Chwilio uwch
 

Trahaearn ab Ieuan o Ben-rhos, fl. 1454–1480au

Un gerdd yn unig gan Guto’r Glyn i Drahaearn ab Ieuan sydd wedi goroesi, sef cerdd yn gofyn benthyg Llyfr y Greal ar ran yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes (cerdd 114). Cadwyd hefyd iddo awdl foliant gan Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 117), a chywydd gofyn mantell gan Ddafydd ab Edmwnd (DE cerdd LVII) neu o bosibl gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn yn ôl rhai llawysgrifau. Canodd Hywel Swrdwal hefyd farwnad i’w frawd, Gruffudd (GHS cerdd 8), a hynny, o bosibl, dan nawdd Trahaearn: Bu i tithau, ’m graddau’r grog, / Farw, Trahaearn, frawd rhywiog (8.17–18 a’r nodyn sy’n awgrymu mai cyfarch Trahaearn a wna Hywel yma). Canodd Lewys Glyn Cothi yntau awdl yn gofyn am len gan wraig Gruffudd, Annes ferch Siôn, pan oedd Gruffudd yn dal yn fyw (GLGC cerdd 119).

Achau
Seiliwyd yr achres ar yr wybodaeth a geir yn WG1 ‘Rhys Goch o Ystrad Yw’ 1, 3, 8, 10, ‘Blaidd ab Elfarch’, ‘Bleddyn ap Maenyrch’ 23 a ‘Maenyrch’ 3; DWH i: 96–7. Dangosir y rheini a enwir yng ngherdd Guto i Drahaearn mewn print trwm (ond gw. 114.8n ar Cynfyn, Bleddyn a Blaidd) a thanlinellir enw’r noddwr.

stema
Llinach Trahaearn ab Ieuan o Ben-rhos

Priododd Ieuan ap Meurig, tad Trahaearn, ddwywaith, ond ni nodir pa wraig oedd mam Trahaearn. Fodd bynnag, sylwir mai Trahaearn Llwyd oedd enw taid yr ail wraig (sy’n anhysbys), ac mae’n bosibl iawn felly mai hi oedd ei fam ac iddo ef gael ei enwi ar ôl ei hen daid (enw nad yw’n gyffredin o gwbl yn achau’r cyfnod).

Gyrfa
Disgynnai Trahaearn o deulu a fu’n amlwg yng ngweinyddiaeth de-ddwyrain Cymru ers cenedlaethau. Roedd ei dad, Ieuan (a oedd yn fyw yn 1433) yn sarsiant-feistr Brynbuga yn 1411 (DWH i: 96), ac yn ddirprwy stiward ym Mrynbuga yn 1413 (LlGC Badmington 981), a bu ei dad yntau, Meurig (m. 1392) yn Ysgwïer o Gorff i’r Brenin Edward III (gw. WG 1 ‘Rhys Goch Ystrad Yw’ 10). Bu cysylltiad agos rhwng Trahaearn a Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, ac yn 1454 fe’i henwir yn ddirprwy stiward i Wiliam Herbert ym Mrynbuga a Chaerllion. Mae’n bosibl iawn mai drwy ganu yn Rhaglan i Wiliam (a fu farw yn 1469) y daeth Guto i adnabod Trahaearn, a bod ei ganu iddo o’r cyfnod hwnnw wedi ei golli. (Trafodir perthynas Trahaearn â theulu Herbert ymhellach yn nodyn cefndir cerdd 114.)

Yn dilyn y fuddugoliaeth Iorcaidd ym mrwydr Mortimer’s Cross yn 1461, elwodd Trahaearn yn fawr yn sgil ei gefnogaeth gref i Wiliam Herbert a’r Brenin Edward IV yng Nghymru: er enghraifft rhoddwyd iddo, ynghyd â rhyw John ap Jankyn, diroedd Thomas Cornwall yn Nyfnaint (CPR 1461–7, 76; WWR2 88). Yn 1463 derbyniodd gomisiwn gan y brenin, gyda Syr Walter Devereux, Wiliam Herbert, Rhisiart Herbert a’r Arglwydd Ferres, yn rhoi iddynt yr hawl i estyn pardwn i gynelynion y brenin yn gyfnewid am addewid o gefnogaeth yn y dyfodol (CPR 1461–7, 280). Ac eto yn 1464, derbyniodd gomisiwn pellach gyda’r un dynion i dderbyn ‘all rebels within the king’s castle of Hardelagh and county of Merionnyth in North Wales’ (CPR 1461–7, 355). Erbyn 1465 roedd Syr Wiliam Herbert yn ffermio arglwyddiaeth Hwlffordd (TNA E 210/1147) ac mae’n bosibl fod Trahaearn wedi bod gydag ef yn y cyfnod hwn. Mae’r llinellau canlynol yn broblematig, fodd bynnag, oherwydd codant ansicrwydd ynglŷn â lleoliad Trahaearn adeg canu’r gerdd (gw. y drafodaeth ar gerdd 114), ac mae’n bosibl iawn mai’r ail iarll Penfro yw’r iarll Herbert a enwir ynddynt (114.21–32):

  Awn i’ch cwrt, yno y’ch cair,
Uwch Hawlffordd fal uchelffair.
Wythgan mil a’th ganmolant
O Frysto i Benfro bant,
O Aber teg, lle beirw ton,
Daugleddau hyd Gelyddon;
Doethineb, da y’th enwir,
Defodau holl Dyfed hir.
Un o weilch, ei wayw a’i nerth,
Iarll Herbert geir llaw Arberth,
A hael henw, uwchlaw hynny,
Wyth wlad dy hun wrth ddal tŷ.

Mae’n bosibl mai Gruffudd, brawd Trahaearn, oedd y prif noddwr ym Mhen-rhos. Dyna sy’n cael ei led awgrymu gan Lewys Glyn Cothi yn ei awdl i wraig Gruffudd, Annes: Hi yw’r benna’ ’Nghaerllion, / ei gŵr yn bennach nog un / i roi o’i gost aur a gwin (GLGC 119.5–7). Ond gwyddom i Ruffudd farw o flaen Trahaearn. A ddychwelodd Trahaearn o’r de-orllewin i Ben-rhos ar ôl marw Gruffudd, ar ôl canlyn Herbert (yr iarll cyntaf neu’r ail) i sir Benfro yn y 1460au neu’r 1470au?

Nid oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol i gadarnhau bod Trahaearn wedi goroesi i’r 1480au, ond gallwn fod yn sicr iddo wneud hynny, oherwydd canodd Guto iddo yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes, sef ar ôl c.1480; gwrthgyferbynner D.F. Evans 2008: 294 a WG1 ‘Rhys Goch o Ystrad Yw’, 10, sy’n dilyn awgrym gwallus Bradney 1993: 219 mai 23 Mehefin 1481 yw’r cyfeiriad diweddaraf ato, gan gyfeirio at CPR 1476–85, 280; 23 Mehefin 1463, CPR 1461–7, 280, yw’r cyfeiriad cywir. (Mae nifer o drafodaethau diweddar yn dyfynnu’r dyddiad gwallus.)

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1993), A History of Monmouthshire, Vol 3: The Hundred of Usk (part 2) (Cardiff)
Evans, D.F. (2008), ‘ “Talm o Wentoedd”: The Welsh Language and its Literature, c.1070–c.1530’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 280–308