Chwilio uwch
 
24 – Marwnad Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro
Golygwyd gan Barry J. Lewis


1Dawns o Bowls! Doe’n ysbeiliwyd,
2Dwyn yr holl dynion i’r rhwyd.
3Dawns gwŷr Dinas y Garrai,
4Dawns yr ieirll: daw’n nes i rai!
5Duw Llun y bu waed a lladd,
6Dydd amliw, diwedd ymladd.
7Duw a ddug y dydd dduw Iau
8Iarll Dwywent a’r holl Deau.
9Marchog a las dduw Merchyr,
10Mwy ei ladd no mil o wŷr:
11Syr Rhisiart, ni syr Iesu
12Wrthaw er lladd North a’r llu.
13Duwmawrth gwae ni am Domas:
14Duw Llun gyda’i frawd y’i llas.
15Dwyn yr iarll a’i bedwarllu,
16Dydd Farn ar anrhydedd fu.
17Arglwydd difwynswydd Defnsir
18A ffoes – ni chafas oes hir!
19Bradwyr a droes brwydr a drwg
20Banbri i’r iarll o Benbrwg.
21Cad drycin am y drin draw,
22Carliaid a wnaeth y curlaw.

23Ymladd tost am laddiad hwn
24A wna’r hynt yn Norhantwn.
25Awn oll i ddial ein iaith
26Ar ddannedd y Nordd unwaith
27A dyludwn hyd Lydaw
28Dan draed y cyffredin draw.
29Ef â’r gwŷr a fu ar gam
30Oll i ddiawl, yn lladd Wiliam.
31O rhoed, lle bu anrhydedd,
32Ar fwnwgl iarll arf neu gledd,
33Och Fair, cnodach fu arwain
34Aerwy mawr o aur a main.
35Doe ’dd aeth dan y blaned ddu
36Drwy’r fâl draw i ryfelu.
37Och finnau – uwch yw f’anun –
38Nad arhôi ’n ei dir ei hun.
39Ymddiried i’r dynged wan
40A’i twyllodd o Went allan.
41Tair merched, tair tynged ton
42Y sy’n dwyn oes ein dynion:
43Un a gynnail cogeilyn,
44Arall a nydd dydd pob dyn,
45Trydedd yn torri edau
46Er lladd iarll a’r llu dduw Iau.
47Mynnwn fy mod ymannos
48Yn torri pen Atropos.
49Nid rhan i’r tair a henwais
50Nyddu oes hir yn nydd Sais.

51Os gwir i blant Alis gau,
52Draeturiaid, dorri tyrau,
53Ni ddôi’r iangwyr, ni ddringynt
54I dai’r gŵr na’i dyrau gynt.
55Gwinllan fu Raglan i’r iaith,
56Gwae ni wŷl ei gwin eilwaith!
57Gwae a weles ar Galan
58Gynnal gwledd ar ganol glan!
59Gwae a geisio rhodio rhawg
60Gwent dlawd oedd gynt oludawg!
61Ei farw oedd well i fardd iach
62Heb ei bwyll, no byw bellach.
63Merddin Wyllt am ei urddas,
64Amhorfryn, aeth i’r glyn glas.
65Af yn wyllt o fewn elltydd
66I eiste rhwng clustiau’r hydd.
67Ef a’m llas, mi a’m nasiwn,
68Yr awr y llas yr iarll hwn,
69Cymro oedd yn ffrwyno Ffrainc,
70Camreol Cymry ieuainc.
71Ofn i bawb tra fu ’n y byd,
72Yn iach ofn oni chyfyd!
73Ymgyrchu i Gymru a gân’,
74Ymsaethu ’m Mhowys weithian.
75Doed aliwns, nis didolir,
76O dôn’, pwy a’u lludd i dir?
77Llusgent wŷr, llosgent eu tai,
78Lladdwyd y gŵr a’u lluddiai.

79Traws eto rhag trais atyn’
80Tra ater Syr Rhosier ynn.
81Trimaib iarll, os trwm y byd,
82Tri a ostwng ein tristyd.
83Un o’i hil yn Neheuwlad
84A gyrredd dwyn gradd ei dad.
85Iarll oedd, Cymru oll eiddo,
86Iarll o’i fab arall a fo!

1Dawns Angau! Fe’n hysbeiliwyd ddoe,
2dwyn yr holl ddynion i’r rhwyd.
3Dawns gwŷr Doncaster,
4dawns yr ieirll: daw’n nes i rai!
5Ar ddydd Llun y bu gwaed a lladd,
6dydd o warth, diwedd ymladd.
7Ar ddydd Iau y dygodd Duw
8iarll dau ranbarth Gwent a’r Deau i gyd.
9Ar ddydd Mercher y lladdwyd marchog,
10mwy o beth oedd ei ladd ef na lladd mil o wŷr:
11Syr Rhisiart, ni fydd Iesu’n dal dig wrtho
12am iddo ladd gwŷr gogledd Lloegr a’r llu.
13Ar ddydd Mawrth gwae ni am Domas:
14ar ddydd Llun y’i lladdwyd yng nghwmni ei frawd.
15Dwyn yr iarll a’i bedwar llu,
16Dydd y Farn ar anrhydedd fu hynny.
17Ffoi a wnaeth arglwydd Dyfnaint, di-elw ei wasanaeth –
18ni chafodd oes hir!
19Bradwyr a ddaeth â brwydr a drygioni Banbury
20ar ben iarll Penfro.
21Cafwyd drycin oherwydd y brwydro fan draw,
22dynion distadl a achosodd y glaw trwm.

23Bydd y cyrch i Northampton
24yn arwain at ymladd tost oherwydd lladdiad hwn.
25Awn i gyd i ddial ein cenedl
26ar ddannedd gwŷr gogledd Lloegr yn syth
27ac ymlidiwn hyd Lydaw
28y gwŷr cyffredin draw dan ein traed.
29Bydd y gwŷr i gyd a fu ar gam
30wrth ladd Wiliam yn mynd i’r diawl.
31Os rhoddwyd, lle bu gynt anrhydedd,
32arf neu gledd ar wddf iarll,
33och Fair, mwy arferol gynt oedd iddo ddwyn
34coler fawr o aur a gemau.
35Doe yr aeth dan y blaned ddu
36drwy’r dyffryn draw i ryfela.
37Och finnau – trymach yw fy niffyg cwsg –
38nad arhosodd yn ei dir ei hun.
39Ymddiried mewn tynged eiddil
40a’i hudodd allan o Went.
41Tair merch, tair tynged hyll
42sy’n dwyn bywyd ein dynion:
43mae un yn dwyn cogail,
44mae’r ail yn nyddu hyd einioes pob dyn,
45mae’r drydedd yn torri edefyn
46er mwyn lladd iarll a’r llu ar ddydd Iau.
47Hoffwn fod wedi bod y noson o’r blaen
48yn torri pen Atropos.
49Ni ddaw i ran y tair merch a enwais
50nyddu oes hir yn amser y Saeson.

51Os yw’n wir fod plant ffals Alis,
52y bradwyr, wedi torri i lawr ddynion a fu’n dyrau,
53ni fyddai’r taeogion wedi mentro, ni fyddent wedi dringo
54i mewn i dai’r gŵr na’i dyrau gynt.
55Gwinllan fu Rhaglan i’r genedl,
56gwae’r sawl na fydd yn gweld ei gwin byth eto!
57Gwae’r sawl a welodd ar ddydd Calan
58wledd yn cael ei chynnal ar ganol glan!
59Gwae’r sawl sy’n ceisio o hyn ymlaen
60rodio drwy Went dlawd oedd gynt yn gyfoethog!
61Byddai’n well i fardd sy’n iach ond heb ei bwyll
62farw na byw ymhellach.
63Aeth Myrddin Wyllt ap Morfryn,
64oherwydd colli ei urddas, i’r glyn gwyrdd.
65Af innau’n wyllt mewn coedwigoedd
66i eistedd rhwng clustiau hydd.
67Fe’m lladdwyd, myfi a’m cenedl,
68yr eiliad y lladdwyd yr iarll hwn,
69Cymro oedd yn ffrwyno Ffrainc
70ac aflywodraeth Cymry ieuainc.
71Parodd ofn i bawb tra bu yn y byd,
72ffarwél i ofn bellach onid yw ef yn atgyfodi!
73Cânt ymgyrchu i Gymru
74ac ymladd â saethau ym Mhowys bellach.
75Boed i estroniaid ddod, ni chânt eu gyrru ymaith,
76os deuant, pwy fydd yn eu hatal rhag glanio ar y tir?
77Boed iddynt lusgo gwŷr i ffwrdd, boed iddynt losgi eu tai,
78lladdwyd y gŵr a allai eu hatal.

79Gŵr nerthol rhag trais, er hynny, i’w hwynebu,
80tra gadewir Syr Rhosier i ni.
81Tri mab iarll, os yw’r byd yn drist,
82bydd tri yn lleddfu ein tristwch.
83Bydd un o’i epil yn y De
84yn llwyddo i ennill urddas ei dad.
85Iarll oedd ef, roedd Cymru i gyd yn ei feddiant,
86boed i iarll arall darddu o’i fab!

24 – Elegy for William Herbert of Raglan, first earl of Pembroke

1The Dance of Death! Yesterday we were despoiled,
2the snatching up of all the men into the net.
3The dance of the men of Doncaster,
4the dance of the earls: to some it will come closer yet!
5On Monday there was blood and slaughter,
6a day of disgrace, the end of all fighting.
7On Thursday God took away
8the earl of both regions of Gwent and all south Wales.
9On Wednesday a knight was killed,
10killing him was a greater thing than a thousand of any other men:
11Sir Richard, Jesus won’t be angry with him
12for killing the Northerners and the host.
13On Tuesday woe for us because of Thomas,
14on Monday he was killed beside his brother.
15The taking of the earl and his four hosts,
16it was the Day of Judgement upon honour.
17The lord of Devon, his service was worthless,
18fled – he didn’t live long!
19It was traitors who brought down
20the battle and the evil of Banbury upon the earl of Pembroke.
21We have endured savage weather on account of the fighting over there,
22it was churls who caused the lashing rain.

23The expedition to Northampton will bring about
24fierce fighting on account of the killing of this man.
25Let us all go to avenge our nation
26in the teeth of the Northerners at once,
27and let us pursue as far as Brittany
28the commoners there beneath our feet.
29All the men who were in the wrong,
30killing William, will go to the devil.
31If weapon or sword was placed, where once was honour,
32upon an earl’s neck,
33alas, Mary, it was more usual once
34for it to bear a great collar of gold and gemstones.
35Yesterday he departed under the black planet
36on his way through the valley there to make war.
37Alas for me – my sleeplessness is all the greater –
38that he did not remain in his own land.
39It was faith in feeble fate
40which lured him out of Gwent.
41Three women, three misshapen fates
42take away the life of our men:
43one holds a distaff,
44a second weaves the number of every man’s days,
45a third cuts a thread
46to kill an earl and the host on Thursday.
47I wish I had been the other night
48cutting off the head of Atropos.
49The three women whom I’ve named
50don’t get to weave a long life while there’s an Englishman around.

51If it’s true that Alice’s treacherous children,
52the traitors, have felled men who were towers,
53the churls wouldn’t have dared, they wouldn’t have climbed
54into his house before now, nor his towers.
55Raglan was a vineyard for the nation,
56woe to him who shall never see its wine again!
57Woe to him who saw on New Year’s Day
58a feast being held at the heart of the waterside!
59Woe to him who may try from now on
60to ply his way through Gwent which was once so wealthy!
61It would be better for a poet sound in body but without his sanity,
62to die rather than to live longer.
63Myrddin the Wild, son of Morfryn,
64for his lost honour withdrew to the green valley.
65I too will go wild in woodlands
66to sit between the ears of a stag.
67I was killed, I and my nation too,
68the moment that this earl was killed,
69a Welshman who used to bridle France
70and the misrule of young Welshmen.
71He inspired fear in all while he was in the world,
72farewell to fear now unless he comes back to life!
73They will be able to march on Wales now,
74to make arrow-play in Powys.
75Let aliens come, they won’t be driven away,
76if they do come, who will stop them landing?
77Let them drag men away, let them burn their houses,
78the man who might stop them has been killed.

79A strong man against oppression, yet, to face them,
80so long as Sir Roger is left to us.
81Three earl’s sons, if the world is grievous,
82three will assuage our grief.
83One of his offspring in the South
84will win the same rank as his father.
85He was an earl, all Wales was his,
86let another earl yet come from his son!

Y llawysgrifau
Ceir 66 o gopïau o’r gerdd hon, sy’n awgrymu ei bod ymhlith y mwyaf poblogaidd o gerddi Guto’r Glyn. Er gwaethaf y nifer sylweddol hon, cymharol ddibwys yw’r amrywiadau ynddynt. Ceir sail gadarn i nifer y llinellau a’u trefn yn y llawysgrifau, ac mae’r darlleniadau amrywiol gan mwyaf yn rhai mân a diarwyddocâd. Mae hefyd le i amau’n gryf y bu cryn groesffrwythloni rhwng gwahanol ffrydiau yn y trosglwyddiad. Gan hynny, mae’n anodd iawn llunio stema argyhoeddiadol. Rhoddwyd sylw i 21 o lawysgrifau wrth lunio’r golygiad: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 (gelwir y tair hyn ‘grŵp Dyffryn Conwy’), Llst 168, Pen 80, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Stowe 959, Pen 72, Pen 121, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 5283B, LlGC 17114B, CM 312, BL 14978, Pen 63 a Pen 82. Mae’r gweddill naill ai’n dibynnu ar y rhain neu’n rhy debyg iddynt neu’n rhy ddiffygiol i gynnig dim o werth. Collwyd dechrau a diwedd Pen 82 (1–10, 77–86) ac mae’r testun yn annarllenadwy mewn mannau. Collwyd diwedd Gwyn 4 (71–86). Collwyd dechrau BL 31059 (1–24). Dim ond hanner cyntaf pob llinell a geir yn Pen 96 ac felly nis defnyddiwyd.

Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 17114B, BL 14866, CM 5, Pen 80.

stema
Stema

1 o  Stowe 959 a LlGC 5283B y.

1 Bowls  LlGC 3049D bowns, drwy gymathiad â dawns ar ddechrau’r llinell.

3 gwŷr  Pen 121 y gwyr.

3 y  LlGC 6499B a.

4 yr ieirll  Stowe 959 u Iarll.

4 daw  Llst 53 doe.

4 ’n  Mae’r llawysgrifau’n ymrannu fwy neu lai’n gyfartal yma o ran nodi ’n neu beidio.

4 nes  LlGC 17114B nos.

5 y  Nis ceir yn LlGC 3049D a Gwyn 4, sy’n awgrymu nas ceid yng nghynsail grŵp Dyffryn Conwy ychwaith. Os felly, ei adfer a wnaeth Thomas Wiliems yn LlGC 8497B er mwyn hyd y llinell. Fe’i ceir yn y copïau eraill i gyd.

6 amliw  Rhydd mwyafrif y llawysgrifau amlwg, a dderbyniwyd yn GGl. Eto cefnogir amliw gan nifer sylweddol o lawysgrifau: BL 14866, Pen 72, Pen 121, LlGC 17114B, CM 312, BL 14978 a Pen 63. Ymhlith y rhain y mae llawysgrifau cynnar a phwysig. Mae amliw hefyd yn air cryfach a chyfoethocach ei arwyddocâd yn y cyd-destun, ac ef yw’r lectio difficilior yn ddiamau. Y tebyg yw bod y newid amliwamlwg wedi digwydd fwy nag unwaith yn annibynnol (gw. y stema). Yn wir, gellir ei weld yn digwydd yn y copi cynnar Pen 80, lle ysgrifennodd y copïydd amliw i ddechrau ac yna ei newid yn amlwc. Derbyniwyd amliw gan Rowlands (1976: 20).

6 diwedd  CM 5 adiwedd.

8 a’r  Pen 80 yr, LlGC 5273D or.

9 dduw  Ymranna’r llawysgrifau fwy neu lai’n gyfartal o ran treiglo neu gadw’r cysefin yma.

12 North a’r  CM 312 a BL 14978 nerth y, LlGC 6499B y North ai, Stowe 959 north au, LlGC 5273D north ai.

13 ni  Pen 80, CM 5, C 5.167, LlGC 5283B, LlGC 17114B, CM 312 a Pen 63 fi; ceir ni yn y lleill.

14 gyda’i frawd  LlGC 8497B gyd ai vrad, Stowe 959 gydar Iarll.

15 bedwarllu  Llst 168 benwar llv.

16 dydd Farn  Stowe 959 dydd u varn.

16 ar  Grŵp Dyffryn Conwy, LlGC 5283B, CM 312, BL 14978, Pen 63 a Pen 82 yr, Stowe 959 o, LlGC 17114B ir.

16  Ceir cwpled ychwanegol ar ôl y llinell hon yn C 5.167: dydd oer chwedl i genedloedd / diwrnawd ail dydd brawd oedd. Cf. y nodyn nesaf.

17–18  Yn Llst 53 a C 5.167 disodlwyd y cwpled hwn a’i roi ar ôl 29–30. Mae’n ymddangos bod hyn wedi digwydd ddwywaith yn annibynnol (cf. y stema). Nid yw hyn mor annhebygol ag y gellid tybied, oherwydd mae’r cwpled yn rhoi synnwyr rhesymol yn y ddau leoliad. Yn y lle y’i ceir ef ym mwyafrif mawr y llawysgrifau, sef fel 17–18, mae’r cyfeiriad dilornus at Arglwydd difwynswydd Defnsir yn pontio rhwng y sôn am (ddiffyg) anrhydedd yn 16 a’r cyfeiriad at bradwyr yn 19. Ar ôl 29–30, ar y llaw arall, gellir ei gysylltu â’r gwŷr a fu ar gam … yn lladd Wiliam. Dilynir y mwyafrif yn y golygiad. Noder hefyd, a bod yn fanwl gywir, nad oedd iarll Dyfnaint ymhlith y sawl a laddodd Herbert rai diwrnodau ar ôl y frwydr, sef iarll Warwick a dug Clarence. Camwedd iarll Dyfnaint oedd peidio â chyflawni ei ddyletswydd yn ystod y frwydr ei hun. Gw. ymhellach 17n (esboniadol).

17 difwynswydd Defnsir  Pen 80 a CM 5 di iownswydd densir, BL 14866 da iownswydd densir, Llst 53 o dinswydd densir, C 5.167 diwanswydd densir, LlGC 6499B dyfnsswydd defnssir, CM 312 dyfynsswydd dennsir, Pen 63 diwanswydd deinsir, Pen 82 diwynswydd densir; difwynswydd Defnsir yn y lleill. Mae’n hawdd gweld sut y gallai difwynswydd Defnsir gael ei lygru yn yr amryfal ffyrdd hyn. Ceir y bai crych a llyfn yn y llinell, onid anwybyddir f ddwywaith, ac mae’n debygol mai awydd i osgoi’r bai a roes fod i rai o’r darlleniadau llwgr a nodwyd. Gellid hefyd osgoi’r bai drwy rannu difwyn a swydd a chreu cynghanedd sain gadwynog: Arglwydd difwyn swydd Defnsir ‘arglwydd cas swydd Ddyfnaint’ (ceir swydd yn yr ystyr ‘shire’ yn amser Guto, gw. GPC 3370 a’r nodyn esboniadol). Ond mae’r llawysgrifau, ac eithro BL 14978, yn unfryd o blaid cadw un gair yma.

18 a  LlGC 6499B an (cywiriad o a, ond mae’n anodd bod yn sicr beth yw’r ail lythyren); LlGC 3049D a Gwyn 4 o, sy’n awgrymu mai o a geid yng nghynsail grŵp Dyffryn Conwy a bod Thomas Wiliems wedi diwygio’r darlleniad yn LlGC 8497B (lle ceir a), cf. 4n ac 18n ni chafas.

18 a ffoes  Llst 168 arhoes (amrywiad: a ffoes).

18 ni chafas  LlGC 3049D a Gwyn 4 ni chafos, fel hefyd Llst 168, Pen 121 a Pen 63; Pen 72 ni chafoes, Llst 53 na chaffo, C 5.167 ni chaf a ddiwygiwyd yn ni chafas. Unwaith eto rhaid tybio mai chafos a geid yng nghynsail grŵp Dyffryn Conwy a bod Thomas Wiliems wedi diwygio yn LlGC 8497B (chavas). Mae’n drawiadol fod chafos hefyd yng nghopi Huw Machno, Llst 168, er nas ceir yn ei gopi arall, LlGC 727D, sydd fel arall bron yn unffurf â Llst 168. Gallai hyn awgrymu bod chafos yn ei gynsail yntau, a bod cysylltiad agos rhwng ei gopïau ef a grŵp Dyffryn Conwy. Ategir y dybiaeth hon gan gerddi eraill: ceir cysylltiad agos a diamheuol rhwng prif gasgliad Huw Machno o waith Guto’r Glyn yn C 2.617 a grŵp Dyffryn Conwy. Nid mor sicr yw arwyddocâd chafos yn Pen 121 a Pen 63, a chafoes yn Pen 72: cyd-ddigwyddiad, ynteu awgrym fod cynseiliau’r rhain hefyd yn agos gysylltiedig â grŵp Dyffryn Conwy a chopïau Huw Machno? Os yr olaf sy’n wir, yna mae’n awgrym diddorol fod cynsail unigol i’r holl gopïau o’r gerdd, neu o leiaf i nifer fawr ohonynt, oherwydd rhoddir y llawysgrifau hyn mewn ffrydiau gwahanol iawn yn y stema. Eto, mae hon yn ddamcaniaeth fawr i’w hadeiladu ar dystiolaeth y darlleniadau hyn, a gallai chafoes (Pen 72), o leiaf, fod wedi codi’n hawdd drwy gymathiad â ffoes ac oes yn yr un llinell, yn annibynnol, felly, ar y darlleniad chafos yng nghynseiliau grŵp Dyffryn Conwy a Huw Machno. Mae’n bosibl fod Pen 121 yn perthyn yn agos i Pen 72 (chafaschafoeschafos? chafaschafoschafoes?).

19–20  Nis ceir yn Stowe 959.

19 bradwyr  Grŵp Dyffryn Conwy a Pen 121 bradwr, LlGC 17114B brawd (→ bradwyr gan law arall).

20 Banbri  Ceir Bambri yn LlGC 3049D, LlGC 8497B (→ Bannbri), CM 5, Pen 72, Pen 121, LlGC 5283B a CM 312, ond prin y mae Benbrwg yn amrywio yn y modd hwn: ceir n ym mhob copi ond LlGC 5283B.

20 i’r iarll  CM 5 arglwydd.

21 cad  CM 5 kaed.

21 drycin … drin  Pen 80 trin … drykhin.

21 drycin  LlGC 3049D tyrkin.

21 am y drin  BL 14866 am i trin, Pen 72 am drin, CM 312 a BL 14978 yny drin.

23–4  Ychwanegwyd y llinellau hyn yn Stowe 959, gan y brif law, ond ar ôl 80, yn bell o’u priod le.

24 a wna’r  Felly grŵp Dyffryn Conwy, Pen 80, CM 5, LlGC 5273D a Pen 82; gthg. Llst 168, BL 14866, Llst 53, Pen 72, Pen 121 a LlGC 17114B awnai r, C 5.167, Stowe 959, LlGC 6499B, LlGC 5283B, CM 312, BL 14978 a Pen 63 awn ar. Deillia awn ar o gamraniad dan ddylanwad y llinell nesaf (Awn oll i ddial ein iaith), yn ôl pob tebyg, a gellir ei wrthod yn hyderus, ond mae’n fwy anodd penderfynu rhwng yr amser presennol-dyfodol wna a’r amherffaith-amodol wnâi gan fod y llawysgrifau’n ymrannu fwy neu lai’n gyfartal. Efallai y gellid cyfrif y llawysgrifau sy’n cynnwys awn ar o blaid a wna’r, ond digon hawdd fyddai dadlau bod a wnâi’r wedi troi’n a wna’r ac yna’n awn ar, neu’n uniongyrchol a wnâi’rawn ar. Rhaid, felly, benderfynu ar sail yr ystyr yma. Rhydd yr amser presennol-dyfodol ystyr gryfach yn y cyd-destun: annog ei gynulleidfa’n daer y mae’r bardd, cf. 25, yn hytrach na chynnig awgrym petrus.

24 hynt  Pen 80 hwynt.

24 yn  Felly grŵp Dyffryn Conwy, Llst 168, Pen 80, BL 14866, CM 5 a LlGC 17114B; gthg. Llst 53, Stowe 959 a Pen 72 y; i yn y lleill.

25–6  Nis ceir yn Pen 80.

27 a dyludwn hyd  Stowe 959 dylydwn hyd yn.

29 ef â’r  LlGC 6499B Ef ai, LlGC 17114B efo ay (→ ef a’r, llaw arall).

30 yn  C 5.167 a Stowe 959 fv/n/, Pen 80 fv yn (→ yn), BL 31059 ym (→ am).

30 lladd  Llst 168 ddal.

31 bu  LlGC 5283B a BL 14978 bu/r/.

33 cnodach  Trodd yr ansoddair gnawd yn cnawd drwy gymathiad â’r enw cnawd, cf. GPC 1415 d.g. gnawd, lle nodir enghreifftiau o cnawd yn yr ystyr hon o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Gall fod y newid yn perthyn i’r ganrif ar ôl Guto’r Glyn, felly. Ar y llaw arall, mae’r llawysgrifau yn cefnogi’r ffurf yn c-. Dim ond LlGC 3049D a Gwyn 4 sy’n cynnig g(y)nodach, a cf. hefyd Stowe 959 gnawdach a Pen 63 gnotach. Ffurfiau yn c- a geir yng ngweddill y llawysgrifau: LlGC 8497B, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, CM 312 a BL 14978 cnodach, Llst 168, Pen 80, C 5.167, Pen 72, Pen 121, LlGC 17114B knowdach, BL 14866, CM 5 a LlGC 5283B knottach. Ni ellir darllen y gair yn Pen 82 oherwydd difrod, a rhydd Llst 53 rhywiach. Mae’r ffaith fod c- mewn cynifer o lawysgrifau yn awgrymu y dylid ei derbyn. Perthyn y calediad -d- → -t- yn ffurfiau’r radd gymharol i gyfnod ymhell ar ôl Guto’r Glyn, gw. WG 241, ac mae mwyafrif llethol y copïau yn ategu -d-.

34 Aerwy mawr o aur a main  C 5.167 a Stowe 959 aur mawr ar i warr a main.

35 ’dd aeth  LlGC 5283B ddoeth.

35 y  Nis ceir yn LlGC 17114B na LlGC 5273D.

37–40  Y drefn yn BL 14866 a CM 5 yw 39–40, 37–8.

37 uwch yw f’anun  Felly grŵp Dyffryn Conwy, Llst 168, Pen 80, Pen 72, Pen 121, LlGC 6499B, LlGC 5283B a LlGC 17114B; yr un yw darlleniad Stowe 959 a LlGC 5273D ywch yw vannyn, ac eithrio bod modd deall ywch yno yn ail berson lluosog yr arddodiad i neu’n amrywiad orgraffyddol ar uwch; gwahanol yw BL 14866 ywch y fannyn (dilewyd y am fod yfinnau yn gynharach yn y llinell yn rhoi saith sillaf), CM 5 ywch y fanvn, Llst 53 ywchaf anvn, C 5.167 vcha vanvn, BL 31059 vwcho fannvn (ond noder y dilewyd yw rhwng y geiriau hyn), CM 312 a BL 14978 vwch fy anyn a Pen 63 vcho f anvn. Ni ellir darllen y llinell yn Pen 82. Mae’r llawysgrifau yn bendant o blaid y darlleniad a dderbyniwyd, a phitw yw’r dystiolaeth dros ucho f’anhun a dderbyniwyd yn GGl a Rowlands 1976: 21.

38 arhôi  CM 5 arhoes.

38 ’n ei dir ei hun  LlGC 17114B neidyr i hvn, llygriad llafar yn ôl pob tebyg (fe’i cywirwyd gan law ddiweddarach a roddodd y darlleniad cywir).

41 merched  C 5.167 a LlGC 17114B merch.

41 tair tynged  BL 14866 a CM 5 taer tynged.

41 ton  Felly Pen 80, BL 14866, Llst 53, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 17114B a Pen 63, hefyd C 5.167 (cywiriad); gthg. grŵp Dyffryn Conwy, Llst 168, CM 5, C 5.167 (yn wreiddiol), Stowe 959, Pen 72, Pen 121, LlGC 5283B, CM 312 a BL 14978 hon. Unwaith eto ni ellir darllen Pen 82 yma. Nid oes patrwm amlwg i’r amrywiadau llawysgrifol, ac nid syndod mo hynny. Byddai tynged ton a tynged hon i bob pwrpas yn unsain ar lafar, ac mae’n debygol fod y newid o’r naill i’r llall wedi digwydd droeon yn ystod trosglwyddiad y gerdd. O’r herwydd, mae’n rhaid penderfynu ar sail yr ystyr. Nid yw tair tynged hon yn rhoi synnwyr amlwg, tra gellir deall tair tynged ton yn haws o lawer, gw. y nodyn cefndir. Gan amlaf ni threiglid ansoddair yn y gystrawen tair + enw benywaidd + ansoddair yn amser Guto’r Glyn, gw. WS 68, felly ni raid ysgrifennu don yma. Dewisodd GGl a Rowlands 1976: 21 hon ond heb esbonio’r ystyr.

42 y sy’n  Gwyn 4, Pen 72, Pen 121 a LlGC 17114B sy yn, Stowe 959 Sydd yn.

42 ein  LlGC 5273D a CM 312 y.

43 a gynnail  Pen 72 ac ynial, BL 31059, LlGC 5273D a LlGC 6499B yn kynnal, BL 14978 a gynal.

43 cogeilyn  Mae grŵp Dyffryn Conwy, Stowe 959 (koeg aulyn), LlGC 17114B a Pen 82 yn cadw’r gysefin, tra ceir treiglad yn Llst 168, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Pen 72, Pen 121, LlGC 5283B, CM 312, BL 14978 a Pen 63. Ni ellir darllen Pen 80 yma. Yn TC 207–8 awgrymir mai arfer y cyfnod canol oedd peidio â threiglo’r gwrthrych ar ôl ffurf y trydydd unigol presennol, ond bod y treiglad i’w gael yn achlysurol mewn testunau o’r cyfnod. Mae’n anodd torri’r ddadl yma. Wrth reswm ni ellir pwyso ar dystiolaeth y copïau sy’n darllen yn cynnal yn lle a gynnail (gw. uchod), oherwydd y gysefin a ddisgwylid ac a geir ynddynt oll. Yn wyneb yr ansicrwydd gwell dewis y darlleniad mwy hynafol.

44 arall  BL 31059 a llall, LlGC 5273D, LlGC 6499B a CM 312 ar llall, Pen 82 eraill.

45 trydedd  Llst 53, Stowe 959, BL 31059, LlGC 17114B trydydd, Llst 168 a C 5.167 y drydedd.

45 yn torri  Llst 168 a C 5.167 a dyrr, Stowe 959 Syn torrir, Pen 72 yn tori yr, Pen 121 a Pen 82 yn torri/r/, BL 14978 yw tori.

46 iarll  Grŵp Dyffryn Conwy, CM 312 a Pen 82 ieirll, Stowe 959 u iarll.

46 a’r  Llst 168 ir.

47–8  Nis ceir yn Stowe 959.

47–50  Y drefn yn BL 31059 a LlGC 5273D yw 49–50, 47–8.

47 fy mod  C 5.167 petwn.

48 Atropos  Dryswyd rhai copïwyr gan yr enw estron hwn: CM 5, Llst 53, BL 14978 a Pen 63 antro pos, C 5.167 atra pos, Pen 121 antrapos, LlGC 5283B Antropos, LlGC 17114B Dandro pos, CM 312 andro pos, Pen 82 ontrapos.

49 i’r  Gwyn 4, Llst 53 a Pen 63 y.

50 yn nydd  C 5.167 ynys, BL 14978 i vn.

52 draeturiaid, dorri  Ni threiglir y geiriau hyn yn llawysgrifau grŵp Dyffryn Conwy a BL 14978.

52 dorri  Ceir y fannod ’r ar ôl y berfenw yn BL 14866, Stowe 959, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, i yn Pen 72 ac y (dilewyd) yn CM 5.

53 ddringynt  Stowe 959 a LlGC 17114B ddiengynt.

54 i dai’r  LlGC 3049D a Gwyn 4 i dir y, LlGC 8497B y dir y. Unwaith eto, felly, gwelir bod Thomas Wiliems wedi diwygio darlleniad cynsail grŵp Dyffryn Conwy er mwyn hyd y llinell. Ceir i dy/r/ yn Llst 168 a Pen 63 ac i dyrav yn LlGC 17114B.

54 gŵr  LlGC 17114B gwyr.

54 na’i dyrau gynt  Felly mwyafrif y llawysgrifau; gthg. Llst 53 ai dyrav gynt, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 5283B, CM 312, BL 14978 a Pen 63 noc (nag) iw dir gynt; LlGC 17114B nac i dir gwent.

55 fu  LlGC 3049D vvr, Gwyn 4 vu’r, Pen 72 fvr, BL 31059 bvoedd, LlGC 5273D a LlGC 6499B bv.

56 ni  Stowe 959 na.

57–60  Y drefn yn C 5.167 yw 59–60, 57–8. Ar ôl 58 ceir cwpled ychwanegol yn Stowe 959 au gwelas gwnyas ac onn / ag u gwelas gway galonn.

57 weles  LlGC 17114B welais.

60 dlawd  Stowe 959 lwid, Pen 82 wlad.

60 oedd  Pen 80, C 5.167 a Stowe 959 fv.

61 farw  Pen 80, BL 14866, CM 5, LlGC 5283B, LlGC 17114B (cywiriad) fwrw; cywirwyd fwrw yn farw yn CM 5.

63 Merddin  Sillefir yr enw ag -e- ym mhob copi ond Stowe 959 lle ceir myrddinn.

63 Wyllt  C 5.167, Pen 72, Pen 121 a BL 31059 wyf (cywiriad o wyllt, llaw’r testun), Stowe 959 gynt. Gan fod Guto yn ei gymharu ei hun â Myrddin yma (cf. 65), digon hawdd fyddai troi wyllt yn wyf.

64 Amhorfryn  Darlleniad mwyafrif y llawysgrifau; ceir llygriadau dibwys yn Gwyn 4 Amhervryn, Llst 168 ap morfryn, Pen 80 amhefryn, Llst 53 am hirfrynn, BL 14978 am horffyn, Pen 63 ab morfryn, Pen 82 amharfryn.

65 af  LlGC 5273D, LlGC 6499B a CM 312 ef. Yn BL 31059 cywirodd y copïydd Ef yn af.

65 o  Gwyn 4, Pen 80, LlGC 17114B a Pen 82 i.

66 clustiau  BL 14866, C 5.167, Pen 121, Pen 63 a Pen 82 clustiau, Stowe 959 klystau; clustie yn y lleill. Fe all fod y copïwyr wedi rhoi’r ffurf lafar clustie yma drwy gamdybio bod rhyw fath o gynghanedd sain yn y llinell (eiste ~ clustie). Mewn gwirionedd cynghanedd draws sydd yma.

67–8  Nis ceir yn Stowe 959.

67 mi a’m  Felly’r llawysgrifau ac eithrio Llst 53, BL 31059, LlGC 5273D a LlGC 6499B am holl, LlGC 5283B am y, CM 312 efo .m, BL 14978 efo am. Nid oes sail yn y llawysgrifau ar gyfer y darlleniad a dderbyniwyd yn GGl i am. Rhydd Rowlands (1976: 22) mi a’m.

69 oedd yn  Llst 53 fv yn, C 5.167 a fv/n/.

69 ffrwyno  Llst 168 ffrwyn.

70 camreol  cam yw’r elfen gyntaf ym mwyafrif y llawysgrifau, ond ceir caem yn Pen 80, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, LlGC 5273D a LlGC 5283B, kamp yn Pen 72, a kem yn BL 31059. Dim ond cam sy’n rhoi ystyr foddhaol. Mae ffurf yr ail elfen yn amrywio yn y llawysgrifau: (r)ryol yn LlGC 3049D, Gwyn 4, Stowe 959, Pen 72 a Pen 82, rywl yn BL 14866, rwyol yn CM 5, Rywol yn Pen 121, rwol yn LlGC 5283B, CM 312 a BL 14978. Dilynir LlGC 8497B, Llst 168, Pen 80, Llst 53, C 5.167 a Pen 63 lle ceir reol. Yn BL 31059, LlGC 5273D a LlGC 6499B ceir ryfig. Tywyll yw darlleniad LlGC 17114B kymurfol, a rhoddodd llaw arall kaem rwl yn ei le. Derbyniwyd camreol yn GGl ond yn Rowlands 1976: 22 ceir caem reol.

70 Cymry  BL 14866 y cymry.

71 ofn i  Ymranna’r llawysgrifau fel a ganlyn: ofn i a geir yn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Llst 53, C 5.167, Pen 72, Pen 121, LlGC 5283B a Pen 82, ofnai yn Stowe 959, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 17114B, CM 312, BL 14978 a Pen 63, ofna yn Llst 168 (a llythyren wedi ei dileu ar ôl y gair), troe ofn ar yn BL 14866, troe ofn i yn CM 5. Dechreuodd copïydd Pen 80 ysgrifennu gair yn tr- ar ddechrau’r llinell ond dileodd y ddwy lythyren hyn ac ysgrifennu ofn i. Awgryma hyn fod ei gynsail yn perthyn i BL 14866 a CM 5, ond gallai fod wedi ysgrifennu tr- dan ddylanwad y ffaith fod ail hanner y llinell yn dechrau â tra, felly nid yw’n dilyn o reidrwydd fod Pen 80 yn gymar i’r llawysgrifau hyn. Bid a fo, rhaid gwrthod troe ofn gan fod cyn lleied o gopïau yn ei gefnogi (ac mae’n creu llinell ry hir). Erys i ddewis rhwng ofn i ac ofnai. Mae’n anodd derbyn bawb fel goddrych ofnai. Er bod treiglo’r goddrych ar ôl -ai yn dderbyniol yn amser Guto’r Glyn (TC 214), disgwylid cael rhyw enw neu ragenw yn dynodi’r gwrthrych rywle yn y cymal, ac mae’n chwithig na cheir y naill na’r llall yma. A all bawb fod yn wrthrych i’r ferf, felly? Mae’r ferf ofni yn golygu ‘gyrru ofn ar’ yn ogystal â ‘cael ofn (ynglŷn â)’, gw. GPC 2632, a gellid derbyn ‘gyrrai ofn ar bawb’. Fodd bynnag, mae ofnai bawb yn agored i’w ddehongli mewn modd anffodus iawn, ac mae’n anodd credu y byddai’r bardd wedi creu llinell mor amwys. Derbyniwyd ofn i, felly.

73 ymgyrchu i Gymru  Rhaid cywasgu’r arddodiad er mwyn hyd y llinell. Ni cheir yr arddodiad yn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Llst 168, Pen 80, Pen 72, Pen 121 a Pen 82, ond mae’n anodd gwybod ai’r gystrawen ‘cyrchu lle’ (sef defnyddio’r treiglad meddal yn unig, heb arddodiad, i ddynodi cyrchfan) a fwriedid yn y llawysgrifau hyn, ynteu a ydynt yn dangos cywasgiad llafar. Yn Stowe 959 ceir ymgyrchy kymry, LlGC 5273D ymgyrchu drwy Gymru, LlGC 6499B ymdrechv drrwy gymrv, Pen 63 ymgyrchv gyrrv.

73 a  Nis ceir yn Llst 53, diau oherwydd cyfrif i yn sillaf (gw. y nodyn blaenorol).

74 ymsaethu  CM 312 a BL 14978 a savthv.

74 ’Mhowys  CM 312 yn haws, Pen 63 /n/ y maes.

76 o dôn’  Ceir y ffurf lawn yn -nt yn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Llst 168, Pen 72, Pen 121, CM 312 a BL 14978; a dons yn Pen 63.

77 llusgent … llosgent  Ceir y ffurfiau trydydd lluosog gorchmynnol hyn yn n(t) yn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Llst 168, Pen 80, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Stowe 959 a Pen 72. Ar y llaw arall, ceir y ffurfiau presennol-dyfodol llusgant … llosgan(t) yn Pen 121, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 5283B, LlGC 17114B, CM 312 a BL 14978, a llvsgynt … llosgen yn Pen 63. Derbyniwyd yr olaf yn GGl, yn groes i dystiolaeth y llawysgrifau. Rhaid dewis rhwng y gorchmynnol a’r presennol-dyfodol yma, ac mae’r ddau yn rhoi ystyr resymol. Ond efallai fod mwy o ergyd i’r gorchmynnol yma: wedi ei lethu gan anobaith, mae’r bardd yn ildio’r wlad i’w gelynion drwy gyfrwng y datganiad dramatig hwn. Ceir -t yn y gair cyntaf ym mhob llawysgrif, gan ei bod yn angenrheidiol ar gyfer y gynghanedd, ond mae’r copïau’n amrywio o ran yr ail air, lle nad oes ei hangen ar gyfer y gynghanedd.

77 eu  Nis ceir yn Llst 53, ond ceir yno a o flaen llosgent, sy’n rhoi saith sillaf, ac mae’n debygol mai dyna paham y hepgorwyd eu.

78 gŵr  Darlleniad y llawysgrifau, ac eithrio CM 5, C 5.167, Stowe 959 a Pen 63 sy’n cynnig neb. Derbyniwyd neb a dderbyniwyd yn GGl, yn nannedd y llawysgrifau (cf. 77n).

79 traws  BL 14866 a LlGC 5283B troes, BL 14978 nid hawsnid traws.

79 rhag  CM 312 nid. Dilewyd rhag yn BL 14978 er mwyn hyd y llinell.

79 atyn’  Felly Llst 168, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Stowe 959, LlGC 6499B, LlGC 5283B, LlGC 17114B a Pen 63, a dderbyniwyd hefyd yn GGl a Rowlands 1976: 22. Yn y lleill ceir ytyn. Mae’n anodd canfod patrwm yn yr amrywio a dichon fod atyn’ wedi newid yn ytyn’ fwy nag unwaith yn hanes trosglwyddo’r gerdd. Y prif reswm dros wrthod ytyn’ yw’r ystyr: disgwylid y person cyntaf lluosog (‘Cryf ydym o hyd rhag trais’), nid y trydydd lluosog. Mae’r bardd newydd gyfeirio at ddrwgweithredwyr yn y trydydd lluosog (73–8), a byddai’n chwithig iawn newid mor ddisymwth i drafod ei blaid ei hun yn y trydydd lluosog heb eu henwi’n eglur. Er bod y ffurf ydyn yn digwydd ar lafar heddiw ar gyfer y person cyntaf lluosog, sef dan ddylanwad y rhagenw ôl ni sydd fel arfer yn ei dilyn ar lafar, ni cheir tystiolaeth fod ytyn’ yn digwydd yn amser Guto’r Glyn fel ffurf y person cyntaf lluosog, a hynny heb y rhagenw. Nid oes berf yn y cymal, ac efallai mai dyna paham y ceid tuedd i newid atyn’ yn ytyn’.

80 tra ater  Llst 53 trygater, CM 312 a BL 14978 tra ader.

81 trimaib  Pen 80, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Stowe 959, LlGC 5283B a Pen 63 trimab neu tri mab, cf. GGl; dewisodd Rowlands (1976: 22) tri maib.

81 iarll  Llst 168 i iarll.

81 os trwm y  Llst 168 trwm y, BL 14866 a C 5.167 trwm yw y, CM 5 trwm yw /n/, Llst 53 a Pen 63 nid trwm y (dyma ddewis GGl), BL 31059, LlGC 5273D a LlGC 6499B os trwm yn, CM 312 os trwm yw. Dewisodd Rowlands (1976) 22 y darlleniad os trwm y ond dehonglodd y fel y rhagenw blaen trydydd lluosog eu. O ran yr orgraff, mae hynny’n bosibl, gan fod y yn ffurf orgraffyddol gyffredin am eu, ond mae’r ystyr ar ei hennill o dderbyn y fannod: mae’r byd yn drist i bawb, nid i dri mab Herbert yn unig.

83 o’i  BL 14866, Llst 53, CM 312, BL 14978 a Pen 63 ai.

83 Neheuwlad  LlGC 3049D ehevlad, LlGC 6499B nehevr wlâd.

84 a gyrredd  BL 14978 a gerydd.

85 Cymru  Treiglir yn C 5.167, Stowe 959, Pen 72, Pen 121, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 5283B, CM 312 a BL 14978. Nid oes rheswm cystrawennol am y treiglad ac nid oes ei angen ar gyfer y gynghanedd ychwaith. Tybed a oedd y copïwyr hyn yn deall Gymru fel goddrych oedd? Treiglid y goddrych ar ôl oedd dan rai amgylchiadau mewn Cymraeg Canol, gw. TC 301–7.

85 oll  CM 5 oedd.

85 eiddo  Llst 168, Llst 53, Stowe 959 a CM 312 iddo, darlleniad GGl; gthg. Rowlands 1976 22 eiddo, gan ddilyn mwyafrif mawr y llawysgrifau.

86 o’i  Llst 168 a BL 14978 i.

Llyfryddiaeth
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)

Dyma gywydd enwocaf Guto’r Glyn, efallai, a’i gywydd mwyaf ysgytwol. Wiliam Herbert, iarll Penfro, oedd Cymro mwyaf grymus y bymthegfed ganrif (ac eithrio Owain Glyndŵr ar anterth ei rym), ac roedd ei golli mor ddisyfyd yn ergyd andwyol i’r beirdd a oedd wedi ymgasglu o’i gwmpas. Mae’r farwnad a ganodd Hywel Swrdwal iddo (GHS cerdd 7) hefyd yn gywydd hynod egnïol a dirdynnol, a chanodd Dafydd Llwyd o Fathafarn yntau farwnad i Herbert sy’n gyforiog o chwerwder a chasineb at y Saeson (GDLl cerdd 54). Yr un dôn a glywir yn y marwnadau i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, gan Bedo Brwynllys ac Ieuan Deulwyn (Lewis 1982a: cerddi 30 a 31).

Mae digwyddiadau mis Gorffennaf 1469 yn anodd eu hadlunio oherwydd gwendidau’r ffynonellau. Am yr ymdrinaethau mwyaf manwl a gyhoeddwyd hyd yn hyn, gw. Thomas 1994 a Haigh 1997, a cheir crynodeb hwylus yn Ross 1974: 126–32. Sefydlwyd dyddiad cywir brwydr Edgecote gan W. Gwyn Lewis (Lewis 1982b). Mae’r wybodaeth a roddir isod yn seiliedig ar y gweithiau hyn ac ar y ffynonellau craidd (ceir rhestr hwylus yn Haigh 1997: 148, ac ychwaneger y cerddi Cymraeg a restrwyd uchod); gw. ymhellach f’ymdriniaeth fanwl (Lewis 2011) lle rhoddir cyfeiriadau llawn.

Erbyn 1469 Wiliam Herbert oedd un o brif arglwyddi’r deyrnas ac roedd yn gyfaill agos i’r brenin Edward IV, i’r graddau fel bod ei fab Wiliam wedi priodi chwaer i’r frenhines. Ysgogodd dylanwad Herbert a theulu’r frenhines genfigen a drwgdeimlad mawr ym mrawd Edward, sef George, dug Clarence, ac yn arbennig yn Richard Neville, iarll Warwick. Roedd yr iarll wedi chwarae rhan allweddol yn ymgyrch llwyddiannus Edward i gipio’r orsedd, ond erbyn 1469 fe’i gwelai ei hun yn gynyddol yn colli ei statws fel prif gynghorydd a chefnogwr y brenin. Yn 1469 ymunodd dug Clarence ac iarll Warwick mewn cynllwyn i ddisodli’r ‘gwŷr newydd’. Codwyd gwrthryfel yn swydd Efrog dan arweiniad ‘Robin of Redesdale’, un o gefnogwyr lleol iarll Warwick yn ôl pob tebyg. Tua dechrau mis Gorffennaf trodd y gwrthryfelwyr tua’r de. Aeth Edward IV i’w wynebu, gan wysio milwyr i’w ddilyn. Gwyddys iddo gyrraedd Nottingham ar 9 Gorffennaf. Yno yr arhosodd nes y deuai ei gefnogwyr ato. Yn y cyfamser, roedd iarll Warwick a dug Clarence yn dod o Gaint. Gwyddys eu bod yng Nghaer-gaint ar 18 Gorffennaf. Mae’n ansicr pryd yn union y daeth yn amlwg i’r brenin fod byddin ‘Robin of Redesdale’ mewn gwirionedd yn gweithredu dros iarll Warwick; bid a fo am hynny, ac yntau’n sefyll yn Nottingham gydag ychydig yn unig o wŷr dan ei orchymyn, ni fentrai wynebu byddin yr Efrogwyr. Aethant hwythau heibio iddo, efallai’n ddiarwybod: eu bwriad oedd uno gyda lluoedd iarll Warwick, bid sicr. Yn y cyfamser deuai dau lu teyrngar o’r gorllewin yn ateb gwŷs Edward yn ei gyni: llu o dde-orllewin Lloegr dan arweiniad Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint, a llu o dde Cymru dan Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu llu Herbert a llu Robin of Redesdale ger Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury. Trechwyd y Cymry. Bu farw Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, a chipiwyd hwythau ar faes y gad. Daethpwyd â’r ddau frawd i Northampton, lle roedd iarll Warwick a dug Clarence wedi cyrraedd erbyn hynny. Dyfarnwyd hwy i farwolaeth: torrwyd pen Syr Rhisiart Herbert ar ddydd Mercher, 26 Gorffennaf, a thorrwyd pen Wiliam, iarll Penfro ar 27 Gorffennaf. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach cipiwyd Edward ei hun ar y ffordd i’r de o Nottingham a’i gadw’n garcharor, i bob pwrpas, tra oedd y gwrthryfelwyr wrthi’n gwaredu eu gelynion. Mae rôl Humphrey Stafford yn y frwydr yn destun dadlau. Dywed un ffynhonnell iddo ddod yn hwyr i’r maes; un arall ei fod wedi ffoi (dyna farn Guto’r Glyn yntau, cf. 17–18n); eraill eto ei fod wedi ffraeo â Herbert y noson gynt a gwrthod ymladd wedyn. Ar 17 Awst fe’i cipiwyd yn Bridgewater, Gwlad yr Haf, gan y werin bobl, a’i dienyddiodd yn y man a’r lle.

Ymatebodd Guto’r Glyn i’r digwyddiadau trychinebus hyn mewn modd cymhleth. Mae’n gwibio rhwng beio’r Saeson am eu twyll (e.e. 51) a moesoli’n fwy cyffredinol am anwadalwch ffawd (yn enwedig 39–48). Mae cwymp Wiliam Herbert, a oedd wedi codi’n uwch na’r un Cymro byw, yn esiampl ysgytwol o anocheledd marwolaeth, fel y mae Guto’n ei bwysleisio drwy sôn am Ddawns Angau (1–2), darlun defosiynol cyffredin yn y cyfnod hwnnw, a ddangosai ddynion a merched o bob gradd gymdeithasol oll yn ymuno yn y ddawns gydag Angau, a gynrychiolid gan ysgerbwd noeth. Yna mae’n rhestru’r diwrnodau tyngedfennol, gan gyfrif yn ôl o farwolaeth Herbert ar y dydd Iau i’r frwydr ei hun ar y dydd Llun (5–14). Cymherir y diwrnod hwnnw â Dydd y Farn (15–16). Yna mae’r sylw yn troi at y gwŷr y mae’r bardd yn eu hystyried yn euog – at iarll Dyfnaint, a ffodd o’r maes (17–18) ac at y gelynion eu hunain, y bradwyr a’r carliaid a achosodd y dymestl sydd wedi llorio plaid y bardd (19–22). Y pwnc nesaf yw dial: mae Guto’n annog cefnogwyr yr Herbertiaid i fynd i Northampton ar ymgyrch ac i erlid gwŷr gogledd Lloegr yr holl ffordd i Lydaw (23–30). Sylwer ei fod yn awyddus i gosbi’r werin Seisnig (28). Yna daw adran dawelach a mwy synfyfyriol, wrth i’r bardd ddychwelyd at y thema ffawd. Digon chwerw yw ei gymhariaeth rhwng y min a roddwyd ar wddf Herbert a’r goler aur fawreddog yr arferai ei dwyn (31–4). Sonia am ddylanwad y blaned ddu (Sadwrn, planed marwolaeth) ac am ddelwedd glasurol y tair tynged: tair merch sy’n gweu edefyn bywyd pob dyn ac yn ei dorri pan ddaw amser ei farwolaeth (35–50). Eto, mae’r adran foesegol hon yn dychwelyd at ddwrdio’r Saeson erbyn y diwedd (49–50). Mae’r adran nesaf yn hel atgofion am y dyddiau melys a fu, gan danlinellu gwae a galar y sawl a adawyd yn amddifad (51–78). Mae’r bardd yn ei gymharu ei hun â Myrddin Wyllt, a yrrwyd yn wallgof gan alar ac a grwydrodd y goedwig ar gefn carw. Yna daw anogaeth rethregol at holl elynion Cymru i ddod i reibio’r wlad: nid oes neb a all eu hatal mwyach. Er dweud hyn, mae llinellau olaf y gerdd yn taro nodyn mwy gobeithlon. Atgoffeir y gynulleidfa fod o hyd wŷr dewr i’w hamddiffyn, sef Syr Rhosier Fychan, brawd Tomas a fu farw yn y frwydr, a hefyd fod Wiliam Herbert wedi gadael meibion ar ei ôl. Mynegir y gobaith y bydd mab hynaf yr iarll yn cyrraedd yr un radd â’i dad.

Hoffwn ddiolch i D. Roy Saer am ei gymorth gyda’r ymdriniaeth â llinellau 1–4.

Dyddiad
Ar ôl 17 Awst 1469, pan ddienyddiwyd iarll Dyfnaint (18n), ond heb fod fawr yn ddiweddarach na hynny, mae’n debygol.

Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LIII. Rowlands 1976: cerdd 7. Lewis 1982a: cerdd 20.

Mesur a chynghanedd
Cywydd, 86 llinell.
Cynghanedd: croes 55% (47 llinell), traws 28% (24 llinell), sain 14% (12 llinell), llusg 3% (3 llinell).

1 Dawns o Bowls  Dawns Angau, delwedd ddefosiynol a ddyfeisiwyd ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Dengys wŷr a gwragedd o wahanol raddau, o’r pab i lawr i’r gwladwr cyffredin, yn dawnsio gyda chyrff y meirw. Crewyd y llun cyntaf o’r ddawns c.1425 ym Mharis, ac yn y 1440au darluniwyd fersiwn yn St Paul’s, Llundain. Dyna paham y’i gelwid ‘the daunce of Powles’ yn Saesneg. Gw. Clark 1950: 11–13 a Binski 1996: 153–4. Trafodir ymddangosiad Dawns Angau yng Nghymru yn Breeze 1987. Mae D. Roy Saer yn dadlau ymhellach fod Guto’n chwarae hefyd ar syniad y ddawns Fai, a gynhelid o gwmpas pawl haf. Dengys Saer fod cysylltiadau agos rhwng dawnsio haf ac ymladd: ymleddid ffug-frwydrau rhwng haf a gaeaf ar yr adeg hon o’r flwyddyn, a hefyd mae’n dyfynnu tystiolaeth o Forgannwg yn y ddeunawfed ganrif am ymgiprys rhwng gwahanol blwyfi i ddwyn polion haf ei gilydd. Gw. Saer 1969: 265–76. Fodd bynnag, mae Breeze 1987: 96 yn dadlau’n gryf yn erbyn hyn; yn ei farn ef, mae’r ymadrodd dawnse of Powles, a welir mewn cofnodion o’r bymthegfed ganrif o Gaersallog, yn cyfeirio at Ddawns Angau ac nid, fel yr awgrymodd Saer, at ddawnsiau o gwmpas polyn Mai.

1 doe  Confensiwn mewn marwnadau yw sôn am y farwolaeth yn digwydd ddoe, gw. Edwards 2000: 25.

1 doe’n  Nifer gyfyng o eirynnau rhagferfol a all gynnal ragenw mewnol, megis a, na, y, &c., a go brin y gallai adferf fel doe weithredu felly. Y tebyg yw, felly, fod doe y’n wedi ei gywasgu yma.

2 holl dynion  Er ei bod hi’n arfer treiglo enw’n feddal ar ôl holl, gall y treiglad gael ei atal yn y cyfuniad -ll d-, gw. TC 93 (lle dyfynnir y llinell hon a hefyd 8 isod).

3 Dinas y Garrai  Doncaster. Daw’r hanes o ‘Historia Regum Britanniae’ Sieffre o Fynwy. Cafodd yr arweinydd Seisnig Hengest ganiatâd gan Wrtheyrn i godi annedd at ei ddefnydd ei hun ar gymaint o dir ag a amgylchynid gan garrai. Torrodd groen tarw cyfan yn un garrai ac amgylchynu digon o dir i adeiladu castell, sef Caer y Garrai neu Doncaster (Thanccastre o thanc, hynny yw thong ‘carrai’), gw. BD 94 a Reeve and Wright 2007: 128–9. Dechreuodd y gwrthryfel a arweiniodd at frwydr Edgecote yn swydd Efrog, y sir y mae Doncaster ynddi, ac mae’n debygol iawn fod byddin y gwrthryfelwyr wedi mynd drwy Doncaster ar ei ffordd i’r de, gw. y map yn Haigh 1997: 20. Yn ei ymdriniaeth â delweddaeth y ddawns yn y gerdd hon, awgryma D. Roy Saer (1969: 279–80) y gall fod yma gyfeiriad at y ddawns gleddyfau, gan fod dawnsiau o’r fath yn gysylltiedig â gogledd Lloegr yn benodol. Byddai cyfeiriad o’r fath yn addas iawn yn y cyd-destun. Fodd bynnag, nid yw Saer bellach yn hyderus fod tystiolaeth wirioneddol am fodolaeth y ddawns gleddyfau yn swydd Efrog yn y cyfnod hwn (cyfathrebiad personol).

4 ieirll  Mae ergyd y ffurf luosog yn aneglur yma. Gallwn dderbyn mai Wiliam Herbert yw un ohonynt. Efallai mai iarll Warwick, éminence grise y gwrthryfel, yw’r llall, er nad oedd yn bresennol yn y frwydr, neu Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint, gw. 17n.

5 duw Llun  24 Gorffennaf 1469.

5 bu waed  Am y treiglad, gw. TC 308.

6 amliw  Gall fod yn ansoddair ‘amryliw … brith, brych’ neu’n enw ‘staen’, gw. GPC2 228. Fe’i deellir yn ffigurol yma.

6 diwedd ymladd  Disgrifiad eithafol o ganlyniadau cwymp Herbert.

7 duw Iau  27 Gorffennaf 1469, y diwrnod y dienyddiwyd Herbert yn Northampton.

7 y dydd dduw Iau  O ran y gystrawen nid oes angen y dydd yma. Mae Rowlands (1976: 79) yn deall dwyn y dydd fel ‘to win the day, gain the victory’, ond mae hynny’n gadael llinell 8 y tu allan i’r gystrawen. Gwell deall Iarll Dwywent a’r holl Deau fel gwrthrych dug.

8 Dwywent  Rhennid Gwent yn ddwy ran, sef Is Coed ac Uwch Coed.

9 marchog  Syr Rhisiart Herbert, cf. 11.

9 duw Merchyr  Ategir y dystiolaeth hon fod Syr Rhisiart Herbert wedi ei ddienyddio ddiwrnod o flaen ei frawd gan Bedo Brwynllys (Lewis 1982: 30.54 Duw Mercher wedi marchog) a Hywel Swrdwal (GHS 7.54 A’r marchog ar y Merchyr).

12 North  Enw arferol y beirdd ar ogledd Lloegr neu wŷr gogledd Lloegr. Ceir hefyd Nordd, fel yn 26.

13 Duwmawrth  Mae’r bardd yn cyfrif yn ôl o ddydd Iau, sef diwrnod dienyddiad Wiliam Herbert (7) i ddydd Llun, diwrnod y frwydr (14). Nid ymddengys fod unrhyw beth penodol wedi digwydd ar ddydd Mawrth, ond mae’n rhaid ei grybwyll yn ei briod le yn y gyfres, felly dywedir bod gwae i blaid Herbert ar ddydd Mawrth oherwydd colli Thomas Fychan ar ddydd Llun.

13 Tomas  Tomas Fychan o Hergest, hanner brawd Wiliam Herbert drwy ei fam.

14 gyda’i frawd  Sef Wiliam Herbert, gw. y nodyn blaenorol. Ystyr gyda yw ‘ochr yn ochr â’ yma, nid ‘ar y cyd â’, oherwydd fel y gwyddom, bu farw Herbert ei hun dri diwrnod yn ddiweddarach.

15 pedwarllu  Nid yw’n eglur a oes arwyddocâd penodol i’r rhif.

16 Dydd Farn  Hepgorwyd y fannod ond cedwir y treiglad, cf. TC 466 am enghreifftiau eraill.

17 Arglwydd difwynswydd Defnsir  Humphrey Stafford, iarll Dyfnaint. Mae’r ffynonellau eraill yn cytuno ei fod wedi methu rywsut neu’i gilydd â chyflawni ei ddyletswyddau, ond maent yn anghytuno ar natur y methiant. Gw. ymhellach Lewis 2011: 106–7, a cf. Thomas 1994: 63–5 a Haigh 1997: 36–7.

17 difwynswydd  Amwys, ac yn fwriadol felly, yn ôl pob tebyg. Gall difwyn olygu ‘annymunol’ neu ‘cas’, a hefyd ‘di-elw, di-fudd’. Gall swydd gyfeirio at ddyletswydd neu rôl iarll Dyfnaint, ond hefyd, yn yr ystyr ‘sir’, at Ddyfnaint ei hun, gw. GPC 3370. Gellid, felly, ‘arglwydd sir anhyfryd Dyfnaint’, ymhlith posibiliadau eraill.

17  Bai crych a llyfn, gw. nodyn testunol.

18 ni chafas oes hir  Dienyddiwyd Stafford yn Bridgewater, Gwlad yr Haf, ar 17 Awst 1469 (DNB2 52.54–5). Dyma terminus post quem canu’r gerdd hon.

19 bradwyr  Diau fod Guto’n meddwl am Richard Neville, iarll Warwick, a George, dug Clarence, gwir arweinwyr y gwrthryfelwyr, neu efallai Humphrey Stafford (17n, 18n).

20 Banbri  Banbury, swydd Rydychen. Ceir y dadansoddiad manylaf o leoliad a hynt y frwydr yn Haigh 1997, gw. yn enwedig y mapiau (38–48). Trwy Banbury y daeth byddin Herbert, ac yno yr arosasant y noson cyn yr ymladd, gw. Haigh 1997: 36–7. Dichon mai dyna paham y cyfeiria’r beirdd Cymraeg at y dref hon yn gyson mewn perthynas â’r frwydr. Yn Saesneg mae’n fwy arferol sôn am ‘the battle of Edgecote’. Pentref bach ger y lle y tybir i’r frwydr gael ei hymladd yw Edgecote.

23–4 Ymladd tost … / … hynt yn Norhantwn  Dywedir y bydd dienyddiad Herbert yn Northampton yn arwain at ddial creulon ar y gwŷr euog. Mae’n ansicr ai taith anorfod Wiliam Herbert i Northampton yw’r hynt yma, ynteu ymgyrch dialgar gan ei gefnogwyr a ragwelir gan y bardd.

24 yn  Mewn Cymraeg Canol gall yn ddynodi cyrchfan symudiad, er mai i a ddefnyddid heddiw, gw. GPC 3813–14 d.g. yn1 2(a).

24 Norhantwn  Yn Northampton y dienyddiwyd Wiliam Herbert (Thomas 1994: 70–1).

28 y cyffredin  Hynny yw, y cyffredin bobl.

34 Aerwy mawr o aur a main  Fel marchog gwisgai Wiliam Herbert goler aur.

35 y blaned ddu  Sadwrn.

36 drwy’r fâl  Yn ôl GPC 1266 enw cyffredin yw fâl, wedi ei fenthyca o’r Saesneg vale. Nid oes rheswm dros ei ddeall yn enw priod yma fel yn GGl 341, lle awgrymir mai’r Dyffryn Aur yn swydd Henffordd ydyw.

37 uwch  Mae uchel yn dwyn ystyron ehangach yn iaith y cyfnod canol nag y mae heddiw, megis ‘dwys, trwm, mawr’, gw. GPC 3694 (c).

41 tair tynged  Delwedd glasurol. Tair merch a oedd yn pennu einioes dyn: byddai Clotho yn nyddu’r edefyn a gynrychiolai fywyd unigolyn, Lachesis yn ei fesur, ac Atropos yn ei dorri pan ddeuai’n amser iddo farw. Gw. Graves 1960: i.48–9. Fe’u henwir ym marwnad Iolo Goch i feibion Tudur Fychan, gw. GIG VI.73n–6.

41 ton  Gan amlaf ni threiglid ansoddair yn y cyfuniad tair + enw benywaidd + ansoddair yn y cyfnod canol, gw. TC 64.

43 cogeilyn  Cogail, teclyn a ddefnyddir wrth nyddu gwlân, gw. GPC 540.

48 Atropos  Gw. 41n tair tynged.

51 plant Alis  Sef y Saeson. Rhonwen neu Alis oedd merch Hengest yn ôl y chwedl, gw. WCD 559 a Williams 1966–8: 301–3.

54 na’i dyrau  Gallai gyfeirio at dyrau Rhaglan neu, fel yn 52, yn drosiadol at y gwŷr a laddwyd yn sgil ymgyrch Edgecote: os felly, dealler i dai’r gŵr nac [i dai] ei dyrau.

57 Calan  Diwrnod cyntaf y mis yn y calendr Rhufeinig (kalendae), yna 1 Ionawr yn benodol, gw. GPC 390 d.g. calan1.

58 ar ganol glan  Ni saif castell Rhaglan ar lan afon neu nant, felly y tebyg yw mai glan y ffos a olygir. Tybed a yw’r bardd yn chwarae ar darddiad tybiedig yr enw Rhaglan?

59 rhodio  Ato ef ei hun y cyfeiria Guto, gan gwyno na fydd bellach yn gallu clera drwy Went heb gynhaliaeth Herbert.

60 oedd  Cyffredin yw colli’r rhagenw perthynol o flaen oedd, gw. GMW 61.

63–4 Merddin Wyllt … / Amhorfryn  Gw. WCD 492–500. Aeth Myrddin yn wyllt yn sgil brwydr Arfderydd, lle lladdwyd ei noddwr Gwenddolau, gw. WCD 496 a Clarke 1973. Cryfheir ergyd y gymhariaeth â’r bardd gan y ffaith fod Myrddin yntau’n cael ei ystyried yn fardd.

66 rhwng clustiau’r hydd  Yn ôl ‘Vita Merlini’ Sieffre o Fynwy, daeth Myrddin allan o’r goedwig ar gyfer ail briodas ei wraig. Ar hydd yr oedd yn marchogaeth, a byddai’r darllenydd yn cymryd yn ganiataol mai ar gefn yr hydd yr oedd. Ni ddywedir dim yno am eistedd rhwng clustiau’r anifail, sef ar ei ben. Am y llinell, gw. Clarke 1973: 75 (ll. 453) cervoque resedit ‘ac eisteddodd ar hydd’.

69 ffrwyno Ffrainc  Ymladdodd Herbert yn Ffrainc yn ei ieuenctid, gw. Thomas 1994: 14.

70 Camreol Cymry ieuainc  Ceir yr un llinell yn union gan Lewys Glyn Cothi yn ei gywydd i seintiau Cymru (GLGC 7.14).

73 a gân’  Ni ddywed y bardd pwy y mae’n ei ofni yma, y Saeson ynteu’r aliwns y cyfeiria atynt nesaf (75).

75 aliwns  Estroniaid, yn benodol pobl nad oeddynt yn ddarostyngedig i Goron Lloegr. Gair Saesneg ydyw a fenthyciwyd i’r Gymraeg. Am agwedd negyddol y Saeson tuag at aliwns yn y bymthegfed ganrif, gw. Griffiths 1998: 167–71.

79 atyn’  Fe’i deellir gyda traws, nid gyda trais: mae Syr Rhosier yn ŵr digon nerthol i wynebu’r drwgweithredwyr. Am at yn dynodi cyrchfan, nod neu bwrpas, nid o reidrwydd gyda berf, gw. GPC2 503 d.g. at (2).

80 Syr Rhosier  Syr Rhosier Fychan o Dretŵr, hanner brawd Wiliam Herbert a brawd llawn i’r Tomas Fychan a laddwyd yn ystod y frwydr. Siomwyd gobaith Guto ynddo: fe’i lladdwyd gan Siasbar Tudur yn 1471, ac mae Guto’n cwyno’n hallt am ei ddienyddiad yng ngherdd 25.

81 trimaib  Wiliam Herbert II, iarll Penfro bellach, a Water Herbert yw’r ddau fab cyfreithlon y gwyddys amdanynt. Byddai Guto’n canu i’r ddau yn y blynyddoedd ar ôl 1469. Nid yw’r trydydd mab yn hawdd ei adnabod. Yn ei ewyllys mae Wiliam Herbert I yn enwi tri mab gordderch a oedd ganddo, ond nid yw’n enwi mab cyfreithlon arall, gw. Thomas 1994: 108. Ai at un o’r rhain y cyfeirir?

86 Iarll o’i fab arall a fo  Cydier arall wrth iarll, nid mab, er mwyn cael synnwyr. Yr ystyr yw bod Guto’n gobeithio gweld Wiliam, mab yr iarll, sydd bellach wedi etifeddu’r teitl, yn ei dro’n esgor ar iarll arall.

Llyfryddiaeth
Binski, P. (1996), Medieval Death (London)
Breeze, A. (1987), ‘The Dance of Death’, CMCS 13: 87–96
Clark, J.M. (1950), The Dance of Death in the Middle Ages and the Renaissance (Glasgow)
Clarke, B. (1973) (ed.), Life of Merlin: Geoffrey of Monmouth, Vita Merlini (Cardiff)
Edwards, H.M. (2000), ‘Dwyn Marwnadau Adref’, LlCy 23: 21–38
Graves, R. (1960), The Greek Myths (second ed., Harmondsworth)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Haigh, P.A. (1997), ‘… where both the hosts fought …’: The Rebellions of 1469–70 and the Battles of Edgecote and Lose-Cote Field (Heckmondwike)
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury Through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982a), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lewis, W.G. (1982b), ‘The Exact Date of the Battle of Banbury, 1469’, Bulletin of the Institute of Historical Research, LV: 194–6
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Rowlands, E.I., (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Saer, D.R. (1969), ‘Delweddaeth y Ddawns Werin a’r Chwaraeon Haf ym Marwnad Guto’r Glyn i Wiliam Herbert’, THSC: 265–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1966–8), ‘Ronwen; Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3

This is probably Guto’r Glyn’s most famous poem, and the most moving. William Herbert, earl of Pembroke, was the most powerful Welshman of the fifteenth century (except Owain Glyndŵr at the height of his power), and his sudden loss was a savage blow for the poets who had gathered about him. The elegy which Hywel Swrdwal composed for him (GHS poem 7) is likewise a poem full of energy and torment, and Dafydd Llwyd of Mathafarn too composed an elegy for Herbert which overflows with bitterness and hatred of the English (GDLl poem 54). The same tone is heard in the elegies for his brother, Sir Richard Herbert, by Bedo Brwynllys and Ieuan Deulwyn (Lewis 1982a: poems 30 and 31).

The events of July 1469 are difficult to recreate because of the weaknesses of our sources. The most detailed published accounts to date are Thomas 1994 and Haigh 1997, and there is a useful short account in Ross 1974: 126–32. The correct date of the battle of Edgecote was established by W. Gwyn Lewis (Lewis 1982b). The information given below is based on these works and on the original sources (of which there is a convenient list in Haigh 1997: 148, to which should be added the Welsh poems named above); see further my detailed study (Lewis 2011) where full references are given.

By 1469 William Herbert was one of the most influential lords in the kingdom and a close friend to King Edward IV, so much so that his son William had even married a sister of the queen. The influence of Herbert and the queen’s family occasioned great envy and ill-feeling in Edward’s brother, George, duke of Clarence, and particularly in Richard Neville, earl of Warwick. The earl had played a vital part in Edward’s successful campaign to seize the throne, but by 1469 he saw himself increasingly losing his status as the king’s chief counsellor and supporter. In 1469 the duke of Clarence and the earl of Warwick united in a conspiracy to overthrow the ‘new men’. Rebellion was raised in Yorkshire under a certain ‘Robin of Redesdale’, probably one of Warwick’s local supporters. Around the beginning of July the rebels turned southwards. Edward IV went towards them, summoning forces to follow him. It is known that he reached Nottingham on 9 July. There he remained, waiting for his forces to join him. Meanwhile, Warwick and Clarence were advancing from Kent. They are known to have been in Canterbury on 18 July. It is not certain exactly when the king realised that the army of ‘Robin of Redesdale’ was in reality a front for Warwick; in any case, being shut up in in Nottingham with only a few men at his command, he did not dare face the Yorkshiremen. They in fact went past him, perhaps not knowing his whereabouts; their intention must have been to join up with Warwick. While this was happening, two loyal armies were advancing from the west in answer to Edward’s summons in his hour of need: a force from the West Country under Humphrey Stafford, earl of Devon, and a force from south Wales under William Herbert and his brother Richard. On 24 July 1469 the armies of Herbert and Robin of Redesdale met near Edgecote in Northamptonshire, not far from the town of Banbury. The Welsh were defeated. Thomas ap Roger Vaughan, a half-brother of the Herberts, was killed in the fighting, and the two Herbert brothers were captured on the battlefield. They were taken to Northampton, where by now the earl of Warwick and the duke of Clarence had arrived. There they were sentenced to death: Sir Richard Herbert was beheaded on Wednesday 26 July and William, earl of Pembroke on 27 July. A few days later Edward himself was captured on the road south from Nottingham and effectively held prisoner while the rebels set about getting rid of their other enemies. The role of Humphrey Stafford in the battle is disputed. One source says that he arrived late for the battle; another that he fled (that was also the view of Guto’r Glyn, cf. 17–18n); others still that he had quarrelled with Herbert the previous evening and refused to fight. On 17 August he was taken at Bridgewater, Somerset, by the common people and summarily put to death.

Guto’r Glyn’s response to these disasters is complex. He wavers between blaming the English for their treachery (e.g. 51) and moralising more generally about the unreliability of fate (especially 39–48). The fall of William Herbert, who had risen higher than any living Welshman, was a shattering example of the unavoidability of death, as Guto emphasizes by reference to the Dance of Death (1–2), a devotional image popular at the time which showed men and women of every social rank united in a common dance with Death, represented by a naked skeleton. Then Guto lists the fateful days, counting backwards from Herbert’s death on the Thursday to the battle itself on the Monday (5–14). That day is compared with Judgement Day (15–16). Now the attention turns to the men whom the poet considers guilty – to the earl of Devon, who fled the field (17–18) and to the enemy proper, the bradwyr ‘traitors’ and carliaid ‘churls’ who brought down the storm which destroyed the poet’s party (19–22). The next subject is vengeance: Guto urges supporters of the Herberts to go to Northampton on campaign and to pursue the northern English all the way to Brittany (23–30). Note his eagerness to punish the common people of England (28). Next comes a quieter and more reflective section, as the poet returns to the subject of fate. His comparison between the blade which visited Herbert’s neck and the magnificent gold collar which it used to wear is bitter enough (31–4). He notes the influence of the black planet (planed ddu, Saturn, the planet of death) and the three fates, a classical image: three women who weave the thread of each man’s life and who cut it when it is time for him to die (35–50). Yet this moralising section still returns to attacking the English in the end (49–50). The next section recalls the happy days that were, emphasising the woe and grief of those left bereft (51–78). The poet compares himself to Merlin Silvester, who was driven mad from grief and who wandered the forest on the back of a stag. Then comes a rhetorical invitation to all the enemies of Wales to come and plunder the country: no-one is left who might stop them. In spite of this sentiment, the last lines of the poem strike a more hopeful note. The audience are reminded that there remains a mighty man to defend them, namely Sir Roger Vaughan, brother of the Thomas who died in the battle, and also that William Herbert left sons. It is hoped that the earl’s eldest son will attain the same rank as his father.

I wish to thank D. Roy Saer for his help with the discussion of 1–4 below.

Date
After 17 August 1469, when the earl of Devon was executed (18n), but not much later than that in all likelihood.

The manuscripts
There are 66 copies of this poem, which makes it among the most popular of Guto’r Glyn’s works. In spite of this substantial number, the variants are relatively minor. The manuscripts offer a firm foundation as regards the number of lines and their order, while the variant readings themselves offer mostly trivial differences. There is also good reason to think that there has been a deal of cross-fertilization between different streams within the tradition. For this reason it is very difficult to derive a satisfactory stemma. 21 manuscripts were used to create the edition: LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4, Llst 168, Pen 80, BL 14866, CM 5, Llst 53, C 5.167, Stowe 959, Pen 72, Pen 121, BL 31059, LlGC 5273D, LlGC 6499B, LlGC 5283B, LlGC 17114B, CM 312, BL 14978, Pen 63 and Pen 82. The others are either dependent on these or too similar to them or poor to offer any readings of value. The beginning and end of the text have been lost from Pen 82 (1–10, 77–86) and the remainder is unreadable in places. The end of Gwyn 4 is lost (71–86). The beginning of BL 31059 (1–24) is also lost.

stema
Stemma

Previous editions
GGl poem LIII. Rowlands 1976: poem 7. Lewis 1982a: poem 20.

Metre and cynghanedd
Cywydd, 86 lines.
Cynghanedd: croes 55% (47 lines), traws 28% (24 lines), sain 14% (12 lines), llusg 3% (3 lines).

1 Dawns o Bowls  The Dance of Death, a devotional image which arose during the late Middle Ages. It shows men and women of different ranks, from the pope down to the peasant, dancing with the corpses of the dead. The first image of the dance was created c.1425 in Paris, and in the 1440s a version was made at St Paul’s, London. That is why it was called ‘the daunce of Powles’ in English. See Clark 1950: 11–13 and Binski 1996: 153–4. The appearance of the Dance of Death in Wales is discussed in Breeze 1987. D. Roy Saer argues that Guto was also playing on the idea of the May dance, which was held around a maypole. Saer shows that there was a close connection between summer dances and fighting: at this time of year, mock-battles between summer and winter were acted out. He also cites evidence from eighteenth-century Glamorgan concerning contests between different parishes intent on stealing each other’s maypoles. See Saer 1969: 265–76. However, Breeze 1987: 96 argues strongly against this; in his view, the expression dawnse of Powles, seen in fifteenth-century records from Salisbury, refers to the Dance of Death and not, as Saer argued, to dancing around a maypole.

1 doe  It is a convention in marwnadau (elegies) to describe the death as happening yesterday (ddoe), see Edwards 2000: 25.

1 doe’n  Only a small number of preverbal particles can be used in conjunction with an infixed pronoun, a, na, y, &c., and it is highly unlikely that an adverb such as doe could do so. The likelihood is that doe y’n has been elided here.

2 holl dynion  Though lenition is normal after holl, it can be suppressed in the combination -ll d-, see TC 93 (which notes this line and 8 below).

3 Dinas y Garrai  Doncaster, literally ‘the fortress of the thong’. The story comes from the ‘Historia Regum Britanniae’ by Geoffrey of Monmouth. The English leader Hengest received Vortigern’s permission to make a dwelling for himself on as much land as could be enclosed by a thong of leather. He cut the whole hide of a bull into one single thong and thus enclosed enough land to build a castle, Caer y Garrai or Doncaster (Thanccastre from thanc, i.e. thong), see BD 94 and Reeve and Wright 2007: 128–9. The revolt which led to the battle of Edgecote began in Yorkshire, the shire in which Doncaster lies, and it is very likely that the rebels passed through Doncaster on their way south, see the map in Haigh 1997: 20. In his discussion of the dance imagery in this poem, D. Roy Saer (1969: 279–80) suggests a possible reference to a sword dance, since dances of that kind have a particular link to the north of England. That would certainly fit the context well. However, Saer is no longer confident that any evidence really supports the existence of sword dances in Yorkshire during this period (personal communication).

4 ieirll  The reason for the plural is unclear. William Herbert is certainly one of the earls. Perhaps the earl of Warwick, the éminence grise of the rebellion, is another, though he was not present at the battle, or it may be that Humphrey Stafford, earl of Devon, is meant, see 17n.

5 duw Llun  24 July 1469.

5 bu waed  For the lenition, see TC 308.

6 amliw  Can be an adjective ‘multicoloured … speckled, spotted’ or a noun ‘stain’, see GPC2 228. It is taken to be figurative here.

6 diwedd ymladd  An extreme description of the effect of Herbert’s fall.

7 duw Iau  27 July 1469, the day of Herbert’s execution at Northampton.

7 y dydd dduw Iau  y dydd is redundant here. Rowlands (1976: 79) takes dwyn y dydd to mean ‘to win the day, gain the victory’, but that leaves line 8 dangling. Better to take Iarll Dwywent a’r holl Deau as the object of dug.

8 Dwywent  Gwent was divided into two parts, Is Coed and Uwch Coed.

9 marchog  Sir Richard Herbert, cf. 11.

9 duw Merchyr  This evidence that Sir Richard Herbert was executed the day before his brother is supported by Bedo Brwynllys (Lewis 1982: 30.54 Duw Mercher wedi marchog ‘On Wednesday, later, a knight’) and Hywel Swrdwal (GHS 7.54 A’r marchog ar y Merchyr ‘And the knight on the Wednesday’).

12 North  The poets’ usual name for the north of England or its inhabitants. The form Nordd is also found, as in 26.

13 Duwmawrth  The poet is counting backwards from Thursday, the day of William Herbert’s execution (7) to Monday, the day of the battle (14). Nothing particular apparently happened on the Tuesday, but it has to be mentioned in its place in the sequence, so the poet explains that there was woe for Herbert’s party on the Tuesday on account of the loss of Thomas Vaughan on the Monday.

13 Tomas  Thomas Vaughan of Hergest, half-brother of William Herbert through his mother.

14 gyda’i frawd  William Herbert, see the previous note. Gyda ‘with’ here must mean ‘side by side with’ not ‘along with’, since as we know, Herbert himself perished three days later.

15 pedwarllu  It is unclear whether the reference to four is specific or merely a general ‘large amount’.

16 Dydd Farn  The article is omitted but the lenition which it would have caused is retained, cf. TC 466 for other examples.

17 Arglwydd difwynswydd Defnsir  Humphrey Stafford, earl of Devon. Other sources agree that he failed in some way to fulfil his duty, but disagree on the nature of the failure, see Lewis 2011: 106–7, and cf. Thomas 1994: 63–5 and Haigh 1997: 36–7.

17 difwynswydd  Ambiguous, and surely deliberately so. difwyn can mean ‘unpleasant’ or ‘nasty’, and also ‘worthless, without profit’. swydd might refer to the duties or role of the earl of Devon, but also, in its other meaning ‘shire’, to Devon itself, see GPC 3370. That would give us ‘lord of the worthless shire of Devon’, among other possibilities.

17  Contains the fault known as crych a llyfn, in which the consonant which precedes the stressed vowel in the first half of the line follows it in the second (f in difwynswydd and Defnsir).

18 ni chafas oes hir  Stafford was executed at Bridgewater, Somerset, on 17 August 1469 (DNB2 52.54–5). That gives us a terminus post quem for this poem.

19 bradwyr  Guto is surely thinking of Richard Neville, earl of Warwick, and George, duke of Clarence, the true instigators of the rebellion, or possibly Humphrey Stafford (17n, 18n).

20 Banbri  Banbury, Oxfordshire. The most detailed analysis of the battle site and the course of the fighting is in Haigh 1997, see especially the maps (38–48). Herbert’s army would have passed through Banbury, and would have stayed there or thereabouts on the night before the battle, see Haigh 1997: 36–7. That is probably why the Welsh poets consistently refer to the battle of Banbury rather than Edgecote, which is more normal in English. Edgecote is a small village near to where the battle is believed to have been fought.

23–4 Ymladd tost … / … hynt yn Norhantwn  Herbert’s execution at Northampton will lead to cruel vengeance being exacted upon those responsible. It is unclear whether hynt refers to William Herbert’s forced journey to Northampton, or a revenging foray by his supporters which the poet predicts.

24 yn  In Middle Welsh yn can introduce the destination of a movement, although only i would be used today, see GPC 3813–14 s.v. yn1 2(a).

24 Norhantwn  William Herbert was executed at Northampton (Thomas 1994: 70–1).

28 y cyffredin  That is, the common people.

34 Aerwy mawr o aur a main  As a knight William Herbert would have worn a golden collar.

35 y blaned ddu  Saturn.

36 drwy’r fâl  According to GPC 1266 fâl is a common noun borrowed from English vale. There is no reason to take it as a place name here as in GGl 341, which suggests the Golden Valley in Herefordshire.

37 uwch  uchel has wider meanings in the Middle Ages than now, including ‘intense, heavy, great’, see GPC 3694 (c).

41 tair tynged  A classical image. Three women determined the length of every person’s life: Clotho would weave the thread of life, Lachesis would measure it, and Atropos would cut it when the time came to die. See Graves 1960: i.48–9. They are named in Iolo Goch’s elegy for the sons of Tudur Fychan, see GIG VI.73n–6.

41 ton  An adjective was generally not lenited in the combination tair + feminine noun + adjective in the medieval period, see TC 64.

43 cogeilyn  A distaff, used for weaving wool, see GPC 540.

48 Atropos  See 41n tair tynged.

51 plant Alis  The English. Rhonwen or Alis (Alice) was the daughter of Hengest according to legend, see WCD 559 and Williams 1966–8: 301–3.

54 na’i dyrau  Either the towers of Raglan castle or, as in 52, used figuratively for the men who were killed in the Edgecote campaign: if the latter, understand i dai’r gŵr nac [i dai] ei dyrau ‘into the men’s houses nor into the houses of its tower-like men’

57 Calan  Name of the first day of each month in the Roman calendar (kalendae), then also specifically 1 January, see GPC 390 s.v. calan1.

58 ar ganol glan  Raglan castle does not stand beside a river or stream, so the edge of the moat is probably meant. There may be a play on the supposed etymology of Rhaglan (rhag ‘in front of’ + glan ‘bank’).

59 rhodio  Guto is referring to himself, lamenting that he will no longer be able to sustain his bardic circuit in Gwent without Herbert’s support.

60 oedd  The relative pronoun is often elided before oedd, see GMW 61.

63–4 Merddin Wyllt … / Amhorfryn  See WCD 492–500. Merlin Silvester went mad following the battle of Arthuret (Arfderydd), where his patron Gwenddolau was killed, see WCD 496 and Clarke 1973. The comparison with the poet is pointed given that Merlin too was considered a poet.

66 rhwng clustiau’r hydd  According to the ‘Vita Merlini’ of Geoffrey of Monmouth, Merlin came out of the forest for his wife’s second marriage. He was riding a stag, and the reader might assume that he was on the animal’s back. Nothing is said there about his being between its ears, i.e. on its head. For the line, see Clarke 1973: 75 (ll. 453) cervoque resedit ‘He seated himself on a stag’.

69 ffrwyno Ffrainc  Herbert fought in France in his youth, see Thomas 1994: 14.

70 Camreol Cymry ieuainc  The exact same line is found in Lewys Glyn Cothi’s poem to the saints of Wales (GLGC 7.14).

73 a gân’  The poet does not say who are the men he fears, the English or the aliens mentioned in 75.

75 aliwns  Foreigners, more particularly people not subject to the Crown of England. The English word was borrowed into Welsh. For the hostility of the English towards aliens in the fifteenth century, see Griffiths 1998: 167–71.

79 atyn’  Taken with traws, not trais: Sir Roger is a man mighty enough to face the evildoers. For at denoting a destination, target or purpose, not necessarily in conjunction with a verb, see GPC2 503 s.v. at (2).

80 Syr Rhosier  Sir Roger Vaughan of Tretower, half brother of William Herbert and full brother of the Thomas Vaughan who was killed during the battle. Guto’s faith in him was to be disappointed: he was killed by Jasper Tudor in 1471, and Guto complains bitterly about his execution in poem 25.

81 trimaib  William Herbert II, now earl of Pembroke, and Walter Herbert are the two known legitimate sons. Guto was to compose for both in the years after 1469. The third son is difficult to identify. In his will William Herbert I names three illegitimate sons, but no other legitimate one (Thomas 1994: 108). Is one of these meant here?

86 Iarll o’i fab arall a fo  Take arall with iarll, not mab, for sense. The meaning is that Guto wishes to see William, the earl’s son who has now inherited the title, beget yet another earl in turn.

Bibliography
Binski, P. (1996), Medieval Death (London)
Breeze, A. (1987), ‘The Dance of Death’, CMCS 13: 87–96
Clark, J.M. (1950), The Dance of Death in the Middle Ages and the Renaissance (Glasgow)
Clarke, B. (1973) (ed.), Life of Merlin: Geoffrey of Monmouth, Vita Merlini (Cardiff)
Edwards, H.M. (2000), ‘Dwyn Marwnadau Adref’, LlCy 23: 21–38
Graves, R. (1960), The Greek Myths (second ed., Harmondsworth)
Griffiths, R.A. (1998), The Reign of King Henry VI (second ed., Stroud)
Haigh, P.A. (1997), ‘… where both the hosts fought …’: The Rebellions of 1469–70 and the Battles of Edgecote and Lose-Cote Field (Heckmondwike)
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury Through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982a), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lewis, W.G. (1982b), ‘The Exact Date of the Battle of Banbury, 1469’, Bulletin of the Institute of Historical Research, LV: 194–6
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Rowlands, E.I. (1976) (ed.), Poems of The Cywyddwyr: A Selection of Cywyddau c.1375–1525 (Dublin)
Saer, D.R. (1969), ‘Delweddaeth y Ddawns Werin a’r Chwaraeon Haf ym Marwnad Guto’r Glyn i William Herbert’, THSC: 265–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1966–8), ‘Ronwen; Rhawn Gwynion’, B xxi: 301–3

Cliciwch ar rif llinell i weld amrywiadau
Image Dialog
Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, 1423–m. 1469

Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469

Top

Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.

Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.

Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

lineage
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro

Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.

lineage
Teulu Wiliam Herbert o Raglan

Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.

Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).

Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.

Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).

Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.

Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.

Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).

Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.

Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).

Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).

Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).

Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).

Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).

Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.

Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.

Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.

Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.

Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.

Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)


Top
  • AASTAnglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions, 1913- ŷŵ
  • ActauActauyr Apostolion yn y Testament Newydd
  • ActsThe Acts of the Apostles in the New Testament
  • APD.Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934)
  • Arch CambArchaeologia Cambrensis, 1846
  • ArchifMRCronfa Ddata Enwau Lleoedd: Archif Melville Richards / Archif Melville Richards Place-name Database
  • <http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr>
  • Arm PIfor Williams (gol.), Armes Prydein o Lyfr Taliesin (Caerdydd, 1955)
  • Arm P2Ifor Williams (ed.), Armes Prydain from the Book of Taliesin, English version by Rachel Bromwich (Dublin, 1972)
  • ASCentM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Apocrya Sin Cent (Aberystwyth, 2004)
  • BBwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1921-93
  • BaLlawysgrif yng nghasgliad Prifysgol Cymru, Bangor
  • Ba(M)Llawysgrif yng nghasgliad Bangor (Mostyn) ym Mhrifysgol Cymru, Bangor
  • BarnwyrLlyfry Barnwyr yn yr Hen Destament
  • BDHenry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • BDeD.Simon Evans, Buchedd Dewi (Caerdydd, 1959)
  • BDGOwen Jones a William Owen (goln.), Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • BeirnJ. Morris Jones, Y Beirniad (1911-20)
  • BettisfieldCasgliad Bettisfield yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / The Bettisfield collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BLLlawysgrifau Ychwanegol yngnghasgliad y Llyfrgell Brydeinig, Llundain / The Additional Manuscripts in the British Library, London
  • BlBGCC Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Llandybe, 1994)
  • Bl BXIV Dafydd Johnston (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif arDdeg (Llandybe, 1989)
  • BodLlawysgrif yng nghasgliad Bodewryd, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth / A manuscript in the Bodewryd collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BodWLlawysgrif Gymreig yng nghasgliadLlyfrgell Bodley, Rhydychen / A Welsh manuscript in the Bodleian Library, Oxford
  • 1 BrenhinoeddLlyfr Cyntaf y Brenhinoedd yn yr Hen Desatement
  • 2 BrenhinoeddAil Lyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament
  • BrenSaesThomas Jones (gol.), Brenhinedd y Saesson (Caerdydd, 1971)
  • BritishHOBritish History Online http://www.british-history.ac.uk>
  • BrMIfor Williams (gol.), Breuddwyd Maxen (Bangor,1908)
  • BrM2Brynley F. Roberts (ed.), Breudwyt Maxen Wledic (Dublin, 2005)
  • BrogLlawysgrif yng nghasgliad Brogyntyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Brogyntyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • BRhMelville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948)
  • BTThomasJones (gol.), Brut y Tywysogyon PeniarthMs. 20 (Caerdydd, 1941)
  • BYThomas Jones (gol.), Y Bibyl Ynghymraec (Caerdydd, 1940)
  • ByCyY Bywgraadur Cymreig hyd 1940(Llundain, 1953)
  • ByCy Ar-leinY Bywgraffiadur Ar-lein
  • <http://yba.llgc.org.uk/cy/index.html>
  • CLlawysgrifyn Llyfrgell Ganolog Caerdydd / A manuscript in Cardiff Central Library
  • CAIfor Williams (gol.), Canu Aneirin, (Caerdydd, 1938)
  • CAMBMCatalogueof Additions to the Manuscripts in the British Museum
  • CCJ. Fisher (ed.), The Cefn Coch MSS (Liverpool, 1889)
  • CCRCalendarof the close rolls preserved in the Public Record Office [12721509] (London,1900-63)
  • CDJohn Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925)
  • CFGMelville Richards, Cystrawen y Frawddeg Gymraeg (ail arg.,Caerdydd, 1970)
  • CLC2Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (ailarg., Caerdydd, 1997)
  • CLlHIfor Williams (gol.), Canu Llywarch Hen (Caerdydd, 1935)
  • CLlLlBrynley F. Roberts (ed.), CyfrancLludd a Llefelys (Dublin, 1975)
  • CMLlawysgrif yng nghasgliad Cwrtmawr, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Cwrtmawrcollection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • CMCSCambridge Medieval Celtic Studies,19811993; Cambrian Medieval CelticStudies, 1993
  • CMOC2Dafydd Johnston (gol.), Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (ailarg., Pen-y-bont ar Ogwr, 1998)
  • CO3 Rachel Bromwich a D. Simon Evans(goln.) gyda chymorth D.H. Evans Culhwchac Olwen (Caerdydd, 1997)
  • CPRCalendar of Patent Rolls preserved in the Record Office (London, 18911986)
  • CSTBP.J.Donovan (gol.), Cywyddau Serch y Tri Bedo(Caerdydd, 1982)
  • CTIfor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • CTCCatrin T. Beynon Davies, `Cerddir TaiCrefydd (M.A. Cymru [Bangor], 1973)
  • CyY Cymmrodor, The Magazine of the HonourableSociety of Cymmrodorion, 18771951
  • CylchgCHSFeirCylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirion (n)ydd, 1949
  • CylchgHCCylchgrawnHanes Cymru, 1960
  • Cylchg LlGC Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1939
  • ChOIfor Williams (gol.), Chwedleu Odo (Wrecsam, 1926)
  • 1 Chronicles The First Book of the Chronicles in the Old Testament
  • 2 Chronicles The Second Book of the Chronicles in the Old Testament
  • Datguddiad`Datguddiad Ioan' yn y Testament Newydd
  • DBHenry Lewis a P. Diverres (goln.), Delwy Byd (Caerdydd, 1928)
  • DEThomas Roberts (gol.), Gwaith Dafydd ab Edmwnd (Bangor, 1914)
  • DGAHelenFulton (ed.), Selections from the Dafyddap Gwilym Apocrypha (Llandysul, 1996)
  • DGG Ifor Williams a TRoberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym ai Gyfoeswyr (Bangor, 1914)
  • DGG2Ifor Williams a T. Roberts (goln.), Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr(ail arg., Caerdydd, 1935)
  • DG.netDafydd ap Gwilym.net <http://www.dafyddapgwilym.net>
  • DNThomasRoberts and Ifor Williams (eds.), ThePoetical Works of Dafydd Nanmor (Cardi and London, 1923)
  • DNB2H.C.G. Matthew and B. Harrison (eds.), Oxford Dictionary of National Biography (Oxford, 2004)
  • DNBOnlineOxford Dictionary of National Biography <http://www.oxforddnb.com/>
  • DWBWelsh Biography Online
  • <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • DWHMichael Powell Siddons, The Development of Welsh Heraldry (3vols., Aberystwyth, 19913)
  • L.Dwnn: HVS.R. Meyrick (ed.), Heraldic Visitations of Wales (Llandovery,1846)
  • EANCR.J. Thomas, Enwau Afodyn a Nentydd Cymru Caerdydd, 1938)
  • EEWT.H. Parry-Williams, The English Element in Welsh (Londons, 1923)
  • tudesÉtudes celtiques, 1936
  • EVWM.E. Griths, Early Vaticination in Welsh with English Parallels (Cardi, 1937)
  • EWGTP.C. Bartrum (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, 1966)
  • GJ. Lloyd-Jones (gol.), Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg(Caerdydd, 1931-63)
  • GazMFEWGazetter of Markets and fairs in England and Wales to 1516 <http://www.history.ac.uk/cmh/gaz/gazweb2.html>
  • GBDdGwaith Bleddyn Ddu, gol. R. Iestyn Daniel (Aberystwyth, 1994)
  • GBFRhian M. Andrews et al. (goln.), Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill AilHanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1996)
  • GCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Casnodyn (Aberystwyth, 1999)
  • GCBMiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,i (Caerdydd, 1991)
  • GCBMiiNerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (goln.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr,ii (Caerdydd, 1995)
  • GDBN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o FeirddHanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Caerdydd, 1995)
  • GDCR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o LyfrCoch Hergest (Aberystwyth, 2002)
  • GDEpOwen Thomas (gol.), Gwaith Dafydd Epynt (Aberystwyth, 2002)
  • GDG Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym(Caerdydd, 1952)
  • GDG3 Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (trydydd arg., Caerdydd, 1979)
  • GDGorErwain H. Rheinallt (gol.), Gwaith Dafydd Gorlech (Aberystwyth,1997)
  • GDIDA.Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992)
  • GDLlW. Leslie Richards (gol.), Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn(Caerdydd, 1964)
  • Genesis`Llyfr Genesis' yn yr Hen Destament
  • GenesisThe Book of Genesis in the Old Testament
  • GEOR. Geraint Gruydd a Rhiannon Ifans(goln.), Gwaith Einion Oeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, gol. (Aberystwyth, 1997)
  • GGDTN.G. Costigan (Bosco) et al. (goln.), Gwaith Gruudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995)
  • GGHD.J. Bowen (gol.), Gwaith Gruudd Hiraethog (Caerdydd, 1990)
  • GGGrBarry J. Lewis ac Eurig Salisbury (goln.), Gwaith Gruffudd Gryg(Aberystwyth 2010)
  • GGlJ. Llywelyn Williams ac Ifor Williams (goln.), Gwaith Gutor Glyn (Caerdydd, 1939)
  • GGl2 J. Llywelyn Williams ac Ifor Williams(goln.), Gwaith Guto'r Glyn (ail arg., Caerdydd, 1961)
  • GGLlRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Gruudd Llwyd ar Llygliwiaid Eraill(Aberystwyth, 2000)
  • GGMDiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, i, Canu i deulu Penmynydd (Aberystwyth, 2003)
  • GGMD iiBarry J. Lewis (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, ii, Canu Crefyddol (Aberystwyth, 2005)
  • GGMDiiiAnn Parry Owen (gol.), Gwaith Gruudd ap Maredudd ap Dafydd, iii, Canu Amrywiol (Aberystwyth, 2007)
  • GGrGRhiannon Ifans, Ann Parry Owen,W. Dyfed Rowlands ac Erwain H. Rheinallt (goln.), Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog, Mab Clochyddyn, Gruudd ap Tudur Goch ac Ithel Ddu (Aberystwyth, 1997)
  • GHCIslwyn Jones (gol.), Gwaith Hywel Cilan (Caerdydd, 1963)
  • GHCEMHuw Ceiriog Jones (gol.), Gwaith Huw Ceiriog ac Edward Maelor(Caerdydd, 1990)
  • GHDA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Huw ap Dafyddap Llywelyn ap Madog (Aberystwyth, 1995)
  • GHSDylanFoster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwala'i deulu (Aberystwyth, 2000)
  • GIBHGwaithIeuan Brydydd Hir (gol.), M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2000)
  • GIFHowell L. Jones ac E.I. Rowlands(gol.), Gwaith Iorwerth Fynglwyd(Caerdydd, 1975)
  • GIGD.R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988)
  • GILlFM. Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan, Ieuan Llwyd Brydydd a Lewys Aled (Aberystwyth, 2003)
  • GIRhR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Ieuan ap Rhydderch (Aberystwyth,2003)
  • GLDA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Lewys Daron (Caerdydd, 1994)
  • GLGCDafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd,1995)
  • GLMEurys I. Rowlands, Gwaith Lewys Mn (Caerdydd, 1975)
  • GLMorgA. CynfaelLake (gol.), Gwaith Lewys Morgannwg (dwy gyfrol, Aberystwyth, 2004)
  • GLlR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Llawdden (Aberystwyth, 2006)
  • GLlBHAnn Parry Owen a Dylan Foster Evans(gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996)
  • GLlFKathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994)
  • GLlGDafydd Johnston (gol.), Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen(Aberystwyth, 1998)
  • GLlLlElin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn `Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1989)
  • GMBJ.E. Caerwyn Williams et al. (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994)
  • GMBrA. Cynfael Lake (gol.), Gwaith Mathau Brwmld (Aberystwyth,2002)
  • GMDHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Madog Dwygraig (Aberystwyth,2006)
  • GMRhEnid Roberts (gol.), Gwaith Mareduddap Rhys ai Gyfoedion (Aberystwyth, 2003)
  • GMWD. Simon Evans, A Grammar of Middle Welsh (Dublin, 1964)
  • GMWLTimothy Lewis, A Glossary of Mediaeval Welsh Law (Manchester,1913)
  • GOE. Bachellery (d.), Loeuvre potique de Gutun Owain(Paris, 19501)
  • GOLlMEurys Rolant (gol.), Gwaith Owain ap Llywelyn ab y Moel(Caerdydd, 1984)
  • GP G.J. Williams ac E.J. Jones (gol.), Gramadegaur Penceirddiaid (Caerdydd,1934)
  • GPBHuw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan, Rhys ap Dafydd ab Einion, Hywel Ystorm, a cherddi dychan dienw o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth,2000)
  • GPCGeiriadur Prifysgol Cymru (Caerdydd, 1950)
  • GPC2Geiriadur Prifysgol Cymru (ail argraad, Caerdydd, 2003)
  • GPhEM.Paul Bryant-Quinn (gol.), Gwaith Syr Phylib Emlyn, Syr Lewys Meudwy a Mastr Harri ap Hywel (Aberystwyth, 2001)
  • GRhBEurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Rhys Brydydd a Rhisiart ap Rhys (Caerdydd,1976)
  • GRhGEDylan Foster Evans (gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007)
  • GSCA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin Ceri (Aberystwyth, 1996)
  • GSCyfR. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd 'Sypyn Cyfeiliog a Llywelyn ab y Moel (Aberystwyth, 1998)
  • GSDTRhiannon Ifans (gol.), Gwaith Syr Dafydd Trefor (Aberystwyth, 2005)
  • GSHA.Cynfael Lake (gol.), Gwaith Sin ap Hywel (Aberystwyth, 1999)
  • GSRhNerys Ann Jones ac Erwain Haf Rheinallt(gol.), Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn,Gruudd Fychan ap Gruudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth,1995)
  • GSTEnid Roberts (gol.), Gwaith Sin Tudur (2 gyf., Caerdydd,1980)
  • GTPThomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap TudurPenllyn, gol. (Caerdydd, 1958)
  • GwynLlawysgrif yng nghasgliad J. Gwyneddon Davies, yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor
  • GyBDafydd Johnston (gol.), Galar y Beirdd: Marwnadau Plant/Poets'Grief: Medieval Welsh Elegies for Children (Caerdydd, 1993)
  • HCLlLeslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac Eraill(Caerdydd, 1953)
  • HPEHistoriaPeredur vab Efrawc, gol. Glenys Witchard Goetinck (Caerdydd, 1976)
  • HPFJ.Y.W. Lloyd, The History of Powys Fadog, (6 vols., London, 18817)
  • IDIfor Williams (gol.), Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor,1909)
  • IGEHenry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (Bangor, 1925)
  • IGE2Henry Lewis, Thomas Roberts ac IforWilliams (gol.), Cywyddau Iolo Goch acEraill (ail arg., Caerdydd, 1937)
  • IGPDafydd Johnston (ed.), Iolo Goch: Poems (Llandysul, 1993)
  • Ioan`Yr Efengyl yn l Sant Ioan' yn y Testament Newydd
  • JMHRSJournalof the Merioneth Historical and Record Society, 1949
  • JohnThe Gospel according to John in theNew Testament
  • JudgesThe Book of Judges in the Old Testament
  • KAA 2Patricia Williams (gol.), Kedymdeithyas Amlyn ac Amic (Caerdydd,1982)
  • 1 KingsThe First Book of the Kings in the Old Testament
  • 2 KingsThe Second Book of the Kings in the Old Testament
  • LBSS. Baring-Gould and J. Fisher, The Lives of the British Saints (4vols., London, 190713)
  • Luc`Yr Efengyl yn l Sant Luc' yn yTestament Newydd
  • LukeThe Gospel according to Luke in theNew Testament
  • LlAJ. Morris Jones and John Rhŷs (eds.), The Elucidarium from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi (Oxford, 1894)
  • LlBS.J. Williams a J.E. Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn l Llyfr Blegywryd(Caerdydd, 1942)
  • LlCyLlnCymru, 1950
  • LlGCLlawysgrif yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the collection of theNational Library of Wales, Aberystwyth
  • LlIAled Rhys Wiliam (ed.), Llyfr Iorwerth (Cardi, 1960)
  • LlstLlawysgrif yng nghasgliad Llanstephan, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Llanstephan collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Marc`Yr Efengyl yn l Sant Marc' yn y Testament Newydd
  • MarkThe Gospel according to Mark in the New Testament
  • Mathew`Yr Efengyl yn l Sant Mathew' yn y Testament Newydd
  • MatthewThe Gospel according to Matthew in the New Testament
  • MCFY Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau / The Index to Welsh Poetry inManuscript
  • <http://maldwyn.llgc.org.uk>
  • MEDMiddle English Dictionary (Michigan, 1963)
  • MonWMonastic Wales <http://www.monasticwales.org>
  • MontCollCollections Historical and Archaeological... by the Powysland Club, 1868
  • MosLlawysgrif yng nghasgliad Mostyn, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Mostyn collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • MWMDaniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Cardiand Aberystwyth, 2000)
  • NCENewCatholic Encyclopaedia (New York, 1967-79)
  • NCLWMeic Stephens (ed.), The New Companion to the Literature of Wales(Cardiff, 1998)
  • NLWJNational Library of Wales Journal, 1939
  • OBWVThomasParry (ed.), The Oxford Book of Welsh Verse (Oxford, 1976)
  • OCD3Simon Hornblower and Antony Spawforth(eds.), The Oxford Classical Dictionary(third ed., Oxford, 1996)
  • ODCC3F.L. Cross and E.A. Livingstone (eds.), The Oxford Dictionary of the Christian Church (third ed., Oxford, 1967, revised 2005)
  • OED2The Oxford English Dictionary (second ed., Oxford, 1989)
  • OED OnlineThe Oxford English Dictionary
  • <http://www.oed.com>
  • PACFJ.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Bangor, 1914)
  • PenLlawysgrif yng nghasgliad Peniarth, ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Peniarth collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • Peniarth49E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)
  • Peniarth67E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (ed.), Peniarth 67 (Cardiff, 1918)
  • Peniarth76E. Stanton Roberts a W.J. Gruffydd (gol.), Peniarth 76 (Caerdydd, 1927)
  • PKM Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)
  • PsalsmThe Psalms in the Old Testament
  • RBJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Bruts from the Red Book of Hergest (Oxford, 1890)
  • RCAHM (Anglesey)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Anglesey (London, 1937)
  • RCAHM (Caernarvonshire) An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Caernarvonshire (3 vols.,London, 1956, 1960, 1964)
  • RCAHM (Flint)An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, Vol II: County of Flint (London, 1912)
  • RCAHM (Merionethshire) An Inventory of Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire: Merionethshire (London, 1921)
  • RepWMDaniel Huws, Repertory of Welsh Manuscripts (iw gyhoeddi)
  • RevelationThe Revelation to John in the New Testament
  • RMJohn Rhs and J. Gwenogvryn Evans(eds.), The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest(Oxford, 1887)
  • RWMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), Report on Manuscripts in the Welsh Language(London, 18981910)
  • SalmauLlyfr y Salmau yn yr Hen Destament
  • SCStudiaCeltica, 1966
  • SoldierLMEThe Soldier in later Medieval England
  • <http://www.medievalsoldier.org>
  • StoweLlawysgrif o gasgliad Stowe yn yLlyfrgell Brydeinig
  • TAT. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926)
  • TCT.J.Morgan, Y Treigladau au Cystrawen (Caerdydd,1952)
  • TCHSTransactionsof the Caernarvonshire Historical Society, 1939
  • TCHSDdTrafodionCymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 1952
  • TCHSGTrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon,1939
  • TDHSTransactionsof the Denbighshire Historical Society, 1952
  • THSCTheTransactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1892/3
  • TLlMG.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)
  • TYP3Rachel Bromwich (ed.), Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (third ed., Cardi, 2006)
  • WATU Melville Richards, Welsh Administrative and TerritorialUnits (Cardi, 1969)
  • WBOnlineWelsh Biography Online <http://yba.llgc.org.uk/en/index.html>
  • WCDP.C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, 1993)
  • WGJ. Morris Jones, A Welsh Grammar (Oxford, 1913)
  • WG1P.C.Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (Cardiff, 1974)
  • WG2P.C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (Aberystwyth, 1983)
  • WHRThe Welsh History Review, 1960-
  • WMJ. Gwenogvryn Evans (ed.), The White Book Mabinogion (Pwllheli,1907; adargraffiad, Caerdydd, 1973)
  • WyLlawysgrif yng nghasgliad Wynnstay, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth / A manuscript in the Wynnstay collection at the National Library of Wales, Aberystwyth
  • YBJ.E. Caerwyn Williams (gol.), Ysgrifau Beirniadol, (Dinbych, 1965 )
  • YBHMorgan Watkin (gol.),Ystorya Bown de Hamtwn, (Caerdydd, 1958)
  • YCM2Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (ail arg.,Caerdydd, 1968)
  • YER. Iestyn Daniel (gol.), Ymborth yr Enaid (Caerdydd, 1995)
  • YEPWCGruffydd Aled Williams (gol.), Ymryson Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal (Caerdydd, 1986)
  • YGIVGwilymLloyd Edwards (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Caerdydd, 1999)
  • YMThA.O.H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1951)