Chwilio uwch
 

Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, c.1423–m. 1469

Wiliam Herbert oedd noddwr amlycaf Guto’r Glyn. Rhwng 1445, pan fu farw ei dad, a’i farwolaeth yntau yn 1469, enillodd le digyffelyb iddo’i hun yng ngweinyddiaeth de Cymru, ac yn ystod y 1460au ef oedd prif gefnogwr y Brenin Edward IV yng Nghymru gyfan. Roedd ei nawdd i farddoniaeth yn gymesur â’i uchelgais wleidyddol. Ef oedd noddwr yr ymryson rhwng Guto a Hywel Dafi a gynhaliwyd yn Rhaglan (cerddi 20 a 20a) a gwrthrych dau gywydd mawl (cerddi 21 a 23). Mae’r farwnad a ganodd Guto i’w goffáu yn 1469 (cerdd 24) ymhlith cerddi mwyaf teimladwy’r bardd. Canodd llawer o feirdd eraill i Wiliam Herbert: Dafydd Llwyd Mathafarn (GDLl cerddi 28 a 54, efallai 48), Lewys Glyn Cothi (GLGC cerddi 111 a 112), Hywel Swrdwal (GHS cerddi 4, 5 a 7) a Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Lluniodd Huw Cae Llwyd farwnad i Wiliam a’i frawd Rhisiart ar y cyd (HCLl cerdd 4). Byddai meibion y ddau frawd yn eu tro yn noddwyr blaenllaw i’r beirdd, gan gynnwys Guto’r Glyn. Ar nawdd yr Herbertiaid yn gyffredinol, gw. Lewis 1982.

Rhaid diystyru dwy gerdd y dywedir yn gyfeiliornus eu bod wedi eu canu i Wiliam Herbert. Awdl i’w frawd, Syr Rhisiart Herbert, ac yn bennaf oll i fab hwnnw, Syr Wiliam Herbert o Golbrwg, yw HCLl cerdd 2. Awgrymir mai mab Wiliam Herbert o Raglan yw gwrthrych cerdd a olygwyd gan Lewis (1982: cerdd 17 a gw. Wiliam Herbert o Raglan, ail iarll Penfro), nid Herbert ei hun: mae’r gerdd fel petai’n ymateb i’r tyndra a gododd rhwng yr Herbertiaid a’u perthnasau, y Fychaniaid, yn y 1470au, a cheir cyfeiriad tebygol at farwolaeth Wiliam Herbert yn llinell 46. Ceir ansicrwydd ynghylch un gerdd arall: gallai GDLl cerdd 48 fod yn gywydd i Wiliam neu i’w fab.

Achres
Seiliwyd yr achresi isod ar WG1 ‘Godwin’ 8. Dangosir y rheini a enwir gan Guto yn ei gerddi i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.

stema
Achres Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro

Wiliam Herbert oedd mab hynaf Syr Wiliam ap Tomas o Raglan, yntau’n ŵr a groesawodd Guto’r Glyn i’w gartref. Ei fam oedd Gwladus Gam, merch Syr Dafydd Gam o Aberhonddu. Roedd ganddo nifer o frodyr a chwiorydd, cyfreithlon ac yn anghyfreithlon. Yr amlycaf oedd ei frawd cyfreithlon iau, Rhisiart Herbert. Ail ŵr i Wladus oedd Syr Wiliam ap Tomas, ac roedd ganddi feibion o’i phriodas gyntaf â Syr Rhosier Fychan o Frodorddyn. Y meibion hyn, sef Water (Watgyn), Tomas a Rhosier Fychan, oedd hanner brodyr yr Herbertiaid a chefnogwyr ffyddlon iddynt.

stema
Teulu Wiliam Herbert o Raglan

Noddwyd Guto gan dri o feibion Wiliam, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, Water Herbert a mab anghyfreithlon, sef Wiliam Herbert o Benfro.

Ei gartrefi
Rhestrir y tai a fuasai ym meddiant Syr Wiliam ap Tomas yn 19.21–6. Aeth Colbrwg, ger y Fenni, i Risiart Herbert, a delid Tro ger Trefynwy gan Domas Herbert, brawd arall, cyn mynd i ddwylo Wiliam Herbert (Bradney 1991–4, 2.2: 162). Rhoddodd Herbert Dretŵr i’w hanner brawd Rhosier Fychan; roedd Rhosier yn byw yno erbyn 1457 (Ralegh-Radford 1960: 16). Ond daliodd Herbert ei afael ar brif gartref ei dad, sef castell Rhaglan, ac yno y trigai hyd ei farwolaeth. Roedd Syr Wiliam ap Tomas wedi dechrau noddi gwaith adeiladu mawr yn Rhaglan, a pharhaodd ei fab i gynnal y gwaith. Ceir ansicrwydd ai Wiliam Herbert ynteu ei dad a gododd y tŵr mawr (Emery 1975: 162–4, 167; Newman 2000: 490; Kenyon 2008: 114n69) ond yn sicr Wiliam Herbert a oedd yn gyfrifol am droi’r castell yn gartref gwirioneddol fawreddog drwy ailadeiladu’r ystafelloedd byw (ibid. 109).

Ei yrfa hyd 1461
Y prif bwyntiau yn unig a gaiff sylw yn y nodyn hwn, oherwydd mae gyrfa Wiliam Herbert yn ddeunydd llyfr sylweddol. Dyma ŵr a gododd o fod yn fonheddwr lleol i fod yn arglwydd a wysid i sesiynau’r Senedd ac a ddyrchafwyd, yn y pen draw, yn iarll, y Cymro cyntaf o waed llawn i dderbyn yr anrhydeddau hyn.

Ganed Wiliam Herbert o ail briodas ei dad, ac felly rhwng 1420 a marwolaeth Wiliam ap Tomas yn 1445. Awgryma R.A. Griffiths y dyddiad c.1423 (DNB Online s.n. Herbert, William). Mae’n bosibl ei fod yn farsiandïwr yn gynnar yn ei yrfa (Thomas 1994: 13 ac ibid. n3 yn enwedig). Yn sicr byddai ganddo yn nes ymlaen ddiddordebau sylweddol yn y fasnach ar hyd afon Hafren (Evans 1915: 75). Aeth i Ffrainc ym mlynyddoedd olaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn hyn o beth roedd yn dilyn ôl traed ei dad, a oedd wedi gwasanaethu Richard, dug Iorc, yn Normandi. Yn 1449 roedd Herbert yn gapten ar dref Carentan, ynghyd â’r milwr enwog o Gymro, Mathau Goch. Bu’n rhaid iddynt ildio’r dref i’r Ffrancwyr, a oedd erbyn hynny ar fin rhoi ergyd farwol i rym y Saeson yn Normandi (ibid. 75–6). Ymladdwyd y frwydr fawr olaf yn Formigny, 15 Ebrill 1450. Er bod Herbert wedi llwyddo i achub bywyd Mathau Goch ar faes y gad (cadarnheir hynny gan Lewys Glyn Cothi, GLGC 111.27–8), eto fe’i daliwyd ef ei hun gan y Ffrancwyr, a bu’n rhaid talu’n ddrud am ei ryddid (DNB Online s.n. Herbert, William).

Yn Awst 1449, yn ôl yng Nghymru, roedd Herbert wedi priodi Ann Devereux (Defras yn Gymraeg), merch i Sir Walter Devereux (Water Defras), tirfeddiannwr sylweddol yn swydd Henffordd (Thomas 1994: 13). Trwy’r briodas hon cryfhawyd dylanwad Herbert yn ardal Henffordd, ac yn ystod y blynyddoedd nesaf gwelir Herbert a Devereux yn gweithredu fel cynghreiriaid agos. Bu farw Walter Devereux yn 1459, ond parhau a wnaeth y berthynas agos rhwng y ddau deulu: gadawodd fab, a elwid hefyd Walter Devereux ac a oedd yr un mor ffyddlon i’w frawd yng nghyfraith ac y buasai’i dad (DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Ffurfiodd teuluoedd Herbert, Devereux a Fychan glymblaid gref a dylanwadol a ddaeth i lywodraethu dros arglwyddiaethau de-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos swyddi Henffordd a Chaerloyw. Disgrifir hwy fel ‘the Devereux-Herbert gang’ gan un hanesydd sydd wedi astudio’u gweithgareddau aflywodraethus yn swydd Henffordd yn ystod y 1450au (Herbert 1981: 107). Fel deiliaid a chefnogwyr Richard, dug Iorc, roedd yn anochel y caent eu tynnu i mewn i’r gwrthdaro rhwng y dug a llys y Brenin Harri VI yn y 1450au. Ar 10 Hydref 1452 derbyniodd Herbert bardwn cyffredinol, arwydd ei fod wedi cefnogi’r dug yn erbyn plaid y llys: eisoes yng Ngorffennaf y flwyddyn honno cyhuddwyd Sir Walter Devereux o deyrnfradwriaeth (Thomas 1994: 15; DNB Online s.n. Devereux, Walter). Ymddengys fod plaid y llys wedi ceisio denu Wiliam oddi wrth Richard, dug Iorc. Urddwyd ef yn farchog yn ystod y Nadolig, 1452 (DNB Online s.n. Herbert, William), yn fuan ar ôl i Siasbar Tudur, hanner brawd y brenin, gael ei wneud yn iarll Penfro. I’r cyfnod Tachwedd/Rhagfyr 1452 y perthyn y gerdd gyntaf hysbys i Herbert, sef GLGC cerdd 111, sy’n fawr ei chanmoliaeth i deyrngarwch Herbert tuag at Siasbar a’r Goron.

Ni pharhaodd y teyrngarwch hwn yn hir. Yn fuan ailgyneuwyd y gynnen, a hynny ar stepen drws Wiliam Herbert yn ne Cymru. Richard Neville, iarll Warwick, oedd biau arglwyddiaeth fawr Morgannwg, a gwasanaethai Herbert fel siryf yno drosto. Roedd yr iarll yntau’n gynghreiriad i Richard, dug Iorc. Yn 1453 cyhuddwyd Herbert o amddiffyn yr arglwyddiaeth drwy rym arfau yn erbyn dug Somerset a’i hawliai iddo’i hun gyda chefnogaeth plaid y llys (Pugh 1971: 196). Daeth arwydd arall o benderfynoldeb didrugaredd Wiliam Herbert ym mis Mawrth 1456, pan lofruddiwyd ei hanner brawd, Watgyn Fychan, yn Henffordd. Arweiniodd Herbert a Walter Devereux lu o gefnogwyr i Henffordd, gan feddiannu’r dref drwy rym a gorfodi’r awdurdodau yno i grogi’r dynion euog yn y man a’r lle. Canwyd cywydd gwaedlyd gan Hywel Swrdwal i goffáu’r digwyddiadau hyn ac yn galw am ddial Watgyn (GHS cerdd 23; Evans 2006). Ond chwarae bach oedd hyn o’i gymharu â digwyddiadau Awst 1456. Erbyn hynny roedd yr ymgiprys rhwng dug Iorc a’r llys yn cyrraedd penllanw. Arweiniodd Syr Wiliam Herbert a Sir Walter Devereux lu o wŷr arfog i dde-orllewin Cymru. Bu iddynt feddiannu castell Caerfyrddin yn enw dug Iorc a charcharu Edmwnd Tudur, hanner brawd y brenin, cyn cipio castell Aberystwyth hefyd (Thomas 1994: 15). Erbyn mis Hydref roedd Herbert yn codi llu arall yn arglwyddiaethau’r De-ddwyrain (ibid. 16n2). Er i Herbert gael ei garcharu dros dro yn Nhŵr Llundain, buan y maddeuwyd iddo (Ebrill/Mai 1457, gw. ibid. 16–17). Wedi hynny, ymddengys iddo dynnu’n ôl o’r gwrthdaro rhwng dug Iorc a’r llys brenhinol, ac mae’n debygol mai dyna sut y llwyddodd i gadw ei safle a’i swyddi ar ôl i’r dug ac iarll Warwick gael eu dyfarnu’n deyrnfradwyr ar ddiwedd 1459.

Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 1460. Daliwyd Harri VI yn sgil brwydr Northampton a daeth iarll Warwick yn feistr ar y sefyllfa. Comisiynwyd Herbert a Devereux i gynnal achos plaid Iorc yng Nghymru (Thomas 1994: 20). Ym mis Chwefror 1461 ymladdodd Herbert o blaid Edward, mab y dug, ym mrwydr Mortimer’s Cross, lle trechwyd byddin Siasbar Tudur (DNB Online s.n. Herbert, Wiliam). Aeth gydag Edward i Lundain a bu’n bresennol pan ddyrchafwyd ef yn frenin (Thomas 1994: 23; buasai dug Iorc ei hun farw yn Rhagfyr 1460). Wedyn fe’i dilynodd i ogledd Lloegr i wynebu’r Lancastriaid. Ymladdodd ym mrwydr dyngedfennol Towton (29 Mawrth 1461), fel y cadarnheir gan Lewys Glyn Cothi, sy’n sôn amdano’n ymladd yn Efrog (GLGC 112.33; mae safle’r frwydr yn swydd Efrog).

Goruchafiaeth yng Nghymru: 1461–9
I bob pwrpas dyrchafodd y brenin newydd Wiliam Herbert yn brif gynrychiolydd iddo yn ne Cymru. Afraid rhestru’r holl swyddi a roddodd i Herbert: digon yw nodi bod y brenin yn ystod y 1460au wedi rhoi i Herbert bob swydd o bwys a oedd ar gael iddo yn yr ardal hon. Ar 8 Mai 1461 gwnaed Herbert yn ustus, yn siambrlen, yn stiward ac yn brif fforestydd Deheubarth Cymru am oes (Thomas 1994: 24). Dyma roi yn ei feddiant diroedd y Goron yn ne-orllewin Cymru. Tua’r un pryd cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd Siasbar Tudur, sef iarllaeth Penfro, yn y De-orllewin (ibid.). Ym mis Medi cafodd gomisiwn i feddiannu tiroedd dug Buckingham yng Nghymru gan fod etifedd y teitl dan oed. Roedd dwy arglwyddiaeth fawr a chyfoethog yn eu plith, sef Brycheiniog a Gwynllŵg neu Gasnewydd (Thomas 1994: 25). Eisoes ym mis Gorffennaf 1461 fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Herbert. Dyrchafwyd Walter Devereux yn Farwn Ferrers of Chartley ar yr un pryd (Griffiths 2008: 266; DNB Online s.n. Devereux, Walter).

Roedd safle Herbert yn y De-ddwyrain yn gadarn, ond os dymunai wireddu’r pwerau a ddyfarnwyd iddo yn y Gorllewin, lle buasai Edmwnd a Siasbar Tudur yn cynnal achos Harri VI, byddai’n rhaid iddo ymladd drostynt. Ar 30 Medi ildiodd castell Penfro iddo ef a Walter Devereux (cf. 21.19–20). Yno y daeth mab ifanc Edmwnd Tudur, Harri, i ofal Herbert (Thomas 1994: 25–6). Ar 16 Hydref trechasant Siasbar Tudur ym mrwydr Twthill, y tu allan i dref Caernarfon (Ross 1974: 49). Bu ymgyrchu eto yn 1462, y tro hwn yn erbyn Tomas ac Owain, meibion Gruffudd ap Nicolas, a ddaliai gastell Carreg Cennen. Erbyn Mai 1462 ildiodd y castell i Risiart Herbert a Rhosier Fychan a difawyd ei amddiffynfeydd (Griffiths 1993: 28), buddugoliaeth y cyfeiria Guto ati yn 21.21–2.

Yn Chwefror 1462 grantiwyd tiroedd helaeth iawn i Herbert, gan gynnwys popeth a berthynai i iarllaeth Penfro a hefyd i arglwyddiaeth Gŵyr (tra oedd yr etifedd cyfreithiol dan oed). Hefyd grantiwyd Harri Tudur yn ward iddo. Talodd fil o bunnau am y grant olaf hwn, sy’n dangos nid yn unig mor werthfawr oedd Harri, ond hefyd mor fawr oedd adnoddau Herbert erbyn hynny (Thomas 1994: 28). Cyfeiria Dafydd Llwyd o Fathafarn at bresenoldeb Harri Tudur yn y llys yn Rhaglan, ac at fwriad Herbert i drefnu priodas rhyngddo a’i ferch, mewn cywydd a ganwyd rywdro yn y 1460au (GDLlM cerdd 28). Ym mis Mawrth derbyniwyd Herbert yn aelod o Urdd y Gardas (Thomas 1994: 28). Yn yr haf daeth yn arglwydd Crucywel (ibid. 29). Yn ystod gaeaf 1462–3 roedd Herbert a Devereux gyda’r brenin yng ngogledd Lloegr, yn wynebu ymgais gan y Lancastriaid i godi gwrthryfel yno (ibid.). Gwobrwywyd Herbert eto, y tro hwn â thiroedd yng Ngwlad-yr-haf, Dyfnaint a Suffolk (ibid. 30).

Roedd 1463 yn arwyddocaol hefyd am estyn awdurdod Herbert i ogledd Cymru: ym mis Mehefin rhoddwyd sir Feirionnydd yn ei ofal (ibid.). Ond damcaniaethol oedd yr awdurdod hwn, oherwydd arhosodd castell Harlech ym meddiant garsiwn a oedd yn ffyddlon i Harri VI, ac roedd y milwyr hyn yn gweithredu’n rhydd ar draws y sir. Mae’n debygol mai rywdro yn 1463/4 y canwyd GLGC cerdd 112, awdl fawreddog i Wiliam Herbert sy’n canmol ei wasanaeth yng ngogledd Lloegr, ei awdurdod yng Ngwynedd a’i fwriad i ymuno â’r Brenin Edward ar groesgad. Ni wireddwyd yr olaf, ond mae’n adlewyrchu’r sôn mynych a fu yn y blynyddoedd hyn am y posibilrwydd y byddai Edward yn arwain croesgad (Hughes 2002: 182–3).

Yn 1465 dyrchafwyd Rhaglan yn arglwyddiaeth y Mers, yn annibynnol felly ar Frynbuga (Thomas 1994: 32): dyma’r tro diwethaf i frenin Lloegr greu arglwyddiaeth o’r fath (DNB Online s.n. Herbert, William). Yn 1466 cafodd Herbert diroedd helaeth yn swydd Gaerloyw (Thomas 1994: 33–4). Rhwng 1465 a 1467 derbyniodd hefyd y swyddi pwysicaf yn yr arglwyddiaethau a berthynai i Edward IV fel iarll y Mars (Brynbuga, Buellt ac eraill: ibid. 34; Griffiths 2008: 267). Ym mis Medi 1466 priododd mab Wiliam Herbert â Mary Woodville, chwaer y frenhines (Thomas 1994: 45). Dathlwyd y briodas yn Windsor a’r seremoni i urddo’r gŵr ifanc yn farchog gan Hywel Swrdwal (GHS cerdd 6).

Ehangwyd rôl Herbert yn y Gogledd yn 1467. Meddiannodd arglwyddiaeth Powys tra oedd yr etifedd dan oed (Thomas 1994: 34). Apwyntiwyd ef hefyd yn ustus y Gogledd (ibid. 35). Yn olaf, cafodd feddiant o arglwyddiaethau Dinbych, Ceri, Cedewain a Threfaldwyn (ibid.).

Yn 1468 daeth gyrfa Herbert i uchafbwynt. Roedd castell Harlech wedi bod yn ddraenen yn ystlys y brenin byth ers ei ddyfodiad i’r orsedd. Yn 1468, o’r diwedd, awdurdododd Edward ymgyrch a fyddai’n rhoi terfyn ar wrthsafiad ystyfnig y garsiwn. Herbert a apwyntiwyd i arwain yr ymgyrch, a bu’n llwyddiant disglair, oherwydd ildiodd y castell ar 14 Awst 1468. Mae cerdd 21 yn dathlu’r achlysur hwn, fel hefyd cywydd Hywel Dafi (Lewis 1982: cerdd 16). Yn wobr am ei wasanaeth cafodd Herbert fraint nad oedd unrhyw Gymro o waed llawn eto wedi ei derbyn: iarllaeth. Dyrchafwyd ef yn iarll Penfro ar 8 Medi 1468. I flwyddyn olaf bywyd Wiliam Herbert, ar ôl iddo gael ei ddyrchafu, y perthyn cerdd 22 a 23. Tua’r un pryd, yn 1468, y daeth Herbert yn berchennog llawn ar arglwyddiaeth Gŵyr a phrynodd hefyd arglwyddiaeth Cas-gwent (Smith and Pugh 1971: 259).

Y ffrae gyda Richard Neville, iarll Warwick, a marwolaeth Wiliam Herbert
Go brin y gallai neb godi yn y byd i’r graddau y gwnaeth Wiliam Herbert heb ennill gelynion. Ei elyn pennaf oedd Richard Neville, iarll Warwick. Ef oedd prif gefnogwr Edward IV a dibynnai’r brenin newydd yn drwm arno. Rheolai’r iarll ogledd Lloegr dros y brenin mewn modd cyffelyb i Herbert yng Nghymru. Asgwrn y gynnen rhwng y ddau oedd y dylanwad mawr a enillodd Herbert ar y brenin, grym cynyddol Herbert yng Nghymru (lle roedd iarll Warwick yntau’n dirfeddiannwr o bwys) a’r berthynas agos rhwng Herbert a theulu’r frenhines, a ystyrid gan iarll Warwick yn fygythiad i’w ddylanwad ef. Yn 1469 cododd cefnogwyr iarll Warwick wrthryfel yng ngogledd Lloegr. Gwysiwyd Herbert o dde Cymru i wynebu byddin y gwrthryfelwyr, a oedd yn anelu tua’r de. Ar 24 Gorffennaf 1469 cyfarfu’r ddwy fyddin ger pentref Edgecote yn swydd Northampton, nid nepell o dref Banbury (Lewis 2011: 103–6). Ar ôl ymladd yn ddewr, trechwyd llu Herbert. Lladdwyd Tomas ap Rhosier Fychan, hanner brawd yr Herbertiaid, ar faes y gad, a daliwyd Wiliam Herbert a’i frawd Rhisiart. Aethpwyd â hwy i Northampton, ac ar 27 Gorffennaf dienyddiwyd Wiliam Herbert. Erys ar glawr gopi o’r atodiad i’w ewyllys olaf a ysgrifennodd ar fore’r diwrnod hwnnw (Thomas 1994: 109–10). Claddwyd Wiliam Herbert yn abaty Tyndyrn (am lun o’r beddrod cyn ei ddinistrio, gw. Lord 2003: 262). Canwyd marwnadau iddo gan Guto’r Glyn, Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd a Dafydd Llwyd Mathafarn.

Asesiad
Mae’n anodd pwyso a mesur arwyddocâd Wiliam Herbert ar gyfer y beirdd Cymraeg. Cred ddigon cyffredin ymhlith haneswyr yw eu bod wedi trin Herbert fel arwr i’w genedl (e.e. Ross 1974: 78 ‘in contemporary Welsh literature, where he appears as a national hero’). O ddarllen y cerddi sy’n ei ganmol, hawdd yw cytuno. Mae Hywel Swrdwal, er enghraifft, yn annog ei gynulleidfa i sylweddoli cymaint o fendith yw cael arglwydd o Gymro sy’n siarad Cymraeg yn lle’r Sais arferol (GHS 4.49–56). Ac, ar awr anterth grym Herbert yn 1468, mae Guto’r Glyn yn cyflwyno gweledigaeth y gellir ei galw’n un genedlaethol: dylai Herbert uno Cymru o un pen i’r llall o dan ei arweiniad (21.65–70). Yn sicr, taniwyd dychymyg y beirdd hyn gan rychwant awdurdod Herbert a’i agosrwydd at y brenin. Mae ysbryd Sieffre o Fynwy yn cyniwair drwy awdl Lewys Glyn Cothi (GLGC cerdd 112) lle darlunnir Herbert yn rheoli Cymru yn uniongyrchol o dan awdurdod y Brenin Edward IV, yr olrheinir ei ach yn ôl i frenhinoedd Brythonig Prydain.

Roedd y weledigaeth hon yn realistig, ond dim ond i’r graddau y cydnabyddid bod grym Herbert yn deillio, yn y pen draw, o’i berthynas â’r brenin. Er bod y beirdd yn annog Herbert i wrthsefyll y Saeson (e.e. 21.65–70), ni chlywir gair am herio’r Goron ei hun. Gweledigaeth Sieffre o Fynwy – Lloegr, Cymru a’r Alban, tair gwlad yn ffurfio un deyrnas o dan un goron, ac arglwyddi eilradd ond anrhydeddus yn rheoli Cymru a’r Alban o dan awdurdod y goron honno – yw cyd-destun y breuddwydion hyn. Rhaid cofio hyn wrth ddarllen geiriau Guto’r Glyn, yn annog Herbert i estyn am ‘y dalaith’ (23.58; cf. GDLl 28.4), sef nod tywysog Cymru. Un cymeriad nas enwir byth yn y canu i Herbert yw Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ennill awdurdod yng Nghymru a oedd hyd yn oed yn ymylu ar y grym a gynullodd Herbert. Y rheswm, yn ddiau, oedd bod ei wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn tynnu’n hollol groes i ddull Wiliam Herbert o ennill grym personol drwy aros yn gyson deyrngar i’w frenin. Wedi’r cwbl, bu taid Wiliam Herbert, Syr Dafydd Gam, yn un o elynion pennaf Owain.

Os ‘arwr cenedlaethol’ oedd Wiliam Herbert yng ngolwg y beirdd, felly, roedd hynny’n wir o fewn cyfyngiadau syniadau gwleidyddol y cyfnod. Ac roedd ochr arall i’r geiniog. Mae taerineb Guto’r Glyn wrth ymbil ar Herbert i arbed Gwynedd rhag ei ddicter (cerdd 21) yn awgrymu pa mor greulon y gallai Herbert fod. Mewn cenedlaethau diweddarach byddai storïau’n cylchredeg am yr anrheithio didrugaredd a ddioddefodd Gwynedd yn ystod ymgyrch 1468 (Evans 1915: 168–9). Mae’n amhosibl, wrth gwrs, i ni dreiddio o dan yr wyneb a gofyn sut yn union y teimlai gwŷr megis Lewys Glyn Cothi a Dafydd Llwyd Mathafarn, a fuasai’n gefnogwyr selog i’r Tuduriaid a theulu Gruffudd ap Nicolas, wrth iddynt ymlwybro draw i Raglan yn ystod y 1460au. Y tebyg yw ei bod yn sylfaenol amhosibl i fardd proffesiynol ennill bywoliaeth yn ne Cymru yn y degawd hwnnw heb gydnabod goruchafiaeth Herbert a’r cwlwm o deuluoedd a’i cefnogai. Ceir awgrym o hyn gan y bardd Llywelyn ap Gutun (GLlGt 15.5–6):

Nid rhydd man ym Morgannwg
Os diawl Gwent sy’n dala gwg.

Diau mai Herbert yw ‘diawl Gwent’, fel yr awgryma’r golygydd. Cofiwn fod Lewys Glyn Cothi wedi ffoi ar herw i Feirionnydd ar ddechrau’r 1460au. Yn ei awdl fawl i Herbert mae Lewys yn sôn am hawl Herbert i roi pardwn i’r rhai a oedd wedi gwrthwynebu Edward IV (GLGC 112.84). Erbyn 1463/4, ac awdurdod Herbert yn dechrau ymledu dros afon Dyfi, mae’n amlwg y bu’n rhaid i Lewys blygu’r glin i arglwydd Rhaglan. Mae’n dra phosibl fod GLGC cerdd 112 yn rhan o’r pris y bu’n rhaid i Lewys dalu i ennill pardwn.

Mae rhai o’r cerddi a ganwyd i Herbert fel petaent yn rhoi’r argraff fod eu hawduron yn ymdrechu’n lew i argyhoeddi eraill o fanteision ei oruchafiaeth. Mae awdl Hywel Swrdwal (GHS cerdd 4) yn enghraifft wiw o hyn, a GLGC cerdd 112 (e.e., llinellau 13–16). Maent hefyd yn sôn am wrthwynebwyr iddo. Gwir fod yr hen dopos ‘gŵr wrth ŵr, gwâr wrth wâr’ yn gyffredin mewn canu mawl Cymraeg, ond yn y cerddi i Herbert mae’r gwrthwynebwyr yn cael sylw annisgwyl ac mae pwyslais arbennig ar yr ofn y mae Herbert yn ei hennyn yn ei elynion (ibid. 112.29–32). Parhau y mae’r thema yn y marwnadau. Mae Hywel Swrdwal yn cydnabod y gallai Herbert fod yn drwm i rai (GHS 7.67). Sonia Dafydd Llwyd am ei ryfeddod fod Herbert yn ymddwyn mor rhwysgfawr, fel petai’n ymerawdwr (GDLl 54.57–8), ac mae’n ymbil ar ei gynulleidfa i faddau i Herbert am ei falchder a gweddïo dros ei enaid.

Mae’r canu ar gyfer y ‘national hero’ Wiliam Herbert yn ein hatgoffa nad yw gwaith y beirdd canoloesol yn fonolith. Yn hytrach, mae’n amrywio o fardd i fardd ac yn adlewyrchu gwahaniaethau barn. Mae hefyd yn rhan o ddisgwrs gwleidyddol ei ddydd, a’i syniadau am genedligrwydd yw rhai’r bymthegfed ganrif, nid heddiw.

Llyfryddiaeth
Bradney, J.A. (1991–4, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1904–33), A History of Monmouthshire, ail argraffiad (London (1–3.1), Cardiff (3.2–4), Cardiff and Aberystwyth (5))
Emery, A. (1975), ‘Raglan Castle and Keeps in Late Medieval England’, Archaeological Journal, 132: 151–86
Evans, D.F. (2006), ‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19: 42–72
Evans, H.T. (1915), Wales and the Wars of the Roses (Cambridge)
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Griffiths, R. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 241–79
Herbert, A. (1981), ‘Herefordshire, 1413–61: Some Aspects of Society and Public Order’, R.A. Griffiths (ed.), Patronage, the Crown and the Provinces in Later Medieval England (Gloucester), 103–22
Hughes, J. (2002), Arthurian Myths and Alchemy: The Kingship of Edward IV (Stroud)
Kenyon, J.R. (2008), ‘Masonry Castles and Castle Building’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords (Cardiff), 89–114
Lewis, B.J. (2011), ‘The Battle of Edgecote or Banbury (1469) through the Eyes of Contemporary Welsh Poets’, Journal of Medieval Military History, 9: 97–117
Lewis, W.G. (1982), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lord, P. (2003), Diwylliant Gweledol Cymru: Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd)
Newman, J. (2000), The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (London)
Pugh, T.B. (1971), ‘The Marcher Lords of Glamorgan, 1317–1485’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 167–204
Ralegh-Radford, C.A. (1960), ‘Tretower: The Castle and the Court’, Brycheiniog, 6: 1–50
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Smith. J.B. and Pugh, T. (1971), ‘The Lordship of Gower and Kilvey in the Middle Ages’, T.B. Pugh (ed.), Glamorgan County History, ii: The Middle Ages (Cardiff), 205–83
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)