Chwilio uwch
 

Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, fl. c.1432–m. 1476/7

Cywydd Guto i ofyn cymod (cerdd 106) yw’r unig gerdd ganddo a gadwyd i Ieuan Fychan. Disgrifia Guto Ieuan Fychan fel bardd a thelynor (106.42–6), ac yn wir yn y llawysgrifau cadwyd wrth ei enw ddwy gerdd yn gofyn am gwrwgl gan ei gyfyrder, Siôn Eutun ap Siâms Eutun (gw. GMRh cerddi 9, 11). Bu’n rhaid i Siôn alw ar wasanaeth Maredudd ap Rhys i gyfansoddi cywydd ateb (ibid. cerdd 10), a chyfansoddodd Ieuan Fychan ymhellach gywydd ateb i Faredudd, a chanodd y ddau fardd gyfres o englynion i’w gilydd ar ben hynny oll (ibid. cerddi 11, 12; Charles 1966–8: 74–8). Am ganu Gruffudd Nannau a Rhys Goch Glyndyfrdwy i feibion Ieuan, Ithel a Rhys, pan garcharwyd hwy yn y Dre-wen, gw. y nodyn ar Risiart Trefor o Fryncunallt. Gweler hefyd y nodyn ar Siôn Edward ab Iorwerth o Blasnewydd, nai Ieuan Fychan, am ganu Guto a’i gyfoeswyr i’r teulu hwnnw.

Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, ‘Marchudd’ 13, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 13C. Nodir y rhai a enwir yng ngherdd 106 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.

stema
Achres Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern

Disgynnai Ieuan Fychan o deulu a fu’n flaenllaw iawn yng ngweinyddiaeth Nanheudwy cyn y goncwest Edwardaidd ac wedi hynny, pan ddaeth y cwmwd yn rhan o arglwyddiaeth newydd y Waun. Cyndeidiau iddo oedd Iorwerth Hen, Iorwerth Fychan ac Iorwerth Foel a ddaliodd swyddi uchel yn llys tywysogion Powys dros dair cenhedlaeth. Meddai A.D. Carr (1976: 8): ‘It is … possible that the office of seneschal of Powys Fadog became hereditary in the family of Pengwern, just as the corresponding office of Gwynedd became the preserve of the family of Ednyfed Fychan.’ Dyma ddau hen deulu Cymraeg uchel iawn eu statws a fu yng ngwasanaeth y tywysogion, ac nid yw’n syndod iddynt ystyried ei gilydd yn ddeunydd priodi addas: priodasai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu (chwaer i Addaf, taid Ieuan Fychan) â Goronwy ap Tudur o Benmynydd, Môn. Myfanwy oedd y ferch o Ddinas Brân y canodd Hywel ab Einion Lygliw iddi awdl serch gofiadwy (GGLl cerdd 1). Roedd mam Ieuan Fychan, Angharad, hithau’n disgyn o’r un teulu, yn ferch i Ednyfed ap Tudur o Drecastell (chwaer yng nghyfraith, felly, i Fyfanwy). O’r teulu hwn, mae’n debyg, y cafodd Ieuan y cyfenw ‘Fychan’, cyfenw y gellir ei olrhain yn ôl i sylfaenydd effeithiol y llinach honno ym Môn, Ednyfed Fychan. Drwy gyfeirio at fam Ieuan fel merch Ednyfed naf (106.65), mae Guto’n atgoffa ei gynulleidfa o’r cyswllt teuluol pwysig hwn.

Roedd priodas Ieuan Fychan ei hunan ag Angharad, aeres Mostyn, ym mlynyddoedd cynnar y 1430au, yn un gwbl allweddol yn hanes y teulu (gw. Mostyn 1629 (v)), a dyma sefydlu un o’r stadau mwyaf grymus yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Fel y noda Carr (1976: 30): ‘Ieuan Fychan was by far the most outstanding member of the Pengwern family and the real founder of the Mostyn estate.’

Gwelir i Ieuan Fychan yn ei dro sicrhau priodasau da i’w blant yntau. Priododd ei fab hynaf, Hywel, â Marged ferch Gruffudd, aeres Gloddaith, a dyna ddod â llys arall at stad Mostyn a oedd yn prysur gynyddu mewn maint a grym. (Ni wyddys dyddiad marw Hywel, ond y tebyg yw iddo farw cyn ei dad, gw. Carr 1976: 44.) Priododd Alis, chwaer Hywel, â Wiliam ap Morus, brawd i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, a phriododd chwaer arall, Marged, â Meurig ap Llywelyn o Fodsilin.

Cyswllt teuluol y mae Guto’n awyddus i’w amlygu yw’r ffaith fod nain Ieuan Fychan ar ochr ei dad, Isabel ferch Gruffudd Fychan, yn chwaer i Owain Glyndŵr. Roedd chwaer arall, Lowri, yn briod â Robert Pilstwn, ac felly’n fam i Angharad, gwraig Edward ap Dafydd o Fryncunallt (gw. 103.23–4n). Bu teulu Pengwern yn gefnogwyr selog i Owain yn ystod y gwrthryfel, a bu’n rhaid i Ieuan ab Addaf, tad Ieuan Fychan, fforffedu ei diroedd am ychydig fel cosb, cyn iddynt gael eu hadfer iddo ar brydles erbyn 1409 ac efallai’n llawn yn fuan wedyn (gw. Smith 1987: 177).

Ar farwolaeth ei dad, Ieuan ab Addaf, ar 26 Rhagfyr 1448, daeth Ieuan Fychan yn benteulu Pengwern a Mostyn. Yn sicr, mae’r modd y mae Guto’n canmol perchentyaeth Ieuan ym Mhengwern yn awgrymu y gall mai’n fuan ar ôl 1448 y canwyd cerdd 106. Pan fu farw mam Ieuan, Angharad, daeth Trecastell hefyd i’w feddiant. Drwy ei fam roedd Ieuan yn perthyn i Siasbar Tudur, a cheir traddodiad a gofnodir yng ngwaith gŵr lleol, Elis Gruffydd, i Ieuan roi lloches i Siasbar ym Mostyn yn 1464 (Carr 1976: 35).

Cartref
Cysylltir prif gangen y teulu â Phengwern ers o leiaf y drydedd ganrif ar ddeg. Disgrifir trefgordd Pengwern yn Arolwg Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391 fel terram ecclesiasticam (Jones 1933: 58), ac awgryma Carr (1976: 22) fod iddi ar un adeg gysylltiad â hen eglwys clas Collen. Fel y nodwyd eisoes, gyda phriodas Ieuan ag Angharad o Fostyn, cynyddodd ystâd y teulu’n fawr. Hefyd symudodd canolbwynt eu grym o Bengwern i Fostyn yn sir y Fflint. Ond fel pennaeth Pengwern yn benodol y mae Guto yn cyfarch Ieuan.

Ei yrfa
Mae prinder cymharol dogfennau o’r bymthegfed ganrif yn ei gwneud hi’n anodd cael darlun llawn o yrfa unrhyw uchelwr o’r cyfnod, ond mae enw Ieuan Fychan yn digwydd yn fwy aml nag arfer, efallai, a rhydd Carr (1976: 27–44) grynodeb hwylus o’r hyn sy’n hysbys amdano. Ceir traddodiad yn hanes y teulu (Glenn 1925: 33) iddo ymuno ym myddin iarll Arundel yn Ffrainc ar gyfer ymgyrch 1415. Yn sicr, mae yno ŵr o’r un enw yn y fyddin honno, ond ni ellir bod yn gwbl hyderus mai Ieuan Fychan o Bengwern ydoedd, er y byddai gwasanaeth filwrol o’r fath yn ddigon arferol i uchelwr yn y cyfnod (Carr 1976: 30–1). Yn 1432, cofnodir i’r Frenhines Katherine roi Mostyn ar les i Ieuan Fychan am £14 y flwyddyn; mae’n rhaid felly ei fod wedi priodi Angharad erbyn hyn. Roedd Katherine, gweddw Harri V, bellach yn wraig i Owain Tudur, cefnder felly i fam Ieuan (ibid. 30). Crybwyllir Ieuan yn aml mewn dogfennau rhwng y 1430au a’r 1450au, mewn achosion llys, weithiau’n ddiffynnydd a thro arall yn gweinyddu’r gyfraith, a hefyd mewn gweithredoedd yn ymwneud â throsglwyddo tir (trafodir y rhain ibid. 31–3).

Wrth foli Ieuan Fychan, rhydd Guto gryn bwyslais ar ei ddoniau fel bardd a thelynor yn ogystal â’i berchentyaeth ym Mhengwern. Roedd y beirdd-uchelwyr Dafydd ab Edmwnd a Maredudd ap Rhys, ficer Rhiwabon, hwythau’n gefndryd o bell iddo (yn disgyn o Fadog Llwyd, brawd i Ednyfed Gam), ac ymddengys felly fod y teulu hwn yn ymddiddori mewn cerdd dafod ar lefel dyfnach na noddwyr yn unig.

Ni wyddom ddim am addysg Ieuan Fychan ei hun na phwy oedd ei athro barddol. Awgrymir yn hanes y teulu (Glenn 1925: 31) iddo dderbyn addysg gychwynnol yn abaty Glyn-y-groes cyn mynd ymlaen i un o brifysgolion Lloegr, Rhydychen neu Gaer-grawnt; ond nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu’r awgrym hwnnw (cf. Carr 1976: 40n180).

Dyddiadau
Fel y nodwyd, mae’r cyfeiriad cynharaf at Ieuan Fychan yn dyddio i flynyddoedd cynnar y 1430au, yn fuan ar ôl iddo briodi. Gallwn fwrw amcan, felly, iddo gael ei eni tua dechrau’r 1410au, os nad ynghynt. Mae peth anghytundeb ymysg ysgolheigion diweddar ynglŷn â’i ddyddiad marw. Yn ôl R.A. Charles (1966–7: 78): ‘Bu farw Ieuan Fychan rhwng mis Gorffennaf, 1457, a’r mis Mawrth canlynol ym mhlas Mostyn, yn ôl pob tebyg, ac fe’i claddwyd yn eglwys Chwitffordd’, gan ddilyn hanes y teulu (Glenn 1925: 50). Ond rhaid gwrthod hynny, oherwydd enwir Ieuan yn dyst i weithred wedi ei dyddio 11 Mawrth 1475 yn trosglwyddo tir yng Ngwernosbynt i’w nai, Siôn Edward (Jones 1933: 93; Carr 1976: 43). Roedd wedi marw erbyn 2 Mawrth, 1477, oherwydd ceir dogfen yn cofnodi bod ei holl eiddo wedi ei drosglwyddo i’w ddwy ferch, Margaret ac Alis, ar y dyddiad hwnnw (LlGC Castell y Waun F 9876). Awgryma hyn hefyd fod ei fab hynaf, Hywel, yntau wedi marw erbyn hynny.

Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84