Y llawysgrifau
Ceir copi o’r gerdd hon mewn 22 llawysgrif. Gan nad oes llawer o amrywio rhwng y testunau cynharaf, gallwn fod yn hyderus fod y cyfan yn tarddu yn y pen draw o’r un gynsail, ac nid oes lle i gredu bod y gynsail honno yn wahanol iawn i destun gwreiddiol y bardd.
O gymharu darlleniadau’r llawysgrifau, gwelir o’r stema eu bod yn ymrannu’n dri phrif grŵp fel a ganlyn.
BL 14967
Dyma lawysgrif o’r gogledd-ddwyrain sy’n cynnig un o’r testunau cynharaf o’r gerdd hon. Fe’i cofnodwyd gan brif law’r llawysgrif a gofnodai tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg (nid cyn 1527). Ceir casgliad helaeth o gerddi Gutun Owain ynddi, wedi eu codi o bosibl, ym marn Mr Daniel Huws, o’i law ef ei hun, a gallai hynny awgrymu cysylltiad felly rhwng y llawysgrif hon a chanolfan dysg yn yr ardal honno megis abaty Glyn-y-groes neu gartref un o deulu’r Trefor neu Edwards, teuluoedd yr oedd gan Gutun Owain gyswllt agos â hwy. O safbwynt y gerdd hon ceir yma nifer o ddarlleniadau unigryw – weithiau mân amrywiad ar ffurf nad yw’n amharu ar yr ystyr (e.e. kaeroedd (3) lle ceir caerau gan bob llawysgrif arall), ailwampiad ar linell, sydd eto’n cadw’r ystyr ond yn newid y geiriad (e.e. 22n), a hepgorir rhai llinellau (e.e. 11–12, 17–18) sy’n bresennol yn yr holl lawysgrifau eraill. Mae amrywio o’r math hwn yn awgrymu elfen o drosglwyddiad llafar.
Llawysgrifau sy’n perthyn i Pen 80
Mae Pen 80 yn llawysgrif arall o’r gogledd-ddwyrain, a gopïwyd c.1560–80. Mae’n debygol iawn mai copi o’r testun hwn a geir yn C 5.167, ond nid yw’n gopi di-fai ac mae’n bosibl fod Pen 80 a C 5.167 yn tarddu o’r un ffynhonnell (cf., e.e., 18n). Mae BL 14975 a BL 31056 yn perthyn yn agos i Pen 80 (ond bod BL 31056 yn llwgr) ac mae LlGC 5272C bron yn sicr yn gopi o C 5.167. Roedd Edward Kyffin, copïydd LlGC 5272C, yn gopïwr deallus a gywirai ei destun lle teimlai bod angen, ond weithiau yr oedd yn rhy glyfar; er enghraifft, yn llinell 63 newidiodd resyfwr yw ei ffynhonnnell yn resyfwr oedd, gan fod y noddwr bellach wedi marw, ond heb sylweddoli bod y bardd yn sôn yn ffansïol am swyddogaeth Robert Trefor bellach fel resyfwr yn y nefoedd. Copi o LlGC 5272C yw LlGC 567B.
Llawysgrifau X1
Tybir bod gweddill y llawysgrifau yn tarddu o un ffynhonnell gyffredin, a elwir X1 yn y stema, a hynny ar sail rhai darlleniadau cyffredin sy’n eu nodweddu. Ar y naill law ceir llawysgrifau Huw Machno (Llst 168 a C 2.617) a BL 14978 sy’n perthyn yn arbennig o agos i’w gilydd, ac yna lawysgrifau LlGC 3049D a LlGC 8497B sy’n debyg i’w gilydd ac yn debygol o fod yn tarddu o gynsail goll a elwir X2 yn y stema, sydd yn ei thro yn tarddu o X1. (Gallwn dybio mai cynsail goll o Ddyffryn Conwy oedd X2.) Copi o LlGC 3049D yw LlGC 21248D ac mae LlGC 3021F yn ei thro yn gopi o LlGC 21248D. Anodd, gyda chyn lleied o dystiolaeth, yw dod i gasgliad pendant ynglŷn a chydberthynas Llst 168, C 2.617 a BL 14978. Ceir rhai newidiadau i ddarlleniadau tybiedig X1 yn Llst 168, a cheir rhai ohonynt, ond nid y cyfan, yn BL 14978. Profir bodolaeth X1 gan y darlleniad vwch yn llinell 38 ym mhob llawysgrif sydd yn y grŵp hwn; darlleniad llawysgrifau Pen 80 a BL 14967 yw wych, sef y darlleniad gorau. Byddai’n anodd esbonio sut byddai’r newid hwn o wych → vwch wedi digwydd yn annibynnol yn yr holl lawysgrifau hyn, felly tybir bod y newid wedi digwydd yn eu cynsail, X1. Cadarnheir bodolaeth X1 ymhellach gan ddarlleniadau megis a’r coed yn llinell 25, lle ceir o’r coed, sef y darlleniad cywir, yn y llawysgrifau eraill i gyd.
Gwelir cydberthynas y llawysgrifau yn gyffredinol yn eglur yn llinell 6. Tybir mai I dwf oedd y darlleniad gwreiddiol, a dyna a geir yn BL Add 14967 ac, fe dybir, yn X1, gan mai dyna a geir yn Llst 168, C 2.617 a BL 14978. Fodd bynnag I dwr yw darlleniad LlGC 3049D, LlGC 8497B a’r llawysgrifau sy’n gopïau ohonynt, ac felly tybir bod cynsail goll y ddwy lawysgrif hyn, X2, wedi camddarllen ei ffynhonnell. dyfiad yw darlleniad llawysgrifau sy’n tarddu o Pen 80.
Nid oes digon o destun yn Pen 221 (2 linell), LlGC 1559B (4 llinell) na LlGC 1579C (sy’n gopi o’r olaf) i benderfynu eu tras. Mae testunau C 4.10, BL 14962, Ba 5945 a BL 31092 yn ddiweddar ac ni chynigiant unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Yn y drafodaeth rhoddir sylw i’r prif lawysgrifau, sef BL 14967, Pen 80, LlGC 3049D (a hefyd LlGC 8497B os yw’n wahanol) a llawysgrifau Huw Machno (Llst 168, C 2.617) a BL 14978; ni chyfeirir at y llawysgrifau sy’n tarddu ohonynt oni bai bod y darlleniadau hynny’n arwyddocaol. Fel egwyddor cyffredinol, os yw dau neu dri grŵp yn cytuno yn erbyn un, derbynnir tystiolaeth y mwyafrif.
Trawsysgrifiadau: Pen 80, BL 14967, LlGC 3049D a Llst 168.
3 caerau Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio BL 14967 kaeroedd. Mae’r ddwy ffurf yn ddilys ac yn gyffredin ym marddoniaeth y cyfnod, er mai caerau a geir fel arfer gan Guto’r Glyn. Dyma un o nifer o ddarlleniadau unigryw a geir yn BL 14967 (gw. uchod), yn enwedig mewn safle yn y llinell nad yw’n effeithio’r gynghanedd.
3 Edwart Gwncwerwr Disgwylir treiglad meddal i enw cyffredin mewn cyfosodiad i enw priod, gw. TC 122, a cf. 78.20 I Ging Harri gwncwerwr; GLGC 112.101 Edwart gwncwerwr. Ceir treiglad yn llawysgrif Pen 80, ond y gysefin yn BL 14967 a bron y cyfan o’r llawysgrifau sy’n tarddu o X1 yn y stema. Er bod T.J. Morgan yn dyfynnu ambell enghraifft o beidio â threiglo (e.e. Pwyll Pendefig Dyfed), awgryma mai mewn cyfuniadau achlysurol yn unig y digwydd hynny, nid mewn rhai sefydlog fel sydd yn y llinell dan sylw. Credir mai gwncwerwr sy’n gywir yma, er mae’n debygol mai cwncwerwr oedd yn y gynsail (tybed a fu i’r gytsain ddi-lais ar ddiwedd Edwart ddileisio’r g-?).
4 oedd ar gaerau Mae pob llawysgrif yn cytuno â’r testun golygedig, ac eithrio BL 14967 sy’n darllen oedd gaerav y.
6 i dwf Mae darlleniadau amrywiol y llinell hon yn ddadlenol o safbwynt cydberthynas y gwahanol fersiynau. dyfiad yw darlleniad Pen 80, ond i dwf a geir yn y llawysgrifau eraill i gyd ac eithrio llawysgrifau X2 (LlGC 3049D a LlGC 8497B) sy’n darllen i dwr, darlleniad y mae’n rhaid ei wrthod ar sail y gynghanedd. Mae’r dystiolaeth lawysgrifol, felly, yn ffafrio i dwf.
11–12 Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14967. Cf. 17–18n.
16 Tŵr y porth uwch tyrau pert Darlleniad Pen 80; yn BL 14967 ceir Twr y porth vwch y tyrav pert (sy’n peri i’r llinell fod yn hir o sillaf) ac yn llawysgrifau X1 (fel y’i ceir yn LlGC 3049D) twr porth vwch y tyrav pert. Tybed a oedd y llinell yn hir o sillaf yn y gynsail, fel y’i ceir yn BL 14967, a bod Pen 80 wedi datrys hynny drwy hepgor yr ail fannod, tra bod copïydd X1 wedi hepgor y fannod gyntaf? Darlleniad Pen 80 sydd fwyaf boddhaol.
17–18 Nis ceir yn BL 14967; cf. 11–12n.
18 tŵr i’r Mars Pen 80 Twr y ir/mars kynn torri y/r/ mvr (gwnaethpwyd y cywiriadau gan y brif law ar adeg codi’r llinell); yn C 5.167 ceir Twr y mars kynn torri/r/ mvr, a all awgrymu bod y ddwy lawysgrif hyn yn gopïau o’r un ffynhonnell yn hytrach na bod C 5.167 yn gopi o Pen 80. (Ond gan fod y ddwy linell flaenorol yn cychwyn â’r geiriau tŵr y …, gall fod llygaid y ddau gopïwr wedi llithro, ond bod copïydd Pen 80 wedi sylweddoli ei fai.) Yr unig lawysgrifau eraill sy’n darllen tŵr y mars yw llawysgrifau X2 (LlGC 3049D a LlGC 8497B).
22 Tyrau i’r glod, trywyr glân Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio’r rhai sy’n dilyn Pen 80 ac yn darllen Tyrav /r/ glod y trowyr glan. Mae’n bosibl fod copïydd Pen 80 wedi tybio mai llinell chwesill oedd yn ei gynsail (drwy gywasgu Tyrau i’r yn ddeusill), ac wedi ychwanegu sillaf drwy roi’r fannod o flaen trywyr. Gellir anwybyddu’r amrywiad trywyr / trowyr a welir yn y llawysgrifau yma, oherwydd tuedd y i droi yn o o flaen w yn nhestunau’r gogledd-ddwyrain (cf. bowyd, llowydd (cf. 32), &c.).
23 Torred Gthg. Pen 80 torrwyd. Ceir yr un amrywio yn 104.5 siomed/siomwyd, a gwelir yn y nodyn testunol ar y llinell honno mai -ed oedd terfyniad arferol ffurf amhersonol orffennol a’i bôn yn cynnwys o/oe gan Guto. tor(r)ed yn unig a geir yn y llawysgrifau ar gyfer llinell 24.
25 y tai o’r coed Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio rhai X1 sy’n darllen y tai a’r coed yma (felly GGl). Disgrifiad o gartref Edward ap Dafydd ym Mryncunallt sydd yma, a ddisgrifiwyd yn ei farwnad fel y tai ’n y coed, 104.30.
30 fu Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio BL 14967 lle ysgrifennwyd oedd, ei ddileu ac ychwanegu vu uwchben cyn dileu hwnnw hefyd. Gan fod y llinell nesaf yn dechrau Gweddwdod oedd … mae’n debygol fod llygaid y copïwr wedi llithro (ond gw. y nodyn ar y llinell nesaf).
31 oedd Darlleniad yr holl lawsygrifau ac eithrio’r rhai sy’n dilyn Pen 80 lle darllenir fu. Gan mai cyflwr, yn hytrach na digwyddiad, yw gweddwdod, cymerir bod y ferf amherffaith yn rhagori; efallai i gopïydd Pen 80 ailadrodd y ferf orffennol a gafwyd yn y llinell flaenorol.
33, 34, 35 gwae’r Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio BL 14967 gwer, sydd un ai’n gamgymeriad neu’n amrywiad ffonolegol (er y ceir Gwae yno yn llinell 36).
34 aeth y gaer i lawr Darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio Pen 80 aeth i gwyr i lawr. Dichon mai y gaer sy’n gywir, a bod y bardd yn cynnal y ddelwedd o’r teulu cyfan fel caer amddiffynnol dros eu gwlad (5–22); cf. y cyfeiriad yn 18 at farwolaeth Robert Trefor fel torri’r mur.
38 Trefor wych Darlleniad BL 14967 a’r llawysgrifau sy’n tarddu o Pen 80; mae’r llawysgrifau sy’n tarddu o X1 i gyd yn darllen Trefor vwch (darlleniad GGl a’i ddehongli fel ‘ywch’ sef ail lluosog yr ardd. i neu o bosibl ffurf ar yr arddodiad uwch). Anodd gweld pam fyddai wych wedi ei newid yn uwch/ywch, oni bai fod rhyw gopïydd yn tybio mai cyfeiriad penodol at Drefor Uchaf sydd yma. Derbynnir tystiolaeth y mwyafrif.
40 acw ’n yr allt Darlleniad yr holl lawysgrifau (er na ddangosir y cywasgiad yn rhai) ac eithrio BL 14967 penn kun yr allt. Fel y gwelwyd uchod wrth drafod y llawysgrif hon, mae darlleniadau unigryw yn nodweddiadol o nifer o’i thestunau. Gyda’r llinell hon, cf. 82.17 Cwyn mawr acw yn y Main.
41 ni chaf Darlleniad pob llawysgrif ac eithrio BL 14967 sy’n darllen na chaf (felly GGl). Unwaith eto, mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai ni chaf oedd yn y gynsail a bod y newid wedi digwydd yn BL 14967.
43 pan pen yw darlleniad BL 14967, LlGC 3049D a BL 14978; pan a geir yn y gweddill gan gynnwys Pen 80. Gan fod pen yn amrywiad llafar ar pan, ac yn gyffredin hyd heddiw yn rhai rhannau o’r Gogledd (yr unfed ganrif ar bymtheg yw dyddiad yr enghraifft gynharaf yn GPC 2677), afraid olrhain yr amrywiad yn y stema. Mae’n amhosibl gwybod pa ffurf a ddefnyddiodd Guto, ond gan fod pan yn odli â’r brifodl llan, mae’n bosibl hefyd mai er mwyn osgoi’r hyn a dybient oedd yn fai y bu i rai o’r copïwyr roi pen yma.
44 Egwestl Dyma’r ffurf a geir yn y llawysgrifau i gyd ac eithrio’r rhai sy’n tarddu o Pen 80 sy’n rhoi’r ffurf Egwystl. Awgryma hyn mai Egwestl oedd yn y gynsail, er nad yw’n cadarnhau wrth gwrs mai dyna’r ffurf a arddelai Guto. Egwestl a geir gan amlaf yn y farddoniaeth gynharach, gw. G 450 a cf. yn arbennig GDB 4.28 yn lla6r Llyn Eg6estyl (odl â G6estyl), sef marwnad Einion Wan i Fadog ap Gruffudd, sylfaenydd yr abaty; felly hefyd Lanegwest(l) yn BrenSaes 196, 230, 248 (testun Llyfr Du Basing, LlGC 7006D), ac mae’n ymddangos mai dyma oedd y ffurf hynaf ar yr enw: Jones 1866: 411–12, BT 195. Llyn neu Glyn Egwest a geir gan amlaf gan Gutun Owain (ond cf. GO VIII.6 Ys da le Glyn Egwystl, wyd) ond ym marddoniaeth y bymthegfed ganrif gwelir bod y ffurf Egwystl wedi dod yn fwyfwy cyffredin, efallai oherwydd tybio mai’r enw cyffredin gwystl oedd yr ail elfen, cf. GLGC 191.1–2 (lle mae’n odli ag Arwystl).
45 Sain Greal Gwrthodir BL 14967 sain gral gan fod angen prifodl ddiacen i odli ag Iâl, ac ni ellir gair cyfansawdd, saingral, gan fod angen i’r acen ddisgyn ar ôl gr- ar gyfer y gynghanedd. Prin fod unrhyw arwyddocâd o safbwynt y gwahaniaeth rhwng y ffurfiau grial a greal yn y llawysgrifau (mae llawysgrifau Pen 80 yn tueddu i ddarllen grial a’r lleill yn tueddu i ddarllen greal), ac felly defnyddir y ffurf safonol Greal yn y testun (gw. EEW 61, GPC 1528); mae’r ffurf sanggreal a geir yn LlGC 3049D (a Llst 168) yn awgrymu bod trwynoli yn y canol, ac o’i dderbyn byddai’n rhaid darllen ‘sang-greal’ er mwyn diogelu’r gynghanedd.
47 einioes i ferch BL 14967, LlGC 8497B, Llst 168 a BL 14978 einioes y ferch sy’n ddigon posibl; ond dilynir patrwm 15.59–60 A Duw a rydd … / Yt einioes, 87.71–2 Ŵyr Anna a ro einioes / I’r gŵr …
48 a deigr Darlleniad BL 14967 a llawysgrifau X1, ac eithrio Llst 168 a BL 14978 sy’n darllen ai deigr fel a geir yn y llawysgrifau sy’n tarddu o Pen 80. Dichon mai a deigr oedd yn y gynsail a’i fod wedi ei newid o bosibl dan ddylanwad yr ail a’i yn y llinell.
48 dwg Ar sail ystyr gwrthodir y ferf orffennol, dug, a geir yn BL 14967 a llawysgrifau X1 (ac eithrio dwy lawysgrif Huw Machno, Llst 168 a C 2.617): roedd gwraig Robert Trefor yn dal ar dir y byw pan ganwyd y cywydd hwn. Sôn am y dyfodol a wna’r bardd a’r ffaith y bydd dagrau hiraeth yn canlyn y ferch i’w bedd ac mae’n debygol fod Huw Machno wedi sylweddoli hynny a chywiro darlleniad ei gynsail. (Cf. Guto amdano’i hun, oherwydd salwch abad Ystrad-fflur, 5.18 Dagrau byth a’m dwg i’r bedd.)
50 y ddadlwriaeth Cf. BL 14967 ac X1; yn Pen 80 ceir i ddadlwriaeth, gyda’r rhagenw blaen ei, yn fwy na thebyg. Dewisir y fannod yma, gan mai’r gelfyddyd o ddadlau yn gyffredinol sydd ar ei cholled o farw Robert Trefor.
53 Aeth un â’r holl ddoethineb Darlleniad BL 14967 a holl lawysgrifau X1; aeth vn ar goll doethineb yw darlleniad Pen 80. Mae’r cwpled yn sicr yn gryfach o ddarllen holl ddoethineb yma; pe derbynnid yr ail fersiwn byddai’n rhaid dehongli fel a ganlyn: Aeth un, ar goll doethineb, / Od aeth, ni wn ai doeth neb ‘Aeth un ymaith, ar goll y mae doethineb, / Os aeth, ni wn a oes unrhyw ŵr doeth bellach.’ Mae ffurfiad h hir ac g yn debyg iawn yn rhai o lawiau’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’n debygol iawn mai camddarlleniad yn gynnar a fu’n gyfrifol am y newid; ond ar ôl newid â’r holl yn ar goll, rhaid wedyn fyddai adfer cysefin doethineb er mwyn yr ystyr.
58 Ac i’r gwan, trugarog oedd Dyma (gyda mân wahaniaethau orgraffyddol) yw darlleniad yr holl lawysgrifau ac eithrio BL 14967 sy’n darllen Wrth y gwan mawr weithiawc oedd. Gan mai moli rhinweddau Robert Trefor fel cyfreithiwr neu farnwr a wneir yn y cwpled hwn, disgwylid iddo fod yn drugarog wrth y gwan, fel yr oedd yn gadarn wrth y nerthog. (Cyffredin yw cyfres o ymadroddion yn ailadrodd wrth yn y dull hwn, cf. GIG 11.67–8, 94.54 Gwâr wrth wâr, garw wrth oerwr.) Dyma enghraifft arall o ailgyfansoddi yn BL 14967 yn sgil dibynnu ar gof diffygiol; tybed a geisiwyd cael cymeriad geiriol yma ar ddechrau’r cwpled drwy ailadrodd wrth? Wedyn, rhaid fyddai addasu ail hanner y llinell er mwyn y gynghanedd.
59 Wrth ei gâr, cerddgar y’i caid Darlleniad yr holl lawysgrifau, ac eithrio BL 14967 Wrth y gwar kerddar y kaid. Mae kerddar yn amlwg yn wall ac er bod wrth y gwâr yn bosibl, ni fyddem yn disgwyl cerddgar yn ôl y fformwla arferol, cf. GGMD i, 4.133 Gwâr wrth wâr hygar … Anodd hefyd fyddai cyfiawnhau dilyn BL 14967 o ran y stema.
60 Ddinbych Mae’r ffurf ddinbech a geir yn LlGC 3049D a LlGC 8497B (cf. GGl) o bosibl yn adlewyrchu’r ynganiad llafar a glywir hyd heddiw yn rhai ardaloedd yn y Gogledd.
60 garw a thanbaid Darlleniad BL 14967 a holl lawysgrifau X1; chwerw a thanbaid a geir yn llawysgrifau Pen 80. Gwyddom fod Robert Trefor wedi bod yn ddirprwy stiward yn Ninbych (gw. Robert Trefor), a chan mai ei foli am fod yn llym wrth ei ddyletswyddau a wneir yma, gwrthodir chwerw. Tybed a newidiwyd garw yn chwerw er mwyn ceisio cywreinio’r gynghanedd (câi ch- ei llyncu yn niwedd Dinbych), ond y tebyg yw mai enghraifft o ffeirio gair am un cyfystyr sydd yma, wrth gamgofio.
61 maer a meistr Darlleniad BL 14967 a holl lawysgrifau X1. Gwallus, mae’n amlwg, yw mae a meistr a geir yn Pen 80.
75 Ef a dâl ei fwyd a’i win Darlleniad BL 14967 a llawysgrifau X1; yn Pen 80 ceir Ef a wŷl ei gwrf a’i win ‘y mae ef yn gweld ei gwrw a’i win’, darlleniad rhyfedd braidd o gofio mai cyfeirio at wledd nefol a wneir: bwyd a gwin a ddisgwylid mewn gwledd nefol, nid cwrw a gwin! Anodd esbonio’r newidiad, oni bai bod sail ddiwinyddol iddo a bod rhyw gopïydd mewn oes fwy Protestannaidd, efallai, heb hoffi’r syniad o dalu am le yn y nefoedd.
76 nefwerth brenin Mae pob llawysgrif yn gytûn â’r darlleniad hwn ac eithrio BL 14967 ddeuwerth brenin (felly GGl). Gw. ymhellach y nodyn esboniadol.
78 a’i tâl Gthg. BL 14967 a LlGC 3049D talo sy’n peri i’r llinell fod yn rhy hir oni chywesgir.
Dyma’r olaf, ac o bosibl y fwyaf hynod, o’r tair cerdd a gadwyd gan Guto i deulu Trefor ym Mryncunallt, y Waun. Marwnad yw hi i Robert Trefor, yr hynaf o bedwar mab Edward ap Dafydd, a fu farw ar 27 Hydref, 1452, saith mlynedd wedi marwolaeth ei dad, a farwnadwyd yng ngherdd 104.
Egyr y cywydd â chwpled yn canmol castell llydan Edward a’i dyrau gwych a’i dair gwart; ond nid castell Edward ap Dafydd yw hwn, fel y nodir yn y cwpled nesaf, ond un o gaerau ysblennydd Edwart Goncwerwr, ac mae’r cyfeiriad at Dŵr yr Eryr (llinell 20) yn awgrymu mai castell Caernarfon sydd gan y bardd mewn golwg. Cyffelybir y castell hwn i Edward ap Dafydd a’i bedwar mab: Edward ei hun yw’r gaer a’i bedwar mab yw’r tyrau: Castell oedd ef i Drefawr / A’i bedwar mab, dyrau mawr (9–10). Ond ar ôl amddiffyn Trefor yn llwyddiannus yn y gorffennol, mae Duw bellach wedi cipio’r tad ac un o’r pedwar tŵr ymaith gan wanhau amddiffyniad yr ardal. Robert, meddir, oedd y tŵr allweddol, ac mae ei dorri ef i lawr yn amddifadu’r wlad a’r cantref o un o’u haelodau mwyaf gwerthfawr: Troed y wlad, torred i lawr: / … / Trychantref, torri’ch untroed (24, 26). Ond nid galar lleol yn unig a deimlir yn sgil ei farwolaeth, ond mae’r wlad, y nasiwn a Chymru’n gyffredinol yn ochneidio ar ei ôl (33–6).
Dysgwn gan Guto mai yn nhir abaty Glyn-y-groes yn Iâl y claddwyd Robert (43–6), ac yno hefyd y claddwyd ei dad, Edward ap Dafydd (CTC 362), fel nifer o’i gyndeidiau. Cyfeiria Guto’n benodol at alar gwraig Robert, Elsbeth ferch Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn, y bydd ei dagrau, meddir, yn ei chanlyn i’w bedd hithau (48). Gallwn dybio mai o dan nawdd Elsbeth a brodyr Robert y canwyd y gerdd hon, ac mae ei phresenoldeb hi o bosibl yn esbonio’r gymhariaeth ar ddechrau’r gerdd rhwng Edward ap Dafydd a’i bedwar mab â chastell Edward Goncwerwr yng Nghaernarfon. Wrth foli tad Elsbeth, Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn, cymharodd Rhys Goch Eryri gastell Gwilym yn ffafriol â chastell Caernarfon (GRhGE cerdd 2). A oedd Guto wedi dewis y gymhariaeth yn fwriadol er mwyn plesio Elsbeth?
Yn y llinellau 55–74 dysgwn dipyn am yrfa Robert. Cwynir am ei golli mewn achosion llys yn Is Conwy (55–6), a molir yn arbennig ei arweiniad cadarn ond teg fel maer a meistr ym mwrdeistref Dinbych. Awgrymir iddo fod yn rysyfwr yn ystod ei yrfa gan drosglwyddo arian i ddug Iorc (68), ond bellach Rysyfwr ydyw’r gŵr gwiw / A swyddog Iesu … (63–4), ac yn hytrach na thalu arian mae’n Talu gweithredoedd teilwng i Dduw (72). Fel y gwelir wrth drafod Robert Trefor, gallwn fod yn sicr fod Guto yma yn tynnu ar wybodaeth fanwl am yrfa ei noddwr, oherwydd gwyddom iddo ddal swyddi fel rysyfwr a dirprwy stiward yn ystod ei oes.
Mae’r cywydd hwn yn arbennig o hir (78 llinell) o’i gymharu â hyd arferol cywyddau Guto. Mae hefyd yn gerdd arbennig o grefftus. Tybed a oedd Guto wedi ymdrechu’n arbennig i blesio disgwyliadau uchel y noddwr a’i comisiynodd? A tybed ai Siôn Trefor, etifedd y teulu bellach, oedd y noddwr arbennig hwnnw? Gwyddom yn ôl tystiolaeth Guto fod Siôn yn ŵr diwylliedig iawn a ymddiddorai mewn llenyddiaeth yn gyffredinol: bu’n noddwr pwysig i Gutun Owain (GO cerddi XXXV, XXXVI) ond bu hefyd yn noddwr pwysig i Guto fel y dywed Guto’i hun wrthym mewn cerddi sy’n dyddio i wythdegau’r ganrif (gw. 108.19–24, 117.55–6). Er nad oes unrhyw gerddi wedi goroesi gan Guto i Siôn yn benodol, mae’n ddigon posibl iddo barhau i’w noddi ar hyd ei yrfa. Soniwyd eisoes am y trosiad estynedig a geir yn y rhan gyntaf, ond sylwer hefyd ar y defnydd helaeth o gymeriad a geir yn y gerdd hon, ac yn enwedig o gymeriad geiriol, lle’r ailadroddir yr un gair gan newid ychydig ar ei ystyr (e.e. ffurfiau ar y ferf torri yn 23–7 ac aeth yn llinellau 49–54). Sylwer hefyd ar y diffyg cymeriad yn y paragraff agoriadol (1–10), lle mae’r bardd yn gosod cyd-destun y cywydd, a’r gystrawen yn llifo fel rhyddiaith o’r naill linell i’r nesaf. Bron y gellid darllen y llinellau hyn gan anghofio bod cynghanedd ynddynt.
Dyddiad
Yn fuan ar ôl 27 Hydref, 1452, dyddiad marw Robert Trefor.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XVIII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 78 llinell.
Cynghanedd: croes 43% (33 llinell), traws 32% (25 llinell), sain 19% (15 llinell), llusg 6% (5 llinell).
1 castell Edwart Yn llinellau agoriadol y gerdd disgrifir castell mawreddog Edwart Gwncwerwr yng Nghaernarfon, gan ei gyffelybu i Edward ap Dafydd a’i feibion (ei dwf, 6) ym Mryncunallt. Nodweddir castell Caernarfon yn arbennig gan ei dyrau gwych (2), a chyfeiria Guto at un ohonynt, Tŵr yr Eryr, isod. Ceir cynllun o’r castell yn Peers 1915–16: 12 (gyferbyn), lle gwelir ei fod yn gastell neilltuol o lydan yn ymestyn o Dŵr yr Eryr yn un pegwn i Borth y Frenhines yn y pegwn arall. Disgrifia Guto’r castell yn llinell 2 fel un a chanddo dair gwart, ond os ‘cwrt mewnol (castell)’ yw ystyr gwart yma (gw. GPC 1586), sylwer mai dwy wart, ac nid tair, sydd gan gastell Caernarfon: gw. Taylor 2001: 25 ‘The plan of the castle is shaped rather like a “figure eight”, originally divided into two at the waist with a lower ward to the right (west) of the main entrance and an upper ward to the left (east).’ Oni bai am y cyfeiriad penodol at Tŵr yr Eryr (20), gellid ystyried y cyfeiriad yma at gastell Edwart yn gyfeiriad at gastell y Waun, a adeiladwyd gan Roger Mortimer ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg dan gyfarwyddyd gan Edward I. Efallai fod yr amwysedd yn fwriadol.
2 gwart GPC 1586 ‘cwrt mewnol (castell), sef y tir rhwng y ddau fur (neu’r tri mur) amgylchynol, amddiffynfa, ?gorthwr’.
4 caerau Cyfeiriad cyffredinol efallai at gestyll Edward I.
4 gŵr Sef Edward I.
5 twf Edwart ap Dafydd Sef ei blant, ei bedwar mab.
7 rhedeg Fe’i deellir i olygu ‘ffynnu’ yma, gan estyn peth ar ystyron megis ‘ymestyn’, ‘lledu’ neu ‘ymchwyddo’ a roddir yn GPC 3043.
9 Trefawr Enw lle yn Nanheudwy, a ddefnyddid yn epithet gan y teulu, a olrheiniai eu llinach yn ôl i gyndaid y teulu, Tudur Trefor a oedd, fe ymddengys, yn llywodraethu gogledd Powys a’r ardal o gwmpas Croesoswallt yn y ddegfed ganrif. Ymrannai plwyf Llangollen yn dri thraean, sef Llangollen, Trefor a’r Glyn, a chynhwysai Trefor drefgorddau Cilmediw, Dinbren, Eglwyseg, Trefor Isaf a Threfor Uchaf. Fel y gwelir yn Jones 1933: 13–15 daliai nifer o deulu’r Treforiaid dir yn Nhrefor Isaf ac Uchaf yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n debygol mai enw lle sydd yn y llinell dan sylw, fel yn llinell 23, ond gall mai’r enw teuluol a geir yn llinell 38.
12 Y tad a’r pedwerydd tŵr Sef Edward ap Dafydd (a fu farw 25 Ebrill, 1445) a Robert Trefor (a fu farw 27 Hydref, 1452). ‘Un o bedwar’ yw ystyr pedwerydd yma; am y defnydd arbennig hwn o’r trefnolion mewn Cymraeg Canol, gw. GMW 48.
16 tŵr y porth Roedd Robert Trefor fel y prif dŵr mewn castell (tŵr y fynedfa), yn uwch na’i frodyr, y tyrau pert. Mae’n bosibl y dylid ei dehongli’n gyfeiriad at dŵr penodol, fel Tŵr yr Eryr, llinell 20n. A oedd Guto yn meddwl yma am Borth y Brenin yng nghastell Caernarfon? Gw. Taylor 2001: 26–7, ‘No building in Britain demonstrates more strikingly the immense strength of medieval fortification than the great twin-towered gateway to Caernarfon Castle.’
18 tŵr i’r Mars Ar ôl concwest 1282/3 aeth Powys Fadog (a gynhwysai Swydd y Waun) yn un o arglwyddiaethau’r Mers. Disgrifiwyd tri mab Siôn Trefor gan Gutun Owain fel Tyrav’r Mars, GO XXXVII.44.
19 tŵr Edwart Edward I, see 20n.
20 Tŵr yr Eryr Un o’r tyrau mwyaf ysblennydd yng nghastell Edward I yng Nghaernarfon a adeiladwyd yn y cyfnod 1285–94. Y Tŵr Mawr (‘The Great Tower’) oedd ei enw yn wreiddiol ond yn Ebrill 1317 gosodwyd delwedd o eryr arno (ceir eryr ar sêl gynharaf y dref yn y drydedd ganrif ar ddeg), ac fel Tŵr yr Eryr y’i hadwaenid ar ôl hynny. Am ddisgrifiad manwl o’r tŵr, gw. Peers 1915–16: 22, 41–9 a RCAHM (Caernarvonshire) ii, 132–3; Taylor 2001: 30–2. Cyfeiria Rhys Goch Eryri yntau at y tŵr hwn gan fynegi rhagoriaeth llys Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn drosto: GRhGE 2.65–8 Llwyr y mae gwell o bell byd / Llys wenfalch … / Gwilym … / Euraid, no Thŵr yr Eryr. (Fel y nodir yn y nodyn cefndir, efallai nad amherthnasol yng nghyswllt delweddaeth y gerdd hon yw’r ffaith fod Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn yn dad yng nghyfraith i Robert Trefor, gw. isod 47n.)
22 trywyr Am try-, ffurf arbennig ar y rhifol tri mewn cyfuniadau, gw. GMW 16. Cyfeirir at dri mab Edward ap Dafydd oedd ar ôl wedi marw Robert Trefor, sef Siôn Trefor, Rhisiart ac Edward.
23 Torred rhif tyrau Trefawr Rai blynyddoedd ynghynt, wrth foli Edward ap Dafydd a’i bedwar mab, dymunodd Guto yn obeithlon, Byth ni ad (bython’ oediawg) / Duw ar y rhif dorri rhawg, 103.19–20. Ac mewn cerdd farwnad i Robert Trefor fab Siôn Trefor, cerdd sy’n cynnwys mwy nag un adlais o ganu Guto i deulu Bryncunallt, cwyna Guto, Troes di-liw tros y dalaith, / Tori ar rif tyrav’r iaith, GO XXXVIII.13–14. Ceir y ddwy ffurf ar yr ymadrodd, torri rhif a torri ar rif; am enghraifft arall o’r gyntaf, cf. GO XLVI.39 Tored rrif yn llys Ivor (marwnad Alswn ferch Hywel ap Goronwy).
24 troed y wlad Defnyddir troed yn achlysurol gan y beirdd yn ffigurol am noddwr sy’n gadernid i’w wlad a’i bobl, cf. disgrifiad Lewys Glyn Cothi o Philyp ap Rhys calon Gwerthrynion a’i throed, GLGC 187.
25 y tai o’r coed Disgrifiad o leoliad gartref y teulu ym Mryncunallt: cf. 104.30 y tai ’n y coed a’r nodyn. Mae’n bosibl y dylid ei ddehongli’n enw priod, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth allanol i gadarnhau hynny.
26 trychantref ‘Tri chantref’ neu ‘dair ardal’ yn llai penodol (am try-, gw. 22n), gw. GPC 418. Defnyddiodd Gruffudd ap Maredudd a Llywelyn Goch y ffurf am dri chantref Môn (GGMD iii, 3.34 a GLlG 5.45) ac Iolo Goch am dri chantref Ystrad Tywi (GIG 14.55). Yr oedd tri chwmwd yn Swydd y Waun (Nanheudwy, Cynllaith a Mochnant), ond gan fod y bardd eisoes ym marwnad Edward ap Dafydd wedi cyfeirio at golled y ddwy Faelawr (104.4), mae’n bosibl mai Nanheudwy, Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg (neu Iâl) sydd ganddo mewn golwg yma.
26 untroed Ystyr ffigurol sydd i troed, cf. 24n. Yn y cyfreithiau Cymreig ystyrid bod anifail cyfan yn gyfwerth ag un o’i draed, a bod anifail heb un o’i draed felly’n ddiwerth: LegWall 585 Untroedawg: Anifail untroedawg, Animal quod uno pede fracto nihil valet. Wrth ddychanu gŵr o’r enw Madog awgryma Iolo Goch ei fod yn berson cwbl ddiwerth wrth ei alw’n castyn untroediog, GIG 38.1. A yw Guto yma’n tynnu ar draddodiad o’r fath, ac yn awgrymu bod y wlad bellach mewn gwendid mawr oherwydd colli un o’i thraed?
31 gweddwdod Topos yn y canu marwnad yw sôn am golli noddwr yn sgil termau gweddwdod ‘amddifadrwydd’ (nid o reidrwydd yn yr ystyr benodol o golli cymar, gw. GPC 1614): cf. 89.37–8 Gwlad Aber Tanad heno / Gweddw fydd am ei guddio ’fo.
31 dyfod ei ddydd Sef dydd ei farwolaeth, sef 27 Hydref, 1452.
32 lleuad Fel arfer fe’i defnyddir yn ffigurol ‘am fenyw nodedig am ei thegwch’ yn y canu (gw. GPC 2167), ond trosiad am Robert Trefor fel arweinydd ydyw yma.
33 tref Gallai gyfeirio at dref y Waun, at drefgordd Bryncunallt, neu ynteu at gartref penodol y teulu yn y drefgordd honno: gw. GPC 3472–3 am ystod eang ystyron y gair.
35 [y] Waun Isaf Cf. 104.1 lle disgrifir Edward ap Dafydd fel llew’r Waun Isaf, sef trefgordd yn Isclawdd a ffiniai â Bryncunallt i’r dwyrain; gw. ymhellach 104.1n lle gwelir ei bod yn bosibl fod Waun Isaf weithiau’n golygu tref y Waun ei hun.
38 Trefor wych Disgrifiad o Robert Trefor, ond gall Trefor hefyd fod yn enw lle, cf. 9n.
40 allt Dichon mai ‘coedwig, llechwedd goediog’ yw ei ystyr yma, gw. GPC2 186 – am ddisgrifiad o leoliad Bryncunallt yn y coed, cf. 25 – ond gallai allt hefyd gyfeirio at leoliad castell y Waun, gw. y nodyn canlynol.
41–2 castell … / Y Waun a’i swydd … Yn sgil delweddaeth y gerdd, cymerir bod Guto yn cyfeirio’n ffigurol yma at Fryncunallt fel castell y Waun, yn hytrach na’i fod yn cyfeirio’n benodol at un o’r ddau gastell lleol arall a adwaenid fel castell y Waun (er bod yr amwysedd yn gwbl fwriadol mae’n siŵr). Lleolid castell gwreiddiol y Waun ar fryncyn ryw ganllath o’r eglwys blwyf yn y Waun Isaf; nid oes unrhyw olion o’r adeilad gwreiddiol wedi goroesi, ond fel y nodir yn RCAHM (Denbigh) 31, dyma oedd ‘… the real Castell y Waun. As such it was the “llys” of the Welsh commot of Isclawdd, the “clawdd” being Offa’s Dyke, which is close by’. Dywed Pratt (1997: 37) ymhellach fod y castell hwn yn perthyn i faerdref y ddeuddegfed ganrif ac y byddai arweinwyr brodorol a’u swyddogion wedi trigo ‘… at the motte … in effect the caput of Nanheudwy commote. It is difficult to imagine any substantial residential building on top of this tump and one must envisage that even before the conquest the motte had been discarded in favour of more palatial buildings on the level, buildings that would be used by Mortimer’s officials until such time time as Chirk Castle could accommodate the administrative offices of the lordship.’ Go brin fod yr hen gastell Cymreig hwn yn sefyll erbyn y bymthegfed ganrif (Pratt 1997: 36), ac mae’r ffaith fod Guto yn cyfeirio at Swydd y Waun yn awgrymu mai’r adeilad a adnabyddwn heddiw fel castell y Waun sydd yn ei feddwl, sef y castell a adeiladwyd gan Roger Mortimer yn niwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn y Waun Uchaf fel canolfan weinyddol i’r arglwyddiaeth; ymhellach ar y castell hwnnw, gw. RCAHM (Denbigh) 32–7. Anodd gwybod ym mha gyflwr yr oedd y castell hwnnw hefyd yn y bymthegfed ganrif – roedd mewn cyflwr gwael yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg (Pratt 1997: 29) ac mewn archwiliad yn 1569, fe’i disgrifiwyd fel ‘ruinous Castle, called Chirk Castle, which is greatly in decay and raised [razed] to the ground saving one tower, here commonly called Adam’s Tower…’ (dyfynnir ibid. 29). Wrth gwrs gall mai oherwydd cyflwr truenus y ddau gastell hyn y cyfeiria Guto at Fryncunallt bellach fel ‘castell y Waun’.
44 tir Egwestl Sef mynwent abaty Glyn-y-groes. Y ffurf Gymraeg gynharaf ar glawr am y fynachlog yw Llynheguestel a gofnodwyd yn 1200 (Pratt 2011: 11), cf. BT (Pen 20), 146a yny vlwydyn honno yr edeilwyt manachloc yn yal yr hon a elwir llynegwestyl. Ond cyffredin, o ddydiad cynnar hefyd yw Llanegwestl (o bosibl yr hen enw ar yr anheddiad a symudwyd i ardal Wrecsam, ‘to ensure the seclusion demanded by the Cistercian authorities’, Robinson 2006: 288), a cheir gan y beirdd hefyd Glynegwestl, o bosibl drwy gymryd bod y ffurf Lyn- yn dreiglad o Glyn- yn hytrach na Llyn-. O blaid dilysrwydd Llynegwystl fel enw, cyfeira Pratt (2011: 11) at dystiolaeth o ddiwedd yr unfed ar ganrif ar bymtheg dros ‘a poole called Llyn y Gwistle which is in the River Dee where a Great Stone of Rock lyeth which is known to be the Ancient Meare between the said Mannor [de Langwestle] & the lands of the Lord of Chirk …’.
45 gyda Sain Greal Cyfeiriad gogleisiol ond amwys. Yn ogystal â golygu ‘Y Greal Sanctaidd, … sef y ddysgl yr honnid i Grist ei ddefnyddio yn y Swper Olaf …’, gallai Greal neu Sain Greal olygu ‘llyfr yn cofnodi hanes anturiau marchogion Bord Gron Arthur yn eu hymchwil am y Greal; cronicl neu lyfr hanes’ (sef yr ystyr yng ngherdd 114) neu fod yn ffigurol am ‘[d]dyn dysgedig, hanesydd’, GPC 1528. Yr ystyr ffigurol a geir yn y cwpled canlynol gan Lewys Môn i ddisgrifio natur ddysgedig Elisau ap Gruffudd, GLM LXIX.69.27 Sain Greal yn Iâl ynn oedd.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa, yn y 1480au, canodd Guto gerdd i Drahaearn ab Ieuan ap Meurig o Ben-rhos ar ran yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes yn gofyn am gael benthyg copi o Lyfr y Greal, Llyfr enwog o farchogion, / Llyfr at grefft yr holl Fort Gron (114.49–50). Tybed a oedd ddiddordeb arbennig mewn testunau am y Greal Sanctaidd yng Nglyn-y-groes a bod llawysgrifau eraill yn ymwneud â’r Greal neu ag Arthur a’r Ford Gron yn y fynachlog? Os felly gellid dehongli’r llinell bresennol i olygu bod Robert Trefor wedi ei gladdu mewn sefydliad lle yr oedd copi o lyfr o’r fath yn bresennol.
47 merch o Wynedd Elsbeth ferch Gwilym ap Gruffudd o’r Penrhyn yng Ngwynedd oedd gwraig Robert Trefor, gw. WG1 ‘Marchudd’ 6.
48 A deigr byth a’i dwg i’r bedd Cf. 5.18 Dagrau byth a’m dwg i’r bedd (yn cwyno am salwch yr Abad Rhys o Ystrad-fflur). Mae rhyw dinc rhamantaidd annisgwyl i’r llinell hon.
49 Aeth hir ofal â Threfawr Cymerir mai cyfeirio at gipio ardal Trefawr gan dristwch neu ofid (gofal) y mae’r bardd, ond gall mai cyfeirio at y teulu a wneir (gw. 9n uchod).
55 cwyn Yn yr ystyr gyfreithiol ‘achos cyfreithiol’ neu ‘gyhuddiad’, gw. GPC 653 d.g. cwyn1 (b).
55 Is Conwy Sef Gwynedd Is Conwy, neu’r Berfeddwlad, sef y rhan o Wynedd i’r dwyrain o afon Conwy a gynhwysai gantrefi Rhos, Rhufoniog, Dyffryn Clwyd a Thegeingl.
59 ei gâr Gan mai moli Robert am fod yn ‘gerddgar’ tuag at ei gâr y mae’r bardd, mae’n debygol mai Guto ei hun yw’r câr yma. Fe’i haralleirir fel ‘cyfaill’ yma, ond mae’n aml yn golygu ‘perthynas trwy waed, aelod o’r un cyff neu genedl neu dylwyth’, gw. GPC 422. Mae’n ddigon posibl fod Guto yn perthyn i deulu Trefor.
60 Dinbych Canmol Robert Trefor am fod yn llym tuag at drigolion Dinbych a wneir yn y cwpled hwn, a cheir cadarnhad mewn ffynonellau eraill fod Robert wedi bod yn ddirprwy stiward, ac o bosibl yn stiward Dinbych: gw. Robert Trefor.
61 maer Yn y cyfreithiau Cymreig y maer oedd ‘un o swyddogion gweinyddol y llys … a oedd yn gyfrifol am oruchwylio tiroedd a chasglu trethi’, ac mewn cyfnodau diweddarach fe’i defnyddir am ‘stiward, swyddog’, &c., GPC 2311. Mae’n ddigon posibl fod hwn yn gyfeiriad penodol at statws Robert Trefor fel dirprwy stiward ym mwrdeistref Dinbych.
63 rysyfwr ‘Un a benodir i dderbyn arian sy’n ddyledus’, GPC 3142. Gwyddom fod Robert Trefor wedi dal mwy nag un swydd fel rysyfwr yn ystod ei oes (un ym mwrdeistref Holt c.1429, a chofnodir iddo fod yn rysyfwr cyffredinol yn arglwyddiaeth Powys yn 1435): gw. ymhellach Robert Trefor.
65 Y Gwener y bu gynnal Diffinnir yr enw cynnal yn GPC 785 (d.g. cynhaliaf: cynnal) fel ‘cynhaliaeth, cynhorthwy, cymorth’, ond awgrymaf yn betrus mai ffurf amrywiol ar cynnadl sydd yma, sef ‘cyfarfod neu gynulliad, … cynullfan penodedig, oed neu bwyntmant’, &c., y ceir enghreifftiau yng nghyswllt Dydd y Farn yn GPC 794. (Er na restrir yno’r amrywiad hwn, cf. danadl → danal, ibid. 886.) Yn ôl tystiolaeth cofnod cyfoes yn Pen 26, bu farw Robert Trefor ar 27 Hydref 1452 (Phillips 1970–2: 74, 76), sef ar ddydd Gwener. Ai at ddydd ei farwolaeth y cyfeirir yma, felly?
71 dan dwng Ar twnc / twng ‘tâl a delir i arglwydd neu frenin yn lle gwestfa (yn y cyfreithiau Cymreig; weithiau hefyd am daliadau eraill); cyfran o ŷd a delir gan denant i feistr tir’, gw. GPC 3656–7 d.g. twng1, twnc (b). Cyfeirio a wna yma at arian a delid yn dreth, sef yr arian a gesglid yn y gorffennol gan Robert Trefor ar ran dug Iorc.
76 prynu Yma ‘bod yn swm digonol i gael (rhywbeth)’, GPC 2923. Mae hon yn llinell anodd i’w haralleirio, ond cymerir mai’r ystyr yw bod rhinweddau Robert (e.e. ei haelioni i dlodion a grybwyllir yn y llinell nesaf) wedi bod yn ddigonol iddo dalu pris nefoedd (nefwerth) Duw.
Llyfryddiaeth
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Peers, C.R. (1915–16), ‘Carnarvon Castle’, THSC: 28–74
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Pratt, D. (2011), ‘Valle Crucis abbey: lands and charters’, TCHSDd 59: 9–55
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Taylor, A. (2001), Caernarfon Castle and Town Walls (fifth edition, CADW, Cardiff)
This is the third, and probably the most notable poem Guto sang to the Trefor family in Bryncunallt, Chirk. It is an elegy for Robert Trefor, the eldest of Edward ap Dafydd’s four sons, who died on 27 October, 1452, seven years following the death of his father, whom Guto elegized in poem 104.
The poem opens with praise of Edward’s wide castle with its ‘fine towers and three wards’; but it isn’t Edward ap Dafydd’s castle that the poet has in mind here, as we learn in the following couplet, but one of ‘Edward the Conqueror’s fortresses’, and the reference to the Eagle Tower (line 20) suggests Caernarfon castle. This castle is compared to Edward ap Dafydd and his four sons: Edward himself is the fortress, and his four sons are the towers: ‘Trefor’s castle was he / and his four sons its great towers’ (9–10). But, after having defended Trefor well in the past, God has now removed the father and one of the four towers, thus weakening the region’s defence. Robert was the key tower, and his destruction means that the land is now deprived of one of its most precious limbs: ‘the land’s foot has been broken: /… / the three provinces, the breaking of one of your feet’ (24, 26). But the grief following his death is not just local, but the whole country, the ‘nation’ and all of Wales is suffering (33–6).
Guto informs us that Robert was buried on the abbey’s land at Valle Crucis (43–6), as was his father, Edward ap Dafydd (CTC 362), and many of his forebears. Guto refers specifically to the grief of Robert’s wife, Elsbeth daughter of Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn. Her tears, Guto claims, will follow her to her grave (48). We may presume that this elegy was declaimed under the patronage of Elsbeth and of Robert’s brothers, and her presence may well explain the comparison of Edward and his sons to Caernarfon castle. When Rhys Goch Eryri praised Elsbeth’s father, Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn, he compared Gwilym’s castle favourably with that of Caernarfon (GRhGE poem 2). Did Guto chose the comparison deliberately in order to please Elsbeth?
In lines 55–74 we learn about Robert’s career. Guto mourns his loss in the law courts of Is Conwy (55–6), and praises his firm but fair leadership as ‘steward and leader’ in the borough of Denbigh. He further suggests that Robert had held the office of receiver during his lifetime, collecting and delivering monies to the duke of York (68); however, ‘The fine man is today a receiver / and officer to Jesus’ (63–4), and instead of paying money, he is now ‘paying meritorious deeds’ to God (72). As we can see from the discussion on Robert Trefor, we can be certain that Guto is drawing here on detailed knowledge about Robert’s career, because he did indeed hold the office of receiver and deputy steward during his lifetime.
This cywydd is particularly long (78 lines) compared with the average length of Guto’s poems. It is also particularly skilful. Had Guto made a special effort to please the high expectations of the patron who had commissioned him? Was that patron Siôn Trefor? We know, from Guto’s testimony as well as external evidence (see Siôn Trefor), that Siôn had particular interest in literature: he was an important patron to Gutun Owain (GO XXXV, XXXVI ) and also to Guto as Guto tells us in poems dating from the 1480s (see 108.19–24, 117.55–6). Even though no poems by Guto to Siôn have survived, it is quite possible that Siôn continued to patronize him throughout his career. Attention has already been drawn to the extended metaphor in the first part of the poem, but note also the extensive use of cymeriad in this poem: for example lines 15–28 begin with Tr.. / T..r, lines 29–36 with G-. Especially effective are the lines which begin with the same word but with its meaning changing slightly from line to line (e.g. various forms of the verb torri ‘to break’ in lines 23–7, or the repetition or the word aeth ‘went’ in lines 49–54). By contrast note the lack of cymeriad in the opening paragraph (1–10), where the poet explains the context of the poem. Here the sentences flow easily from one line to the next, and one could be forgiven for not realising that each line has rich cynghanedd.
Date
Not long after 27 October, 1452, the date of Robert Trefor’s death.
The manuscripts
There are 22 manuscript copies of this poem. As there is not much variation between these, we can be confident that they derive ultimately from the same written source. As can be seen from the stemma, the manuscripts can be divided into three groups: i. BL 14967, a relatively early manuscript (mid-sixteenth century) from the north-east with close connections with the Trefor family and possibly Valle Crucis and Gutun Owain. However some lines are missing (e.g. 11–12, 17–18) and some lines seem to have been reworked. None of the other manuscripts derive from it; ii. manuscripts deriving from Pen 80, another fairly early copy (c.1560–80) from the north-east; iii. manuscripts deriving from X1, a lost exemplar which was the source of copies by Huw Machno (Llst 168 and C 2.617) and those copied in the Conwy Valley (LlGC 3049D and LlGC 8497B, through another lost exemplar, X2 in the stemma). As a guiding principle, if two groups agree against one, priority is given to readings supported by the majority.
Previous edition
GGl poem XVIII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 78 lines.
Cynghanedd: croes 43% (33 lines), traws 32% (25 lines), sain 19% (15 lines), llusg 6% (5 lines).
1 castell Edwart In the opening paragraph Guto compares Edward ap Dafydd and his sons in Bryncunallt (his [t]wf ‘offspring’, line 6) with Edward the Conqueror’s magnificent castle in Caernarfon. Caernarfon is noted for its ‘fine towers’ (2) and Guto names one of them, ‘Eagle Tower’ (20). Peers 1915–16: 12 (opposite) gives a plan of the castle: it extends from the Eagle Tower in the west to to the Queen’s Gate in the east. Guto describes the castle in line 2 as having ‘three wards’ ([t]air gwart), but if gwart is understood as the inner ward of a castle (GPC 1586) it must be noted that Caernarfon castle has two, and not three wards, see Taylor 2001: 25 ‘The plan of the castle is shaped rather like a “figure eight”, originally divided into two at the waist with a lower ward to the right (west) of the main entrance and an upper ward to the left (east).’ If it were not for the specific reference to Eagle Tower (20), we might also consider [c]astell Edwart here to be Chirk castle, built by Roger Mortimer at the end of the thirteenth century under the instruction of Edward I. The ambiguity may well be deliberate.
2 gwart GPC 1586 ‘ward (of castle), fortification, keep’.
4 caerau Probably a general reference to Edward I’s castle.
4 gŵr Edward I.
5 twf Edwart ap Dafydd His children, his four sons.
7 rhedeg It means ‘prosper’ here, a slight extension of meanings such as ‘run, stretch’ or ‘flow, surge, swell’, &c., noted in GPC 3043.
9 Trefawr A place name in Nanheudwy, which was used as an epithet by the Bryncunallt family who traced their lineage back to Tudur Trefor. Llangollen parish contained three traean (literally ‘thirds’), namely Llangollen, Trefor and Glyn. Trefor contained the townships of Cilmediw, Dinbren, Eglwyseg, Trefor Isaf a Threfor Uchaf. Many of the Trefor family held land in the last two townships at the end of the fourteenth century, see Jones 1933: 13–15. It is likely that Guto is referring to the place name in the present line and in line 23, but it might be the family name in line 38.
12 Y tad a’r pedwerydd tŵr Namely Edward ap Dafydd (who died 25 April, 1445) and Robert Trefor (who died 27 October, 1452). pedwerydd means ‘one of four’ here rather than ‘fourth’; for this special use of the ordinal numbers in Middle Welsh, see GMW 48.
16 tŵr y porth Robert Trefor was the chief tower of the castle, the ‘gate tower’ or ‘gatehouse’, higher than his brothers, the ‘beautiful towers’. Is it possible that Tŵr y Porth is a specific tower, as is Tŵr yr Eryr, line 20n? Did Guto have Caernarfon castle’s King’s Gate in mind here? See Taylor 2001: 26–7, ‘No building in Britain demonstrates more strikingly the immense strength of medieval fortification than the great twin-towered gateway to Caernarfon Castle.’
18 tŵr i’r Mars Powys Fadog, which included Chirkland, became one of the lordships of the March following the 1282/3 conquest. Gutun Owain also described Siôn Trefor’s three sons as Tyrav’r Mars ‘towers of the March’, GO XXXVII.44.
19 tŵr Edwart Edward I, cf. 20n.
20 Tŵr yr Eryr The Eagle Tower, built in the period 1285–94, is one of the most impressive towers of Edward I’s castle in Caernarfon. It was originally called ‘The Great Tower’ but in April 1317 an image of an eagle was placed on it and from then on it has been called the ‘Eagle Tower’. For a detailed description, see Peers 1915–16: 22, 41–9 and RCAHM (Caernarvonshire) ii, 132–3; Taylor 2001: 30–2. As noted above, Rhys Goch Eryri also refers to this tower in a praise poem to Gwilym ap Gruffudd, where he claims that Gwilym’s court in Penrhyn is superior to the Eagle Tower: GRhGE 2.65–8 Llwyr y mae gwell o bell byd / Llys wenfalch … / Gwilym … / Euraid, no Thŵr yr Eryr ‘The white and proud court of splendid Gwilym is far better than Eagle Tower’. It might not be irrelevant, as discussed in the background note above, that Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn was Robert Trefor’s father in law, see 47n.
22 trywyr For the use of try-, a form of the numeral tri used in combinations, see GMW 16. Guto is referring to the three surviving sons of Edward ap Dafydd, Siôn Trefor, Rhisiart and Edward.
23 Torred rhif tyrau Trefawr Some years previously, in his praise to Edward ap Dafydd and his four sons, Guto declaimed hopefully, Byth ni ad (bython’ oediawg) / Duw ar y rhif dorri rhawg (‘God will never allow (may they enjoy a long life!) / their number to be diminished in the future’, 103.19–20). And in a poem, which has more than one echo of Guto’s poems to the Bryncunallt family, Gutun Owain complains upon the death of Robert Trefor’s nephew, Robert Trefor son of Siôn Trefor, Troes diliw tros y dalaith, / Tori ar rif tyrav’r iaith (‘A flood has covered the kingdom, / diminishing the number of the country’s towers’, GO XXXVIII.13–14).
24 troed y wlad Troed ‘foot’ is sometimes used figuratively by the poets of a patron who is a steadfast ruler of his people and country, cf. Lewys Glyn Cothi’s description of Philyp ap Rhys, calon Gwerthrynion a’i throed (‘the heart of Gwerthrynion and her foot’, GLGC 187.8).
25 y tai o’r coed A description of Bryncunallt’s location: cf. 104.30 y tai ’n y coed ‘the homestead in the woods’, and 104.30n. Perhaps it should be taken as a proper name, but no external evidence has been found to support that suggestion.
26 trychantref ‘Three hundreds’ or less specifically ‘three provinces’ (for try-, see 22n), GPC 418. Gruffudd ap Maredudd and Llywelyn Goch both used the form for the three hundreds of Anglesey (GGMD iii, 3.34 a GLlG 5.45) and Iolo Goch for the three hundreds of Ystrad Tywi (GIG 14.55). There were three commotes in Chirkland (Nanheudwy, Cynllaith and Mochnant), but since the poet has already referred to the loss of the ‘two Maelors’ in Edward ap Dafydd’s elegy (104.4), it is possible that he’s thinking here of Nanheudwy, Maelor Gymraeg and Maelor Saesneg (or Yale).
26 untroed For troed in a figurative sense, cf. 24n. In the Welsh Laws a whole animal was deemed to be of the same value as one of its feet, and therefore an animal which had lost one of its feet was considered to be worthless: LegWall 585 Untroedawg: Anifail untroedawg, Animal quod uno pede fracto nihil valet. In a satirical poem, Iolo Goch suggests that a certain Madog is worthless by calling him a castyn untroediog ‘one-legged scoundrel’, IGP 38.1. Is Guto here drawing on the same tradition, by suggesting that the land has been severely weakened through the loss of one of its feet?
31 gweddwdod A patron’s death is often described as gweddwdod ‘bereavement, deprivation’ (not necessarily widowhood, the loss of a husband or wife, as in modern Welsh, see GPC 1614): cf. 89.37–8 Gwlad Aber Tanad heno / Gweddw fydd am ei guddio ’fo ‘The land of Abertanad will be widowed tonight / because he was concealed.’
31 dyfod ei ddydd I.e. the coming of his death day, which was 27 October, 1452. See Robert Trefor.
32 lleuad ‘Moon’, usually used figuratively of ‘a lady of outstanding beauty’ in the poetry (see GPC 2167 s.v. lleuad 2b), but here it is used metaphorically of Robert Trefor as a leader of his people.
33 tref It could refer to Chirk town, to the township of Bryncunallt, or even to Robert’s home: see GPC 3472–3 for its wide range of meanings.
35 [y] Waun Isaf ‘Lower Chirk’, a township in Isclawdd, on the western border of Bryncunallt township; cf. 104.1 where Edward ap Dafydd is described as llew’r Waun Isaf ‘the lion of Lower Chirk’. Waun Isaf could sometimes refer to the town itself, see 104.1n.
38 Trefor wych A description of Robert Trefor, but Trefor could also be a place name here, cf. 9n.
40 allt Probably ‘wooded slope’ here, see GPC2 186 – for a description of Bryncunallt’s location in the woods, cf. 25 – but allt could also refer to the location of Chirk castle, see the following note.
41–2 castell … / Y Waun a’i swydd … castell … Y Waun ‘Chirk castle’ is taken to refer figuratively to Bryncunallt, rather than another local castle which was called ‘Chirk castle’ (although the ambiguity may well be deliberate). The original ‘Chirk castle’ was located on a small hillock about a hundred yards from the parish Church in Lower Chirk; no remains of the original building have survived, but it is noted in RCAHM (Denbigh) 31, that this was ‘… the real Castell y Waun. As such it was the “llys” of the Welsh commot of Isclawdd, the “clawdd” being Offa’s Dyke, which is close by’. Pratt (1997: 37) notes that this castle originally belonged to the twelfth-century maerdref and that local leaders and their officers would have been housed ‘… at the motte … in effect the caput of Nanheudwy commote. It is difficult to imagine any substantial residential building on top of this tump and one must envisage that even before the conquest the motte had been discarded in favour of more palatial buildings on the level, buildings that would be used by Mortimer’s officials until such time as Chirk Castle could accommodate the administrative offices of the lordship.’ It is highly unlikely that this old Welsh castle was still standing by the fifteenth century (Pratt 1997: 36), and the fact that Guto refers here to the lordship of Chirkland (Swydd y Waun) suggests that he is thinking about the Chirk castle of today, built by Roger Mortimer at the end of the thirteenth century in Upper Chirk, as an administrative centre for the lordship, see RCAHM (Denbigh) 32–7. It is not clear what the state of this castle was by the fifteenth century either – it seems to have been in a sorry state in the middle of the fourteenth century (Pratt 1997: 29) and in an inspection carried out in 1569, it was described as a ‘ruinous Castle, called Chirk Castle, which is greatly in decay and raised [razed] to the ground saving one tower, here commonly called Adam’s Tower…’ (quoted ibid. 29). Of course it might be that Guto is referring here to Bryncunallt as ‘Chirk castle’ because the other two castles were in such a bad state.
44 tir Egwestl The cemetery of Valle Crucis. The earliest recorded name in Welsh for the abbey was Llynegwestl, cf. BT (Pen 20), 146a yny vlwydyn honno yr edeilwyt manachloc yn yal yr hon a elwir llynegwestyl ‘in that year an abbey was built in Yale which is called Llynegwestl’. From an early date the form Llanegwestl is also common (possibly the name of the township that was moved to the Wrexham area ‘to ensure the seclusion demanded by the Cistercian authorities’, Robinson 2006: 288), and the poets also refer to Glynegwestl, possibly deriving from taking Lyn- to be the lenited form of Glyn- rather than Llyn-. There is evidence from the end of the sixteenth century to support the form Llynegwystl: ‘a poole called Llyn y Gwistle which is in the River Dee where a Great Stone of Rock lyeth which is known to be the Ancient Meare between the said Mannor [de Langwestle] & the lands of the Lord of Chirk …’, see Pratt 2011: 11.
45 gyda Sain Greal A suggestive but ambiguous reference. Greal or Sain Greal could not only mean ‘the Holy Grail, … the platter used by Christ at the Last Supper’ but also ‘the book of the Grail, recording the adventures undergone in the search for it by various knights of Arthur’s Round Table; chronicle, book containing various histories’ (its meaning in poem 114) and figuratively of a ‘learned man, historian’, GPC 1528. For the latter meaning, cf. the following description of the learned Elisau ap Gruffudd by Lewys Môn, GLM LXIX.69.27 Sain Greal yn Iâl ynn oedd ‘he was our Sangrail in Yale’.
Later in his career, in the 1480s, Guto composed a poem to Trahaearn ab Ieuan ap Meurig of Pen-rhos on behalf of Abbot Dafydd ab Ieuan of Valle Crucis to request the borrowing of a copy of the Book of the Grail, Llyfr enwog o farchogion, / Llyfr at grefft yr holl Fort Gron ‘a famous book about knights, / a book to match the skill of all the Round Table’, 114.49–50. Did the monks in Valle Crucis have a specific interest in books about the Holy Grail, and were there other manuscripts recounting the tales of Arthur and the Round Table there? If so, gyda Sain Greal might mean that Robert Trefor was buried in an institution where such a book was found?
47 merch o Wynedd Robert Trefor’s wife was Elsbeth daughter of Gwilym ap Gruffudd of Penrhyn, Gwynedd, see WG1 ‘Marchudd’ 6.
48 A deigr byth a’i dwg i’r bedd Cf. 5.18 Dagrau byth a’m dwg i’r bedd ‘ceaseless tears are taking me to the grave’ (complaining of Abbot Rhys’s illness). The sentiment expressed here is rather unexpected for the period.
49 Aeth hir ofal â Threfawr Trefawr is taken to be the place name here: the ‘long-lasting grief’ (hir ofal) has taken hold of the whole area; however it could also be understood as the family name (see 9n).
55 cwyn In a legal sense, ‘plaint or complaint (in law)’ or ‘accusation, charge, indictment’, GPC 653 s.v. cwyn1 (b).
55 Is Conwy Gwynedd Is Conwy, the part of Gwynedd to the east of the river Conwy. It was also called Y Berfeddwlad ‘the Middle country’, and it contained the hundreds of Rhos, Rhufoniog, Dyffryn Clwyd and Tegeingl.
59 ei gâr As Robert is described as being ‘fond of poetry’ towards his câr, câr is likely to be Guto himself. It is taken to mean ‘companion’ here, but it often means ‘kinsman, relative’ more specifically, GPC 422. Guto may well have been related to the Trefor family.
60 Dinbych Guto is praising Robert Trefor for his ‘severe and ardent’ rule over the citizens of Denbigh in this couplet, and we know from external sources that he was indeed deputy steward in the borough at one time: see Robert Trefor.
61 maer In the Welsh laws the maer was ‘one of the administrative officers of the court … responsible for land supervision and the collection of dues’, and later it was used also of ‘steward, … officer, official’, GPC 2311. This may well be a specific reference to Robert Trefor’s status as deputy steward in Denbigh. See Robert Trefor.
63 rysyfwr ‘One appointed to receive money due’, GPC 3142. Robert Trefor held more than one post as receiver during his career (in the borough of Holt c.1429, and later he is named as general receiver in the lordship of Powys in 1435): see further Robert Trefor.
65 Y Gwener y bu gynnal For the noun cynnal ‘support, assistance, aid’, see GPC 785 s.v. cynhaliaf: cynnal; however it is more likely to be a variant form of cynnadl here, ‘conference, convention, … appointed meeting-place, rendezvous’, GPC 794 where examples are given regarding Judgement Day. The variant form is not noted in GPC, but cf. danadl → danal, ibid. 886. According to a contemporary entry in Pen 26, Robert Trefor died on 27 October, 1452 (Phillips 1970–2: 74), which was a Friday. Is this line a reference to the day he died?
71 dan dwng For twnc / twng ‘payment made to a lord or king as commutation of the food-rent “gwestfa” (in the Welsh laws; also used of other payments); portion of corn payable by a tenant to a landlord’, see GPC 3656–7 s.v. twng1, twnc (b). Here it means money paid as tax, namely the money collected in the past by Robert Trefor on behalf of the duke of York.
76 prynu A difficult line to translate. Robert’s virtues (i.e. his generosity to the poor which is mentioned in the following line) are enough to pay for (prynu) the price of heaven (nefwerth), i.e. the price of his place in heaven.
Bibliography
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Peers, C.R. (1915–16), ‘Carnarvon Castle’, THSC: 28–74
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Pratt, D. (2011), ‘Valle Crucis abbey: lands and charters’, TCHSDd 59: 9–55
Robinson, D. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Taylor, A. (2001), Caernarfon Castle and Town Walls (fifth edition, CADW, Cardiff)
Robert Trefor oedd mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd o Fryncunallt. Cerddi Guto yw’r unig rai sydd wedi goroesi iddo: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104); ‘Marwnad Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt’ (cerdd 105). Er nad cerddi penodol i Robert yw’r ddwy gyntaf, maent yn cynnwys elfen gref o fawl iddo ef yn ogystal â’i dad, Edward, a’i dri brawd: Siôn, Edward a Rhisiart. Ymhellach arnynt, gw. y nodyn ar Edward ap Dafydd a’i deulu.
Achres
Seiliwyd yr achres ganlynol ar wybodaeth yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 14; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14B; HPF iv: 16. Nodir y rhai a enwir yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Achres Robert Trefor ab Edward o Fryncunallt
O edrych ar batrwm enwi’r teulu, gwelir eu bod yn tueddu i ddilyn yr arfer draddodiadol o enwi’r mab hynaf ar ôl y tad neu’r taid, a dichon fod Robert wedi ei enwi ar ôl Robert Pilstwn, ei daid ar ochr ei fam.
Priododd Robert ag Elsbeth ferch Gwilym o’r Penrhyn, sef chwaer i noddwr Guto, Wiliam Fychan ap Gwilym (105.47 [m]erch Wilym). Ei hail briodas oedd hon, a’i gŵr cyntaf oedd un o frodyr yr Iarll Grey, Rhuthun. Ni chafodd Robert a hithau blant, ond yr oedd gan Robert eisoes fab anghyfreithlon, Wiliam Trefor, a fu, yn ôl Robert Vaughan (Pen 287, 55), yn Siaplen i Sion ap Richard abad llanegwystl p’decessor i esgob Dauydd ap Ien ap Ieth ap Jenn Baladr.
Dyddiadau
Ar ddalen strae yn Pen 26, 97–8, ceir cofnod cyfoes yn nodi i Robert Trefor farw ar 27 Hydref 1452: Obitus Roberti Trevor vigilia apostolorum Symonis et Jude anno domini MCCCCLII (gw. Phillips 1970–2: 74). Cadarnheir y dyddiad gan Robert Vaughan yn Pen 287, 55. (Ni cheir ffynhonnell i’r dyddiad 1442 a roddir yn WG1 ‘Trefor’ 14.) Fe’i claddwyd yng Nglyn-y-groes, fel y tystia Guto (105.44–5), sy’n awgrymu’n gryf iddo fod yn noddwr i’r abaty yn ystod ei fywyd. Fel y gwelir isod, 1429 yw’r cyfeiriad cynharaf ato, ond yr oedd eisoes yn ddigon hen i gymryd swydd o awdurdod erbyn hynny. Os oedd ychydig yn hŷn na’i frawd, Siôn Trefor, a fu farw yn 1493, anodd credu iddo gael ei eni cyn dechrau’r bymthegfed ganrif.
Ei yrfa
Cawn dipyn o wybodaeth gan Guto am Robert Trefor. Mae’n amlwg mai ef oedd pennaeth effeithiol Bryncunallt erbyn y 1440au, er bod ei dad, Edward, yn dal ar dir y byw pan ganwyd y gerdd gyntaf (103.35–42). Awgryma Guto hefyd fod gan Robert ddylanwad yng Nghroesoswallt (103.45). Wrth ganu marwnad i Edward, cadarnha Guto mai Robert bellach oedd y pennaeth, a’r un a etifeddodd ddoethineb a [g]ras ei dad (104.42). Fel y tad, molir Robert am ei ran allweddol yn y gwaith o gadw rheolaeth a threfn yn y wlad, ac fe’i gelwir yn gyfreithiwr grym (105.51). Wrth ganu marwnad Robert, awgryma Guto iddo ddal swyddogaeth farnwriaethol o ryw fath yn Is Conwy, lle gweithredai’n nerthog tuag at y cadarn, a trugarog wrth y gwan (105.55–8). At hynny, gweithredai’n arw a thanbaid yn Ninbych (105.60) yn ei swyddogaeth fel maer a meistr (105.61). Ond bellach, a Robert wedi marw, mae’n rysyfwr (Saesneg reciever) a swyddog i Iesu (105.63–4). Lle gynt bu’n mynd ag arian i’r dug o Iorc, bellach mae’n mynd at Dduw gyda thaliadau o weithredoedd teilwng (105.65–74). Yn sicr mae geiriau Guto’n awgrymu y bu i Robert gyfrifoldebau am arian yn Ninbych, a’i fod wedi gweithredu fel resyfwr yn ystod ei yrfa, o bosibl yn y fwrdeistref honno.
Meddai Robert Vaughan amdano yn Pen 287, 55: Robert Trevor obiit 1452 y gwr ymma fu Stiwart Dinbech, Sirif Sir y Fflint vstus a Siambrlen Gwynedd. Ac eithrio’r ffaith ei fod yn ddirprwy stiward yn Ninbych yn 1443 (gw. isod), ni chafwyd tystiolaeth ddogfennol i ategu unrhyw un o’r swyddi penodol hyn. Fodd bynnag, mae’n amlwg iddo ddal amryw swydd gyhoeddus. Arbennig o berthnasol, o safbwynt yr hyn a ddywed Guto amdano, yw’r ffaith iddo gael ei benodi’n rysyfwr Holt yn 1429, ac yn rysyfwr cyffredinol arglwyddiaeth Powys yn 1435. Cyfeirir isod at y swyddi hyn ynghyd â gwybodaeth arall am weithgarwch Robert:
1429 Gyrrodd bwrdeisiaid Holt betisiwn at Joan de Beauchamp (m. 1435), yn protestio am benodiad Robert Trefor (a gysylltir yno â Threfalun) i swydd rysyfwr Brwmffild ac Iâl. Collwyd y ddogfen wreiddiol, ond goroesodd copi ohoni o’r unfed ganrif ar bymtheg (gw. Pratt 1977). Sail yr anfodlondrwydd oedd y ffaith fod Robert Trefor yn ŵyr i Robert Pilstwn a bod ei nain yn chwaer i Owain Glyndŵr. Robert Pilstwn, meddent, oedd y gŵr a fu’n gyfrifol am ymosod ar gastell Holt yn 1401, a dim ond by strenght of yowr forsayd tenants & burges and english officers your Sayd Castell & towne was savyd unbrend … 1435 8 Rhagfyr Penodwyd William Borley yn stiward yng nghestyll, maenorau a thiroedd y brenin yn arglwyddiaeth Powys, a Robert Trefor yn rysyfwr cyffredinol yno (CPR 1429–36, 497). 1437 5 Ionawr Cofnodir i Thomas Pulford gael ei benodi’n sietwr sir y Fflint, yn yr un modd ag y bu Robert Trefor cyn hynny (CPR 1436–41, 39). 1441 Enwir Robert a’i dad, Edward, yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy (LlGC Puleston 935). 1443/4 Yng nghasgliad dogfennau arglwyddiaeth Rhuthun ceir tair dogfen wedi eu dyddio 1443/4 sy’n ymwneud â throsglwyddo tir yn Ninbych lle enwir Robert ab Edward/Robert Trefor fel dirprwy stiward yn y fwrdeistref honno. Y stiward ar y pryd oedd William Burlegh/Burley (LlGC Arglwyddiaeth Rhuthun, rhifau 103, 753, 766). 1446 24 Mawrth Rhoddwyd maddeuant cyffredinol am unrhyw droseddau a gyflawnwyd cyn 10 Mawrth 1446 ac wedyn i Robert Trefor, gentilman, mab Edward ap Dafydd o’r Waun, gan ei gysylltu hefyd â Halston ac â Wigington (CPR 1441–6, 415).Llyfryddiaeth
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, TCHSD 26: 153–5
Cadwyd dwy gerdd gan Guto sy’n ymwneud ag Edward ap Dafydd, penteulu Bryncunallt yn y Waun: ‘Moliant i feibion Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 103); ‘Marwnad Edward ap Dafydd o Fryncunallt’ (cerdd 104). Ni cheir cerddi eraill i Edward. Canodd Guto gywydd marwnad i fab hynaf Edward, Robert Trefor (cerdd 105), ac yn ddiweddarach yn ei yrfa tystia iddo dderbyn nawdd gan Siôn Trefor, ail fab Edward, ond ni chadwyd y cerddi. Perthyn ei gerddi sydd wedi goroesi i deulu Bryncunallt i’r cyfnod rhwng y 1440au cynnar a 1452. Ymhellach ar feibion Edward, gw. isod.
Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, 14, ‘Marchudd’ 6, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C1; HPF iv, 16. Nodir y rhai a enwir (neu y cyfeirir atynt yn achos Owain Glyndŵr) yng ngherddi 103–5 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Priododd y ddau frawd Iorwerth Ddu a Dafydd, meibion Ednyfed Gam, â dwy chwaer, Angharad a Gwenhwyfar, merched Adda Goch ab Ieuaf ab Adda ab Awr, gan ddod â dwy gangen o linach Tudur Trefor ynghyd. Mae’r ddisgynyddiaeth hon o Awr yn un a grybwyllir yn aml gan Guto yng nghyswllt y canu i’r teulu, o bosibl oherwydd y cyswllt tybiedig rhwng Awr a Threfor ger Llangollen, un o gadarnleoedd y teulu yn Nanheudwy (gw. 103.22n). Mab i Lywelyn, brawd Adda Goch, oedd Siôn Trefor a fu’n esgob Llanelwy 1346–57; mab i Angharad ferch Adda Goch (gwraig Iorwerth Ddu) oedd yr ail Siôn Trefor a ddaliodd yr un swydd yn 1394–1410. (Gw. Jones 1965: 38; Jones 1968: 36–46; am ganu Iolo Goch i un neu’r ddau ohonynt, gw. GIG 275–6.) Roedd yr ail Esgob Siôn Trefor hwn, felly, yn frawd i Fyfanwy y canodd Hywel ab Einion Lygliw awdl serch iddi cyn iddi briodi Goronwy Fychan o Benmynydd.
Drwy briodi Angharad ferch Robert Pilstwn, sicrhaodd Edward ap Dafydd berthynas agos â dau arall o brif deuluoedd yr ardal, sef teulu’r Pilstyniaid ar y naill law, gyda’u prif gartref yn Emral ger Wrecsam (gw. ymhellach Siôn ap Madog Pilstwn o Hafod-y-wern a Rhosier ap Siôn Pilstwn o Emral), a theulu Owain Glyndŵr ar y llall, hen deulu Cymraeg a allai olrhain ei linach yn ôl i dywysogion Powys a Gwynedd. Mae Guto yn ofalus i atgoffa’i gynulleidfa o’r cysylltiadau hyn (e.e. 103.23–6).
Mae’n ddigon posibl na fu Edward ei hun yn noddwr barddoniaeth, ac mai drwy ei wraig, Angharad ferch Robert Pilstwn, y daeth beirdd i ymweld ag aelwyd Bryncunallt. Ond yn sicr bu o leiaf ddau o’i feibion, Robert Trefor a Siôn Trefor, yn noddwyr beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn a Gutun Owain (gw. isod).
Ei ddyddiadau
Gallwn fod yn weddol hyderus am ddyddiad marw Edward. Yn Pen 26, 97–8, ceir dalen strae yn cynnwys nodiadau cyfoes mewn gwahanol lawiau yn dyddio rhwng 1439 a 1461 sy’n ymwneud ag ardal Croesoswallt. Cyfeiria’r cofnodion yn benodol at aelodau o deulu Trefor o Fryncunallt, ac awgryma hyn mai aelodau o’r teulu hwnnw a fu’n cofnodi. Nodir yno i Edward farw ar 25 Ebrill 1445: Obitus Edwardi ap Dafydd in festo Marci evengeliste anno domini MCCCXLV (gw. Phillips 1970–2: 76). Mae’r cyfeiriad cynharaf ato mewn dogfen wedi ei dyddio 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629), a gallwn dybio iddo gael ei eni o leiaf 15–20 mlynedd cyn hynny. Roedd yn ei saithdegau o leiaf, felly, yn y 1440au pan ganodd Guto iddo a’i bedwar mab (cerdd 103), ac er ei alw’n benadur y teulu (103.59), mae’n amlwg mai ei fab hynaf, Robert Trefor, oedd pennaeth effeithiol y teulu erbyn hynny. Yn ei farwnad (cerdd 104), er mynegi tristwch mawr yr ardal o golli’r fath arweinydd dysgedig ac effeithiol, cadarnhaol yw’r neges, a’r ffocws ar y dyfodol diogel yn nwylo’r meibion. Gallwn dybio nad oedd ei farwolaeth yn annisgwyl.
Tiriogaeth
Fel y gwelir o’r achres uchod, roedd Dafydd, tad Edward, yn fab i Ednyfed Gam o Bengwern, sef penteulu un o brif deuluoedd Nanheudwy, ac un a ddatblygodd yn fawr mewn awdurdod a grym yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg drwy berchnogi tir: ‘By the fourteenth century the family of Ednyfed Gam, described in the genealogies as “of llys Pengwern in Nanheudwy”, already stood out as substantial members of the lordship’s free community’ (Smith 1987: 177). Erbyn diwedd y ganrif roedd tiroedd helaeth ganddynt yn Nanheudwy, yn enwedig yn ardaloedd y Waun, Trefor a Llangollen.
Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391/2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion. Iorwerth Ddu, y mab hynaf, a oedd wedi etifeddu cartref hanesyddol y teulu ym Mhengwern, Llangollen, ac roedd hefyd yn gyd-berchennog gyda’i frawd Ieuan ar bedwar gafael ac un castell (term am fesur o dir) yn nhrefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 58–9). Dengys yr arolwg ymhellach fod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar un gafael a hanner yn nhrefgordd Bryncunallt ac ar felin o’r enw Grostith yn yr un drefgordd (ibid. 9). Ymddengys hefyd fod Dafydd yn berchen ar y Plas Teg yn yr Hôb, lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol (Glenn 1925: 23).
Dysg a gyrfa
Mae’n amlwg o foliant Guto iddo fod Edward yn ŵr tra dysgedig, ac mae’r cyfeiriad penodol at ei arbenigedd ym maes y ddwy gyfraith (sifil ac eglwysig) a’r celfyddydau yn awgrymu addysg prifysgol, er nad oes unrhyw dystiolaeth allanol i ategu hynny (gw. yn arbennig 104.9–10, 21–32). Mae’n ddigon tebygol fod Edward wedi derbyn rhywfaint o’i addysg yn abaty Glyn-y-groes (sef y math o addysg a ddisgrifir yn Thomson 1982: 76–80) neu o bosibl yn ysgol Croesoswallt, a fu’n ffynnu ers blynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif (Griffiths 1953: 64–6 et passim). Gwyddom fod gan ganghennau Pengwern a Threfor o’r teulu gysylltiadau cryf â’r abaty, oherwydd claddwyd yno sawl aelod ohonynt, gan gynnwys Robert Trefor ab Edward (m. 1452), ac mae’n debygol hefyd mai yno y claddwyd Edward ei hun (gw. CTC 362, ond ni roddir ffynhonnell yr wybodaeth honno).
Nid oes tystiolaeth uniongyrchol wedi goroesi i rôl Edward yng nghyfraith a gweinyddiaeth y Waun, ac eithrio awgrym cryf Guto i’r perwyl hwnnw (cerdd 104). Ond mae’r ffaith fod ei enw’n ymddangos yn achlysurol mewn dogfennau’n ymwneud â throsglwyddo tir yn yr ardal yn dyst i’w statws yn y gymdeithas: e.e. fe’i henwir mewn dogfen a luniwyd yn y Waun ar 11 Mawrth 1390 (Ba (M) 1629); roedd yn dyst i ddogfen yn cofnodi trosglwyddo tir a luniwyd yn Nhrefor ar 15 Mai 1391 (Jones 1933: 93); roedd yn dyst i ddogfen gyffelyb yn Nhrefor Isaf ar 29 Medi 1411 (LlGC Bettisfield 977); ac enwir ef a’i fab Robert yng nghyswllt derbyn tir yn Nanheudwy yn 1441 (LlGC Puleston 935). Mae’n bosibl hefyd mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i ddogfen ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall mai ei fab oedd hwnnw. Fel sawl aelod o’r teulu hwn, cymerodd Edward hefyd ran yng ngwrthryfel a bu’n rhaid iddo fforffedu nifer o’i ddaliadau i’r arglwydd; fodd bynnag adferwyd trefn erbyn 1407, ac ar ôl iddo dalu dirwy o ugain punt adferwyd ei diroedd iddo (Carr 1976: 27).
Robert Trefor ab Edward, fl. c.1429–m. 1452
Mab hynaf ac etifedd Edward ap Dafydd. Arno, gw. Robert Trefor.
Siôn Trefor ab Edward, fl. c.1440–m. 1493
Siôn Trefor (neu Siôn Trefor Hen, er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a nifer o’i ddisgynyddion â’r un enw) oedd ail fab Edward ap Dafydd, ac ef a ddaeth yn benteulu Bryncunallt ar farwolaeth ei frawd hŷn, Robert Trefor, yn 1452. Fe’i henwir yn y tair cerdd a gadwyd gan Guto i’r teulu hwn (cerddi 103–5), ac mae’n ddigon posibl mai dan ei nawdd ef y canodd Guto ei farwnad i Robert Trefor (cerdd 105). Er na chadwyd unrhyw gerddi gan Guto i Siôn ar ôl 1452, mae’n bosibl iddo fod yn noddwr iddo ar hyd ei yrfa. Tystia Guto ar fwy nag un achlysur yn y 1480au mai Siôn Trefor, a drigai ym Mhentrecynfrig erbyn hynny, oedd un o’i brif noddwyr (gw. 108.20, 117.56). Anodd credu na fyddai Guto wedi canu cerdd farwnad i Annes, gwraig Siôn, yn 1483, a dichon fod y gerdd honno, fel y gweddill o’i ganu ar yr aelwyd hon, wedi ei cholli. Canodd Gutun Owain i Siôn Trefor ac Annes ym Mhentrecynfrig, ac i’w meibion hefyd; felly hefyd Lewys Môn, Tudur Aled ac Ieuan Teiler. Cadwyd y cerddi canlynol iddynt: ‘Marwnad Annes Trefor o Bentrecynfrig’ gan Gutun Owain, 1483, GO XXXV; ‘Cywydd marwnad Siôn Trefor’, 1493 gan Gutun Owain, GO XXXVI; ‘Cywydd y tri brodyr, meibion Trefor’ (Otwel, Robert (Rhapat) ac Edward) gan Gutun Owain, cyn 1487, GO XXXVII; ‘Marwnad Robert Trefor o’r Hôb’ gan Gutun Owain, 1487, GO XXXVIII; ‘Moliant Edwart Trefor Fychan’ gan Lewys Môn, GLM LXXV; ‘Cywydd i Edwart Trefor’ gan Dudur Aled, TA LI; ‘Cywydd i Rhosier, Rhisiart ac Edward, meibion Siôn Trefor’ gan Ieuan Teiler, ar ôl 1487, Pen 127, 257. Mydryddir dyddiad marw Siôn Trefor, 1493, yng nghywydd marwnad Gutun Owain (GO XXXVI.23–30), sef dydd Gwener, 6 Rhagfyr 1493, a nodir mai ar y dydd Sul canlynol y claddwyd ef. Cadarnheir y dyddiad marw mewn cofnod yn Pen 127, 15: Oed Crist pann vv varw John trevor ap Edwart ap dd 1493 duw gwner (sic) y vied dydd o vis Racvyr. Bu farw Annes, gwraig Siôn, ddeng mlynedd ynghynt yn 1483 (GO 202). Bu iddynt bum mab, fel y gwelir o’r achres isod, a bu farw Otwel yn ifanc a bu Robert Trefor farw yn 1487. Enwir pedwar mab – Robert, Siôn, Edward a Rhisiart Trefor – fel bwrdeisiaid yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12), awgrym efallai fod Otwel wedi marw cyn Robert. Yn ei farwnad i Siôn Trefor yn 1493, enwodd Gutun Owain dri mab – Enwoc Edwart, … / Rroeser a ddwc aur rrossynn, / Rrissiart … (GO XXXVI.49, 51–2) – ac roedd wyrion hefyd (ibid. 53 Y mae ŵyrion i’m eryr). Gan nad yw Ieuan Teiler yn enwi Otwel na Robert Trefor yn ei gywydd ef, efallai i’r gerdd honno gael ei chanu ar ôl marwolaeth Robert yn 1487. Priododd Edward, a elwir weithiau’n Edward Trefor Fychan, ag Ann ferch Sieffrai Cyffin, a mab iddynt hwy oedd Siôn Trefor Wigynt y canodd Huw Llwyd iddo’n ddiweddarach (GHD cerddi 25, 26).
Achres
Mae’r achres hon yn seiliedig ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 14 a WG2 ‘Tudur Trefor’ 14 C2. Tanlinellir enwau’r noddwyr a nodir â theip trwm y rhai a enwir yng ngherddi 103–5.
Yn ôl yr achau roedd dau o feibion Siôn Trefor, Rhisiart a Rhosier, yn efeilliaid. Roedd hefyd ddwy chwaer, sef Elen a Chatrin, nas henwir yn yr un o’r cerddi.
Ei gartref
 Bryncunallt yn y Waun y cysylltir Siôn Trefor yn y cerddi a ganodd Guto rhwng c.1440 a 1452 (cerddi 103–5), ond ymddengys mai ym Mhentrecynfrig yr oedd ei brif gartref erbyn y 1480au, sef trefgordd rhwng Weston Rhyn a Llanfarthin, tua 2km i’r de o’r Waun, bellach yn swydd Amwythig. Pan ganodd Gutun Owain ei farwnad i Annes, cyfeiriodd yn benodol at alar Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric (GO XXXV.5–6). Ac wrth farwnadu Siôn Trefor ei hun ddeng mlynedd yn ddiweddarach, er ei gysylltu hefyd â’r Waun Isaf, Bryncunallt a Chroesoswallt, ym Mhentrecynfrig yr oedd y galar ar ei lymaf: Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn (GO XXXVI.31–4).
Dysg a gyrfa
Yn ei farwnad i Edward ap Dafydd, rhestra Guto’r nodweddion yn y tad a etifeddwyd gan ei feibion. Siôn Trefor, medd, a etifeddodd ddiddordebau ysgolheigaidd Edward. Ceir rhywfaint o gadarnhad allanol hefyd i hynny, oherwydd credir bellach mai Siôn a fu’n gyfrifol am gyfieithu ‘Buchedd Martin’ i’r Gymraeg (nawddsant Llanfarthin, ger Pentrecynfrig), a cheir copi o’r cyfieithiad hwnnw yn llaw Gutun Owain yn LlGC 3026C (gw. Owen 2003: 351; Jones 1945; a hefyd 104.43–4). Wrth ganu marwnad Siôn, pwysleisiodd Gutun Owain safon dysg yr athro mawr (GO XXXVI.6 et passim). Yn ei dro, trosglwyddodd Siôn y diddordebau hyn i’w fab yntau, Robert Trefor o’r Hôb, a ddisgrifiwyd gan Gutun Owain fel Kerddwr, ysdorïawr oedd / O’n heniaith a’n brenhinoedd (GO XXXVIII.29–30).
Ymddengys enw Siôn Trefor yn aml mewn dogfennau cyfoes, ond os yw’r enw yn digwydd heb enw’r tad, anodd bod yn gwbl sicr mai ato ef y cyfeirir, yn hytrach nag at un o sawl perthynas o’r un enw. Fe’i henwir ynghyd â phum gŵr a fu hwythau’n noddwyr i Guto, sef yr Abad Siôn ap Rhisiart, Dafydd Cyffin, Siôn Hanmer, Siôn ap Madog Pilstwn a Robert ap Hywel (45.49–51), fel un o atwrneiod y brenin yn arglwyddiaeth y Waun i dderbyn comisiwn, 7 Gorffennaf 1461 (CPR 1461–7, 37). Ar 21 Medi 1474, cyfeirir ato fel rysyfwr yn swydd y Waun ac fel tyst i weithred yn trosglwyddo tir i Siôn Edward (LlGC Castell y Waun 1077); ac eto ar 3 Chwefror 1488 (ond nid fel rysyfwr y tro hwn) (LlGC Castell y Waun 9885).
Edward ab Edward, fl. ?1427– c. ?1475
Gallwn gasglu mai Edward oedd trydydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar yng ngherddi 103, 104 ac yn yr achau. Nodir yn yr achau hefyd iddo briodi’r Arglwyddes Tiptoft ac na fu iddynt blant. Yn ôl Guto, Edward a etifeddodd gryfder corfforol ei dad: Ei faint a’i gryfder efô / Mewn Edwart mae’n eu ado (104.45–6). Ni chafwyd cyfeiriad arall ato yn y farddoniaeth, ond fe’i henwir gyda’i frodyr Robert, Siôn a Rhisiart Trefor fel bwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Mae’n bosibl mai ef yw’r magister Edward Trevor a enwir yn dyst i weithred ddyddiedig 1427 ynglŷn â thir yn y Waun, y Waun Isaf a Gwernosbynt (LlGC Castell y Waun 920), ond gall hefyd mai ei dad oedd hwnnw.
Rhisiart ap Edward, fl. c.1440–68
Gallwn gasglu mai Rhisiart oedd pedwerydd mab Edward ap Dafydd ar sail y drefn yr enwir y pedwar mab yng ngherddi Guto (gw. uchod ar Edward ab Edward). Fe’i henwir yntau’n fwrdais yng Nghroesoswallt yn ail hanner y bymthegfed ganrif ynghyd â’i frodyr Robert, Siôn ac Edward (gw. Archifdy Croesoswallt OB/A12). Ymddengys mai Rhisiart a etifeddodd bryd a gwedd ei dad: Ac i Risiart, ’yn Groeswen, / Ei liw a’i sut a’i lys wen (104.47–8). Ar sail y cwpled hwn, awgrymwyd y gall fod Rhisiart Trefor wedi etifeddu llys yn y Dre-wen (Whittington) (cf. Carr 1976: 49n178 a 104.47n). Cofnodir iddo fod yn gwnstabl ar gastell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878).
Ceir yn y llawysgrifau ddwy gerdd, y naill wedi ei phriodoli i Rys Goch Glyndyfrdwy a’r llall i Ruffudd Nannau, sy’n sôn am garchariad Ithel a Rhys, meibion Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, gan Risiart Trefor. Ceir yr esboniad hwn yn Pen 177, 199: Ithel a Rys meib I. Vychan ap Ieuan a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIed dydd or gayaf ac a vvant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 (sef o 12 Tachwedd 1456 hyd 28 Gorffennaf 1457). Ni allwn fod yn sicr o’r amgylchiadau, ond cynigia Carr (1976: 39–40; cf. Charles 1966–8: 78) mai oherwydd eu cefnogaeth i’w cyfyrder, Siasbar Tudur, a phlaid Lancastr y’u carcharwyd gan Risiart, a gefnogai blaid Iorc. Yn ei gerdd, mae Rhys Goch Glyndyfrdwy yn annog y lleuad i chwilio am y brodyr yng nghestyll Lloegr, gan ofyn i Dduw eu dychwelyd yn ddiogel o’r Dre-wen (dyfynnir o destun LlGC 8497B, 190v–191v, gan briflythrennu ac atalnodi):Ysbied, chwilied yn chwyrn
Gestyll Lloegr, gorffwyll gyrn,
Am frodvr o Dvdvr daid,
Ithel a Rhys benaythiaid
Y sydd yn yr ynys hon
Yryrod, garcharorion …
Duv a ddwg i’n diddigiaw
Dav vn ben o’r Drewen draw.Byddai’n braf gwybod beth oedd safbwynt Guto’r Glyn ar yr helynt hwn. Tybed ai gyda theulu Pengwern y bu ei gydymdeimlad? Ai dyna paham na cheir rhagor o gerddi i deulu Bryncunallt ym mlynyddoedd canol ei yrfa? (Gw. ymhellach nodyn cefndir cerdd 106 a 48.38n, Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern, ac ymhellach ar gerddi Rhys Goch Glyndyfrdwy a Gruffudd Nannau, gw. Bowen 1953–4: 119–20).
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1953–4), ‘Carcharu Ithel a Rhys ab Ieuan Fychan’, Cylchg LlGC viii: 119–20
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Griffiths, G.M. (1953), ‘Educational Activity in the Diocese of St. Asaph, 1500–1650’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, III: 64–77
Jones, B. (1965) (ed.), John Le Neve, Fasti Ecclesiae Anglicanae 1300–1541: XI The Welsh Dioceses (London)
Jones, E.J. (gol.) (1945), Buchedd Sant Martin (Caerdydd)
Jones, E.J. (1968), ‘Bishop John Trevor (II) of St. Asaph’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, XVIII: 36–46
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Owen, M.E. (2003), ‘Prologemena i Astudiaeth Lawn o Lsgr. NLW 3026, Mostyn 88 a’i Harwyddocâd’, I. Daniel, M. Haycock, D. Johnston a J. Rowland (goln.), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Pratt, D. (1977), ‘A Holt Petition, c. 1429’, Cylchg HSDd 26: 153–5
Phillips, J.R.S. (1970–2), ‘When did Owain Glyn Dŵr Die?’, B xxiv: 59–77
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Smith, Ll.O.W. (1970), ‘The Lordships of Chirk and Oswestry 1282–1415’ (Ph.D. University of London)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3: 76–80
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt