Y llawysgrifau
Mewn tair llawysgrif yn unig y ceir y cywydd hwn. Mae Pen 53 yn dyddio i c.1484, ryw hanner canrif ar ôl i’r gerdd gael ei chanu. Mae’n debygol mai copi o hwn yw Llst 120 (Jaspar Gryffyth, c.1607), ac mai copi o’r testun hwnnw yn ei dro yw Llst 54 (Moses Williams, c.1710x1720). Mae’r rhesymau dros gredu hyn fel a ganlyn. Yn gyntaf, ceir nodiadau gan Jaspar Gryffyth yn Pen 53, ac mae rhai cerddi yn y rhan berthnasol o Llst 120 yn bendant wedi eu copïo o Pen 53. Gwelir hefyd ôl llaw Moses Wiliams, copïydd Llst 54, yn Llst 120. Yr ail reswm yw fod nifer sylweddol o wallau’n gyffredin i bob copi, megis yn 8, 22, 40, 44, 45, 47, 53, 57, 58, 60 a 63. Mewn achosion eraill mae Llst 120 a Llst 54 yn cytuno yn erbyn Pen 53. Weithiau nid yw eu darlleniad cystal ag eiddo Pen 53 (e.e. 13, 32, 40 rhwymau’r), weithiau nid oes modd barnu rhyngddynt ar sail safon y darlleniad (e.e. 56), a throeon eraill mae Llst 120 a Llst 54 yn rhagori. Yn yr achosion hyn, megis 5, 6, 18 a 65, gellir amau mai diwygio a wnaeth Jaspar Gryffyth, copïydd hyddysg a deallus. Posibilrwydd llai tebygol yw fod Jaspar wedi codi’r gerdd o gynsail Pen 53. Gan nad oes dim byd yn yr amrywiadau na allai ef fod wedi ei gael o Pen 53 neu drwy ddiwygio’n ddeallus, seiliwyd y testun golygedig ar Pen 53. Er bod y testun yn frith o fân wallau, gan mwyaf mae’r diwygiadau yn rhai syml ac amlwg.
Cyflwynir trawsysgrifiad o Pen 53.
5 cefnfor Pen 53 kefnor, ond cefn(-)for yn y lleill. Hawdd fyddai cywiro Pen 53 yma, ac nid oes rhaid credu ar sail y darlleniad hwn fod Llst 120 a Llst 54 yn tarddu o gynsail amgen na Pen 53.
6 gyfraith Pen 53; gan-wŷr yn y lleill. Mae’r gynghanedd yn Pen 53 yn wallus am fod -n- yn ateb -fr-, ond y tebyg yw mai cywiriad yw darlleniad Llst 120 a Llst 54, megis yn y llinell flaenorol. Os ganwyr a geid yma’n wreiddiol, mae’n anodd gweld pam y troes yn gyfraith. Gellid diwygio’n gynrhaith, ond ni cheir enghraifft o’r gair cynrhaith cyn y ddeunawfed ganrif yn ôl GPC 799. Cymerir yn betrus fod y gynghanedd yn wallus yn y gynsail, onid o’r dechrau. Mae’n bosibl, wrth gwrs, nad gyfraith a fuasai yn fersiwn y bardd ei hun.
8 pobl Ceir pob yn y copïau i gyd. Mae’r l yn gwella’r gynghanedd ac yn osgoi’r chiwthdod o gael enw lluosog ac wedi ei dreiglo ar ôl pob.
13 ddadl, eurfodd Yn Pen 53 ceir dadl eur vodd, yn y lleill dadl eurfod. Ymddengys fod Llst 120 a Llst 54 wedi cywiro’r gynghanedd drwy droi eurfodd yn eurfod. Fodd bynnag, mwy esmwyth fyddai treiglo dadl, fel y disgwylid ar ôl ansoddair.
13 Edlym Pen 53; ceir odlym yn y lleill, ffurf anodd ei deall.
15 i Ychwanegiad yn Pen 53, gan y brif law, mae’n debyg. Fe’i ceir yn y copïau eraill.
16 luryg Dilynir orgraff Pen 53. -yg yw’r odl yn 19–20, ond -ig yn 65–6.
18 cyn Pen 53 kyno (= cyn no), cyn yn y lleill. Mae’r llinell yn hir o sillaf yn Pen 53. Nid oes gwahaniaeth ystyr rhwng cyn a cyn no. Posibilrwydd arall fyddai colli sillaf yn faelys, gan fod maels yn amrywiad dilys ar maelys, gw. GPC 2305. Ceir y gair maelys eto yn 54, llinell sydd o bosibl yn rhy hir, ond yn anffodus nid yw’r llinell honno yn torri’r ddadl, gan fod modd cywasgu da ei ynddi. Gan mai faelys yw’r ffurf a geir yn Pen 53 yn y ddau achos, fe’i cedwir yma a dileu no.
22 reddf … addfwyn redef … advwyn ym mhob copi. Mae’n wir fod orgraff Pen 53 yn fwy hynafol nag eiddo’r copïau eraill: sillefir cytseiniaid lleisiol ar ddiwedd gair yn gyson fel t, c yn hytrach na d, g; ond ar y llaw arall ceir dd am dd yn gyson yn hytrach na d, fel a geid mewn cyfnod cynharach. Gan hynny, nid yw redef … advwyn yn ffurfiau a ddisgwylid yn naturiol yn Pen 53, ac mae’n bosibl, felly, fod copïydd Pen 53 yn copïo o gynsail gynharach lle defnyddid yr hen orgraff d am dd: cf. 13 lle ceir dadl yn y llawysgrif, er mai ddadl sydd ei angen ar gyfer y gystrawen a’r gynghanedd. Ceir awgrym arall i’r un perwyl yn 50, lle sillefir cyfrodedd fel kyffroddedd, fel petai’r copïydd wedi gorgywiro d yn ei gynsail. Mae’r ffaith fod redef … adfwyn yn y ddau gopi arall yn awgrym cryf eu bod yn tarddu o Pen 53, onid o gynsail honno.
23 o Pen 53; am yn y lleill, cf. y nodyn blaenorol: awgrym arall fod Llst 54 yn tarddu o Llst 120.
23–4 Y drefn yn Llst 120 a Llst 54 yw 24, 23, awgrym cryf fod Llst 54 yn tarddu o Llst 120 yn hytrach nag yn uniongyrchol o Pen 53. Mae trefn Pen 53 yn rhagori o ran rhoi’r teitl a bwysleisir, pôr Ergin, ar ddiwedd y cwpled cyfan.
27 iôr Pen 53 a Llst 120 ion, Llst 54 ior. Cywiriad yw’r r yn y llawysgrif olaf o ryw lythyren anodd ei darllen. Gellir amau bod Moses Wiliams wedi cywiro ei ddarlleniad ar sail y gynghanedd. Dyma a wneir yma hefyd.
30 y Pen 53, ond ceir ei yn y lleill. Pen 53 sy’n gywir, a diau fod Jaspar Gryffyth wedi camddeall y yn ei gynsail. Efallai’n wir ei fod wedi camgymryd Gilwch fel enw cyffredin (amrywiad ar cilwg?), tybiaeth resymol gan rywun na fyddai’n debygol o fod wedi clywed enw’r tŷ.
32 ael Pen 53 yn unig; yn y lleill ceir i o flaen Briaf i adfer llinell seithsill.
32 Euas Mae’r sefyllfa yn y llawysgrifau’n rhyfedd yma. Yn Pen 53 ceir eiras, sy’n hawdd ei esbonio fel ffrwyth camgopïo u yn Euas fel ir. Ni all eiras fod yn gywir ar sail yr ystyr a’r gynghanedd: mae angen Euas yma ar y ddau gyfrif. Yn wir, Euas a geir yn Llst 120: cymeraf mai diwygio a wnaeth Jaspar Gryffyth yma yn hytrach na’i fod yn copïo o gynsail amgen na Pen 53. Ond yn Llst 54 ceir erias, a allai awgrymu nad Llst 120 oedd cynsail y llawysgrif honno, yn groes i weddill y dystiolaeth. Ond o graffu ar y gair yn Llst 120 gwelir sut y gellid ei gamddarllen fel erias.
37 ac nid Felly Pen 53; gthg. ar gân yn y lleill. Ymddengys ar gân fel ymdrech bwriadol gan Jaspar Gryffyth i osgoi cael curiad hanner cyntaf y llinell ar y gair diacen nid.
40 y Nis ceir yn y llawysgrifau, ond mae ei angen ar gyfer hyd y llinell, a’r tebyg yw fod y gair wedi ei gywasgu ar ôl rhoi, fel y gallai ddigwydd yn hawdd ar lafar.
40 rhwymau’r Dilynir Pen 53 rhwymer; ceir rhwym ar yn y lleill. Mae rhwymau’r yn rhagori o ran ystyr, a chymryd mai osai a’i glarai yn 41 yw gwrthrych rhoi a bod rhwymau’r gerdd yn sangiad sy’n disgrifio seiliau’r berthynas rhwng noddwr a bardd. Nid rhoi … rhwym ar gerdd y mae Siôn.
44 ym Nis ceir yn y copïau, ond mae’r gynghanedd yn elwa o’i dderbyn.
45 Ffrolo f(f)rol(l) ym mhob copi. Mae angen yr -o am dri rheswm: i. hyd y llinell; ii. y gynghanedd sain; iii. yr enw – Ffrolo ydyw, cf. GGMD i, 2.11; GHD 17.49; GHS 18.36, &c. Dyma awgrym clir o’r gydberthynas agos iawn rhwng y copïau. Yn Llst 120 a Llst 54 ceir ffrol y ffranc, sy’n adfer hyd y llinell.
46 anniwyg Pen 53 Aniwyt, Llst 120 anniwic, Llst 54 anniwair. Ymddengys fod Llst 120 wedi diwygio, a dilynir ei arweiniad yma.
47 ei Nis ceir yn yr un o’r copïau: fe’i cyflwynir yma er mwyn adfer hyd y llinell.
50 cyfrodedd Gw. 22n.
52 cadau Pen 53; cad yn y lleill. Mae angen cadau er mwyn hyd y llinell, ond ymddengys fod Jaspar Gryffyth yn anghymeradwyo rhyddid y cynganeddu yma. Fel y saif y llinell yn Pen 53, rhaid cymryd bod t- yn teirmil yn gallu caledu -d- yn cadau, er bod sillaf rhyngddynt. Dichon fod Jaspar Gryffyth wedi gwaredu’r sillaf honno yma er mwyn hwyluso’r calediad, ond ar draul hyd y llinell.
54 gyfeilwaith Pen 53 gyveilyeith, a gyfeilieith yn y lleill. Diwygir er mwyn yr ystyr yma.
56 gadwnawg i gadw Felly Pen 53; yn y lleill cadwynawg yn cadw. Mae darlleniad Pen 53 yn rhagori o ran y cymeriad. Dichon fod Jaspar Gryffyth yn anghymeradwyo’r treiglad yn gadwnawg, nad oes rheswm gramadegol ar ei gyfer (os, hynny yw, defnyddir gwisg yn enw gwrywaidd). Fodd bynnag, cyffredin yw treiglo gair ar ddechrau llinell o farddoniaeth, a gall gwisg hefyd fod yn enw benywaidd neu wrywaidd (GPC 1670).
57–8 gwyll … nawdryll gwyl … nawdryl ym mhob copi. Ffurfiau anhysbys yw dryl neu nawdryl, a hyd yn oed pes ceid, nid odlent gyda gŵyl. Awgrymir y diwygiad amlwg yn GPC 1765 d.g. gwyll1.
58 wydr Pen 53 a Llst 120 wydyt, Llst 54 wydyr. Dyma awgrym pellach fod Pen 53 yn gopi o destun ysgrifenedig, gan mai hawdd fyddai camgopïo r yn t, ac awgrym arall hefyd fod Llst 120 yn gopi o Pen 53 (onid o’i chynsail). Ymddengys fod copïydd Llst 54 wedi diwygio (ac yn gywir felly).
58 tyr Pen 53; tri yn y lleill. Pen 53 sy’n rhoi’r ystyr orau.
58 ’n Nis ceir yn y copïau, ond mae’r ystyr yn haws o dipyn o’i dderbyn, a byddai’n naturiol ei hepgor yn ôl safonau orgraffyddol yr oes.
60 mwynawl mwyawl ym mhob copi. Diwygir er mwyn yr ystyr, ond sylwer nad yw’r n yn cael ei chyfrif yn y gynghanedd (n berfeddgoll).
63 proffid Pen 53 prawit, Llst 120 a Llst 54 prawid, ffurfiau anhysbys. Y tebyg yw fod dryswch yma rhwng y gair proffid a prawf, neu ryw darddair o prawf, efallai am fod praw- a pro- yn ymgyfnewid mewn llawer ffurfiau sy’n cynnwys y bôn prawf. O ran yr ystyr a’r gynghanedd mae proffid yn gweddu’n burion.
65 draw Nis ceir yn Pen 53. Fe’i hadferwyd yn Llst 120 (a’i gopïo felly i Llst 54). Mae ei angen ar gyfer hyd y llinell a’r gynghanedd sain. Ond gan fod Llst 120 a Llst 54 ill dwy’n rhoi iddo yn lle iddaw, nid tebyg mai cynghanedd sain a welai’r copïwyr yma, eithr cynghanedd draws gydag f berfeddgoll.
Priodolir y cywydd hwn i Y gutto o bywys yn Pen 53, fel hefyd yn y ddau gopi arall sy’n tarddu o Pen 53. Dyma’r unig gerdd hysbys sydd biau’r bardd hwn. Yr unig dystiolaeth arall am ei fodolaeth yw nodyn diddorol yn BL Cotton Cleopatra B.v, 108v. Yno, wrth gwt copi o ‘Frut y Brenhinedd’, mae gŵr sy’n ei alw ei hun yn y gutto powys wedi ychwanegu nodyn byr am darddiad yr enw Prydain o Brutus, ac wedyn y sylw diddorol hwn:
Minneu y gutto powys a darlleod [sic] y llyfr hwnn i gyd ac os darlleais i kwplaf brud a welais i yw hwnn.
Yn ôl Daniel Huws (RepWM), perthyn yr ysgrifen i ail hanner y bymthegfed ganrif, ac mae’r llawysgrif ei hun (a ysgrifennwyd c.1330) yn debygol o fod yn gynnyrch abaty Glyn-y-groes. Dichon mai yno yr oedd hi o hyd pan roddodd hi gymaint o foddhad i Guto Powys.
A oes unrhyw reswm, ac eithrio’r enw Guto, dros uniaethu Guto Powys â Guto’r Glyn? Mae’r cysylltiad â Glyn-y-groes, lle treuliodd Guto’r Glyn amser helaeth yn ail hanner y bymthegfed ganrif (sef dyddiad y nodyn yn BL Cotton Cleopatra B.v), yn ogleisiol. Serch hynny, mae’r enw Guto Powys yn pwyso’n erbyn. Nid enwir Guto’r Glyn yn Guto Powys yn unman, a phan yw Guto’n cyfeirio ato’i hun yn ei farddoniaeth, y mab o’r Glyn ydyw (58.42, 113.43, cf. 59.37 glerwr y Glyn). Mae’n anodd credu, felly, y byddai wedi ei alw ei hun yn Guto Powys mewn nodyn a ysgrifennodd ef ei hun mewn llawysgrif. Yn ail, ceir tystiolaeth bendant sy’n cysylltu Guto’r Glyn â Gwynedd, nid Powys (20a.39–40).
Un pwynt arall o bwys yw gwehelyth y bardd a ganodd y cywydd hwn i Siôn Abral. Fe’i geilw ei hun yn nai i’w noddwr (46), a Siôn yn ewythr iddo (22). Ni lwyddwyd i olrhain y berthynas hon yn yr achau – yn wir, nid enwir Guto Powys ynddynt – felly erys yn dywyll. Ond er bod Guto’r Glyn yn clera yng nghyffiniau Euas a swydd Henffordd yn ystod ei ieuenctid, nid oes dim i awgrymu ei fod yn enedigol o’r fro, nac o ran hynny yn frodor o Bowys ychwaith.
I grynhoi, felly, nid yw’n debygol mai Guto’r Glyn biau’r cywydd nodedig hwn, ond nid yw’n amhosibl ychwaith. Fe’i cynhwyswyd yma ar sail y posibilrwydd ymylol mai Guto’r Glyn oedd yr awdur, a hefyd am ei fod yn gywydd diddorol iawn nad yw’n debygol o gael ei olygu yn unman arall.
Cywydd gofyn am lurig yw hwn. Mae’n gyfuniad o fotiffau a ddaeth o’r canu brud, yn enwedig tua dechrau’r gerdd (1–12), a motiffau’r canu gofyn, megis dyfalu’r gwrthrych y dymunir ei gael (49–62). Dywed y bardd ei fod yn arfer gwylio’r moroedd rhag ofn y daw’r gelyn, yn wŷr o Ynysoedd yr Hebrides (4), yn Llychlynwyr (7) neu’n Wyddelod (8). Eto ni all amddiffyn ei dir heb lurig (13–18). Try, felly, at ei annwyl ewythr a gofyn am un, gan foli Siôn Abral yn helaeth (19–48). Yna daw’r dyfalu (49–62) ac, i gloi, grynhoad o delerau’r cytundeb: rhodder y llurig yn gyfnewid am gerdd (63–6).
Uchelwr o swydd Henffordd oedd Siôn Abral (ob. 1443), neu John Abrahall fel y’i gelwir yn Saesneg heddiw (fe welir hefyd y ffurf John Aburhale mewn rhai ffynonellau o’r cyfnod). Mae Abral wedi ennill lle digon nodedig iddo’i hun mewn ymdriniaethau modern â bywyd a moes swydd Henffordd yn y cyfnod hwn, yn bennaf am fod yn ddrwgweithredwr ac yn droseddwr rhemp, yn ddyn hynod o dreisgar a fu’n gyfrifol am ladd o leiaf un person ac a gwerylodd yn ffyrnig gyda’i gymdogion. Rhydd y cywydd hwn olwg go wahanol arno, fel mae’r cywyddau’n aml yn ei wneud – cymharer achos Harri Gruffudd o’r Cwrtnewydd yn Bacton, cymydog a chydnabod i Siôn Abral, yntau’n cael ei enwi droeon mewn ffynonellau cyfoes mewn perthynas â helbulon a throseddau, ond yng nghywyddau Guto’r Glyn yn ymddangos yn ŵr anrhydeddus, hael a lletygar, a noddwr barddoniaeth diwylliedig. Wrth gwrs, mae’r ddau fath o dystiolaeth yn dueddol: bydd cofnodion dogfennol yn anochel yn ymwneud â materion cyfreithiol, ac felly’n tueddu i ddangos unigolion yn cael eu cyhuddo o dorri cyfraith; ac ar y llaw arall, pwrpas y canu mawl oedd moli. Mae’n werth pwysleisio bod y ddau fath o dystiolaeth yn haeddu sylw, ac nad yw’r cofnodion o reidrwydd yn adlewyrchu realiti yn fwy ffyddlon na’r beirdd: mater o berspectif ydyw.
Trigai Siôn Abral yn y Gilwch, sef Gillow, maenordy ysblennydd ym mhlwyf Henllan (Hentland), swydd Henffordd. Nid dyna lle perfformiwyd y gerdd, a barnu wrth y gair draw yn 30. Roedd Abral yn dal tiroedd helaeth yn Ergyng a’r cyffiniau, megis Eaton Tregoz ym mhlwyf Llandyfoi (Foy), gw. Taylor 1997: 98–9.
Yn olaf, rhaid ystyried y gwrthrych y gofynnir amdano. Llurig o fael ydyw yn hytrach nag o fetel plât. Gelwir y llurig yn wasgawd yn 53, sy’n awgrymu nad oedd llewys iddi ac nad oedd yn arbennig o hir. Yr enw Ffrangeg a Saesneg ar y math hwn o wisg oedd ha(u)bergeon, gw. OED2 s.v. haubergeon.
Dyddiad
Nid ar ôl 1443, pan fu farw Abrahall.
Golygiadau blaenorol
Ni olygwyd y gerdd o’r blaen, ond ceir trawsysgrifiad diplomatig ohoni yn Roberts a Lewis 1927: 32–4.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 66 llinell.
Cynghanedd: croes 64% (42 linell), traws 11% (7 llinell), sain 23% (15 llinell), llusg 3% (2 linell).
2 mawr yw’r apêl Naill ai apêl y morwyr pell am i bobl ymuno â hwy yn eu cyrch yn erbyn Ynys Prydain, ynteu apêl ym Mhrydain am luoedd i’w cadw draw.
3 gŵr Mae’n anodd gwybod a oes digwyddiad penodol ym meddwl y bardd yma ynteu ai motiff syml o’r canu brud yw hwn.
4 Wtil Ffurf fwy cyffredin ar yr enw hwn yw Owtil. Daw o’r Saesneg out-isle(s), OED2 x, 1000: ‘an isle or island lying away from the mainland … applied esp. to the Shetlands, Orkneys, Hebrides …’. Cyfeiria, mae’n debyg, at yr Hebrides. Gw. GLGC 105.43n; Jones 1921–3: 42.
5 dygyfor Chwaraeir ar yr ystyron: gall olygu ‘mwstwr milwrol’ neu ‘cyffro, cythrwfl’, gw. GPC 1133.
7 Llychlyn Cyfeiriad braidd yn hynafol erbyn y bymthegfed ganrif, gellid meddwl, ond ceir sôn am Lychlyn yn y canu brud o hyd, gw. GDGor 1.38n.
12 gwelw mawr Disgrifiad o’r ceffyl.
13 Erfai ddadl, eurfodd Edlym Sangiadau amwys. Gallai dadl gyfeirio at ddadl y bardd yn 13–16, ac eurfodd Edlym at ei benderfyniad clodwiw i amddiffyn ei wlad (11–14).
13 Edlym Edlym Gleddyf Coch, marchog yn rhamant Peredur (HPE 50.1–2). Fe’i henwir fel arwr gwych yn GLGC 228.23 a GSCyf 15.2n.
19 plyg Am ystyron ffigurol plyg, gw. GPC 2831 (2). Yng ngweithiau’r beirdd mae yn aml yn golygu rhywbeth fel ‘cwymp, niwed, anhap, dinistr’.
22 ewythr Geilw’r bardd ei noddwr yn ewythr, ond nid yw’n eglur a ddylid deall hyn yn llythrennol ai peidio (cf. 46 ei nai ieuanc); gw. GPC 1265–6 d.g. ewythr ‘brawd i dad … neu frawd i fam … ; hefyd teitl o barch wrth gyfarch hynafgwr’.
24 Ergin Ergyng, ardal yn swydd Henffordd lle roedd cartrefi Siôn Abral. Cf. 36.10n (esboniadol).
25 Huail Arwr a ffraeodd gydag Arthur. Mae’r traddodiadau amdano’n awgrymu gŵr o gymeriad balch, onid trahaus, gw. WCD 368 a TYP3 399–402.
26 Alecsander Alecsander Mawr, yr arwr clasurol a orchfygodd ran helaeth o’r byd hysbys yn y bedwaredd ganrif cyn Crist.
28 Abral Abrahall neu Aburhale yw’r ffurfiau mwyaf cyffredin sy’n ymddangos yn Saesneg.
28 wybrawl rwyd Delwedd am y llurig. Cyfeiria wybrawl at ansawdd nefolaidd y gwaith neu at y ffaith yr adlewyrchir yr wybren yn y metal caboledig, a rhwyd at y maels.
29 Arglwydd gwladlwydd goludlaw Cf. ail linell cywydd Iolo Goch i lys Ieuan, esgob Llanelwy, GIG XVI.2 Arglwydd gwladlwydd goludlawn.
30 y Gilwch Gw. nodyn cefndir. Un o gartrefi Siôn Abral. Mae’r tŷ canoloesol yno o hyd (SO 532 253).
31 clas Enw ar sefydliad eglwysig ar raddfa fawr yn yr Oesoedd Canol cynnar, yma’n drosiadol am lys poblog Siôn Abral.
32 Priaf Brenin Caerdroea ar adeg rhyfel Caerdroea. Mae’r beirdd yn dyfynnu ei enw fel safon o ysblander.
32 Euas Ardal ac arglwyddiaeth y Mers ar ffin swydd Henffordd. Daeth y rhan fwyaf o Euas yn rhan o swydd Henffordd ar adeg y Deddfau Uno (1536, 1543). Ymwelai Guto’n fynych â’i noddwr Harri Gruffudd o Euas, gw. cerddi 32–6.
38 Melwas Gŵr yr ymserchodd Gwenhwyfar, gwraig Arthur, ynddo, gw. WCD 469–70.
40 rhwymau’r gerdd Sangiad sy’n disgrifio’r berthynas rhwng bardd a noddwr: mae’n rhwymiad gofynnol rhoi gwin yn gyfnewid am gerdd.
41 osai Math o win gwyn melys, gw. GPC 2657.
41 clarai Math o ddiod a wnaed o win, mêl a pherlysiau, gw. ibid. 490.
42 rwmnai Ibid. 2991 ‘gwin coch melys o un o wledydd y Môr Canoldir’.
42 omner GPC2 233 d.g. amner1 ‘pwrs, cod’, benthyciad o’r Saesneg Canol aumener, cf. GMBen 20.29n. Cf. 35.42 am linell arall debyg i hon.
45 Ffrolo Am hanes gornest Arthur a Ffrolo, gw. BD 154–6; Reeve and Wright 2007: 206–9. Tribiwn yn rheoli rhan o Âl oedd Ffrolo yng ngwaith gwreiddiol Lladin Sieffre o Fynwy; trodd y cyfieithydd Cymraeg ef yn rhywbeth mwy cyfarwydd, yn dywysog o Ffrainc. Ar gynnig Ffrolo ymladdodd y ddau mewn lle na fyddai modd i’w byddinoedd ymyrryd, sef ar ynys anghysbell yng nghanol afon ger Paris.
47 Amlwg … ei blaid Mae’n rhaid deall brawddeg enwol yma er mwyn cwblhau synnwyr 45–6. Fel arall, rhaid bod cwpled wedi diflannu ar ôl 48 a gyflawnai’r prif gymal y mae ei angen ar ôl y cymal isradd yn 45–6.
52 cotarmer Cotarmur; am y ffurfiau, gw. GPC 571. Fel arfer, gwisg o frethyn ydoedd a wisgid dros lurig yn dangos arfbais y sawl a’i gwisgai. Yma, fodd bynnag, mae fel petai’n cyfeirio at y llurig ei hun. Mae’n bosibl mai defnydd ffigurol o’r gair yw hwn, ac y cymherir y llurig â chotarmur. Byddai hynny’n bosibl mewn darn o ddyfalu, fel yma. Eto, mae OED Online s.v. coat-armour yn nodi ei fod yn gallu golygu gwisg o arfau, er bod y defnydd hwnnw’n brin, ac ni ddyfynnir ond un enghraifft, a honno o’r flwyddyn 1603.
54 ei gyfeilwaith Cyfeiria ei at yr enw gwrywaidd gwasgawd, nid at yr enw benywaidd gwe.
58 gwydr Am ei fod yn disgleirio fel gwydr.
61 maglau Hynny yw, mae dolenni’r maels yn ymdebygu i’r math o ddolenni a adewir yn faglau i anifeiliaid.
62 Melan Roedd Milan yn yr Eidal yn enwog am gynhyrchu dur, cf. 1.27n.
Llyfryddiaeth
Jones, T.G. (1921–3), ‘Byr-nodion’, B i: 41–3
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds. and trans.), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Roberts, E.S. a Lewis, H. (1927) (gol.), Peniarth 53 (Caerdydd)
Taylor, E. (1997), Kings Caple in Archenfield (Little Logaston)
This poem is attributed to Y gutto o bywys in Pen 53, as also in the other two copies, which derive from Pen 53. It is the only known poem attributed to him. The only other evidence for his existence is an intriguing note in BL Cotton Cleopatra B.v, 108v. There, at the end of a copy of ‘Brut y Brenhinedd’ (a Welsh translation of Geoffrey of Monmouth’s Historia Regum Britanniae), someone who calls himself y gutto powys has added a short note on the origin of the name Britain from Brutus, and then the following interesting remark:
Minneu y gutto powys a darlleod [sic] y llyfr hwnn i gyd ac os darlleais i kwplaf brud a welais i yw hwnn.
‘I, Guto Powys, have read this book, and if I ever read [any], this is the most complete Brut [book of British history] which I have ever seen.’
According to Daniel Huws (RepWM), the handwriting belongs to the second half of the fifteenth century, and the manuscript itself (which dates to c.1330) was probably copied at Valle Crucis abbey. It was likely still there when it was found to be so satisfying by Guto Powys.
Is there any reason, apart from the name Guto, to identify Guto Powys with Guto’r Glyn? The connection with Valle Crucis, where Guto’r Glyn spent a great deal of time in the second half of the fifteenth century (i.e. at the time the note was written into BL Cotton Cleopatra B.v), is intriguing. Nevertheless, the name Guto Powys argues against their being the same man. Guto’r Glyn is never called Guto Powys anywhere, and when he does refer to himself in his own poetry, he emphasises the Glyn element (58.42, 113.43 y mab o’r Glyn, cf. 59.37 glerwr y Glyn). It is difficult, therefore, to believe that he would have called himself Guto Powys in a manuscript note which he wrote himself. Moreover, there is definite evidence linking Guto’r Glyn with Gwynedd, not Powys (20a.39–40).
Another important point is the family connections of the poet who composed this poem for John Abrahall. He claims to be the nephew of his patron (46), and calls John Abrahall his uncle (22). The published genealogies do not mention this connection – indeed, they do not mention Guto Powys at all – so it remains obscure. Yet, although Guto’r Glyn did travel as a poet in the regions of Ewyas and Herefordshire during his youth, there is nothing to suggest that he was born there, or for that matter in Powys.
To conclude, then, it is not likely that Guto’r Glyn was the author of this remarkable poem, but the possibility cannot be totally dismissed. The poem has been included in this edition both on account of the marginal chance that Guto’r Glyn composed it, and also because it is a particularly interesting poem which is unlikely to be edited elsewhere.
The poem asks for a llurig, a general term for a coat of armour which covers the torso. The poet takes motifs from prophetic poetry, especially towards the beginning (1–12), and from the poetry of request, notably the passage of dyfalu (49–62): dyfalu is the technical term for description which consists of a series of loosely combined images, many highly metaphorical or indeed downright fanciful (for instance, comparing the armour to glass because it shines so brightly). The poet claims that he is accustomed to watch the seas for fear that enemies might come from the Hebrides (4), Scandinavia (7) or Ireland (8). Yet he cannot truly defend his land without armour (13–18). He turns, accordingly, to his dear uncle and asks for armour, praising John Abrahall extensively (19–48). Then comes the dyfalu (49–62) and to close, a summary of the deal: the armour in exchange for a poem (63–6).
John Abrahall (ob. 1443) was a Herefordshire gentleman. In some sources of the time the spelling John Aburhale is found; our Welsh poem gives Siôn Abral, see 28 and 34. Abrahall has won for himself some notoriety in modern accounts of Herefordshire life in this period, chiefly as a regular malefactor and lawbreaker, a very violent man who was responsible for at least one death and who quarrelled fiercely with other landowners. This poem gives a quite different impression, as is often the case with medieval Welsh praise poems – compare the case of Henry Griffith of Newcourt in Bacton, a neighbour and acquaintance of John Abrahall’s, himself named repeatedly in contemporary sources in connection with troubles and disorder, but who appears in the poems of Guto’r Glyn to be a man of honour, generous and hospitable, and a cultured patron of poetry. Of course, both kinds of evidence have inbuilt biases: documentary records inevitably reflect legal business, and will tend to show individuals being accused of breaking the law; and on the other hand, the purpose of praise poetry was to praise. Both kinds of source merit attention, and the records do not necessarily reflect the whole truth more accurately than poetry: there is a large element of perspective here.
John Abrahall lived at Gillow, a splendid manor house in the parish of Hentland, Herefordshire. To judge by the word draw ‘yonder’ in 30, our poem was not actually performed there. Abrahall also owned extensive lands in Archenfield and around it, such as at Eaton Tregoz in the parish of Foy (Taylor 1997: 98–9).
Lastly, we should consider the object being asked for. The Welsh word llurig covers any kind of armour for the torso. Here, the poet is asking for mail rather than plate armour. It is called a gwasgawd ‘waistcoat’ in 53, which suggests both that it was sleeveless and that it was rather short. That probably makes it what is called a ha(u)bergeon in English and French, see OED2 vi, 991–2. In the translation I have opted for the more neutral term ‘body armour’, which reflects the unspecific nature of llurig.
Date
Not after 1443, when John Abrahall died.
The manuscripts
This poem is found in three copies. Pen 53 dates to c.1484, around a half-century after the date of the poem’s composition. Llst 120 (Jaspar Gryffyth, c.1607) is very likely a copy of this, while Llst 54 (Moses Williams, c.1710x1720) is very likely a copy of Llst 122. The reasons for believing this are as follows. First, there are notes by Jaspar Gryffyth in Pen 53, and some poems in the relevant section of Llst 120 were definitely copied from Pen 53. There are, furthermore, annotations in Llst 120 which are in the hand of Moses Wiliams, the copyist of Llst 54. The second reason is that there are numerous errors common to all three copies. In the few cases where Llst 122 and Llst 54 present a better reading than Pen 53, we may suspect that it is an emendation by Jaspar Gryffyth, a well-informed and intelligent copyist. Less likely is that Jaspar was using the exemplar of Pen 53. Since there is nothing in his copy which he could not have got either from Pen 53 or through intelligent emendation of Pen 53, the edited text has been based on Pen 53. Though that text contains numerous minor errors, the emendations adopted here are in general simple and obvious ones.
Previous editions
The poem has not been previously edited, though there is a diplomatic transcript in Roberts and Lewis 1927: 32–4.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 66 lines.
Cynghanedd: croes 64% (42 lines), traws 11% (7 lines), sain 23% (15 lines), llusg 3% (2 lines).
2 mawr yw’r apêl Either the morwyr pell appeal for men to join with them in their expedition against Britain, or there is an appeal within Britain for men to repel them.
3 gŵr It is difficult to know whether a definite event is intended here or whether it is simply a motif from the prophetic poetry.
4 Wtil More commonly Owtil. It comes from the English out-isle(s), OED2 x, 1000: ‘an isle or island lying away from the mainland … applied esp. to the Shetlands, Orkneys, Hebrides …’. Here probably the Hebrides. See GLGC 105.43n; Jones 1921–3: 42.
5 dygyfor Play on meanings: ‘military muster’, also ‘tumult’, see GPC 1133.
7 Llychlyn Scandinavia. Fear of Vikings might seem rather backward-looking by the fifteenth-century, but the prophecy poetry does continue to mention Scandinavia, see GDGor 1.38n.
12 gwelw mawr A description of the horse.
13 Erfai ddadl, eurfodd Edlym Ambiguous sangiadau. Dadl may refer to the poet’s argument in 13–16, and eurfodd Edlym to his praiseworthy decision to defend his country (11–14).
13 Edlym Edlym Gleddyf Coch ‘Red Sword’, a knight who appears in the romance of Peredur (HPE 50.1–2). He is named as a hero in GLGC 228.23 and GSCyf 15.2n.
19 plyg For the figurative meanings of plyg, see GPC 2831 (2). In the poetry it often means something like ‘fall, damage, misfortune, destruction’.
22 ewythr The poet calls his patron ‘uncle’, yet it is not clear whether this should be understood literally or not (cf. 46 ei nai ieuanc ‘his young nephew’); see GPC 1265–6 s.v. ewythr ‘uncle …; title of respect applied to an elderly man’.
24 Ergin Ergyng or Archenfield, a region of Herefordshire in which were John Abrahall’s homes. Cf. 36.10n (explanatory).
25 Huail A hero who quarrelled with Arthur. The traditions concerning him suggest a man of proud temperament, if not arrogant, see WCD 368 and TYP3 399–402.
26 Alecsander Alexander the Great, classical hero who conquered much of the known world in the fourth century B.C.
28 Abral Abrahall or Aburhale are the commonest spellings in English.
28 wybrawl rwyd An image for the chainmail. Wybrawl refers to the heavenly workmanship or the fact that the sky is reflected in the polished metalwork, and rhwyd ‘net’ is the mail itself.
29 Arglwydd gwladlwydd goludlaw Cf. the second line of Iolo Goch’s poem for the home of Ieuan, bishop of St Asaph, IGP 16.2 Arglwydd gwladlwydd goludlawn ‘rich lord bringing prosperity to his land’.
30 y Gilwch See background note. One of Abrahall’s homes. The medieval house still stands (SO 532 253).
31 clas The term for a substantial ecclesiastical foundation of the earlier Middle Ages, similar to the English ‘minster’, here figuratively for John Abrahall’s much-frequented home.
32 Priaf Priam, king of Troy at the time of the Trojan War. The poets quote his name as a pattern of royal splendour.
32 Euas Ewyas, region and marcher lordship on the borders of Herefordshire. Most of Ewyas was absorbed into Herefordshire under the Acts of Union (1536, 1543). Guto’r Glyn often visited his patron, Henry Griffith of Ewyas, see poems 32–6.
38 Melwas Guinevere, wife of Arthur, fell in love with Melwas, see WCD 469–70.
40 rhwymau’r gerdd Sangiad describing the relationship between poet and patron: it is an obligation to give wine in exchange for a poem.
41 osai Osey, a kind of sweet white wine, see GPC 2657 and OED Online s.v. osey.
41 clarai Clary, a drink made of wine, honey and spices, GPC 490 and OED Online s.v. clary, n.1.
42 rwmnai Rumney, see GPC 2991 and OED Online s.v. rumney: ‘A sweet wine of Greek origin, popular in England esp. during the 15th and 16th centuries’.
42 omner GPC2 233 s.v. amner1 ‘purse, bag’, a borrowing of Middle English aumener, cf. GMBen 20.29n. Cf. 35.42 for a similar line to this one.
45 Ffrolo For the contest between Arthur and Frollo, see BD 154–6; Reeve and Wright 2007: 206–9. Frollo is a tribune ruling part of Gaul in Geoffrey of Monmouth’s original Latin; the Welsh translator put him in more familiar guise as a French prince. At Frollo’s suggestion the two men fought in a place where neither man’s army might intervene, namely on a remote island in the middle of a river near Paris.
47 Amlwg … ei blaid This has to be taken as a nominal sentence in order to complete the sense of 45–6. Otherwise, a couplet must have been lost after 48 which would supply the main clause necessary following the subordinate clause of 45–6.
52 cotarmer Coat-armour; for the various Welsh forms of this borrowing, see GPC 571. As a rule, coat-armour was a garment of cloth worn over armour and decorated with the wearer’s heraldic arms. Here, however, it seems to refer to the armour itself. The term is perhaps used figuratively, the chainmail being compared with coat-armour. That would be possible in a passage of dyfalu, as here (see background note for dyfalu). However, OED Online s.v. coat-armour does note that coat-armour can refer to armour proper, though this usage is described as ‘rare’, and only one example is given, from the year 1603.
54 ei gyfeilwaith Ei refers to gwasgawd, a masculine noun, not to the feminine gwe.
58 gwydr Because it gleams like glass.
61 maglau That is, the links of the chainmail look like the kinds of loops used as animal snares.
62 Melan Milan in Italy was famous for making steel, cf. 1.27n.
Bibliography
Jones, T. G. (1921–3), ‘Byr-nodion’, B i: 41–3.
Reeve, M.D. and Wright, N. (eds. and trans.) (2007), Geoffrey of Monmouth: The History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Roberts, E.S. and Lewis, H. (eds.) (1927), Peniarth 53 (Caerdydd)
Taylor, E. (1997), Kings Caple in Archenfield (Little Logaston)
Noddodd Siôn Abral gywydd i ofyn llurig a briodolwyd i fardd o’r enw y gutto o bywys (cerdd 120). Am drafodaeth ar y priodoliad, gw. nodiadau esboniadol y gerdd. At Siôn, fe ymddengys, y cyfeiriodd Lewys Glyn Cothi fel Abrel mewn cywydd mawl i Ieuan ap Phylib o Gefn-llys ger Llandrindod (GLGC 170.25).
Achres
Er na cheir ach Siôn yn y llawysgrifau Cymraeg, ceir tri chyfeiriad ato yn yr achresi ar gyfrif aelodau eraill o’i deulu. Yn ôl WG1 ‘Godwin’ 8, priododd ferch ddienw i un o noddwyr Guto, Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, ac fe’i cysylltir â Tretire ychydig i’r de o’r Gilwch, lle ceir gerllaw fferm o’r enw Aberhall heddiw. Cysylltir ef â’r Gilwch mewn ffynhonnell arall sy’n enwi ei ferch, Marged, mewn perthynas â’i gŵr, Gwilym ap Tomas o Langatwg yn nyffryn Wysg (ibid. ‘Bleddyn ap Maenyrch’ 19; WG2 ‘Bleddyn ap Maenyrch’ 19C). Cyfeirir at ferch arall iddo yn WG1 ‘Wynston’ 1, y tro hwn yn ddienw, a briododd Gilbert ap John Wynston o Dre-wyn yn sir Fynwy. Priododd ei merch hithau, Marged arall, ŵr o’r enw Tomas Cecil o Allt-yr-ynys ger y Fenni.
Amheua Taylor (1997: 97) fod Siôn yn ŵr o dras Cymreig, tybiaeth a ategir gan gywydd Guto Powys. Nid yw’r dystiolaeth sydd gennym yn caniatáu i ni gadarnhau ei berthynas â Guto Powys fel y’i darlunnir yn y gerdd, lle dywed y bardd ei fod yn nai i’w noddwr (ymhellach, gw. 120.22n (esboniadol)).
Ei yrfa
Uchelwr oedd Siôn o swydd Henffordd. Gelwir ef yn John Abrahall neu John Aburhale yn Saesneg. Trigai yn y Gilwch (Gillow) ym mhlwyf Henllan (Hentland), swydd Henffordd (Taylor 1997: 98–9). Bu farw yn 1443. Mae’r ffaith fod Guto Powys yn cyfeirio at y Gilwch yn dangos nad ŵyr y Siôn Abral hwn, a ddygai’r un enw, yw gwrthrych ei gerdd, oherwydd aeth y tŷ i gangen arall o’r teulu ar ôl marwolaeth Siôn Abral yn 1443 (ibid. 104–5).
Ceir cyfeiriadau niferus at Siôn mewn cofnodion cyfoes. Crynhoir yr wybodaeth isod (oni nodir yn wahanol, mae pob cyfeiriad mewn cromfachau yn dynodi rhif tudalen yn Herbert 1978; ceir ymdriniaethau hefyd yn Herbert 1981 a Taylor 1997).
1409 Cyhuddwyd Siôn o ymosod ar William Ham o Holme Lacy. Ei gynghreiriaid oedd Philpot Skidmore a’i ddau fab, George a John, a hefyd rhyw Thomas Skidmore (CAP 310). 1413 (Hydref) Cynorthwyodd Siôn Talbod, Arglwydd Furnival yn ei gweryl gyda Thomas, iarll Arundel, yn swydd Amwythig (48, 54). 1413 ymlaen Roedd yn feoffee i Richard, Arglwydd Gray, o Wilton (48). 1414 (Ebrill) Honnir iddo lofruddio John Ploudon yn Lydbury, swydd Amwythig (45, 54). 1417 Fe’i penodwyd yn siedwr swydd Henffordd (45). 1418 (Chwefror) Fe’i gwaharddwyd, ynghyd â John Dewall ac eraill, rhag ymgynnull yn anghyfreithlon nac ychwaith boeni eraill gyda’i syniadau hereticaidd, a gysylltir gyda Lolardiaeth yn swydd Henffordd (Rees 1975: 476). Fe’i cysylltir yn y ffynhonnell gyda Llanddewi (Dewchurch). 1418 (?Mawrth) Achos cyfreithiol gan Syr Thomas Barre yn erbyn Siôn ac eraill (yn cynnwys Dafydd ap Rhys) ynghylch nifer o droseddau nas henwir (ibid.). 1418 (Tachwedd) Ymddengys y llofruddiwyd Wiliam ap Hywel gan Siôn, ei dad a dyn arall (54). 1419 Fe’i hetholwyd yn aelod seneddol dros ddinas Henffordd (45). 1419 (yn hwyr) Cyhuddwyd Thomas Barre o gyflawni troseddau yn erbyn Siôn, gan gynnwys dwyn gwair oddi wrth Siôn ap Huw yn Dewsall ym mis Gorffennaf 1418 a herwgipio ward i Siôn ym mis Mawrth 1418 (55). 1419 (Rhagfyr) Gorchymyn yn Chancery i adfer maenor Strangford i Ddafydd ap Rhys, a oedd ym meddiant Siôn (55). 1420 (Ionawr) Achos cyfreithiol gan Siôn yn erbyn Thomas Barre. Tua’r un adeg cwynodd Barre yn Chancery fod Siôn wedi ysbeilio ei ystad yn Dewsall ac wedi dwyn gwerth ugain punt o gnydau a mynd â’r nwyddau i Ergyng (55).Fel y dadleua Herbert (45–58), mae’r digwyddiadau hyn yn dangos patrwm clir. Hyd c.1422 ffynnodd Siôn dan nawdd Siôn Talbod, Arglwydd Furnival, gŵr grymus yn y Gororau. Yn sgil cweryla gyda gwŷr eraill a oedd yn ffyddlon i Talbod, sef Dafydd ap Rhys a Thomas Barre (cf. digwyddiadau 1419), collodd Siôn ffafr Talbod am gyfnod maith. Fe welir na ddaliodd Siôn unrhyw swydd o 1422 hyd 1437, pan fu cymodi rhyngddo a Talbod. Tua’r un pryd fe gafodd ffafr Humphrey, iarll Stafford, hefyd. Pan fu farw, roedd yn ŵr cyfoethog iawn (Taylor 1997: 104).
Llyfryddiaeth
Herbert, A.E. (1978), ‘Public Order and Private Violence in Herefordshire, 1413–61’, (M.A. Cymru [Abertawe])
Herbert, A.E.(1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–21
Rees, W. (1975), Calendar of Ancient Petitions Relating to Wales (Cardiff)
Taylor, E. (1997), Kings Caple – Archenfield (Little Logaston)