Y llawysgrifau
Ceir y testun hwn mewn dwy lawysgrif yn unig, sef LlGC 17114B a chopi o’r testun hwnnw yn LlGC 3051D, gydag ambell newidiad bychan yn yr ail. Testun LlGC 3051D a ddefnyddiwyd ar gyfer golygiad GGl, ond yma rhoddwyd blaenoriaeth i ddarlleniadau LlGC 17114B. Hepgorwyd llinellau 25–6 yn LlGC 3051D (ac felly yn GGl) ac mae trefn 37–8 yn wahanol yn y ddwy lawysgrif: LlGC 17114B sy’n gywir yn y ddau achos. Mewn ambell fan ymddengys fod copïydd LlGC 3051D wedi sylwi ar ddiffygion LlGC 17114B a cheisio gwella’r testun (cf. 27n). Nodir isod lle mae GGl wedi dilyn LlGC 3051D.
Mae’r ffaith mai dau gopi’n unig o’r gerdd sydd wedi goroesi yn annisgwyl, yn enwedig a hon yn gerdd ofyn sy’n enwi nifer o uchelwyr amlwg o’r gogledd-ddwyrain.
Trawsysgrifiad: LlGC 17114B.
1 deon Nid oes sail i GGl dean.
3 mae’n dew ei fyd LlGC 17114B mae yn dew fyd, ac os cywesgir yn mae’n, fel sy’n naturiol (cf. LlGC 3051D mae/n/ dew vyd), mae’r llinell yno’n fyr o sillaf. Derbynnir, felly, awgrym GGl i gyflenwi ei yma, er mwyn yr hyd a’r ystyr.
4 ’Môn Ceir llinell wythsill yn y llawysgrif: ymon gron y mangor ennyd. Er mwyn hyd y llinell gellir darllen ’Mon (o ym Môn) neu ’Mangor (o ym Mangor), a dichon mai’r cyntaf sydd orau ar gyfer y cymeriad (cf. GGl).
5 o’r Gyffin Cyfeirir yma at y Gyffin, ger Conwy, lle bu Rhisiart yn rheithor (gw. 5n (esboniadol)). Dilyn LlGC 3051D ar Gyffin a wna GGl, gan ddehongli Cyffin, mae’n debyg, yn gyfeiriad at y deon: ‘ar gost Cyffin’.
6 ef â’r gost LlGC 17114B efa ar gost (sy’n peri i’r llinell fod yn hir, a dichon i’r copïydd ailadrodd yr a heb sylweddoli nad oedd angen). Dilynodd GGl gywiriad LlGC 3051D (Fo â’r gost…).
7 ar Gthg. LlGC 3051D er, a dderbynnir yn GGl. Cymerir mai rhoi stôr ar ‘gwario ar’ yw’r gystrawen yma.
8 a’m LlGC 17114B; LlGC 3051D na’m (felly GGl). A addaswyd y darlleniad yn LlGC 3051D er mwyn y cymeriad?
12 A’m ceraint a’u rhôi, ’m Curig Dilynir LlGC 17114B am kerent ai rroe myn kvrig, gan ddeall kerent yn amrywiad ansafonol ar ceraint, cerynt, &c., ffurf luosog câr, a chan gywasgu’r geiryn ebychiadol myn → ’m (fel sy’n ddigon arferol mewn llwon, cf. GLGC 176.15 Cerddoriaeth sy’n waeth, ïe ’m Croes Naid), cf. LlGC 3051D /m/ kvrig (a GGl). Yn LlGC 3051D ceir cytundeb rhwng y rhagflaenydd a’r ferf (ai Roen), ond fel yr esbonnir yn Richards 1938: 68–9, tuedd ‘lenyddol’ oedd y cytundeb hwn, a welir yn gyffredin yn y Beibl, ac o’i dderbyn anos yw’r cywasgiad sy’n dilyn. Dichon mai enghraifft o orgywiro gan gopïydd LlGC 3051D a geir yma.
13 erchi LlGC 17114B erchi i. Ceir enghreifftiau gan Guto o roi’r sawl yr erchir iddo fel gwrthrych uniongyrchol neu o dan reolaeth yr arddodiad i, ac er fod darlleniad LlGC 17114B yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf, mae’n bosibl fod darlleniad LlGC 3051D erchi yn cynrychioli cywasgiad.
16 Egwystl Felly LlGC 17114B; LlGC 3051D egwestl (GGl).
18 pes LlGC 17114B; gthg. LlGC 3051D ped (GGl), nad yw’n cynnwys y rhagenw mewnol (ond a fyddai’r un mor dderbyniol).
21 Dau eidion o’r bôn i’r banc Dilynir LlGC 17114B. Mae’r llinell yn fyr yn LlGC 3051D, dav eidion ir bank, a chyflenwir y llinell yn GGl fel a ganlyn, [A] dau eidion [bôn] i’r banc.
22 tynnent LlGC 17114B; y ffurf bresennol, tynnant, a geir yn LlGC 3051D (GGl).
24 Mal Selef melys holion LlGC 17114B Mal Sele y melus holion, sy’n peri i’r llinell fod yn hir o sillaf a chwithig yw Sele y. Felly dilynir LlGC 3051D (mal Selef melys holion) gyda GGl. Selyf yw ffurf safonol yr enw (o Solomon), cf. 31.4, 77.36, 90.13, a dichon y cafwyd Selef drwy gymathiad (e..y → e..e). Cf. 90.5 Sele.
25–6 Ni cheir y cwpled hwn yn LlGC 3051D (ac felly nis ceir yn GGl). Fe’i derbynnir gan fod y bardd yn neilltuo tri chwpled yr un i bob un o’r pedwar noddwr, yr Abad Dafydd, Siôn Trefor, Siôn Edward a Dafydd Llwyd.
25 ple orau LlGG 17114B ple gore, sy’n rhoi twyll gynghanedd. Ond treiglo’r traethiad sy’n arferol yn y gystrawen hon a rhydd hynny gynghanedd draws arferol; cf. GDID 8.42 Ple fwya’r llyn …
27 adael adel yw darlleniad y ddwy lawysgrif, ac ychwanegwyd a uwchben yn y ddwy lawysgrif, o bosibl gan yr un llaw, sef copïydd testun LlGC 3051D, wrth iddo godi’r testun o LlGC 17114B. Mae angen adael ar gyfer y brifodl.
37–8 Dilynir trefn y cwpled fel y’i ceir yn LlGC 17114B; y drefn 38–37 a geir yn LlGC 3051D (cf. GGl), sy’n newid ychydig ar yr ystyr. Mae trefn LlGC 17114B yn rhagori.
39 o’r LlGC 17114B; LlGC 3051D yr (a’r copïydd yn addasu’r darlleniad gan na ddeallodd y gystrawen efallai, cf. GGl). Yn betrus iawn cymerir mai ymadrodd ar lun ‘cawr o ddyn’ a geir yma, er cydnabod mai anarferol yw’r fannod.
41 eiriachwn Darlleniad LlGC 17114B; mae’r darlleniad yn aneglur yn LlGC 3051D (lle mae brig y ddalen wedi ei thorri), felly dyfaliad oedd GGl chwenychwn.
43 iachach LlGC 17114B, sy’n rhagori o ran ystyr a chyflythreniad ar ddarlleniad LlGC 3051D iachay.
44 Wyth o ieuainc fytheiaid LlGC 17114B (ond gan safoni’r ffurf ar yr ansoddair iyfaink; gw. GPC 2013 ar amrywiol ffurfiau’r gair hwn); LlGC 3051D wyth i fainck ofathvaid, sy’n ymddangos yn llwgr.
48 i waith cog Dyma a geir yn y ddwy lawysgrif; nid oes sail i GGl ar waith cog.
52 llef y nos LlGC 17114B allef y nos, LlGC 3051D llef ai noes. Mae darlleniad LlGC 17114B yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf, a hepgorir y cysylltair a, a gopïwyd ar gam, o bosibl, wrth i lygad y copïydd lithro i’r llinell flaenorol. Nid oes sail dros LlGC 3051D noes, a dderbyniwyd yn GGl a’i gysylltu ibid. 373 â’r Saesneg ‘noise’. Prin a phetrus yw’r dystiolaeth gynnar dros y ffurf honno, fel y gwelir yn GPC 2592 (lle rhestrir yr enghraifft hon). Dilynir LlGC 17114B a’i ddeall yn gyfeiriad at yr ychen a ddyfelir fel cŵn Annwn; ac fel y gwelir yn Rowlands 1958–9: 122, cysylltir cŵn Annwn yn arbennig â’r nos.
54 Drum LlGC 17114B; gthg. LlGC 3051D drwm.
57 dal aradr LlGC 17114B dal {r}aradyr. Ychwanegwyd y fannod gan law ddiweddarach er mwyn ateb y ddwy r yn ail hanner y llinell. Ond mae’r llythyren yn aneglur a gall mai y ydiw: daly.
58 daly’r foel LlGC 17114B dal ar voaels. (Tybed a oedd gan gopïydd LlGC 17114B ddwy ffynhonnell o’i flaen? Os felly derbynnir darlleniad ei ffynhonnell gyntaf.) Mae’r llinell yn hir o sillaf o ddarllen dal ar neu dala’r, a chymerir felly mai ffurf unsill y ferf, sef daly, sydd yma a’r fannod wedi ei chywasgu: cf. GLGC 69.19 o’r ffridd daly’r ffordd a’i dilyn (llinell seithsill). Nid yw darlleniad yr ail air yn ddiogel. voel neu o bosibl vael oedd y darlleniad gwreiddiol, yna ysgrifennodd yr un llaw a uwchben y llafariad gyntaf (sy’n awgrymu mai o oedd honno, neu baham ei chywiro?) a s dros yr l, sef vaes. Ond gan mai enw gwrywaidd yn unig yw maes, diau bod hynny’n wallus (onid arddodiad yw’r ar). Wrth gopïo’r gerdd o LlGC 17114B darllenodd copïydd LlGC 3051D dal ar fayl a dyna a dderbyniwyd yn GGl.
O dderbyn fael gellid ei ddehongli’n enw lle. Cf. Gutun Owain, wrth gyfarch Gruffudd ap Rhys o Ddinmael, IX.9–10 Rryw oedd ddwyn talaith Wynedd, / Rrann Vael o’r tir hwnn a vedd ac eto wrth gyfarch Hywel ap Rhys o Rug, GO XI.1–2 Heliwr wyf, hely ar avael, / Heldir y’ mynydd-dir Mael. Ond eto, ymddengys mai fel enw personol y defnyddir yr enw gan Gutun Owain. Byddai mael ‘elw, ennill, proffid’ hefyd yn werth ei ystyried, GPC 2305 d.g. mael1.
59 Eidionau ânt hyd Annwn Ychwanegwyd ânt yn LlGC 17114B, o bosibl gan law ddiweddarach er mwyn cael llinell seithsill; mae’n debygol mai llinell chwesill ydoedd pan gopïwyd y testun i LlGC 3051D, ac er mwyn ennill sillaf ychwanegwyd yn (iedionnav hyd yn anwn), sy’n rhoi n heb ei hateb o flaen y brifodl yn ail hanner y llinell. Gyda phetruster derbynnir darlleniad diwygiedig LlGC 17114B, gan ddeall ânt yn gywasgiad o a ânt.
63 o’r graig Dilynir LlGC 3051D; mae darlleniad LlGC 17114B ar y graig yn peri i’r llinell fod yn hir o sillaf.
64 geilw gelo a geid yn LlGC 17114B (ai geil6 oedd yn y gynsail?), ond ychwanegodd llaw ddiweddarach w ar ôl yr g. Mae nifer o ddarlleniadau gwallus yn llinellau olaf y gerdd yn LlGC 17114B gan fod y copïydd wedi ceisio cywasgu diwedd y gerdd i waelod y ddalen. Mae darlleniad LlGC 3051D (geilw) yn amlwg yn rhagori, a gw. Payne 1975: 171–3 et passim am gyfeiriadau at y geilwaid yn y cywyddau.
65 a dwy Gthg. LlGC 3051D od wyf. Y ddwy gennad yw’r ceisiadau am ychen a chŵn (er mai un arch a geir mewn gwirionedd)
67 archaf Cf. LlGC 17114B; gthg. LlGC 3051D archwn (GGl).
68 a chŵn rhodd Darlleniad LlGC 17114B; yn LlGC 3051D darllenwyd archwn Rodd (a’r R yn arwyddocáu ffurf gysefin, rh-, yn ôl arfer orgraffyddol y llaw hon). Dilyn LlGC 3051D a wnaeth GGl, ond gan dreiglo rodd (gwrthrych y ferf), sy’n difetha’r gyfatebiaeth gytseiniol â rhith ar ddiwedd y llinell. Yn sicr mae’n bosibl fod LlGC 17114B yn wallus yma (cf. 64n), ond yn wyneb y cyfeiriadau at gŵn yn y gerdd, fe’i dilynir (mae’r gynghanedd hefyd ar ei hennill o wneud hynny). Amhosibl gwybod ai cŵn go iawn sydd gan Guto yn ei feddwl, neu ychen sy’n ymdebygu i gŵn.
70 i bedwargwyr Dilynir LlGC 17114B, gan nad yw’r treiglad ar ôl y fannod yn LlGC 3051D ir bedwar gwyr yn gywir (diwygiwyd y darlleniad hwnnw yn i’r pedwargwyr yn GGl, ond gan ddifetha’r gynghanedd).
Llyfryddiaeth
Payne, Ff. (1975), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Cyfeiriadau Dafydd ap Gwilym at Annwn’, LlCy 5: 122–35.
Cerdd yw hon yn gofyn am ddau ych yr un gan bedwar noddwr ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor a rheithor Llanddwyn a’r Gyffin (ger Conwy). Ymddengys fod Rhisiart yn ŵr o gryn gyfoeth, yn elwa ar ei fywoliaethau ym Môn a Bangor a hefyd yn y Gyffin (llinellau 4–5). Ond yn hytrach na gwario’r cyfoeth hwnnw ar amaethu ei dir, mae’r deon, oherwydd ei haelioni, yn ei wario ar letygarwch yn ei lys (6), ac felly mae’n rhaid iddo fynd ar ofyn ei [g]eraint (12) am yr wyth ych sydd eu hangen arno i lenwi trydydd aradr, fel y gall weithio’i dir yn fwy effeithlon (y mae dau aradr eisoes ganddo, 8). Neilltuir tri chwpled yr un i gyfarch y pedwar noddwr, gan fanteisio ar y cyfle i’w moli hwythau: Dafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes, Siôn Trefor o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris. Roedd y pedwar hyn yn noddwyr pwysig i Guto ym mlynyddoedd olaf ei yrfa (fel y mae’n ein hatgoffa ni eto yn 117.56–60), er na chadwyd unrhyw gerddi ganddo i Ddafydd Llwyd nac ychwaith i Siôn Trefor.
Fel y dywed Payne (1975: 169), mae’r ffaith fod Guto yn gofyn am wyth ych mewn pedwar iau (cf. 31–2) yn awgrymu mai ‘trefn yr hir-wedd’ a oedd ganddo mewn golwg: GPC 1876 ‘Gwedd a ffurfid drwy ieuo’r ychen yn ddeuoedd a threfnu’r parau y naill o flaen y llall’. Yn ôl Payne (1975: 165) roedd y trefniant hwn wedi darfod erbyn tua 1530. Canodd Ieuan Deulwyn yntau gywydd yn gofyn am ychen i gwblhau gwedd wyth ych Syr Rhys ap Tomas: roedd gan hwnnw eisoes ddau ych, ac roedd angen cyfarch tri noddwr i ofyn am ddau ych yr un ganddynt, sef Dafydd Llwyd, abad Maenan, Rhisiart Cyffin, a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan (ID cerdd XXIV). Yn wahanol i drefn gwedd Rhisiart Cyffin, ymddengys fod yr ychen wedi eu trefnu’n ddau grŵp o bedwar yng ngwedd Syr Rhys (Payne 1975: 166). Chwe ych wedi eu clymu yn ddeuoedd yn yr un iau a ddymunai Hywel Dafi hefyd (Pen 67 LXI.43–8, a’r testun wedi ei atalnodi a’i ddiweddaru):
Bob chwech y cydymdrechant,
Bob ddau i’r uniau yr ânt,
Tywarchorion, tyrch euraid,
Tidiau yn gyplau pan gaid;
Trichwpl ŷnt o’r tir uchel …
Egyr cywydd Guto â dau gwpled yn llais y bardd ei hun, ond yna cymer arno lais yr eirchiad, Rhisiart Cyffin, cyn neilltuo tri chwpled yr un i ddisgrifio’r pedwar noddwr. Anoddach yw dilyn trywydd y gerdd ar ôl 37 lle dyfelir yr ychen, ac mae’r gyfeiriadaeth astrus yn peri bod y dehongliad yn ansicr. Yn 37–42 cymherir yr ychen i gŵn hela ac yn benodol i gŵn Annwn, gan gyfeirio o bosibl at chwedl goll am Bwyll o’r Mabinogi (39–40, 59). Mae’r wyth ych yn greadigaeth dewin ac yn gweithio fel helgwn (ymlyniaid). Fe’u cysylltir ymhellach â’r ychen mytholegol, yr Ychen Bannog, ac â chwedlau am yr ychen hynny (gw. y nodiadau isod), gan eu dychmygu’n aredig a llyfnu’r tir yn bersain dros nos. Ceir yma ormodiaith wrth sôn am yr ychen yn aredig tir mynyddig, creigiog lle na thyfai ŷd. Wrth iddynt symud fel hyddod dros gaenen ôd (55–6), maent mor gryf fel y gallent aredig creigiau pe bai gofyn iddynt: Eidionau … / A dyr y graig yn dri grwn, 59–60. Cyfeirir ymhellach at y geilwad, Gruffudd ap Gwilym, a dichon mai amaethu’r tir ar ran y deon a wnâi’r gŵr anhysbys hwnnw.
Dychwelwn at lais Guto ei hun, y cennad, ar ddiwedd y gerdd (65–6). Diwedda’r cywydd â’r bardd yn hyderu y bydd ei gais i’r pedwar gŵr yn llwyddiannus ac yn dymuno bendith iddynt hwythau yn dâl am eu haelioni.
Dyddiad
Fe’i canwyd yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes o c.1480–1503, ac mae’r cyfeiriad at Siôn Trefor yn ei dyddio cyn 1493, blwyddyn ei farw ef. Mae’n amlwg fod Guto’n dal i fanteisio ar nawdd noddwyr lleol, a gallwn fwrw amcan i’r gerdd hon gael ei chanu tua chanol yr 1480au.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd XCVI; Huws ***
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 70 llinell.
Cynghanedd: croes 67% (46 llinell), traws 19% (14 llinell), sain 11% (8 llinell), llusg 3% (2 linell).
2 llafurio Gair amwys: gall olygu ‘ymdrechu’ yn gyffredinol (a’r bardd o bosibl yn cyfeirio at ei waith yn mynd ar ofyn pedwar noddwr am ychen i Risiart Cyffin), ond yng nghyd-destun y gerdd hon mae’n fwy tebygol mai ‘aredig’ yw’r ystyr, fel yn 51 isod; gw. GPC 2088–9 d.g. llafuriaf. Os yw’n gywir bod Guto yn llefaru yn ei lais ei hun yn y cwpled hwn, yna awgrymir bod ganddo yntau hefyd dir, a hynny o bosibl yn Môn. Dichon mai cyfeirio a wna hefyd at ei wenith ef yn llinell 67, yn hytrach na gwenith y deon.
4 ’Môn Daliai Rhisiart Cyffin reithoriaeth Llanddwyn ym Môn, gw. Williams 1976: 319.
5 o’r Gyffin Plwyf ger Conwy yng Ngwynedd; llifa afon Gyffin i afon Conwy gerllaw. Roedd Rhisiart yn rheithor yno cyn ei ddyrchafu’n ddeon Bangor. Pan ganwyd y cywydd hwn roedd yn elwa ar swyddi eglwysig ym Môn, ym Mangor ac yn y Gyffin, a gallwn dybio’i fod yn ŵr o gryn gyfoeth, fel yr awgryma Guto yma.
6 cost ar fara a gwin Cf. 101a.13–14 Ni cheisiodd gyda chosyn / Fwrw ei gost ar fara gwyn. Gwariai Rhisiart Cyffin ei gyfoeth ar ddarpariaeth ei fwrdd yn hytrach nag ar ei dir, felly mae angen iddo ofyn am ychen i lenwi ei aradr. Dichon mai canmoliaeth dawel i letygarwch Rhisiart Cyffin sydd yma, yn hytrach na beirniadaeth am wario’i arian yn ormodol ar fwyd a diod.
9 yn ŵr Anodd ei aralleirio – gŵr cyflawn neu nerthol yw’r ystyr yn fras, cf. 5.23–4 Ar dduw Mawrth yr oeddem wŷr, / A’th farwchwedl a ddoeth Ferchyr (lle mae Guto’n disgrifio’i gyflwr ef a’i gyfeillion cyn clywed y newyddion drwg am afiechyd yr Abad Rhys).
10 pâr trydydd Llinell anodd, ond fe’i deellir yn ateb i gwestiwn y llinell flaenorol. Mae pâr yn air amwys: ‘pâr o ychen’ yw’r ystyr yn 31, ac mae’n debygol mai dyna’r ystyr yma hefyd, neu’n llacach ‘grŵp’ o ychen, o gymryd mai dymuno trydydd aradr y mae’r deon (mae ganddo ddau aradr yn barod, 8). Dysgwn mai wyth ych fydd dan y wedd yn y trydydd aradr hwn, nid un pâr yn unig. (Cf., o bosibl, y modd y defnyddid y gair Saesneg pair weithiau yn fwy llac am ‘set’, gw. OED Online s.v. pair, n.1). Annisgwyl braidd yw lleoliad y trefnol ar ôl yr enw y mae’n ei oleddfu (gw. GMW 48), ond go brin mai ail unigol gorchmynnol y ferf peri yw pâr yma, gan y disgwylid treiglad meddal i wrthrych y ferf.
13 ddichwerwglych Fe’i treiglir fel ansoddair yn goleddfu’r enw priod Arglwydd Ddafydd a drychir yma: Arglwydd Ddafydd ddichwerwglych → Arglwydd ddichwerwglych / Ddafydd … (Am y drefn, cf. 110.3 Mab hael Iesu ‘Mab Iesu hael’.) Am glychau abaty Glyn-y-groes, gw. Price 1952: 207–8, a’r sylw a wneir yno ar 208–9, ‘All religious houses of the monks possessed bells but according to Cistercian Statutes peals of bells were prohibited and no ostentatious or lofty stone towers were to be built and used as belfries.’ Ond nid ymboenai abadau bydol y bymthegfed ganrif am reolau o’r fath.
13–14 Arglwydd … / Ddafydd Dafydd ab Ieuan, abad Glyn-y-groes (Llanegwystl) o c.1480 tan ei farw yn 1503. Defnyddir arglwydd yn gyffredin gan y beirdd wrth gyfeirio at abadau, cf. 5.4 arglwyddRys (am Abad Rhys, Ystrad-fflur), ac mae’n cyfateb i dominus yn Lladin.
16 Egwystl Enw a ddefnyddid am y fynachlog ac am y drefgordd lle lleolid hi, gw. 105.44n.
20 Pentrecynfrig Ceir heddiw fferm o’r enw Pentrekendrick rhwng Weston Rhyn a St Martins, rhyw filltir a hanner i’r de o’r Waun, bellach yn swydd Amwythig. Ymddengys mai yno yr oedd prif gartref Siôn Trefor a’i wraig Annes. Canodd Gutun Owain farwnad i Annes yn 1483, gan gyfeirio’n benodol at alar Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric, GO XXXV.5–6. Ac wrth farwnadu Siôn Trefor, ddeg mlynedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd Gutun Owain eto’n benodol at alar Pentrecynfrig (er ei gysylltu hefyd â’r Waun Isaf, Bryncunallt a Chroesoswallt): GO XXXVI.31–4 Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn (a’r llinell olaf yn adleisio llinell Guto). Roedd Siôn Trefor yn un o noddwyr cynnar Guto (mae’n debygol iddo ganu cerddi 103–5 yn 1445–52 dan ei nawdd ef), a’r tebyg yw iddo dderbyn nawdd gan Siôn mewn cyfnodau eraill hefyd, ond bod y cerddi hynny wedi eu colli. Siôn Trefor yw’r Trefor y cyfeirir ato yn llinell 22 (Dau eidion … Trefor).
21–2 o’r bôn i’r banc / … tynnent yr afanc Cyfeiriad at chwedl am ddau ych bannog yn llusgo afanc (‘anghenfil dŵr (chwedlonol)’, GPC2 95) allan o lyn. Cyfeirir at y chwedl mewn triawd gan Iolo Morganwg: Ychain Bannog Hu Gadarn, a lusgasant Afanc y llyn i dir, ac er bod R. Bromwich (1968: 299–301) yn ddrwgdybus iawn o ddilysrwydd y triawd, gallwn dybio gyda J. Carey (1992: 44) fod cyfeiriadau hŷn at y chwedl yn awgrymu’n gryf fod Iolo, ar yr achlysur hwn o leiaf, yn tynnu ar draddodiadau dilys. Cyfeiria Carey (ibid. 43) at lythyr a ysgrifennodd Edward Lhuyd yn 1693 yn sôn am chwedl a glywsai am Lyn yr Afanc ger Betws-y-coed: ‘According to this account, the two Ychen Bannog (Ychain mannog ne Ychain bannog) dragged from the lake a monstrous creature called an afanc, identified by Lhuyd as a beaver.’ Cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi yntau at y chwedl mewn cywydd i Lywelyn ap Gwilym, Bryn Hafod: GLGC 53.25–6, 29–30 Yr afanc er ei ofyn / wyf yn llech ar fin y llyn; … ni’m tyn men nac ychen gwaith / oddyma heddiw ymaith. Trafodir y chwedl ymhellach yn Payne 1975: 159–61, hefyd Rhŷs 1901: 130–5, 142. Dilynir Payne 1975: 169 a dehongli bôn yn gyfeiriad at safle’r eidion yn y wedd: yr ychen bôn oedd y cryfaf; gw. hefyd 17.41n.
22 Trefor Siôn Trefor, gw. 20n.
23 ym marn Siôn Sef dan awdurdod Siôn Trefor, cf. GLGC 188.26 a holl Gymru fu’n ei farn (am Owain Glyndŵr).
24 Selef melys holion Cymherir doethineb Siôn Trefor yn wyneb holion (‘ceisiadau’, o bosibl mewn ystyr gyfreithiol) ag eiddo Solomon; disgrifiodd Guto frawd Siôn, Robert Trefor, yntau fel Salmon o wyrion Awr, 103.40.
26 llew un henw â’r llall Ar ôl cyfeirio at un Siôn (Siôn Trefor), cyfeirir at un arall, sef Siôn Edward a ddisgynnai hefyd o linach Tudur Trefor. Roedd y llew yn rhan o arwydd herodrol teulu Trefor: cf. Pen 127, 274 Arvav Tudur Trevor yw llew aur Ramppont ar maes o wyn a dv. A cf. disgrifiad Guto o Edward ap Dafydd o Fryncunallt fel llew’r Waun Isaf, 104.1n.
28 Siôn Edward Siôn Edward, mab Iorwerth ab Ieuan, o Blasnewydd, y Waun, y canodd Guto fawl iddo tua’r un pryd ag y canodd y cywydd hwn, gw. cerdd 107.
28 a dyr tid Tid yw’r enw ar gadwyn sy’n cysylltu ieuau â’i gilydd a’r iau â’r aradr: gw. yn arbennig Payne 1975: 152. Awgrymir bod ychen Siôn Edward yn torri’r tid gan eu bod mor gryf.
29 mab Ierwerth Siôn Edward, mab Iorwerth, gw. 28n.
33 Dafydd … Llwyd o Iâl Dafydd Llwyd ap Tudur ab Ieuan o Fodidris, ger Llandegla (enwir y tad yn 36). Roedd ei fab, Tudur Llwyd, yn briod â Chatrin, merch Siôn Edward (28), a’u mab hwythau, Siôn Llwyd, oedd abad Glyn-y-groes yn dilyn marwolaeth yr Abad Dafydd ab Ieuan yn 1503. Canodd Tudur Aled farwnad i Ddafydd Llwyd, TA cerdd LXXIV.
36 Tudur Tad Dafydd Llwyd, 33n.
37 gynt Fe’i ceir eto yn 39. Ymddengys ei fod yn cyfeirio at bwynt cynharach yn y gerdd hon (13–36) lle gofynnodd am yr wyth ych, yn hytrach nag at gerdd a ganwyd yn y gorffennol.
37 irchwys Ffurf amrywiol ar erchwys ‘haid neu bac o gŵn hela; cŵn hela, milgwn’, GPC 1230 d.g. erchwys. Mae’n ddigon tebygol mai cyfeirio’n ffigurol at ychen a wna.
39 archwn gŵn o’r ychen Yn betrus iawn cymerir mai ymadrodd ar lun ‘cawr o ddyn’ a geir yma, er cydnabod mai anarferol yw’r fannod. Gofyn am ychen a wna Rhisiart. Mae’n bosibl fod yma gyfeiriad at gŵn chwedlonol Pwyll yn Annwn; cf. 59, a hefyd 48n.
41 eiriachwn Ffurf gyntaf unigol amherffaith eiriach ‘gwneud y tro heb’, gw. GPC 1195 d.g. eiriachaf (b).
42 cyrn ychen i gŵn Sef cyrn ychen ar gyfer galw’r cŵn.
44 ieuainc fytheiaid Cyfeirir yn ffigurol at yr ychen yma ac yn y llinellau canlynol.
46 ym mlaen dôl Disgrifiad o’r ychen ym mlaen yr iau. Fel y gwelir yn GPC 1073 d.g. dôl1 (2) roedd i dôl ystyr benodol yng nghyswllt ychen, sef ‘pren ar ffurf bwa sy’n cau fel coler am wddf ych o dan yr iau ac yn gysylltiedig â’r iau’; cf. 99.28 dôl ych, a gw. ibid.n. Gw. hefyd 17.41n a 31.22n.
47 Ychen Bannog Ychen chwedlonol y nodweddir hwy gan eu cryfder, gw. 21–2n.
48 aeth eu cerdd i waith cog Dyfelir yr wyth ych a geisir yma fel yr Ychen Bannog chwedlonol, gan ddisgrifio’u brefu dros y llinellau nesaf yn nhermau datgeiniaid sy’n dolef (49) a’u llef i’w glywed yn y nos wrth iddynt aredig y tir. Mae cyffelybu eu brefiadau i gân y gog yn dwyn i gof y llinellau canlynol gan Gutun Owain mewn cerdd yn gofyn am gŵn hela, lle mae yntau’n cyffelybu’r cŵn i gŵn Annwn, fel y gwna Guto hefyd yn y gerdd hon: GO XI.29–32 Ymddiddan tv ac Anwn / Yn nayar koed a wnai ’r kŵn, / Llvnio’r gerdd mewn llwyni’r goc, / A llvnio angav llwynoc. Diddorol hefyd, yng nghyswllt cerdd Guto, yw’r modd yr â Gutun Owain rhagddo i ddyfalu gwaith y cŵn hela yn nhermau cerddoriaeth a barddoniaeth, ibid. 33–9, Da gwyddant … / Riwlio mydr ar ôl madyn; / Medran vessur y gannon, / Mussic ar ewic a rôn. / Karol ar yr hydd yw ’rrain, / Klerwyr kyssonlef nevol. Diau fod y ddau fardd yn tynnu ar ryw draddodiad coll am gŵn Annwn a’r gog. Cyfeiria Lewys Glyn Cothi yntau at [g]ân o bennau’r ychen bannog, GLGC 77.52, ac awgryma Dafydd Johnston, ibid. 560, mai cyfeiriad at gainc telyn ddolefus sydd yno. Noder hefyd mai tristwch a gynrychiolai cân y gwcw yn yr hen ganu (Rowland 1990: 542).
54 Trum Elidir Ni wyddys at ble y cyfeirir. Wrth foli Wiliam Eutun o Faelor Gymraeg, cyfeiria Gutun Owain at Doldir Elidir, GO XLIX.8, a chysyllta Bachellery, ibid. 262, yr enw ag Elidir fab Rhys Sais. Tybed a oedd Trum Elidir yn enw ar un o foelydd y Berwyn (cf. 51)? Ond gan fod cyfeiriad at Dôl Eryri yn llinell 57, efallai y dylid ei gysylltu â Mynydd Elidir, sef un o’r Glyderau yn Eryri.
56 atail Llawysgrif attail, sy’n cefnogi awgrym petrus GGl 357 mai cyfuniad o ad- + tail ydyw; ond ni restrir y ffurf honno yn GPC2 509, 516 (a diweddar iawn yw atail ‘olynol’ a geir ibid. 509). Rhestrir atael fel amrywiad cynnar ar atal (ibid. 510), ond ni rydd hynny fawr o synnwyr yma. Derbynnir awgrym petrus GGl.
55–6 Ac ni wnaf … / … ond dal hyddod Cwpled astrus. Yn y llinellau blaenorol mae’r bardd (yn llais Rhisiart) wedi cyfeirio at yr ychen yn aredig y Berwyn, ac yn hyderu y bydd yn mwynhau cynhaeaf hir yn sgil eu gwaith. A chymryd bod hyddod yn y cwpled hwn yn drosiad am yr ychen, efallai mai dweud a wna Guto nad yw’r deon am drafferthu i roi gwrtaith ar haidd (cnwd israddol) ar lethrau uchel (ar gaenen ôd), ond yn hytrach mae am reoli (dal) yr aradr ar Ddôl Eryri (57).
57 Dôl Eryri Lle anhysbys, cf. Trum Elidir (54). Ond mae’n bosibl mai enw cyffredin yw dôl.
58 moel Fe’i deellir yn enw cyffredin, mewn cyfosodiad i Dôl Eryri.
59 Annwn Sef yr arall fyd. Cymherir yr ychen a geisir â chŵn mytholegol Annwn, cf. 48n.
60 a dyr y graig Cyfeiriad arall at gryfder yr ychen. Yn Rhŷs 1901: 578–9 cyfeirir at chwedl o ardal Llanddewi-brefi am darddiad yr enw, yn sôn bod brefu’r Ychen Bannog yn hollti craig yn ddwy. Fel y gwelir yn Payne 1975: 160–1 ceid chwedlau am yr Ychen Bannog mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, gan gynnwys Dyffryn Conwy, Tregaron a Llanbryn-mair. Cyfeirir eto at y graig yn 63, ac mae’n bosibl mai craig benodol sydd yno, efallai enw lle.
64 Gruffudd ap Gwilym Ef oedd y geilwad a reolai ychen y deon. Ar swyddogaeth y geilwad, gw. Payne 1975: 171–3 et passim.
65 dwy gennad Y ddwy neges, sef y ddau gais, am gŵn ac ychen (er mai un cais sydd mewn gwirionedd, wrth gwrs).
66 aed ’n eu hôl Ar y gystrawen, cf. WM 150.36–151.1 aeth gweisson yn ol y varch a ddyfynnir yn GPC 2595 d.g. nolaf, noliaf: nôl ‘ymofyn, cyrchu’, &c.
68 cŵn rhodd Cf. oen rhodd, 45.28. Anodd gwybod ai cyfeirio’n ffigurol at yr ychen a wneir, neu at gŵn go iawn (cf. irchwys, 37).
Llyfryddiaeth
Bromwich, R. (1968), ‘Trioedd Ynys Prydain: The Myvyrian “Third Series” ’, THSC, 299–301
Carey, J. (1992), ‘A Tuath Dé Miscellany’, B xxxix: 24–45
Payne, Ff. (1975), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Richards, M. (1938), Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (Caerdydd)
Rowland, J. (1990), Early Welsh Saga Poetry (Cambridge)
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Cyfeiriadau Dafydd ap Gwilym at Annwn’, LlCy 5: 122–35
Rhŷs, J. (1901) Celtic Folklore (Oxford)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
This is a poem requesting two oxen from each of four patrons on behalf of Rhisiart Cyffin, dean of Bangor and rector of Llanddwyn and Y Gyffin (a parish near Conwy). It seems that Rhisiart was a man of great wealth, benefitting from these livelihoods in Anglesey, Bangor, and in Y Gyffin (lines 4–5). But instead of using his money on farming his land, the dean spends generously on the lavish hospitality at his court (6), and he therefore has to approach his kinsmen (ceraint, 12) with a request for the eight oxen he needs to fill a third plough, so that he may work his land more efficiently (he already has two full ploughs, 8). Guto dedicates three couplets each to describing and praising four patrons who he hopes will make up a third plough team: Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis, Siôn Trefor of Pentrecynfrig, Siôn Edward of Chirk and Dafydd Llwyd ap Tudur of Bodidris. All four were important patrons of Guto in the final years of his career (as he reminds us again in 117.56–60), though none of his poems to either Dafydd Llwyd or Siôn Trefor have survived.
As Payne (1975: 169) notes, the fact that Guto is asking for eight oxen in four yokes (cf. 31–2) suggests that he was thinking of the hirwedd: GPC 1876 ‘team formed by yoking the oxen in pairs, each pair being placed in front of the next, long team (in contrast with the arrangement whereby the oxen were placed side by side under the long yoke)’. According to Payne (1975: 165), this arrangement had ceased by about 1530. Ieuan Deulwyn also composed a cywydd requesting oxen to complete the eight-oxen yoke of Sir Rhys ap Tomas: Rhys already had two oxen, so the poet asked three patrons for two oxen each, namely Dafydd Llwyd, abbot of Maenan, Rhisiart Cyffin, and Wiliam ap Gruffudd of Cochwillan (ID poem XXIV). But Syr Rhys’s eight oxen would be arranged in two groups of four (Payne 1975: 166) rather than in four groups of two as in Rhisiart Cyffin’s yoke. Hywel Dafi also requested six oxen, arranged in pairs in the yoke (Pen 67 LXI.43–8, spelling has been standardized and punctuation added):
Bob chwech y cydymdrechant,
Bob ddau i’r uniau yr ânt,
Tywarchorion, tyrch euraid,
Tidiau yn gyplau pan gaid;
Trichwpl ŷnt o’r tir uchel …
‘In sixes they pull together, / placed in pairs under the same yoke, / working oxen, splendid boars, / their harnesses placed in couples; / they are three couples from the high ground …’
Guto’s cywydd opens with two couplets in his own voice, but then he adopts the voice of the suppliant, Rhisiart Cyffin, before dedicating three couplets each to describing the four patrons. The sense is rather difficult to follow after line 37, mainly because Guto is using the technique of dyfalu to describe the oxen, drawing upon legends which have been lost. In lines 37–42 the oxen are described as hounds, and in particular the hounds of Annwn (the Otherworld), possibly referring to a lost legend of Pwyll from the Mabinogi (39–40, 59). The eight are the creation of a wizard, and they work together like hunting hounds (ymlyniaid, 46). They are associated further with the mythical oxen, the Ychen Bannog ‘the Horned Oxen’ (see the notes below), ploughing and harrowing the land tunefully in the night. The poet resorts to hyperbole as he describes the oxen ploughing mountainous and rocky terrain where no corn could grow. As they move swiftly like ‘stags’ over a ‘covering of snow’ (55–6), they are so strong that they could plough through rocks: Eidionau … / A dyr y graig yn dri grwn ‘The oxen … / split the rock into three ridges’, 59–60. Gruffudd ap Gwilym is named as the one who drives the oxen, and he was probably responsible for ploughing the land on behalf of the dean.
Guto returns to his own voice as the messenger at the end of the poem (65–6). He is confident that his appeal to the four patrons will be successful and therefore offers all four a blessing in return for their generosity.
Date
It was sung during the abbacy of Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis from c.1480–1503. The reference to Siôn Trefor further suggests a date before 1493, the year in which he died. Guto is obviously still fairly mobile, and able to visit a number of secular patrons in the area, and so we can suggest that this poem was sung in the middle years of the 1480s.
The manuscripts
The poem has survived in only two manuscript copies, LlGC 17114B and a direct copy in LlGC 3051D, with some small changes. The edition in GGl is based on the text of LlGC 3051D. Lines 25–6 were omitted from LlGC 3051D (and likewise GGl) and the order of lines 37–8 is different in the two manuscripts: LlGC 17114B is correct in both places. It is clear that the copyist in LlGC 3051D was trying to correct his exemplar, and sometimes he was judicious in doing so: for example he copied adel (27) from LlGC 17114D, only to realise that it should rhyme with hael, and so he added an a in both copies.
Given that this poem belongs to the popular genre of requesting poem, it is rather unusual that there are only two manuscript copies.
Previous editions
GGl poem XCVI; Huws ***
Metre and cynghanedd
Cywydd, 70 lines.
Cynghanedd: croes 67% (46 lines), traws 19% (14 lines), sain 11% (8 lines), llusg 3% (2 lines).
2 llafurio Ambiguous. It can mean ‘endeavour, strive’ generally (with the poet possibly referring to his own work of addressing the four patrons with his request of oxen for Rhisiart Cyffin), but in the present context it is more likely to mean ‘to plough’, as in line 51; see GPC 2088–9 s.v. llafuriaf. If we are correct in assuming that Guto is speaking in his own voice here, it may well be that he also had land, possibly in Anglesey. He may also be referring to his own wheat in line 67, rather than to that of the dean.
4 ’Môn Rhisiart Cyffin was rector of Llanddwyn in Anglesey, see Williams 1976: 319.
5 o’r Gyffin A parish near Conwy, Gwynedd; the river Gyffin flows into the river Conwy nearby. Rhisiart Cyffin was rector there before he was promoted dean of Bangor. When this poem was sung, he was benefitting from church livings in Anglesey, Bangor and Y Gyffin. We can safely assume that he was quite wealthy, as Guto suggests here.
6 cost ar fara a gwin Cf. 101a.13–14 Ni cheisiodd gyda chosyn / Fwrw ei gost ar fara gwyn ‘He did not try to spend his money / on white bread with a piece of cheese’. Rhisiart Cyffin spent his wealth on the provisions of his table rather than on his land, and for that reason he needed to ask for oxen to fill his plough. This should probably be interpreted as praise for Rhisiart Cyffin’s hospitality, rather than criticism for spending too much on food and drink.
9 yn ŵr This is not easy to translate – it probably refers to a man in his full health or strength, cf. 5.23–4 Ar dduw Mawrth yr oeddem wŷr, / A’th farwchwedl a ddoeth Ferchyr ‘We were contented men on Tuesday, / and news of your decease came on Wednesday’, where Guto describes his state and that of his companions before hearing the terrible news of Abbot Rhys’s illness.
10 pâr trydydd I take this to answer the question posed in the previous line. Pâr is rather ambiguous: in line 31 it means a ‘pair of oxen’, and that is probably its meaning here as well, or more loosely a ‘group’ of oxen, if he is referring to a third plough which the dean wishes to complete (he already has two complete ploughs, 8). There will be eight oxen in in the yoke, not just one pair. (Cf., possibly, how the English word pair sometimes refers more loosely to a ‘set’ rather than two items, see OED Online s.v. pair, n.1). It is rather unusual to have the ordinal trydydd following the noun it qualifies (see GMW 48), but pâr is unlikely to be the second singular imperative of peri here as we would expect the object, trydydd, to lenite.
13 ddichwerwglych The lenited adjective qualifies the personal name Arglwydd Ddafydd: Arglwydd Ddafydd ddichwerwglych → Arglwydd ddichwerwglych / Ddafydd. For the word order, cf. 110.3 Mab hael Iesu ‘generous Son Jesus’. For the bells at Valle Crucis, see Price 1952: 207–8, and ibid. 208–9, ‘All religious houses of the monks possessed bells but according to Cistercian Statutes peals of bells were prohibited and no ostentatious or lofty stone towers were to be built and used as belfries.’ However the worldly abbots of the fifteenth century don’t seem to have worried about such rules.
13–14 Arglwydd … / Ddafydd Dafydd ab Ieuan, abbot of Valle Crucis (Llanegwystl) from c.1480 until his death in 1503. Arglwydd ‘lord’ is often used by the poets of the abbots, cf. 5.4 arglwyddRys (of Abbot Rhys of Strata Florida), and it corresponds in meaning and usage to dominus in Latin.
16 Egwystl A name used for the monastery and for the township where it was located, see 105.44n.
20 Pentrecynfrig There is a farm called Pentrekendrick today between Weston Rhyn and St Martins, about a mile and a half south of Chirk, in Shropshire. It seems to have been Siôn Trefor and his wife Annes’s main abode. Gutun Owain sang an elegy for Annes in 1483, referring specifically to the grief felt in Pentrecynfrig: Trais Duw a ’naeth, – trist yw ’nic, – / Trai canrodd Penntre Kynwrric ‘God’s force (mine is a sad resentment!) has caused / the ebb of a hundred gifts at Pentrecynfrig’, GO XXXV.5–6. And in 1493, ten years later, when he sang an elegy for Siôn Trefor, Owain again referred to Pentrecynfrig’s grief (as well as that of Lower Chirk, Bryncunallt and Oswestry): GO XXXVI.31–4 Oer galon a wna’r golwg / Yn wylo mal niwl a mwc. / Ni welaf eithyr niwlen / Y’mric Penntref Kynnric henn ‘the cold weeping heart / makes my vision like fog and smoke. / I cannot see anything but fog / at the top of ancient Pentrecynfrig’ (the last line echoing Guto’s). Siôn Trefor was one of Guto’s early patrons (he probably sang poems 103–5 in 1445–52 under his patronage), and he probably received patronage from him in the intervening years as well, but those poems have not survived. Siôn Trefor is the Trefor in line 22 (Dau eidion … Trefor ‘two oxen of Trefor’).
21–2 o’r bôn i’r banc / … tynnent yr afanc This is a reference to the legend of the two horned oxen who dragged the afanc (‘(mythical) aquatic monster’, GPC2 95) out of a lake. Iolo Morganwg refers to the legend in a triad: Ychain Bannog Hu Gadarn, a lusgasant Afanc y llyn i dir ‘The Horned Oxen of Hu Gadarn, who dragged the Afanc of the lake to the land’. Though R. Bromwich (1968: 299–301) is rather suspicious of the triad’s genuineness, we can agree with J. Carey (1992: 44) that earlier references to the legend strongly suggest that Iolo, at least on this occasion, was drawing on a genuine tradition. Carey (ibid. 43) refers to a letter Edward Lhuyd wrote in 1693 about a legend that he had heard regarding Llyn yr Afanc near Betws-y-coed: ‘According to this account, the two Ychen Bannog (Ychain mannog ne Ychain bannog) dragged from the lake a monstrous creature called an afanc, identified by Lhuyd as a beaver.’ Lewys Glyn Cothi also referred to the legend in a cywydd to Llywelyn ap Gwilym, Bryn Hafod: GLGC 53.25–6, 29–30 Yr afanc er ei ofyn / wyf yn llech ar fin y llyn; … ni’m tyn men nac ychen gwaith / oddyma heddiw ymaith ‘Despite his requesting, I am the afanc hiding by the side of the lake; … neither wagon or working oxen will drag me / away from here today’. For further discussion, see Payne 1975: 159–61, also Rhŷs 1901: 130–5, 142. Bôn refers to the placement of the oxen (eidion) in the yoke: the oxen at the base of the yoke were the strongest, see Payne 1975: 169 and cf. 17.41n.
22 Trefor Siôn Trefor, see 20n.
23 ym marn Siôn Under Siôn Trefor’s authority, cf. GLGC 188.26 a holl Gymru fu’n ei farn ‘and all of Wales was under his authority’ (of Owain Glyndŵr).
24 Selef melys holion Siôn Trefor’s wisdom dealing with holion (‘requests, appeals’, possibly in a legal sense) is compared to that of Solomon; Guto once described Siôn’s brother, Robert Trefor, as Salmon o wyrion Awr ‘Solomon amongst the descendants of Awr’, 103.40.
26 llew un henw â’r llall After naming one Siôn (Siôn Trefor), Guto names ‘another’, Siôn Edward, who was descended from the same Trefor family. The lion formed part of the family’s heraldic arms: cf. Pen 127, 274 Arvav Tudur Trevor yw llew aur Ramppont ar maes o wyn a dv ‘The arms of Tudur Trefor are a golden lion rampant on a field of white and black’, and cf. Guto’s description of Edward ap Dafydd of Bryncunallt as llew’r Waun Isaf, 104.1n.
28 Siôn Edward Siôn Edward, son of Iorwerth ab Ieuan, of Plasnewydd, Chirk; Guto composed poem 107 to him about the same time as he composed this requesting poem on behalf of Rhisiart Cyffin.
28 a dyr tid The tid was the chain which joined the yokes together and the yokes to the plough: for a detailed description, see Payne 1975: 152. The suggestion is that Siôn Edward’s oxen break the tid because they are so strong.
29 mab Ierwerth Siôn Edward son of Iorwerth, see 28n.
33 Dafydd … Llwyd o Iâl Dafydd Llwyd ap Tudur ab Ieuan of Bodidris, near Llandegla (his father is named in 36). His son, Tudur Llwyd, was married to Catrin, daughter of Siôn Edward (28), and their son, Siôn Llwyd, became abbot of Valle Crucis following Abbot Dafydd ab Ieuan’s death in 1503. Tudur Aled composed an elegy for Dafydd Llwyd, TA poem LXXIV.
36 Tudur Dafydd Llwyd’s father, 33n.
37 gynt ‘Formerly, in the past’, cf. 39. It seems to refer to an earlier point in this poem (13–36) when he requested the eight oxen, rather than to a poem sung in the past.
37 irchwys Variant form of erchwys ‘pack of hounds; hounds, greyhounds’, GPC 1230 s.v. erchwys. Guto is probably referring figuratively to the oxen.
39 archwn gŵn o’r ychen I tentively take cŵn (‘hounds’) to describe the oxen; for the use of the preposition o in such phrases, cf. cawr o ddyn ‘a giant of a man’ (it is the use of the definite article before ychen that is unusual here). Rhisiart therefore was asking for oxen. It is possible that Guto is referring to the legendary hounds of Pwyll in the otherworld, Annwn; cf. 59, and 48n.
41 eiriachwn First person singular imperfect of the verb eiriach ‘to go without’, see GPC 1195 s.v. eiriachaf (b).
42 cyrn ychen i gŵn I.e. the horns of the oxen for calling the dogs.
44 ieuainc fytheiaid The oxen are described figuratively as dogs in the following lines.
46 ym mlaen dôl In the context of oxen, dôl usually means ‘oxbow’, see GPC 1073 s.v. dôl1 (2) (OED Online s.v. oxbow, n. ‘A bow-shaped piece of wood forming a collar for a yoked ox, with the upper ends fastened to the yoke’); cf. 99.28n dôl ych ‘oxbow’, also 17.41n, 31.22n. This is a description of the oxen tied together at the front of the plough.
47 Ychen Bannog The ‘Horned Oxen’, the legendary oxen, famed for their strength, see 21–2n.
48 aeth eu cerdd i waith cog The eight oxen are compared to the legendary Horned Oxen, their lowing like that of singers (datgeiniaid, 49), their cry heard at night as they plough the land. Their song is compared to the cuckoo’s, which reminds us of the following lines by Gutun Owain in a poem requesting hunting hounds, where he also compares the dogs to the hounds of Annwn: GO XI.29–32 Ymddiddan tv ac Anwn / Yn nayar koed a wnai ’r kŵn, / Llvnio’r gerdd mewn llwyni’r goc, / A llvnio angav llwynoc ‘The dogs would converse, in the direction of Annwn, / in the wooded land, / composing their song in the cuckoo’s groves, / and devising the fox’s death’. Also of interest, as regards Guto’s poem, is how Gutun Owain describes the hunting hounds in terms of music and poetry, ibid. 33–9, Da gwyddant … / Riwlio mydr ar ôl madyn; / Medran vessur y gannon, / Mussic ar ewic a rôn. / Karol ar yr hydd yw ’rrain, / Klerwyr kyssonlef nevol ‘Well do they know / how to regulate the metre in pursuit of the fox; / they know the metre of the canon, / they give music whilst in pursuit of the doe. / They are a carol in pursuit of the stag, / heavenly poets whose cries are harmonious.’ Both poets are probably drawing on a lost tradition about the hounds of Annwn and the cuckoo. Lewys Glyn Cothi also refers to cân o bennau’r ychen bannog ‘a song from the mouths of Horned Oxen’, GLGC 77.52, and Dafydd Johnston suggests, ibid. 560, that Lewys is referring to a sad harp tune. It should be remembered also that the cuckoo’s song signified sadness in the old Welsh tradition (Rowland 1990: 542).
54 Trum Elidir An unknown place. In his praise to Wiliam Eutun of Maelor Gymraeg, Gutun Owain mentions Doldir Elidir (GO XLIX.8), and Bachellery, ibid. 262, associates the name with Elidir son of Rhys Sais. Was Trum Elidir a name of one of the Berwyn hills (cf. 51)? But, as Guto refers to Dôl Eryri in line 57, perhaps Trum Elidir should be associated with Mynydd Elidir, one of the Glyderau in Snowdonia.
56 atail Manuscript attail, which supports the tentative suggestion given in GGl 357 that it is a combination of ad- + tail ‘manure’; however that form isn’t listed in GPC2 509, 516 (and evidence for atail ‘successive’, ibid. 509, is late). The form atael is given as an early variant of atal (ibid. 510), but doesn’t make much sense here. I therefore follow GGl.
55–6 Ac ni wnaf … / … ond dal hyddod A difficult couplet. In the previous lines the poet (speaking in the persona of Rhisiart) has described the oxen ploughing the hills of Berwyn, confident that he will enjoy a long harvest following their work. If hyddod (‘stags’) is a metaphor for the oxen, perhaps the meaning is that the dean will not have to bother putting manure on barley (haidd, an inferior crop) on the higher reaches (ar gaenen ôd ‘on a covering of snow’, 56), but rather he is going to control (dal) the plough on Dôl Eryri (57).
57 Dôl Eryri Another unkown location, cf. Trum Elidir (54). However dôl may well be a common noun here.
58 moel Taken as a common noun, in apposition to Dôl Eryri.
59 Annwn The otherworld. The oxen requested are compared to the legendary dogs of Annwn, cf. 48n.
60 a dyr y graig Another reference to the oxen’s strength. John Rhŷs (1901: 578–9) refers to a legend associated with the derivation of the place name Llanddewi-brefi, explaining how the wailing of the Horned Oxen had split a rock in two. As shown in Payne 1975: 160–1, legends and traditions associated with the Horned Oxen are found in many regions in Wales, including the Conwy Valley, Tregaron and Llanbryn-mair. The reference to graig ‘rock’ in line 63 may well be a specific rock, or a place name.
64 Gruffudd ap Gwilym He must have been the driver who controlled the dean’s oxen. For further information on the driver’s role, see Payne 1975: 171–3 et passim.
65 dwy gennad The two messages or requests, for hounds and oxen (although there was really only one request of course).
66 aed ’n eu hôl For the syntax, cf. WM 150.36–151.1 aeth gweisson yn ol y varch ‘the servants went to fetch his horse’, quoted in GPC 2595 s.v. nolaf, noliaf: nôl ‘to fetch, bring’, &c.
68 cŵn rhodd Cf. oen rhodd ‘gift of a lamb’ 45.28. Is he referring to real dogs (cf. irchwys, 37) or the oxen?
Bibliography
Bromwich, R. (1968), ‘Trioedd Ynys Prydain: The Myvyrian “Third Series” ’, THSC, 299–301
Carey, J. (1992), ‘A Tuath Dé Miscellany’, B xxxix: 24–45
Payne, Ff. (1975), Yr Aradr Gymreig (Caerdydd)
Price, G.V. (1952), Valle Crucis Abbey (Liverpool)
Richards, M. (1938), Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (Caerdydd)
Rowland, J. (1990), Early Welsh Saga Poetry (Cambridge)
Rowlands, E.I. (1958–9), ‘Cyfeiriadau Dafydd ap Gwilym at Annwn’, LlCy 5: 122–35
Rhŷs, J. (1901) Celtic Folklore (Oxford)
Williams, G. (1976), The Welsh Church from Conquest to Reformation (second ed., Cardiff)
Diogelwyd yn y llawysgrifau gyfanswm nid ansylweddol o ddeunaw cerdd i Risiart Cyffin gan saith o feirdd. Canodd Guto chwe chywydd iddo: diolch am bwrs (cerdd 58); diolch am baderau (cerdd 59); gofyn gwalch gan Huw Bwlclai ap Wiliam Bwlclai o Fiwmares ar ran Rhisiart (cerdd 60); gofyn teils gan Risiart ar ran Syr Gruffudd ab Einion o Henllan (cerdd 61); gofyn wyth ych ar ran Rhisiart gan yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris (cerdd 108); diolch i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes ac i Risiart am wella briw (cerdd 109). Diogelwyd pedair cerdd i Risiart gan Dudur Aled: awdl fawl, TA cerdd VIII; cywydd i ofyn meini melin gan Risiart ar ran gŵr a elwir ‘y Meistr Hanmer o Faelor’, ibid. cerdd CXX; englynion dychan i Risiart ac i’w feirdd, yn cynnwys Rhys Pennardd, Ieuan Llwyd a Lewys Môn, ibid. cerdd CXLI; englyn mawl i Risiart a dychan i’w olynydd, ibid. cerdd CXLV. Canwyd tri chywydd dychan i Risiart gan Lywelyn ap Gutun: cystadlu am Alswn o Fôn a dychan i Risiart, GLlGt cerdd 8; dychan i Risiart yn ymwneud â chardota ŵyn, ibid. cerdd 9; dychan i Risiart ynghylch Alswn ac i’w feirdd, lle enwir Rhys Pennardd, Hywel Rheinallt a Lewys Môn, ibid. cerdd 10. Diogelwyd dau gywydd iddo gan Lewys Môn: ateb i’r cywydd cyntaf uchod o waith Llywelyn ap Gutun, lle amddiffynnir Rhisiart ynghylch Alswn o Fôn, GLM cerdd XV; marwnad, ibid. cerdd XVII. Ceir hefyd rai cerddi unigol i Risiart gan feirdd eraill: cywydd mawl gan Hywel Rheinallt i Santes Dwynwen lle molir Rhisiart fel person eglwys a gysegrwyd iddi yn Llanddwyn ym Môn; cywydd gofyn am ychen gan Ieuan Deulwyn i’r Abad Dafydd Llwyd o Aberconwy, Rhisiart a Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV; cywydd mawl i Risiart gan Syr Siôn Leiaf, lle dychenir Guto, Hywel Grythor a Gwerful Mechain, Salisbury 2011: 101–18. At hynny, canodd Lewys Daron gywydd i ofyn march gan un o feibion Rhisiart, Dafydd Conwy, ar ran Siôn Wyn ap Maredudd (GLD cerdd 22).
Achres
Seiliwyd y goeden achau isod ar Salisbury 2011: 73–77. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Achres Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, deon Bangor
Roedd Rhisiart yn gefnder i Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan ac mae’n bosibl ei fod yn perthyn o bell i Syr Gruffudd ab Einion o Henllan.
Ei yrfa
Y tebyg yw fod Rhisiart wedi dechrau ei yrfa eglwysig fel person eglwys blwyf y Gyffin yng nghwmwd Arllechwedd Isaf ym mis Mai 1470 (codwyd yr holl wybodaeth o Salisbury 2011). Cafodd Rhisiart ei ddyrchafu’n ddeon Bangor rywdro rhwng y dyddiad hwnnw a 12 Mai 1478, sef dyddiad y cofnod cynharaf lle gelwir ef yn ddeon. Bu’n ddeon gydol wythdegau’r bymthegfed ganrif a bu farw, yn ôl pob tebyg, ar 13 Awst 1492, a’i gladdu yng nghorff yr eglwys.
Fel deon y cyfarchai’r beirdd Risiart ymron ym mhob cerdd, ond gwnaeth y beirdd yn fawr hefyd o’r ffaith ei fod yn berson eglwys Llanddwyn ym Môn. At hynny, dengys rhannau o’r cerddi a ganwyd iddo gan Guto iddo fod yn weithgar yn ailadeiladu rhannau o’r eglwys a’r esgopty ym Mangor (58.7–10; 59.3–14). Yn sgil ei gefnogaeth i Harri Tudur derbyniodd arian er mwyn adeiladu siantri wedi ei gysegru i Santes Catrin yng nghorff yr eglwys. Rhoes hefyd ffenestr liw ac ynddi ddarluniau o Santes Catrin a Santes Dwynwen ym mur de-ddwyreiniol y gangell. Ar waelod y ffenestr honno ceid enw Rhisiart gyda’r teitl Magistri o’i flaen, teitl a adleisir yn hoffter y beirdd o gyfeirio ato fel mastr Rhisiart. Ymddengys ei fod yn ŵr gradd yn y gyfraith ganon.
Roedd cyfraniad Rhisiart i fywyd diwylliannol ei ddydd yn sylweddol. Rhoes fwy o nawdd i feirdd nag unrhyw ŵr crefyddol arall a ddaliodd swydd yn un o bedair esgobaeth Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. At hynny, o safbwynt genre ceir amrywiaeth eang iawn yn y cerddi a ganwyd iddo neu ar ei gais, oherwydd canwyd iddo ddigon o fawl confensiynol, yn ôl y disgwyl, ond canwyd hefyd lawer o gerddi ysgafn neu ddychanol. Awgrym cryf y cerddi yw ei fod gyda’r iachaf ei hiwmor o’r noddwyr oll.
Llyfryddiaeth
Salisbury, E. (2011), ‘Rhisiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, Deon Bangor’, Dwned, 17: 73–118
Mae cyfanswm o un ar ddeg o gerddi gan Guto sy’n gysylltiedig â’r Abad Dafydd ab Ieuan wedi goroesi yn y llawysgrifau. Ymddengys mai Dafydd oedd prif noddwr y bardd yn ei henaint. Canodd bum cerdd iddo’n uniongyrchol: dau gywydd mawl (cerddi 112, 117); dwy awdl foliant (cerddi 111, 113); cywydd diolch am fwcled (cerdd 110). Cyfeirir at Ddafydd mewn chwe chywydd arall: cerdd a ganodd Guto i amddiffyn ei le yn abaty Glyn-y-groes lle molir Dafydd (cerdd 116); myfyrdod crefyddol wedi ei ysbrydoli gan gerydd a dderbyniodd gan Ddafydd (cerdd 118); mawl i’r Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell a ganodd Guto ar gais Dafydd, yn ôl pob tebyg (cerdd 115); gofyn ar ran Dafydd i gael benthyg Llyfr y Greal gan Drahaearn ab Ieuan o Ben-rhos (cerdd 114); gofyn wyth ych gan Ddafydd, Siôn Trefor ab Edward o Bentrecynfrig, Siôn Edward o’r Waun a Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor (cerdd 108); diolch i Ddafydd ac i Risiart Cyffin, deon Bangor, am wella briw (cerdd 109). At hynny, y tebyg yw fod englyn olaf Guto (cerdd 119) wedi ei ganu yng Nglyn-y-groes pan oedd Dafydd yn abad, fel y farwnad a ganodd Gutun Owain ar farwolaeth Guto (cerdd 126; cf. cyfeiriad at Guto yn XXV.9–10). Yn wir, canodd Gutun wyth o gerddi eraill i Ddafydd: pedwar cywydd mawl (GO cerddi XXIV, XXVIII, XXIX, XXX); tair awdl foliant (ibid. cerddi XXV, XXVI, XXVII); awdl-gywydd (ibid. cerdd XXXI). Tudur Aled yw’r unig fardd arall y gellir ei gysylltu â Dafydd. Cyfeiriodd ef ato mewn cywydd a ganodd i ŵr o’r enw Rhys ynghylch rhodd o farch a roes i’r abad (TA cerdd LXIX).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG1 ‘Tudur Trefor’ 1, 2. Dangosir mewn print trwm y rhai hynny a enwir yn y cerddi a ganodd Guto i Ddafydd. Gwelir mai prin iawn yw’r cyfeiriadau yn y cerddi at ei hynafiaid.
Achres yr Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes
Ei yrfa
Mae’n debygol fod Dafydd wedi ei eni yn Nhrefor ym mhlwyf Llangollen. Ni cheir enw ei fam yn yr achresi, a hynny’n ôl pob tebyg am iddo gael ei genhedlu y tu allan i briodas. O ganlyniad, bu’n rhaid i Ddafydd, fel ei gyfoeswr, Rhisiart Cyffin, deon Bangor, geisio caniatâd gan y Pab er mwyn ymgymryd â swydd eglwysig. Fe’i gwnaed yn fynach Sistersaidd fel ei dad, Ieuan. Dysgwn o farddoniaeth Guto’r Glyn a Gutun Owain iddo fod ganddo wallt tywyll (110.4 angel du; 112.19 [g]ŵr gloywddu; 113.77 du llawenddoeth; GO XXXI.23).
Yn 1480 olynodd Dafydd ei gyd-noddwr, yr Abad Siôn ap Rhisiart, yn abad Glyn-y-groes ac yn 1485 fe’i penodwyd yn ddirprwy i abadau Sistersaidd Fountains yn swydd Efrog a Woburn yn swydd Rhydwely (Bedfordshire) yn y gwaith o ad-drefnu’r urdd yng Nghymru a Lloegr. Yn yr un flwyddyn fe’i penodwyd gan Harri VII i arwain tîm o ymchwilwyr, yn cynnwys Gutun Owain a Syr Siôn Leiaf (gw. 116.11–12n), yn y gwaith o lunio achres Gymreig y brenin. Erbyn 1496 roedd hefyd yn warden eglwys blwyf golegol Pedr Sant yn Rhuthun, a chaniatawyd iddo gadw’r swydd honno a’i abadaeth pan benodwyd ef yn esgob Llanelwy ar 8 Ionawr 1500. Fodd bynnag, esgobaeth fer a gafodd, oherwydd bu farw tua diwedd 1503.
Yn wahanol i’w olynydd yn yr esgobaeth, yr Abad Dafydd ab Owain, ni oroesodd cerddi i Ddafydd o’i gyfnod yn esgob. Ei abadaeth yng Nglyn-y-groes oedd uchafbwynt ei yrfa, i bob diben, ac adlewyrchir ei lwyddiant fel abad yn y cerddi a ganwyd iddo yno. Gwyddys bod yr Abad Dafydd ab Owain, a fu yntau’n abad yn Ystrad-fflur, Ystrad Marchell ac Aberconwy, wedi derbyn addysg yn Rhydychen, ond ni cheir gwybodaeth am addysg Dafydd ab Ieuan. Fodd bynnag, mae’n eglur oddi wrth y farddoniaeth ei fod yn ŵr dysgedig (112.29–30; cerdd 114; GO XXIV.29–30, XXV.19, XXVIII.45) a’i fod yn hyddysg ym myd cerdd dafod a cherdd dant. Geilw Guto ef yn [dd]iwael brydydd â chanddo’r ddawn i gyfeilio fel y telynor enwog, Brido (113.58–60; cf. GO XXIV.39–40, XXVIII.47–52, XXXI.46). Fel y dengys y ffaith iddo siarsio Guto i ganu i Dduw, ymddengys mai’r canu crefyddol oedd ei briod faes: O gwna Dafydd gywydd gwiw, / Ef a’i rhydd i Fair heddiw (118.5–6). Yn anffodus, ni oroesodd dim o’i waith.
Ac yntau’n ŵr cydnerth a fedrai saethu â bwa (GO XXIV.33–6, XXVIII.33–4), y tebyg yw mai ei brif gyfraniad i fywyd y fynachlog oedd ei waith adeiladu. Dywed Guto iddo ail-doi’r abaty gyda phren derw o fryn Hyrddin gerllaw (112.33–4) a chyflogi seiri crefftus i weithio ar rannau eraill o’r adeilad (112.45–56; 113.13–14, 69–73; GO XXVI.62). Mae’n bur debygol mai yn ystod abadaeth Dafydd yr adeiladwyd ystafelloedd newydd yr abad uwchben y gysegrfa a’r cabidyldy, a ddyddir i ail hanner y bymthegfed ganrif (Robinson 2006: 291).
Ymhellach ar Ddafydd, gw. DNB Online s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; ByCy Ar-lein s.n. Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth; CTC cerddi 57–75 a’r drafodaeth arnynt.
Llyfryddiaeth
Robinson, D.M. (2006), The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540 (London)
Gw. Edward ap Dafydd o Fryncunallt
Un gerdd yn unig a gadwyd gan Guto i Siôn Edward o Blasnewydd, y Waun, a’i wraig, Gwenhwyfar ferch Elis Eutun (cerdd 107). Cadwyd pedwar cywydd arall i Siôn yn y llawysgrifau: mawl gan Gutun Owain (GO cerdd LV); marwnad gan Gutun Owain (GO cerdd LVI); mawl i Siôn a’i frawd Ednyfed gan Hywel Cilan (GHC cerdd XXI); mawl i Siôn a’i wraig Gwenhwyfar gan Deio ab Ieuan Du (GDID cerdd 14). Am ganu Tudur Aled i fab Siôn, Wiliam Edwards, gw. Bowen 1992: 137–59. Gwelir o’r nodiadau ar gerdd Guto i Siôn fod ambell i adlais ynddi o gerdd Deio ab Ieuan Du, cerdd a oedd yn perthyn i gyfnod cynharach, yn ôl pob tebyg (gw. isod). Ond nid yw’n ddiogel tybio bod Guto’n adleisio cerdd Deio’n benodol, oherwydd ni wyddom pa faint o gerddi sydd wedi eu colli.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Tudur Trefor’ 3, 13, Puleston a WG2 ‘Tudur Trefor’ 13E, 25 A1, ‘Hwfa’ 8G. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Siôn mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Siôn Edward o Blasnewydd
Gwelir bod mab Siôn, Siôn Wyn, yn ŵr i Elsbeth, merch i un o noddwyr Guto, Huw Lewys. At hynny, roedd Jane ferch Siôn yn wraig i Lywelyn ab Ieuan, ŵyr i un arall o noddwyr Guto o Fôn, Hywel ab Ieuan Fychan o Foeliwrch.
Tybir, ar sail cerdd Hywel Cilan, mai Siôn oedd mab hynaf Iorwerth ab Ieuan (GHC XXI.15–18):Siôn Edward sy newidiwr
Mwnai er gwawd, myn air gŵr.
Ednyfed, dan iau Ifor,
Wrol iawn, ydyw’r ail iôr.Mae ei enw hefyd yn awgrymu mai ef oedd yr hynaf. Tarddeiriau o’r Lladin Johannes yw Siôn ac Ieuan (Morgan and Morgan 1985: 130–8), a gwelir uchod mai Ieuan oedd enw ewythr a thaid Siôn, ill dau’n feibion hynaf. Yn y cenedlaethau i ddod, byddai mwy nag un Siôn neu John Edwards yn fab hynaf yn y teulu (gw. ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Siôn Edward neu Siôn Wyn oedd enw mab hynaf Siôn yn ogystal, ac ategir hyn gan y drefn yr enwir y meibion ym marwnad Gutun Owain iddo (GO LVI.38, 40): Siôn Wyn, Wiliam, Edward a Dafydd. (Gwelwyd wrth drafod teulu Edward ap Dafydd fod y beirdd, fel achyddwyr, yn tueddu i enwi plant yn nhrefn eu hoedran.) Mae’n bosibl i Siôn Wyn farw’n weddol ifanc, oherwydd Wiliam oedd arglwydd Plasnewydd pan ganodd Tudur Aled yno (TA cerdd LXIII).
Y canu iddo
Dadleuwyd fod cywydd Guto i Siôn wedi ei ganu ychydig ar ôl ei ddychweliad o frwydr Bosworth yn 1485 (gw. nodyn cefndir cerdd 107). Tystia Guto mewn dwy gerdd a ganodd yn ystod abadaeth Dafydd ab Ieuan yng Nglyn-y-groes (c.1480 ymlaen) mai Siôn oedd un o’i brif noddwyr yn y cyfnod diweddar hwn yn ei yrfa (gw. 108.27–30 a 117.57–8 Siôn Edward, nis newidiaf / Er dau o’r ieirll, i’w dai ’r af). Gan na chyfeirir at Ednyfed, brawd Siôn, gan Gutun Owain, Deio ab Ieuan Du na Guto (a hynny’n ôl pob tebyg am iddo farw’n ifanc a di-blant, Bowen 1992: 142), gallwn dybio bod cywydd Hywel Cilan i’r ddau frawd i’w ddyddio ynghynt na’r cerddi eraill. Cyfeiria Hywel at Siôn ac Ednyfed fel Dau etifedd i feddu / Ar wŷr a thir Iorwerth Ddu (GHC XXI.11–12), ond erbyn i Gutun Owain ganu ei fawl, mae’n amlwg mai Siôn oedd y penteulu: Tir Ierwerth yw’r tav ’r owron. / Tref tad ytt yw’r wlad lydan (GO LV.12–13). Awgryma Gutun ymhellach fod Siôn erbyn hyn wedi dechrau planta: Duw tyved dy etivedd (LV.40). Ymddengys mai cywydd i bâr ifanc hefyd yw cywydd mawl Deio ab Ieuan Du i Siôn a Gwenhwyfar, oherwydd cyfeirir at eu cartref yn y Waun fel Plas Ierwerth ac fel Plas Catrin (GDID 14.45, 46), sef enwau rhieni Siôn (gthg. ibid. 139, lle awgrymir mai cyfeiriad at chwaer Siôn yw Catrin). Efallai y canwyd y gerdd honno’n fuan wedi i Siôn ddod i’w etifeddiaeth lawn ac iddo ef a Gwenhwyfar ymsefydlu fel pâr priod ym Mhlasnewydd. Yn ei farwnad i Siôn ar ddiwedd y ganrif, cyfeiria Gutun Owain at alar ei wyth plentyn: Pedair merched tyledyw (nas henwir, GO LVII.41), a’r pedwar mab (a enwyd uchod).
Gwenhwyfar ferch Elis Eutun
Priododd Siôn â Gwenhwyfar ferch Elis ap Siôn Eutun. Mam Gwenhwyfar oedd Angharad ferch Madog Pilstwn. Cyfeiria Guto, Gutun Owain a Deio ab Ieuan Du ati fel merch Elis (107.23, GO LVI.28, GDID 14.36), ond cyfeiria Deio yn ogystal at ei thaid, Siôn Eutun, a’i nain, Gwenhwyfar ferch Einion ab Ithel, yr enwyd Gwenhwyfar ar ei hôl (GDID 14.40, 41). Mae Guto a Deio ab Ieuan Du hefyd yn chwarae â’r syniad mai Gwenhwyfar oedd enw gwraig y Brenin Arthur, gan gymharu’r lletygarwch ym Mhlasnewydd ag eiddo llys Arthur. Bu farw Gwenhwyfar yn 1520 yn ôl cofnod yn Pen 287, 67.
Plasnewydd
Nid enwir cartref Siôn gan Guto, Gutun Owain na chan Hywel Cilan (er bod Guto a Gutun Owain yn cyfeirio at y lle fel plas, o bosibl wrth chwarae ar yr enw Plasnewydd). Fe’i lleolir gan Guto dan y castell (107.17), a gallwn fod yn hyderus mai ym Mhlasnewydd y trigai, a leolir ychydig islaw castell y Waun yn nhrefgordd Gwernosbynt. Wrth foli mab Siôn, Wiliam Edward, lleola Tudur Aled yntau’r cartref Is y castell (TA LXIII.77), ac mae Lewys Môn yn cadarnhau i sicrwydd mai Plasnewydd oedd enw cartref Wiliam (GLM LXXIV.8 Palis nawoes Plasnewydd).
Esbonia Pratt (1996: 10) fod y safle hwn wedi bod yn gartref i uchelwyr ers oes y tywysogion: ‘This moated site was of quasi manorial status, the home of high-born native Welshmen … who held, or farmed, important administrative positions under both the Welsh princes of Powys Fadog and the English lords of Chirk’. Bu’r llys ym meddiant teulu Siôn ers cenedlaethau. Yn arolwg 1391 o’r Waun nodir bod Iorwerth Ddu (gorhendaid Siôn) a’i frawd Ieuan yn berchen ar drefgordd Gwernosbynt (Jones 1933: 8–9; Pratt 1997: 37). Ar farwolaeth Ieuan ab Adda yn 1448, ‘Ieuan Fychan inherited Pengwern while to Iorwerth ab Ieuan fell the estates in Gwernosbynt and adjacent townships’ (Pratt 1996: 15). Gwnaeth Iorwerth gryn dipyn o waith ailadeiladu ar y cartref, fel y gwnaeth ei ŵyr, Wiliam Edward, yn ddiweddarach ym mlynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar bymtheg (ibid. 15–16). Tybed ai yn sgil gwaith un o’r ddau hyn y rhoddwyd yr enw Plasnewydd ar y llys? Fodd bynnag, awgrymodd Pratt (1996: 14–15) y gall mai yn ystod amser Iorwerth Foel, tad Ednyfed Gam, ym mlynyddoedd olaf y drydedd ganrif ar ddeg, y rhoddwyd yr enw hwnnw ar y tŷ, pan dderbyniodd Iorwerth drefgordd Gwernosbynt dan les gan Roger Mortimer.
Gyrfa a dyddiadau
Ceir y cofnod cynharaf at Siôn mewn gweithred wedi ei dyddio 21 Medi 1474, yn cofnodi trosglwyddo tir gan Wiliam Eutun iddo. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif roedd Siôn yn dal swydd fel rysyfwr yn y Waun o dan Syr William Stanley, yn ogystal â swydd prif fforestydd arglwyddiaeth y Waun (Jones 1933: xiv; ByCy Arlein s.n. Edwards, Edwardes (Teulu), Chirkland). Y tebyg yw mai cyfeirio at ddyletswyddau gweinyddol o’r fath a wna Guto wrth ei alw’n Noter gwŷr yn y tair gwart (107.29). Ar 3 Chwefror 1489, ceir dogfen arall yn cofnodi trosglwyddo tir iddo yn nhrefgordd y Waun gan ŵr o’r enw Hywel ap Deicws. Bu farw Siôn yn 1498 (Pen 287, 67), a hynny, yn ôl tystiolaeth Gutun Owain, ar Ddifiau Dyrchafael yn y flwyddyn honno (LVI.10, 25).
Dysg
Gwyddom o dystiolaeth llawysgrifau yn llaw Siôn ei hun fod ganddo ddiddordebau ysgolheigaidd, ac felly byddem yn disgwyl gweld canmol ar ei ddysg yng ngherddi’r tri bardd a ganodd iddo. Fodd bynnag, ei allu i gadw cyfraith a threfn yn swydd y Waun ynghyd â’i letygarwch sy’n cael sylw gan y beirdd. Ac eithrio ei alw’n noter gwŷr (sydd, mewn gwirionedd, yn debygol o fod yn gyfeiriad at ei ddyletswyddau gweinyddol), nid oes unrhyw awgrym ganddynt iddo ymddiddori mewn dysg fel y cyfryw (yn wahanol i ddisgrifiad Guto o ddiddordebau ysgolheigaidd Edward ap Dafydd a’i fab Siôn Trefor (104.25–6, 43–4n), yn ogystal â disgrifiad Gutun Owain o ddysg Robert ap Siôn Trefor, GO XXXVIII.27–34). Yn LlGC 423D ceir gramadeg Lladin wedi ei ysgrifennu gan Siôn yn y 1480au, yn ôl pob tebyg ar gyfer ei fab, Siôn Wyn (gw. RepWM dan NLW 423D). Ychwanegodd Siôn Wyn, yn ei dro, ambell air Saesneg uwchben rhai geiriau Lladin, ac mewn ambell fan arwyddodd ei enw (e.e. Joh[ann]es Wyn[n] a Nomen scriptoris Johannes plenus amoris), a cheir ganddo ymarferion ysgrifennu. Disgrifir cynnwys y llawysgrif hon fel ‘Latin verses giving lists of verbs, glossed extensively in English; verse vocabulary of words for parts of the body, again for house¬hold words, treatise on orthography and grammar’ (Thomson 1979: 105–13). Awgryma Thomson (1982: 77) fod y ddysg hon, a’i phwyslais ar ramadeg a chystrawen, yn nodweddiadol o addysg brifysgol yn y cyfnod, a’i bod i’w chysylltu’n arbennig â gŵr o’r enw John Leylond (m. 1428) o Brifysgol Rhydychen (DNB Online s.n. Leylond, John). Mae’n ddigon posibl fod Siôn wedi derbyn addysg brifysgol o’r fath, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i ategu hynny ac eithrio natur ei ddiddordebau ysgolheigaidd.
Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (1992), ‘I Wiliam ap Siôn Edwart, Cwnstabl y Waun’, YB XVIII: 137–59
Jones, G.P. (1933), The Extent of Chirkland (1391–1393) (London)
Morgan, T.J., and Morgan, P. (1985), Welsh Surnames (Cardiff)
Pratt, D. (1996), ‘New Hall Moated Site, Chirk’, TCHSDd 45: 7–20
Pratt, D. (1997), ‘The Medieval Borough of Chirk’, TCHSDd 46: 26–51
Smith, Ll.B. (1987), ‘The Grammar and Commonplace Books of John Edwards of Chirk’, B xxxiv: 174–84
Thomson, D. (1979), A Descriptive Catalogue of Middle English Grammatical Texts (New York)
Thomson, D. (1982), ‘Cistercians and Schools in Late Medieval Wales’, CMCS 3 (Summer): 76–80
Nid oes cerdd wedi goroesi gan Guto’r Glyn i Ddafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris ger Llandegla yn Iâl, ond wrth ganu i’r Abad Dafydd ab Ieuan o Lyn-y-groes yn negawd olaf ei yrfa, dywed wrthym fod Dafydd yn un o’i brif noddwyr ar y pryd. Yn ei gywydd yn gofyn am ychen ar ran Rhisiart Cyffin, deon Bangor, gofynna Guto am ddau ych yr un gan bedwar noddwr, sef yr Abad Dafydd, Siôn Edward o Blasnewydd, Siôn Trefor o Bentrecynfrig a Dafydd Llwyd: Dafydd, lliw dydd, Llwyd o Iâl / Dewrder a chlod ei ardal, / Haelaf a gwychaf o’r gwŷr / Ond y tad, oen Duw, Tudur (108.33–6; a’r llinell olaf yn awgrymu o bosibl fod tad Tudur ar dir y byw). Mewn cywydd arall, enwa Guto’r un pedwar noddwr eto, gan gyfeirio’n arbennig at y croeso cynnes a gâi yn llys Dafydd Llwyd: Llys Dafydd, dedwydd yw’r daith, / Llwyd o Iâl, lle da eilwaith (117.59–60).
Cadwyd y cerddi canlynol gan feirdd eraill i Ddafydd Llwyd: cywydd moliant gan Gutun Owain (GO cerdd XL) cywyddau marwnad gan Gutun Owain (ibid. cerdd XLI) a Thudur Aled (TA cerdd LXXIV).
Cadwyd cerddi gan feirdd eraill, fodd bynnag, i ddau o feibion Dafydd Llwyd, Tudur Llwyd a Siôn Llwyd. Dyrchafwyd Siôn yn abad Glyn-y-groes yn dilyn marwolaeth yr Abad Dafydd ab Ieuan yn 1503. Canodd tri bardd farwnad i Dudur Llwyd a fu farw, yn ôl pob tebyg, oherwydd gwenwyn yn y gwaed ar ôl cael fflaw yn ei fys (GLM LXVIII.11–12): Siôn ap Hywel (GSH cerdd 8) Tudur Aled (TA cerdd LXXIX) Lewys Môn (GLM cerdd LXVIII). Cadwyd pedair cerdd i Siôn Llwyd, yr abad: awdl foliant gan Dudur Aled (TA cerdd I; CTC 161) cywydd moliant gan Dudur Aled (ibid. cerdd XXVIII; CTC 167) cywydd ‘I ofyn crythor ac ofni ei gael’ gan un ai Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan neu Siôn Phylib (CTC 158) cywydd moliant gan Lewys Môn (GLM cerdd LXVII; CTC 165).
Achres
Seilir yr achres ar wybodaeth a gafwyd yn WG1 ‘Sandde Hardd’ 10; WG2 ‘Sandde Hardd’ 10A; GO 223. Tanlinellir enwau noddwyr Guto.
Llinach Dafydd Llwyd ap Tudur o Fodidris
Priododd Dafydd Llwyd â Mallt, aeres Gronw ab Ieuan ap Dafydd Llwyd o Hafod-y-bwch a Bers, yn 1468–9; disgynnai hi o deulu’r Hendwr (GO 223, 225 a Pen 287, 349). Priododd eu mab, Tudur Llwyd, â Chatrin ferch Siôn Edward o Blasnewydd yn y Waun, un o’r pedwar noddwr y cyfeiriodd Guto atynt mewn cerddi ar ddiwedd ei oes, fel y gwelwyd uchod.