Y llawysgrifau
Ceir copi o’r gerdd hon mewn 53 o lawysgrifau, yn dyddio o hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cryn dipyn o amrywio rhwng y testunau, yn enwedig o ran trefn llinellau, cwpledi ychwanegol, ac amrywiadau testunol, ac er bod nifer o lawysgrifau’n ffurfio grwpiau penodol, ni fu’n bosibl llunio stema cwbl foddhaol i ddisgrifio cydberthynas yr holl lawysgrifau, ac mae’n sicr bod nifer o destunau wedi eu colli.
Y grŵp hawsaf i’w ddiffinio yw’r llawysgrifau yn tarddu o X1 yn y stema. Llawysgrifau o’r De yw’r rhain, ac fe’u nodweddir gan y drefn llinellau 39–72, 1–38. Mae Pen 83 a Llst 155 yn perthyn yn agos i’w gilydd ac yn tarddu o ffynhonnell gyffredin. Mae Stowe 959 hefyd yn perthyn yn agos iddynt, ond ni cheir ynddi rhai o’r darlleniadau unigryw sydd yn y ddwy arall (e.e. yn llinell 5 darllennir a lliw’r yn Pen 83 a Llst 155, ond yntau’r yn Stowe 959, fel yn yr holl lawysgrifau eraill). Mae llawysgrifau Llywelyn Siôn (Llst 48, Llst 134, LlGC 21290E, LlGC 970E) hefyd yn perthyn i X1, ond mae rhai nodweddion unigryw yn gyffredin ynddynt (fel diffyg 13–14, 17–18) sy’n awgrymu eu bod yn tarddu o gynsail gyffredin (X9 yn y stema), a honno’n ddigon posibl yn llaw Llywelyn Siôn ei hun.
O ran gweddill y llawysgrifau, er bod modd gweld grwpiau bychan yn ymffurfio (e.e. mae C 2.40, BL 31056 [ii], BL 31092 [i]) i gyd yn tarddu o BL 14866; ac mae C 2.114 yn perthyn yn weddol agos i CM 244, ffynhonnell Pen 152), ni fu’n bosibl diffinio cydberthynas y grwpiau hyn, ac felly rhoddwyd blaenoriaeth i adnabod y llawysgrifau hynaf o fewn y grwpiau, gan drawsysgrifio’r testunau mwyaf safonol a chynrychioliadol. Yn y nodiadau isod rhoddir y sylw pennaf i lawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg.
Trawsysgrifiadau: BL 9817, C 2.114, LlGC 3050D, LlGC 3051D, LlGC 3056D, Pen 83, Pen 126, BL 14866.
Llinellau ychwanegol
i.1–4
y cenau gidar cynydd
i arfer pan faedder fydd
carv y meist ai curo
ai ganlyn hyny fyn fo
Ceir y ddau gwpled hyn yn dilyn llinell 34 yn BL 14866, LlGC 3051D, BL 14822 a C 4.10 (ac wedi eu hychwanegu gan law ddiweddarach yn CM 27). Fe’u ceir hefyd yng nghywydd llateiaeth Dafydd Llwyd o Fathafarn i Werful Mechain, a yrrodd Lywelyn ap Gutun ati yn llatai: GGM 5.31–8:
Ef a ddaw, er anfodd un,
Ag ateb, Fab y Gutun.
Diwydiach, felly dwedynt,
Fydd gwas wedi’i faeddu gynt.
Y cenau gyda’r cynydd,
Ei arfer, pan faedder, fydd
Caru’r meistr a’i curo
A’i ganlyn a fyn efô.
Esbonnir yn y nodyn cefndir yno, ‘Yn ôl Dafydd Llwyd, byddai Llywelyn yn derbyn swydd y llatai’n ufudd oherwydd byddai’r gwas yn ffyddlon i’w feistr ar ôl derbyn curfa yn union fel y byddai’r cenau’n gwbl driw ac yn mynnu dilyn yr heliwr …’ Ceir y cwpledi yn holl gopïau llawysgrif cerdd Dafydd Llwyd, ac eithrio dwy, lle mae diwedd y testun yn eisiau.
Ai cwpledi Guto neu Ddafydd Llwyd oeddynt yn wreiddiol? Yn thematig maent yn cymryd eu lle yn y ddau gywydd. Fodd bynnag, o’u cynnwys yng nghywydd Guto, collir y gwrthgyferbyniad rhwng hithau / minnau yn llinellau 34–5, a chollir hefyd y chwarae celfydd a geir ar y ferf caru yn 33–6. Awgrymog yn hytrach na diflewyn ar dafod yw tôn Guto yma, a byddai ychwanegu’r ddau gwpled hyn yn cyfleu mewn modd rhy amlwg y ffaith fod y bardd yn teimlo bod ei noddwr yn ei gam-drin wrth ddigio gydag ef. Felly fe’u gwrthodir.
ii.1–2
telynior or fath orau
prydyd yw pe rhaid y ddau
Dyfynnir o BL 14866. Ceir y cwpled hefyd yn BL 14882 (sy’n anghyflawn oherwydd traul) a Gwyn 4 (telynior fal or gorav / prydydd oedd pe raid y ddau). Mae’r ffaith nas ceir yn rhai o’r prif lawysgrifau efaill yn ein gorfodi ni i’w wrthod, ond nis cafwyd yng ngwaith unrhyw fardd arall.
Teitl
Nid oes teitl i’r gerdd mewn nifer o’r llawysgrifau cynnar (e.e. Pen 126, BL 9817, Brog I.2, Llst 35), ond mewn rhai llawysgrifau fe’i rhoddir gyda cherddi gofyn cymod eraill, fel isddosbarth i gerddi gofyn yn gyffredinol, a cheir teitlau megis ‘Cywydd Cymod’ (e.e. C 2.114, BL 14969), ‘Cywydd i ofyn Cymod gan Ieuan Fychan’ (e.e. LlGC 3050D gyda mân amrywiad ar hynny megis yn LlGC 3056D, BL 14822, BL 14978), ‘Un arall i ofyn ei gymod ei hun ac i gydnabod ei fai’ (BL 14866), ac yn llawysgrifau X1 ceir yr un math o amryiwo o ran geiriad ond gyda’r gair ‘heddwch’ yn lle ‘cymod’.
1 Cristoffr Ceir peth amrywio ar union ffurf yr enw yn y llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg. Rhaid dilyn C 2.39, Gwyn 4, BL 14866 a BL 9817 Christophr oherwydd yr odl lusg ag offrwm; gthg. Pen 126 kristorofr, Pen 83 krystor (cf. Llst 155) a C 2.114 krisdfor.
2 Yn dwyn Crist megis … Pen 126 vegis, a LlGC 3051D sy’n darllen a dwyn o bosibl er mwyn osgoi’r n wreiddgoll.
3 baich awr Gthg. llawysgrifau Llywelyn Siôn sy’n rhoi baich mawr.
4 safodd Dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau ac eithrio Pen 126 safof (cymysgu f am dd), Pen 83 savoedd a C 2.114 sefys. Nid oes yr un llawysgrif yn dilyn Pen 126 na C 2.114, ond mae llawysgrifau Llywelyn Siôn a Stowe 959 yn dilyn Pen 83, gyda’r terfyniad trydydd unigol gorffennol mynegol oedd sy’n tueddu i hynodi llawysgrifau deheuol. Gallwn gymryd mai llygriad yw hynny. Ond mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i sefys, C 2.114 (lle mae’n odli gyda erlys, gwall am erklys). Sefis oedd ffurf trydydd unigol gorffennol mynegol arferol y ferf sefyll (cf. GCBM i, 3.135, GGMD i, 3.216, &c.); ond, yn wyneb y dystiolaeth dros safodd yma, derbynnir y ffurf honno a chymryd mai cynghanedd draws sydd yn y llinell.
4 Erclys Cf. Pen 126, LlGC 3050D, LlGC 3051, BL 9817, &c. ond mae rhai copïwyr yn dangos ôl eu dysg gan roi Hercules, e.e. C 2.39 (William Salesbury) a Llst 155, weithiau mewn gwisg fwy Cymreig, erkiwles, hercelys, &c. Ond rhaid gwrthod y ffurfiau hynny os ydynt yn deirsill. Cyfuniad o’r ddwy ffurf yw (h)erkles rhai llawysgrifau (e.e. Gwyn 4, BL 14866, LlGC 3056D, cf. GGl).
5 yntau’r Dyma ddarlleniad mwyafrif y llawysgrifau, a rhydd gynghanedd lusg wydro. Yn Pen 83 a Llst 155 ceir a lliw r, darlleniad braidd yn ddiystyr, ac anodd cyfrif amdano onid oes ymgais, efallai, i gael cynghanedd draws. Darlleniad llawysgrifau Llywelyn Siôn a’i ddilynwyr yw minnav r, ond gan mai sôn a wna Guto am dri gŵr o’r gorffennol a fu’n enwog am y baich y bu iddynt ei gario, a chan nad yw’n cyfeirio ato’i hun hyd nes llinell 11, rhaid ei wrthod.
5 yn Gthg. C 2.39 dan (cf. C 1.2, LlGC 19901B a C 2.616) ac o yn Gwyn 4 gan ddarllen yntav y ar ddechrau’r llinell er mwyn cael saith sillaf. Yn y lleuad y trigai’r dyn, cf. GLlGt 4.1–2 Mewn lleuad mae un llawen / Â chi, a baich uwch ei ben.
7 pedwerydd Y ffurf safonol hon a geir ym mwyafrif y llawysgrifau, ond yn y llawysgrifau deheuol X1 ceir yr amrywiad pydwrydd neu pedwrydd. Gwelir yn GPC 2713 mai amrywiad deheuol yw hwn.
7–8 Gwyn 4 yn unig sy’n hepgor y cwpled hwn.
11 Ieuan Ceir cryn amrywio yn y ffurfiau ar enw’r noddwr yn y llinell hon, fel yn gyffredinol drwy’r gerdd: Ifan, Iefan neu Ieuan. Nid oes ystyriaeth gynganeddol yn y llinell hon, ond gall mai Ieuan sydd yn llinell 37 (onid oes yno f berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell). Roedd Guto, fel y beirdd yn gyffredinol, yn ddigon parod i ddefnyddio gwahanol ffurfiau ar enw priod, hyd yn oed yn yr un gerdd, a hynny gan amlaf oherwydd ystyriaethau cynganeddol. O ran y llawysgrifau hynaf, y talfyriad safonol, ienn’ (talfyriad Lladin arferol am Johannes) a geir yn Pen 126 a Gwyn 4 ac nid oes modd bod yn sicr pa ffurf yn union a gynrychiolai hynny; ceir ivan yn Pen 83 a C 2.114, a iean yn Llst 155. Safonir yn y golygiad hwn ar y ffurf Ieuan, ond mae’n ddigon posibl fod y bardd yn defnyddio Ifan weithiau. Yn GMRh 6 honnir bod ‘odl a chynghanedd o blaid Ifan’ yng ngherddi Maredudd ap Rhys i’r un gŵr, ac eithrio ibid. 10.55 lle mae angen cyfatebiaeth lafarog; ond mewn gwirionedd, nid oes dim yng nghynganeddiad nac odl y llinellau eraill yno ychwaith dros wrthod Ieuan. (Gw. ibid. 143 am y cyfeiriadau.)
12 fal Dyma a geir ym mhob llawysgrif (ond y ffurf gysefin, mal, yn Pen 83 a Llst 155), ac eithrio Gwyn 4 a Llst 122 megis. Ond gan fod hynny’n peri i’r llinell fod yn hir o sillaf, cywirodd William Salesbury destun Gwyn 4 (yr unig gerdd gan Guto yno nad yw yn ei law ef) yn meis, nad yw’n synhwyrol.
13–14 Ni cheir y cwpled hwn yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
17–18 Ni cheir y cwpled hwn yn llawysgrifau Llywelyn Siôn.
17 fûm Gthg. Pen 83 (wy), Llst 155, C 2.114, Gwyn 4. Ceir symud rhwng berfau presennol a gorffennol yn y gerdd (cf. 60 oeddwn wan).
19 golon Amrywiad cynnar ar colofn, cf. 63.7 Colonau Nannau … Newidiodd Llywelyn Siôn golon → galon, o bosibl gan nad oedd yn gyfarwydd â’r ffurf.
21–2 A dynnodd yn oed unawr / Y llys ar ei warthaf i’r llawr Ceir y cwpled ym mwyafrif y llawysgrifau ac eithrio llawysgrifau X1, LlGC 3050D a Pen 126. Fodd bynnag fe’i ceir hefyd ym mhob copi o gywydd gwrthfenywaidd Ieuan Dyfi i Anni Goch (a gyfansoddwyd ar ôl 1502), GGM 3.17–22:
Samson, greulon gwroliaeth,
O dwyll ei wraig, dall yr aeth.
Pan oedd nod ei phriodas,
Y gŵr ei gryfdwr a gas;
E dynnodd yn oed unawr
Y llys ar ei wartha’ i’r llawr.
O’i dderbyn yng nghywydd Guto, rhaid cymryd un ai fod Ieuan Dyfi wedi benthyg y cwpled, neu ynteu fod rhyw gopïwr wedi ei ychwanegu at y testun.
25 nis gwn ni wn a geir yn Pen 126 (fe’i dilewyd) a llawysgrifau X1 (ond o gwnn yn llawysgrifau Llywelyn Siôn ac eithrio Llst 48). O ddarllen ni wn (fel y gwneir yn GGl), ceir g heb ei hateb ar ddechrau’r llinell, ac mae’n bosibl mai dyna pam y ‘cywirwyd’ hynny yn o gwn Lywelyn Siôn.
26 gormodd ym Dilynir mwyafrif llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond am Pen 126 a BL 14866 sy’n darllen gormodd yw. Credir bod ym ‘i mi’ yn rhagori a’r bardd yn pwysleisio’n eithafol effaith y llwyth gofidiau arno. Yn Pen 83, Llst 155 a Stowe 959 ceir gormodd neu gormod vaich a wrthodir ar sail cynghanedd.
27–8 Ni cheir y cwpled hwn yn BL 14866.
29 a’m casaodd Rhaid gwrthod Pen 83 ym kysay oedd (cf. Llst 155) ar sail y brifodl. Dichon mai ffurf drydedd unigol gorffennol â’r terfyniad deheuol -oedd oedd yng nghynsail y ddwy lawysgrif hyn (cf. y ffurf safoedd a drafodir yn 4n). Cf. hefyd BL 14978 am kyssayoedd.
30 ys claf wyf Gthg. Pen 126 ys kul. Hepgorir yr -f derfynol mewn ambell lawysgrif gan roi f berfeddgoll dan yr acen yn ail hanner y llinell, e.e. yn Gwyn 4 (lle cywirodd William Salesbury y testun yn klaf).
33 Y mwyaf, cuaf, a’i câr Ceir nifer o fân amrywiadau yn narlleniadau’r llinell hon, nifer o’r unfed ganrif ar ddeg yn hepgor yr -f derfynol yn y ddau ansoddair gradd eithaf, e.e. Pen 126 y mwia kua ai kar, eraill yn ei gadw, e.e. LlGC 3050D y mwiaf kyaf ai kar; rhai yn ychwanegu a’r ynghanol y llinell, e.e. Pen 83 ymwya ar kya y kar (efallai er mwyn cael llinell 7 sillaf os yw kua ai yn cywasgu’n ddeusill), ac eraill yn cadw’r a’r a’r -f derfynol, ac felly’n rhoi llinell 8 sillaf, C 2.114 y mwyaf ar kavaf ai kar. Credir mai darlleniad LlGC 3050D sydd fwyaf boddhaol, oherwydd o hepgor yr f byddai tuedd i’r llinell fod yn fyr o sillaf oherwydd y cywasgiad naturiol rhwng cua’ ac a’i.
34 a’i digar Gwrthodir Pen 126 a digar.
35 Minnau fal cenau’r cynydd Ceir nifer o fân wahaniaethau yn y llawysgrifau ar gyfer y llinell hon: dilynir Pen 126 minav val kenavr kyny[d] (a chynnwys y fannod), gan bob llawysgrif ac eithrio Pen 83, Llst 155 a C 2.114 (sy’n hepgor y fannod, o bosibl er mwyn symleiddio’r gynghanedd).
35–6 Ni cheir y cwpled yn Stowe 959.
37 gampau Dilynir mwyafrif y llawysgrifau sy’n treiglo yma, er bod y canlynol o blith llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg o blaid y gysefin, campau, Pen 126, LlGC 3050D, Brog I.2. Ymddengys mai treiglo’r goddrych a wnâi Guto yn arferol ar ôl oedd/yr oedd.
39 Ar Ieuan deg a’i rôn dur Mae cryn amrywiaeth yn narlleniadau’r llinell hon. Derbyniwyd y fersiwn arni a geir yn C 2.114, LlGC 3050D, BL 14822, LlGC 3056D, Llst 35; a’r onn dur a geir yn Gwyn 4, BL 14969, Pen 89, Llst 122; a’i ran dur yn BL 9817, Brog I.2, CM 244, &c., ac yn ddiweddarach er ofn dur (C 4.10ii, C 5.30) neu ddewr darian dur (C 4.101, CM 27, C 3.37), ac unigryw yw Pen 126, ar ienn’ dec [ ]fyn dvr. Hon yw llinell gyntaf y gerdd yn ôl llawysgrifau X1 a chynigiant fersiwn unigryw ar y llinell, Ieuan deg ai onwayw dur. Mae’n rhaid gwrthod hynny gan fod angen yr arddodiad ar er mwyn ystyr y cwpled (Ar Ieuan … / Y perthyn campau Arthur). Y cwestiwn allweddol yw ai a’i rhôn ‘gwaywffon’ ynteu onwayw sy’n gywir? Ceir enghreifftiau eraill o onwayw gan Guto (e.e. 10.8, 51.51) ond nid yr un enghraifft o rhôn, gair oedd yn fwy cyffredin yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond y ceir ambell enghraifft ohono gan Lewys Glyn Cothi (e.e. GLGC 138.13, 190.1). Mae’n debygol fod rhôn yn hen ffasiwn erbyn y bymthegfed ganrif, ond gan mai cymharu Ieuan â’r Brenin Arthur a wna Guto, efallai iddo ddewis y gair hwn yn benodol, gan ei fod yn cyfleu arwriaeth yr oes a fu. Dewisiwyd rhôn yn y testun, gan ei bod yn fwy tebygol y byddai copïwyr diweddar wedi ei newid (e.e. tybed a gafwyd a ron dur → a’r on dur → a’r onwayw dur?).
Anodd esbonio sut yr aeth y llinell hon yn llinell gyntaf llawysgrifau X1, oni bai fod rhyw ddryswch ynglŷn â threfn dalennau rhydd. Nid oes amheuaeth nad y drefn a geir yn y golygiad yw’r un gywir: nid yn unig mae’n cynnig strwythur rhesymegol i’r gerdd, ond ceir hefyd gyrch-gymeriad synhwyrol rhwng diwedd a dechrau’r cywydd, wrth i’r bardd ddychwelyd ar ddiwedd y cywydd i gyfeirio at ei gefn crwm. Rhoddai llinellau 37–8 gwpled clo anfoddhaol.
41 Perchen tŷ fu i luoedd Dyma ddarlleniad mwyafrif llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg (e.e. Pen 126 perchen ti vu i lvoydd, Pen 83, Llst 155, LlGC 3050D, LlGC 3051D, BL 14822, LlGC 3056D, Brog I.2, Llst 35, gyda’r mân amywiad ar luoedd yn Stowe 959 a llawysgrifau Llywelyn Siôn), a rhydd gynghanedd lusg. Mae gweddill y llawysgrifau yn darllen i filoedd yn safle’r brifodl, ac mae’r orgraff yn ambell un yn awgrymu mai ymgais i gael cynghanedd sain oedd hyn, er nad atebir yr l o dan yr acen, e.e. Gwyn 4 perchen ty fv i filoedd, a cf. C 2.114, BL 14866, BL 9817.
44 a wna maeth Yn C 2.114 a CM 244 darllenir wnaeth maeth, sydd efallai’n ymgais i gael cynghanedd sain. Fodd bynnag mae’r ferf bresennol a geir ym mwyafrif y llawysgrifau yn taro’n well yn y cyd-destun.
45 Y glod i’w dafod a’i dŷ Mae nifer o fân amrywiadau yn y llinell hon yn y llawysgrifau, ond derbynnir y ffurf a geir yn Pen 126, C 2.114, LlGC 3050D, LlGC 3051D, BL 9817, &c., a’r bardd yn y cwpled yn dymuno clod i allu Ieuan fel bardd ac fel cynheiliad ei dŷ, gan ei fod yn haeddu hynny (44 hwn a’i dyly). Dyma’r prif amrywiadau ar y llinell (gan nodi’r prif lawysgrif yn unig bob tro): Brog I.2 y glod yw devod ai du; Pen 83 a Llst 155 y glod ay dafod ay dy, gyda Llywelyn Siôn yn newid ychydig ar hyn ac yn darllen ai glod ai davod ai dy, Stowe 959 y glod y davod ay dy; Gwyn 4 i glod i dafod i dy; BL 14866 y glod yn dyfod yw dy, cf. Brog I.2; BL 14882, LlGC 3056D y glod yw i davod ai dv. Collwyd yr elfen o ddymuniad yn y fersiynau hyn i gyd, sy’n gwanhau’r cwpled.
46 dyly Dyma ddarlleniad mwyafrif llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’r cwpled yn llunio clo effeithiol i’r rhan hon o’r cywydd a fu’n trafod rhinweddau Ieuan fel bardd yn ogystal ag fel perchen tŷ haelionus. Mae Gwyn 4 a C 2.114 yn darllen deulu, ond ni chefnogir hynny tan yn ddiweddarach yn y llawsygrifau. dyly yw’r darlleniad anos.
49–51 Ni cheir y llinellau hyn yn Stowe 959.
49 awdl awen dlos Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau. Anodd, felly, yw derbyn darlleniad GGl2 awdl Wên dlos (lle gwelir cyfeiriad at Wên, mab Llywarch Hen, ond sylwer mai wên a ddarllenwyd yn argraffiad blaenorol GGl), sydd fel petai’n dilyn llawysgrifau Llywelyn Siôn, e.e. Llst 48 odl wenn dlos.
50 yn lle eos C 2.114 a BL 14885 fal llef eos.
51 Ni bu gerddwr o ŵr iach Nid oes sail i ddarlleniad llawysgrifau Llywelyn Siôn, e.e. LlGC 21290E mi ai gerddwr oedd wr iach nac ychwaith i Brog I.2 ni by garwr o wr iach.
52 Ni bu Nudd yn beneiddiach Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau, gan gynnwys mwyafrif llawysgrifau unfed ganrif ar bymtheg, a dyma sy’n rhoi’r synnwyr orau; ond gthg. Pen 126 nu bu nudd bu beneid[ ]; Pen 83 ny bydd beynydd y benach (cf. Llst 155, hefyd Llst 122 i ni beunvdd vn beneiddiach), C 2.114 ni bv rvn yn bereiddiach (ond fe’i cywirwyd gan law ddiweddarach); Gwyn 4 nu bv nvdd vn beneiddiach. (Gallwn unwaith eto anwybyddu fersiwn Llywelyn Siôn, a ny bv ddyn benaiddiach, nad oes unrhyw sail cynharach iddo.) Mae darlleniad Pen 83 yn ymddangos yn ddiystyr, ac yn ymgais i gael cynghanedd sain o bosibl. Mae darlleniad gwreiddiol C 2.114 yn ymddangos fel llinell a ailgyfansoddwyd, efallai oherwydd methu deall yr ansoddair terfynol.
54 es Ceir cryn amrywio yma yn y llawysgrifau ar draws y cyfnodau: e.e., o ran llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, rhydd Pen 126, LlGC 3050D, BL 9817 es; C 2.114, Brog I.2, BL 14885 er ys (sydd angen ei gywasgu); LlGC 3051D, BL 14866 ers; Pen 83, Llst 155, BL 14822, LlGC 3056D, Llst 35 er. Gwelir yr un amwyriaeth mawr mewn ffurfiau mewn cerddi eraill gan Guto, a dichon mai ymyrraeth copïwyr sy’n gyfrifol i raddau helaeth.
56 ifainc Ceir amrywiaeth mawr eto: dilynir Pen 126, C 2.114, BL 9817, Brog I.2; ievaink yn Pen 83, Llst 155, Gwyn 4, LlGC 3050D, LlGC 3051D, &c.; ieuainc BL 14866. Anodd dewis rhyngddynt: o ran y gyfatebiaeth gynganeddol â llawen, gan fod w ac f yn nes yn seinegol yn y cyfnod, credir mai’r ffurf ag -f- sydd orau yma.
60 oeddwn wan Gthg. Pen 83 y ddwy yn (cf. Llst 155).
61 Beth bynnag fo, ’r Cymro cain Mae’n debygol mai poeni am yr odl fewnol a barodd newid y darlleniad yn beth bynag fo y kymro kain yn Brog I.2 (sillaf yn hir) a C 2.114 beth bynag fo kymro kain (darlleniad GGl). Yn gystrawennol cysylltir Beth bynnag fo gyda Eniwed i nai Owain yn y llinell ddilynol, ac mae ’r Cymro cain yn ddisgrifiad cyfosodol o Ieuan, nai Owain. Methiant i ddeall y gystrawen hon a roes fod i’r darlleniad beth bynag fo ir cymro cain yn LlGC 3027E, a BL 9817 beth bynac fu/r/ kymro kain, a’r fersiwn wedi ei ailwampio yn llwyr a geir yn Pen 83, Llst 155 pwy afyno a kymro kain.
62 eniwed Cf. Pen 83, Llst 155 a Stowe 959, &c., a cheir y ffurf amrywiol yniwed yn Brog I.2. Gan fod y gair yn anghyfarwydd i nifer o gopïwyr, fe’i holltwyd yn i niwed neu y niwed, a’r y yn cynrychioli’r fannod, yr arddodiad, neu’r rhagenw blaen ‘ei’: e.e. C 2.114 y niwed, LlGC 3050D i niwaid, neu hyd yn oed o niwaid, LlGC 3051D. Disynnwyr yw LlGC 3056D a Llst 35 di niwed i nai owain a Pen 126 iyniwed nai owain. Ceir ailwampiad llwyr ar y llinell yn BL 14866 oleuwedd ail i Owain.
63 Mi a wn ar gam ’y mod Yn Pen 126 darllenir ar gam mi awn ar gam y m[ ] sydd o bosibl yn awgrymu bod dwy gynsail gan gopïydd Pen 126, a bod yr un a wrthodwyd ganddo yn perthyn i C 2.114 ar gam mawr y gwn y mod (a gywirwyd yn ddiweddarach). Efallai fod cynganeddiad y llinell wreiddiol wedi ymddangos braidd yn rhy syml a bod copïwyr diweddarach wedi ceisio ei chywreinio – ond braidd yn anfoddhaol.
64 maddau O ran llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg, dyma ddarlleniad Pen 83, C 2.114, Llst 155, a Gwyn 4, a rhydd gynghanedd groes o gyswllt; darlleniad mwyafrif y gweddill yw adde [Pen 126 add] kam a ddwc kymod. O blaid cadw’r m y mae’r cymeriad llythrennol (a geir yn aml yn y cywydd hwn pan nad yw’r ystyr yn goferu mewn cwpled). Yn sicr byddai adde yn ddarlleniad posibl, ond credir bod maddau yn rhagori: yn y tair llinell flaenorol mae’r bardd wedi syrthio ar ei fai, er nad yw’n gwybod yn union beth mae wedi ei wneud i dramgwyddo ei noddwr; felly cais sydd yma ar i’r noddwr yntau faddau i’w fardd, ac yn y llinellau sy’n dilyn mae’n gofyn am i aelodau o deulu Ieuan ei gefnogi.
67 ifanc Mae’n amhosibl gwybod pa ffurf oedd yn y gynsail yma, ac mae’n bosibl iawn fod y bardd neu’r datgeiniaid wedi amrywio’r ffurfiau ar adegau gwahanol, ac nad oes yr un ffurf yn ‘gywir’. (Cf. lln uchod ar Ieuan.) O ran llawysgrifau’r unfed ganrif ar bymtheg ceir yr amrywiaeth canlynol: Pen 126 iefaingk; Pen 83 ieank; C 2.114, BL 14822 ifank, cf. Llst 155; Gwyn 4, LlGC 3056D, Llst 35 ievank, cf. LlGC3050D, LlGC3051D, BL 9817; Brog I.2 ifaink. Gan ddilyn yr un egwyddor â llinell 56, dewisir y ffurf ifanc, ond heb unrhyw argyhoeddiad bod honno’n rhagori ar y lleill.
67–8 Nis ceir yn Stowe 959.
68 Yw’r ail nerth ar ôl ei nain Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau cynnar a chyfeiria nain at merch Ednyfed (65), mam Ieuan: Hywel, mab Ieuan, yw’r ail nerth y mae’r bardd yn gallu apelio ato ar ei hôl hi. Ond yn C 2.114 yw rail y nol i nain (llinell fer), Gwyn 4 ail i ni yn ol i nain (sydd yn rhy syml) ac efallai mai diffyg dealltwriaeth o’r cyswllt teuluol a roes fod i Pen 83 vy ail rrodd yn ol yr hain a Llst 155 vy ail rrodd oedd vodd yhain. Mae’r rhain hefyd yn awgrymu darllen yn ôl yn lle ar ôl, ond yr ail a geir ym mwyafrif mawr y llawysgrifau, ac mae’n well o ran y gynghanedd.
69 atun’ ydd awn Gan mai’r unig anghenrhaid o ran y gynghanedd yw ateb y t ar ôl yr acen yn getid ceir cryn amrywio yma: Ac atun’ af (cf. C 2.114); Ac atun’ down (cf. BL 9817, Brog I.2); Ac atun’ awn (cf. BL 14866), Atun’ ydd awn (cf. Pen 126), Ac ato ydd awn (cf. Pen 83, Llst 155, Stowe 959). Cf. GGl Ac ato ’dd awn.
Anodd penderfynu rhwng ato ac atun’: tystia mwyafrif y llawysgrifau dros yr ail, ond mae rhai llawysgrifau allweddol cynnar yn cefnogi ato. Ond gan fod Guto’n enwi Ieuan yn llinell 70, cymerir mai cyfeirio at Angharad a Hywel a wna yma, ac felly darllenir atun’. Os cywir hynny, nid oes modd cywasgu’r rhagferf ydd ar ei ôl, ac felly hepgorir y cysylltair ar ddechrau’r llinell a barai fod y llinell yn rhy hir o sillaf.
Cywydd a ganodd Guto yn sgil digio’r uchelwr Ieuan Fychan ab Ieuan ab Addaf o Bengwern, Llangollen yw hwn, ac ynddo mynega Guto ei daer ddymuniad i gymodi er mwyn cael gwared ar y llwyth gofidiau sy’n ei lethu a’i glafychu. Mae’n gywydd enigmatig iawn ar sawl cyfrif, ac yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â pherthynas Guto a’i noddwr yn Llangollen.
Disgynnai Ieuan Fychan o deulu a fu’n flaenllaw iawn yng ngweinyddiaeth Nanheudwy cyn ac ar ôl y goncwest Edwardaidd. Cyfeirir yn y gerdd at ei ddisgynyddiaeth o’i daid (llinellau 11, 13–14), ac at ei fam, Angharad, fel merch Ednyfed (65), gan atgoffa’r gynulleidfa o’i thras uchel hithau, yn disgyn o linach Ednyfed Fychan ym Môn. Tynnir sylw hefyd, yn gynnil, at berthynas Ieuan Fychan ag Owain Glyndŵr (roedd ei nain, Isabel, gwraig Addaf, yn chwaer i Owain) drwy gyfeirio ato fel nai Owain (62), ac at ei fab, Hywel, fel un o hil Owain (67). Gallwn dybio bod y teulu hwn wedi noddi beirdd ers cenedlaethau, a thyst i hynny yw’r awdl Ogynfarddol (nid cywydd, sylwer) a ganodd Hywel ab Einion Lygliw i Fyfanwy Fychan ‘o Gastell Dinas Brân’: roedd hi’n chwaer i Addaf, taid Ieuan Fychan (GGLl cerdd 1). Ond nid noddi’n unig a wnâi’r teulu hwn, roedd nifer ohonynt yn feirdd eu hunain, megis Dafydd ab Edmwnd a Maredudd ap Rhys a oedd yn gefndryd o bell i Ieuan Fychan, a oedd hefyd yn fardd. Yn wir, cyfeiria Guto’n helaeth at allu barddol Ieuan yn y gerdd hon, gan dynnu sylw at y ffaith ei fod yn canu ei gerddi i’w gyfeiliant ei hun ar y delyn, a hynny er mawr bleser i’r to ifanc yn arbennig (gw. 39–54, a’r nodiadau perthnasol).
‘Cywydd cymod’ yw’r teitl a roddir i’r gerdd hon yn rhai o’r llawysgrifau hynaf, ac mewn eraill ‘Cywydd i ofyn cymod’ neu ‘I ofyn cymod i’w hun’, ac ychwanegir gan eraill ‘ac i gydnabod ei fai’ (gw. y nodiadau testunol). Llunia cywyddau gofyn cymod is-ddosbarth gweddol fychan o fewn genre y canu gofyn, ac ynddynt mae’r bardd, fel arfer, ‘yn cyflawni swydd gyfryngol … yn arbennig felly pan oeddid yn ceisio cymodi rhwng dau berson’ (Huws 1998: 51). Awgrymir ibid. mai yn ail hanner y bymthegfed ganrif yr ymddangosodd y math hwn o gywydd am y tro cyntaf, er bod cywyddau cymodi rhwng y bardd ei hun ac eraill yn hŷn: er enghraifft, ceir cywyddau serch yn ceisio cymod rhwng y bardd a’i gariadferch o’r bedwaredd ganrif ar ddeg (cf. cywydd Dafydd ap Gwilym i Forfudd, ‘Gofyn Cymod’, DG.net cerdd 97). Awgrymir nad oedd cerdd ofyn cymod o reidrwydd yn ddatblygiad ar y canu gofyn, ond yn hytrach ‘ei bod yn debygol ei fod wedi tarddu o’r cerddi dadolwch a datblygu’n annibynnol ar y canu gofyn’. Gellid dadlau yn yr un modd fod cerdd Guto yn perthyn yn nes at ganu dadolwch nac at ganu gofyn fel y cyfryw: nid yw’r bardd yn cyfarch Ieuan o gwbl ac nid yw ychwaith yn gofyn yn uniongyrchol am gymod. A derbyn y sefyllfa fel y’i cyflwynir gan Guto, yna rhaid credu ei fod wedi canu’r cywydd hwn i fwrw ei fol yn rhywle heblaw Pengwern, gan fod Ieuan, meddai, yn gwrthod mynediad iddo i’w lys. Mae hynny’n annhebygol, wrth reswm, a’r tebyg yw mai creu sefyllfa ddramatig a wnaeth y bardd yma er mwyn diriaethu’r pellter emosiynol a oedd wedi datblygu rhyngddynt, am ba reswm bynnag. Gellir cymharu’r modd y mae’r bardd serch yn aml yn delweddu ei gariad ‘o bell’ at ferch y mae’n ei charu, drwy ddisgrifio’r ferch ynghudd mewn castell anghysbell.
Diddorol, hefyd, yw’r cyfeiriad at ganu serch yn y cywydd. Nid yn unig y mae Guto yn defnyddio ieithwedd canu serch (cf. Os Ieuan a’m casaodd / Ys claf wyf nes cael ei fodd, 29–30), ond mae hefyd yn cymharu ymateb Ieuan iddo â dirmyg merch tuag at y bardd sy’n mynegi ei serch eithafol iddi: Y mwyaf, cuaf, a’i câr, / Hithau, Degau, a’i digar! (33–4). (Efallai mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod Dafydd ap Gwilym yntau’n cyfeirio at Degau yn ei ‘Gywydd Cymod’ ef, DG.net 97.18.) Ond er gwaethaf y dirmyg a’r casineb a ddangosir tuag ato gan Ieuan, y [P]engwern hydd, y mae ef, Guto, fel ci ffyddlon (cenau’r cynydd) yn parhau i garu ei feistr yn ddiamod (35–6).
Mae’n anodd iawn credu mai cywydd i’w gymryd o ddifrif yw hwn, ac mae’n rhaid mai chwerthin fyddai’r gynulleidfa pan ddatganodd Guto Tebig … / Yw Ieuan Fychan i ferch (31–2), heb sôn am gymharu tymer Ieuan â gwn, a oedd yn arf ffrwydrol ac annibynadwy iawn yn y cyfnod hwn (13n). Yn wir, fel y bardd serch yn gyffredinol, cawn yr argraff mai prif ffocws diddordeb Guto yma yw ei ddioddefaint ef ei hun, ac mae’n ymhyfrydu yn ei allu i ddewis cymariaethau dysgedig er mwyn cyfleu ei wewyr. Er enghraifft, yn llinellau agoriadol y gerdd cyfeiria at dri gŵr o’r gorffennol a fu’n enwog am y beichiau trwm y bu iddynt eu cario: Sain Cristoffer â Christ ar ei gefn, Hercules yn dal y byd, a’r dyn yn y lleuad yn sigo dan faich o ddrain (1–6); ac yna enwa ef ei hun yn bedwerydd, yn cael ei lethu a’i glafychu gan ofidiau yn sgil derbyn dicter Ieuan: Dyn afiach iawn dan faich wyf! (8). Ond nid oes ganddo syniad pam mae Ieuan wedi digio cymaint wrtho, a chymhara ei hun â Samson o ran ei olwg yn hyn o beth (Mal Samson … / … yw fy nhremynt, 19–20), ac fel y tynnodd Samson deml y Philistiaid ar ei ben, mae ymtau, Guto, mewn perygl o wneud y sefyllfa’n waeth (Mae’n enbyd … / Y syrth ’y mhyrth ar ’y mhen, 23–4). Maddeuant ei noddwr yw’r unig obaith am iachâd, ac ychwanega dan ei wynt eto: Mi a wn ar gam ’y mod (63). Ond, wrth gwrs, gwyddom yn iawn nad oedd yn hollol argyhoeddiedig o hynny, gan ei fod eisoes wedi awgrymu na wyddai pa beth a wnaethai o’i le!
A derbyn mai cywydd ysgafn yw hwn, nid oes rhaid chwilio am reswm difrifol yn sail i’r ddadl honedig a fu rhwng Ieuan Fychan a Guto. Mewn gwirionedd, os bu ffrae go iawn, mae’n anodd credu na fyddai’r gerdd hon wedi gwneud pethau’n waeth! Ond eto, bu traddodiad, sydd i’w olrhain o leiaf i’r ail ganrif ar bymtheg, bod y gerdd wedi ei chanu yn sgil ffrae gwirioneddol.
Fel yr awgryma Carr (1976: 34), gallwn dybio mai cefnogwr plaid Lancastr oedd Ieuan Fychan:
… most of the leading gentry in Tegeingl and Maelor Saesneg supported Henry VI and subsequently Henry Tudor … there can be no doubt whatsoever of Ieuan Fychan’s Lancastrian sympathies ... In any case, Ieuan’s family connections could hardly have made him anything but a Lancastrian; from 1456 onwards the leader of the party in Wales was Jasper Tudor, like Ieuan a great-grandson of Tudur ap Goronwy of Penmynydd.
Ond cefnogwyr Iorc a geid yn gyffredinol yn arglwyddiaethau’r Gororau, fel arglwyddiaeth y Waun, a oedd yn wreiddiol yn rhan o diroedd Mortimer a ddaeth i feddiant Richard, dug Iorc (Rees 1951: 48–50 a phlât 53). Gellid mentro mai cefnogwr Lancastr yn nhiriogaeth Iorc oedd Ieuan Fychan felly, a gwyddom fod ei gefndryd, teulu Trefor, Bryncunallt, y canodd Guto iddynt rhwng c.1442 a 1452 (gw. cerddi 103–5) yn gefnogwyr plaid Iorc. Yn Pen 177, 199, dilynir cywydd Guto i Ieuan Fychan gan gywydd Rhys Goch Glyndyfrdwy i ddau fab Ieuan a oedd wedi eu carcharu. Esbonnir: Ithel a Rys meib I[euan] Vychan ap I[euan] a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIved dydd or gayaf ac a vvuant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 (ac fel y noda Carr (1976: 37), mae’r ffaith mai dydd Gwener oedd 12 Tachwedd 1457 yn rhoi rhyw gymaint o hygrededd i’r esboniad). Mewn nodyn tebyg o flaen cywydd Guto yn LlGC 3027E, 26, dywedir mai cefnder y brodyr, Rhisiart Trefor, a fu’n gyfrifol am eu carcharu. Cawn dystiolaeth allanol yn cadarnhau i Risiart fod yn gwnstabl yng nghastell y Dre-wen yn 1468 (LlGC Castell y Waun F 9878), ac mae’n ddigon posibl fod ei gyswllt â’r castell i’w olrhain yn ôl i gyfnod cynharach yn ei yrfa (gw. yn arbennig 104.47n). Ymhellach, wrth foli Ieuan ab Einion ap Gruffudd o’r Cryniarth, cefnogwr brwd arall dros achos Lancastr, cyfeiria Guto at ddiffyg trefn a llywodraeth yn Edeirnion a’r ffaith fod ei noddwr wedi gorfod ffoi:
Bu ladrad heb lywodraeth,
Bu drais, dros y byd yr aeth …
Ieuan a ffoes yn y ffydd
Â’i lu dof …
Aeth Ieuan i’r lan â’i lu,
Aeth eraill i’w merthyru. (48.19–20, 23–4, 37–8)
Esbonnir mewn ymylnodyn ar bwys y gerdd honno yn Llst 30, yr eraill hynny oedd froder Ienn’ fychan ap Ie[uan] ap Addaf, ac o achos canu y pennill yma y canodd ef y cywydd cymmod i Ie[euan] fychan, St Christoffr a fu’n offrwm. (Gw. 48.38n.) Ai cyfeiriad at helynt gwahanol sydd yma, yn ymwneud â ‘brodyr’ Ieuan Fychan, sef Llywelyn a Iorwerth (Hen) o Wernosbynt (tad Siôn Edward), neu ai camgymeriad sydd yma am feibion Ieuan? A yw’r cyfeiriad yma yng ngherdd 48 yn esbonio paham y carcharwyd y brodyr? Ac ai oherwydd derbyn nawdd gan deulu Trefor y digiodd Guto Ieuan Fychan?
Dyddiad
Os oedd yr anghydfod rhwng Guto a Ieuan yn ymwneud â’r helynt hwn a’r carchariad, yna rhaid dyddio’r gerdd gofyn cymod hon yn fuan wedi 1457 (a chymryd bod dyddiad y carchariad yn gywir). Ond hyd yn oed os gwrthodir y esboniad hwn, mae dyddiad yn hwyr yn y 1450au yn debygol. Gan fod enw Ieuan Fychan yn dechrau ymddangos yn nogfennau Mostyn yn 1432 (Ba (M) rhif 1629 (v)), gallwn dybio ei fod wedi priodi aeres Mostyn, Angharad ferch Hywel ap Tudur, ychydig cyn hynny. Erbyn canu’r gerdd hon roedd mab ganddynt, Hywel, a oedd yn ddigon hen i eiriol dros y bardd, ond eto’n ifanc (65–6). Gelwir Ieuan yn Bengwern hydd (36) a molir ei berchentyaeth yn y llys hwnnw, sy’n sicr yn awgrymu bod y cywydd wedi ei ganu ar ôl marw Ieuan ab Addaf, tad Ieuan Fychan, ar 26 Rhagfyr 1448. Yn rhyfedd iawn nid yw’r bardd am ofyn am gymorth gwraig Ieuan Fychan, ac mae’n bosibl fod Carr (1976: 42) yn gywir yn awgrymu ei bod wedi marw erbyn canu’r cywydd hwn. Posibilrwydd arall, wrth gwrs, yw ei bod hi’n byw ym Mostyn, ei chartref genedigol, a bod Ieuan Fychan yn byw rhwng y ddau lys. Fel y gwelir o’r nodyn ar Ieuan Fychan, yr oedd wedi marw erbyn 1477.
Golygiad blaenorol
GGl cerdd XXVII.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 72 llinell.
Cynghanedd: croes 42% (30 llinell), traws 22% (16 llinell), sain 30.5% (22 llinell), llusg 5.5% (4 llinell).
1 Sain Cristoffr Sant a gofir fel dyn eithriadol o fawr a chryf, gw. Roberts 1967: 149–51, lle cyfeirir at y traddodiad iddo gario’r baban Iesu ar ei gefn, gan esbonio, ‘y mae’n bosibl … y tyfodd y stori am Sant Cristoffer, Cristo-phorus, un a oedd yn cario Crist, i ddechrau yn ffigurol, yn ei galon, yna mewn ystyr lythrennol’. Erbyn y bymthegfed ganrif roedd yr hanes yn boblogaidd iawn, a cheid delweddau ohono mewn ffenestri lliw neu ar waliau eglwysi: gw. Lord 2003: 213–15. Mae’n debygol iawn fod gan Guto ddelwedd o’r fath yn ei feddwl wrth ddisgrifio’r sant a’i gefn wedi crymu dan y pwysau.
4 Erclys Dyma’r unig enghraifft o’r ffurf hon ar enw’r arwr Groegaidd gan Guto. Ercwlff yw’r ffurf arferol ganddo fel ym marddoniaeth y cyfnod yn gyffredinol, e.e. 27.49, 29.53, 72.18, ond mae angen yr s derfynol yma ar gyfer y gynghanedd. Yn ôl un fersiwn o’r chwedl, er mai cosb Atlas gan Zeus oedd gorfod dal y byd, a hynny am ei fod wedi ochri gyda’r Titaniaid mewn rhyfel yn erbyn duwiau Olympus, cymerodd Hercules y baich hwnnw oddi wrth Atlas am ychydig, ar ôl perswadio Atlas i fynd i ardd Hesperides, oedd yn cael ei amddiffyn gan ddraig aml-ben o’r enw Ladon, i ddwyn afal aur ar ei ran, afal a roddai anfarwoldeb i Hercules. Wrth reswm, ar ôl gwneud y gymwynas ni fyddai Atlas yn awyddus i gymryd y pwysau yn ôl, a sylweddolai Hercules hynny. Felly cymerodd arno ei fod yn gwbl hapus i barhau i ddal y byd ar ran Atlas, dim ond fod arno angen gwneud ei hun yn fwy cyfforddus, felly gofynnodd i Atlas gymryd y pwysau yn ôl am ychydig. Ond unwaith y gwnaeth hynny, dihangodd Hercules gyda’r afalau aur. Mae’r cyfeiriad gan Guto at Erclys yn dal y pwysau am gyfnod byr, am awr dan y byd, yn ymddangos yn gyfeiriad penodol iawn at y chwedl hon. Gallwn fod yn hyderus fod Ieuan Fychan, yn ŵr dysgedig iawn, ac mae’n bosibl fod Guto wedi clywed am y chwedlau hyn yn ei lys ym Mhengwern, a’u dwyn i mewn i’w gerdd.
5 gŵr yn y lleuad Cyfeiriad at chwedl y dyn yn y lleuad a gariai faich o briciau coed ar ei gefn. Fe’i delweddir yn aml gyda’i gi, delwedd boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru a thu hwnt. Trafodir y chwedl yn fanwl yn Rowlands 1956–7: 172–6.
7 pedwerydd ydwyf Hoff iawn gan Guto yw cyfeirio at dri chymeriad enwog o’r gorffennol a rannai ryw briodoledd (harddwch, cryfder, &c.), cyn enwi ei noddwr yn bedwerydd: cf. 53.17–25 lle enwir tair Elen o’r gorffennol a oedd yn enwog am eu harddwch cyn enwi Elen o’r Llannerch yn bedwaredd. Amrywiad ar y topos hwn a geir yma gyda Guto yn enwi tri gŵr enwog o’r gorffennol a fu’n enwog am gynnal baich afresymol, gan enwi ei hun yn bedwerydd. Ond baich o ofidiau sy’n llethu Guto, ac anodd credu nad chwerthin fyddai ymateb y gynulleidfa.
10 wyth o’r main gynt Credai Eurys Rowlands (1956–7: 172) mai cyfeiriad sydd yma at ‘feini Côr y Cewri y llwyddodd Myrddin drwy ei ddewiniaeth i’w tynnu o’u safle ar Fynydd Cilara yn Iwerddon’, gw. BD 126–8. Ni chyfeirir yn y chwedl honno at wyth o feini yn benodol, ond mae’n sicr y gwyddai Guto am Gôr y Cewri (Stonehenge, ger Caersallog), cf. 61.53–4 (wrth ddyfalu ysglâts) Main cowri yn Salbri sydd, / Main treulfawr mewn tri elfydd, a gw. ibid.n. Posibilrwydd arall yw mai cyfeiriad llai penodol sydd yma at y math o feini trwm y byddai Guto, y pen-campwr taflu main, yn eu taflu gynt yn ei ieuenctid: cf. Gutun Owain yn ei farwnad iddo, 126.15 Ac ar faen gorau a fu.
13 anian gwn Gall mai canmol milwriaeth Ieuan Fychan yn syml a wneir yma, ond mae’n fwy tebygol fod min ar y gymhariaeth ac mai cyfeirio at y ffrwydro annisgwyl yn nhymer Ieuan a wneir. Yn y cyfnod cynnar hwn yn eu hanes, roedd gynnau yn annibynadwy ac yn anodd i’w rheoli: gw. Evans 1998: 75–105 ac yn arbennig 77.
14 Addaf Addaf ab Iorwerth Ddu o Bengwern, Llangollen, taid Ieuan Fychan; roedd yn briod ag Isabel ferch Gruffudd Fychan, chwaer Owain Glyndŵr.
16 a’i cyfyd Y llwyth gofidiau y mae’n rhaid i gefn y bardd eu cludo, yn sgil ennyn anfodd (15) Ieuan Fychan.
18 gwas Aralleirwyd ‘gŵr ifanc’ ond ni allwn fod yn gwbl sicr fod y gair yn awgrymu oedran, ac efallai byddai cadw ‘gwas’ wedi bod yn fwy diogel.
19–20 Mal Samson wrth golon gynt / A fu’n rhwym yw fy nhremynt Mae tremynt yn air amwys yma: gall olygu ‘ymddangosiad, gwedd’, neu ‘trem (y llygaid), golwg’ (gw. GPC 3585). Mae Guto’n cymharu ei sefyllfa ag eiddo Samson pan safodd hwnnw’n garcharor wrth golofnau teml y Philistiaid cyn eu tynnu am ei ben. Am yr hanes, gw. Barnwyr 16.19–30. Ar ôl i Delila eillio pen Samson a dwyn ei nerth, daliodd y Philistiaid ef, tynnu allan ei ddwy lygaid, a’i rwymo mewn gefynnau a’i gadw mewn carchar yn Gasa. Ond ar ôl ychydig amser dechreuodd ei wallt dyfu’n ôl. Un diwrnod galwodd y Philistiaid arno i ddod i ddifyrru eu harglwyddi a oedd wedi dod ynghyd i offrymu aberth i’w duw Dagon. Rhoddwyd Samson i sefyll rhwng colofnau’r deml lle gallai pawb ei weld. Gofynnodd Samson i Dduw ddychwelyd iddo ei nerth, er mwyn gallu dial ar y Philistiaid, yna Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a’i law chwith ar y llall. Yna dywedodd, ‘Bydded i minnau farw gyda’r Philistiaid!’ Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a’r holl bobl oedd ynddi, … Cf. llinellau 23–4 Mae’n enbyd … / Y syrth ’y mhyrth am ’y mhen.
31–2 Tebig, wrth gynnig annerch, / Yw Ieuan Fychan i ferch Ergyd y cwpled yw bod Ieuan Fychan yn ymagweddu tuag at Guto yn yr un modd ag y bydd merch yn ymateb i fardd sy’n canu serch iddi, sef yn negyddol ac yn afresymol! Cadarnheir y dehongliad hwn yn y cwpled nesaf lle cyfeirir at y ferch fel Tegau, gw. 34n, a enwir yn aml yn y canu serch. Mae’n rhaid mai chwerthin fyddai’r gynulleidfa wrth glywed y cwpled hwn o gofio mai Ieuan Fychan oedd uchelwr mwyaf pwerus Nanheudwy yn y cyfnod hwn.
34 Tegau Tegau Eurfron, patrwm o brydferthwch a diweirdeb. Am ei chwedl, gw. 107.11–12n.
35–6 Minnau fal cenau’r cynydd / A garwn hwn, Bengwern hydd Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith fod Guto yn y cwpled hwn yn cyfeirio at ei noddwr fel Pengwern hydd ac ato’i hunan fel cenau’r cynydd. Erlid hydd a wnâi cŵn, yn hytrach na’i garu. Mae’n amlwg fod Guto wedi canu’r cywydd hwn a’i dafod yn gadarn yn ei foch, a bod amwysedd bwriadol yn rhedeg drwyddo.
39 rhôn GPC 3094 ‘gwaywffon, gwayw, picell, hefyd yn ffig.’. Ni cheir enghraifft arall ohono yng ngwaith Guto, ond fe’i ceir yn achlysurol yng ngwaith ei gyfoeswyr (gw. 37n (testunol)). Cofier hefyd mai Rhôn oedd enw gwaywffon Arthur, y cyfeirir ato yn y llinell nesaf: BD 148.27–8 Gleif a rodet yn y lav, yr hon a elwit Ron.
40 campau Arthur Cyfeiriai’r beirdd yn aml at Arthur fel safon o filwriaeth yn ogystal â’i allu i gynnal llys. Roedd hefyd yn un o ‘Dri Oferfeirdd Ynys Prydain’ (TYP3 22), sy’n berthnasol o safbwynt cyfeiriad y llinellau canlynol at allu Ieuan Fychan fel bardd.
42 Pencerdd ar y ddwygerdd oedd Molir beirdd yn achlysurol am fod yn feistri ar y ‘ddwy grefft’: roedd Tudur Aled, yn ôl Lewys Daron, yn Pencerdd y ddwygerdd agos, GLD 25.47. Cymerir gan amlaf mai cyfeirio a wneir at gerdd dafod a cherdd dant; ond mae’n bosibl mai at grefft datganu y cyfeirir weithiau, y drydedd grefft a wobrwyid yn eisteddfodau’r bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg, gw. 117.7–8n. Ond gan fod Guto’n canmol gallu Ieuan Fychan i ganu’r delyn isod (Llaw Ieuan yn lle eos, 50), mae’n debyg mai’r ddwy grefft gyntaf, cerdd dafod a cherdd dant, sydd ganddo mewn golwg yma.
47–8 Gruffudd … / Gryg hirddoeth Mae Guto’n cymharu gallu barddonol Ieuan Fychan ar gywydd ag eiddo’r bardd o Fôn a flodeuai yn ail a thrydydd chwarter y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac sy’n arbennig o enwog am ei ymryson pigog â Dafydd ap Gwilym, gw. GGrG 8–19. Yn wir mae’n bosibl fod yma adlais o’r cwpled canlynol o farwnad Dafydd ap Gwilym i Ruffudd Gryg: Gruffudd, huawdl ei awdlef, / Gryg ddoeth, myn y grog, oedd ef, DG.net 22.9–10. Cymharodd Gwilym ab Ieuan Hen (fl. c.1440–80) yntau Gruffudd ap Dafydd â Gruffudd Gryg (o ran ei ganu serch), gw. GDID XV.17–18 Dyblu serchowgrwydd diblyg, / Dy gywydd fal Gruffudd Gryg. Wrth foli darpariaeth yr Abad Dafydd o Lyn-y-groes, meddai Gutun Owain amdano, Gwres gwin rrudd val Gruffudd Gryc / A gwin a medd gwyn a mac … Mae’r cyfeiriad hwn fel petai’n awgrymu bod Gruffudd Gryg wedi derbyn croeso yn y fynachlog, ac os felly gallwn gasglu y bu iddo gysylltiad ag ardal Llangollen (a allai esbonio cyfeiriad Guto ato yn y gerdd dan sylw). Ond ni chafwyd tystiolaeth bellach i ategu hynny.
48 cerddwr GPC 466 d.g. cerddwr1 ‘cerddor, datgeiniad, prydydd’. Nid yw’n air cyffredin gan Guto – ceir enghraifft arall isod llinell 51 – a chan fod Ieuan Fychan yn cael ei ddisgrifio fel un a allai ‘ganu’ ei gerddi i’w gyfeiliant ei hun ar y delyn, gall un o’r ystyron hyn fod yn berthnasol yma. A chan mai ‘celfyddyd, crefft’ yw ystyr sylfaenol cerdd, gall hefyd olygu ‘crefftwr’ yn gyffredinol. Yn y gramadegau barddol ymddengys mai ‘bardd’ yw’r ystyr, heb gyfeirio at statws na math: cf. fersiwn Llyfr Coch Hergest o’r Gramadegau, GP 17 Tri ryw gerdwr yssyd: clerwr, teuluwr, a phrydyd; cf. hefyd GO XXI.44 A cherddwr i’r vn gŵr wyf lle cyfeiria Gutun Owain ato’i hun fel ‘bardd’ i’r Abad Siôn ap Rhisiart o Lyn-y-groes. ‘Bardd’ yw’r dehongliad tebycaf yma felly.
49 Llywarch Hen Un o arweinwyr yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif, y tyfodd o’i gwmpas gylch o ganu englynol a olygir yn CLlH. Dangosodd Rachel Bromwich (1966–8: 34–6) mai fel pennaeth arwrol ac fel hen ŵr y cofiai’r beirdd amdano, cf. GDC 3.66n, 67l; GGDT 6.82 Myfyr barch Llywarch, llywydd ciwdawd (am Ruffudd Llwyd); GDB 18.67–8 Llywelyn boed hŷn … / No Llywarch hybarch / Orau didranc, ar d’oedran … Awgryma Bromwich (ibid. 36) mai Guto oedd y cyntaf i gyfeirio at Lywarch fel bardd. Yn ei gywydd i Einion ap Gruffudd o Lechwedd Ystrad, cyfeiria at Y tri oferfardd hardd hen: / Arthur aestew a Thrystan, / A Llywarch, pen cyfarch cân, 42.56–8. Ni cheir yr epithet Hen yn 42.58, ond mae’n amlwg mai cyfeirio’n ôl at gyfnod y Cynfeirdd a wneir. Mae’n bosibl mai cyfeirio at y ‘Tri Oferfeirdd’ a wna Guto yn y gerdd dan sylw – sef Arthur (40), Llywarch Hen a Ieuan.
50 Llaw Ieuan yn lle eos Cyfeiria Guto at y ffaith fod Ieuan Fychan yn gallu canu’r delyn â’i law ei hun (yn gyfeiliant i’w gerddi, mae’n siŵr), gan wneud sŵn môr felys â chân eos go iawn. Gallai’r Abad Dafydd o Lyn-y-groes yntau gyflawni’r un gamp, 113.58 Diwael brydydd dwylaw Brido. Ond mae’n bosibl fod eos i’w ddeall yn ffigurol am fardd neu delynor, gw. Sally Harper, ‘Dafydd ap Gwilym, Bardd a Cherddor’, DG.net, lle cyfeiria at delynorion a cheinciau cerdd dant yn cynnwys yr elfen Eos. Mewn nodyn ar bwys y testun yn BL 14822, awgryma Wiliam ap Wiliam fod Guto yn cyfeirio at delynor penodol yma, sef Siôn Eos y canodd Dafydd ab Edmwnd gywydd marwnad iddo yn dilyn ei grogi yn y Waun am ladd dyn wrth amddiffyn ei hun, DE cerdd XLII. Roedd Dafydd yn flin gan fod Siôn wedi ei ddedfrydu dan y gyfraith Seisnig yng hytrach na dan gyfraith Hywel Dda. O dan y gyfraith Gymreig byddai wedi cael talu iawndal i deulu’r sawl a lofruddiwyd, yn hytrach na gorfod colli ei fywyd. Defnyddir y gair eos gan Guto am y bardd Llywelyn ab y Moel, 82.14 eos gwawd, yn ogystal ag amdano’i hunan, 77.9 eos mwynwawd, 11.39 Ei eos ef a’i was wyf (i Rys ap Dafydd o Uwch Aeron).
52 Nudd Sef Nudd Hael mab Senyllt, TYP3 464–6, delfryd o’r noddwr haelionus. Ar ôl moli Ieuan Fychan fel bardd a cherddor, mae’r bardd am ein hatgoffa ei fod hefyd yn noddwr hael.
52 peneiddiach Ar pennaidd ‘tywysogaidd, pendefigaidd; rhagorol, ardderchog’, gw. GPC 2754 lle nodir hon fel yr unig enghraifft nad yw’n eiriadurol.
53 awenydd Cadwyd y gair yn yr aralleiriad: anodd gwybod ai bardd yn syml yw’r ystyr neu a oes ystyr pellach yn ymhlyg ynddo yng nghyswllt y cyfeiriad at ganu’r delyn.
55–6 Os Ieuan a gân y gainc, / Llawen fydd y llu ifainc Ymddengys fod poblogrwydd gyda’r to ifanc yn destun clod arbennig, fel y mae heddiw! Gyda’r cwpled hwn, cf. yn arbennig ddisgrifiad Hywel Cilan o Edward ap Madog Pilstwn, yntau’n uchelwr o fardd-delynor, GHC 23.29–32 Mor serchog â’r gog ar gainc, / Wyt eos y to ieuainc: / Canu i deulu delyn, / Canu mawl da, canmol dyn.
58 er y wlad Am er yn yr ystyr ‘yn gyfnewid am’, cf. 18.55–6 Cerdd i Forgan a ganaf, / Er y gerdd ei aur a gaf. Heddiw byddem yn dweud ‘fyddwn i ddim am ei wylltio am y byd’.
62 nai Owain Roedd Isabel, nain Ieuan Fychan ar ochr ei dad, yn chwaer i Owain Glyndŵr. Roedd Guto, fel ei gyfoeswyr, yn chwannog iawn i dynnu sylw at unrhyw gyswllt teuluol rhwng ei noddwyr ag Owain Glyndŵr, cf. 103.23–4.
65 merch Ednyfed Roedd mam Ieuan, Angharad, yn ferch i Ednyfed ap Tudur ap Goronwy o Drecastell, Môn. Mae’n rhyfedd fod y bardd yn galw am gefnogaeth mam Ieuan Fychan, yn hytrach nag am gefnogaeth ei wraig (gw. ymhellach y nodyn cefndir). Ond efallai fod Angharad yn gyfarwydd â chymryd rôl gyfryngol. Pan ganodd Ieuan Fychan gerdd i ofyn corwg gan ei gefnder, Siôn Eutun, gan fygwth ei ddychanu pe na roddai’r corwg iddo, atebodd Maredudd ap Rhys ar ran Siôn gan ddweud y byddai Siôn yn rhoi’r corwg yn llawen, meddai, petai Angharad yn gofyn amdano. Golygwyd y cywyddau hynny gan Enid Roberts yn GMRh cerddi 9–11, ond ni chynigir dyddiadau ar eu cyfer.
67 Hywel Mab hynaf ac etifedd Ieuan Fychan. Bu’n gefnogwr selog i Siasbar Tudur a phriododd â Margred, aeres Gloddaith (gw. Charles 1966–7: 79), yn ddiweddarach, o bosibl, na’r gerdd hon. Enwir ef gan Guto yma fel yr ail nerth ar ôl ei nain, gw. 65n. Tybir ei fod wedi marw cyn ei dad, gw. y nodyn cefndir.
67 hil Owain Cf. 62n uchod.
Llyfryddiaeth
Bromwich, R. (1966–8), ‘Y Cynfeirdd a’r Traddodiad Cymraeg’, B xxii: 30–7
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Wales [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel Noddwyr y Beirdd’, LlCy 9: 74–110
Evans, D.F. (1998), ‘“Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Rees, W. (1951), An Historical Atlas of Wales from Early to Modern Times (Cardiff)
Roberts, E. (1967), ‘Englynion Cristophis’ yn ‘Note and Documents’, TCHSDd 16: 149–51
Rowlands, E.I. (1956–7), Y Baich Drain’, LlCy 4: 172–6
Guto appears to have composed this poem after offending Ieuan Fychan ab Ieuan ab Addaf of Pengwern, Llangollen, and in it he expresses his ardent desire to be reconciled with his patron so that he can rid himself of the great burden of anxiety that is overwhelming him and having a detrimental effect on his health. It is an enigmatic cywydd on many counts, and raises some interesting questions regarding Guto’s relationship with his patron in Llangollen.
Ieuan Fychan was descended from a family that had been foremost in the administration of Nanheudwy before and after the Edwardian conquest. Guto gives Ieuan’s full patronymic to his grandfather (11, 13–14) and refers also to his mother, Angharad, as merch Ednyfed ‘daughter of Ednyfed’ (65), thus reminding the audience that she sprang from the esteemed line of Ednyfed Fychan of Trecastell, Anglesey. He also refers to Ieuan Fychan’s relationship with Owain Glyndŵr (his grandmother, Isabel, was Owain’s sister) by describing Ieuan as nai Owain ‘Owain’s nephew’ (62), and Ieuan’s son, Hywel, as of hil Owain ‘from Owain’s stock’ (67). As the fourteenth-century poet Hywel ab Einion Lygliw sang a traditional awdl, and not a cywydd, to Myfanwy Fychan of Dinas Brân, Llangollen (the sister of Adda, Ieuan Fychan’s grandfather), we can assume that this family had been patrons of poetry for many generations (see GGLl poem 1). However they were not merely patrons of poetry; many were also poets in their own right: Dafydd ab Edmwnd and Maredudd ap Rhys, for example, were both distant cousins of Ieuan Fychan, who was himself a poet. Indeed, Guto refers extensively to Ieuan’s bardic abilities in this poem, praising his ability to sing his poems to his own accompaniment on the harp, his performances bringing much pleasure to the younger generations in particular (see 39–54 and relevant notes).
Cywydd cymod (‘a reconciliation cywydd’) is the title given to this poem in some of the earliest manuscripts; in others Cywydd i ofyn cymod (‘a cywydd requesting reconciliation’) or I ofyn cymod i’w hun (‘to ask for reconciliation for himself’), and others add ac i gydnabod ei fai (‘and to admit his blame’). Dr Bleddyn Owen Huws (1998: 51) suggests that the cywyddau of reconciliation form a small group within the genre of request poems, in which the poet usually acts as an intermediary trying to appease two opposed factions. He suggests, ibid., that this type of poem appeared for the first time in the second half of the fifteenth century, although there are earlier examples of poems of reconciliation between the poet himself and others. For example, from the fourteenth century there are poems in which the poet tries to reconcile himself with his lover (cf. Dafydd ap Gwilym’s poem to Morfudd, ‘Seeking Reconciliation’, DG.net poem 97), and Huws suggests that this type of reconciliation poem was not necessarily a derivative of the request poem, but rather of the dadolwch poems of the earlier Gogynfeirdd, in which the poet tried to reconcile himself with his prince. Indeed, one could argue that Guto’s poem to Ieuan belongs closer to dadolwch poetry than request poems: he doesn’t greet Ieuan and doesn’t actually ask him directly for reconciliation. If we accept Guto’s version of events, then we must believe that he sang this poem somewhere besides Pengwern, because he claims that Ieuan is refusing to allow him entry into his court. That, of course, is unlikely, and the poet is probably creating a dramatic situation to convey the emotional distance which had developed between them for some reason. We can compare this with the way the love poet often describes his lover as being hidden in a faraway castle in order to to convey the emotional and social distance between them.
The reference to love poetry in the cywydd is interesting. Not only does Guto use the language of love poetry here (cf. 29–30 Os Ieuan a’m casaodd / Ys claf wyf nes cael ei fodd ‘If Ieuan has conceived a hatred for me, / I will be unwell until I receive his favour’), but he also compares Ieuan’s attitude to him with the girl’s indignation towards a poet who expresses his extreme love for her: Y mwyaf, cuaf, a’i câr, / Hithau, Degau, a’i digar! ‘He who loves her most, and most dearly, / she, Tegau, will despise him! (33–4). (It is probably a coincidence that Dafydd ap Gwilym also refers to Tegau in his poem ‘Seeking Reconciliation’, DG.net 97.18.) But despite the enmity and contempt shown towards him by Ieuan, ‘Pengwern’s stag’ ([P]engwern hydd), he, Guto, is like a faithful hound (cenau’r cynydd ‘the huntsman’s whelp’), absolutely faithful in his love for his master (35–6).
It is unlikely that this cywydd was to be taken seriously, and the audience must have laughed when Guto declared: Tebig … / Yw Ieuan Fychan i ferch ‘Ieuan Fychan / is similar to a girl’ (31–2) and when he compared Ieuan’s temper to a gun, which was an explosive and unreliable weapon in this period (13n). Indeed, just like in love poetry, we have the impression that Guto’s main focus of interest in this poem is on his own pain and suffering, and he seems to enjoy choosing suitable comparisons which show his learning. For instance, in the opening lines of the poem he compares himself to three famous men from the past who were famous for carrying excessive loads: St Christopher who carried Christ on his back, Hercules who held the world, and the man in the moon who was bent under a load of thorn sticks on his back (1–6); he then names himself as the fourth, who is suffering because of the burden of worries he has to bear on account of Ieuan’s anger: Dyn afiach iawn dan faich wyf! ‘I am a very sick, burdened man!’ (8). But he has no idea why Ieuan is so angry with him, and he compares himself further with Samson (19–20 Mal Samson … / … yw fy nhremynt ‘I am a spectacle … like Samson’): just as Samson pulled down the Philistine’s temple on top of himself, Guto, seems in danger of making his own situation worse (23–4 Mae’n enbyd … / Y syrth ’y mhyrth ar ’y mhen ‘It’s dreadful … / how my gates tumble on top of me’). But whatever he had done, Guto declares that it is his patron’s forgiveness is his only hope for a cure, and he adds, under his breath again: Mi a wn ar gam ’y mod ‘I know that I am to blame’ (63). However, we know that he’s not convinced of that, because he’s already told us that he doesn’t know what he had done wrong!
If we accept that this is a rather light-hearted cywydd, we don’t have to believe that there was a serious cause to the alleged dispute between Guto and his patron. If there was a real falling out, surely this poem would have made matters worse! And yet, there has been a tradition which goes back to at least the seventeenth century, that the poem was indeed sung after a real and bitter dispute.
As Carr (1976: 34) suggests, Ieuan Fychan was a supporter of the Lancastrian cause:
… most of the leading gentry in Tegeingl and Maelor Saesneg supported Henry VI and subsequently Henry Tudor … there can be no doubt whatsoever of Ieuan Fychan’s Lancastrian sympathies ... In any case, Ieuan’s family connections could hardly have made him anything but a Lancastrian; from 1456 onwards the leader of the party in Wales was Jasper Tudor, like Ieuan a great-grandson of Tudur ap Goronwy of Penmynydd.
But in general, the landowners of the Chirk lordship sympathised with the Yorkist cause, their land having originally belonged to Mortimer before being transferred to Richard, duke of York (Rees 1951: 48–50, and plate 53). We can assume, therefore, that Ieuan Fychan was a Lancastrian sympathiser in a predominantly Yorkist territory; we know that his cousins, the Trefor family in Bryncunallt, Chirk, who patronized Guto between c.1442 and 1452 (poems 103–5), supported the Yorkist cause. In Pen 177, 199, Guto’s cywydd to Ieuan Fychan is followed by a poem by Rhys Goch Glyndyfrdwy to Ieuan’s two sons who had been imprisoned. A note in the manuscript explains: Ithel a Rys meib I[euan] Vychan ap I[euan] a aethant i gastell y Drewen ddvw gwener gwyl Gadwaladr y XIIved dydd or gayaf ac a vuant yno hyd difie kyn awst O.K. 1457 ‘Ithel and Rhys, sons of Ieuan Fychan ab Ieuan, went to Whittington castle on Friday, the feast of Cadwaladr, on the twelfth day of winter, and they remained there until the Thursday before August’ (and as Carr (1976: 37) notes, the fact that 12 November 1457 was indeed a Friday gives this note some credence). In a similar note before Guto’s cywydd in LlGC 3027E, 26, we are informed that it was the brothers’ cousin, Rhisiart Trefor, who was responsible for the imprisonment. We know from external evidence that Rhisiart was constable of Whittington castle by 1468 (LlGC Chirk Castle F 9878), and it is quite possible that his association with the castle went back much earlier in his career (see especially 104.47n). Further, in his praise poem to Ieuan ab Einion ap Gruffudd of Cryniarth in Edeirnion, another ardent supporter of the Lancastrian cause, Guto refers to unruliness in Edeirnion and the fact that his patron had been forced to flee:
Bu ladrad heb lywodraeth,
Bu drais, dros y byd yr aeth …
Ieuan a ffoes yn y ffydd
Â’i lu dof …
Aeth Ieuan i’r lan â’i lu,
Aeth eraill i’w merthyru. (48.19–20, 23–4, 37–8)
‘There was looting without restraint, / there was violence, it spread everywhere … / Ieuan fled full of faith / with his host … / Ieuan went ashore with his host, / while others went to their martyrdom.’
A note in the margin by this poem in Llst 30 explains, yr eraill hynny oedd froder Ienn’ fychan ap Ie[uan] ap Addaf, ac o achos canu y pennill yma y canodd ef y cywydd cymmod i Ie[euan] fychan, St Christoffr a fu’n offrwm. ‘Those others were the brothers of Ieuan Fychan ab Ieuan ab Addaf, and as a consequence of singing this verse he sang a cywydd requesting reconciliation with Ieuan Fychan St Christoffr a fu’n offrwm’ (Gw. 48.38n.) Does this refer to another incident involving Ieuan’s brothers, Llywelyn and Iorwerth (Hen) of Gwernosbynt, or is it more likely to be a mistake for Ieuan’s sons. Does the reference in poem 48 explain why the brothers were imprisoned? And was Ieuan Fychan angered by the fact that Guto was receiving patronage from the Trefor family?
Date
If this incident and the imprisonment were the cause for the rift between Guto and Ieuan, then we can date this poem pleading for reconciliation shortly after 1457 (if the date given for the imprisonment is correct). As Ieuan Fychan’s name begins to appear in Mostyn documents from 1432 onwards (Ba (M) document 1629 (v)), we can assume that he had by then married Angharad daughter of Hywel ap Tudur, heir to Mostyn. By the time Guto sang this poem, they had a son, Hywel, who was old enough for Guto to ask him to intercede on his behalf, and still young (ifanc, 65–6). As Ieuan is called ‘Pengwern’s stag’ (Pengwern hydd, 36), and is praised as head of the household, we can suggest a date after his father’s death on 26 December 1448. The poet, unexpectedly, does not ask Ieuan Fychan’s wife for her help, and it is possible, as Carr (1976: 42) suggests, that she had died by the time this poem was sung. Another possibility is that she actually lived in Mostyn, her hereditary home, and that Ieuan Fychan divided his time between the two estates. As shown in the patron note on Ieuan Fychan, he died in 1476/7.
The manuscripts
This poem occurs in 53 manuscript copies, ranging in date from the first half of the sixteenth century to the late nineteenth century. There is frequent variation between the copies as regards line order, additional couplets, and textual readings and although some of the manuscripts can be grouped together, it has been quite impossible to create a stemma which adequately describes their inter-relationship. It is likely that many copies have been lost. The manuscripts from the South are the easiest to define. These all derive from X1 in the stemma, and are characterised by many unique readings and by the line order 39–72, 1–38. Smaller groups can be recognized amongst the rest of the manuscripts, and I have based my edition on the oldest manuscripts within these groups.
Previous edition
GGl poem XXVII.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 72 lines.
Cynghanedd: croes 42% (30 lines), traws 22% (16 lines), sain 30.5% (22 lines), llusg 5.5% (4 lines).
1 Sain Cristoffr A saint remembered for his strength and might, see Roberts 1967: 149–51, who refers to the tradition that St Christopher carried the infant Jesus on his back. Roberts suggests that his name, Cristo-phorus, originally referred to the figurative act of carrying Christ in his heart, but developed a more literal sense in the medieval period. By the fifteenth century his story was very popular and his image was seen frequently on church windows and walls: see Lord 2003: 213–15. Guto may well have such an image in mind as he describes the saint.
4 Erclys ‘Hercules’. This is the only example of this form of the Greek hero’s name in Guto’s poetry. Ercwlff (27.49, 29.53, 72.18) is the usual form in the poetry of the period. However a final s is needed here for cynghanedd. According to one version of the legend, Zeus punished Atlas for siding with the Titans in a battle against the gods of Olympus, and made him hold the world in his hand. Hercules offered to relieve Atlas of his punishment for a while by taking the weight himself, as long as Atlas agreed to go to Hesperides’s garden, which was being defended by the multi-headed monster Ladon, to steal a golden apple of immortality on his behalf. Having done the favour, Hercules realised that Atlas wouldn’t want to take the weight back, so Hercules pretended to be completely happy continuing to hold it, but said that he had to make some minor adjustments to make himself comfortable. Atlas agreed to take the world back for a few moments, but once he had done so, Hercules fled with the golden apples. Could Guto’s reference to Hercules holding the weight ‘for an hour beneath the world’ be a specific reference to this legend? We can be confident that Ieuan Fychan himself was a learned man, and it is quite possible that Guto would have heard this story in Pengwern.
5 gŵr yn y lleuad A reference to the story of the man in the moon who carried a burden of sticks on his back. He is often depicted with his dog, a very popular image in Wales and beyond in the Middle Ages. The legend is discussed in detail in Rowlands 1956–7: 172–6.
7 pedwerydd ydwyf Guto often refers to three famous characters from the past who shared a particular feature (strength, beauty, &c.) before naming his patron as the fourth, cf. 53.17–25 where he refers to three Elens from the past who were famous for their beauty, before naming Elen of Llannerch as the fourth. We have a variation on the topos here, with Guto naming three heroes from the past who were famous for carrying an unreasonably large burden, and naming himself as fourth. But it is a burden of grief that afflicts Guto, following his falling out with Ieuan Fychan. It is quite possible that the audience would have found this humorous.
10 wyth o’r main gynt Eurys Rowlands (1956–7: 172) took this to be a reference to the stones of the Giant’s Circle which Merlin dislodged from Cilara mountain in Ireland, see BD 126–8. The legend doesn’t specifically refer to eight stones, but it’s quite certain that Guto did know of the Giant’s Circle at Stonehenge, cf. 61.53–4 (describing roof slates) Main cowri yn Salbri sydd, / Main treulfawr mewn tri elfydd ‘There are giants’ stones in Salisbury, / magnificent stones in three realms’, and ibid.n. But it could also be a general reference to the type of heavy stones Guto would throw in the past: as Gutun Owain said of Guto in his elegy, 126.15 Ac ar faen gorau a fu ‘and he was best at throwing a heavy stone’.
13 anian gwn Guto may simply be praising Ieuan Fychan’s military skills here, but it is possible that he is hinting at Ieuan’s explosive temper. In these early days guns (which could include canons) were particularly unreliable weapons, difficult to control: see Evans 1998: 75–105, especially 77.
14 Addaf Addaf ab Iorwerth Ddu of Pengwern, Llangollen, Ieuan Fychan’s grandfather; his wife was Isabel, daughter of Gruffudd Fychan and sister of Owain Glyndŵr.
16 a’i cyfyd The burden of grief which Guto’s back must bear following Ieuan Fychan’s ‘displeasure’ (anfodd, 15).
18 gwas Translated as ‘young man’, but we cannot be sure that the word refers to age.
19–20 Mal Samson wrth golon gynt / A fu’n rhwym yw fy nhremynt Tremynt is ambiguous: it could mean ‘appearance, aspect’, or ‘eye(sight), vision’ (see GPC 3585). Guto is comparing his situation with that of Samson when he stood as a prisoner between the columns of the Philistine’s temple before pulling them down on top of himself. The story is recounted in Judges 16.19–30. After Delilah had shaved Samson’s head and stolen his strength, the Philistines caught him, gouged out his eyes, and chained him in Gaza prison. After a while his hair started to grow again. One day the Philistines summoned him to the temple to entertain their lords, who had come together to offer sacrifice to their god Dagon. Samson was placed between two columns in the temple where everyone could see him. He asked God to restore his strength, so that he could punish the Philistines. Then ‘Samson took hold of the two middle pillars upon which the house stood, and on which it was borne up, of the one with his right hand, and of the other with his left. And Samson said, Let me die with the Philistines. And he bowed himself with all his might; and the house fell upon the lords, and upon all the people that were therein’ (quoted from the King James version). Cf. lines 23–4 Mae’n enbyd … / Y syrth ’y mhyrth am ’y mhen ‘It is dreadful … / how my gates tumble on top of me.’
31–2 Tebig, wrth gynnig annerch, / Yw Ieuan Fychan i ferch Guto suggests that Ieuan Fychan behaves towards him in the same way as a girl behaves towards a poet addressing her with love poetry, i.e. unreasonably and with disdain! This interpretation is confirmed in the following couplet where the girl is named Tegau, see 34n, a name which occurs frequently in love poetry. To suggest that Ieuan Fychan, the most powerful noblemen of Nanheudwy, was similar to a girl must have caused laughter in the audience.
34 Tegau Tegau Eurfron, a pattern of beauty and continence (cf. 53.34, 107.11). For her legend, see 107.11–12n.
35–6 Minnau fal cenau’r cynydd / A garwn hwn, Bengwern hydd It’s probably no coincidence that Guto refers to his patron as Pengwern hydd ‘Pengwern’s stag’ and to himself as cenau’r cynydd ‘the huntsman’s whelp’. Dogs would chase a stag, rather than ‘loving’ it. This is a further suggestion that Guto has his tongue firmly in his cheek in this poem.
39 rhôn GPC 3094 ‘spear, lance, pike, also fig.’. This is the only example in Guto’s poetry; Lewys Glyn Cothi has a few (e.g. GLGC 138.13, 190.1), but it was a much more common word in the fourteenth century. Rhôn was probably a rather archaic word by Guto’s time, but as he is comparing Ieuan Fychan with King Arthur here, he may have chosen this word specifically to evoke an earlier heroic age. Remember also that Rhôn, or Rhongymyniad, was the name of Arthur’s spear in the Welsh tradition, BD 148.27–8 Gleif a rodet yn y lav, yr hon a elwit Ron ‘A spear was placed in his hand, which was called Rhôn’.
40 campau Arthur The poets often referred to Arthur as the embodiment of military prowess as well as the successful head of his court. He was also one of the ‘Three Frivolous (Amateur?) Bards of the Island of Britain’ (TYP3 22), which may be relevant regarding the reference to Ieuan Fychan’s skill as a poet in the following lines.
42 Pencerdd ar y ddwygerdd oedd Poets are sometimes praised for being masters of the ‘two crafts’ (dwygerdd): Tudur Aled, according to Lewys Daron, was Pencerdd y ddwygerdd agos ‘Master of the two close crafts’ (GLD 25.47). The two crafts are usually understood to be cerdd dafod (poetry) and cerdd dant (mastery of the harp, or perhaps another stringed instrument such as the crwth ‘crowd’). Sometimes, however, one of the crafts could be datganu (the art of singing or declaring poetry to an audience), the third craft which was awarded a prize in the eisteddfodau of the fifteenth and sixteenth centuries. However as Guto praises Ieuan’s ability to play the harp (Llaw Ieuan yn lle eos ‘Ieuan’s hand equalling a nightingale’, 50), it is probably the first two crafts, cerdd dafod and cerdd dant, that he has in mind here.
47–8 Gruffudd … / Gryg hirddoeth Guto compares Ieuan Fychan’s ability ar gywydd ‘on the cywydd metre’ with that of the poet from Anglesey who flourished in the second and third quarters of the fourteenth century and who is especially remembered for his rather testy bardic debate with Dafydd ap Gwilym, see GGrG 8–19. There may be an echo here of the following couplet from Dafydd ap Gwilym’s elegy for Gruffudd Gryg: Gruffudd, huawdl ei awdlef, / Gryg ddoeth, myn y grog, oedd ef ‘Wise Gruffudd – of eloquent song – / Gryg, by the rood, was he’. Gwilym ab Ieuan Hen (fl. c.1440–80) also compared Gruffudd ap Dafydd with Gruffudd Gryg (as regards his love poetry), see GDID XV.17–18 Dyblu serchowgrwydd diblyg, / Dy gywydd fal Gruffudd Gryg ‘Doubling undeviating love, / your cywydd is like that of Gruffudd Gryg’. In his praise of Abbot Dafydd’s hospitality in Valle Crucis, Gutun Owain says, Gwres gwin rrudd val Gruffudd Gryc / A gwin a medd gwyn a mac ‘The warmth of red wine like Gruffudd Gryg, / and wine and white mead, and nourishment.’ This seems to suggest that Gruffudd Gryg had received hospitality in the abbey, and therefore had connections with the Llangollen area (which may explain Guto’s reference to him here), but no further evidence of such a connection has been found.
48 cerddwr GPC 466 s.v. cerddwr1 ‘musician, singer, poet’. It isn’t a word used frequently by Guto – there is another example in line 51 below – and as Ieuan could ‘sing’ his poems to his own accompaniment on the harp, either of the three meaning given by GPC could be relevant here. And as the essential meaning of cerdd is ‘craft, skill’, cerddwr may simply mean ‘craftsman’. In the bardic grammars it seems to be used as a generic word for a ‘poet’, without any suggestion of status or type: cf. the Red Book of Hergest version, GP 17 Tri ryw gerdwr yssyd: clerwr, teuluwr, a phrydyd ‘There are three types of poets: an itinerant minstrel, a household poet and a master poet’. Gutun Owain also describes himself as a cerddwr to Abbot Siôn ap Rhisiart of Valle Crucis, GO XXI.44 A cherddwr i’r vn gŵr wyf ‘and I am a poet to the same man’. ‘Poet’ therefore seems to be the safe option here.
49 Llywarch Hen One of the leaders of the Old North in the sixth century, who features as a character in a cycle of englynion edited in CLlH. Rachel Bromwich (1966–8: 34–6) suggested that the poets remembered him as a heroic chieftain and an old man, cf. GDC 3.66n, 67l; GGDT 6.82 Myfyr barch Llywarch, llywydd ciwdawd ‘Of the thoughtful esteem of Llywarch, leader of people’ (of Gruffudd Llwyd); GDB 18.67–8 Llywelyn, boed hyn, boed hwy dichwein / No Llywarch hybarch … ‘Llywelyn, may he be older, may his adventure be longer / Than that of esteemed Llywarch …’ Bromwich (1966–8: 36) suggests that Guto’s was the earliest reference to Llywarch specifically as a poet. In his poem to Einion ap Gruffudd of Llechwedd Ystrad, he refers to Y tri oferfardd hardd hen: / Arthur aestew a Thrystan, / A Llywarch, pen cyfarch cân ‘the three beautiful old amateur bards: / Arthur with his strong shield, and Tristan, / and Llywarch, the chiefs of address in song’, 42.56–8. Although Guto doesn’t use the epithet Hen in 42.58, there can be no doubt that he is referring to poets of the Cynfeirdd period. Guto may also be referring to the ‘Three Amateur Bards’ here, namely Arthur (40), Llywarch Hen and Ieuan Fychan himself.
50 Llaw Ieuan yn lle eos Guto is saying that Ieuan Fychan could play the harp with his own hand (probably as an accompaniment to his own poetry) and produce a sound that was as sweet as a nightingale’s song. Abbot Dafydd of Valle Crucis could perform the same feat, 113.58 Diwael brydydd dwylaw Brido ‘a fine bard with the hands of Brido’. For the figurative use of eos for a poet or harpist, see Sally Harper, DG.net, ‘Dafydd ap Gwilym, Poet and Musician’, where she draws attention to names of harpists or harp music containing the element Eos. In a note beside his copy of the text in BL 14822, Wiliam ap Wiliam suggests that Guto is referring to a particular harpist, Siôn Eos, who was a contemporary of Guto and who was hanged in Chirk for killing a man whilst defending himself. Dafydd ab Edmund composed a memorable elegy, DE poem XLII, expressing his bitterness that Siôn had been committed under English law instead of that of Hywel Dda. Under Welsh law he would have had to pay compensation to the victim’s family rather than lose his life. Guto calls the poet Llywelyn ab y Moel eos gwawd ‘the nightingale of song’ (82.14), and himself eos mwynwawd ‘nightingale of gentle song’ (77.9), Ei eos ef a’i was wyf ‘I am his nightingale and his servant’ (11.39, to Rhys ap Dafydd of Uwch Aeron).
52 Nudd Nudd Hael son of Senyllt, TYP3 464–6, the epitome of the generous patron. After praising Ieuan Fychan’s skills as a poet and musician, the poet is keen to remind us of his eminence as a generous patron.
52 peneiddiach For pennaidd ‘princely, aristocratic; prime, superior excellent’, see GPC 2754. This is the only citation given which is not from a dictionary.
55–6 Os Ieuan a gân y gainc, / Llawen fydd y llu ifainc It seems that being popular with the younger generation was as important then as it is today! With this couplet, compare Hywel Cilan’s description of Edward ap Madog Pilstwn, also a nobleman and poet-harpist, GHC 23.29–32 Mor serchog â’r gog ar gainc, / Wyt eos y to ieuainc: / Canu i deulu delyn, / Canu mawl da, canmol dyn ‘You are as charming as the cuckoo in song, / you are the nightingale of the younger generation: / playing the harp to the family, / Singing praise of quality, praising man.’
58 er y wlad For er meaning ‘in exchange for’, cf. 18.55–6 Cerdd i Forgan a ganaf, / Er y gerdd ei aur a gaf ‘I will sing a poem for Morgan, / in return for the poem I will get his gold.’
62 nai Owain Isabel, Ieuan Fychan’s grandmother on his father’s side, was Owain Glyndŵr’s sister. Guto, like many of his contemporaries, was keen to draw attention to any family links between his patrons and Owain Glyndŵr, cf. 103.23–4n.
65 merch Ednyfed Ieuan’s mother, Angharad, was the daughter of Ednyfed ap Tudur ap Goronwy of Trecastell, Anglesey. It is unexpected that Guto should ask for her support, rather than that of Ieuan’s wife (see the preliminary notes above). However, Angharad may well have been used to taking an intermediary role. When Ieuan Fychan addressed a poem to his cousin, Siôn Eutun, asking for a coracle and threatening satire should he refuse, Maredudd ap Rhys replied on Siôn’s behalf, saying that he would gladly give him the coracle if Angharad were to ask him for it. These poems were edited by Enid Roberts in GMRh poems 9–11 (they are not given a date).
67 Hywel Ieuan Fychan’s eldest son and heir. He was an ardent supporter of Jasper Tudor and married Margred, the heiress of Gloddaith (see Charles 1966–7: 79), possibly later than the date of this cywydd. He is named as the ‘second strength after his grandmother’, see 65n. He may have died shortly before his father (see the preliminary notes above).
67 hil Owain Cf. 62n.
Bibliography
Bromwich, R. (1966–8), ‘Y Cynfeirdd a’r Traddodiad Cymraeg’, B xxii: 30–7
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Wales [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel Noddwyr y Beirdd’, LlCy 9: 74–110
Evans, D.F. (1998), ‘“Y carl a’i trawai o’r cudd”: Ergyd y Gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4: 75–105
Huws, B.O. (1998), Y Canu Gofyn a Diolch c.1350–c.1630 (Caerdydd)
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Rees, W. (1951), An Historical Atlas of Wales from Early to Modern Times (Cardiff)
Roberts, E. (1967), ‘Englynion Cristophis’ yn ‘Note and Documents’, TCHSDd 16: 149–51
Rowlands, E.I. (1956–7), Y Baich Drain’, LlCy 4: 172–6
Cywydd Guto i ofyn cymod (cerdd 106) yw’r unig gerdd ganddo a gadwyd i Ieuan Fychan. Disgrifia Guto Ieuan Fychan fel bardd a thelynor (106.42–6), ac yn wir yn y llawysgrifau cadwyd wrth ei enw ddwy gerdd yn gofyn am gwrwgl gan ei gyfyrder, Siôn Eutun ap Siâms Eutun (gw. GMRh cerddi 9, 11). Bu’n rhaid i Siôn alw ar wasanaeth Maredudd ap Rhys i gyfansoddi cywydd ateb (ibid. cerdd 10), a chyfansoddodd Ieuan Fychan ymhellach gywydd ateb i Faredudd, a chanodd y ddau fardd gyfres o englynion i’w gilydd ar ben hynny oll (ibid. cerddi 11, 12; Charles 1966–8: 74–8). Am ganu Gruffudd Nannau a Rhys Goch Glyndyfrdwy i feibion Ieuan, Ithel a Rhys, pan garcharwyd hwy yn y Dre-wen, gw. y nodyn ar Risiart Trefor o Fryncunallt. Gweler hefyd y nodyn ar Siôn Edward ab Iorwerth o Blasnewydd, nai Ieuan Fychan, am ganu Guto a’i gyfoeswyr i’r teulu hwnnw.
Achres
Mae’r achres ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 13, ‘Marchudd’ 13, ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 5; WG2 ‘Tudur Trefor’ 13C. Nodir y rhai a enwir yng ngherdd 106 â theip trwm, a thanlinellir enwau’r noddwyr.
Achres Ieuan Fychan ab Ieuan o Bengwern
Disgynnai Ieuan Fychan o deulu a fu’n flaenllaw iawn yng ngweinyddiaeth Nanheudwy cyn y goncwest Edwardaidd ac wedi hynny, pan ddaeth y cwmwd yn rhan o arglwyddiaeth newydd y Waun. Cyndeidiau iddo oedd Iorwerth Hen, Iorwerth Fychan ac Iorwerth Foel a ddaliodd swyddi uchel yn llys tywysogion Powys dros dair cenhedlaeth. Meddai A.D. Carr (1976: 8): ‘It is … possible that the office of seneschal of Powys Fadog became hereditary in the family of Pengwern, just as the corresponding office of Gwynedd became the preserve of the family of Ednyfed Fychan.’ Dyma ddau hen deulu Cymraeg uchel iawn eu statws a fu yng ngwasanaeth y tywysogion, ac nid yw’n syndod iddynt ystyried ei gilydd yn ddeunydd priodi addas: priodasai Myfanwy ferch Iorwerth Ddu (chwaer i Addaf, taid Ieuan Fychan) â Goronwy ap Tudur o Benmynydd, Môn. Myfanwy oedd y ferch o Ddinas Brân y canodd Hywel ab Einion Lygliw iddi awdl serch gofiadwy (GGLl cerdd 1). Roedd mam Ieuan Fychan, Angharad, hithau’n disgyn o’r un teulu, yn ferch i Ednyfed ap Tudur o Drecastell (chwaer yng nghyfraith, felly, i Fyfanwy). O’r teulu hwn, mae’n debyg, y cafodd Ieuan y cyfenw ‘Fychan’, cyfenw y gellir ei olrhain yn ôl i sylfaenydd effeithiol y llinach honno ym Môn, Ednyfed Fychan. Drwy gyfeirio at fam Ieuan fel merch Ednyfed naf (106.65), mae Guto’n atgoffa ei gynulleidfa o’r cyswllt teuluol pwysig hwn.
Roedd priodas Ieuan Fychan ei hunan ag Angharad, aeres Mostyn, ym mlynyddoedd cynnar y 1430au, yn un gwbl allweddol yn hanes y teulu (gw. Mostyn 1629 (v)), a dyma sefydlu un o’r stadau mwyaf grymus yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Fel y noda Carr (1976: 30): ‘Ieuan Fychan was by far the most outstanding member of the Pengwern family and the real founder of the Mostyn estate.’
Gwelir i Ieuan Fychan yn ei dro sicrhau priodasau da i’w blant yntau. Priododd ei fab hynaf, Hywel, â Marged ferch Gruffudd, aeres Gloddaith, a dyna ddod â llys arall at stad Mostyn a oedd yn prysur gynyddu mewn maint a grym. (Ni wyddys dyddiad marw Hywel, ond y tebyg yw iddo farw cyn ei dad, gw. Carr 1976: 44.) Priododd Alis, chwaer Hywel, â Wiliam ap Morus, brawd i Sieffrai Cyffin o Groesoswallt, a phriododd chwaer arall, Marged, â Meurig ap Llywelyn o Fodsilin.
Cyswllt teuluol y mae Guto’n awyddus i’w amlygu yw’r ffaith fod nain Ieuan Fychan ar ochr ei dad, Isabel ferch Gruffudd Fychan, yn chwaer i Owain Glyndŵr. Roedd chwaer arall, Lowri, yn briod â Robert Pilstwn, ac felly’n fam i Angharad, gwraig Edward ap Dafydd o Fryncunallt (gw. 103.23–4n). Bu teulu Pengwern yn gefnogwyr selog i Owain yn ystod y gwrthryfel, a bu’n rhaid i Ieuan ab Addaf, tad Ieuan Fychan, fforffedu ei diroedd am ychydig fel cosb, cyn iddynt gael eu hadfer iddo ar brydles erbyn 1409 ac efallai’n llawn yn fuan wedyn (gw. Smith 1987: 177).
Ar farwolaeth ei dad, Ieuan ab Addaf, ar 26 Rhagfyr 1448, daeth Ieuan Fychan yn benteulu Pengwern a Mostyn. Yn sicr, mae’r modd y mae Guto’n canmol perchentyaeth Ieuan ym Mhengwern yn awgrymu y gall mai’n fuan ar ôl 1448 y canwyd cerdd 106. Pan fu farw mam Ieuan, Angharad, daeth Trecastell hefyd i’w feddiant. Drwy ei fam roedd Ieuan yn perthyn i Siasbar Tudur, a cheir traddodiad a gofnodir yng ngwaith gŵr lleol, Elis Gruffydd, i Ieuan roi lloches i Siasbar ym Mostyn yn 1464 (Carr 1976: 35).
Cartref
Cysylltir prif gangen y teulu â Phengwern ers o leiaf y drydedd ganrif ar ddeg. Disgrifir trefgordd Pengwern yn Arolwg Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391 fel terram ecclesiasticam (Jones 1933: 58), ac awgryma Carr (1976: 22) fod iddi ar un adeg gysylltiad â hen eglwys clas Collen. Fel y nodwyd eisoes, gyda phriodas Ieuan ag Angharad o Fostyn, cynyddodd ystâd y teulu’n fawr. Hefyd symudodd canolbwynt eu grym o Bengwern i Fostyn yn sir y Fflint. Ond fel pennaeth Pengwern yn benodol y mae Guto yn cyfarch Ieuan.
Ei yrfa
Mae prinder cymharol dogfennau o’r bymthegfed ganrif yn ei gwneud hi’n anodd cael darlun llawn o yrfa unrhyw uchelwr o’r cyfnod, ond mae enw Ieuan Fychan yn digwydd yn fwy aml nag arfer, efallai, a rhydd Carr (1976: 27–44) grynodeb hwylus o’r hyn sy’n hysbys amdano. Ceir traddodiad yn hanes y teulu (Glenn 1925: 33) iddo ymuno ym myddin iarll Arundel yn Ffrainc ar gyfer ymgyrch 1415. Yn sicr, mae yno ŵr o’r un enw yn y fyddin honno, ond ni ellir bod yn gwbl hyderus mai Ieuan Fychan o Bengwern ydoedd, er y byddai gwasanaeth filwrol o’r fath yn ddigon arferol i uchelwr yn y cyfnod (Carr 1976: 30–1). Yn 1432, cofnodir i’r Frenhines Katherine roi Mostyn ar les i Ieuan Fychan am £14 y flwyddyn; mae’n rhaid felly ei fod wedi priodi Angharad erbyn hyn. Roedd Katherine, gweddw Harri V, bellach yn wraig i Owain Tudur, cefnder felly i fam Ieuan (ibid. 30). Crybwyllir Ieuan yn aml mewn dogfennau rhwng y 1430au a’r 1450au, mewn achosion llys, weithiau’n ddiffynnydd a thro arall yn gweinyddu’r gyfraith, a hefyd mewn gweithredoedd yn ymwneud â throsglwyddo tir (trafodir y rhain ibid. 31–3).
Wrth foli Ieuan Fychan, rhydd Guto gryn bwyslais ar ei ddoniau fel bardd a thelynor yn ogystal â’i berchentyaeth ym Mhengwern. Roedd y beirdd-uchelwyr Dafydd ab Edmwnd a Maredudd ap Rhys, ficer Rhiwabon, hwythau’n gefndryd o bell iddo (yn disgyn o Fadog Llwyd, brawd i Ednyfed Gam), ac ymddengys felly fod y teulu hwn yn ymddiddori mewn cerdd dafod ar lefel dyfnach na noddwyr yn unig.
Ni wyddom ddim am addysg Ieuan Fychan ei hun na phwy oedd ei athro barddol. Awgrymir yn hanes y teulu (Glenn 1925: 31) iddo dderbyn addysg gychwynnol yn abaty Glyn-y-groes cyn mynd ymlaen i un o brifysgolion Lloegr, Rhydychen neu Gaer-grawnt; ond nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu’r awgrym hwnnw (cf. Carr 1976: 40n180).
Dyddiadau
Fel y nodwyd, mae’r cyfeiriad cynharaf at Ieuan Fychan yn dyddio i flynyddoedd cynnar y 1430au, yn fuan ar ôl iddo briodi. Gallwn fwrw amcan, felly, iddo gael ei eni tua dechrau’r 1410au, os nad ynghynt. Mae peth anghytundeb ymysg ysgolheigion diweddar ynglŷn â’i ddyddiad marw. Yn ôl R.A. Charles (1966–7: 78): ‘Bu farw Ieuan Fychan rhwng mis Gorffennaf, 1457, a’r mis Mawrth canlynol ym mhlas Mostyn, yn ôl pob tebyg, ac fe’i claddwyd yn eglwys Chwitffordd’, gan ddilyn hanes y teulu (Glenn 1925: 50). Ond rhaid gwrthod hynny, oherwydd enwir Ieuan yn dyst i weithred wedi ei dyddio 11 Mawrth 1475 yn trosglwyddo tir yng Ngwernosbynt i’w nai, Siôn Edward (Jones 1933: 93; Carr 1976: 43). Roedd wedi marw erbyn 2 Mawrth, 1477, oherwydd ceir dogfen yn cofnodi bod ei holl eiddo wedi ei drosglwyddo i’w ddwy ferch, Margaret ac Alis, ar y dyddiad hwnnw (LlGC Castell y Waun F 9876). Awgryma hyn hefyd fod ei fab hynaf, Hywel, yntau wedi marw erbyn hynny.
Llyfryddiaeth
Carr, A.D. (1976), ‘The Mostyn Family and Estate, 1200–1642’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Charles, R.A. (1966–7), ‘Teulu Mostyn fel noddwyr y beirdd’, LlCy 9: 74–110
Glenn, T.A. (1925), History of the Family of Mostyn of Mostyn (London)
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Parry Owen, A. (2010), ‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, LlCy 33: 1–31
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84