Chwilio uwch
 

Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, fl. c.1466–m. 1500

Un gerdd yn unig gan Guto i Wiliam ap Gruffudd a oroesodd, sef cywydd mawl (cerdd 55). Diogelwyd pum cerdd arall i Wiliam yn y llawysgrifau:

  • dau gywydd mawl gan Lewys Môn, GLM cerddi XLII ac XLIII;
  • cywydd hwyliog iawn gan Ddafydd Llwyd o Fathafarn yn diolch iddo am farch, GDLl cerdd 51;
  • cywydd gan Ieuan Deulwyn i ofyn ychen ganddo a chan uchelwyr eraill o Wynedd (yn cynnwys Rhisiart Cyffin, deon Bangor, ac, o bosibl, Wiliam Fychan o’r Penrhyn) ar ran Syr Rhys ap Tomas o Abermarlais, ID cerdd XXIV;
  • marwnad gan Lewys Daron, GLD cerdd 8.

Canodd Lewys Môn farwnad i’w wraig gyntaf, Angharad ferch Dafydd (GLM cerdd XLIV). Bu ei fab, Wiliam, yn hael ei nawdd i’r beirdd hefyd, a diogelwyd cerddi iddo gan Ruffudd Hiraethog, Lewys ab Edward, Lewys Daron, Lewys Morgannwg, Siôn Brwynog, Siôn ap Hywel a Wiliam Llŷn. Ymhellach ar y canu i hynafiaid Wiliam, gw. isod.

Achresi
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Bleddyn ap Cynfyn’ 50, 51, ‘Marchudd’ 4, 5, 6, ‘Osbwrn’ 2; WG2 ‘Iarddur’ 5E, ‘Marchudd’ 6 D1, D2, ‘Osbwrn’ 2 A1; GLM cerdd XLIV. Nodir mewn print trwm yr unigolion a enwir gan Guto yn y gerdd a ganodd i Wiliam, a thanlinellir enwau uchelwyr eraill a roes eu nawdd i Guto.

stema
Achres Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan

Gwelir bod Wiliam yn gefnder (neu’n hanner cefnder) i Risiart Cyffin, deon Bangor, ac yn gyfyrder i Ddafydd ap Meurig Fychan o Nannau. Roedd ei dad yn gefnder i Wiliam Fychan o’r Penrhyn. At hynny, fel y dengys yr achres isod, roedd yn fab-yng-nghyfraith (o’i briodas gyntaf) i Ddafydd ab Ieuan ab Einion o’r Cryniarth ac (o’i ail briodas) i Robert ab Ieuan Fychan o Goetmor.

stema
Teulu Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan

Yn ôl achresi Bartrum cafodd Wiliam berthynas â dwy wraig arall, sef Mallt ferch Cynwrig a Marged ferch Tomas. Nodir iddo gael merch o’r enw Alis gyda’r gyntaf a mab o’r enw Morgan gyda’r ail. Yn ogystal â hynny, ceir enwau pum merch arall yn yr achresi nad yw’n eglur pwy oedd eu mam, sef Marged, dwy Fallt (gall fod un ohonynt yn ferch i Angharad ferch Dafydd), Annes a Gwenllïan.

Ei deulu a’i yrfa
Nid yw fawr o syndod i Guto dderbyn nawdd gan Wiliam ap Gruffudd, ac yntau’n perthyn i gynifer o uchelwyr blaenllaw eraill yng Ngwynedd a thu hwnt. Safai Wiliam mewn llinach urddasol a ddaeth i amlygrwydd yn y drydedd ganrif ar ddeg, pan fu Ednyfed Fychan ap Cynwrig yn ddistain i Lywelyn Fawr ab Iorwerth. Canodd Elidir Sais farwnad i Ednyfed (GMB cerdd 18) a bu ei ddisgynyddion ar ochr ei fab, Goronwy, yn hael eu nawdd i’r beirdd ym Môn gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg (GGMD i, 11–12). Erbyn ail hanner y ganrif honno roedd hendaid Wiliam, Gruffudd ap Gwilym ap Gruffudd (a fu farw yn 1405), wedi ychwanegu tiroedd yn Nyffryn Clwyd, sir Gaernarfon a Môn at ei diroedd yng nghadarnle traddodiadol y teulu yn sir y Fflint (Davies 1995: 51–2). Ymladdodd ar y cyd â’i frawd, Bleddyn, yn erbyn y Goron yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr a bu farw’r ddau cyn Hydref 1406 (Bowen 2002: 60). Gruffudd, yn ôl Davies (1995: 51), oedd y Cymro cyfoethocaf yng ngogledd y wlad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ni bu fawr o dro’n manteisio ar y rhyddid a roed iddo gan oruchafiaeth cyfraith Loegr yng Nghymru yn sgil y Goncwest i etifeddu tir drwy briodas.

Gyda throad y ganrif mae’n eglur fod meibion Gruffudd, sef Rhobin, Gwilym a Rhys, wedi ymuno â’r gwrthryfel ym mhlaid Owain. Ond ym mis Awst 1405 ildiodd y tri brawd a phedwar Cymro arall i’r Goron yng ngharchar Caer (ibid. 119; Carr 1990: 8–9). Yn ôl Carr (ibid. 5) aeth tir Gruffudd yn sir y Fflint i Rys ac ymddengys i’w diroedd yng Ngwynedd fynd i Wilym (a ymgartrefodd yn y Penrhyn) ac i Robin (yng Nghochwillan). Erbyn 1408 roedd Rhobin yn un o swyddogion y Goron yn sir Gaernarfon, a bu farw c.1445 (ByCy Ar-lein s.n. Williams o Gochwillan; DNB Online s.n. Tudor family, forebears of; codwyd yr wybodaeth isod o’r ddwy ffynhonnell hynny oni nodir yn wahanol). Canodd Gwilym ap Sefnyn i Robin ac enwir y bardd a’i noddwr fel tystion mewn nifer o ddogfennau cyfreithiol yn negawdau cynnar y bymthegfed ganrif (Williams 1997: 84). Roedd mab Rhobin, Gruffudd, yn aelod o gomisiwn cyllidebu yn sir Gaernarfon ac ym Môn yn 1466 a bu’n swyddog ac yn ffermwr yn y sir honno rhwng 1459 ac 1475, sef blwyddyn ei farw. Gall fod ei fab, Wiliam, yn aelod arall o’r comisiwn hwnnw (Evans 1998: 98), ac os yr un Wiliam a enwir gan Evans (ibid. 159 troednodyn 15), bu’n weithgar ar 18 Awst 1467 yn rhoi trefn ar saith gant o saethyddion ym myddin dug Worcester ym Miwmares, ynghyd ag ymchwilio i’r fasnach fôr yn y gogledd ar 3 Awst 1475.

Yn 1468 dienyddiwyd hanner brawd i Ruffudd, sef Tomas, yng Nghonwy gan Wiliam Herbert yn sgil ei gefnogaeth i blaid Lancastr. Nid yw’n syndod, felly, i fab Gruffudd, Wiliam, briodi merch i Ddafydd ab Ieuan ab Einion, a gadwodd gastell Harlech ar ran y Lancastriaid rhwng c.1460 ac 1468, ac iddo gefnogi Harri Tudur ym mrwydr Bosworth yn 1485 (Evans 1998: 166 troednodyn 53). Yn sgil ei gefnogaeth i’r brenin newydd derbyniodd swydd siryf Caernarfon am oes o 24 Medi y flwyddyn honno hyd 1500, pan fu farw, yn ôl pob tebyg (Breeze 1873: 50; Williams 1956: 249). Mae’n debygol mai yn sgil ei deyrngarwch y derbyniodd fraint dinasyddiaeth hefyd ar 18 Ionawr 1486, a dengys cofnod am y weithred honno yng Nghofnodion y Rholau Patent y modd y gorfu i Wiliam ymgodymu â sgil effeithiau’r Gwrthryfel y bu ei hynafiaid yn rhan ohono ddechrau’r ganrif (CPR):

Denization of William ap Griffith ap Robyn, native of Wales: and extention to him of the privelages of an Englishman, and enfranchisement from the penal enactments against the Welsh of 2 Henry IV.

Gellir yn sicr ei gymharu ag ymgais lwyddiannus Wiliam Fychan o’r Penrhyn i ennill statws dinasyddiaeth ychydig llai na deugain mlynedd yn gynharach.

Deil Smith (1975: 102) mai rhywdro wedi 1485 yr ailadeiladodd Wiliam ei lys yng Nghochwillan drwy fanteisio ar y cyfoeth a gafodd gyda’i statws newydd (ymhellach, gw. 55.15n). Ceir cyfeiriad at Wiliam fel siryf yn 1492 yn Breeze (1873: 50 troednodyn 18).

Llyfryddiaeth
Bowen, D.J. (2002), ‘Y Canu i Gwilym ap Gruffudd (m. 1431) o’r Penrhyn a’i Fab Gwilym Fychan (m. 1483)’, Dwned 8: 59–78
Breeze, E. (1873), Kalendars of Gwynedd (London)
Davies, R.R. (1995), The Revolt of Owain Glyndŵr (Oxford)
Evans, H.T. (1998), Wales and the Wars of the Roses (Bridgend)
Smith, P. (1975), Houses of the Welsh Countryside (London)
Williams, G.A. (1997), ‘Cywydd Gwilym ap Sefnyn i Afon Ogwen ac Afon Menai’, Dwned 3: 83–95
Williams, W.O. (1956), Calendar of the Caernarvonshire Quarter Session Records, Vol. 1 (London)