i’w noddwr ‘dysgedig, hardd, doeth a nerthol’, Rhydderch ab Ieuan: Campau Addaf gwplaf gynt, / Ar Rydderch oll yr oeddynt, GGLl 13.17–18 ac ymhellach ibid. 268. Dichon felly mai dyma’r rhinweddau a olygir yma. Gw. hefyd y nodyn canlynol.
35–6 Rhinweddau yr hen Addaf / Ar gyrff y Nawyr … Yn ôl y Trioedd derbyniodd y Nawyr Teilwng ddoniau Adda bob yn dri, gw. TYP3 rhifau 47, 48, 49 a’r nodyn blaenorol, felly rhaid oedd ychwanegu rhinwedd arall, sef [g]wybodau Adda (ll. 38). Am drafodaeth bellach ar y Nawyr Teilwng, gw. nodyn cefndir cerdd 75 (esboniadol).
37 hwn Sef yr hen Addaf.
40 Nid oedd fychan rhan yr un Am enghreifftiau pellach o’r gystrawen hon (nid oedd + traethiad (fychan) + goddrych (rhan)) lle mae cysefin y goddrych yn arferol, gw. TC 304. Atebir rh gan r yn y gynghanedd sain yma felly, ond nid yw hyn yn anarferol yng nghanu Guto.
41 cwfert Dyma’r unig enghraifft o’r gair hwn yng ngwaith Guto’r Glyn. Fe’i diffinnir yn GPC 637 fel eg. ‘gorchudd, caead; cysgod, lloches’ (o’r Saesneg Canol covert, gw. hefyd OED Online s.v. covert), ystyr sy’n eglur yn DG.net 57.22 Cwfert ar bob cwm ceufawr (am y niwl) a 58.50 Cwfert, o’r wybr y cyfyd (am y lleuad), yr unig ddwy enghraifft o’r gair o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Erbyn y bymthegfed ganrif fe’i ceir hefyd mewn cyswllt ffigurol am noddwr, gan amlaf yn yr ystyr ‘amddiffynnwr’, cf. DE LVIII.53 doed Rob[er]t gwferd y gad; TA III.17–18 Piau cof pwy yw cwfert / Pob gair, pan ddêl pawb i gwrt? (am yr abad Dafydd ab Owain). Dyna sut y’i dehonglir yma: ‘Robert amddiffynnwr’ (boed yn amddiffynnwr dysg, y gyfraith, neu’n gyfeiriad stoc at arglwydd fel amddiffynnwr cyffredinol). Fodd bynnag, awgrymir yn GGl 369 mai fel ansoddair ‘cuddiedig, “retiring” ’ y dylid ei ddeall yma, ond gan i Robert ddal nifer o swyddi cyhoeddus yn ystod ei yrfa (gw. Robert Trefor) anodd gweld sut byddai ei ddisgrifio’n felly’n ganmoliaeth.
43–4 y synnwyr / A’r chwedlau o’r llyfrau Ail fab Edward, Siôn Trefor, a etifeddodd ddiddordebau ysgolheigaidd ei dad, medd Guto. Cadarnheir natur ysgolheigaidd y mab hwn gan y ffaith y credir bellach mai Siôn a fu’n gyfrifol am gyfieithu ‘Buchedd Martin’ i’r Gymraeg; ceir copi o’r cyfieithiad yn LlGC 3026C [= Mostyn 88] yn llaw Gutun Owain, gw. Owen 2003: 351 a Jones 1945. (A oes cyfeiriad penodol yn y cwpled hwn at allu Siôn i ddeall synnwyr llyfrau, ac felly i’w trosi i’w iaith ei hun?) Wrth ganu ei farwnad, pwysleisiodd Gutun Owain eto safon ei ddysg, GO cerdd XXXVI. Yn ei dro, trosglwyddodd Siôn y diddordebau hyn i’w fab yntau, Robert Trefor o’r Hôb, a ddisgrifiwyd gan Gutun Owain fel Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd, GO XXXVIII.29–30.
47 ’yn Groeswen Yn betrus dilynir awgrym GGl 324 mai llw sydd yma, gydag yn Groeswen o myn y Groeswen; cf. GLGC 42.55 myn y Groeswen (td. 662 ‘y Groes Sanctaidd’). Cyffredin yw llwon o’r fath gan Guto, cf. myn y Grog (10.44, 30.55), ond ni chafwyd enghraifft arall o yn fel amrywiad ar myn mewn llwon (cf. GPC), ond yn hytrach ym, cf. GLM 40.13 ym Grog.
Ond mae posibilrwydd arall. Gwyddom fod Rhisiart Trefor wedi ymsefydlu yn y Drefwen (Whittington) ac iddo fod yn gwnstabl y castell yno. (Am ei hanes yn carcharu dau o feibion Ieuan Fychan o Bengwern yno, gw. nodyn cefndir cerdd 106 (esboniadol)). Tybed a ellid dehongli y Groeswen fel enw arall ar y Drefwen, neu tybed ai dyna oedd enw llys Rhisiart yn y dref honno, sef y [l]lys wen y cyfeirir ati yn y llinell ddilynol? Os felly, gellid deall yn Groeswen yn gywasgiad o yn y Groeswen. Ond heb dystiolaeth bellach dros y Groeswen fel enw lle neu lys yn y cyffiniau hyn, rhaid derbyn y dehongliad cyntaf.
49 teiroes Cf. GO VIII.57–8 Ywch y dêl … / … deiroes a mwy!, XLIX.54 Teiroes yt, Iorus Evttvn!
52 pedwarGlath Rhaid ei ynganu yn air cyfansawdd ar gyfer y gynghanedd. Glath oedd un o’r marchogion a ddaeth o hyd i’r Greal Sanctaidd; cyfeirir ymhellach ato gan Guto yn 28.18 (a gw. ibid.n.).
52 pedeirgwlad Ai cyfeirio a wneir yma at y pedair ardal neu diriogaeth yr ymsefydlodd y pedwar mab ynddynt?
53 Pedwar angel a welwn Cf. GLGC 145.27 Pedwar angel Duw i’n plith a welad (am feibion Phelpod ap Rhys). Yn ei foliant i feibion Edward, disgrifiodd Guto hwy fel Angylion haelion, 103.52, a gall fod y bardd yn adleisio hynny yma.
54 hendref hwn Sef Bryncunallt; dichon fod hwn yn cyfeirio at Edward ap Dafydd.
55 torri barn GPC 3532 ‘to pronounce judgement’; awgrymir yn y cwpled fod Duw wedi mynd ag Edward, a oedd yn arbenigwr ar y gyfraith, i’w gynorthwyo gyda gweithgareddau barnwriaethol yn y nefoedd.
57 Oes hawl o gyfraith y sir? Cwestiwn rhethregol, a’r bardd yn holi a oes sail neu achos ganddynt, o dan gyfraith y sir, i ddwyn achos neu gŵyn yn erbyn Duw am iddo gymryd Edward oddi arnynt.
58 A wna Duw, ni adewir Mae naws dihareb i’r llinell hon: cf. DG.net 48.23–4 Nid adwna ... / Duw a wnaeth, a’r nodyn yno lle ceir enghreifftiau eraill yn CLlH 26 Nyt atwna Duw ar a wnel, a chan Brydydd y Moch, GLlLl 13.22 Nyd adwna Duw a wnel. Ychydig yn wahanol yw ffurf Guto ar y ddihareb, a’r ergyd yw bod Duw yn cymryd yn ôl i’r nefoedd yr hyn a greodd: cf. y ddihareb ganlynol o Lyfr Coch Hergest, Duw a rannwys, Nef a gafas, DiarC 85.
62 hwndrwd Duw Ar hwndrwd ‘hundred court’, gw. GPC 1931. Dyma’r math o lys y byddai Edward ap Dafydd wedi gweithredu ynddo yn arglwyddiaeth y Waun; ond bellach mae’n cynorthwyo Duw yn hwndrwd Duw, sef y llys barn nefol. Gw. y nodyn canlynol.
63 ar far GPC 256 d.g. bar1 ‘in judgement, at the bar’. Yn amseryddol, mae dau gwpled olaf y gerdd yn rhagflaenu 59–62. Yn llinellau 63–6 cyfeiria’r bardd at y farn gyntaf, y farn bersonol sy’n dilyn yn union wedi marwolaeth. Yn y farn hon mae’r anghyfiawn yn cael eu bwrw yn syth i uffern, a’r seintiau yn mynd yn syth i’r nefoedd. Dyma luoedd ‘du’ a ‘gwyn’ yr hen feirdd. Mae’r gweddill ‘brith’, yn mynd i’r purdan, i’w puro fel eu bod, ar Ddydd y Farn, sef adeg y farn gyffredinol, yn ddigon glân i’w derbyn i’r nefoedd. Hydera Guto na fydd Duw yn bwrw Edwart yn y farn gyntaf, a’i fod felly, erbyn Dydd y Farn, yn sefyll gyda Duw yn ei gynorthwyo i farnu dros yr eneidiau (59–62).
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1992), ‘I Wiliam ap Siôn Edwart, Cwnstabl y Waun’, YB XVIII: 137–59
Emden, A.B. (1957–9), A Biographical Register of the University of Oxford (3 vols., Oxford)
Emden, A.B. (1963), A Biographical Register of the University of Cambridge to 1500 (Cambridge)
Jones, E.J. (1945) (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’ yn I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Sims-Williams, P. (1984), ‘Gildas and Vernacular Poetry’, M. Lapidge and D. Dumville (eds.), Gildas: New Approaches (Woodbridge), 169–90
Smith, Ll.B. (1968–70), ‘The Arundel Charters to the lordship of Chirk in the fourteenth century’, B xxiii: 153–66
Thomson, D. (1979), A Descriptive Catalogue of Middle English Grammatical Texts (New York & London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, H. (1899) (ed.), Gildae De Excidio Britanniae (London)
Edward ap Dafydd died on 25 April, 1445, according to a contemporary record in Pen 26 (Phillips 1970–2: 76), so we can be confident that this elegy was sung soon after that date. Although this poem is formally an elegy for Edward, with the usual sadness following the loss of a patron being expressed, it also has a very positive message, with its praise to Edward’s four sons who are their father’s worthy successors.
The poem divides into three parts. In the first (lines 1–32) Guto focuses on Edward ap Dafydd’s death and its consequences. There is a suggestion in the opening lines that Edward had been unwell for a period before his death, which had caused the poet many anxious nights. Then came the news of his death (6) and in the remainder of this section Guto describes its effect on himself and on the regions which came under Edward’s authority or influence – Lower Chirk (1), Chirk (17), the two Maelors (4), Powys Fadog (14), not forgetting the grief of his family in Bryncunallt where ‘some weep a sea of salty tears’ (20). The legal profession will specifically miss Edward who is described as the father of ‘the two branches of law’ (28), and Guto rhetorically asks who from now on will lead his land without him. He praises Edward’s scholarship and learning, and specifically his interest in syntax and etymology (‘He traced every good phrase to its origin, / he knew the derivation of every word’, 25–6); he describes him as ‘our language’s authority’ (22), and compares his wisdom to that of Cato the Wise (30). It is quite possible that Edward received part of his education in Valle Crucis before going to university (?Oxford) and graduating in the ‘two branches of law’ (see 25–6n). Unfortunately, the earliest register of students at Oxford University runs from 4 December 1458 to 19 November 1463, too late to include Edward ap Dafydd’s name, Emden 1957–9: xvii. (The earliest Cambridge register, covering the period 1454–88, is also too late, Emden 1963: xiii.) This section ends on a positive note as the poet claims that no one should weep after Edward because heaven has gained such a wise man (31–2).
In the second part, the poet turns his attention to Edward’s successors, his four sons who have inherited not only the three special qualities of ‘old Adam’ which were also bestowed on the Nine Worthies, namely his beauty, his wisdom and his strength, but also his learning (35–8). It was Robert who inherited his father’s ‘wisdom and gentleness’ (42), Siôn his scholarship (‘… the meaning / as well as the legends from the books’, 43–4), Edward his ‘physique and his strength’ (45), and to Rhisiart went ‘his complexion and his appearance and his whitewashed court’ (48). Guto refers to the four sons as ‘executors’ (49) and as ‘four angels’ who are now guarding the heaven of their ancestral home in Bryncunallt.
In the final section (55–66), Guto turns his attention back to Edward ap Dafydd, suggesting that God himself has removed him from this world in order to help him with his judicial duties in heaven (‘God took wise and steadfast Edward / from the world to pronounce judgement’, 55–6). Whilst his sons are guarding their father’s land, Edward himself is now officiating at ‘God’s hundred court’ (62), the divine court of heaven, before he himself will also have to stand ‘at the bar’ to be judged, with the Virgin Mary at his side giving him support (63–4). Guto’s final wish is that Edward will gain easy access to heaven: ‘and may God of heaven be the judge / so that Edward may not be cast down: may he go into His custody!’
Date
Between 25 April, 1445, the date of Edward ap Dafydd’s death, and 27 October, 1452, the date of Robert Trefor’s death (Phillips 1970–2: 74, 76).
The manuscripts
The poem occurs in 13 manuscripts, with only one couplet in Pen 221. All the versions are closely related, and we can be confident that they derive ultimately from the same written source. The three earliest and most important sources are Pen 127, LlGC 17114B and C 5.167: the three are from north-east Wales, are closely related to the Trefor family, and quite possibly derive ultimately from a lost copy of the poem written at Bryncunallt. Pen 127 and C 5.167 are especially close to each other. The rest of the manuscripts probably derive from C 5.167, through an intermediary manuscript, named X2 in the stemma. As all these later manuscripts are missing lines 27–8, and have hynaf in line 16 whereas the older group have haelaf, we can presume that these were features of X2. Wmffre Dafis’s two copies in LlGC 3056D and Gwyn 1 are closely related to X2, but as they share some common changes, they probably derive from X3, a lost derivative of X2. It is the texts which derive from X3 in the stemma that the editors of GGl used for their edition, noting some variations in C 5.167. The evidence of Pen 127 and LlGC 17114B was not taken into account for their edition.
Previous edition
GGl poem XVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 51% (34 lines), traws 29% (19 lines), sain 14% (9 lines), llusg 6% (4 lines).
1 llew According to a manuscript in Gutun Owain’s hand, copied by Robert Vaughan of Hengwrt in the seventeenth century, the arms of Tudur Trefor included a lion rampant Or, and this lion is seen on the arms of several branches of the Trefor family: see DWH i: 199 and cf. Pen 127, 274. Guto may well have chosen the metaphor carefully here to refer to the family’s arms as well as implying that Edward was a fierce and brave lord. Cf. also Ieuan Teiler’s description of the sons of Siôn Trefor (the second son of Edward ap Dafydd) as llew[o]d Trevor ‘lions of Trefor’, Pen 127, 258.
1 [y] Waun Isaf Lower Chirk, a township in Isclawdd on the western border of Bryncunallt township: see WATU 221 and Pratt 1997: 36–7 (map, p. 28). According to Bachellery, GO 207, the name could also have a less specific meaning, ‘Le nom, d’Waun Issaf est aussi parfois employé pour désigner la ville même d’Y Waun (Chirk), par opposition au château.’
4 [y] ddwy Faelawr The commotes of Maelor Saesneg a Maelor Gymraeg (Bromfield), cf. dwywlad ‘two lands’ (29) and see WATU 148, 271.
5 ynys Probably means ‘kingdom, realm, land, province, region’ here, cf. GPC 3819.
6 ysgwïer GPC 3849 ‘squire, esquire; squire, country gentleman, esp. the chief land-owner in a rural area’. Guto often uses it of a noble man, one rank below a knight, cf. 35.7 (of Henry Griffith).
9 Salw yw bod Sul heb Edwart Chirk market was held on a Sunday (Bowen 1992: 140) – was Edward missed on Sundays because of his ability to keep law and order on such days? But cf. also GO XXXVI.29–30 Gwyl wenn Vair, – gwae’r galon vav, – / A Duw Sul, – vod i eisiav! ‘On the feastday of saintly Mary / and on Sunday, woe to my heart that he is needed!’, elegy for Siôn Trefor, brother of Robert Trefor. Bachellery notes, ibid. 207, that Mary’s feastday was on 8 December, two days following Siôn’s death on 6 December, 1493.
10 gwŷr syfyl ac art For syfyl ‘civil law’, see GPC 3274 s.v. sifil; art refers to learning, and specifically the seven liberal arts which were taught in schools in the Middle Ages, GPC2 480 s.v. art. Cf. 94.29–31 Dysgu’r gyfraith a’r ieithoedd / A dysgu art ei dasg oedd, / A chwynnu sifil a chanon … (‘his task was to learn law and the languages / and to learn art, / and to sift civil and canon law’, of Dafydd Cyffin). On the university curriculum in the later medieval period, see the discussion of Ieuan ap Rhydderch’s education, GIRh 140–2, where it is noted that after graduating in the arts, the student would proceed to study civil and canon law, an M.A. course. In line 28 Edward ap Dafydd is further described as [t]ad y ddwy gyfraith ‘the father of the two branches of law’, and Guto refers specifically to his knowledge of the arts by praising his expertise in syntax and etymology, lines 25–6.
13 pwy sy’n ôl o’i rhôl For yn ôl ‘left, remaining’, see GPC 2640 s.v. yn ôl (xii). It could also mean ‘wanting, lacking, deficient’, see ibid. s.v. yn ôl (xi) – ‘Who is missing from her muster now? – a rhetorical question, the answer being obviously Edward.
13 rhôl As noted in GPC 3056 rhôl could be understood as a variation on rheol ‘rule’, but it’s more likely here to be rhôl ‘scroll, … chart; list, register’, &c., GPC 3093 s.v. rhol, rhôl, &c. (b). Guto is asking rhetorically who remains on the list of local leaders now that Edward has died.
15 piniwn A figurative use of an architectural term, from the Old French or Middle English pinoun, pinion ‘gable, ?pinacle’, see GPC 2807 s.v. piniwn2 ‘gable-end, pine-end; partition, dividing-wall; pinnacle; also fig.’, cf. 30.14 [p]iniwn clêr ‘pinnacle of poets’.
18 tref Its usual meaning is ‘town’, but it probably means ‘dwelling’ or ‘abode’ here, with Guto claiming in the couplet that lingering in Chirk was like being at home whilst Edward was alive. Dafydd ap Gwilym uses tref with the same meaning to describe the trees as his girlfriend’s home, DG.net 133.22 Tref f’eurddyn tra fu irddail ‘My darling’s leafy home while the leaves were green’.
20 môr hallt A combination used frequently by Guto to describe abundant tears – cf. 9.71–2 Dagrau am UrddedigRys /Yw’r môr hallt os gwir marw Rhys ‘Tears for ordained Rhys / are the salt sea if it is true that Rhys is dead’, 89.25–6 Trostaw wylaw a welwn, / Tywallt môr hallt yw marw hwn ‘I saw people weeping over him, / this man’s death is the pouring of a salty sea’; cf. GLGC 217.5–6 Arfon, Hywel ap Gronwy, / a ŵyl môr heli a mwy ‘Arfon, for Hywel ap Gronwy, / will weep a salty sea and more’.
22 llyfr ein iaith This description of Edward ap Dafydd reminds us of Dafydd ap Gwilym’s description of his uncle Llywelyn ap Gwilym, as Llyfr dwned Dyfed ‘the grammar book of Dyfed’, DG.net 5.1. Llyfr usually means ‘authority’ in such phrases, cf. 36.21–2 Fy nghariad, fy nghynghorwr, / Fy llyfr gynt, fy llaw fu’r gŵr ‘My dear friend, my counsellor, / my book this man once was, my hand’, of Henry Griffith. But it is quite possible that Guto is once again alluding to Edward’s scholarship here.
23–4 Gildas … / Ab Caw Used figuratively of Edward ap Dafydd, the scholar. Gildas, the sixth-century saint and scholar, is remembered chiefly for his scathing attack on the poets of Maelgwn Gwynedd’s court, because they praised murderers instead of using their talents to praise God, Williams 1899: 76–83. This is Guto’s only reference to him, but he is often named by other fifteenth-century poets as a paragon of learning; cf. Lewis Glyn Cothi, in his elegy for Phelpod ap Rhys, GLGC 144.13–16 … gwybu fab Rhys / gronigl gwŷr yr ynys. / A oedd un brawd ffydd iddaw? / Oes, be caid Gildas ap Caw ‘… the son of Rhys knew / the chronicle of the island’s men. / Was there anyone similar to him? / Yes, if Gildas ap Caw were to be had’, see WCD 277–82; TYP3 400–1 et passim; and Sims-Williams 1984: 169–90.
25 gwreiddiodd Gwreiddiodd is a transitive verb here meaning ‘he traced’. This couplet links Edward ap Dafydd directly with the kind of learning that flourished in Valle Crucis a few years later and which is connected with Siôn Edward of Chirk, a relative of Edward. Siôn is believed to have written LlGC 423D, a manuscript containing ‘Latin verses giving lists of verbs, glossed extensively in English; verse vocabulary of words for parts of the body, again for household words, treatise on orthography and grammar’, see Thomson 1979: 105–13 and Repertory ‘NLW 423D’. Thomson suggests that this type of education, with its emphasis on grammar and syntax, was typical of university education in the period, and was to be connected with John Leylond (d. 1428) of Oxford University; see Thomson 1982: 77 and DNB Online s.n. Leylond, John. See also 10n and 28n which suggests that he may have studied civil and canon law at university.
26 Gwreiddyn pob gair a wyddiad Gutun Owain later echoed this line in his elegy for Edward ap Dafydd’s grandson, Robert son of Siôn Trefor, GO XXXVIII.27–8 Gwreiddyn pob gair … / A’i dyviad, a wyddiad ef ‘He knew the root of every word … and its development’.
27 tadwys ‘Father’ or ‘patriarch’ (cf. GGl 375); Gutun Owain has a similar line describing Sir Hywel ap Dai, GO LIX.29 Tadoc perchen tai ydwyd ‘you are a father and head of a family’.
27 perchen tai Cf. GPC d.g. perchen tŷ ‘head of family, householder’. A number of houses are connected with Edward ap Dafydd’s family but the plural tai probably refers here to one home containing a number of buildings or rooms.
28 y ddwy gyfraith Civil and canon law, see 10n.
29 dwywlad Probably Maelor Gymraeg and Maelor Saesneg, cf. 4n.
30 Cadw Ddoeth Cato the Wise, Dionysius Cato, who the poets regarded as a paragon of wisdom. Cf. GMD 4.36 [C]adw o synnwyr ‘Cato as regards his wisdom’ (of Hopgyn ap Tomas, the scholar from Ynysforgan), and Gutun Owain claims of Elisau ap Gruffudd, GO XLII.39–42, Holl wybodav llv bedydd / Yn ddwys iawn ynddo y sydd: / O’i ymddiddan di anoeth / I cavt o ddysg fal Catw Ddoeth ‘All of Christendom’s knowledge / is densely found in him: / from his wise speech / you would find learning like that of Cato the Wise.’ See further TYP3 297.
30 y tai ’n y coed The line is too long, and the words have to be compressed. Edward ap Dafydd’s home, Bryncunallt, was located in the wooded township of the same name, with Black Park forest to the north of the township, and a former deer park from the period of the princes to the south: see Pratt 1997: 35, and the map, p. 28. See Smith 1968–70: 153–66 for the importance of woodland in Chirkland in the Middle Ages.
34 nid wyf wan A clear suggestion that it was under the patronage of the descendants in Bryncunallt that Guto sang their father’s elegy. The weakness and lack of patronage suffered by the poet and the land generally following the death of an important patron is a common theme in elegies (cf. 25.12 A marw’n iarll, mae Cymru’n wan ‘and the death of our earl, Wales is weak’, of Sir Roger Vaughan’s death). However Edward’s son (45), probably Robert, ensures that Guto does not suffer.
35 hen Addaf Edward ap Dafydd’s maternal grandfather was Adda Goch and his grandfather was Adda ab Awr, so Guto could here be referring to one of Edward’s forebears. However, it is more likely that he is referring to Adam, the father of the human race, who is remembered in the Triads for his strength (TYP3 number 47), his beauty (TYP3 number 48) and his wisdom (TYP3 number 49). Gruffudd Llwyd also refers to these virtues in his elegy for the ‘learned, beautiful, wise and strong’ Rhydderch ab Ieuan: Campau Addaf gwplaf gynt, / Ar Rydderch oll yr oeddynt ‘the former feats of most excellent Adam / were all to be found in Rhydderch’ (GGLl 13.17–18, and further ibid. 268). These are the ‘virtues’ to which Guto refers here: see the following note.
35–6 Rhinweddau yr hen Addaf / Ar gyrff y Nawyr … According to the Triads, the Nine Worthies received Adam’s virtues in groups of three, see TYP3 numbers 47, 48, 49 and the previous note; but Edward had four sons, and so Guto adds a fourth virtue, Adam’s ‘knowledge’ (wybodau, 38). For a further discussion on the Nine Worthies, see the introductory note to poem 75.
37 hwn I.e., Adam.
41 cwfert This is the only example of the word in Guto’r Glyn’s poetry; GPC 637 ‘covering, cover, lid; covert, shelter, hiding-place’ (from Middle English covert, see also OED Online s.v. covert), cf. DG.net 57.22 Cwfert ar bob cwm ceufawr (‘a lid on every gaping valley’, of fog) and 58.50 Cwfert, o’r wybr y cyfyd (‘a cover, it’s from the sky she rises’, of the moon), the only two examples of the word I found from the fourteenth century. By the fifteenth century it is often used figuratively of a patron, and ‘defender’ seems the most likely meaning, cf. DE LVIII.53 doed Rob[er]t gwferd y gad ‘Robert, the defender in battle’. That is how it is understood here: ‘Robert the defender’ (be that a defender of learning, of law and order, or more generally a description of a lord as defender of his people). In GGl 369 it is defined as an adjective ‘hidden’ or ‘retiring’, but it is difficult to know in what sense Robert could be described thus. As Robert held a number of important posts in the community, ‘retiring’ would hardly be complimentary (see Robert Trefor).
43–4 y synnwyr / A’r chwedlau o’r llyfrau Guto tells us that it was Edward’s second son, Siôn Trefor, who inherited his father’s scholarly interests. It is generally accepted that Siôn Trefor was responsible for translating the Life of St Martin into Welsh, of which there is a copy in LlGC 3026C [= Mostyn 88] in Gutun Owain’s hand, see Owen 2003: 351 and Jones 1945. (Can we understand this couplet as a reference to Siôn’s ability to understand the ‘meaning’ of books, and thus translate them into his own language?) When Gutun Owain sang his elegy for Siôn Trefor, he also emphasized his scholarship, GO poem XXXVI. Siôn seems to have transferred those interests to his son, Robert Trefor of Hope, who was described by Gutun Owain as Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd ‘He was a poet, a teller of stories / in our ancient language about our kings’, GO XXXVIII.29–30.
47 ’yn Groeswen Tentively I follow GGl 324 and understand it as an oath, ’yn Groeswen o myn y Groeswen; cf. GLGC 42.55 myn y Groeswen (and p. 662 where y Groeswen is explained as a reference to the Holy Cross). Oaths of this kind occur frequently in Guto’s poetry, cf. myn y Grog (10.44, 30.55), however I have been unable to find yn as a variant of myn in such phrases (cf. GPC), although ym is quite common, cf. GLM 40.13 ym Grog.
However there is another possibility. We know that Rhisiart Trefor had established himself in Whittington (y Drewen) where he was constable of the castle. (For his part in incarcerating the two sons of Ieuan Fychan of Pengwern in the castle, see poem 106). Could y Groeswen be a variant on y Drefwen, or perhaps y Groeswen was the name of Rhisiart’s court in Whittington, the [l]lys wen ‘whitewashed court’ to which Guto refers in the following line? If so, yn Groeswen could be a contraction of yn y Groeswen. But without further references to a court of Groeswen in the locality, it is safer to follow GGl.
49 teiroes Cf. GO VIII.57–8 Ywch y dêl … / … deiroes a mwy! ‘May you receive … three lifetimes and more!’, XLIX.54 Teiroes yt, Iorus Evttvn! ‘May you receive three lifetimes, Iorus Eutun!’
52 pedwarGlath Glath, or Galahad, was one of the knights who found the Holy Grail, and Guto refers to him again in 28.18 (see the note ibid.).
52 pedeirgwlad Is Guto referring here to the four regions where the four sons had established themselves?
53 Pedwar angel a welwn Cf. GLGC 145.27 Pedwar angel Duw i’n plith a welad ‘God’s four angels were seen amidst us’ (of Phelpod ap Rhys’s sons). In his praise poem to Edward, Guto described his sons as Angylion haelion ‘generous angels’, 103.52, and he may well be echoing that description here.
54 hendref hwn Bryncunallt; hwn refers to Edward ap Dafydd.
55 torri barn GPC 3532 ‘to pronounce judgement’; Guto is suggesting here that God removed Edward, who was an expert in the field of law, to help him with his judicial duties in heaven.
57 Oes hawl o gyfraith y sir? A rhetorical question, with the poet asking if there are any grounds, under local law, for a complaint or legal case against God for taking Edward away from them.
58 A wna Duw ni adewir Proverbial: cf. DG.net 48.23–4 Nid adwna ... / Duw a wnaeth ‘God … will not undo / what He has done’, and the note where attention is drawn to two lines of the same meaning in CLlH 26 (VI.30c) Nyt atwna Duw ar a wnel, and by Prydydd y Moch, GLlLl 13.22 Nyd adwna Duw a wnel. Guto’s proverb is slightly different, and its meaning is that God will take back to heaven that which he has created: cf. the following proverb from the Red Book of Hergest, Duw a rannwys, Nef a gafas (‘God shared, heaven received’, DiarC 85).
62 hwndrwd Duw For hwndrwd ‘hundred court’, see GPC 1931; this would have been the type of court in which Edward ap Dafydd would have officiated in the lordship of Chirk. However Edward is now assisting God in the heavenly hundred court. See the following note.
63 ar far GPC 256 d.g. bar1 ‘in judgement, at the bar’. Chronologically the final two couplets of the poem (63–6) precede lines 59–62. In 63–6 Guto is referring to the first judgement, the personal judgement which follows death. At this point the unjust will be sent straight to hell and the saints will proceed straight to heaven. The remainder, the ‘grey’ crowd, will go to purgatory to be cleansed of their sins so that they can be received in heaven on Judgement Day, the general judgement. Guto hopes that God will not cast down Edward (bwrw Edwart) in the first judgement, and that he will, therefore, by Judgement Day be standing next to God assisting him to judge souls (59–62).
Bibliography
Bowen, D.J. (1992), ‘I Wiliam ap Siôn Edwart, Cwnstabl y Waun’, YB XVIII: 137–59
Emden, A.B. (1957–9), A Biographical Register of the University of Oxford (3 vols., Oxford)
Emden, A.B. (1963), A Biographical Register of the University of Cambridge to 1500 (Cambridge)
Jones, E.J. (1945) (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’ yn I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Sims-Williams, P. (1984), ‘Gildas and Vernacular Poetry’, M. Lapidge and D. Dumville (eds.), Gildas: New Approaches (Woodbridge), 169–90
Smith, Ll.B. (1968–70), ‘The Arundel Charters to the lordship of Chirk in the fourteenth century’, B xxiii: 153–66
Thomson, D. (1979), A Descriptive Catalogue of Middle English Grammatical Texts (New York & London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Williams, H. (1899) (ed.), Gildae De Excidio Britanniae (London)
Cadwyd dwy gerdd gan Guto sy’n ymwneud ag Edward ap Dafydd, penteulu Bryncunallt yn y Waun: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104). Ni cheir cerddi eraill i Edward. Canodd Guto gywydd marwnad i fab hynaf Edward, Robert Trefor (cerdd 105), ac yn ddiweddarach yn ei yrfa tystia iddo dderbyn nawdd gan Siôn Trefor, ail fab Edward, ond ni chadwyd y cerddi. Perthyn ei gerddi sydd wedi goroesi i deulu Bryncunallt i’r cyfnod rhwng y 1440au cynnar a 1452. Ymhellach ar feibion Edward, gw. isod.
Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, 14, ‘Marchudd’ 6, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C1; HPF iv, 16. Nodir y rhai a enwir (neu y cyfeirir atynt yn achos Owain Glyndŵr) yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Priododd y ddau frawd Iorwerth Ddu a Dafydd, meibion Ednyfed Gam, â dwy chwaer, Angharad a Gwenhwyfar, merched Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr, gan ddod â dwy gangen o linach Tudur Trefor ynghyd. Mae’r ddisgynyddiaeth hon o Awr yn un a grybwyllir yn aml gan Guto yng nghyswllt y canu i’r teulu, o bosibl oherwydd y cyswllt tybiedig rhwng Awr a Threfor ger Llangollen, un o gadarnleoedd y teulu yn Nanheudwy (gw. 103.22n). Mab i Lywelyn, brawd Adda Goch, oedd Siôn Trefor a fu’n esgob Llanelwy 1346–57; mab i Angharad ferch Adda Goch (gwraig Iorwerth Ddu) oedd yr ail Siôn Trefor a ddaliodd yr un swydd yn 1394–1410. (Gw. Jones 1965: 38; Jones 1968: 36–46; am ganu Iolo Goch i un neu’r ddau ohonynt, gw. GIG 275–6.) Roedd yr ail Esgob Siôn Trefor hwn, felly, yn frawd i Fyfanwy y canodd Hywel ab Einion Lygliw awdl serch iddi cyn iddi briodi Goronwy Fychan o Benmynydd.
Drwy briodi Angharad ferch Robert Pilstwn, sicrhaodd Edward ap Dafydd berthynas agos â dau arall o brif deuluoedd yr ardal, sef teulu’r Pilstyniaid ar y naill law, gyda’u prif gartref yn Emral ger Wrecsam (gw. ymhellach Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern a Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral), a theulu Owain Glyndŵr ar y llall, hen deulu Cymraeg a allai olrhain ei linach yn ôl i dywysogion Powys a Gwynedd. Mae Guto yn ofalus i atgoffa’i gynulleidfa o’r cysylltiadau hyn (e.e. 103.23–6).
Mae’n ddigon posibl na fu Edward ei hun yn noddwr barddoniaeth, ac mai drwy ei wraig, Angharad ferch Robert Pilstwn, y daeth beirdd i ymweld ag aelwyd Bryncunallt. Ond yn sicr bu o leiaf ddau o’i feibion, Robert Trefor a Siôn Trefor, yn noddwyr beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn a Gutun Owain (gw. isod).
Ei ddyddiadau
Gallwn fod yn weddol hyderus am ddyddiad marw Edward. Yn Pen 26, 97–8, ceir dalen strae yn cynnwys nodiadau cyfoes mewn gwahanol lawiau yn dyddio rhwng 1439 a 1461 sy’n ymwneud ag ardal Croesoswallt. Cyfeiria’r cofnodion yn benodol at aelodau o deulu Trefor o Fryncunallt, ac awgryma hyn mai aelodau o’r teulu hwnnw a fu’n cofnodi. Nodir yno i Edward farw ar 25 Ebrill 1445: Obitus Edwardi ap Dafydd in festo Marci evengeliste anno domini MCCCXLV (gw. Phillips 1970–2: 76). Mae’r cyfeiriad cynharaf ato mewn dogfen wedi ei dyddio 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629), a gallwn dybio iddo gael ei eni o leiaf 15–20 mlynedd cyn hynny. Roedd yn ei saithdegau o leiaf, felly, yn y 1440au pan ganodd Guto iddo a’i bedwar mab (cerdd 103), ac er ei alw’n benadur y teulu (103.59), mae’n amlwg mai ei fab hynaf, Robert Trefor, oedd pennaeth effeithiol y teulu erbyn hynny. Yn ei farwnad (cerdd 104), er mynegi tristwch mawr yr ardal o golli’r fath arweinydd dysgedig ac effeithiol, cadarnhaol yw’r neges, a’r ffocws ar y dyfodol diogel yn nwylo’r meibion. Gallwn dybio nad oedd ei farwolaeth yn annisgwyl.
Tiriogaeth
Fel y gwelir o’r achres uchod, roedd Dafydd, tad Edward, yn fab i Ednyfed Gam o Bengwern, sef penteulu un o brif deuluoedd Nanheudwy, ac un a ddatblygodd yn fawr mewn awdurdod a grym yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy berchnogi tir: ‘By the fourteenth century the family of Ednyfed Gam, described in the genealogies as “of llys Pengwern in Nanheudwy”, already stood out as substantial members of the lordship’s free community’ (Smith 1987: 177). Erbyn diwedd y ganrif roedd tiroedd helaeth ganddynt yn Nanheudwy, yn enwedig yn ardaloedd y Waun, Trefor a Llangollen.
Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391/2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion. Iorwerth Ddu, y mab hynaf, a oedd wedi etifeddu cartref hanesyddol y teulu ym Mhengwern, Llangollen, ac roedd hefyd yn gyd-berchennog gyda’i frawd Ieuan ar bedwar gafael ac un castell (term am fesur o dir) yn nhrefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 58–9). Dengys yr arolwg ymhellach fod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar un gafael a hanner yn nhrefgordd Bryncunallt ac ar felin o’r enw Grostith yn yr un drefgordd (ibid. 9). Ymddengys hefyd fod Dafydd yn berchen ar y Plas Teg yn yr Hôb, lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol (Glenn 1925: 23).
Dysg a gyrfa
Mae’n amlwg o foliant Guto iddo fod Edward yn ŵr tra dysgedig, ac mae’r cyfeiriad penodol at ei arbenigedd ym maes y ddwy gyfraith (sifil ac eglwysig) a’r celfyddydau yn awgrymu addysg prifysgol, er nad oes unrhyw dystiolaeth allanol i ategu hynny (gw. yn arbennig 104.9–10, 21–32). Mae’n ddigon tebygol fod Edward wedi derbyn rhywfaint o’i addysg yn abaty Glyn-y-groes (sef y math o addysg a ddisgrifir yn Thomson 1982: 76–80) neu o bosibl yn ysgol Croesoswallt, a fu’n ffynnu ers blynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif (Griffiths 1953: 64–6 et passim). Gwyddom fod gan ganghennau Pengwern a Threfor o’r teulu gysylltiadau cryf â’r abaty, oherwydd claddwyd yno sawl aelod ohonynt, gan gynnwys Robert Trefor ab Edward (m. 1452), ac mae’n debygol hefyd mai yno y claddwyd Edward ei hun (gw. CTC 362, ond ni roddir ffynhonnell yr wybodaeth honno).
Nid oes tystiolaeth uniongyrchol wedi goroesi i rôl Edward yng nghyfraith a gweinyddiaeth y Waun, ac eithrio awgrym cryf Guto i’r perwyl hwnnw (cerdd 104). Ond mae’r ffaith fod ei enw’n ymddangos yn achlysurol mewn dogfennau’n ymwneud â throsglwyddo tir yn yr ardal yn dyst i’w statws yn y gymdeithas: e.e. fe’i henwir mewn dogfen a luniwyd yn y Waun ar 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629); roedd yn dyst i ddogfen yn cofnodi trosglwyddo tir a luniwyd yn Nhrefor ar 15 Mai 1391 (Jones 1933: 93); roedd yn dyst i ddogfen gyffelyb yn Nhrefor Isaf ar 29 Medi 1411 (LlGC Bettisfield 977); ac enwir ef a’i fab Robert yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy yn 1441 (LlGC Puleston 935). Mae’n bosibl hefyd mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i ddogfen ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall mai ei fab oedd hwnnw. Fel sawl aelod o’r teulu hwn, cymerodd Edward hefyd ran yng ngwrthryfel a bu’n rhaid iddo fforffedu nifer o’i ddaliadau i’r arglwydd; fodd bynnag adferwyd trefn erbyn 1407, ac ar ôl iddo dalu dirwy o ugain punt adferwyd ei diroedd iddo (Carr 1976: 27).
Robert Trefor ab Edward, fl. c.1429–m. 1452
Mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd. Arno, gw. Robert Trefor.
Siôn Trefor ab Edward, fl. c.1440–m. 1493
Siôn Trefor (neu Siôn Trefor Hen, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a nifer o’i ddisgynyddion â’r un enw) oedd ail fab Edward ap Dafydd, ac ef a ddaeth yn benteulu Bryncunallt ar farwolaeth ei frawd hŷn, Robert Trefor, yn 1452. Fe’i henwir yn y tair cerdd a gadwyd gan Guto i’r teulu hwn (cerddi 103–5), ac mae’n ddigon posibl mai dan ei nawdd ef y canodd Guto ei farwnad i Robert Trefor (cerdd 105). Er na chadwyd unrhyw gerddi gan Guto i Siôn ar ôl 1452, mae’n bosibl iddo fod yn noddwr iddo ar hyd ei yrfa. Tystia Guto ar fwy nag un achlysur yn y 1480au mai Siôn Trefor, a drigai ym Mhentrecynfrig erbyn hynny, oedd un o’i brif noddwyr (gw. 108.20, 117.56). Anodd credu na fyddai Guto wedi canu cerdd farwnad i Annes, gwraig Siôn, yn 1483, a dichon fod y gerdd honno, fel y gweddill o’i ganu ar yr aelwyd hon, wedi ei cholli. Canodd Gutun Owain i Siôn Trefor ac Annes ym Mhentrecynfrig, ac i’w meibion hefyd; felly hefyd Lewys Môn, Tudur Aled ac Ieuan Teiler. Cadwyd y cerddi canlynol iddynt: ‘Marwnad Annes Trefor o Bentrecynfrig’ gan Gutun Owain, 1483, GO XXXV; ‘Cywydd marwnad Siôn Trefor’, 1493 gan Gutun Owain, GO XXXVI; ‘Cywydd y tri brodyr, meibion Trefor’ (Otwel, Robert (Rhapat) ac Edward) gan Gutun Owain, cyn 1487, GO XXXVII; ‘Marwnad Robert Trefor o’r Hôb’ gan Gutun Owain, 1487, GO XXXVIII; ‘Moliant Edwart Trefor Fychan’ gan Lewys Môn, GLM LXXV; ‘Cywydd i Edwart Trefor’ gan Dudur Aled, TA LI; ‘Cywydd i Rhosier, Rhisiart ac Edward, meibion Siôn Trefor’ gan Ieuan Teiler, ar ôl 1487, Pen 127, 257. Mydryddir dyddiad marw Siôn Trefor, 1493, yng nghywydd marwnad Gutun Owain (GO XXXVI.23–30), sef dydd Gwener, 6 Rhagfyr 1493, a nodir mai ar y dydd Sul canlynol y claddwyd ef. Cadarnheir y dyddiad marw mewn cofnod yn Pen 127, 15: Oed Crist pann vv varw John trevor ap Edwart ap dd 1493 duw gwner (sic) y vied dydd o vis Racvyr. Bu farw Annes, gwraig Siôn, ddeng mlynedd ynghynt yn 1483 (GO 202). Bu iddynt bum mab, fel y gwelir o’r achres isod, a bu farw Otwel yn ifanc a bu Robert Trefor farw yn 1487. Enwir pedwar mab – Robert, Siôn, Edward a Rhisiart Trefor – fel bwrdeisiaid yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12), awgrym efallai fod Otwel wedi marw cyn Robert. Yn ei farwnad i Siôn Trefor yn 1493, enwodd Gutun Owain dri mab – Enwoc Edwart, … / Rroeser a ddwc aur rrossynn, / Rrissiart … (GO XXXVI.49, 51–2) – ac roedd wyrion hefyd (ibid. 53 Y mae ŵyrion i’m eryr). Gan nad yw Ieuan Teiler yn enwi Otwel na Robert Trefor yn ei gywydd ef, efallai i’r gerdd honno gael ei chanu ar ôl marwolaeth Robert yn 1487. Priododd Edward, a elwir weithiau’n Edward Trefor Fychan, ag Ann ferch Sieffrai Cyffin, a mab iddynt hwy oedd Siôn Trefor Wigynt y canodd Huw Llwyd iddo’n ddiweddarach (GHD cerddi 25, 26).
Achres
Mae’r achres hon yn seiliedig ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 14 a WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C2. Tanlinellir enwau’r noddwyr a nodir â theip trwm y rhai a enwir yng ngherddi 103–5.
Yn ôl yr achau roedd dau o feibion Siôn Trefor, Rhisiart a Rhosier, yn efeilliaid. Roedd hefyd ddwy chwaer, sef Elen a Chatrin, nas henwir yn yr un o’r cerddi.
Ei gartref
 Bryncunallt yn y Waun y cysylltir Siôn Trefor yn y cerddi a ganodd Guto rhwng c.1440 a 1452 (cerddi 103–5), ond ymddengys mai ym Mhentrecynfrig yr oedd ei brif gartref erbyn y 1480au, sef trefgordd rhwng Weston Rhyn a Llanfarthin, tua 2km i’r de o’r Waun, bellach yn swydd Amwythig. Pan ganodd Gutun Owain ei farwnad i Annes, cyfeiriodd yn benodol at alar Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric (GO XXXV.5–6). Ac wrth farwnadu Siôn Trefor ei hun ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er ei gysylltu hefyd â’r Waun Isaf, Bryncunallt a Chroesoswallt, ym Mhentrecynfrig yr oedd y galar ar ei lymaf: Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn (GO XXXVI.31–4).
Dysg a gyrfa
Yn ei farwnad i Edward ap Dafydd, rhestra Guto’r nodweddion yn y tad a etifeddwyd gan ei feibion. Siôn Trefor, medd, a etifeddodd ddiddordebau ysgolheigaidd Edward. Ceir rhywfaint o gadarnhad allanol hefyd i hynny, oherwydd credir bellach mai Siôn a fu’n gyfrifol am gyfieithu ‘Buchedd Martin’ i’r Gymraeg (nawddsant Llanfarthin, ger Pentrecynfrig), a cheir copi o’r cyfieithiad hwnnw yn llaw Gutun Owain yn LlGC 3026C (gw. Owen 2003: 351; Jones 1945; a hefyd 104.43–4). Wrth ganu marwnad Siôn, pwysleisiodd Gutun Owain safon dysg yr athro mawr (GO XXXVI.6 et passim). Yn ei dro, trosglwyddodd Siôn y diddordebau hyn i’w fab yntau, Robert Trefor o’r Hôb, a ddisgrifiwyd gan Gutun Owain fel Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd (GO XXXVIII.29–30).
Ymddengys enw Siôn Trefor yn aml mewn dogfennau cyfoes, ond os yw’r enw yn digwydd heb enw’r tad, anodd bod yn gwbl sicr mai ato ef y cyfeirir, yn hytrach nag at un o sawl perthynas o’r un enw. Fe’i henwir ynghyd â phum gŵr a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51), fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun i dderbyn comisiwn, 7 Gorffennaf 1461 (CPR 1461–7, 37). Ar 21 Medi 1474, cyfeirir ato fel rysyfwr yn swydd y Waun ac fel tyst i weithred yn trosglwyddo tir i Siôn Edward (LlGC Castell y Waun 1077); ac eto ar 3 Chwefror 1488 (ond nid fel rysyfwr y tro hwn) (LlGC Castell y Waun 9885).
Edward ab Edward, fl. ?1427– c. ?1475
Gallwn gasglu mai Edward oedd trydydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar yng ngherddi 103, 104 ac yn yr achau. Nodir yn yr achau hefyd iddo briodi’r Arglwyddes Tiptoft ac na fu iddynt blant. Yn ôl Guto, Edward a etifeddodd gryfder corfforol ei dad: Ei faint a’i gryfder efô / Mewn Edwart mae’n eu ado (104.45–6). Ni chafwyd cyfeiriad arall ato yn y farddoniaeth, ond fe’i henwir gyda’i frodyr Robert, Siôn a Rhisiart Trefor fel bwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Mae’n bosibl mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i weithred ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall hefyd mai ei dad oedd hwnnw.
Rhisiart ap Edward, fl. c.1440–68
Gallwn gasglu mai Rhisiart oedd pedwerydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar mab yng ngherddi Guto (gw. uchod ar Edward ab Edward). Fe’i henwir yntau’n fwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif ynghyd â’i frodyr Robert, Siôn ac Edward (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Ymddengys mai Rhisiart a etifeddodd bryd a gwedd ei dad: Ac i Risiart, ’yn Groeswen, / Ei liw a’i sut a’i lys wen (104.47–8). Ar sail y cwpled hwn, awgrymwyd y gall fod Rhisiart Trefor wedi etifeddu llys yn y Dre-wen (Whittington) (cf. Carr 1976: 49n178 a 104.47n). Cofnodir iddo fod yn gwnstabl ar gastell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878).
Ceir yn y llawysgrifau ddwy gerdd, y naill wedi ei phriodoli i Rys Goch Glyndyfrdwy a’r llall i Ruffudd Nannau, sy’n sôn am garchariad Ithel a Rhys, meibion Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, gan Risiart Trefor. Ceir yr esboniad hwn yn Pen 177, 199: Ithel a Rys meib I. Vychan ap Ieuan a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIed dydd or gayaf ac a vvant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 (sef o 12 Tachwedd 1456 hyd 28 Gorffennaf 1457). Ni allwn fod yn sicr o’r amgylchiadau, ond cynigia Carr (1976: 39–40; cf. Charles 1966–8: 78) mai oherwydd eu cefnogaeth i’w cyfyrder, Siasbar Tudur, a phlaid Lancastr y’u carcharwyd gan Risiart, a gefnogai blaid Iorc. Yn ei gerdd, mae Rhys Goch Glyndyfrdwy yn annog y lleuad i chwilio am y brodyr yng nghestyll Lloegr, gan ofyn i Dduw eu dychwelyd yn ddiogel o’r Dre-wen (dyfynnir o destun LlGC 8497B, 190v–191v, gan briflythrennu ac atalnodi):Ysbied, chwilied yn chwyrn
Gestyll Lloegr, gorffwyll gyrn,
Am frodvr o Dvdvr daid,
Ithel a Rhys benaythiaid
Y sydd yn yr ynys hon
Yryrod, garcharorion …
Duv a ddwg i’n diddigiaw
Dav vn ben o’r Drewen draw.Byddai’n braf gwybod beth oedd safbwynt Guto’r Glyn ar yr helynt hwn. Tybed ai gyda theulu Pengwern y bu ei gydymdeimlad? Ai dyna paham na cheir rhagor o gerddi i deulu Bryncunallt ym mlynyddoedd canol ei yrfa? (Gw. ymhellach nodyn cefndir cerdd 106 a 48.38n, Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, ac ymhellach ar gerddi Rhys Goch Glyndyfrdwy a Gruffudd Nannau, gw. Bowen 1953–4: 119–20).
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1953–4), ‘Carcharu Ithel a Rhys ab Ieuan Fychan’, Cylchg LlGC viii: 119–20
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Griffiths, G.M. (1953), ‘Educational Activity in the Diocese of St. Asaph, 1500–1650’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, III: 64–77
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Jones, E.J. (gol.) (1945), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Jones, E.J. (1968), ‘Bishop John Trevor (II) of St. Asaph’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, XVIII: 36–46
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, Cylchg HSDd 26: 153–5
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3: 76–80
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt
Robert Trefor oedd mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Cerddi Guto yw’r unig rai sydd wedi goroesi iddo: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104); ‘Marwnad Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt’ (cerdd 105). Er nad cerddi penodol i Robert yw’r ddwy gyntaf, maent yn cynnwys elfen gref o fawl iddo ef yn ogystal â’i dad, Edward, a’i dri brawd: Siôn, Edward a Rhisiart. Ymhellach arnynt, gw. y nodyn ar Edward ap Dafydd a’i deulu.
Achres
Seiliwyd yr achres ganlynol ar wybodaeth yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14B; HPF iv: 16. Nodir y rhai a enwir yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Achres Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt
O edrych ar batrwm enwi’r teulu, gwelir eu bod yn tueddu i ddilyn yr arfer draddodiadol o enwi’r mab hynaf ar ôl y tad neu’r taid, a dichon fod Robert wedi ei enwi ar ôl Robert Pilstwn, ei daid ar ochr ei fam.
Priododd Robert ag Elsbeth ferch Gwilym o’r Penrhyn, sef chwaer i noddwr Guto, Wiliam Fychan ap Gwilym (105.47 [m]erch Wilym). Ei hail briodas oedd hon, a’i gŵr cyntaf oedd un o frodyr yr Iarll Grey, Rhuthun. Ni chafodd Robert a hithau blant, ond yr oedd gan Robert eisoes fab anghyfreithlon, Wiliam Trefor, a fu, yn ôl Robert Vaughan (Pen 287, 55), yn Siaplen i Sion ap Richard abad llanegwystl p’decessor i esgob Dauydd ap Ien ap Ieth ap Jenn Baladr.
Dyddiadau
Ar ddalen strae yn Pen 26, 97–8, ceir cofnod cyfoes yn nodi i Robert Trefor farw ar 27 Hydref 1452: Obitus Roberti Trevor vigilia apostolorum Symonis et Jude anno domini MCCCCLII (gw. Phillips 1970–2: 74). Cadarnheir y dyddiad gan Robert Vaughan yn Pen 287, 55. (Ni cheir ffynhonnell i’r dyddiad 1442 a roddir yn WG1 ‘Trefor’ 14.) Fe’i claddwyd yng Nglyn-y-groes, fel y tystia Guto (105.44–5), sy’n awgrymu’n gryf iddo fod yn noddwr i’r abaty yn ystod ei fywyd. Fel y gwelir isod, 1429 yw’r cyfeiriad cynharaf ato, ond yr oedd eisoes yn ddigon hen i gymryd swydd o awdurdod erbyn hynny. Os oedd ychydig yn hŷn na’i frawd, Siôn Trefor, a fu farw yn 1493, anodd credu iddo gael ei eni cyn dechrau’r bymthegfed ganrif.
Ei yrfa
Cawn dipyn o wybodaeth gan Guto am Robert Trefor. Mae’n amlwg mai ef oedd pennaeth effeithiol Bryncunallt erbyn y 1440au, er bod ei dad, Edward, yn dal ar dir y byw pan ganwyd y gerdd gyntaf (103.35–42). Awgryma Guto hefyd fod gan Robert ddylanwad yng Nghroesoswallt (103.45). Wrth ganu marwnad i Edward, cadarnha Guto mai Robert bellach oedd y pennaeth, a’r un a etifeddodd ddoethineb a [g]ras ei dad (104.42). Fel y tad, molir Robert am ei ran allweddol yn y gwaith o gadw rheolaeth a threfn yn y wlad, ac fe’i gelwir yn gyfreithiwr grym (105.51). Wrth ganu marwnad Robert, awgryma Guto iddo ddal swyddogaeth farnwriaethol o ryw fath yn Is Conwy, lle gweithredai’n nerthog tuag at y cadarn, a trugarog wrth y gwan (105.55–8). At hynny, gweithredai’n arw a thanbaid yn Ninbych (105.60) yn ei swyddogaeth fel maer a meistr (105.61). Ond bellach, a Robert wedi marw, mae’n rysyfwr (Saesneg reciever) a swyddog i Iesu (105.63–4). Lle gynt bu’n mynd ag arian i’r dug o Iorc, bellach mae’n mynd at Dduw gyda thaliadau o weithredoedd teilwng (105.65–74). Yn sicr mae geiriau Guto’n awgrymu y bu i Robert gyfrifoldebau am arian yn Ninbych, a’i fod wedi gweithredu fel resyfwr yn ystod ei yrfa, o bosibl yn y fwrdeistref honno.
Meddai Robert Vaughan amdano yn Pen 287, 55: Robert Trevor obiit 1452 y gwr ymma fu Stiwart Dinbech, Sirif Sir y Fflint vstus a Siambrlen Gwynedd. Ac eithrio’r ffaith ei fod yn ddirprwy stiward yn Ninbych yn 1443 (gw. isod), ni chafwyd tystiolaeth ddogfennol i ategu unrhyw un o’r swyddi penodol hyn. Fodd bynnag, mae’n amlwg iddo ddal amryw swydd gyhoeddus. Arbennig o berthnasol, o safbwynt yr hyn a ddywed Guto amdano, yw’r ffaith iddo gael ei benodi’n rysyfwr Holt yn 1429, ac yn rysyfwr cyffredinol arglwyddiaeth Powys yn 1435. Cyfeirir isod at y swyddi hyn ynghyd â gwybodaeth arall am weithgarwch Robert:
1429 Gyrrodd bwrdeisiaid Holt betisiwn at Joan de Beauchamp (m. 1435), yn protestio am benodiad Robert Trefor (a gysylltir yno â Threfalun) i swydd rysyfwr Brwmffild ac Iâl. Collwyd y ddogfen wreiddiol, ond goroesodd copi ohoni o’r unfed ganrif ar bymtheg (gw. Pratt 1977). Sail yr anfodlondrwydd oedd y ffaith fod Robert Trefor yn ŵyr i Robert Pilstwn a bod ei nain yn chwaer i Owain Glyndŵr. Robert Pilstwn, meddent, oedd y gŵr a fu’n gyfrifol am ymosod ar gastell Holt yn 1401, a dim ond by strenght of yowr forsayd tenants & burges and english officers your Sayd Castell & towne was savyd unbrend … 1435 8 Rhagfyr Penodwyd William Borley yn stiward yng nghestyll, maenorau a thiroedd y brenin yn arglwyddiaeth Powys, a Robert Trefor yn rysyfwr cyffredinol yno (CPR 1429–36, 497). 1437 5 Ionawr Cofnodir i Thomas Pulford gael ei benodi’n sietwr sir y Fflint, yn yr un modd ag y bu Robert Trefor cyn hynny (CPR 1436–41, 39). 1441 Enwir Robert a’i dad, Edward, yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy (LlGC Puleston 935). 1443/4 Yng nghasgliad dogfennau arglwyddiaeth Rhuthun ceir tair dogfen wedi eu dyddio 1443/4 sy’n ymwneud â throsglwyddo tir yn Ninbych lle enwir Robert ab Edward/Robert Trefor fel dirprwy stiward yn y fwrdeistref honno. Y stiward ar y pryd oedd William Burlegh/Burley (LlGC Arglwyddiaeth Rhuthun, rhifau 103, 753, 766). 1446 24 Mawrth Rhoddwyd maddeuant cyffredinol am unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn 10 Mawrth 1446 ac wedyn i Robert Trefor, gentilman, mab Edward ap Dafydd o’r Waun, gan ei gysylltu hefyd â Halston ac â Wigington (CPR 1441–6, 415).Llyfryddiaeth
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, TCHSD 26: 153–5
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt