Y llawysgrifau
Ceir naw copi o’r gerdd hon yn y llawysgrifau, tri ohonynt yn llaw Wmffre Dafis (fl. 1577–1635), sef LlGC 3056D, Brog I.2 a Gwyn 1. Mae’r tri hyn bron yn unffurf â’i gilydd, ac mae’r lleill yn tarddu ohonynt, ac eithrio, yn ôl pob tebyg, LlGC 10893E, sy’n cynnwys wyth llinell ychwanegol (llinellau 5–12 yn y testun golygedig). Mae’r llinellau hyn yn rhai perthnasol iawn sy’n datblygu’r syniad agoriadol. Yn benodol, byddai colli llinell 11 gyda’i sôn am Benfro yn gadael draw yn 14 braidd yn ddigyswllt. Hefyd, byddai cywydd ac ynddo 48 llinell yn fyrrach o gryn dipyn na hyd arferol cywyddau Guto. O gofio mai tystiolaeth Wmffre Dafis yn unig sydd o blaid hepgor y llinellau hyn, maent wedi eu cynnwys yn y golygiad. Nid yw darlleniadau eraill LlGC 10893E cystal â rhai Wmffre Dafis, felly seiliwyd y golygiad ar dri chopi Wmffre Dafis ac ar LlGC 10893E gyda’i gilydd. Mae’n werth nodi bod LlGC 10893E yn perthyn i ardal y Fenni, bro’r Herbertiaid, er na ellir dweud mwy am dras y copi o’r gerdd a geir ynddi.
Trawsysgrifiadau: LlGC 3056D, LlGC 10893E.
5–12 Yn LlGC 10893E yn unig y ceir y llinellau hyn.
8 Wiliam? Mab Yn y llawysgrif ceir ond rhwng y geiriau hyn, ond wedi ei ddileu. Mae rhif y sillafau yn erbyn ond yma.
13 osai Llawysgrifau os ai (ac eithrio LlGC 10893E), fel petaent yn ei ddeall yn ddau air.
13 dreuliaw Wmffre Dafis; gthg. LlGC 10893E dreyglaw, sy’n groes i’r gynghanedd.
20 pen Wmffre Dafis; gthg. LlGC 10893E Paen. Mae pen Dyfed yn dwyn i gof Pwyll Pendefig Dyfed yn y Mabinogi ac mae’n ddarlleniad cyfoethocach ei ystyr o’r herwydd.
22 Penbrwg gastell Mae orgraff y llawysgrifau (-k c-) yn adlewyrchu’r calediad sy’n digwydd ar lafar. Yn 26.54 mae Penbrwg yn odli â Morgannwg, sy’n cadarnhau mai cystain leisiol wrth natur yw ei gytsain olaf.
31 da i roi Gthg. LlGC 10893E ta’r, sy’n fyr o sillaf.
35 rhof LlGC 10893E bro, sy’n awgrymu camglywed ar ran y copïydd.
38 wna LlGC 10893E wnae. Mae’r amser presennol yn gryfach.
43 Teitys, Ysbysianys Amrywia orgraff y llawysgrifau: LlGC 3056D a Gwyn 1 teitys ysbysianys, Brog I.2 teitys ysbasianvs. Cywirwyd Gwyn 1 yn teitvs Vesbysianvs (gan law arall, fe ymddengys). Mabwysiadwyd orgraff y ddwy lawysgrif gyntaf, ond ni ellir gwybod sut yr yngenid yr enwau hyn gan Guto’r Glyn yma.
44 dad Felly copïau Wmffre Dafis a LlGC 10893E, ond mabwysiadwyd darlleniad Llst 30 daid yn GGl 138.
50 pab LlGC 10893E pax. Gwrthrych a gusenir gan yr addolwyr yn ystod gwasanaeth yr offeren yw’r pax, ond er gwaethaf y cysylltiad â’r syniad o gusanu, nid yw’r ddelwedd yn rhoi ystyr addas yma.
51 wyneb Felly pob copi ond Brog I.2 neb. Ni chywesgir yn yn gynharach yn y llinell yn yr un o’r copïau, a’r tebyg yw, felly, mai diwygiad yw neb er mwyn rheoleiddio nifer y sillafau.
Cywydd mawl i Wiliam Herbert o Benfro, mab anghyfreithlon Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro, yw hwn. Dyma ŵr sy’n meddu ar gryn awdurdod ar gyfrif ei dad enwog, felly, ond eto sy’n is ei statws na’i frawd, yr ail iarll. Roedd yr ail iarll yn iau o dipyn nag ef; yn wir, y tebyg yw nad oedd eto’n oedolyn pan ganwyd y cywydd hwn. Gan hynny mae’r bardd yn gosod cryn bwyslais nid yn unig ar y modd y mae Wiliam yn dilyn ôl traed ei dad enwog, ond hefyd ar ei wasanaeth ffyddlon i’w frawd, yr ail iarll.
Ar y dechrau mae’r bardd yn talu teyrnged briodol i frawd y gwrthrych, sef ail iarll Penfro (llinellau 1–12). Chwaraeir gyda’r syniad fod enw’r iarll, Wiliam [Herbert], yn unffurf ag eiddo’i dad, a bod Gwent, gan hynny, yn ymdebygu i India dan awdurdod di-dor y Preutur Siôn (gw. 3n). Yna fe gydia’r bardd yn y ffaith fod gwir noddwr y gerdd, Wiliam Herbert o Benfro, yntau’n dwyn yr un enw â’i dad a’i frawd (11–12). Eir o Went i Benfro, lle ymddengys fod yr Wiliam Herbert hwn yn meddu ar awdurdod helaeth. Molir ef yn ddigon cyffredinol am ei berchentyaeth a’i filwriaeth yno. Yna, o 35 ymlaen, mae’r bardd yn canolbwyntio ar wyneb y gŵr, gan ein sicrhau ei fod yr un ffunud â’i dad, a chan ei gymharu â’r llun enwog o Grist, y Fernagl (45–6n). Ni fu ei debyg erioed yn Lloegr, Ffrainc na Chymru – ac eithrio, wrth gwrs, y tad ei hun. Fodd bynnag, ar y diwedd mae Guto’n pwysleisio unwaith eto, fel y gwnaethai ar ddechrau’r gerdd, fod Wiliam yn wasanaethwr ffyddlon i’w frawd, yr iarll.
Yn ôl GGl 339, yr ail iarll ei hun yw gwrthrych y cywydd hwn. Mae’n sicr mai gŵr o’r enw Wiliam Herbert yw’r gwrthrych, a’i fod yn fab i’r iarll cyntaf. Hefyd, fe sonnir yn bendant am yr ail iarll yn 1–12. Dyma’r seiliau, felly, dros gredu hyn. Ond mae rhai cyfeiriadau eraill yn y gerdd yn taro’n rhyfedd ar gyfer rhywun a ddygai’r teitl hwn. Cyfeirir at y noddwr fel mastr yn 13, peth annisgwyl yn achos dyn a gydnabuwyd yn iarll yn syth ar ôl marwolaeth ei dad, er mor ifanc ydoedd. Yn ôl 14 mae’r noddwr ar barti’r ieirll Herbart yn hytrach nag yn iarll ei hun. Rhyfedd eto yw’r cyfeiriad yn 34 lle dymunir gweld trydydd iarll yn deillio o’r llinach: Wiliam Herbert II yw trydydd iarll ei linach, gan fod yr Herbertiaid yn honni eu bod yn disgyn o ‘Godwin iarll Cernyw’ (32n a 33n). Gwell, felly, derbyn mai Wiliam Herbert o Benfro, y mab anghyfreithlon a ddisgynnai o ddau iarll (sef Godwin a’i dad ei hun), a gyferchir, a’r bardd yn awgrymu y gallai yntau dderbyn teitl iarll rywdro. Yn olaf, ymddengys fod 56 yn lleisio’r dyhead na ddylai iarll Penfro fod heb gefnogaeth y gŵr sy’n wrthrych i’r gerdd, er y gellid deall heb fel ‘heblaw’ a deall y llinell, felly, yn ddyhead na ddylai neb fod yn iarll Penfro heblaw’r iarll presennol.
Wrth ei gopi o’r gerdd hon yn LlGC 3056D, ond nid wrth ei gopïau eraill, nododd Wmffre Dafis y teitl K’ i wiliam herbert brawd Iarll penfro. Anodd barnu ai dyfalu ydoedd ynteu a geid y teitl yn ei gynsail, ond gan nas ceir yn ei gopïau eraill, y cyntaf sydd fwyaf tebygol. P’run bynnag, roedd yn llygad ei le.
Dyddiad
Ar ôl marwolaeth yr iarll cyntaf yn 1469 a chyn 1483, pan ymddengys fod Wiliam Herbert wedi symud o Benfro. Mae naws y cyfeiriadau at farwolaeth yr iarll cyntaf yn awgrymu dyddiad gweddol fuan ar ôl y farwolaeth, sef yn gynnar yn y 1470au.
Golygiadau blaenorol
GGl cerdd LI; Lewis 1982: cerdd 39.
Mesur a chynghanedd
Cywydd, 56 llinell.
Cynghanedd: croes 73% (41 llinell), traws 7% (4 llinell), sain 18% (10 llinell), llusg 2% (1 llinell).
3 Ieuan … yn India Y Preutur Siôn neu Ieuan Fendigaid, brenin ac offeiriad chwedlonol y credid ei fod yn teyrnasu yn India, gw. Edwards 1999 am ymdriniaeth fanwl. Dengys 20a.19–20n y credid bod cyfres o frenhinoedd wedi dwyn yr enw Ieuan. Pwynt y gymhariaeth yma yw nad yw’r enw Ieuan yn diflannu o India, fel nad yw’r enw Wiliam yn diflannu o Went.
8 mab hwn Darogenir y bydd Wiliam Herbert II (yr ail iarll) yntau’n cael etifedd o’r un enw.
10 ei fab Hynny yw, mab y tad Wiliam Herbert I (ato ef y cyfeiria ei dad yn 9).
10 a’i hynaif Wiliam ap Tomas oedd enw tad Wiliam Herbert I.
12 Morien Nodir amryw arwyr o’r enw hwn yn WCD 489.
13 osai Math o win gwyn melys, gw. GPC 2657.
16 llwybr y tad Gwnaed Wiliam Herbert I yn iarll Penfro ym Medi 1468, ond buasai tiroedd yr iarllaeth yn ei feddiant ers 1461. Ym mis Medi’r flwyddyn honno fe gipiodd gastell Penfro ar gyfer Edward IV, ac ym mis Chwefror 1462 rhoddwyd tiroedd yr iarllaeth yn swyddogol dan ei ofal (Thomas 1994: 25–7).
16 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell o linach frenhinol Deheubarth. Ni wyddys llawer am y cymeriad hanesyddol, y mae’n rhaid ei fod wedi teyrnasu tua chanol yr unfed ganrif ar ddeg, ond i’r beirdd patrwm o arglwydd ydoedd, ac wrth gwrs ef oedd yn arglwydd y tiroedd ym Mhenfro lle mae Wiliam Herbert bellach yn dwyn awdurdod.
17 Beli Ceir nifer o arwyr a chanddynt yr enw hwn, ond y pwysicaf ohonynt yw Beli Mawr ap Mynogan, gw. G 54–5 d.g. Beli1; TYP3 288–9 a WCD 38–9 lle dywedir iddo gael ei ystyried yn ‘king of the Britons in the golden age of their legendary history’.
17 Pryderi diredd Dyfed, cf. PKM 67.
18 Bwrd, Glath Dau o’r marchogion a lwyddodd i gael hyd i’r Greal Sanctaidd yn ôl y chwedl, gw. Jones 1992. Cf. 72.17n.
18 Aber Dau Gledd Aberdaugleddau, harbwr pwysig iawn wrth ymyl tref Penfro. Testun pryder ydoedd oherwydd y posibilrwydd y gallai gelyn lanio yno, fel y gwnaeth Harri Tudur yn 1485.
19 Rhos Hen enw Cymraeg ar ardal Hwlffordd. Eiddo’r Goron oedd arglwyddiaeth Hwlffordd, ond fel arfer fe’i cysylltid ag iarllaeth Penfro, ac mae’n amlwg fod yr arglwyddiaeth yng ngofal Wiliam Herbert, efallai ar ran ei frawd, yr iarll. Eto, trosglwyddodd y brenin arglwyddiaeth Hwlffordd i feddiant ei fab ifanc, tywysog Cymru, ym mis Gorffennaf 1471 (Griffiths 2002: 246), a allai awgrymu bod y gerdd hon yn dyddio i 1469x1471. Ond fe barhaodd teulu Herbert i fod yn ddylanwadol yno (ibid. 248).
20 pen Dyfed Adleisir teitl Pwyll Pendefig Dyfed yn PKM 1.
22 Penbrwg gastell Defnyddir y ffurf Saesneg er mwyn y gynghanedd; ceir y ffurf Gymraeg yn 56.
23 ymyl y sir Cyfrifid arglwyddiaeth Penfro yn sir a chanddi siryf erbyn c.1130, gw. Rowlands 2002: 7. Yr ymyl, wrth gwrs, yw’r arfordir, cf. y llinell nesaf.
27 pibau mêl Sef casgenni medd, yn ôl pob tebyg.
30 tir Dewi Nawddsant Dyfed yw Dewi; yno y mae ei brif eglwys, Tyddewi.
32 hil Godwin Hawliai’r Herbertiaid eu bod yn disgyn o Godwin ‘iarll Cernyw’, gw. WG1 ‘Godwin’ 1.
33 dau iarll Sef Godwin ‘iarll Cernyw’, gw. y nodyn blaenorol, a’r tad, Wiliam Herbert, iarll cyntaf Penfro (m.1469).
34 O Went rheded un trydydd Mae’r bardd yn dymuno i Wiliam, mab anghyfreithlon iarll cyntaf Penfro a disgynnydd i Odwin ‘iarll Cernyw’, ddwyn yr un teitl.
36 yr iarll Yr iarll cyntaf, a barnu wrth weddill y gerdd, yn hytrach na’r iarll presennol.
43 Teitys, Ysbysianys Teitys yw Titus Flavius Vespasianus, ymerawdwr Rhufain 79–81; Ysbysianys yw ei dad, a ddygai’r un enw ag ef, sef Titus Flavius Vespasianus, ac a oedd yn ymerawdwr Rhufain 69–79. Gwahaniaethir rhyngddynt drwy eu galw’n Titus a Vespasian (fel y gwnaed ar y pryd hefyd). Ceid chwedl yn yr Oesoedd Canol fod Titus wedi ei iacháu o gancr ar ei wyneb pan ymatebodd yn ffyrnig wrth glywed am groeshoelio Crist. Wedyn aeth gyda’i dad Vespasian a chipio Caersalem, yn ddial ar yr Iddewon am ladd Crist. Ergyd y cyfeiriad, felly, yw bod Guto’n teimlo’n ddialgar am golli Wiliam Herbert I. Y mae’n bosibl fod Guto yn trin y ddau enw hyn fel petaent yn cyfeirio at yr un person, cf. GHS 23.32 Teitus Fesbasianus hen (ond gellid cyfiawnhau rhoi coma i mewn yno hefyd). Ceir Ystorya titus aspassianus fel teitl ar y fersiwn Cymraeg ar y chwedl mewn rhai llawysgrifau, gw. Williams 1937–9: 221.
45–6 drych … Meirionig Y Fernagl, lliain ac arno lun o wyneb Crist. Yn ôl y chwedl y cyfeiriwyd ati uchod, cynigiodd merch o’r enw Veronica liain i Grist er mwyn iddo sychu’r chwys oddi ar ei wyneb tra oedd yn dwyn ei groes i Golgotha. Glynodd llun o’i wyneb ar y lliain, a daeth yn grair amhrisiadwy a chanddo’r grym i iacháu clefydon. Ffrwyth drysu oherwydd y gytsain F- ar ddechrau enw’r ferch yw’r ffurf Gymraeg Meirionig.
47 y Fernagl Enw Cymraeg arall ar drych Meirionig.
47 Rhaglan Cartref yr Herbertiaid (yn sir Fynwy bellach).
48 gŵr claf wan Sef y bardd, sy’n galaru ar ôl dienyddiad Wiliam Herbert I. Cyfansoddair llac yw claf wan, a dyna sy’n cyfrif am y treiglad.
52 un iarll Wiliam Herbert I, a wasanaethodd yn Ffrainc. Daliwyd ef gan y Ffrancwyr ym mrwydr Formigny yn 1450, gw. Thomas 1994: 14. Cyfeiria Lewys Glyn Cothi at wasanaeth milwrol Herbert hefyd (GLGC 111.1–2, 23–30).
55 nasiwn Cymru; soniwyd eisoes am Ffrainc a Lloegr, a dyna gwblhau y darlun: ni cheir neb yn y tair gwlad mor debyg i’r iarll a gollwyd.
56 iarll Penfro Wiliam Herbert II.
Llyfryddiaeth
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2002), ‘The Extension of Royal Power, 1415–1536’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 224–69
Jones, T. (1992) (gol.), Ystoryaeu Seint Greal, rhan 1: Y Keis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Rowlands, I.W. (2002), ‘Conquest and Survival’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 1–19
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1937–9) (gol.), ‘Ystorya Titus Aspassianus’, B ix: 221–30
This is a praise poem for William Herbert of Pembroke, the illegitimate son of William Herbert, first earl of Pembroke. It addresses, therefore, a man who possessed considerable authority on account of his well-known father, but who was still of inferior status to his brother, the second earl. The latter was considerably younger than him; indeed, he is likely to have been still underage at the time that this poem was composed. The poet accordingly goes to some pains to emphasize not only how William is following in the footsteps of his famous father, but also his faithful service to his brother, the second earl.
The poet begins by paying a fitting compliment to his patron’s brother, the second earl of Pembroke (lines 1–12). He plays on the idea that the earl’s name, William [Herbert], is the same as that of his father, and that Gwent accordingly resembles India under the never-ending authority of Prester John (see 3n). Then, he picks up the same theme with regard to the actual patron of the poem, William Herbert of Pembroke, who shares the same name as his father and brother. We move from Gwent to Pembroke, where it appears that the young William Herbert holds extensive authority. He is praised in quite general terms for his hospitality and military doings there. Then, from line 35 onwards, the poet concentrates on the young man’s face, assuring us that it is identical to his father’s, and comparing it with the famous image of Christ known as the Veronica or Vernicle (45–6n). There was never its like in England, France or Wales – always excepting, of course, that of his father. However, at the very end Guto emphasizes one more time, as at the outset, that William is a faithful adherent of his brother, the earl.
In GGl 339 it is suggested that the second earl is in fact the patron praised in this poem. It is certain that the patron is called William Herbert and is a son of the first earl. Also, the second earl is definitely the subject of 1–12. These, then, are the reasons for believing what GGl says. Yet some of the references in this poem are peculiar for a man bearing this title. He is called Mastr Wiliam (‘Master William’) in line 13, not what would be expected for a man recognized as earl immediately on the death of his father, however young he was. According to 14 he is ar barti’r ieirll Herbart (‘supporting the Herbert earls’) rather than earl himself. The expression of hope in 34 that a third earl may emerge from the lineage would also be awkward: William Herbert II is the third earl of his lineage, for the Herberts claimed descent from ‘Godwin earl of Cornwall’ (32n and 33n). It is better to accept that William Herbert of Pembroke, the illegitimate son who descended from two earls (i.e. Godwin and his own father) is the man addressed here, the poet voicing the hope that William too might one day achieve the same distinction. Lastly, 56 seems to be a wish that the earl of Pembroke should not lack the support of the man who is addressed in the poem, though it would be possible to take heb as ‘besides’ rather than ‘without’ and therefore translate ‘May no one be earl of Pembroke besides this man’.
In his copy of this poem in LlGC 3056D, but not in his other copies, Humphrey Davies noted the title K’ i wiliam herbert brawd Iarll penfro ‘Poem for William Herbert brother to the earl of Pembroke’. It is difficult to judge whether he was guessing or whether the title was already in his exemplar, but since it does not occur in his other copies, the former is more likely. Whatever the case, he was surely right.
Date
After the death of the first earl in 1469 and before 1483, when it appears that William Herbert had left Pembroke. The tone of the references to the first earl’s death suggests a date not long after the event, probably the early 1470s.
The manuscripts
There are nine copies of this poem in the manuscripts, three in the hand of Humphrey Davies (fl. 1577–1635), namely LlGC 3056D, Brog I.2 and Gwyn 1. These three are all but identical, and the others derive from them, with the probable exception of LlGC 10893E, which contains eight extra lines (5–12 in the edited text). These lines are very relevant, for they develop the opening idea of the poem. In particular, the loss of line 11 with its mention of Pembroke would leave draw ‘over there’ in 14 lacking a clear context. Also, with only 48 lines this poem would be significantly shorter than is the norm for Guto’r Glyn. Given that in effect the omission of these lines would rest on the authority of Humphrey Davies alone, they have been included in the edition. The other readings in LlGC 10893E are inferior to those in Humphrey Davies’s copies, so the edition is based on the three copies by Humphrey Davies and LlGC 10893E combined. It is worth noting that LlGC 10893E belongs to the Abergavenny area, the Herberts’ home patch, although it is not possible to say more about the antecedents of its text of our poem.
Previous editions
GGl poem LI; Lewis 1982: poem 39.
Metre and cynghanedd
Cywydd, 56 lines.
Cynghanedd: croes 73% (41 lines), traws 7% (4 lines), sain 18% (10 lines), llusg 2% (1 line).
3 Ieuan … yn India Prester John, a legendary king and priest who was believed to rule in India, see Edwards 1999 for a detailed study of the Welsh versions of the story. The reference in 20a.19–20n shows that it was believed that a succession of kings called John ruled there. The point of the comparison here is that the name John does not disappear from India, just as the name William remains in Gwent.
8 mab hwn The poet predicts that William Herbert II (the second earl) will also have an heir of the same name.
10 ei fab That is, the son of the father William Herbert I (to whom the words ei dad refer in 9).
10 a’i hynaif William ap Thomas was William Herbert I’s father.
12 Morien Several heroes of this name are noted in WCD 489.
13 osai Osey, a kind of sweet white wine, see GPC 2657 and OED Online s.v. osey.
16 llwybr y tad ‘in the footsteps of the father’: William Herbert I was made earl of Pembroke in September 1468, but the lands of the lordship had been in his hands since 1461. In September of that year he seized Pembroke castle for Edward IV, and in February 1462 the lands of the earldom were officially entrusted to his care (Thomas 1994: 25–7).
16 Tewdwr Tewdwr Mawr ap Cadell of the royal line of Deheubarth. Not much is known about the real Tewdwr, who must have ruled in the mid eleventh century, but the poets treated his name as a pattern of the good lord, and he did of course rule the lands in Pembroke where William Herbert was now claiming authority.
17 Beli Several heroes of this name are known, but the most important is Beli Mawr ap Mynogan, see G 54–5 s.v. Beli1; TYP3 288–9 and WCD 38–9 where he is said to have been considered ‘king of the Britons in the golden age of their legendary history’.
17 Pryderi diredd Dyfed, cf. PKM 67.
18 Bwrd, Glath Two of the knights who succeeded in finding the Holy Grail according to the story, see Jones 1992. Cf. 72.17n.
18 Aber Dau Gledd Milford Haven, a very important harbour overlooked by Pembroke town. It was a cause of concern in case an enemy should land there, as indeed Henry Tudor did in 1485.
19 Rhos The older Welsh name for the Haverfordwest region. The lordship of Haverford belonged to the Crown but was usually attached to the earldom of Pembroke, and it is clear that the lordship was in the care of William Herbert, perhaps acting for his brother, the earl. The king transferred Haverford to the possession of his infant son, the prince of Wales, in July 1471 (Griffiths 2002: 246), which might suggest that this poem dates to 1469x1471. Nevertheless, the Herbert family remained influential there (ibid. 248).
20 pen Dyfed This is a reminiscence of Pwyll Pendefig Dyfed in the Mabinogi, see PKM 1.
22 Penbrwg gastell The English form is used for the sake of the cynghanedd; the Welsh form is found in line 56.
23 ymyl y sir The lordship of Pembroke had the status of county and a sheriff by c.1130, see Rowlands 2002: 7. The ‘edge of the shire’, of course, is the coast, cf. the next line.
27 pibau mêl ‘Casks of honey’ here probably means of mead.
30 tir Dewi St David is the patron saint of Dyfed, the land in which lies his major church, St David’s.
32 hil Godwin The Herberts claimed descent from a certain Godwin ‘earl of Cornwall’, see WG1 ‘Godwin’ 1.
33 dau iarll The ‘two earls’ are Godwin ‘earl of Cornwall’, see the previous note, and the patron’s father, William Herbert, the first earl of Pembroke (d.1469).
34 O Went rheded un trydydd The poet hopes that William Herbert, illegitimate son of the first earl and descendant of Godwin ‘earl of Cornwall’, might achieve an earldom himself.
36 yr iarll The first earl, to judge by the rest of the poem, not the present earl.
43 Teitys, Ysbysianys Teitys is Titus Flavius Vespasianus, Roman emperor 79–81; Ysbysianys is his father, who was known by the same three names, Titus Flavius Vespasianus, emperor of Rome 69–79. They are distinguished (then and now) by calling them Titus and Vespasian respectively. In the Middle Ages there was a legend that Titus was cured of a cancer of the face when he heard about Christ’s crucifixion and burst out in anger. After that he went with his father Vespasian and seized Jerusalem in revenge against the Jews for killing Christ. The force of the reference here, therefore, is that Guto is feeling vengeful for the death of William Herbert I. It is possible that Guto regarded these two names as referring to one person, cf. GHS 23.32 Teitus Fesbasianus hen (but we might be justified in inserting a comma there too). Ystorya titus aspassianus occurs as the title of the Welsh translation of the story in some manuscripts, see Williams 1937–9: 221.
45–6 drych … Meirionig The Vernicle or Veronica, a cloth bearing an image of Christ’s face. According to the tale mentioned above, a woman called Veronica offered a cloth to Christ to dry the sweat from his face while he was carrying his cross to Golgotha. An image of Christ’s face remained on the cloth and it became a priceless relic with curative powers. The Welsh form Meirionig arose by false deduction from the Latin Veronica, the initial V- being heard by Welsh ears as a lenition of m.
47 y Fernagl Another Welsh name for drych Meirionig, the Vernicle or Veronica.
47 Rhaglan Raglan castle, the Herbert residence (now in Monmouthshire).
48 gŵr claf wan The poet, who is in mourning after the execution of William Herbert I. claf wan must be a loose compound to account for the lenition.
52 un iarll William Herbert I, who served in France. He was captured by the French at the battle of Formigny in 1450, see Thomas 1994: 14. Lewys Glyn Cothi likewise refers to Herbert’s military service (GLGC 111.1–2, 23–30).
55 nasiwn Wales; France and England have already been mentioned, and Wales completes the picture: no one so similar to the deceased earl can be found in any of the three countries.
56 iarll Penfro William Herbert II.
Bibliography
Edwards, G.Ll. (1999) (gol.), Ystorya Gwlat Ieuan Vendigeit (Llythyr y Preutur Siôn): Cyfieithiadau Cymraeg Canol o Epistola Presbyteri Iohannis (Caerdydd)
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Griffiths, R.A. (2002), ‘The Extension of Royal Power, 1415–1536’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 224–69
Jones, T. (1992) (ed.), Ystoryaeu Seint Greal, rhan 1: Y Keis (Caerdydd)
Lewis, W.G. (1982), ‘Astudiaeth o Ganu’r Beirdd i’r Herbertiaid hyd Ddechrau’r Unfed Ganrif ar Bymtheg’ (Ph.D. Cymru [Bangor])
Rowlands, I.W. (2002), ‘Conquest and Survival’, R.F. Walker (ed.), Pembrokeshire County History, ii: Medieval Pembrokeshire (Haverfordwest), 1–19
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)
Williams, J.E.C. (1937–9) (ed.), ‘Ystorya Titus Aspassianus’, B ix: 221–30
Dyma wrthrych cerdd 28, cywydd mawl. Nid oes unrhyw gerddi eraill iddo wedi goroesi, hyd y gwyddys.
Achres
Seiliwyd yr achres isod ar WG2 ‘Godwin’ 8A1 ac A4. Dangosir y rheini a enwir yng nghywydd Guto i Wiliam mewn print trwm, a thanlinellir enwau ei noddwyr.
Achres Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi
Mab anghyfreithlon i Wiliam Herbert o Raglan, iarll cyntaf Penfro (m. 1469), oedd y Wiliam Herbert hwn, a hanner brawd, felly, i’r ail iarll, a elwid hefyd Wiliam Herbert, ac i Water Herbert. Ei daid oedd Syr Wiliam ap Tomas. Roedd y tri brawd hyn yn noddwyr i Guto’r Glyn yn y 1470au. Mae’n rhaid bod Wiliam yn oedolyn erbyn 1462 fan bellaf (gw. isod), ac felly roedd yn hŷn o dipyn na’i hanner frawd, ail iarll Penfro, a aned c.1455.
Gan fod cymaint o wŷr o’r enw Wiliam Herbert yn ne Cymru yn y bymthegfed ganrif, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddynt. Mae Griffiths (1972: 186) a Thomas (1994: 95) wedi casglu cyfeiriadau at ‘Wiliam Herbert, ysgwïer’, gan awgrymu mai brawd i’r iarll cyntaf ydoedd, nid mab. Dichon fod cofnodion am fwy nag un Wiliam Herbert wedi eu cymysgu yma. Eto, mae’n ymddangos bod Robinson (2002: 37–9) wedi llwyddo i gasglu’r hyn sy’n berthnasol i Wiliam Herbert o Benfro ac i ddangos mai mab yr iarll cyntaf ydoedd. Ymddengys mai’r un gŵr ydoedd ag Wiliam Herbert o Lanfihangel Troddi, a bod ei gysylltiad â’r lle hwnnw yn perthyn i gyfnod diweddarach na’r cyfnod a dreuliodd ym Mhenfro.
Dilynir arweiniad Robinson yma. Mae’n hollol sicr o’r testun mai cywydd i fab yr iarll cyntaf yw cerdd 28. Ond nid yr ail iarll ei hun yw’r Wiliam Herbert a gyferchir (cf. 28.14). Rhaid, felly, fod a wnelom yma â mab anghyfreithlon i’r iarll cyntaf, sy’n llwyr gyson ag adluniad Robinson o yrfa Wiliam Herbert o Benfro a Llanfihangel Troddi.
Ei yrfa
Cyn dyfodiad Edward IV i’r orsedd yn 1461 buasai tiroedd iarllaeth Penfro ym meddiant Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI. Bu’n rhaid i Siasbar ffoi yn 1461 a rhoddwyd ei diroedd yn ne-orllewin Cymru yng ngofal cefnogwr pennaf Edward yng Nghymru, sef Wiliam Herbert o Raglan. Gwnaeth Herbert ei fab anghyfreithlon yn drysorydd ac yn stiward Penfro rywdro cyn Gŵyl Fihangel 1462. Ceir tystiolaeth ei fod yno o hyd yn 1467. Tywyll yw’r hanes wedyn ac nid oes sicrwydd beth a ddigwyddodd i’r Wiliam Herbert hwn ar ôl i’w dad gael ei ddienyddio yng Ngorffennaf 1469.
Fodd bynnag, yn y 1470au ceir prawf fod Wiliam yn parhau i fod yn ardal Penfro. Ef oedd stiward Stackpole Elidor o 1472/3 hyd 1507/8, ac yn 1476 fe’i disgrifir fel ‘William Herbert of Pembroke the bastard’ mewn cytundeb a wnaeth gyda’i hanner brodyr, Wiliam Herbert, ail iarll Penfro, a Water Herbert.
Ymddengys fod cysylltiad Wiliam Herbert â Llanfihangel Troddi wedi dechrau yn 1483, pan roddwyd y faenor iddo gan ei hanner brawd, yr iarll (Robinson 2002: 24, 37). Gan fod y ddogfen sy’n cadarnhau’r trefniant hwn yn ei alw ‘William Herbert esquire, late of Pembroke’, mae’n debygol nad oedd bellach yn byw ym Mhenfro. Mae’n rhaid fod cerdd 28 yn dyddio i’r amser cyn 1483, felly, ac yn wir cyn 1479, pan fu’n rhaid i ail iarll Penfro ildio’i deitl a derbyn teitl iarll Huntingdon yn ei le (Thomas 1994: 79). Y tebyg yw bod y cywydd yn perthyn i’r 1470au cynnar, gan fod naws y cyfeiriadau at farwolaeth yr iarll cyntaf yn awgrymu colled weddol ddiweddar.
Ffynnodd Wiliam Herbert dan nawdd ei frawd cyfreithlon. Enillodd hefyd ffafr y Brenin Rhisiart III (1483–5) a hyd yn oed Harri VII (1485–1509). Bu farw yn 1524 ac fe’i claddwyd yn Nhrefynwy.
Llyfryddiaeth
Griffiths, R.A. (1972), The Principality of Wales in the Later Middle Ages: The Structure and Personnel of Government, i: South Wales, 1277–1536 (Cardiff)
Robinson, W.R.B. (2002), ‘The Administration of the Lordship of Monmouth under Henry VII’, The Monmouthshire Antiquary, XVIII: 23–40
Thomas, D.H. (1994), The Herberts of Raglan and the Battle of Edgecote 1469 (Enfield)