Y llawysgrifau
Ceir y cywydd hwn mewn 18 llawysgrif. Perthyn LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 a C 2.617 gyda’i gilydd; gelwir hwy ‘grŵp Dyffryn Conwy’. Mae Gwyn 4 yn anghyflawn ar y dechrau oherwydd colli dalen ac mae Pen 99 yn anghyflawn ar y diwedd: mae’r ddwy yn asio â’i gilydd. Tardda Pen 99, felly, o ddalen grwydrol o Gwyn 4 a gellir adfer testun Gwyn 4 drwy gyfuno’r ddau. Copïau ar wahân yw LlGC 17114B a BL 14978. Mae’r holl gopïau eraill yn tarddu o’r rhai a drafodwyd eisoes ac ni roddwyd sylw iddynt wrth lunio’r testun. Seiliwyd y testun, felly, ar grŵp Dyffryn Conwy (gan gynnwys Pen 99) a’r ddwy lawysgrif annibynnol arall.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3049D, LlGC 17114B, BL 14978.
3 a LlGC 3049D, LlGC 8497B, C 2.617, Pen 99 (ychwanegiad). Nis ceir yn y lleill. Mae’n anodd gwybod a oedd yn y gynsail, ond mae ei angen ar gyfer hyd y llinell, a hefyd mae’r ystyr yn rhwyddach o’i gynnwys.
5 oesau’r tri Grŵp Dyffryn Conwy. Yn LlGC 17114B ceir oesav y tri i ac yn BL 14978 oes ir tir.
6 ywch Llawysgrifau vwch (ni ellir bod yn sicr am BL 14978 oherwydd rhwyg). Nid yw’n eglur ai amrywiad orgraffyddol am ywch, iwch yw vwch yma (nis rhestrir yn WG 407 na GMW 60), neu radd gymharol uchel, ond mae’r ystyr yn mynnu’r cyntaf.
8 ieirll Felly pob copi ond LlGC 17114B iarll a LlGC 3049D ierll.
9 Weble Dryswyd copïydd Pen 99 gan yr enw a rhoddodd o ble y.
9 ywch Ceir vwch yn Pen 99, C 2.617, LlGC 17114B a BL 14978, cf. 6n.
9 deg teg ym mhob llawysgrif ond LlGC 8497B. Ceir dwy enghraifft o plaid fel enw benywaidd gan Guto’r Glyn, felly cymerir bod teg y llawysgrifau yn dangos y calediad ar ôl blaid.
11 tros … troes Pen 99 a LlGC 17114B yn unig; yn y lleill ceir troes … tros. Mae mwyafrif y llawysgrifau, felly, o blaid yr ail ddarlleniad, yn enwedig pan gofir bod Pen 99 yn tarddu o ddalen goll o Gwyn 4, sy’n awgrymu bod troes … tros yng nghynsail Pen 99 a bod y copïydd wedi ei newid er mwyn y synnwyr. Eto, mae’r synnwyr yn haws o lawer o dderbyn tros … troes, a hefyd mae’n creu cyfochreb dda â’r llinell nesaf: tros Deau wlad … / Trwy Loegr.
14 goed Felly’r llawysgrifau ac eithrio BL 14978 gwayd.
14 i fro Wysg Pen 99 eurog wisg, addasiad gan y copïydd, debyg, a fethodd adnabod enw’r afon. Mae GGl 145 o fro Wysg yn dilyn darlleniad unigryw C 2.617.
15 arglwyddfab Pen 99 Arglwyddwalch.
17 yno LlGC 17114B tynv, drwy gamraniad.
19 arweddodd LlGC 17114B a BL 14978, hefyd Pen 99; arwedded a geir yng ngrŵp Dyffryn Conwy, felly dichon mai diwygio a wnaeth copïydd Pen 99. Chwithig fyddai derbyn arwedded fel ffurf orchmynnol y trydydd person unigol yma, oherwydd ceir ffurf yr ail berson yn syth wedyn yn 21, a hefyd collid grym y gymhariaeth rhwng y mab a’r tad. Gallai arwedded fod yn ffurf amhersonol yr amser gorffennol, ond nid yw hynny mor foddhaol â’r ffurf trydydd unigol a geir yn y llawysgrifau eraill.
20 aerwy trwm BL 14978 ayrw trin.
20 gartr gart ym mhob llawysgrif ac eithrio Pen 99 garter a C 2.617 gartr. Mae’r gynghanedd yn mynnu derbyn gartr yma.
21 o’r Felly pob copi ond LlGC 17114B ar.
22 i’r Felly pob copi ond LlGC 3049D ar.
22 neillglun LlGC 17114B a Pen 99 neillglin; LlGC 3049D neillglvn ond gyda dot uwchben v. Treiglir enw ar ôl naill, gw. TC 43–4, felly anodd yw derbyn neillglin, a hefyd mae mwyafrif y llawysgrifau o blaid neillglun. Gw. 22n (esboniadol).
24 aelod LlGC 17114B a BL 14978; yng ngrŵp Dyffryn Conwy ceir aelwyd. Gall fod dylanwad Rhaglan, yn ôl yn llinell 16, ar y darlleniad hwn. Yn sicr, aelod sy’n gywir yn y cyd-destun.
27 taran Dim ond C 2.617 a LlGC 17114B (a LlGC 3049D drwy gywiriad) sy’n cynnig y darlleniad hwn; yn y lleill ceir tarian. Y tebyg yw, felly, mai tarian a geid yng nghynsail grŵp Dyffryn Conwy, a bod C 2.617 neu ragflaenydd iddi wedi diwygio’r darlleniad. Serch hynny, mae’r ystyr o blaid y diwygiad a derbyniwyd taran yn y golygiad.
29 torri C 2.617 taro.
30 trwy’r Yn LlGC 3049D ni cheir y fannod.
31–2 Dilynir trefn LlGC 17114B a BL 14978 yn erbyn grŵp Dyffryn Conwy lle ceir y ddwy linell hyn yn y drefn 32, 31. Gan nad oes cysylltiad amlwg rhwng LlGC 17114B a BL 14978, tybiaf fod eu tystiolaeth yn annibynnol. O ran yr ystyr gallai’r naill drefn neu’r llall dycio, heb newid ryw lawer ar y synnwyr.
31 ffoliaid LlGC 3049D ffyliaid, BL 14978 ffeilsiaid.
32 tor Felly pob copi ond LlGC 17114B tro, sy’n dangos dylanwad 31 yn sicr.
35 dy wayw LlGC 3049D a Gwyn 4 da waiw, BL 14978 da waed. Mae dy wayw yn cyd-fynd yn well gyda 37 a 39, gan greu cyfres o gwpledi sy’n dechrau â dy.
37 ddarnu Mae GGl 146 ddarnio yn dilyn darlleniad unigryw BL 14978.
38 sy LlGC 17114B dy, dan ddylanwad y llinell flaenorol.
39 farch … dywarch Unigol ac eithrio yn BL 14978 veirch … doweirch.
43 a’u Llawysgrifau ai ac eithrio C 2.617 a BL 14978 ar a fabwysiadwyd yn GGl 146.
44 cadwadaeth Felly pob copi (drwy ddiwygiad yn C 2.617); gthg. GGl 146 ceidwadaeth.
45 Dywi Felly pob llawysgrif ond Gwyn 4 dywyn.
46 a thraw i’r Main LlGC 17114B a BL 14978; gthg. grŵp Dyffryn Conwy a thyrav main. Y darlleniad a dderbyniwyd, sy’n cynnwys enw lle digon anhysbys, yw’r lectio difficilior. Cyfeiria Guto at y Main yn 82.17. Dilynodd GGl 146 lawysgrifau Dyffryn Conwy.
48 cadw’r LlGC 17114B kadwr yr. Ceir enw personol Cadwr ond byddai’r llinell yn rhy hir.
50 baich LlGC 17114B a BL 14978; gthg. grŵp Dyffryn Conwy beilch. Darlleniad diddorol yw beilch, wedi ei ysgogi yn ôl pob tebyg gan y llu a holl Bowys a enwir yn 51–2. Wrth gwrs, y baich a ddelir gan Syr Water yw’r baich o gynnal beilch, gwŷr urddasol, ei diriogaethau. Mae’n demtasiwn derbyn beilch er gwaethaf tystiolaeth y ddwy lawysgrif arall.
51 mwy Felly pob llawysgrif ond LlGC 17114B man.
53 fu’ch LlGC 8497B yw’ch.
56 ar Felly pob copi ond C 2.617 i a ddilynwyd yn GGl 146.
57 Gymru Cymry oedd yr hen ffurf yn ddiwahaniaeth am y wlad a’r bobl, a datblygiad diweddar yw eu gwahaniaethu drwy sillafu enw’r wlad ag u a’r bobl ag y. Yn aml mae Cymry mewn testunau canoloesol yn amwys, gan y gallai gyfeirio at y wlad neu’r bobl, ac wrth gwrs nid yw orgraff y llawysgrifau (LlGC 3049D a BL 14978 gymrv, y lleill gymry) yn gallu torri’r ddadl. Ond fe geir o leiaf ddwy enghraifft gwbl bendant gan Guto o drin Cymry/u fel enw benywaidd unigol, sef fel enw’r wlad (3.72 a 60.21), a dyna sydd fwyaf tebygol yma.
59 eurllwyth Pob copi ond LlGC 17114B evrlliw.
59 y’th Felly LlGC 17114B a BL 14978; gthg. grŵp Dyffryn Conwy a. Dewiswyd y lectio difficilior a rennir gan ddwy lawysgrif sy’n debygol o fod yn annibynnol ar ei gilydd. Hawdd gweld sut y gallai y’th droi yn a oherwydd atebir th eisoes gan eurllwyth.
60 ywch vwch yn y llawysgrifau ond LlGC 8497B ywch. Nid yw’r orgraff o fawr bwys o ran penderfynu ai ywch ynteu uwch a ddylai fod yma, cf. 9n. Mae uwch yn chwithig heb no ar ei ôl, ond Gwyn 4 yn unig sydd o blaid no’r; ceir vor yn LlGC 17114B ac or yn y lleill. Mae dymuno i noddwr fynd yn iarll yn ddigon cyffredin, cf. 79.43. Mae GGl 146 yn dilyn Gwyn 4, ond mae bron yn sicr i William Salesbury ddiwygio ei gynsail.
Cywydd i Syr Water Herbert (m.1507) yw hwn, sef brawd iau i Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, a mab i’r iarll cyntaf (m.1469). Ceir yma bwyslais ar ddisgynyddiaeth Syr Water, ac yn enwedig ymdrechir i’w bortreadu fel mab teilwng i’w dad enwog. Dethlir y ffaith iddo gael ei urddo’n farchog (llinell 13) a mynegir y dymuniad i’w weld yn dwyn y gardas fel y gwnaethai’i dad (17–24). Y prif bwnc arall a gaiff sylw yw’r angen i gadw trefn. Anogir Syr Water i gosbi drwgweithredwyr (25–34) a chanmolir ef fel un teilwng ar gyfer y dasg hon (35 ymlaen). Mae pwyslais arbennig ar Bowys, ardal lle ymddengys fod Water Herbert yn dwyn rhyw fath o awdurdod (42, 46, 52). Mae 42 yn enwedig yn awgrymu mai ym Mhowys y canwyd y cywydd yn hytrach nag yn y De, er na ellir bod yn sicr am hyn. Ar y diwedd mae Guto’n gobeithio y caiff Water ei gydnabod yn iarll rywdro.
Dyddiad
Rhwng 1475, pan urddwyd Water yn farchog, a 1479, pan orfodwyd ei frawd i gyfnewid iarllaeth Penfro am iarllaeth Huntingdon (gw. 58n). Os dathlu urddo Water yn farchog y mae’r gerdd, yna fe berthyn i 1475 neu’n fuan wedyn. Roedd y berthynas rhwng yr Herbertiaid a’r brenin ar ei goriwaered erbyn 1478 o leiaf (Griffiths 2002: 246–7). Er, wrth gwrs, y gallai’r pwyslais ar deyrngarwch Water i Edward IV (34) fod yn ymateb i ddrwgdybiaeth y brenin, gallai hefyd adlewyrchu’r cyfnod ffafriol yn 1475. Dyma, efallai, ei waith olaf ar gyfer teulu Herbert.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LIV; Lewis 1982: cerdd 41.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 60 llinell.
Cynghanedd: croes 73% (44 llinell), traws 17% (10 llinell), sain 10% (6 llinell).
1–2 Tyfodd … / Trwy aelwyd Mae’r ddelwedd ychydig yn anodd ei hamgyffred yn weledol. Cyfeiria aelwyd at adeilad penodol (cf. tai gwydr yn 3), sef castell Rhaglan, ond yn ffigurol at y teulu hefyd.
1 Dafydd Gam Tad Gwladus Gam, a briododd Syr Wiliam ap Tomas o Raglan. Dyma nain a thaid Syr Water Herbert. Bu farw Dafydd Gam ym mrwydr Agincourt yn 1415.
2 y tri Wiliam Syr Wiliam ap Tomas (m.1445), Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (m.1469) a’r iarll presennol, Wiliam Herbert II.
3 tai gwydr Defnyddir tai am un tŷ yn aml gan y beirdd. Mae’r gair gwydr yn awgrymu tŷ a chanddo ffenestri gwydr (arwydd o foethusrwydd), nid tŷ a wnaed o wydr (GPC 3668). Ceir enghraifft gan Lewys Glyn Cothi yn sôn am weddw Tomas Fychan o Hergest yn dod â’i gorff adref: i’w dai gwydr a’i dug adref (GLGC 125.10).
3 Herbart a Godwin Hynafiaid honedig y teulu, gw. WG1 ‘Godwin’ 1.
4 tri iarll Gelwir Godwin yn ‘iarll Cernyw’ yn yr achau, gw. WG1 ‘Godwin’ 1. Y ddau arall yw Wiliam Herbert I a II.
6 pengrych felyn Rhaid deall hyn fel cyfansoddair llac i gyfrif am y treiglad, sy’n angenrheidiol ar gyfer y gynghanedd.
7 eilmab Ail fab (cyfreithlon) Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro oedd Syr Water.
7 dan yr elment Ceid pedair elfen yn ôl dysgeidiaeth yr Oesoedd Canol, sef daear, awyr, tân a dŵr. Yma yr ystyr yw ‘awyr, wybren’, cf. GLGC 96.31–2 A gad un mor ddoeth o goed union – Gwent, / na dau is elment onid Salmon?
8 ieirll Godwin ‘iarll Cernyw’ (gw. 4n) a Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro.
9 Weble Weobley, swydd Henffordd, cartref gwreiddiol mam Syr Water, Ann Devereux. Sonnir am ei pherthnasau yno.
10 o Frycheiniawg Sef y Fychaniaid, yn ôl pob tebyg, cefndryd Syr Water drwy eu nain, Gwladus Gam. Roedd perthynas agos rhwng Fychaniaid Tretŵr a’r Herbertiaid, o leiaf yn gynnar yn y saithdegau. Anerchir Tomas Fychan o Dretŵr yn y cywydd i Wiliam Herbert II (25.25–6). Bu anghydfod rhwng yr Herbertiaid a’r Fychaniaid yn ddiweddarach yn y degawd (Griffiths 2008: 269), ond mae’r manylion yn dywyll. Eto dichon fod y cyfeiriad cadarnhaol hwn at y Fychaniaid yn cryfhau’r achos dros osod dyddiad i’r cywydd heb fod fawr yn ddiweddarach na 1475.
11 Deau wlad Deheubarth Cymru, gan gynnwys Gwent.
12 Trwy Loegr, waed rheiol egin Gallai Lloegr gyfeirio at berthnasau Syr Water yn Weobley eto, ond ceir tystiolaeth fod yr Herbertiaid yn hawlio fod ganddynt waed brenhinoedd Lloegr, drwy Godwin neu Herbert ei fab, gw. Bartrum 1963–4: 124. Fel y nodir yno, honnid bod Herbert yn fab gordderch i Harri I, neu fod Godwin yn fab i Edward Cyffeswr.
13 d’euraw Lliw marchog oedd aur, a phan ddyrchefid dyn yn farchog fe’i gwisgid â choler ac ysbardunau aur.
14 Defras goed Defras yw ffurf Gymraeg yr enw Devereux, gw. 9n.
14 Wysg Saif Rhaglan ychydig filltiroedd i’r dwyrain o’r afon. Mae’r Fenni a Cholbrwg, dau le arall a gysylltir â’r Herbertiaid, yn y dyffryn ei hun.
17 yno Gallai gyfeirio at Raglan, a grybwyllir yn 16, neu’n llai penodol at fro Wysg (14).
20 aerwy trwm Coler aur oedd prif arwydd marchog. Metel arbennig o drwm yw aur.
20 gartr aur Cyfeiriad at y gardas (Saesneg garter) a wisgid gan aelodau o Urdd y Gardas. Sefydlwyd yr urdd gan Edward III tua 1348. Glas oedd lliw arferol y gardas, ond addurnid hi ag arwyddair yr urdd mewn llythrennau aur, sy’n esbonio’r cyfeiriad yma. Dyma arwydd o ffafr uchel y brenin, ac mae beirdd yr Oesoedd Canol diweddar yn aml yn mynegi awydd i weld eu noddwyr yn dwyn y gardas. Gwnaed Wiliam Herbert I yn Farchog y Gardas ar 21 Mawrth 1462 (Thomas 1994: 28).
21 arwain Rhaid dehongli hyn yn ffurf orchmynnol, nid yn ferfenw, neu fe gollid ergyd y llinell, sef fod y bardd yn troi o ddisgrifio gardas y tad i ddymuno gweld y mab yn gwisgo un cyffelyb. Yn wreiddiol arwedd- oedd bôn y ferf, ond erbyn y cyfnod hwn gwelwn y berfenw arwain yn cael ei ailddehongli fel gwreiddyn y ferf. Ceir enghraifft arall o arwain fel ail unigol gorchmynnol yn GO L.5 a dichon mai dyna ydyw hefyd yn GLGC 41.55. Yn ddiamheuaeth ffurf y trydydd unigol presennol ydyw yn GLGC 27.14, 63.35, 68.3, 68.5 a DN V.37.
22 i’r Mae’r arddodiad ychydig yn annisgwyl yma. Gwell ei ddeall gyda nod yn y llinell flaenorol: bri i’r goes neu ar gyfer y goes.
22 neillglun Gwisgid y gardas o dan y pen-glin, ond gall clun gyfeirio’n llac at y goes gyfan, gw. GPC 510 d.g. clun1.
31 ffydd Sef ffyddlondeb at y brenin Edward, yn ôl pob tebyg, cf. 34.
32 tor flaen Yn GPC 3532 nodir y cyfuniad torri blaen ‘to clip the tip of a sheep’s ear straight across (as earmark)’, a’r enghraifft gyntaf yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae’n anodd gwybod a allai hyn fod yn berthnasol i’r cywydd hwn, ddwy ganrif ynghynt. Cf. hefyd GIG XX.116 I flaenau’r wlad aflonydd.
34 y Tarw a’r Rhosyn Edward IV. Mae’r tarw yn ddelwedd gyffredin mewn proffwydoliaethau ac roedd cefnogwyr Edward IV yn ei arfer ar ei gyfer ef yn fynych, gw. Allan 1981: 223, 409. Gelwid Edward ‘the Rose of Rouen’ am mai yno y’i ganwyd, gw. Ross 1974: 30–1.
35 Sain Clêr Arglwyddiaeth i’r gorllewin o Gaerfyrddin oedd Sanclêr. Daeth i ddwylo Wiliam Herbert I yn 1462 (Griffiths 2002: 244) ac fe’i hildiwyd gan yr ail iarll yn 1479 gyda gweddill ei diroedd yn y De-orllewin. Awgryma’r llinell hon fod Syr Water yn gofalu am y lle dros ei frawd.
36 dwysir Dwy sir y dywysogaeth yn y De, yn ôl pob tebyg, sef sir Gaerfyrddin a sir Aberteifi. Roedd brawd Syr Water, Wiliam Herbert II, yn ustus ac yn siambrlen y rhain ar ôl ei dad, gw. Griffiths 1972: 158–9, 187–8. Dichon fod Syr Water yn ei gynorthwyo yno.
38 Constans fab Elen Yr ymerawdwr Rhufeinig Custennin Fawr (306–37), mab i Elen (Helena).
40 march efyddol Yn ôl Sieffre o Fynwy, ‘Historia Regum Britanniae’, rhoddodd y Brythoniaid gorff eu brenin Cadwallon mewn delw efydd yn eistedd ar farch efydd ar ben porth gorllewinol Llundain, yn fygythiad i’r Saeson (Reeve and Wright 2007: 277; BD 204).
41 damasg GPC 883 ‘defnydd (sidan) patrymog, lliain main a phatrwm gloyw ynddo’; OED Online s.v. damask, n. and adj.
41 iowmyn GPC 2042 d.g. iwmon ‘gwas neu ganlynwr is ei safle nag ysgwïer’; OED Online s.v. yeoman.
42 Powystir Yn 1467 rhoddwyd arglwyddiaeth Powys yng ngofal Wiliam Herbert I gan fod yr etifedd dan oed, gw. Thomas 1994: 34. Ymddengys fod yr arglwyddiaeth yn nwylo’r teulu o hyd pan ganwyd y cywydd hwn.
43 y teirgwlad Sef tair rhan Cymru, Gwynedd, Powys a Deheubarth yn ôl pob tebyg.
44 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell o linach frenhinol Deheubarth, patrwm o arwr i’r beirdd er na wyddom odid ddim amdano. O ran ei ddyddiad, gwyddom fod ei fab Rhys wedi ei ladd yn 1093 (WCD 612).
45 Tywi Afon yn ne-orllewin Cymru y saif Caerfyrddin arni.
45 Cedewain Cwmwd ac arglwyddiaeth ar lan afon Hafren, o amgylch y Drenewydd. Perthynai i’r brenin Edward IV fel rhan o’r etifeddiaeth a gawsai oddi wrth deulu Mortimer. Ar 28 Awst 1467 rhoddwyd Ceri a Chedewain yng ngofal Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (Thomas 1994: 35). Ymddengys fod ei feibion yn dal i’w meddiannu pan ganwyd y cywydd hwn.
46 y Main Trefddegwm ym mhlwyf Meifod. Bryn eithaf sylweddol ar lan ogleddol afon Efyrnwy yw Allt y Main (SJ 1615). Mae’n anodd gweld paham y crybwyllir y lle hwn oni bai fod rhyw gysylltiad penodol rhyngddo a chynulleidfa’r gerdd hon. Sonia Guto am y lle eto yn 82.17.
48 cadw Fe’i deellir yn ferfenw fel cael yn 49 a cynnal yn 50, nid fel ffurf orchmynnol. Disgrifir sut y mae rhagorfreintiau Wiliam Herbert I wedi disgyn i’w fab, yn hytrach nag annog yr ail iarll i’w efelychu.
49 Ercwlff Yr arwr clasurol Herakles/Hercules. Yn ystod un o’i anturiaethau bu’n rhaid iddo gynnal y byd ar ei gefn, ac am hyn mae llinell 50 yn sôn.
50 cynnal Berfenw eto, nid ffurf orchmynnol, gw. TC 204 am yr arfer o dreiglo ar ôl y ffurf orchmynnol.
52 pwys holl Bowys Delwedd o’r noddwr yn cynnal gwŷr ar ei ysgwyddau.
53 hendad Syr Wiliam ap Tomas o Raglan (m.1445), gw. Thomas 1994: 4–12 am ei yrfa.
54 Llanymddyfri Perthynai i deulu Audley yn y cyfnod hwn, a gall fod Syr Wiliam ap Tomas, taid Syr Water, wedi dal swydd yno, er na lwyddais i ddod o hyd i gyfeiriad. Gwyddys fod Syr Wiliam yn dal swyddi yn siroedd deheuol y dywysogaeth ac ym Mhenfro (Griffiths 1972: 147–8), a gall fod Llanymddyfri yma’n cyfeirio’n llac at dde-orllewin Cymru.
55 o’r lle daw dau Sef yr iarll cyntaf a’r ail, fe ymddengys.
58 ar ei lled Ar lled Cymru, gan fod yr iarll yn rymus ym Mhenfro ac yng Ngwent. Collodd deitl iarll Penfro yn 1479 ac fe’i gorfodwyd, ar y cyd â Water, i gadw draw o Gymru am flwyddyn gron. Mae’n annhebygol, gan hynny, fod y cywydd hwn wedi ei ganu ar ôl 1479.
59 iarll o’th gyff Parheir i sôn am frawd Syr Water, gan ddadlau fod ei iarllaeth ef yn sail i Syr Water yntau dderbyn un.
Llyfryddiaeth
Allan, A.R. (1981), ‘Political Propaganda Employed by the House of York in England in the Mid-fifteenth Century, 1450–71’ (Ph.D. Wales [Swansea])
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2002), ‘The Extension of Royal Power, 1415–1536’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 224–69
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lewis, W.G. (1986), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lowe, D.E. (1977–8), ‘The Council of the Prince of Wales and the Decline of the Herbert Family during the Second Reign of Edward IV (1471–1483)’, B xxvii: 278–97
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
This is a poem for Sir Walter Herbert (d.1507), the younger brother of William Herbert, second earl of Pembroke, and son of the first earl (d.1469). There is an emphasis on Sir Walter’s lineage and an especial concern to show him to be a son worthy of his famous father. He has been knighted, a fact which is celebrated in the poem (line 13), and the poet hopes to see him go one better by achieving the Order of the Garter like his father (17–24). The other main theme is the need to keep public order. Sir Walter is urged to punish wrongdoers (25–34) and praised as one who is worthy to perform this task (35 onwards). There is particular interest in Powys, an area where it seems that Walter Herbert enjoyed some authority (42, 46, 52). Line 42 in particular suggests that the poem was composed in and for Powys rather than in south Wales, though this is not certain. At the end of the poem Guto expresses his wish to see Sir Walter becoming an earl.
Date
Between 1475, when Walter was knighted, and 1479, when his brother was compelled to exchange the earldom of Pembroke for Huntingdon (see 58n). If the poem was composed to celebrate Walter’s knighting, then it belongs to 1475 or soon afterwards. Relations between the Herberts and the king were deteriorating by 1478 at the latest (Griffiths 2002: 246–7). Although, of course, the emphasis on Walter’s loyalty to Edward IV (34) might be a response to the king’s suspicion, it is more likely to reflect the favourable period in 1475. This was perhaps his last labour for the Herbert family.
The manuscripts
This poem is found in 18 manuscripts. LlGC 3049D, LlGC 8497B, Gwyn 4 and C 2.617 are closely related; all come from the Conwy Valley. The copy in Gwyn 4 has lost its beginning owing to the loss of a leaf, and Pen 99 is deficient at the end: the two fit together perfectly. Pen 99 derives therefore from a loose leaf of Gwyn 4 and the text of Gwyn 4 can be established by combining the two. LlGC 17114B and BL 14978 stand apart from these manuscripts. All the other copies are derivative and were not considered in editing the text. The text was therefore based on the Conwy Valley manuscripts (including Pen 99) and the other two independent copies.
Previous editions
GGl poem LIV; Lewis 1982: poem 41.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 60 lines.
Cynghanedd: croes 73% (44 lines), traws 17% (10 lines), sain 10% (6 lines).
1–2 Tyfodd … / Trwy aelwyd The image is slightly difficult to understand visually. Aelwyd ‘hearth, home’ refers to a specific building (cf. tai gwydr in 3), namely Raglan castle, but also figuratively to the family.
1 Dafydd Gam The father of Gwladus Gam, who married Sir William ap Thomas of Raglan. They were the grandparents of Sir Walter Herbert. Dafydd Gam died at the battle of Agincourt in 1415.
2 y tri Wiliam Sir William ap Thomas (d.1445), William Herbert, first earl of Pembroke (d.1469) and the present earl, William Herbert II.
3 tai gwydr The plural tai is often used by the poets for one house. The implication of gwydr is a house with glazed windows (a sign of luxury), not a glasshouse (GPC 3668). There is an example by Lewys Glyn Cothi describing the widow of Thomas Vaughan of Hergest bringing his body home: i’w dai gwydr a’i dug adref ‘brought him home to his glazed house’ (GLGC 125.10).
3 Herbart a Godwin The alleged ancestors of the family, see WG1 ‘Godwin’ 1.
4 tri iarll Godwin is called ‘earl of Cornwall’ in genealogies, see WG1 ‘Godwin’ 1. The other two are William Herbert I and II.
6 pengrych felyn This must be taken as a loose compound to account for the lenition, which is required by the cynghanedd.
7 eilmab Sir Walter was the second (legitimate) son of William Herbert, first earl of Pembroke.
7 dan yr elment Medieval science recognized four elements: earth, air, fire and water. Here the meaning is ‘air, sky’, cf. GLGC 96.31–2 A gad un mor ddoeth o goed union – Gwent, / na dau is elment onid Salmon? ‘Was there ever such a wise man from the straight timbers of Gwent, / nor two under the sky, except Solomon?’
8 ieirll Godwin ‘earl of Cornwall’ (see 4n) and William Herbert, first earl of Pembroke.
9 Weble Weobley, Herefordshire, the original home of Sir Walter’s mother, Ann Devereux. The poet is referring to his relatives there.
10 o Frycheiniawg The Vaughans, most likely. They were Sir Walter’s cousins through their mutual grandmother, Gwladus Gam. There was a close relationship between the Vaughans of Tretower and the Herberts, at least early in the 1470s. Thomas Vaughan of Tretower is addressed in the poem to William Herbert II (25.25–6). Later in the 1470s the Herberts and Vaughans quarrelled (Griffiths 2008: 269), but the details are obscure. All the same, this positive reference to the Vaughans strengthens the case for a date not much later than 1475 for the poem.
11 Deau wlad South Wales, including Gwent.
12 Trwy Loegr, waed rheiol egin Lloegr ‘England’ might be another reference to Sir Walter’s Weobley relations, but there is evidence that the Herberts claimed English royal blood, through Godwin or his son Herbert, see Bartrum 1963–4: 124. He notes two (incompatible) claims, namely that Herbert was an illegitimate son of Henry I, or that Godwin was a son of Edward the Confessor.
13 d’euraw Gold was the colour of knighthood, and when a man was knighted he would be dressed in a gold collar and spurs.
14 Defras goed Defras is the Welsh form of the name Devereux, see 9n.
14 Wysg Raglan stands a few miles east of the river Usk. Abergavenny and Coldbrook, two other places connected with the Herberts, are in the valley itself.
17 yno Could refer to Raglan, mentioned in 16, or less specifically to the Usk valley (14).
20 aerwy trwm A gold collar was the chief mark of knighthood. Gold is a particularly heavy (trwm) metal.
20 gartr aur A reference to the garter worn by members of the Order of the Garter. The order was established by Edward III c.1348. The garter itself was blue, but the order’s motto was written on it in gold lettering, which explains the description here. Receiving the garter was a sign of high royal favour, and the poets of the late Middle Ages often express a desire to see their patrons wearing it. William Herbert I was made a Knight of the Garter on 21 March 1462 (Thomas 1994: 28).
21 arwain This has to be taken as the imperative, not the verbal noun, otherwise the force of the line would be lost: the poet turns from describing the garter on the father’s leg to expressing his desire to see the son wearing a similar one. Originally arwedd- was the root of the verb, but by this period we see the verbal noun arwain being reinterpreted as the verbal root. There is another example of arwain as second singular imperative in GO L.5 and that is also what it probably is in GLGC 41.55. Without any doubt it is a third singular present form in GLGC 27.14, 63.35, 68.3, 68.5 and DN V.37.
22 i’r The preposition i is slightly unexpected here. Take it with nod in the previous line: fame for the leg.
22 neillglun The garter was worn below the knee, but clun can refer loosely to the whole leg, see GPC 510 s.v. clun1.
31 ffydd Faith towards King Edward, probably, cf. 34.
32 tor flaen GPC 3532 notes the expression torri blaen ‘to clip the tip of a sheep’s ear straight across (as earmark)’, with the first example in the seventeenth century. It is difficult to know whether this might be relevant to this poem, two centuries earlier. Cf. also IGP 20.116 I flaenau’r wlad aflonydd ‘to the limits of the unruly land’.
34 y Tarw a’r Rhosyn Edward IV. The bull is a common image in prophecies and the supporters of Edward IV frequently applied it to him, see Allan 1981: 223, 409. Edward was called ‘the Rose of Rouen’ because he was born there, see Ross 1974: 30–1.
35 Sain Clêr St Clears, a lordship west of Carmarthen. It came into the hands of William Herbert I in 1462 (Griffiths 2002: 244) and was relinquished by the second earl in 1479 along with his other west Wales lands. This line suggests that Sir Walter was looking after it for his brother.
36 dwysir The two shires of the southern principality, Carmarthenshire and Cardiganshire, probably. Sir Walter’s brother, William Herbert II, was justiciar and chamberlain of the south after his father, see Griffiths 1972: 158–9, 187–8. It looks as though Sir Walter assisted him there.
38 Constans fab Elen The Roman emperor Constantine the Great (306–37), son of Helena.
40 march efyddol According to Geoffrey of Monmouth, ‘Historia Regum Britanniae’, the Britons placed the body of their king, Cadwallon, in a bronze effigy and seated on a bronze horse on top of the west gate of London as a warning to the Saxons (Reeve and Wright 2007: 277).
41 damask OED Online s.v. damask, n. and adj. ‘a rich silk fabric woven with elaborate designs and figures, often of a variety of colours’.
41 iowmyn OED Online s.v. yeoman: ‘a servant or attendant in a royal or noble household, usually of a superior grade, ranking between a sergeant and a groom or between a squire and a page’.
42 Powystir In 1467 the lordship of Powys was placed in the care of William Herbert I while the heir was a minor, see Thomas 1994: 34. It seems that the Herberts still held it when this poem was composed.
43 y teirgwlad Most probably the three divisions of Wales: Gwynedd, Powys and Deheubarth.
44 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell of the royal line of Deheubarth, a pattern of heroism for the poets though we know almost nothing about him. As regards his dates, we know that his son Rhys was killed in 1093 (WCD 612).
45 Tywi A river in south-west Wales on which Carmarthen stands.
45 Cedewain A commote and lordship on the banks of the river Severn around Newtown. It belonged to King Edward IV as part of the Mortimer inheritance. On 28 August 1467 Ceri and Cedewain were placed in the care of William Herbert, first earl of Pembroke (Thomas 1994: 35). It looks as though his sons still held them when this poem was composed.
46 y Main A township in the parish of Meifod. Allt y Main is a fairly sizeable hill on the north bank of the Vyrnwy (SJ 1615). It is difficult to imagine why this place should be mentioned unless it had specific resonance for the poem’s audience. Guto mentions it again in 82.17.
48 cadw Understood as a verbal noun like cael in 49 and cynnal in 50, not as an imperative. The poet is describing how William Herbert I’s privileges have descended to his son, rather than urging the second earl to emulate his father.
49 Ercwlff The classical hero Herakles/Hercules. He once had to bear the world on his back during one of his adventures, a story to which line 50 refers.
50 cynnal Verbal noun, not imperative, see TC 204 for lenition after the imperative.
52 pwys holl Bowys An image of the patron maintaining men on his shoulders.
53 hendad Sir William ap Thomas of Raglan (m.1445), see Thomas 1994: 4–12 for his career.
54 Llanymddyfri Llandovery. The lordship belonged to the Audley family in this period, and it may be that Sir William ap Thomas, Walter Herbert’s grandfather, had held office there, though I have not succeeded in finding a reference. It is known that Sir William held office in the southern principality shires and in Pembroke (Griffiths 1972: 147–8), so possibly Llanymddyfri here refers loosely to south-west Wales.
55 o’r lle daw dau I.e. the first earl and the second, apparently.
58 ar ei lled Across Wales, reflecting the earl’s authority in both Pembroke and Gwent. He lost the Pembroke title in 1479 and was compelled, along with Walter, to remain outside Wales for a year. It is therefore unlikely that the poem was composed after 1479.
59 iarll o’th gyff The poet is still talking about Sir Walter’s brother, arguing that his earldom is a reason for Sir Walter to get one too.
Bibliography
Allan, A.R. (1981), ‘Political Propaganda Employed by the House of York in England in the Mid-fifteenth Century, 1450–71’ (Ph.D. Wales [Swansea])
Bartrum, P.C. (1963–4), ‘Pedigrees of the Welsh Tribal Patriarchs’, Cylchg LlGC xiii: 93–146
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2002), ‘The Extension of Royal Power, 1415–1536’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 224–69
Griffiths, R.A. (2008), ‘Lordship and Society in the Fifteenth Century’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 241–79
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Lewis, W.G. (1986), ‘Herbertiaid Rhaglan fel Noddwyr Beirdd yn y Bymthegfed Ganrif a Dechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’, THSC: 33–60
Lowe, D.E. (1977–8), ‘The Council of the Prince of Wales and the Decline of the Herbert Family during the Second Reign of Edward IV (1471–1483)’, B xxvii: 278–97
Reeve, M.D. and Wright, N. (2007) (eds.), Geoffrey of Monmouth: History of the Kings of Britain (Woodbridge)
Ross, C. (1974), Edward IV (Berkeley)
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Dyma wrthrych cerdd 27. Heblaw Guto’r Glyn, canodd dau fardd arall i Water Herbert: Huw Cae Llwyd (HCLl cerdd VII) ac Iorwerth Fynglwyd (GIF cerddi 12, 13 a 14 a marwnad iddo, sef cerdd 15).
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Water mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Ail fab cyfreithlon Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro, oedd Water Herbert. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Ei fam oedd Ann Herbert, merch Sir Walter Devereux o Weobley, swydd Henffordd. Roedd Wiliam Herbert, ail iarll Penfro yn frawd hŷn iddo, a Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi yn frawd hŷn arall, ond anghyfreithlon.
Ei gartrefi
Mae’n ansicr lle trigai Water hyd 1490, pan fu farw ei frawd, Wiliam Herbert, iarll Huntingdon. O hynny ymlaen trigai Water mewn dau le mawreddog a etifeddodd gan ei frawd, sef castell Rhaglan a chastell Cas-gwent (Robinson 2008: 310). Mae Guto ac Iorwerth Fynglwyd (GIF 12.2) yn ei gysylltu â Phowys hefyd, ac ymddengys mai rywle yno y canodd Guto gerdd 27 yn hytrach nag yng Ngwent.
Ei yrfa
Ganed Water Herbert c.1461: cesglir hynny o’r ffaith ei fod yn 46 oed adeg ei farwolaeth yn 1507 (Thomas 1994: 98). Roedd tua wyth neu naw oed, felly, pan laddwyd ei dad, iarll cyntaf Penfro, yng Ngorffennaf 1469. Urddwyd ef yn farchog ar 18 Ebrill 1475 (Robinson 1986–7: 294). Tybir bod cerdd 27 yn dathlu’r achlysur hwn, ac os felly fe’i canwyd c.1475. Mae’r cerddi a ganodd Huw Cae Llwyd ac Iorwerth Fynglwyd i Water yn ddiweddarach o dipyn.
Beth oedd perthynas Water Herbert â Phowys? Bu farw Richard Grey, arglwydd Powys, yn 1466, gan adael etifedd, John, a oedd dan oed. Ymddengys fod yr etifedd wedi derbyn ei diroedd erbyn 1482 (Jones 1868: 344–5). Yn y cyfamser gofalwyd am yr arglwyddiaeth gan Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (Thomas 1994: 34) a drefnodd briodas rhwng yr etifedd a’i ferch ei hun, Anne Herbert (ibid.; Jones 1868: 345). Awgryma cyfeiriadau Guto at Bowys ac at leoedd yn yr arglwyddiaeth fod Syr Water Herbert yn gofalu am y tir yn y saithdegau hwyr, ond mae’n anodd gwybod pam y byddai Huw Cae Llwyd yn crybwyll Powys, gan fod y gerdd a ganodd ef yn dyddio i gyfnod ar ôl i John Grey feddiannu ei etifeddiaeth. Efallai fod gan Syr Water ryw ddiddordeb arall ym Mhowys.
Cysylltwyd Water â’i frawd, ail iarll Penfro, yn ystod digwyddiadau cythryblus y 1470au hwyr, wrth i’r teulu raddol golli ffafr y brenin. Yn 1479 gwaharddwyd y ddau frawd rhag mynd i Gymru am flwyddyn, a bu’n rhaid i Wiliam Herbert gyfnewid iarllaeth Penfro am iarllaeth Huntingdon (Thomas 1994: 79; Bryant-Quinn 2010: 62–3 a n31). Dan Risiart III (1483–5), fodd bynnag, adfywiodd ffyniant y teulu. Ar ôl gwrthryfel dug Buckingham yn 1483, roedd ar Risiart angen cefnogwr a allai gadw trefn yng Nghymru (Griffiths 1993: 37). Trodd at Wiliam Herbert, a oedd bellach yn iarll Huntingdon. Priododd Wiliam ferch anghyfreithlon y brenin, Katherine Plantagenet, yn 1484 (Thomson 1921: 270). Mae agwedd Wiliam Herbert tuag at Harri Tudur yn ansicr, ond ymddengys fod ei frawd Water wedi ymladd drosto ar faes Bosworth yn 1485 (Griffiths 1993: 41–2). Digon llewyrchus, gan hynny, oedd sefyllfa’r Herbertiaid o dan y brenin newydd: ceir amlinelliad o’r gwasanaeth a roddodd i Harri VII yn Robinson (2008: 313–17).
Gellir dyddio GIF cerdd 12 yn fanwl, yn ôl pob tebyg, oherwydd mae’n annog Syr Water i ymgyrchu yn Llydaw (llinell 48). Yn 1489 arweiniodd Water fyddin i ymosod ar y Ffrancwyr yn Llydaw (Robinson 2008: 313). Perthyn GIF cerdd 13 i deyrnasiad Harri VII (1485–1509), ac efallai i’r cyfnod pan oedd Water yn gwasanaethu Siasbar Tudur yn ne Cymru (llinell 22; Robinson 2008: 310): hynny yw, cyn marwolaeth Siasbar yn 1490. Ni ellir dyddio GIF cerdd 14 yn fanwl, ond y 1490au sydd fwyaf tebygol eto.
Pan fu farw Wiliam Herbert yn 1490, Water a etifeddodd gastell Rhaglan. Mae’n debygol fod HCLl cerdd VII wedi ei chanu tua’r amser hwn. Nid oes gair am Wiliam Herbert yn y gerdd a gelwir Syr Water yn [b]en-cenedl (llinell 34). Mynega Huw Cae Llwyd ei awydd i weld Water a’i wraig yn cael eu galw’n iarll a iarlles (43) ac yn cenhedlu mwy fyth o ieirll (48), gan gynnal y cartref yn Rhaglan. Dywed fod hyn yn well na gweld iarlles yn ceisio cynnal y tŷ ar ei phen ei hun (46). Ai cyfeiriad yw hyn at Ann, iarlles Penfro, sef gweddw’r iarll cyntaf? Bu farw hithau yn 1486. Eto mae’n anodd credu mai hi a olygir, gan fod ei mab, yr ail iarll, yn fyw yn y 1480au. Roedd ei wraig ef, Katherine, wedi marw cyn ei gŵr, felly nid hi a olygir ychwaith (Hammond 1985: 20). Y posibilrwydd mwyaf tebygol, felly, yw mai merch yr ail iarll, Elizabeth, yw’r iarlles hon. Os felly, mae’n rhaid fod iarlles yn cael ei ddefnyddio’n ffigurol. Ar ôl marwolaeth ei thad, cododd anghydfod rhyngddi a Syr Water ynglŷn â’r etifeddiaeth, ond Water a gafodd y llaw uchaf (Robinson 2008: 310). Priododd Elizabeth yn 1492, felly ni ellid honni ei bod ‘ar ei phen ei hun’ erbyn hynny (HCLl VII.44). Ar sail hyn oll, awgrymir bod cywydd Huw Cae Llwyd i’w ddyddio yn ystod neu’n fuan ar ôl yr anghydfod rhwng yr ewythr a’i nith, a’r bardd yn cymeradwyo meddiant Water Herbert o’r castell. Mae Maurer (1985: 96) yn egluro mai Water fyddai etifedd cyfreithlon teitl iarll Huntingdon ar ôl marwolaeth ei frawd. Nis cafodd, fodd bynnag, a cheir awgrym fod perthynas Water Herbert â’r brenin wedi gwaethygu o’r herwydd (ibid.). Adlewyrchir disgwyliadau Syr Water yn loyw yng nghywydd Huw Cae Llwyd, lle crybwyllir droeon y posibilrwydd o weld Syr Water yn dwyn teitl iarll.
Bu farw Syr Water Herbert ar 16 Medi 1507 (Robinson 2008: 317).
Llyfryddiaeth
Bryant-Quinn, M.P. (2010), ‘ “Aur yw pris y wisg”: Llywelyn ap Morgan a’r Grog yn Aberhonddu’, Dwned, 16: 51–91
Griffiths, R.A. (1993), Sir Rhys ap Thomas and his Family: A Study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Cardiff)
Hammond, P.W. (1985), ‘The Illegitimate Children of Richard III’, J. Petre (ed.), Richard III: Crown and People (Gloucester), 18–23
Jones, M.C. (1868), ‘The Feudal Barons of Powys’, Mont Coll i: 257–423
Maurer, H. (1985), ‘The Later Careers of William Herbert, Earl of Huntingdon, and his Brother Sir Walter Herbert’, J. Petre (ed.), Richard III: Crown and People (Gloucester), 95–7
Robinson, W.R.B. (1986–7), ‘Knighted Welsh Landowners, 1485–1558: A Provisional List’, Cylchg HC 13, 282–98
Robinson, W.R.B. (2008), ‘The Early Tudors’, R.A. Griffiths et al. (eds.), The Gwent County History, 2: The Age of the Marcher Lords, c.1070–1536 (Cardiff), 309–36
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Thomson, C.H. (1921), ‘William Herbert Earl of Huntingdon’, Notes and Queries (twelfth series), part viii: 270–2